Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 17eg Medi, 2019 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Democratic Services Manager

Eitemau
Rhif Eitem

402.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.

403.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd HM Williams fuddiant personol yn Eitem 11 ar yr Agenda, gan ei fod yn cadw da byw ar Gomin Mynydd y Gaer ger safle Rockwool, a drafodwyd fel rhan o’r ddadl ar yr eitem hon.

404.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 121 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 23/07/19

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                    Bod Cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

405.

Grant Amddifadedd Disgyblion - Grant Mynediad 2019-20 pdf eicon PDF 307 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Dros Dro gyda’r bwriad o roi diweddariad i'r Cabinet o ran Grant Mynediad y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD), sy’n rhan o Grant Addysg Awdurdod Lleol Llywodraeth Cymru 2019-20.

 

O ran gwybodaeth gefndirol, eglurodd fod Grant Mynediad y GAD wedi’i gyflwyno yn 2018-19 i ddisodli Grant Gwisg Ysgol flaenorol Llywodraeth Cymru ar gyfer disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ac sy’n dechrau yn yr ysgol uwchradd am y tro cyntaf (blwyddyn 7). Cafodd ei ehangu i gynnwys prydau ysgol am ddim o oed Derbyn. Yn 2019-20, ehangwyd y grant Llywodraeth Cymru eto i gynnwys disgyblion sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ac sy’n dechrau yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 3, Blwyddyn 7, a Blwyddyn 10 mewn ysgolion cynradd, uwchradd, ac ysgolion arbennig, yn ogystal â chanolfannau adnoddau ac unedau cyfeirio disgyblion.

 

Aeth y Pennaeth Cyllid Dros Dro yn ei blaen i ddweud mai diben y GAD yw galluogi Awdurdodau Lleol i roi cymorth i deuluoedd sydd ar incwm isel ac sy’n derbyn prydau ysgol am ddim i brynu’r offer a ddangosir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Gwerth y grant oedd hyd at £125 ar gyfer pob disgybl cymwys, ac eithrio'r disgyblion hynny a oedd yn dechrau ym mlwyddyn 7 a oedd yn gymwys i gael hyd at £200.

 

Hyd at ddyddiad yr adroddiad, roedd 512 o Grantiau Mynediad GAD wedi’u dyfarnu i ddisgyblion ysgol gynradd cymwys, ynghyd â 36 o grantiau i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu ysgolion arbennig, a 561 o grantiau i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu ysgolion uwchradd. Yn ogystal â hyn, cafodd nifer fach o grantiau eu dyfarnu i ddisgyblion sy'n derbyn gofal ac sy’n mynychu ysgolion awdurdodau eraill, o dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd ei fod wedi clywed am y newidiadau i grantiau o’r fath mewn cyfarfod diweddar o'r Fforwm Cyllideb Ysgolion, a’i fod wedi annog rhieni i’w hawlio ar sail cymhwysedd.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi bod grantiau o'r fath bellach ar gael i grwpiau blwyddyn eraill mewn ysgolion. Diolchodd i Lywodraeth Cymru am y cyllid grant, gan nodi fod rhai teuluoedd yn ei chael hi'n anodd paratoi gwisg ysgol neu becynnau chwaraeon ac ati ar gyfer eu plant, a bod y grant yn cynnig cymorth ariannol gwerthfawr iddynt, yn enwedig i rieni sydd â nifer o blant.

 

Gobeithiai y byddai Penaethiaid yn atgoffa rhieni am y grant, ac y gallai'r Panel Cyfathrebu a’r Tîm Maethu ddosbarthu manylion i atgoffa Gofalwyr Maeth sy’n gofalu am Blant sy'n Derbyn Gofal.

 

PENDERFYNWYD:                            Fod y Cabinet wedi nodi’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am Grant Mynediad y GAD, gan gynnwys nifer y ceisiadau a dderbyniwyd hyd yma a'r nifer posibl o ddisgyblion sy'n dal i fod yn gymwys i hawlio'r grant.     

406.

Parc Rhanbarthol y Cymoedd - Dyfarnu Cyllid mewn perthynas â Grant Cyfalaf Pyrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd 2019-2021 pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol gyda’r bwriad o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet ar geisiadau am gyllid Grant Cyfalaf Pyrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd, ac i ofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet i dderbyn cynigion am arian ac i lunio cytundebau gyda’r partneriaid cyflawni, sef Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, i gefnogi'r gwaith o gyflawni gweithgareddau fel rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd ym Mharc Gwledig Bryngarw a Pharc Slip.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu gwybodaeth gefndirol benodol, ac yn dilyn hynny dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bod y cynigion sy’n ymwneud â Pharc Gwledig Bryngarw a Pharc Slip wedi'u cymeradwyo.

 

Eglurodd fod y cais ar gyfer Parc Gwledig Bryngarw wedi cael cynnig £500k o gyllid cyfalaf a bod Parc Slip wedi cael cynnig £400k o gyllid cyfalaf.

 

O ran y cyllid ar gyfer Parc Gwledig Bryngarw, roedd paragraff 4.4 o'r adroddiad yn amlinellu enghreifftiau o'r hyn a fyddai’n cael ei gyflawni ganddo, tra bod paragraff 4.5 yn amlinellu'r un peth ar gyfer Parc Slip.

 

Amlinellwyd y goblygiadau ariannol ym mharagraff 8. yr adroddiad, a dywedodd Pennaeth Gweithrediadau'r Gwasanaethau Cymunedol fod Llywodraeth Cymru wedi nodi ar hyn o bryd bod unrhyw gyllid a nodir yn ystod y blynyddoedd ariannol yn sefydlog, ac nad oes modd trosglwyddo rhwng blynyddoedd. O ganlyniad, mae'n rhaid i bartneriaid reoli a gwario'r adnoddau yn unol â hyn, a nhw fydd yn atebol am unrhyw gostau sy'n deillio o orwario neu danwario heb fod yn unol â’r proffil.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yr adroddiad gan ychwanegu ei fod wrth ei fodd fod arian wedi’i sicrhau ar gyfer cynlluniau Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

 

Aeth yr Arweinydd ati i ddiolch i Lywodraeth Cymru, a’r Gweinidogion a fu’n hyrwyddo'r cysyniad o Barc Rhanbarthol yn y Cymoedd ac wedi’i gefnogi gyda buddsoddiad priodol. Soniodd hefyd am bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni prosiectau o’r fath.

 

                        

 

PENDERFYNWYD:                      Fod y Cabinet yn:

 

                                                1         Derbyn y cynnig grant ar gyfer cyflawni gweithgarwch ym Mharc Gwledig Bryngarw (£500,000) a Pharc Slip (£400,000) drwy Grant Cyfalaf Pyrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd, 2019-2021.

 

                                                2          Awdurdodi'r Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, i ymrwymo i gytundebau gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru i gyflawni eu rhannau hwy o’r prosiect yn unol â pharagraff 4.8 yr adroddiad.      

407.

Atal Rheolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor a Dyfarnu Contractau ar gyfer Gwasanaethau Cam-drin Domestig pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth a Pherfformiad adroddiad ar ran y Prif Weithredwr i geisio cymeradwyaeth ar gyfer:

 

·       Parhau i ddarparu’r gwasanaethau cam-drin domestig presennol, a galluogi archwilio opsiynau comisiynu rhanbarthol yn llawn.

·       Atal rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor o ran y gofyniad i ail-dendro'r contractau a drafodir yn yr adroddiad hwn.

·       Awdurdodi'r Prif Swyddog Gweithredol i ymrwymo i ddau gontract gyda'r darparwr presennol, Calan DVS, tan 30 Ebrill 2021.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, dywedodd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn comisiynu amrywiaeth o wasanaethau cam-drin domestig ar hyn o bryd, yn unol â dau gontract ar wahân.

 

Roedd un o'r rhain ar gyfer Gwasanaethau Cam-drin Domestig Integredig ac roedd ail gontract ar gyfer y Rhaglen Tramgwyddwyr, fel y manylir ym mharagraffau 3.2 a 3.6 yr adroddiad.

 

Yn dilyn yr ymarfer tendro yn 2015, ymrwymodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont â’r Ogwr i gontract gyda Calan DVS. Comisiynwyd y contract am gyfnod o dair blynedd, gyda'r dewis i'w ymestyn am gyfnod pellach o hyd at 24 mis. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys:

 

·            Lloches i ferched

·            Llety camu ymlaen

·            Darpariaeth galw heibio fel rhan o ‘gasgliad Assia’ CBS Pen-y-bont ar Ogwr

·            Cymorth fel y bo’r angen

·             Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc — Mae'r elfen hon o'r gwasanaeth yn opsiwn blynyddol. Erbyn mis Rhagfyr bob blwyddyn gwneir penderfyniad o ran parhau â’r ddarpariaeth yn y flwyddyn ariannol ganlynol neu ddim.

 

O ran y Rhaglen Tramgwyddwyr, ar 30 Ionawr 2018 awdurdododd y Cabinet i Reolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor o ran gofynion tendro gwasanaeth gael eu hatal, a rhoddwyd awdurdod i ymrwymo i gontract gyda Calan DVS ar gyfer darparu Rhaglen Tramgwyddwyr.

 

Roedd adroddiad cynnydd o Dachwedd 2018 yn dangos bod 26 o ddynion wedi'u hatgyfeirio i'r cynllun, a bod 11 o'r rhain wedi mynychu 14 sesiwn, a bod 11 o fenywod (goroeswyr) wedi derbyn 58 sesiwn 1-wrth-1. Dywedodd 100% o ddynion a 100% o'r goroeswyr y byddent yn argymell y rhaglen i eraill.

 

Aeth y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth a Pherfformiad ati i ddatgan bod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, yn anelu at wella ymateb y sector cyhoeddus i gam-drin a thrais ledled Cymru.

 

Mae'r canllawiau comisiynu a gyhoeddwyd yn 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i bartneriaethau comisiynu rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (“VAWDASV”) gynnal asesiad o'r angen er mwyn llywio strategaethau comisiynu VAWDASV. Mae'r canllawiau'n pwysleisio pwysigrwydd cael Gwasanaethau VAWDASV sy’n cael ei arwain gan angen, sy’n seiliedig ar gryfderau, ac sy’n atebol.

 

Fel rhan o broses ddiwygio ranbarthol Llywodraeth Cymru, mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio ar y cyd â CBS Merthyr Tudful a CBS Rhondda Cynon Taf i greu Gr?p Llywio VAWDASV yng Nghwm Taf.

 

Yn ogystal, yn sgil newid ffiniau gofal iechyd Pen-y-bont ar Ogwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a oedd yn weithredol o 1 Ebrill 2019, ymunodd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ffurfiol â Phwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cwm Taf, o ran y Grant Cefnogi Pobl, gan alluogi rhagor o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 407.

408.

Hebryngwyr Croesfannau Ysgol pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol a oedd yn argymell diwygio’r Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol trwy fabwysiadu Canllawiau Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol Road Safety Great Britain [GB] 2016 (Canllawiau GB 2016).

 

Mewn adroddiad blaenorol gan y Cabinet ar 3 Mawrth 2015, gwelwyd fod 24 o Hebryngwyr Croesfannau Ysgol (HCY) parhaol yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. O ganlyniad i amrywiadau yn y gwasanaeth a chan fod rhai HCY wedi gadael neu wedi ymddeol, erbyn hyn mae 17 HCY parhaol yn cael eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae nifer o safleoedd sy'n hanesyddol, ac mae angen rhagor o ymchwil er mwyn pennu eu statws. Er enghraifft, mae rhai safleoedd mewn mannau lle mae croesfannau ffurfiol wedi'u darparu, felly nid oes angen darpariaeth HCY ac nid oes neb wedi’u cyflogi yn y swydd.

