Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 16eg Ebrill, 2019 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

344.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd yr Arweinydd fuddiant sy'n rhagfarnu yn eitem 6, Dyraniad Cronfa Prosiectau Cymunedol Cynghorau Tref a Chymuned 2019/2020 ac aeth allan o'r cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys cynnig i roi grant i Gyngor Cymuned Cefn Cribwr yr oedd yn aelod ohono.

 

Datganodd y Cyng. Richard Young fuddiant sy'n rhagfarnu yn eitem 6, Dyraniad Cronfa Prosiectau Cymunedol Cynghorau Tref a Chymuned 2019/2020 ac aeth allan o'r cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys cynnig i roi grant i Gyngor Cymuned Coety Uchaf yr oedd yn aelod ohono.

 

Datganodd y Cyng. Philip White fuddiant personol yn eitem 10, Adran 33 o Gytundeb partneriaeth Deddf Gwasanaeth Iechyd gwladol (Cymru) rhwng y Cyngor ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - Cymorth i Wella yn y Gymuned, am ei fod yn Aelod Cysylltiol o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

 

Datganodd y Cyng. Philip White fuddiant personol yn eitem 15, Cabinet, Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet a Phwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet gan fod argymhelliad (2) yn yr adroddiad yn effeithio'n uniongyrchol arno.

 

Datganodd y Cyng. Dhanisha Patel fuddiant personol yn eitem 15, Cabinet, Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet a Phwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet gan fod argymhelliad (4) yn yr adroddiad yn effeithio'n uniongyrchol arni.

 

Datganodd y Cyng. Dhanisha Patel fuddiant sy'n rhagfarnu yn eitem 16, Cynllun Rhyddhad Dewisol ar gyfer Ardrethi Annomestig y Stryd Fawr ac Adwerthu 2019-20, gan ei bod hi'n debygol y byddai un o'i pherthnasau agos yn elwa ar y cynllun.   

345.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 121 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/03/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo bod Cofnodion cyfarfod 19 Mawrth 2019 yn gywir.

346.

Polisi Gorfodi ar gyfer Cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig am Droseddau Amgylcheddol pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau arfaethedig i Bolisi Gorfodi'r Cyngor ar gyfer cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig am Droseddau Amglcheddol. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybod i'r Cabinet bod Contractwr Gorfodi partner wedi cael ei benodi. Esboniodd pam nad oedd gan y Cyngor ddigon o adnoddau i blismona troseddau'n effeithiol, fel achosion o ollwng sbwriel a gadael baw ci, yr angen i ddiweddaru'r polisi gorfodi presennol yn unol â deddfwriaeth gyfredol, y broses dendro a'r ffaith y byddai'r tendrwr llwyddiannus, 3GS (UK) Ltd, yn gwbl weithredol o ddechrau Mai 2019.

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y byddai ymgynghoriad cynhwysfawr yn cael ei gynnal yn gysylltiedig â'r polisi diwygiedig ac y byddai'r canlyniad yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a gyflwynir gerbron y Cabinet yn y dyfodol.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y byddai achosion o adael baw ci yn cael eu cynnwys o dan y polisi hwn yn y dyfodol. Byddai adroddiad pellach yn dilyn i amlinellu'r strategaeth ar gyfer baw ci, a chanlyniad yr ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD:       Y dylai'r Cabinet:

 

i)    Gymeradwyo ymgynghoriad fel y'i disgrifiwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad, a nodi y byddai canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw'n cael ei adrodd yn ôl i'r Cabinet ymhen amser.

Nodi dewis 3GS (UK) Limited fel Contractwr Gorfodi partner.

347.

Hyb Marchnata Twristiaeth De Cymru pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet i dderbyn cyllid a gynigiwyd o'r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol ac ym rwymo i gytundebau ariannol a chyfreithiol priodol ar gyfer cyflenwi Hyb Marchnata Twristiaeth De Cymru. Byddai'r Hyb yn gweithio gyda sefydliadau o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector sy'n ymwneud â'r economi ymwelwyr ar draws y 10 ardal Awdurdod Lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu a dosbarthu cynnwys digidol sy'n hyrwyddo ystod o gynnyrch y gellir ei archebu i farchnadoedd y DU a thramor, gan gynnwys masnach teithio, digwyddiadau busnes ac ymgyrchoedd defnyddwyr.

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y byddai'r prosiect yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel yr ymgeisydd a'i gyflawni'n uniongyrchol gan CBSPO a phartneriaid o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio yr adroddiad, a chyfeirio at arwyddocâd Pen-y-bont ar Ogwr fel canolbwynt. Dywedodd fod Pen-y-bont ar Ogwr yn ennyn parch mawr, a'i bod wedi llwyddo'n dda yn y rôl hon yn y gorffennol.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol am enghreifftiau o brosiectau a gyflawnwyd gan CBSPO. Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol sawl enghraifft, gan gynnwys Morlun Porthcawl a gwaith y prosiect hwnnw i wneud Porthcawl yn gyrchfan ddeniadol i ymwelwyr, twristiaeth De Cymru ac Ymgyrch Farchnata'r Cymoedd a phrosiectau eraill fel Chwaraeon D?r Bae Abertawe. 

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod dros 2,000 o swyddi yn y Fwrdeistref Sirol yn dibynnu ar dwristiaeth, felly roedd angen iddynt sicrhau bod hynny'n cael ei hyrwyddo ar sail ranbarthol, a bod y fenter yn un y gallent fod yn falch ohoni.

 

PENDERFYNWYD:    Bod y Cabinet yn derbyn y cyllid a gynigiwyd o'r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol ac yn ymrwymo i gytundebau cyfreithiol ac ariannol priodol, yn amodol ar sicrhau unrhyw gymeradwyaeth angenrheidiol gan y Swyddog Adran 151 Dros Dro a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio er mwyn cyflenwi Hyb Marchnata Twristiaeth De Cymru.

348.

Dyraniad Cronfa Prosiectau Cymunedol Cynghorau Tref a Chymuned 2019/20 pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Datganodd yr Arweinydd fuddiant sy'n rhagfarnu ac aeth allan o'r cyfarfod gan fod yr adroddiad yn cynnwys cynnig i roi grant i Gyngor Cymuned Cefn Cribwr, Cyngor yr oedd yn aelod ohono. Aeth y Dirprwy Arweinydd i'r Gadair. 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyrannu cyllid o Gronfa Prosiectau Cymunedol Cynghorau Tref a Chymuned 2019/2020 yn unol â'r argymhellion yn yr adroddiad.  Amlinellodd y cymeradwyaethau ar gyfer 2018/2019 a'r cynigion ar gyfer dyraniad 2019/2020 a chyfeiriodd a dywedodd eu bod yn brosiectau lefel uchel da a fyddai'n creu budd i'r gymuned. 

 

Eglurodd y sefyllfa yn gysylltiedig ag adnewyddu'r pafiliwn ym Mhencoed ac esboniodd y byddai'n costio dros £40,000 i agor y pafiliwn, ac y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno fis nesaf.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio at y tabl yn 4.2 yn yr adroddiad, a oedd yn ei farn ef yn amlygu'r hyn y gellid ei gyflawni pe bai CBSPO a'r Cynghorau Tref a Chymuned yn siarad â'i gilydd. Os oeddent yn profi anawsterau mewn ardaloedd eraill, dylent siarad â'r unigolion yn y tabl i weld sut y gallent gydweithio. Yr oedd wedi synnu bod unrhyw arian ar ôl yn y gronfa, a gobeithiai y gellid sicrhau datblygiad yn ei ward o fewn y flwyddyn nesaf.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei fod hefyd yn gobeithio y gallai prosiect fod ar waith yn ei ward erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Gofynnodd faint o amser yr oedd y Cynghorau Tref a Chymuned yn ei gael i gyflwyno eu ceisiadau. Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol eu bod wedi anfon llythyrau mor gynnar ag a oedd yn bosibl, er mwyn caniatáu digon o amser i lunio ceisiadau. Roedd y Clercod yn ymwybodol y byddai'r llythyr ar ei ffordd, a dylent eisoes fod yn paratoi cynigion.

 

PENDERFYNWYD:     Y dylai’r Cabinet gymeradwyo'r cynigion ar gyfer dyrannu cyllid o Gronfa Prosiectau Cymunedol Cynghorau Cymuned ar gyfer 2019/2020, yn unol â'r prosiectau a nodwyd yn adran 4.4 yr adroddiad a'r symiau a nodwyd. 

 

349.

Cynllun Ynni Clyfar - Prosiect Effeithlonrwydd Ynni Domestig pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi prosiect gan Lywodraeth Cymru. Byddai'r prosiect yn gwella effeithlonrwydd ynni mewn eiddo domestig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Amlinellodd raglenni cam 1 a cham 2, ac esboniodd yn fanwl yr hyn a oedd wedi'i gynnwys yn rhaglen cam 3. Esboniodd mai prif ffocws y rhaglen yw lleihau tlodi tanwydd, a rhoddodd ddiffiniad o dlodi tanwydd. Wedyn rhoddodd ddisgrifiad bras o'r cynnig a'r modd y byddai'n gweithio yn CBSPO. 

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Cymunedau fod y cynllun yn bodoli ers tro, a'i fod wedi cynnwys cyfnod o fwy na 10 mlynedd. Yn wahanol i gynlluniau eraill, nid oedd angen i CBSPO ganfod arian cyfatebol, ac nid oedd rhyw lawer o oblygiadau ariannol. Yr oedd yn bwysig cyfleu'r neges fod y cynllun ar gael, a pheidio drysu hynny â'r adroddiad ar strategaeth ynni'r ardal leol.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol fod hyn yn hyrwyddo Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac y byddai'n gwneud gwahaniaeth o safbwynt amgylcheddol ac economaidd. Roedd hi'n falch o weld y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno, a gobeithiai nad dyma fyddai'r cynllun olaf.

 

Esboniodd yr Arweinydd y byddai tlodi tanwydd yn troi'n fwy o broblem, a bod yn rhaid iddynt ganfod ffordd ymarferol o gefnogi preswylwyr. Roedd y cynllun hefyd yn ymrwymiad uchelgeisiol i leihau'r ôl troed carbon ac i helpu'r amgylchedd yn y dyfodol.  Nododd a chroesawodd y ffaith nad oedd angen unrhyw ymrwymiad ariannol gan CBSPO.

 

PENDERFYNWYD:     Y dylai’r Cabinet roi cymeradwyaeth i CBSPO gymryd rhan mewn prosiect effeithlonrwydd ynni domestig a ariennir gan LlC o dan Cam 3 y rhaglen effeithlonrwydd ynni domestig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac i ddatblygu'r prosiect hwnnw,

 

350.

Amseroedd Agor y Ganolfan Ailgylchu Gymunedol pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo newidiadau i amseroedd agor cyhoeddus mewn Canolfannau Ailgylchu Cymunedol yn Llandudwg, Brynmenyn a Maesteg.

 

Esboniodd gefndir y cynigion yn fras, yr oriau agor yn ystod yr haf a'r gaeaf ar hyn o bryd, ac esboniodd fod trafodaethau â Chontractwr Gwastraff y Cyngor ynghylch sut y gellid gweithredu gostyngiad o awr yn parhau.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau fod yr adroddiad hwn yn adroddiad trist a oedd yn cynnig gostyngiad i'r cyfleuster yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd. Roedd y cyhoedd wedi nodi mai dyma oedd y ffordd fwyaf derbyniol o sicrhau arbedion.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar beth fyddai effaith hyn ar gyflogau'r cyflogeion, a dywedodd ei fod yn gobeithio na fyddent o dan unrhyw anfantais yn sgil y penderfyniad.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol eu bod yn gobeithio sicrhau arbedion drwy addasu'r rota. Mae'n bosibl y ceir gostyngiadau staff yn sgil arbedion mewn costau staff, ac roedd trafodaethau ynghylch hyn yn parhau.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai hyn yn lleihau'r effaith ar y cyhoedd ac y byddai'r cyfleusterau yn dal ar agor bob dydd o'r wythnos.

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod hyn yn ffordd o sicrhau arbedion cymedrol heb amharu'n ormodol ar y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:

 

i)     Gymeradwyo'r newid a gynigir i'r amseroedd agor yn nhair Canolfan Ailgylchu Gymunedol y Cyngor drwy gyflwyno gostyngiad dyddiol o awr i'r oriau hynny, yn amodol ar gytuno â'r Contractwr Gwastraff a

ii)    Rhoi awdurdod dirprwyol i'r Prif Weithredwr Dros Dro gytuno ar yr union oriau agor terfynol yn nhair Canolfan Ailgylchu Gymunedol y Cyngor.

 

351.

Adroddiad ar y Ddyletswydd i Sicrhau Cyfleoedd Chwarae Digonol i Blant a Phobl Ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a oedd yn hysbysu'r Cabinet ynghylch y ddyletswydd statudol o dan a.11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sef bod yn rhaid i bob cyngor sicrhau cyfleoedd hamdden, chwarae a diwylliannol i blant a phobl ifanc, hyd at 18 oed, a oedd yn ddigonol o ran eu nifer a'u hansawdd, a hynny'n seiliedig ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

 

Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd i'r Cabinet nodi'r cyfrifoldebau statudol a grëwyd yn sgil a.11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a'r canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru yn "Cymru: Gwlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae" (Gorffennaf 2014), a olygai ei bod hi'n ofynnol bellach i awdurdodau lleol sicrhau digon o gyfleoedd ar sail asesiadau yr oeddent yn eu cynnal.

 

Yr oedd cais hefyd i gymeradwyo'r asesiad a gynhaliwyd yn ystod 2018-19 (wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad) a'r cynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer 2019-20 (wedi'i gynnwys yn Atodiad 2), a oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd y byddai unrhyw ddiwygiadau y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn amdanynt yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y cefndir, y problemau/materion a oedd wedi cael eu hystyried wrth lunio'r asesiad, y gofynion adrodd, y prif gyfrifoldebau a'r goblygiadau, gan gynnwys y goblygiadau ariannol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol a'i thîm. Ar y cyfan, roedd hi'n ymddangos fel pe bai arian dros ben ond bod diffyg mewn rhai meysydd. Fodd bynnag, roedd camau bellach yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn Croesawodd y penderfyniad i ffurfio gweithgor a datblygu Siarter Ieuenctid. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i gyfleu'r sylwadau yn ôl i'w thîm. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol am gyflwyno adroddiad cynhwysfawr. Yr oedd hi bob amser yn her sicrhau cyfleusterau anabl, ac roedd yr adroddiad hwn yn edrych ar wahanol ddulliau o ddarparu cynlluniau i sicrhau bod y cyfleusterau ar gael i'r bobl hynny.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod yn rhaid i gyfleusterau chwarae fod yn gynhwysol, ac roedd yn falch o weld arian yn cael ei fuddsoddi i blant ag anableddau mewn ardaloedd chwarae ar draws y fwrdeistref. Cydnabu fod angen gwneud mwy o waith i wella'r ddarpariaeth gyffredinol. Cynigiodd y dylid neilltuo adnoddau ychwanegol wedi'u targedu, i'w defnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer unrhyw adnoddau ychwanegol fydd gan Gynghorau Tref a Chymuned neu Lywodraeth Cymru, fel bo modd parhau â'r cynnydd a wnaed eisoes.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Cymunedau a oeddent yn dibynnu ar wirfoddolwyr i oruchwylio'r ddarpariaeth, a gofynnodd a ellid rhoi cymorth i'r gwirfoddolwyr i'w galluogi i dderbyn hyfforddiant i gyflawni eu rôl. Nid oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gallu rhoi sylwadau ar y gwirfoddolwyr, ond roedd ganddynt staff tymhorol a staff achlysurol, ac roedd yr aelodau hynny o staff yn gallu manteisio ar hyfforddiant.

 

Dywedodd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 351.

352.

Adran 33 o Gytundeb Partneriaeth Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 rhwng y Cyngor ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - Cymorth i Wella yn y Gymuned. pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gynnig i ymrwymo i Gytundeb Adran 33 newydd ar gyfer Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, o ran darparu Cyfleoedd Dydd Iechyd Meddwl integredig a fyddai'n weithredol o 31 Mawrth 2018 hyd 31 Mawrth 2021.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gefndir y cynnig, y sefyllfa gyfredol a'r goblygiadau ariannol. Ychwanegodd y byddai Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o 1 Ebrill 2019.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cynllun Cymorth i Wella yn y Gymuned, a natur arloesol y cynllun hwnnw ar y pryd. Roedd hi'n anarferol cael Cytundeb Adran 33 yn weithredol, ond mai canlyniad hynny fu darparu gwasanaeth gwell. 

 

 

PENDERFYNWYD:      i) Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig i ymrwymo i Gytundeb Adran 33 newydd o dan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o ran darparu cyfleoedd dydd iechyd meddwl integredig;

 

ii)      Bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i ymrwymo i unrhyw gytundebau angenrheidiol er mwyn newid y Cytundeb Adran 33 ag Abertawe Bro Morgannwg i gytundeb â Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ar ôl newid ffiniau'r byrddau iechyd.

 

353.

Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i CBSPO gymryd rhan yng Nghynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru, a darparu'r cynnig hwnnw o 29 Ebrill 2019, ac i weithio gyda RhCT i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd angen cymeradwyaeth y Cabinet hefyd er mwyn rhoi awdurdod dirprwyol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, negodi a setlo telerau terfynol y Cytundeb Cydweithio â RhCT, ac ar ôl hynny awdurdodi'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio i ymrwymo i'r Cytundeb Cydweithio hwnnw ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig.  

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gefndir y Cynnig Gofal Plant, y cynnig cyfredol a'r goblygiadau ariannol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad, ac i Lywodraeth Cymru am ariannu'r Cynnig yn llawn. Menywod sy'n gofalu am blant fel arfer, felly bydd hyn yn helpu mwy ohonynt i ddychwelyd i'r gwaith.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn newyddion ardderchog ac yn enghraifft arall o gydweithio da. Gofynnodd a gafwyd unrhyw ymateb gan ddarparwyr gofal plant a rhieni. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y naill a'r llall wedi croesawu'r Cynnig yn fawr, a bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno gerbron y Llywodraethwyr a oedd hefyd yn gadarnhaol iawn eu hagwedd ato. Byddent yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei reoli'n dda a fyddai'n ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddai llawer yn manteisio arno.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi ysgrifennu at y Ddirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y ddarpariaeth feithrin lawnamser gyfredol a'i fod yn disgwyl ymateb. Roedd hyn hefyd wedi cael ei godi gyda swyddogion yn Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:      Y dylai'r Cabinet:

 

·           roi cymeradwyaeth i CBSPO gymryd rhan yn y Cynnig Gofal Plant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a darparu'r Cynnig hwnnw;

 

·           rhoi cymeradwyaeth i CBSPO weithio gyda RhCT i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan weithredu fel 'awdurdod ymgysylltu', gyda RhCT yn gweithredu fel 'awdurdod gweithredu'; a

 

·           dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, negodi a setlo telerau terfynol y Cytundeb Cydweithio â RhCT, ac ar ôl hynny awdurdodi'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio i ymrwymo i'r Cytundeb Cydweithio hwnnw ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig.

 

354.

Adolygiad Digonolrwydd Gofal Plant 2018-2019 ar gyfer Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno adolygiad Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2018-19 yr awdurdod lleol i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill 2019. 

 

Rhoddodd y cefndir i ofynion Deddf Gofal Plant 2006, y sefyllfa gyfredol a'r goblygiadau ariannol.

 

Roedd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn croesawu'r adroddiad, a diolchodd i'r swyddogion.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o weld cynnydd o ran cefnogi mwy o blant anabl, cofrestru mwy o warchodwyr plant a datblygu mwy o glybiau ar ôl yr ysgol.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn cymeradwyo Adolygiad/Cynllun Gweithredu Gofal Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill 2019.

355.

Canfyddiadau'r Arolwg gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi o Wasanaethau Troseddau Ieuenctid ym Mae'r Gorllewin pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn hysbysu'r Cabinet ynghylch canfyddiadau'r arolygiad a gynhaliodd Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yn ddiweddar o Wasanaethau Troseddau Ieuenctid ym Mae'r Gorllewin, a'r camau sydd bellach yn cael eu cymryd i wella'r gwasanaethau hyn.   

 

Eglurodd gefndir y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, y cyd-arolwg llawn o Wasanaethau Troseddau Ieuenctid ym Mae'r Gorllewin, canlyniad yr arolygiad a'r cynllun ôl-arolygiad unigol ar gyfer gwella.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yr adroddiad yn siomedig, a bod angen gwneud llawer o waith yn y maes hwn. Gofynnodd sut y gallent sicrhau y byddai Bwrdd Rheoli'r GTI yn llwyddo yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod angen gwneud llawer o waith, fod yn rhaid pennu rolau a sefydlu llinellau llywodraethu er mwyn cyflwyno gwelliannau yn y dyfodol.

 

Yr oedd y Dirprwy Arweinydd yn cyd-weld â hynny, ac yn cytuno bod darllen yr adroddiad yn brofiad anodd. Yn yr arolygiad, nodwyd bod rhai meysydd yn rhagorol ac eraill yn cynnwys anghysondebau. Rhybuddiwyd hefyd nad oedd trefniadau i gydweithio bob amser yn llwyddo. Roedd hi'n bwysig dysgu gwersi yn sgil hyn, er nad oeddent mwyach yn rhan o GTI Bae'r Gorllewin. Gofynnodd a fyddai gwaith craffu ac adrodd mwy effeithiol yn cael ei gyflawni yn y dyfodol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod mesurau wedi cael eu gweithredu'n unol â'r cynllun gweithredu. Roedd llinellau adrodd clir wedi'u sefydlu, a byddai'r newyddion diweddaraf yn cael eu cyflwyno'n brydlon.     

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau ei bod hi'n hanfodol sefydlu'r strwythur cywir. Gofynnodd pa baratoadau a oedd wedi'u gwneud i weithio gyda sefydliadau eraill. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod yn gweithio'n agos â rheolwyr partneriaeth, ac y byddai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn goruchwylio hefyd. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a oedd problem yn gysylltiedig â diogelu, a sut y gallem sicrhau bod plant yn ddiogel. Cynigiodd fod yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd Llywodraethu Gwella'r GTI fel gwirfoddolwr o safbwynt diogelu. Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar iddo am ei gynnig, a dywedodd fod cadw plant yn ddiogel yn flaenoriaeth. Roedd Estyn wedi nodi nifer o gryfderau, roedd gwaith wedi'i gyflawni â chwmni ymgynghori annibynnol ac roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi cydweithio'n agos ag uwch swyddogion.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio fod angen ymagwedd drawsgwricwlaidd, gan gynnwys adroddiadau cynnydd rheolaidd. Yr oedd sail resymegol dros weithredu'n annibynnol a chydweithio ymhen amser.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr Dros Dro mai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd a oedd yn cyflwyno'r adroddiad, ond ei bod hi'n gyfrifoldeb corfforaethol i sicrhau llwyddiant yn yr arolwg nesaf.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod am gyflwyno adroddiadau rheolaidd i'r Cabinet a gwneud trefniadau i'r Aelod Cabinet Cymunedau gadeirio'r Bartneriaeth, ac i'r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cyntaf fynychu cyfarfodydd Bwrdd Llywodraethu Gwella'r GTI.  

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi sôn wrth Gadeirydd Cwm Taf y bu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 355.

356.

Adborth ar yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gysyniadau Posibl ar gyfer Darpariaeth Ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac Argymhellion ar gyfer Cam 4 yr Adolygiad. pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a roddai adborth manwl i'r Cabinet ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 7 Rhagfyr 2018 ac 13 Mawrth 2019. Testun yr ymgynghoriad oedd y chwe chysyniad sydd dan ystyriaeth wrth adolygu darpariaeth ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Eglurodd fod yr adroddiad hefyd yn cyflwyno argymhellion ar gyfer Cam 4 yr adolygiad o ddarpariaeth addysg ôl-16.   

 

Rhoddodd amlinelliad o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y chwe chysyniad ar gyfer darpariaeth ôl-16, y gweithgarwch ymgynghori, ystyriaeth o'r cysyniadau a'r sefyllfa gyfredol. Eglurodd y goblygiadau ariannol a'r rhesymau ar gyfer yr argymhelliad.   

 

Diolchodd i'r Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant am ei lafur sylweddol yn llunio'r adroddiad, ac am ymdrechion clodwiw'r pwyllgor craffu a'r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio.

 

Mynegodd yr Arweinydd hefyd ddiolch yn bersonol i'r Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio a'r Cyng. Webster fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am eu cyfraniad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio i'r Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Cyng. Webster. Bu'r gwaith craffu a gyflawnwyd yn broffesiynol a chadarnhaol wrth ymdrin â mater a oedd yn codi llawer o emosiynau. Yr oedd yn falch â geiriad yr argymhellion, er eu bod yn weddol gymhleth. Ei farn bersonol oedd ei bod hi'n bosibl i bob ysgol gael rhyw fath o chweched, ond y byddai angen cydweithio ar raddfa eang. Roedd hi'n bwysig rhoi cyfle i athrawon addysgu'r 6ed ac i ddisgyblion gael patrymau ymddygiad, ac yr oedd yn fodlon cefnogi'r argymhellion.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hyn wedi cael ei drafod droeon yn y gorffennol. Roedd hi'n bwysig ymgysylltu â dysgwyr a darpar ddysgwyr. O beidio gwneud hynny, ni fyddech yn cynnwys y dysgwyr a'u cymunedau, a byddai cyflwyno newidiadau yn broses anodd.

 

PENDERFYNWYD:              

i)       Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyhoeddus;

ii)      Rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i gynnal dadansoddiad opsiynau manwl, yn rhan o Gam 4 yr adolygiad ôl-16, o Gysyniadau 1, 4 a 5 o dan ddwy ffrwd waith:

·      datblygu darpariaeth chweched dosbarth a chanolfan chweched dosbarth gymysg; a

·      chadw a datblygu'r ddarpariaeth chweched ymhellach yn yr holl ysgolion uwchradd prif ffrwd

                                 a

iii)     yn rhan o'r dadansoddiad opsiynau manwl, archwilio ymhellach y modd y gellid defnyddio dysgu cyfunol i gefnogi'r naill ffrwd waith a'r llall.

iv)     Y dylai'r Cabinet dderbyn adroddiad pellach ymhen amser.

 

   

357.

Y Cabinet, Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet a Phwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth ar gyfer amserlen gyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet a Phwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai 2019 a mis Ebrill 2020. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig Hyrwyddwyr Plant a Chydraddoldeb a fyddai'n cadeirio Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet a Phwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet, yn cadarnhau'r broses ar gyfer enwebu Hyrwyddwyr o bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet ac yn gofyn am gymeradwyaeth i  wahoddedigion fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet a oedd wedi'u henwebu gan bob un o'r grwpiau gwleidyddol a gynrychiolir ar y Cyngor.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod hi'n bleser gweld bod dau o Bwyllgorau'r Cabinet yn parhau i gynnwys aelodaeth o blith y gwahanol bleidiau.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at amserlen gyfarfodydd y Cabinet a oedd yn cynnwys dau ddyddiad ar gyfer cyfarfodydd ym mis Medi. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio i wirio'r dyddiadau a chadarnhau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD:                  i) Bod y Cabinet yn cymeradwyo amserlen dyddiadau cyfarfod y Cabinet, Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet  a Phwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai 2019 a mis Ebrill 2020, fel yr amlinellwyd ym Mharagraffau 4.1.2, 4.2.1 a 4.3.1 yr adroddiad.

 

ii) Penodi'r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn Aelod Arweiniol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, yn Hyrwyddwr Plant a Phobl Ifanc ac yn Gadeirydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

 

iii) Y dylid cymeradwyo'r broses ar gyfer penderfynu ar wahoddedigion i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet fel yr amlinellir ym mharagraff 4.2.3.

 

i)       Y dylid penodi'r Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol yn Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet.

 

ii)      Y dylai'r Cabinet gymeradwyo'r

 gwahoddedigion i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ar sail y canlynol: 4 Aelod o'r Gr?p Llafur, 2 Aelod o'r Gr?p Ceidwadol, 2 Aelod o Gr?p y Gynghrair Annibynnol ac 1 yr un o blith Aelodau Annibynnol Llynfi a Gr?p Plaid Cymru.   

 

 

358.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig ar gyfer y Stryd Fawr ac Adwerthu 2019-20 pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 adroddiad a ofynnai i'r Cabinet fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig ar gyfer y Stryd Fawr ac Adwerthu 2019-20.

 

Amlinellodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig ar gyfer y Stryd Fawr ac Adwerthu a oedd ar gael ar gyfer 2019-20 i gefnogi busnesau o fewn y sector adwerthu yng Nghymru, a'r modd y byddai'r cynllun hwnnw'n cael ei weinyddu yn CBSPO. Amcangyfrifwyd y gallai oddeutu 1500 o dalwyr ardrethi ledled y Fwrdeistref elwa ar ostyngiadau i'w biliau ardrethi o dan y Cynllun hwn.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y byddai 300 o fusnesau bach yn croesawu'r elw annisgwyl yma, oherwydd am y tro cyntaf roedd y cynllun yn cael ei weithredu drwy'r fwrdeistref, y tu hwnt i'r Stryd Fawr. Roedd hyn yn cynrychioli swm sylweddol o arian i fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn newyddion da i amcangyfrif o 1500 o dalwyr ardrethi. Y gwahaniaeth allweddol oedd y byddai busnesau bach ar draws y fwrdeistref ar eu hennill, yn hytrach na busnesau ar y Stryd Fawr yn unig.  

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cabinet:

 

i)    Yn mabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig ar gyfer y Stryd Fawr ac Adwerthu ar gyfer 2019-20, fel y manylir yn Atodiad A;

 

ii)   Yn cymeradwyo'r diwygiad i'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau fel y nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

359.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim