Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

428.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D Patel a CA Green.

429.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

430.

Galw i Mewn Penderfyniad y Cabinet: Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

Dechreuodd y Swyddog Monitro'r trafodaethau gan amlinellu'r weithdrefn i'w dilyn yng nghyfarfod heddiw, ac eglurodd yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a alwodd penderfyniad blaenorol y Cabinet i mewn a wnaed yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2019 (a alwyd i mewn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 4 Tachwedd 2019), mewn perthynas â phenderfyniad a wnaeth o ran y Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau, y byddai'r Aelod a ysgogodd yr alwad i mewn, y Cynghorydd T Thomas, yn cyflwyno'r adroddiad.

 

Byddai'r Cabinet yna'n cael y cyfle i ystyried sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ac unrhyw eglurhad gan y Cynghorydd Thomas, y byddai wedi hynny naill ai'n cadarnhau neu'n adolygu'r penderfyniad a wnaeth yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2019.

 

Cynghorodd y Cynghorydd Thomas fod saith Aelod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol uchod, yn unol â darpariaeth yng Nghyfansoddiad y Cyngor, wedi galw i mewn penderfyniad blaenorol y Cabinet (Rhif Cofnod: 423), am resymau a nodir ym mharagraff 4.3 i 4.8 yr adroddiad.

 

Yna amlinellodd y Cynghorydd Thomas y rhesymau hyn er budd y rhai hynny a oedd yn bresennol.

 

Roedd yn teimlo bod y cynnydd arfaethedig yn y ffioedd hurio ar gyfer defnydd o'r caeau chwarae a'r pafiliynau wedi bod yn benderfyniad emosiynol iawn a bod hyn wedi cael ei ategu gan y ffaith, nad oedd dim llai na 20 o siaradwyr cyhoeddus a gafodd y cyfle i leisio eu pryderon wedi darparu rhesymau pam na ddylid cymryd y penderfyniad hwn, yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol. Roedd y rhan fwyaf o'r siaradwyr yn gynrychiolwyr Clybiau a Chymdeithasau Chwaraeon wedi eu lleoli o fewn y Fwrdeistref Sirol, gan gynrychioli rygbi, pêl-droed, criced a bowls.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, yn dilyn cryn dipyn o ddadlau, gyfeirio'r mater yn ôl i'r Cabinet fel y gallai'r Gyfarwyddiaeth ailystyried ei phenderfyniad blaenorol.

 

Roedd y Cynghorydd Thomas yn gwerthfawrogi bod Clybiau wedi cael eu hannog i fanteisio ar gyllid parhaus gan y Cyngor drwy'r rhaglen Drosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT), fodd bynnag, roedd ef a sawl un o arall o'i gyd-aelodau, yn teimlo bod y broses CAT yn gymhleth iawn ac yn brin o adnoddau, ynghyd â'r ffaith bod llawer o Glybiau a Chymdeithasau yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr.

 

Gofynnodd yr Arweinydd, yn dilyn cyflwyniad y Cynghorydd Thomas, i Aelodau'r Cabinet a oedd ganddynt unrhyw gwestiynau i'w cyflwyno i'r Cynghorydd Thomas mewn perthynas â phenderfyniad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i alw i mewn penderfyniad cynharach y Cabinet.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Gymunedau gydnabod bod Aelodau wedi codi rhai pryderon yngl?n â CAT, ond roedd yn meddwl tybed a oedd hyn mewn perthynas â'r broses CAT ddiwygiedig, a adolygwyd ym mis Gorffennaf 2019 a oedd yn fwy syml a haws i'w deall, neu'r hen broses.  Gofynnodd y Cynghorydd Young a oedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi cydnabod hyn, cyn argymell bod y Cabinet yn ailystyried ei benderfyniad blaenorol.

 

Atebodd y Cynghorydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 430.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z