Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 21ain Mai, 2019 14:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams  Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

360.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd CE Smith a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, am eu bod yn cyflawni gwaith arall o fewn y Cyngor.

 

361.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd HM Williams fuddiant personol yn eitem 7 ar yr Agenda, gan fod ei wyrion yn ddisgyblion yn yr Ysgol a oedd yn cael ei thrafod yn yr adroddiad.

 

362.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 117 KB

 

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16/04/19

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Cymeradwyo y dylid cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Cabinet dyddiedig 16 Ebrill 2019 yn gywir.

363.

Strategaeth Toiledau Lleol pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol yn unol ag Adran 8 o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017: Darparu Toiledau.

 

Dywedodd fod toriadau sylweddol wedi cael eu cyflwyno i gyllidebau toiledau cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Er mwyn sicrhau'r arbedion hyn, cafodd toiledau eu cau neu eu trosglwyddo fel bo modd eu cadw ar ryw ffurf.  Er mwyn sicrhau arbedion ariannol fodd bynnag, cynhaliodd y Cyngor ymgyngoriadau cyhoeddus yn 2007, 2015 a 2018, a asesai farn y cyhoedd ynghylch darpariaeth toiledau.

 

  Ailgyflwynwyd 'Cynllun Cysur' y Cyngor yn 2015 i wrthweithio effeithiau cau toiledau cyhoeddus, ond nid yw busnesau lleol wedi gwneud defnydd helaeth o'r cynllun.

 

Aeth yn ei flaen drwy gadarnhau bod Llywodraeth Cymru, yn 2018, wedi cyhoeddi Darparu Toiledau yng Nghymru: Strategaeth Toiledau Lleol, a oedd yn ei gwneud hi’n ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer eu hardal erbyn 31 Mai 2019. Nid oedd y ddyletswydd ynddi ei hun yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus ei hun, ond roedd hi'n ofynnol iddo fabwysiadu golwg strategol ar ei ardal o ran sut y gellid darparu'r cyfleusterau hyn a sut y gallai'r boblogaeth leol eu defnyddio. Bwriedir i hyn fod o gymorth er mwyn mynd i'r afael â'r heriau cyfredol o ddarparu toiledau cyhoeddus mewn cymunedau. Mae'r ddarpariaeth honno'n aml wedi dibynnu ar  gyfleusterau annibynnol traddodiadol sydd wedi bod yn dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd pwysau ariannol ar Awdurdodau Lleol.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod dogfen ddrafft wedi cael ei hanfon at yr holl bartneriaid a'r busnesau sy'n darparu eu toiledau i'w defnyddio gan y cyhoedd, a bod manylion eu cyfleusterau wedi'u darparu i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2019.

 

Roedd y Strategaeth Toiledau Lleol derfynol ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A. Roedd y Strategaeth honno'n cynnwys gwybodaeth a oedd yn cydweithredu a'u cyfleusterau. Roedd map a oedd hefyd wedi'i atodi i'r adroddiad yn dangos dosbarthiad y toiledau cyhoeddus hyn, ac roedd yr wybodaeth ar ffurf tabl yn dangos pa gyfleusterau oedd ar gael, a'u horiau agor.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod rhai toiledau cyhoeddus yn cael eu cynnal gan Gynghorau Tref/Cymuned Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac/neu drwy bartneriaeth neu ddulliau cydweithredol eraill cysylltiedig, ac mai pwrpas pennaf y Strategaeth oedd hysbysu'r cyhoedd am y trefniadau a oedd ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol o ran cyfleusterau toiledau cyhoeddus, yn hytrach na hysbysu pa gyfleusterau a ddarperir gan CBSPO. Yr oedd yn falch o nodi'r gefnogaeth gan sefydliadau partner sy'n darparu cyfleusterau toiled mewn mannau yr ymwelir â hwy'n aml gan y cyhoedd, er enghraifft T? Bryngarw (gan Arwen), Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Halo), Gorsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr (Network Rail), ymhlith eraill.

 

Adleisiodd yr Arweinydd y safbwyntiau hyn, a dymunodd gofnodi ei ddiolch i'r pedwar prif Gyngor Tref, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Porthcawl a Maesteg yn arbennig, am roi cefnogaeth annibynnol i gadw cyfleusterau toiled cyhoeddus yn agored, a dywedodd fod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 363.

364.

Pafiliwn Cae Hamdden Pencoed pdf eicon PDF 480 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo i neilltuo cyllid o'r gronfa gyfalaf £1 miliwn a sefydlwyd i gefnogi trosglwyddo asedau cymunedol, fel bo modd gwneud gwaith trwsio hanfodol ar y Pafiliwn yng Nghae Hamdden Pencoed, cyn rhoi les i Gyngor Tref Pencoed.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi hanes yr adeilad, a chadarnhaodd y Prif Weithredwr fod defnyddwyr gwasanaeth yn gwneud defnydd helaeth ohono, a bod Clwb Rygbi a Phêl Droed Pencoed, Clwb Pêl Droed Athletig Pencoed, Cylch Chwarae'r Pafiliwn, Gr?p Tai Dol a Byd Bach Canol Bro Morgannwg a Halo Leisure yn llogi'r cyfleuster yn rheolaidd.

 

Yna cyfeiriodd y Prif Weithredwr at baragraffau 3.3 a 3.4 yn yr adroddiad, a oedd yn cadarnhau bod y Pafiliwn wedi cael ei ddifrodi'n ddrwg oherwydd storm, ac y bu'n rhaid cau'r ystafelloedd newid i ddefnyddwyr chwaraeon, gan barhau i ddefnyddio'r ystafelloedd a oedd yn weddill yn y cyfleuster.  Ar ôl cynnal archwiliad pellach, fodd bynnag, bu'n rhaid cau'r adeilad cyfan yn ddiweddarach am resymau iechyd a diogelwch.

 

Yna cynhaliwyd Arolwg o Gyflwr y Pafiliwn, a nodwyd y byddai angen gwario £260k ar yr adeilad dros y 10 mlynedd nesaf, gyda £196k yn cael ei wario yn y 5 mlynedd cyntaf, a £115k o'r gwariant hwnnw yn y 2 flynedd gyntaf. Roedd Atodiad B yn dangos y math o waith yr oedd angen ei gyflawni ar yr adeiladwaith.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi neilltuo cyllid cyfalaf o oddeutu £1 miliwn tua 5 mlynedd yn ôl ar gyfer gwaith ar Barciau a Phafiliynau i ddibenion Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC), ac esboniodd fod cwmpas y cyllid hwnnw wedi'i  ehangu'n ddiweddarach o dan Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, i gynnwys ystod ehangach o gyfleusterau cymunedol. Serch hynny, nid oedd cyllid ond wedi cael ei neilltuo ar gyfer 2 brosiect o'r ffynhonnell hon.

 

Yn adran nesaf yr adroddiad, cadarnhawyd bod Cyngor Tref Pencoed wedi mynegi diddordeb mewn trosglwyddo'r Pafiliwn fel Ased Cymunedol, er mwyn ailagor yr adeilad o dan drefniant les, gyda'r gallu i ymestyn y les honno. Roedd gwybodaeth am y gwaith yr oedd angen ei gyflawni ar yr adeilad a thelerau eraill, gan gynnwys telerau ariannol a chynnal a chadw, wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.3 a 4.4 yr adroddiad.

 

Daeth y Prif Weithredwr â'i gyflwyniad i ben drwy roi crynodeb i'r aelodau o oblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod hyn yn newydd da.

 

Oherwydd yr arbedion yr oedd yn ofynnol i CBSPO eu canfod o dan ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, ni allai'r Cyngor ddarparu'r un lefel o wasanaethau yr oedd yn arfer eu darparu i gynnal a chadw Pafiliynau Chwaraeon a Chanolfannau Cymuned ac ati. Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig cadw'r cyfleuster hwn ar agor, a bod llawer o resymau da iawn i gyfiawnhau hynny, gan gynnwys y ffaith bod sawl tîm o Glwb Rygbi a Phêl Droed Pencoed yn chwarae ar y caeau a wasanaethir gan y Pafiliwn, yn amrywio rhwng 7 oed a chwaraewyr h?n. Ychwanegodd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 364.

365.

Rhesymoli Gwasanaethau Bws a Gymorthdelir 2019/20 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn hysbysu'r Cabinet ynghylch canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynnig i gyflwyno gostyngiad o £148,000 yng nghymhorthdal y Cyngor ar gyfer gwasanaethau bws, fel y cytunwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC).

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) a Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu gwasanaethau bws lleol a rhanbarthol drwy roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau teithio nad ydynt yn hyfyw yn fasnachol. Mae'r ddarpariaeth hon yn gwasanaethu llwybrau teithio sy'n galluogi preswylwyr sy'n byw ar eu hyd i gyrchu swyddi, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol.

Dywedodd mai cyllideb graidd CBSPO ar gyfer gwasanaethau bws a gymorthdelir oedd £202,600 yn 2018/19.  Roedd hyn yn cynnwys cymhorthdal untro a gytunwyd yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus 2018/19 ar fysus a gymorthdelir, lle cytunwyd y byddai tri llwybr teithio lleol  poblogaidd yn cael eu cynnal drwy gydol 2018/19.

£386,825 oedd y swm a ddyrannwyd i CBSPO gan Lywodraeth Cymru, drwy'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bws (GCSB). Dyfarnwyd £84,394 o'r arian hwnnw i Drafnidiaeth Gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr a'r gweddill, £302,431 i'w wario ar rwydwaith bysus strategol craidd y rhanbarth, a gwasanaethau cysylltiedig.

 

Oherwydd gostyngiad mewn cyllid sylfaenol a'r cyni ariannol parhaus, mae'r Cyngor wedi gorfod adolygu'r gwasanaethau y mae'n eu darparu yn erbyn y blaenoriaethau a ddatganwyd ganddo. Mae cymhorthdal y Cyngor ar gyfer gwasanaethau bws yn cyfrannu'n sylweddol at sicrhau bod modd cynnal rhai gwasanaethau bws nad ydynt yn hyfyw yn fasnachol. Serch hynny, mae'r maes gwariant hwn wedi'i nodi'n swyddogaeth nad oes rhaid ei chyflawni'n statudol, felly nodwyd targed arbedion o £148,000 yn y SATC ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.  Mae hyn y golygu nad oes unrhyw gyllideb gan y Cyngor i gymorthdalu gwasanaethau bws lleol yn 2019/20.

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet ar 18 Medi 2018 yn nodi cynigion ar gyfer rhesymoli'r gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau bws ledled y fwrdeistref sirol, i gyd-fynd â'r trefniadau i ddileu'r gyllideb. Cymeradwyodd y Cabinet y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, ynghyd ag Asesiad Effaith Cydraddoldeb cyn cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet yn amlinellu canlyniadau'r ymgynghoriad, a chyn ystyried y cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad a gwneud penderfyniad terfynol yn eu cylch. 

 

Wrth weithredu toriadau mewn cymhorthdal yn y gorffennol, roedd rhai cwmnïau wedi gweld hynny fel cyfle i ddiwygio proffil ariannol y llwybrau a gweithredu gwasanaethau a oedd gynt yn cael eu cymorthdalu ar sail fasnachol. Er enghraifft, yn sgil arbedion SATC 2018/19, cafodd pump o'r chwe llwybr teithio a oedd yn derbyn cymhorthdal cyn hynny eu cadw ar sail fasnachol, gan addasu neu leihau amlder y gwasanaeth. Yn yr un modd â'r gorffennol, nid yw'n glir a fydd gweithredwyr yn ymateb mewn modd tebyg eleni nes gweithredu'r cynnig i dynnu'r cymhorthdal yn ôl.

Roedd paragraff 3.8 yr adroddiad yn nodi'r llwybrau bws a oedd yn rhan o'r ymgynghoriad.

Aeth y Prif Weithredwr yn ei flaen i ddweud bod ymgynghoriad wedi'i gynnal ar y cynnig i ddileu'r gwasanaeth er mwyn casglu safbwyntiau a barn pobl ynghylch effaith bosibl y gostyngiadau yr oedd angen eu gweithredu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 365.

366.

Darpariaeth i Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) i Ddisgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd (a elwid gynt yn Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw), Canlyniad yr Hysbysiad Cyhoeddus pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a oedd yn hysbysu'r Cabinet ynghylch canlyniad yr hysbysiad cyhoeddus am y cynnig i sefydlu CAD i ddisgyblion ag ASA yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd (a elwid gynt yn Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw).

 

Cadarnhaodd fod y Cabinet wedi cael y newyddion diweddaraf ym mis Rhagfyr 2011 am yr adolygiad o'r gefnogaeth a'r ddarpariaeth er mwyn cynnwys plant a phobl ifanc anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Nodai'r adolygiad fod angen cefnogaeth cyfrwng Cymraeg.

 

Yn unol â'r cynnig hwn, agorwyd CAD ASA yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym mis Mawrth 2018.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cyngor yn cefnogi’r egwyddorion y dylai plant gael eu haddysgu, pan fo hynny’n bosibl, mewn amgylchedd ysgol prif ffrwd ac mor agos i’w cartrefi â phosibl. Byddai'r cynnig i agor CAD ASA arall yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn galluogi'r plant hynny ag ASA sydd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd i barhau a'u haddysg yn eu hardal leol.

 

Cyhoeddwyd yr hysbysiad cyhoeddus statudol ar 15 Mawrth 2019 a'r dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebu oedd 11 Ebrill 2019. Ni chafwyd unrhyw sylwadau'n gwrthwynebu'r cynnig yn ystod y cyfnod hysbysu statudol. Roedd y Cabinet felly'n gallu penderfynu ynghylch gweithredu'r cynnig.

 

Yna, daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd â'i gyflwyniad i ben drwy amlinellu goblygiadau ariannol yr adroddiad, fel y'u nodwyd ym mharagraffau 8.1, 8.2 ac 8.3 yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol mai'r cyfleuster a oedd yn destun yr adroddiad oedd y CAD gyntaf yn y Fwrdeistref Sirol a fyddai'n cefnogi addysg pobl ifanc ag awtistiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedd hi'n hapus i weld hynny wedi'i gynnwys yn rhan o gynigion y Cyngor ar gyfer Moderneiddio Ysgolion.

 

Ategodd yr Arweinydd hyn, gan ychwanegu y byddai'r cyfleuster hwn hefyd yn cefnogi disgyblion wrth iddynt drosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd yn Llangynwyd. Ychwanegodd fod yr holl randdeiliaid y bu'r cyngor yn ymgynghori â hwy yn rhan o'r broses ymgynghori yn cefnogi'r cynnig i'r eithaf. 

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Cabinet:-

 

(1)        Yn nodi na chafwyd unrhyw wrthwynebiad i'r cais yn ystod cyfnod yr hysbysiad cyhoeddus, ac felly

(2)     Yn cymeradwyo gweithredu'r cynnig sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.

 

367.

Darpariaeth ar gyfer Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Newidiadau i Ysgol Gynradd Betws pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad i hysbysu'r Cabinet am ganlyniad yr hysbysiad cyhoeddus ynghylch y cynnig i ddirwyn darpariaeth anogaeth yr awdurdod lleol i ben yn Ysgol Gynradd Betws.

 

Dywedodd fod y Cabinet wedi cael y newyddion diweddaraf ym mis Rhagfyr 2011 am yr adolygiad o'r gefnogaeth a'r ddarpariaeth er mwyn cynnwys plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Adolygwyd yr holl ganolfannau adnoddau dysgu (CADau). Yn y cam hwn, canolbwyntiwyd yn arbennig ar y CADau a oedd yn cynnwys disgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol.

 

O ganlyniad i adolygiad dilynol pellach o'r ddarpariaeth anogaeth, argymhellwyd y dylid cau'r ddarpariaeth hon yn Ysgol Gynradd Betws, a chyflwyno darpariaeth cyfnod sylfaen yn Narpariaeth Amgen y Bont (Y Bont), gan barhau i ddatblygu egwyddorion anogaeth ym mhob ysgol gynradd. Yn dilyn hynny, rhoddodd Llywodraeth Cymru gymeradwyaeth i gyflwyno darpariaeth y cyfnod sylfaen yn Y Bont.

 

Yn adran nesaf yr adroddiad, cadarnhawyd bod yr hysbysiad cyhoeddus statudol wedi'i gyhoeddi ar 15 Mawrth 2019, ac mai'r dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebu oedd 11 Ebrill 2019.  Mae'r hysbysiad cyhoeddus yn nodi manylion cynnig er mwyn galluogi'r cyhoedd i gyflwyno unrhyw sylwadau ynghylch y cais, neu ei wrthwynebu. Mae'r hysbysiad statudol ar agor am gyfnod o 28 diwrnod.  Mae'n rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad yn ystod y cyfnod hwn mewn ysgrifen i'r Cyngor. Yna, mae'n rhaid i'r Cyngor gyhoeddi adroddiad ar wrthwynebiadau sy'n crynhoi'r gwrthwynebiadau statudol ynghyd ag ymateb y Cyngor i'r gwrthwynebiadau hynny.

 

Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol, ac roedd modd felly i'r Cabinet wneud penderfyniad ynghylch gweithredu'r cynnig.

 

O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod arbedion blwyddyn gyfan o £51,378 wedi'u canfod o gyllideb ddirprwyedig yr ysgolion yn sgil cau darpariaeth anogaeth yr awdurdod lleol yn Ysgol Gynradd Betws. Mae'r elfen pro rata ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 wedi cael ei hailddyrannu o fewn Cyllideb Ysgolion Unigol (CSU) yr ysgolion.

 

O gyllideb y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ac fel canlyniad pellach i'r bwriad i derfynu'r ddarpariaeth, gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer Uwch Swyddog Cymorth yn Narpariaeth Anogaeth Ysgol Gynradd Betws i gefnogi cyflwyno'r cyfnod sylfaen yn Y Bont. Ychwanegodd nad oedd unrhyw gostau diswyddo yn gysylltiedig â'r cynnig hwn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Y Bont yn ddewis arall perffaith (yn lle Ysgol Gynradd Betws) i barhau â'r ddarpariaeth hon, a dywedodd hefyd ei fod yn cefnogir egwyddor o barhau i ddarparu anogaeth ar draws yr holl Ysgolion Cynradd.

 

Roedd yr Arweinydd am gyfeirio at y ffaith y byddai cynigion yn yr adroddiad yn creu arbedion a fyddai'n cael eu cadw yng nghyllideb yr ysgolion a'u defnyddio yn rhywle arall (hy, tuag at welliannau mewn ysgolion eraill yn ardal BSPO).

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Cabinet:-

 

1.    Yn nodi na chafwyd unrhyw wrthwynebiad i'r cais yn ystod cyfnod yr hysbysiad cyhoeddus, ac felly

2.      Yn cymeradwyo gweithredu'r cynnig sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.

 

368.

Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-18 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Atal a Llesiant adroddiad i'r Cabinet a ddangosai beth oedd perfformiad y Cyngor yn erbyn chweched fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (SLlCC) ar gyfer y cyfnod 2017-18.

 

Dywedodd fod darparu gwasanaethau llyfrgell gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig wedi'i wneud yn wasanaeth statudol i lywodraeth leol yn sgil Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.  Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu "gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon i bobl sy'n dymuno gwneud defnydd ohono".

 

I'w cynorthwyo i gyflawni'r cyfrifoldeb hwn, sefydlodd Llywodraeth Cymru fframwaith o safonau er mwyn rheoli gwasanaethau llyfrgell awdurdod lleol, gan awdurdodau lleol, CLlLC a chyrff eraill perthnasol. Yn rhan o'r fframwaith hwn, caiff targedau newydd yn gysylltiedig â darpariaeth a pherfformiad llyfrgelloedd eu hadolygu a'u pennu bob tair blynedd.  Un o amcanion cyffredinol y safonau yw bod llyfrgelloedd yn cynnig yr holl wasanaethau a chyfleusterau a restrir fel hawliadau craidd o fewn y fframwaith, gan fesur ansawdd hefyd drwy ystod o ddangosyddion perfformiad a mesuriadau effaith.

 

Ar sail flynyddol, mae'n ofynnol i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, fel awdurdod llyfrgelloedd cyhoeddus, gyflwyno ffurflen flynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (SLlCC) i'w hystyried gan aseswyr.  Cyhoeddir adroddiad yn ei dro gan yr Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (IAALl) yn Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu'r fframwaith.  Mae'r adroddiad a lunnir yn cyflwyno barn gytbwys yr aseswyr ynghylch perfformiad y Cyngor yn y flwyddyn dan sylw.

 

Roedd adroddiad 2017-18 gan IAALl mewn ymateb i'r ffurflen hunanasesu llyfrgelloedd yn erbyn chweched fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (2017-20) ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Roedd adroddiad 2017-18 yn amlygu bod y gwasanaeth wedi parhau i berfformio'n dda. Nodwyd effeithiolrwydd pwyntiau gwasanaeth a chyfraniad y gwasanaeth at lesiant, cynnydd mewn hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol, twf mewn presenoldeb mewn digwyddiadau a chynnydd hefyd mewn aelodaeth a benthycwyr gweithredol.

 

Mae adroddiad IAALl yn esbonio bod gwasanaeth llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn bodloni 11 o'r 12 o hawliadau craidd i ddinasyddion yn llawn, ac yn bodloni 1 o'r hawliadau hynny'n rhannol. Yn ystod 2017-18, roedd y mesuriadau atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru wedi newid o amcangyfrifon o ymweliadau â llyfrgelloedd i lefelau cyflawniad yn gysylltiedig â'r 10 dangosydd ansawdd, gyda thargedau mesuradwy.

 

Yn ôl gwerthusiad IAALl, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflawni 7 dangosydd ansawdd yn llawn ac 1 dangosydd ansawdd yn rhannol, ac wedi methu cyflawni 2 o'r dangosyddion. Roedd Atodiad 2 yr adroddiad yn cymharu perfformiad Pen-y-bont ar Ogwr ag awdurdodau lleol eraill.

 

Mae a wnelo'r dangosyddion ansawdd nas cyrhaeddwyd â chaffaeliadau fesul pen neu wariant ar ddeunyddiau fesul pen (DA9), a hefyd swm y gyllideb faterol neu'r gwariant ar adnoddau Cymraeg fesul pen (DA10).

 

Er bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio data i lunio ei asesiad, mae'r astudiaethau achos a ddarparwyd gan Awen yr un mor bwysig ac yn cynnwys her darllen yr haf er mwyn cynnal llythrennedd plant yn ystod gwyliau'r ysgol, cefnogi cyflogadwyedd, gweithgareddau cefnogi dementia mewn cyfleusterau hamdden a digwyddiadau diwylliannol "live and loud" mewn lleoliadau llyfrgell a ariannwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 368.

369.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol a Phwyllgorau eraill pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i benodi Aelodau i Gydbwyllgorau a Chyrff Allanol.

 

Roedd rhestr o'r rhain ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai'r cynnig oedd y dylai penodiadau'r Aelodau barhau am gyfnod o flwyddyn, ac eithrio sefyllfaoedd lle byddai'n briodol terfynu ynghynt.

 

PENDERFYNWYD:                  Y dylai'r Cabinet benodi'r nifer gofynnol o Aelodau i'r Cydbwyllgorau a'r Cyrff Allanol, yn unol â'r rhestr yn Atodiad 1 yr adroddiad, gan nodi ymhellach mai swyddog o CBSPO  (yn hytrach na chynrychiolaeth gwleidyddol) fydd y cynrychiolydd ar gyfer y sefydliad Busnes mewn Ffocws, gan nad yw'r corff hwnnw'n gorff penderfynu strategol.</AI14>

<AI15>

 

 

370.

Blaenraglen Waith y Cabinet pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer eitemau i'w cynnwys ar y Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf 2019 hyd 31 Hydref 2019.

 

Yn unol â darpariaeth yng Nghyfansoddiad y Cyngor, bydd y Flaenraglen Waith yn trafod cyfnod o bedwar mis, ac yn cynnwys materion y mae'r Cabinet, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Cyngor yn debygol o'u hystyried, o ran cynlluniau, polisïau neu strategaethau sydd yn rhan o Fframwaith Polisi'r Awdurdod.

 

Roedd paragraff 4.1 yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o Flaenraglen Waith y Cabinet (Atodiad 1 yr adroddiad), Blaenraglen Waith y Cyngor ar gyfer yr un cyfnod (Atodiad 2 yr adroddiad), ac yn olaf Blaenraglen Waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu (a oedd wedi'i chynnwys yn Atodiad 3 yr adroddiad).

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Blaenraglen Waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi cael ei llunio'n ofalus gan y Pwyllgorau hynny, dan arweiniad y Cadeiryddion mewn ymgynghoriad â'r Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol, gyda golwg ar sicrhau bod eitemau amserol ac ystyrlon yn cael eu cynnwys ar agendâu cyfarfodydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol. Atgoffodd y rhai oedd yn bresennol fod y broses Graffu hefyd yn gwneud y Cabinet a'r Cyngor yn atebol am y penderfyniadau a wneir. 

 

PENDERFYNWYD:    (1)   Bod y Cabinet yn cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf 2019 hyd 31 Hydref 2019, fel y dangoswyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

                                    (2) Nodi Blaenraglen Waith y Cyngor fel y’i nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad, a’r Flaenraglen Waith Craffu fel y’i nodwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad.</AI8>

<AI9>

 

 

371.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.