Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 9fed Chwefror, 2021 14:30

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1/2/3, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  MA Galvin

Media

Eitemau
Rhif Eitem

611.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

 

612.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 hyd 2024-25 a'r Broses ar gyfer Ymgynghori ar Ddrafft y Gyllideb pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol adroddiad er mwyn cyflwyno sylwadau, canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (PTChC) ynghylch cynigion Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor gerbron y Cabinet.

 

Er rhwyddineb, dywedodd fod y PTChC wedi rhannu'r argymhellion i wahanol atodiadau, fel a ganlyn:

 

Roedd canfyddiadau ac argymhellion Panel Ymchwil a Gwerthuso'r Gyllideb (PYGG) ynghylch Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-2022 hyd 2024-2025 wedi'u cynnwys yn Atodiad A ac Atodiad B yr adroddiad.

 

Roedd y sylwadau a'r argymhellion o gyd-gyfarfod yr holl Bwyllgorau Craffu ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 hyd 2024-25 yn Atodiad C yr adroddiad.

 

           Roedd y PTChC wedi derbyn argymhellion a sylwadau PYGG a chyd-gyfarfod yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ynghylch cynigion y SATC, ac felly wedi cytuno i'w cyflwyno gerbron y Cabinet.

 

Mynegodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch i Aelodau'r Pwyllgorau Craffu, gan gynnwys y PTChC a PYGG, am eu gwaith caled a'u diwydrwydd dyladwy wrth gyfrannu eu sylwadau ar gynigion y SATC i'w hystyried gan y Cabinet. Ychwanegodd y byddai'r sylwadau a'r argymhellion a wnaed drwy hyn yn cael eu hystyried yn ofalus ac yn derbyn ymateb gan y Weithrediaeth. Ategwyd hyn gan yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a'r Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio, yn eu tro.

 

Teimlai Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol y gallai hefyd fod yn adeg dda i ailystyried rôl a chylch gwaith PYGG, er mwyn gweld a ellid cyflwyno unrhyw welliannau i'w ddull gweithredu, gan gadw mewn cof fod y panel wedi cael ei gyflwyno 3 blynedd yn ôl bellach, hy, ychydig ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ar drothwy'r weinyddiaeth newydd.

 

Teimlai'r Arweinydd y byddai hyn yn fuddiol, yn enwedig ochr yn ochr â'r gwahanol ffyrdd yr oedd y Cyngor bellach yn cynnal ei fusnes, hy, drwy gynnal cyfarfodydd o bell ac ati. Cyfeiriodd at Argymhelliad 12 yng ngwybodaeth ategol yr adroddiad, sef y dylid sefydlu gweithgor i fynd ati'n weithredol i ddynodi buddsoddiadau untro cymharol fach ar lwybrau diogel i'r ysgol, a allai gael eu gosod yn erbyn costau parhaus trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn croesawu'r argymhelliad hwn.

 

Diolchodd hefyd i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a PYGG am eu mewnbwn i gynigion y Gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD:             Cytunodd y Cabinet hwnnw i ystyried argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Craffu Corfforaethol, mewn ymateb i Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 hyd 2024-25 a'r Broses ar gyfer Ymgynghori ar Ddrafft y Gyllideb, ac y byddai'r sylwadau ar y rhain yn adroddiad y SATC yn cael eu hystyried yng nghyfarfod y Cyngor ar y Gyllideb yn ddiweddarach y mis hwn.

 

613.

Polisi Atal Efadu Trethi pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, adroddiad er mwyn cyflwyno'r Polisi Atal Efadu Trethi newydd i'w gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir, ac ar ôl hynny cadarnhawyd bod y Cyngor wedi ymrwymo i sefydlu a chynnal trefniadau effeithiol i ganfod achosion o lwgrwobrwyo, llygredd ac efadu trethi mewn perthynas â'i wasanaethau Cyngor. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob Aelod Etholedig a chyflogai arddangos y safonau uchaf o onestrwydd ac uniondeb, gan gynnwys cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

 

Esboniodd fod gan y Cyngor eisoes bolisïau Atal Twyll a Llwgrwobrwyo, ac Atal Gwyngalchu Arian mewn grym i gefnogi trefniadau effeithiol i atal a chanfod achosion o lwgrwobrwyo a llygredd. Roedd y rheiny'n cael eu monitro a'u hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Erbyn hyn, ychwanegodd fod polisi wedi cael ei ddatblygu'n benodol er mwyn ymdrin â'r angen i atal efadu trethi, a byddai'r polisi hwn yn cynnig ymagwedd gydlynol a chyson i bob cyflogai ac unrhyw un sy'n cyflenwi gwasanaethau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac ar ei ran. Roedd y Polisi Atal Efadu Trethi wedi'i atodi yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Roedd y datganiad polisi hwn yn atodol i Strategaeth Atal Twyll a Llwgrwobrwyo ehangach y Cyngor, a nodai'r prif gyfrifoldebau o ran atal twyll, a'r hyn i wneud pe  ceir amheuaeth o dwyll neu afreoleidd-dra ariannol, a'r camau a gymerir gan reolwyr o ganlyniad i hynny.

 

Diolchodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid i'r Rheolwr Cyllid - Llywodraethu a'r Trysorlys am ei gwaith caled er mwyn datblygu'r Polisi.

 

Cymeradwyodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a fyddai'n diogelu'r Awdurdod ac yn sicrhau bod pawb a ddylai dalu treth yn gwneud hynny go iawn. Gofynnodd a oedd darpariaethau'r Polisi'n berthnasol hefyd i aelodau lleol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid eu bod yn berthnasol.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a fyddai staff yn derbyn hyfforddiant ar y Polisi. Mewn ymateb i hyn, dywedodd y Rheolwr Cyllid - Llywodraethu a'r Trysorlys y byddai modiwl hyfforddi e-ddysgu yn cael ei roi ar waith ar gyfer hyn, fel y gwnaed â'r Polisi Atal Twyll a gyflwynwyd yn flaenorol.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn dymuno gwneud pwynt ynghylch Taliadau Uniongyrchol a'r ymgyrch i gwsmeriaid bregus o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol dderbyn a newid i hyn. Dywedodd ei bod am gael sicrwydd y byddai digon o wybodaeth yn cael ei rhannu a hyfforddiant ar gael i'r rhai sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol er mwyn sicrhau na fyddai'r math hwnnw o gwsmer, yn benodol, yn gweithredu'n groes i'r gyfraith ar ddamwain. Dywedodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod angen cyfleu'n glir wrth yr unigolion hyn beth oedd eu cyfrifoldebau fel cyflogeion, a sicrhau bod ganddynt fynediad at yr wybodaeth gywir.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 613.

614.

Y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet i gynnwys eitemau ynn ei Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfnod 1 Mawrth 2021 hyd 30 Mehefin 2021.

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, caiff y Flaenraglen Waith ei pharatoi gan y Swyddog Monitro i gynnwys cyfnod o bedwar mis, ac eithrio pan fydd etholiadau arferol y cynghorwyr yn cael eu cynnal. Bryd hynny bydd y Flaenraglen Waith yn trafod y cyfnod hyd at ddyddiad yr etholiadau.

 

Esboniodd y bydd y Flaenraglen Waith yn cynnwys eitemau ar ffurf adroddiadau, y byddai'r Cabinet, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Cyngor llawn yn debygol o'u hystyried.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad yr oedd Blaenraglen Waith y Cabinet (Atodiad 1), Blaenraglen Waith y Cyngor (Atodiad 2) a'r Flaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu (Atodiad 3) i'w nodi.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ei bod hi'n bwysig i'r cyhoedd weld eitemau amserol a oedd ar ddod wedi'u clustnodi ar gyfer agendâu'r Cabinet, y Cyngor a Chraffu, er tryloywder ac er mwyn helpu i alluogi sianelau ymgysylltu ag etholwyr y Fwrdeistref Sirol. Pwrpas hyn oedd rhannu manylion adroddiadau a oedd ar ddod i'w trafod gan Aelodau/Swyddogion ar feysydd gwasanaeth allweddol y Cyngor ayyb y gallai fod ganddynt ddiddordeb ynddynt, ac er mwyn ceisio cynyddu eu diddordeb ym mhrosesau penderfynu'r awdurdod lleol, y mae rhai ohonynt yn effeithio ar y Fwrdeistref Sirol gyfan.

 

PENDERFYNWYD:                          Bod y Cabinet:

 

·         Yn cymeradwyo Blaenraglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod 1 Mawrth 2021 hyd 30 Mehefin 2021 yn Atodiad 1 yr adroddiad;

·         Yn nodi Blaenraglenni Gwaith y Cyngor a Chraffu ar gyfer yr un cyfnod â'r uchod, y naill yn Atodiad 2 a'r llall yn Atodiad 3 yr adroddiad.

 

615.

Dyfarnu Cyllid mewn Perthynas â Thrawsnewid Trefi: Grant Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth: Pentref Lles Sunnyside 2020-2021 pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i dderbyn cynnig cyllid diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ac ymrwymo i gytundeb a phridiant tir cysylltiedig â Linc Cymru (Linc) i gefnogi darparu elfennau Trawsnewid Trefi - Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth ym Mhentref Lles Sunnyside.

 

Esboniodd fod y grant Trawsnewid Trefi - Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth yn rhan o raglen Trawsnewid Trefi (TT) Llywodraeth Cymru. Bwriedir i'r rhaglen TT adeiladu ar gyflawniadau rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid 2014-2017, ond ei fod yn mabwysiadu ymagwedd ehangach at adfywio drwy gynnwys uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r blaenoriaethau a nodwyd mewn Cynlluniau Llesiant Lleol a chynlluniau eraill lleol a rhanbarthol, er mwyn gwella adfywio economaidd a llesiant cymunedol.

 

Bwriadwyd i'r rhaglen TT barhau hyd fis Mawrth 2022, a byddai'n ystyried buddsoddi mewn prosiectau a all greu canlyniadau realistig o safbwynt economaidd a chymunedol. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) yn ceisio sicrhau'r canlyniadau hyn dros flynyddoedd ariannol 2020-2021 a 2021-2022. Roedd yn rhaid i awdurdodau lleol wneud ceisiadau am gyllid iddynt hwy eu hunain neu ar ran sefydliad cyhoeddus, preifat neu drydydd sector arall.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod Linc Cymru wedi cysylltu â CBSPO i ofyn am gael cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am gyllid Seilwaith Gwyrdd i gefnogi'r elfennau seilwaith gwyrdd yn natblygiad Pentref Lles Sunnyside.

 

Prosiect arfaethedig sy'n cyfuno tai cymdeithasol, iechyd a mannau agored gwyrdd yw Pentref Llesiant Sunnyside. Mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu gan Linc Cymru a bwriedir ei leoli wrth ymyl canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r datblygiad ehangach yn cynnwys Cyfleuster Gofal Iechyd newydd a 59 o dai fforddiadwy newydd. Mae seilwaith gwyrdd yn rhan annatod o gysyniad y Pentref Llesiant, gyda'r nodweddion allweddol yn cynnwys ardal dyfu gymunol, ardal chwarae naturiol, plannu coed peirianegol, gwarchod a meithrin y coedlun presennol.    

 

Roedd £315,268 wedi'i gymeradwyo ar gyfer elfennau seilwaith gwyrdd datblygiad Sunnyside, ac un o'r amodau yn llythyr dyfarnu cyllid Llywodraeth Cymru oedd bod yn rhaid i CBSPO sefydlu telerau ac amodau priodol ar gyfer y grant yn unol â'u hamodau cyllid wrth drosglwyddo cyllid y Seilwaith Gwyrdd i unrhyw dderbynnydd trydydd parti.  

 

Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau a'i hadroddiad i ben drwy hysbysu y byddai Linc Cymru fel datblygwyr datblygiad Sunnyside yn gweithredu fel derbynwyr trydydd parti'r cyllid, a chan hynny, ei bod hi'n ofynnol i CBSPO ymrwymo i gytundeb cyllido â Linc Cymru.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Cymunedau yn croesawu'r adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio fod elfen seilwaith gwyrdd y cynigion yn ddymunol iawn, ac ystyriodd a ellid defnyddio mwy o gyllid o'r math hwn i ddarparu gwaith tebyg ar y cyd â'r hyn sydd wedi'i gynllunio ar Bromenâd y Dwyrain, Porthcawl, yn rhan o waith Tir y Cyhoedd yn y dref. Pe bai hyn yn bosibl, teimlai hefyd y byddai'n syniad da cynnwys pobl leol yn y gwaith hwnnw.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn ystyried Pentref Llesiant Sunnyside fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 615.

616.

Grant Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymrwymo i gytundeb â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT), Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ar gyfer Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020-21.

 

Esboniodd mai cynllun gan Lywodraeth Cymru a ariennir drwy grant i gefnogi darpariaeth y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yw Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020-21 (Grant ADY). Roedd hyn yn cynnwys paratoi am Ddeddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru)         2018 (Deddf TADYA) a rheoli gweithrediad y Ddeddf honno.

 

Roedd CBSRhCT, gan weithredu fel yr awdurdod lleol arweiniol, wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am y Grant ADY ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO), Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a darparwyr trydydd parti (sydd o'r sector addysg bellach ac yn fyrddau iechyd lleol yn rhanbarthau'r cynghorau).

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn ei flaen i ddweud bod y Cabinet, ym mis Rhagfyr 2019, wedi cymeradwyo ymrwymo i gytundeb tebyg, ar delerau tebyg, ar gyfer Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol 2019-2020.

 

Bu'r cais am y Grant ADY yn llwyddiannus, a dyfarnwyd hyd at £934,562 o gyllid i CBSRhCT (fel awdurdod lleol arweiniol), a gaiff ei ddyrannu i bob cyngor yn unol â'r Cynllun Gweithredu ADY.

 

Fel yr awdurdod lleol arweiniol, mae'n ofynnol i CBSRhCT dderbyn telerau ac amodau'r Grant ADY, fel y'u nodir yn y llythyr cynnig gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn cyflawni'r prosiect a sicrhau cydymffurfiaeth a'r telerau a'r amodau yn llythyr y cynnig, mae CBSRhCT yn gofyn i'r Cyngor, ynghyd â'r 3 awdurdod lleol arall a restrir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad, ymrwymo i gytundeb yn gysylltiedig â'r Grant ADY. Bydd y cytundeb yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r cynghorau, a'r dull o ddyrannu'r cyllid.

 

O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, cyfanswm gwerth y grant ar gyfer 2020-21 oedd £934,562. Fodd bynnag, £809,562 yw'r swm sydd ar gael i awdurdodau lleol gan fod £125,000 yn cael ei gadw'n ôl i gyflogi Arweinydd Trawsnewid ADY rhanbarthol a chostau cysylltiedig, a chymorth gweinyddol ac ariannol. Dyraniad y grant sydd i'w wario gan Awdurdodau Lleol yw £248,487, ac o'r swm hwnnw mae CBSPO yn disgwyl derbyn £60,885.  Gorffennodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd drwy ddweud bod gweddill y grant yn cael ei ddyrannu i Ysgolion, Addysg Bellach ac Iechyd.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio yn croesawu argymhellion yr adroddiad a fyddai o fudd i'r holl awdurdodau lleol a oedd yn rhan o Gonsortiwm Canolbarth y De.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai'r cyllid grant o fudd i'n plant ag ADY yr oedd arnynt angen mwy o fuddsoddiad i dderbyn addysg gydradd â phobl ifanc eraill.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi bod LlC wedi gwrando ac yn parhau i ymgysylltu â'r sector, er bod angen buddsoddiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 616.

617.

Moderneiddio Ysgolion - Gogledd Ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr - Canlyniad yr Astudiaeth Ddichonoldeb ym Mryn Bracla pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd  adroddiad er mwyn:

 

           hysbysu'r Cabinet ynghylch canlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb o'r bwriad i adleoli Ysgol Gymraeg (YG) Bro Ogwr i safle Bryn Bracla, ac ehangu'r ysgol honno;

           gofyn am gymeradwyaeth i hepgor safle Bryn Bracla o unrhyw ystyriaethau pellach ynghylch cynnig Band B Ysgol Bro Ogwr; a

           gofyn am gymeradwyaeth i archwilio opsiynau amgen ar gyfer yr ysgol newydd.

 

Esboniodd fod Rhaglen Amlinellol Strategol (RhAS) Band B wedi'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC) ym mis Gorffennaf 2017. Ym mis Hydref 2017, cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet yn manylu ar ganlyniad adolygiad Band B, a rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i derfynu'r cynlluniau Band B gwreiddiol a nodwyd yn adroddiad Tachwedd 2010 i'r Cabinet, a chymeradwyo'r Rhaglen Amlinellol Strategol (RhAS) a'r prosiectau a restrwyd ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

 

Ar 6 Rhagfyr 2017, rhoddodd Adran Addysg LlC 'gymeradwyaeth mewn egwyddor' ar gyfer ail don fuddsoddi Pen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn costio cyfanswm o £68.2m yn ôl yr amcangyfrif ar y pryd. Roedd costau pellach i'w pennu, a byddai'r rheiny'n gysylltiedig â chapasiti seilwaith ychwanegol.

 

Yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 2020, cyflwynwyd canlyniad yr arfarniad cynhwysfawr o opsiynau yn gysylltiedig â phob un o'r prosiectau cymeradwy.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cymeradwyaeth y Cabinet wedi'i sicrhau i fwrw ymlaen ag astudiaeth ddichonoldeb o fryn Bracla yn gysylltiedig â'r opsiwn addysg a ffafrir ar gyfer cynllun Gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr, hy YG Bro Ogwr â mynediad 2.5 dosbarth ar safle Bryn Bracla.

 

Wrth fwrw ymlaen â'r astudiaeth ddichonoldeb, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod tîm y prosiect wedi comisiynu'r holl arolygon perthnasol, sydd wedi cael eu dadansoddi gan y disgyblaethau unigol. Mae pob disgyblaeth wedi cyfrannu at yr 'Adroddiad Dichonoldeb - Bryn Bracla' terfynol.

 

Roedd adrannau canlynol yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o brif agweddau'r canfyddiadau o'r astudiaeth ddichonoldeb honno (paragraffau 4.2 - 4.12, gan gynnwys y paragraffau hynny)

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd drwy ddweud, ac ystyried yr holl ffactorau hyn, mai argymhelliad y tîm prosiect oedd na ddylid bwrw ymlaen i ddatblygu'r ysgol newydd ar safle Bryn Bracla. Ychwanegodd y dylid felly archwilio opsiynau eraill am safleoedd.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio ddiolch i'r Swyddogion am yr adroddiad. Mynegodd ddiolch hefyd i Aelod Llafur Ward Bracla a chynrychiolwyr gr?p 'Save Our Fields' Bracla am drafod cynigion a chanlyniadau'r Astudiaeth Ddichonoldeb mewn modd cadarnhaol, ac am eu hystyriaeth a'u hymgysylltiad cyffredinol â'r Cabinet ynghylch lleoli YG arfaethedig Bro Ogwr. Mynegodd ddiolch hefyd i Carwyn Jones AC am gyfrannu at archwilio'r posibiliadau am gyllid ar gyfer yr ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg) ar safle(oedd) eraill addas ger Bracla, lle byddai'r ysgolion yn cael eu hailddatblygu. Teimlai fod angen ymgysylltu â Chyngor Cymuned Bracla, gyda golwg ar warchod y man glas a gynigiwyd yn wreiddiol i leoli'r ysgol(ion) rhag datblygwyr, o bosib drwy fynd ar drywydd cytundeb Trosglwyddo Ased Cymunedol ryw bryd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 617.

618.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

619.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 ar Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem ganlynol gan ei bod

yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

Ar ôl cymhwyso prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd rhoi ystyriaeth breifat i'r eitem ganlynol, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, oherwydd yn yr holl amgylchiadau a oedd yn gysylltiedig â'r eitem, ystyriwyd bod budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth.

 

620.

Moderneiddio Ysgolion - Gogledd Ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr