Agenda, decisions and minutes

Cabinet - Dydd Mawrth, 18fed Gorffennaf, 2023 14:30

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

204.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Farr – Eitem 10, Rhagfarnus

205.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 254 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/06/23

Cofnodion:

206.

Monitro Cyllideb 2023-24 – Rhagolwg Refeniw Chwarter 1 pdf eicon PDF 347 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Pwrpas yr adroddiad hwn oedd rhoi diweddariad i’r Cabinet ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor fel ar 30 Mehefin 2023 a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer unrhyw drosglwyddiadau dros £100,000 sydd angen cymeradwyaeth gan y Cabinet yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid grynodeb o'r sefyllfa bresennol. Mae'r pwyntiau allweddol fel a ganlyn:

 

  • Y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023-24 yw £342.334 miliwn. Y sefyllfa gyffredinol a ragwelir ar 30 Mehefin 2023 yw gorwariant net o £9.727 miliwn.
  • Mae'r gorwariant a ragwelir yn bennaf oherwydd pwysau parhaus o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac ar y gyllideb Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.
  • Roedd y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer 2023-24 yn cynnwys cynigion lleihau cyllideb gwerth cyfanswm o £2.608 miliwn. Y sefyllfa bresennol yw diffyg rhagamcanol ar y targed arbedion o £200,000, neu 7.67% o darged y gostyngiad cyffredinol.
  • Cynhaliwyd adolygiad trylwyr o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn ystod chwarter 1 o 2023-24 sydd wedi nodi £3.067 miliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu datod i gyfrannu at risgiau sy'n dod i'r amlwg i'r Cyngor cyfan yn ystod 2023-24. Roedd £733,000 pellach o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gael eu defnyddio ar gyfer cynlluniau tebyg.
  • Mae’n rhy gynnar yn y flwyddyn ariannol i roi syniad realistig o’r incwm rhagamcanol o’r dreth gyngor ar gyfer eleni ac a yw’r Cyngor yn debygol o weld gostyngiad yn ei incwm o’r dreth gyngor ai peidio gan fod mwy o bobl wedi profi caledi ariannol oherwydd yr argyfwng costau byw presennol, neu a fydd yr incwm ychwanegol y dylid ei gasglu drwy gyflwyno premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag yn effeithio. Bydd hyn yn amlwg yn cael ei fonitro'n fanwl iawn drwy gydol gweddill y flwyddyn hon.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol i'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid am yr adroddiad. Nododd fod yna orwariant sylweddol y byddai'n rhaid mynd i'r afael ag ef ac y byddai angen gwneud asesiad fforensig o'r pwysau a'r effaith lawn ar yr awdurdod.

 

Nododd ei fod wedi bod mewn cyfarfod rhwydwaith aelodau cabinet cyllid ac er na roddodd fawr o gysur, ei fod ychydig yn galonogol bod y pwysau hyn i'w cael ledled Cymru. Nododd ei gefnogaeth i'r trosglwyddiadau a'r argymhelliad.

 

Cafwyd trafodaeth yn dilyn, wedi’i hysgogi gan gyfres o gwestiynau gan Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Llesiant, ynghylch taliadau uniongyrchol, p’un a oedd teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd â phecynnau dyblyg (h.y. taliadau uniongyrchol a phecynnau gofal cartref) ac os felly, pam, a oedd y Cyngor yn hawlio taliadau uniongyrchol yn ôl os nad oeddent wedi cael eu defnyddio, a’i bod yn ymddangos bod gorwariant mewn rhai meysydd staffio a thanwariant mewn eraill.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor yn adennill taliadau uniongyrchol nas defnyddiwyd. Nododd hefyd fod tanwariant yn codi oherwydd swyddi gwag er enghraifft, a gorwariant oherwydd pethau fel costau asiantaeth. Fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 206.

207.

Diweddariad ar Chwarter 1 Rhaglen Gyfalaf 2023-24 pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad hwn. Ei ddiben oedd:

 

  • cydymffurfio â gofyniad ‘Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol’ (rhifyn 2021) Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i adrodd am berfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion sy’n edrych i’r dyfodol, fesul chwarter.
  • rhoi diweddariad ar sefyllfa’r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023-24 fel ar 30 Mehefin 2023 (Atodiad A).
  • Gofyn am gytundeb y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023-24 i 2032-33 (Atodiad B).
  • nodi'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2023-24 (Atodiad C).

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol dempled newydd yr adroddiad a nododd, er ei fod yn croesawu grantiau Llywodraeth Cymru, ei fod yn dyfalu ynghylch goblygiadau refeniw gwirioneddol mentrau fel prydau ysgol am ddim. Soniodd hefyd am y gwariant ar gerbydau fflyd ac a oedd yn gwbl angenrheidiol eu newid yn awr.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid drwy nodi y byddai goblygiadau refeniw yn ffurf costau rhedeg ar gyfer y cerbydau fflyd newydd, ond roedd yn tybio bod y rhan fwyaf o'r fflyd fyddai'n cael ei brynu yn cymryd lle'r hen gerbydau ac y byddai costau rhedeg yn gostwng mewn gwirionedd. Nododd ymhellach y byddai effaith ar y cyfrif refeniw oherwydd bod hynny'n cael ei ariannu drwy fenthyca ac felly bod angen i wasanaethau wneud yn si?r cyn iddynt brynu'r fflyd honno y byddent yn gallu fforddio i ad-dalu'r benthyciadau y byddai rhaid eu cymryd allan er mwyn eu hariannu nhw. Ychwanegodd y byddai'n werth gwneud rhai o'r canlyniadau hynny'n fwy amlwg mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Tynnodd y Dirprwy Arweinydd sylw at ddau fater:

 

  • Grantiau cyfleusterau i’r anabl, ac yn benodol y dyfarniad o £0.1 miliwn gan Gronfa Tai â Gofal Cwm Taf Morgannwg, fydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu offer ac addasiadau i gartrefi presennol nad ydynt yn cael eu cefnogi gan grantiau addasiadau eraill gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ychwanegu at gost Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.(DFG) dros yr uchafswm statudol o £36,000. Mewn ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai'r strategaeth dros nifer o flynyddoedd oedd bod grantiau cyfleusterau i'r anabl yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain ac y gall hynny leihau'r angen am ofal parhaus.
  • caffael y cerbydau, peiriannau ac offer presennol a ddefnyddiwyd i ddarparu'r gwasanaeth gwastraff presennol gyda Kier Services Limited. Yn benodol, a fyddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gwarantau ar unrhyw offer neu gerbydau a pha mor hen oeddent. Mewn ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau y canfuwyd mai gwerth gweddilliol y cerbydau a'r cit oedd £460,000 a bod hyn yn werth da o'i gymharu â'u prynu o'r newydd a fyddai wedi costio £1.5 miliwn. Nododd y byddent yn cymryd meddiant o unrhyw warantau gwneuthurwyr oedd yn weddill. Dywedodd, serch hynny, fod rhai o'r cerbydau wedi cael eu defnyddio ers saith mlynedd ac mai dim ond deng mlynedd oedd eu disgwyliad oes.

 

Gofynnodd  Aelod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 207.

208.

Rheoli’r Trysorlys - Chwarter 1 2023-24 pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad hwn. Ei ddiben oedd:

 

  • Cydymffurfio â gofynion ‘Cod Ymarfer Rheoli’r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus’ (y Cod) Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)  i roi trosolwg ar weithgareddau’r Trysorlys dros y flwyddyn ariannol flaenorol.
  • Darparu diweddariad ar weithgaredd Rheoli’r Trysorlys am chwarter cyntaf 1 Ebrill - 30 Mehefin 2023.

 

Ar 30 Mehefin 2023 roedd gan y Cyngor £99.79 miliwn o ddyled tymor hir, £13.80 miliwn o rwymedigaethau tymor hir eraill a £94.00 miliwn o fuddsoddiadau tymor byr, yn gwneud safle net y ddyled gyffredinol yn £19.59 miliwn.

 

Y gyfradd llog ar gyfartaledd ar gyfer dyled oedd 4.69% (ac eithrio benthyca Salix sy'n ddi-log) ac ar gyfer buddsoddiadau roedd yn 4.16%.

 

Mae gan y Cyngor strwythur aeddfedrwydd hylaw o fenthyca, gyda'i ddyled gyfredol yn daladwy ar wahanol bwyntiau dros y 30 mlynedd nesaf.

 

Mae'r Cyngor wedi cydymffurfio â Chod Rheoli Trysorlys CIPFA a Chanllawiau Buddsoddi Llywodraeth Cymru.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol yr adroddiad a thynnu sylw at y materion canlynol:

 

  • Bod buddsoddiadau'r Cyngor wedi cynyddu ers diwedd mis Mawrth. Y prif reswm am hynny yw bod Llywodraeth Cymru, fel arfer, yn darparu dau daliad inni o'r grantiau sy’n ddyledus inni yn ystod y flwyddyn ym mis Ebrill, sy'n golygu bod gennym fwy o arian i mewn ar ddechrau'r flwyddyn nag y mae arnom ei angen mewn gwirionedd i’w wario dros y cyfnod hwnnw. Felly, mae ein buddsoddiadau wedi cynyddu, mae hynny'n normal ac rydym yn adlewyrchu'r sefyllfa honno yn y mwyafrif o flynyddoedd ariannol.
  • Bod y Cyngor yn dechrau elwa o gyfraddau enillion uwch ar ein buddsoddiadau. Mae ein cyfraddau buddsoddi yn tueddu i symud gyda'r gyfradd banc yn weddol gyflym ond bydd peth oedi o ran y buddsoddiadau sydd gennym ar hyn o bryd, cafodd y gyfradd fuddsoddi ei chytuno ar yr adeg y buddsoddwyd yr arian ac mae'n sefydlog am weddill y cyfnod buddsoddi hwnnw. Felly, yr hyn yr ydym ni'n dechrau ei weld yw, wrth i’r cyfraddau gynyddu, ein bod yn awr yn cael enillion gwell arnynt.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cabinet:

 

  • yn nodi gweithgareddau rheoli’r trysorlys am 2023-24 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 30 Mehefin 2023.

yn nodi Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben 30 Mehefin 2023 yn erbyn y rhai a gymeradwywyd yn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023-24.

209.

Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol 2023-24 a’r Fframwaith Perfformiad pdf eicon PDF 1014 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Prif Weithredwr a Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus. Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn:

 

  • Cynigiai’r adroddiad Gynllun Cyflawni newydd un flwyddyn i fonitro cynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol.
  • Mae’r Cynllun Cyflawni’n mynd i’r afael â beirniadaeth a wnaed gan hunanasesiad 2022, adolygiad Archwilio Cymru o reoli perfformiad a chanfyddiadau archwilio mewnol o archwiliad Dangosyddion Perfformiad (DP).
  • Mae’r prif newidiadau yn cynnwys:

 

-          Bod y 7 amcan llesiant yn cael eu hadlewyrchu’n gynhwysfawr gan 44 nod, 101 o ymrwymiadau a 99 o Ddangosyddion Perfformiad (DP).

-          Cael nodau clir y cytunwyd arnynt i roi manylion o dan bob amcan llesiant a chynorthwyo’r Cyngor i fonitro cynnydd / perfformiad yn effeithiol.

-          Cael dangosyddion perfformiad sy’n mesur cynnydd y Cyngor ar ei nodau yn fwy effeithiol, sy’n canolbwyntio’n well ar ganlyniadau, a rhai y gellir eu meincnodi.

-          Rhoi ffocws cryfach ar fesur Ffyrdd Newydd y Cyngor o Weithio. 

 

  • Cynigir hefyd fframwaith perfformiad drafft newydd.
  • Mae'r adroddiad hefyd yn adlewyrchu newidiadau a ddaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 3 Gorffennaf 2023.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a diolchodd i'r tîm bychan oedd yn gyfrifol am ei ysgrifennu am eu gwaith. Pwysleisiodd fod gweithredu yn dasg fawr.

 

Tynnwyd sylw at nifer o faterion yn y drafodaeth a ddilynodd:

 

  • Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol am ddiweddariad ar gynnydd o ran rheoli perfformiad, mater a bwysleisiwyd gan Archwilio Cymru. Ymatebodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus drwy dynnu sylw at y llu o bethau yng nghynllun cyflawni'r cynllun corfforaethol sydd wedi cael eu datblygu i fynd i'r afael â pheth o'r feirniadaeth honno. Er enghraifft, nid oedd yr amcanion llesiant wedi cael eu mesur yn llawn gan yr ymrwymiadau presennol ond roedd llawer gwell sylw iddynt erbyn hyn. Mae'r nodau o dan bob amcan llesiant wedi cael eu hegluro ac mae'r ymrwymiadau hynny wedi cael eu datgysylltu oddi wrth y Dangosyddion Perfformiad. Roedd ffocws hefyd ar fesurau allbwn a chanlyniadau a phethau sy'n caniatáu cymhariaeth dros amser a’u cymharu ag eraill. Yn ogystal, roedd y fframwaith perfformiad newydd. Ychwanegodd fod ychydig o bethau wedi digwydd y tu allan i gynllun cyflawni'r cynllun corfforaethol. Mae CPA bellach yn ystyried gwybodaeth ychwanegol am staffio a chyllid yn y dangosfyrddau chwarterol. Roedd traciwr rheoleiddio hefyd sy'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bob chwe mis. Roedd rhywfaint o hyfforddiant wedi cael ei gynllunio hefyd ar gyfer yr holl staff sy'n gysylltiedig â pherfformiad ar draws y sefydliad a sesiwn cynllun corfforaethol i'r holl staff ym mis Medi. At hynny, mae'r cynllun corfforaethol a rheoli perfformiad yn rhan o hyfforddiant sefydlu staff a rheolwyr.
  • Bu Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio yn trafod a oedd pawb yn deall y cynllun hwn ar bob lefel o'r sefydliad ac a oedd cefnogaeth iddo. Mewn ymateb, tynnodd y Prif Weithredwr sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â staff. Caiff sesiynau briffio staff eu trefnu ym mis Medi, ond ceir cyfathrebu rheolaidd hefyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 209.

210.

Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai (Strategaeth Digartrefedd) 2022 - 2026, Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym a Phrosbectws Tai. pdf eicon PDF 493 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid a Phennaeth Partneriaethau. Roedd ei bwrpas fel a ganlyn:

 

  • Gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth ddrafft y Rhaglen Cymorth Tai, ar gyfer 2022 – 2026. Bydd y ddogfen hon yn disodli Strategaeth Ddigartrefedd bresennol CBSP 2018-2022. Mae cael y strategaeth hon ar waith yn un o ofynion Llywodraeth Cymru.
  • Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a chyflwyno Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym a Phrosbectws Tai i Lywodraeth Cymru. Unwaith eto, mae’r ddwy ddogfen hon yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru, ond nid oes angen ymgynghoriad cyhoeddus arnynt, fel ag y mae ar y Strategaeth y cyfeiriwyd ati uchod.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio yr adroddiad a diolchodd i’r tîm tai “bychan ond penderfynol iawn” ym Mhen-y-bont ar Ogwr am yr holl waith oedd wedi cael ei wneud i’w gynhyrchu. Aeth ymlaen i nodi bod pwysau sylweddol ar dai a digartrefedd o fewn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd dros 2500 o bobl ar y gofrestr tai gyffredin, dros 250 o bobl mewn llety dros dro yn disgwyl am gartrefi ac mae 51% o’r llety dros dro hwnnw mewn llety twristiaid ar hyn o bryd.

 

Nododd ymhellach ei fod wedi gofyn i'r tîm am gynllun ymgysylltu ar gyfer yr ymgynghoriad 12 wythnos. Roedd yna brofiadau bywyd go iawn yr oedd angen eu clywed ac roedd angen sicrhau bod Cyd-aelodau mewn pwyllgorau craffu ac ar draws y Siambr yn teimlo eu bod wedi cael eu clywed ac wedi cael gwrandawiad.

 

Adleisiodd yr Arweinydd y gwerthfawrogiad o'r gwaith a wnaed gan y tîm Tai. Nododd mai nhw oedd y bobl oedd yn delio'n ddyddiol â'r cyflwyniadau yr oedd y Cyngor yn eu derbyn gan bobl oedd yn ddigartref ac oedd mewn dirfawr angen am ein cymorth.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd ei bod wedi cael ei chalonogi gan yr adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at farn y rhanddeiliaid. Roedd nifer o randdeiliaid yn canmol nifer ac amrywiaeth y llety â chymorth sydd ar gael yn y Fwrdeistref, ond roedd angen mwy o ddewisiadau. Roedd hi hefyd yn meddwl mai un o'r dewisiadau y mae angen tynnu sylw ato yw ein plant sy'n derbyn gofal. Roedd angen elfen o ofal a chymorth hefyd, ac roedd hynny’n bwysau pellach ar gyllidebau.

 

Amlygodd yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd nifer o faterion arwyddocaol eraill fel rhan o’r drafodaeth ynghylch yr eitem hon ar yr agenda, gan gynnwys y canlynol:

 

  • Gwerth cyfweliadau strwythuredig i gasglu profiadau rhanddeiliaid.
  • Gwerth dulliau aml-asiantaeth a phartneriaeth o ddarparu gwasanaethau a chymorth i ddinasyddion Pen-y-bont ar Ogwr (ac yn arbennig, ar gyfer y rhai sy'n cysgu allan). 
  • Y cynnydd mawr yn nifer y teuluoedd ar y Gofrestr Tai Cyffredin – cynnydd o 205% ers 2016.
  • Pwysigrwydd yr asesiad o anghenion y boblogaeth a ph’un a oedd yn cael ei gymryd o ddifrif gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
  • Weithiau roedd llun yn cael ei greu o bwy oedd angen tai a phwy oedd yn ddigartref,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 210.

211.

Prosiect Meithrin Perthynas Gyda'n Gilydd (RBT) pdf eicon PDF 755 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Bennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Ei ddiben oedd:

 

  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y prosiect Meithrin Perthynas Gyda'n Gilydd (RBT); ac
  • amlinellu cerrig milltir allweddol cyn gofyn am gymeradwyaeth ffurfiol y Cabinet ym mis Medi 2023, yn dilyn cymeradwyaeth pwyllgor Cronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF) ar 24 Gorffennaf 2023.

 

Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn:

 

  • Ar 2 Chwefror 2023, llwyddodd yr awdurdod lleol i sicrhau cais am tua £800 mil drwy’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF).
  • Allan o 59 o geisiadau ledled Cymru a Lloegr, mae’r prosiect RBT yn un o ddim ond tri phrosiect llwyddiannus a’r unig brosiect yng Nghymru i sicrhau cyllid. Mae'r prosiect RBT yn werthusiad o wasanaethau sy'n gweithio gyda phlant gan ddefnyddio'r Model Adfer ar ôl Trawma (TRM). Mae diddordeb arbennig gan y Swyddfa Gartref yn y prosiect i ystyried sut y gall y gwerthusiad lywio polisi yn y dyfodol ynghylch gweithio gyda phlant sydd wedi profi trawma.
  • Bydd y prosiect yn cael ei dreialu o fewn chwe thîm ar draws yr holl gr?p cymorth i deuluoedd a chaiff ei roi ar waith o fis Medi 2023 tan fis Mawrth 2025.
  • Ym mis Medi 2023, bydd yr awdurdod lleol yn ymrwymo i gytundeb lefel gwasanaeth (CLG) gyda YEF. Bydd y CLG llawn ar gael yn dilyn cymeradwyaeth pwyllgor YEF ar 24 Gorffennaf 2023. Caiff y CLG a’i delerau ac amodau llawn eu rhoi i’r Cabinet fel diweddariad yn y cyfarfod nesaf ar 19 Medi 2023.
  • Er mwyn i weithrediad y prosiect ddod i rym o 20 Medi 2023, mae angen i adrannau gynllunio dros gyfnod yr haf a chyn dyddiad cyfarfod y Cabinet ym mis Medi 2023.
  • Mae YEF wedi darparu enghraifft o’u telerau ac amodau cyffredinol i’w hystyried a nodir yn Atodiad A. Caiff y cytundeb terfynol, o fewn unrhyw delerau ac amodau penodedig, ei ddarparu ar 19 Medi 2023.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Addysg i’r Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddiolch i’r tîm a’u llongyfarch am yr holl waith caled i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect hwn. Roedd y ffaith mai dyma'r unig un yng Nghymru i sicrhau cyllid yn gamp ryfeddol.

Aeth ymlaen i bwysleisio bod hwn yn brosiect cydweithredol enfawr, gyda thimau'n gweithio ar draws y Cyngor, nid yn unig ym meysydd addysg a thrafnidiaeth, ond yn y gwasanaethau cymdeithasol a lles. Roedd hwn yn ddull cydweithredol un Cyngor gwirioneddol.

 

Credai, o ran monitro cynnydd, mai'r lle gorau fyddai Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet (CCCP).

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn cefnogi'r cynnig bod y prosiect yn adrodd i'r CCCP. Credai fod hwn yn brosiect peilot arloesol ac roedd yn gyffrous iawn yn ei gylch. Credai hefyd y byddai angen monitro'r canlyniadau'n ofalus, ond roedd yn sicr y byddent yn gadarnhaol ac mai un o gryfderau'r prosiect hwn oedd yr asesiad a'r gwerthusiad parhaus gan Brifysgol Caint.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles y prosiect a gofynnodd sut y byddai’r canlyniadau’n cael eu cynnal unwaith y deuai’r cyllid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 211.

212.

Trefniadau Cludiant Coleg Ôl-16 2023-24 pdf eicon PDF 259 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Bennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Ei ddiben oedd gofyn am gymeradwyaeth i ddefnyddio gwasanaeth bws masnachol presennol ar gyfer darparu cludiant o’r cartref i’r coleg o fis Medi 2023, yn unol â Pholisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol/Coleg yr awdurdod lleol.

 

Y prif reswm am hyn oedd na allai’r awdurdod lleol gontractio gwasanaeth cludiant penodol mewn pryd ar gyfer mis Medi 2023, oherwydd ansicrwydd y farchnad yn gysylltiedig â Chynllun Argyfwng Bysiau newydd Llywodraeth Cymru.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg yr adroddiad a chynigiodd nifer o welliannau i'r argymhelliad.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn hapus i gefnogi'r cynnig fel y'i diwygiwyd. Roedd hi’n meddwl bod hyn yn rhywbeth y gallai ein trigolion ei wneud i gefnogi ein trefniadau cyllidebol a’i bod yn llawer gwell i bobl ifanc fod yn fwy annibynnol, er mwyn dysgu rhai sgiliau da iawn, ac i fedru mynd o gwmpas pan fyddent yn mynd i fyd gwaith.

 

Derbyniwyd y diwygiadau arfaethedig i'r argymhelliad gan y Cabinet ac fe'u nodir isod.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cabinet:

 

diwygio Paragraff 3.4 i “mae’r awdurdod lleol bellach yn cynnig darparu tocynnau bws cludiant coleg i bob dysgwr cymwys ar gais.”

213.

Gweithdrefn ar gyfer Penodi a Diswyddo Llywodraethwyr Ysgol yr ALl pdf eicon PDF 338 KB

Cofnodion:

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg fod angen rhywfaint o fireinio a choethi ar yr adroddiad a chafodd ei dynnu'n ôl o ystyriaeth tan gyfarfod y Cabinet ym mis Medi.

214.

Blaenraglenni Gwaith y Cyngor, y Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a’i ddiben oedd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo eitemau i gael eu cynnwys ar Flaenraglen Waith y Cabinet am y cyfnod o 1 Gorffennaf 2023 hyd 31 Hydref 2023 ac i'r Cabinet nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am yr un cyfnod.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cabinet:

 

  • yn cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod o 1 Gorffennaf 2023 i 31 Hydref 2023 yn Atodiad 1.

yn nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am yr un cyfnod, fel y dangosir yn Atodiad 2 ac Atodiad 3 yr adroddiad, yn y drefn honno.

215.

Trosglwyddo safleoedd Gorsaf Heddlu Cheapside a Maes Parcio Aml-lawr Bracla Un i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr. pdf eicon PDF 400 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a’i ddiben oedd:

 

  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chefnogi awydd Coleg Pen-y-bont i adleoli eu prif gampws i Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ar safleoedd sy’n eiddo i CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn hen Orsaf Heddlu De Cymru (SWP) a Maes Parcio Aml-lawr Bracla Un yn Cheapside; a
  • Gofyn am gymeradwyaeth i symud ymlaen i drosglwyddo'r safleoedd hyn ar brydles hir i Goleg Pen-y-bont er mwyn hwyluso datblygiad y safle allweddol hwn o fewn Prif Gynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr (yr Uwchgynllun).

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol yr adroddiad a nododd ei bod yn gyffrous partneru â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr ar fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn safle allweddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Disgrifiodd yr Arweinydd y prosiect fel un cyffrous iawn ac atgoffodd aelodau’r Cabinet mai hwn oedd y buddsoddiad unigol mwyaf yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac mewn prosiect addysg yn y fwrdeistref sirol. Dyna oedd maint, cwmpas ac effaith bosibl y prosiect.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am sicrwydd ynghylch prisiad Bracla Un. Nododd Cyfarwyddwr Corfforaethol - y Cymunedau fod angen i CBS Pen-y-bont ar Ogwr fel awdurdod lleol, pryd bynnag yr oedd yn gwerthu asedau, gymryd cyngor gan brisiwr yr ardal. Y prisiad a roddwyd ar y safle hwn oedd £310 mil ond roedd hynny'n seiliedig ar safle wedi'i glirio. Felly, byddai'n costio mwy i wneud y safle'n barod i'w ailddatblygu na'r prisiad presennol.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd y ffaith y byddai datblygiad Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei adeiladu i safon di-garbon net.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cabinet:

 

  • yn nodi’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran caffael a dymchwel hen Safle Gorsaf yr Heddlu yn Cheapside yn barod i’w drosglwyddo i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi eu cynnig ar gyfer campws Canol y Dref.
  • yn nodi'r cynnydd o ran dymchwel maes parcio aml-lawr Bracla Un.

yn awdurdodi swyddogion i gwblhau’r ddogfennaeth gyfreithiol ofynnol i drosglwyddo’r ddau safle i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr am ddim ystyriaeth yn unol â Phrotocol Cydleoli a Throsglwyddo Tir Ystadau LlC a Rheolaeth y Ddeddf Cymhorthdal er mwyn cefnogi a hwyluso datblygiad Campws Canol y Dref yn unig, lle, os na fydd y datblygiad hwnnw yn mynd rhagddo y bydd y tir yn trosglwyddo'n ôl i CBS Pen-y-bont ar Ogwr.

216.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a’i ddiben oedd rhoi adroddiad i’r Cabinet er gwybodaeth i’r Aelodau, a’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau Arolygiadau Estyn mewn Ysgolion Cynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod Tymhorau’r Gwanwyn a’r Haf 2023.

 

Roedd yr ysgolion fel a ganlyn:

 

  • Ysgol Gynradd Llangrallo;
  • Ysgol Gynradd Croesty;
  • Ysgol Gynradd Cwmfelin;
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig;
  • Ysgol Gynradd Nant-y-moel;
  • Ysgol Gynradd Newton;
  • Ysgol Gynradd y Garth;
  • Ysgol Fabanod Bryntirion; ac
  • Ysgol Gynradd Caerau.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg yr adroddiad a gwnaeth sylwadau ar rywfaint o'r gwaith da oedd yn digwydd ym mhob un o'r ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi’r adroddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

217.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

218.

Gwahardd y Cyhoedd

Nidoedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod tra byddent yn ystyried yr eitemau busnes canlynol am eu bod yn cynnwys gwybodaeth oedd wedi ei heithrio fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi eu gwahardd o’r cyfarfod, gan yr ystyrid yn yr holl amgylchiadau yn ymwneud â’r eitem, fod lles y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd mewn datgelu’r wybodaeth.

219.

Ail-gaffael Gwasanaeth Dylunio ac Ymgynghori Peirianneg Cyd-fenter

220.

Adfywio Glannau Porthcawl:

221.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 20/06/2023