 

Eglurodd y dylid arfarnu safleoedd posibl yn wrthrychol ac y dylai’r arfarniad allu gwrthsefyll heriau neu feirniadaeth, fel y nodir yng Nghanllawiau Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol Road Safety Great Britain 2016 Diweddarwyd y canllawiau hyn yn 2016. Y prif wahaniaeth rhwng y canllawiau yw bod un o feini prawf 2012 yn cyfrif plant ac oedolion sy'n croesi'r ffordd, tra bod meini prawf canllaw 2016 yn ystyried mai plant sy'n croesi'r ffordd a fabwysiedir yw’r defnyddwyr cynradd.

 

Nid yw'r dull hwn yn golygu y bydd safleoedd yn cael eu diddymu’n awtomatig os nad ydynt yn bodloni'r meini prawf, gan y byddai deialog yn digwydd gydag ysgolion a chynghorau tref/cymuned pe baent yn mynegi diddordeb cadw'r safle a’i ariannu eu hunain.

 

Yn unol â'r adroddiad blaenorol, caiff safle'n ei asesu os bydd amgylchiadau'n newid h.y. adleoli ysgol, ymddeoliad neu swydd Hebryngwr Croesfan Ysgol wag, neu newidiadau demograffig i ysgol. 

 

Os nad yw'r safle yn bodloni'r meini prawf ond bod y gymuned o’r farn bod y ddarpariaeth HCY yn bwysig iddynt, dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y dylid ystyried ffyrdd eraill o ariannu'r swydd, megis trwy’r Cyngor Cymunedol / Cyngor y Dref. Byddai'r HCY yn cael ei gyflogi gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr ond yn cael ei ariannu gan y gymuned.

 

Mae'r cynnig hwn yn unol â'r defnydd gorau o adnoddau ac mae'n canolbwyntio ar y safleoedd hynny sydd â’r risg fwyaf yn ôl yr asesiad, yn seiliedig ar Ganllawiau GB 2016.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau nad oedd unrhyw oblygiadau staffio ar hyn o bryd o ganlyniad i gynigion yr adroddiad, a’i fod yn cefnogi’r cynigion.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar mai diogelwch y plant sydd bwysicaf, a bod Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn bwysig iawn i'r perwyl hwn. O ystyried yr anhawster wrth recriwtio staff i hebrwng ar Groesfannau Ysgol, rhoddodd ganmoliaeth i’r cymorth a gafwyd gan Roly Patroly, sef car a ddefnyddir i ganfod cerbydau sy’n parcio mewn ardaloedd cyfyngedig heb awdurdod, gan gynnwys ger ysgolion.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod Roly Patroly wedi llwyddo i reoli parcio anawdurdodedig, ac atgoffodd y rhai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 408.

409.

Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a G4S Care and Justice Services (UK) Limited Invisible Walls Wales pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i barhau â'r cytundeb lefel gwasanaeth rhwng CBS Pen-y-bont ar Ogwr a G4S Care and Justice Services (UK) Cyf mewn perthynas â gwasanaeth Invisible Walls Wales.

 

Dywedodd fod CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithio mewn partneriaeth â G4S a gwasanaeth Invisible Walls Wales (IWW) ers 2012 drwy Grant y Loteri Fawr.

 

Aeth yn ei flaen i gadarnhau bod gwerthusiad o'r gwasanaeth wedi'i gynnal a oedd yn amlygu rhai canlyniadau cadarnhaol yn gysylltiedig â'r gwaith a wnaed gan IWW, a nodwyd enghreifftiau o'r rhain ym mharagraff 3.3 yr adroddiad.

 

Mae rôl gwaith cymdeithasol (fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad) wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y prosiect ac roedd G4S yn awyddus i gynnal trefniant y bartneriaeth hon. Cafodd cytundeb lefel gwasanaeth (CLG) ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Ebrill 2018.

 

Mae'r CLG sydd yn Atodiad 1 yr adroddiad yn nodi'r trefniadau partneriaeth cyfredol ac mae wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau o ran meini prawf gwasanaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar.

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Cenedlaethau'r Dyfodol a Lles o’r farn fod yr adroddiad yn gadarnhaol ac yn gobeithio y gallai'r Aelodau ymweld â Charchar y Parc cyn bo hir.

 

Daeth yr Arweinydd â'r ddadl ar yr eitem hon i ben gan ddweud ei bod yn hanfodol i blant carcharorion allu cynnal y cysylltiad â’u tadau, ac i feithrin y berthynas honno drwy ymweliadau ac ati, yn hytrach na pheryglu’r gallu i wneud hynny.

 

PENDERFYNWYD:                      Fod y Cabinet yn:

 

(1)   Cytuno ar y bartneriaeth barhaus

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i'r Teulu i ymrwymo i'r cytundeb lefel gwasanaeth, fel y cyfeirir ato yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

410.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi llywodraethwyr awdurdod lleol i’r cyrff llywodraethu ysgolion a restrir ym mharagraff 4.1 a 4.2 yr adroddiad.

 

Amlinellwyd manylion y penodiadau angenrheidiol ym mharagraff 4 o'r adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio at Atodiad A'r adroddiad, a oedd yn rhestru'r rhestr bresennol (a'r rhestr arfaethedig) o swyddi Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol gwag, a gofynnodd a fyddai modd dosbarthu'r rhain i bob Cynghorydd; i’r cyfryngau, i staff o fewn yr awdurdod, ac i'r gymuned yn gyffredinol er mwyn ennyn cymaint o ddiddordeb ag sy'n bosibl, yn y gobaith y gallai'r swyddi gwag hyn gael eu llenwi cyn bo hir.

 

Adleisiwyd hyn gan yr Arweinydd.

 

PENDERFYNWYD:                      Cymeradwyodd y Cabinet y penodiadau a restrir ym mharagraffau 4.1 a 4.2 yr adroddiad.   

411.

Adroddiad Blynyddol Sylwadau a Chwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles er mwyn cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2018/19 ar sylwadau a chwynion y gwasanaethau cymdeithasol a gweithdrefnau cwyno, fel sy'n ofynnol o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae’r Adroddiad Blynyddol wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad clawr.

 

Cynghorodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant, o ran gwybodaeth gefndir, ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol fod â gweithdrefnau ar waith i ystyried unrhyw sylwadau neu gwynion o'r fath sy’n ymwneud â chyflawni eu swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yr adran hon o'r adroddiad yn amlinellu sut y cafodd y wybodaeth hon ei choladu ac, yn ei thro, ei hadrodd i Lywodraeth Cymru.

 

O ran sefyllfa bresennol yr adroddiad, roedd paragraff (s) 4 yr adroddiad yn cynnig rhywfaint o ddarllen cadarnhaol, sef bod yr holl gwynion a dderbyniwyd ar gyfer y cyfnod uchod wedi'u datrys o fewn yr amserlenni statudol, a bod rhai cwynion wedi’u datrys yn gynnar hefyd.

 

Roedd manylion o ran nifer y cwynion ynghyd â'u categori i’w cael ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad gan ychwanegu bod y data ar gyfer y llynedd yn galonogol, hynny yw ei fod yn cynnig darlun sy'n gwella, gyda'r Cyngor yn ymateb yn gadarnhaol i gwynion o'r fath etc, ac nid i faes gwasanaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig y mae hyn yn berthnasol, mae’n rhan o ddull ehangach gan y Cyngor. Anogodd bob Aelod i fod yn rhan ymweld â sefydliadau ar rota, os nad oeddent eisoes yn gwneud.

 

Daeth yr Arweinydd â’r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy ddweud ei bod yn galonogol darllen yr adborth a roddwyd i'r gwasanaethau a ddarperir i gleientiaid ar dudalennau 89 a 90 yr adroddiad, mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Oedolion, gan ei fod mor bwysig rhoi cefnogaeth i'r rhai mwy diamddiffyn o'n cymuned a’u bod yn werthfawrogol iawn o hyn.

 

PENDERFYNWYD:                      Cymeradwyodd y Cabinet yr Adroddiad Blynyddol ar Weithdrefnau Sylwadau a Chwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2018/19.     

412.

Rheoli Ansawdd Aer Lleol - Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd 2019 pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gweithredol a'r Swyddog Gwasanaethau Arbenigol, o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, adroddiad ar y cyd i geisio cymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd (APR) Rheoli Ansawdd Aer Lleol (LAQM) Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2019, sy’n seiliedig ar setiau data ansawdd aer a gafwyd yn 2018. Roedd angen i’r Cabinet gymeradwyo’r adroddiad cyn cyflwyno’r fersiwn derfynol i Lywodraeth Cymru (LlC) cyn 30 Medi 2019. 

 

Cynghorwyd y Cabinet, o dan Adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, bod gan bob awdurdod lleol rwymedigaeth i adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardaloedd yn rheolaidd, ac i benderfynu a yw amcanion ansawdd aer i ddiogelu iechyd yn debygol o gael eu cyflawni.  Pan fo adolygiadau ansawdd aer yn nodi nad yw'r amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni, neu nad ydyn nhw'n debygol o gael eu cyflawni, mae adran 83 o Ddeddf 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi Ardal Rheoli Ansawdd Aer ('AQMA'). Mae Adran 84 o'r Ddeddf yn sicrhau bod rhaid gweithredu wedyn ar lefel leol, a amlinellwyd mewn Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (AQAP) penodol, i sicrhau bod ansawdd aer yn yr ardal a nodwyd yn gwella. 

 

Roedd yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol yn rhoi manylion am y data a gadarnhawyd o’r gwaith monitro ansawdd aer a wnaed yn 2018 o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ar 20 Tachwedd 2018 cymeradwyodd Cabinet CBS Pen-y-bont ar Ogwr yr argymhelliad i weithredu Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) ar Stryd y Parc yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS) sy'n Rheoli Ansawdd Aer Lleol ar ran CBS Pen-y-bont ar Ogwr. Cymeradwyodd y Cabinet fanylion y Gorchymyn AQMA arfaethedig hefyd. 

 

Cafodd Gorchymyn AQMA Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr ei weithredu'n swyddogol ar 1 Ionawr 2019. Cafodd yr ardal a ddynodwyd yn Orchymyn Rhif 1 Ardal Rheoli Ansawdd Aer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Park Street ei amlinellu yn Ffigur 1 yr adroddiad.

 

Mae Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2019 yn cadarnhau bod ansawdd aer cyffredinol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fodloni'r amcanion ansawdd aer perthnasol, fel y rhagnodir yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 a Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002.

 

Fodd bynnag, roedd yn nodedig bod ansawdd aer yn bryder cyffredin ar hyd Stryd y Parc yn 2018, sy'n cyd-fynd â ffin y Gorchymyn AQMA a weithredwyd ar 1 Ionawr 2019. Fe nodwyd hefyd fod lefelau blynyddol NO2 uwch ger Stryd y Parc a'r ffyrdd cyfagos. 

 

Nodwyd bod y gwaith monitro a wnaed ar y safle newydd ar gyfer 2018 (OBC-110), sydd wedi'i leoli ar Stryd Parc, yn dangos lefelau cyfartalog blynyddol sy’n uwch na'r amcan ansawdd aer blynyddol cyfartalog a osodwyd, sef (40?g/m3) ar gyfer NO2, a bod lefelau a fesurwyd yno hefyd yn agosáu at dorri’r amcan 1-awr; sef na ddylai ragori 200?g/m3 > 18 gwaith y flwyddyn. Cofnododd OBC-110 ffigur cyfartalog blynyddol o 58.7. ?g/m3.

 

Roedd hefyd yn hanfodol bod y safleoedd monitro a amlygwyd yn cael eu harchwilio'n ofalus a bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 412.

413.

Nodi Adroddiadau Gwybodaeth pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol er mwyn rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am yr Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi sydd wedi'u cyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf a drefnwyd.

 

Amlinellwyd manylion yr eitemau hyn ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

O ran yr adroddiad ar Lythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2018-19, roedd yr arweinydd yn falch o nodi bod llai o gwynion wedi'u gwneud i'r Ombwdsmon eleni, yn ogystal â'r ffaith fod unrhyw gwynion a ddaeth i law wedi derbyn ymateb cyflym, a’u bod wedi’u trin fel materion o bwys.

 

PENDERFYNWYD:                        Fod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddiad y dogfennau a restrir yn yr adroddiad.

414.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim