Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan Diddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim |
|
I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/01/2021 Cofnodion: CYTUNWYD: Y dylid derbyn cofnodion 19/01/2021 fel bod yn gywir. |
|
Cynllun Corfforaethol 2018-2023 Adolygwyd ar gyfer 2021-2022 PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i geisio cefnogaeth i Gynllun Corfforaethol 2018-2023 y Cyngor a adolygwyd ar gyfer 2021-22 (Atodiad A) cyn ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gadarnhau.
Eglurodd fod y Cynllun Corfforaethol 2018-2023, yn disgrifio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, ein 3 nod lles a’r gwerthoedd sefydliadol sy’n Sylfaen i’r modd yr ydym yn gweithio ac yn cyflawni ein blaenoriaethau. Mae hefyd yn cynrychioli’r cyfraniad i gyflawni’r 7 nod lles cenedlaethol.
Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cynllun Corfforaethol wedi’i adfywio ar gyfer 2021-22. Digwyddodd hyn yn sgil proses gynllunio’r Cynllun Corfforaethol gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol / Penaethiaid Gwasanaethau drwy dîm rheoli adrannol pob Cyfarwyddiaeth. Cynhaliwyd y broses rhwng mis Hydref 2020 a mis Rhagfyr 2020 er mwyn adolygu gwelliant a chreu cynllun symlach.
Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y targedau a osodwyd wedi mynd yn angof yn sgil Covid-19, oherwydd nad oedd y dangosyddion perfformiad a’r data a gasglwyd yn nodweddiadol o berfformiad blwyddyn gyffredin.
Cyfeiriodd at y ffaith fod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu wedi ystyried y cynllun diweddaraf ar 14 Ionawr 2021 gan wneud nifer o sylwadau adeiladol, a ychwanegwyd at y cynllun diweddaraf os yn ddichonadwy. Byddai’r Pwyllgor yn parhau i fonitro’r cynnydd yn unol â’r cynllun.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid am yr adroddiad. Nododd mai dyma’r adroddiad pwysicaf i’r Cabinet ei dderbyn ac roedd yn falch iawn o ymroddiad yr Aelodau drwy gyfrwng y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu fel y dangoswyd yn y cynllun.
Croesawodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar yr adroddiad gan nodi, o ystyried y sefyllfa yr oeddem wedi bod yn ei wynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ei bod yn falch o weld cydweithio a bod sawl perthynas wedi’i chryfhau. Eglurodd fod yr agenda atal yn hollbwysig ac wedi’i chydnabod felly yn ystod y pandemig.
Cefnogodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywiad y datganiad yn ymwneud â dangosyddion perfformiad gan ddweud fod hyn yn amlwg iawn o fewn y sector addysg. Talodd deyrnged i brif athrawon, athrawon, rhieni a phlant oedd wedi dioddef caledi yn ystod Covid-19 gan ddweud fod yr heriau’n drechadwy.
Diolchodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol yr holl swyddogion oedd wedi cyfrannu at yr adroddiad a’i wneud mor ddarllenadwy. Cyfeiriodd at nifer o feysydd pwysig oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad gan nodi ei bod yn falch i weld fod yr agwedd amgylcheddol yn bwysig a heb fynd yn angof ymysg eraill.
Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i bawb a fu’n rhan o lunio’r adroddiad ac roedd yn hynod falch o’r staff oedd wedi camu i’r adwy yn ystod y cyfnod anodd hwn – nifer ohonynt yn ymgymryd â rôl newydd ac anghyfarwydd. Diolchodd hefyd i’r tîm cyllid am ddosbarthu gwerth £30 miliwn o grantiau busnes i fusnesau lleol oedd eu hangen.
Pwysleisiodd yr Arweinydd fod llawer o fanylion yr adroddiad yn bwysig ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 624. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 i 2024-25 PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn cynnwys y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 i 2024-25, a gynhwysir yn Atodiad 3, gan gynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2021-25, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2021-22 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2020-21 tan 2030-31.
Eglurodd fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) yn atodol i Gynllun Corfforaethol y Cyngor, a’i fod yn cynnig yr adnoddau i alluogi’r Cyngor i gyflawni ei amcanion lles. Amlinellodd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) yr egwyddorion a rhagdybiaethau manwl sy’n gyrru cyllideb a phenderfyniadau gwariant y Cyngor, y cyd-destun ariannol ar gyfer gweithrediadau’r Cyngor, gan geisio lleihau unrhyw risgiau a phwysau ariannol wrth symud ymlaen, yn ogystal â manteisio ar unrhyw gyfleoedd posib.
Ychwanegodd fod setliad terfynol llywodraeth leol ar gyfer 2021-22 tua deufis yn hwyr na’r arfer, yn sgil yr oedi yng nghanlyniad Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr llywodraeth y DU, o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Nid oedd disgwyl cyhoeddi’r setliad terfynol tan 2 Mawrth 2021 ac oherwydd hynny, cyflwynwyd y gyllideb hon ar sail y setliad dros dro a dderbyniwyd ym mis Rhagfyr 2020. Cyflwynwyd cefndir pellach yn adran 4 yr adroddiad.
Amlinellodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid oblygiadau ariannol fel y nodwyd yn adran 8 yr adroddiad. Pwysleisiodd mai’r risg ariannol fwyaf oedd yn wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd oedd yr un yn ymwneud â’r ansicrwydd yngly?n ag ariannu Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cyllid i leihau effaith Covid-19, yr anhawster cynyddol wrth gyflwyno’r toriadau arfaethedig yn y gyllideb yn ogystal ag adnabod argymhellion pellach.
Diolchodd yr Arweinydd i’r tîm am yr holl waith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) yn ogystal â’r Rhaglen Gyllid 2020-21 tan 2030-31 yn enwedig yn wyneb heriau’r flwyddyn ddiwethaf.
Holodd y Dirprwy Arweinydd os oedd yna unrhyw argymhellion eraill o safbwynt y gyllideb.
Dywedodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd yna unrhyw argymhellion eraill o safbwynt y gyllideb. Dydd Gwener diwethaf oedd y dyddiad cau ar gyfer cynnig argymhellion eraill, a doedd dim wedi dod i law o fewn y cyfnod gofynnol.
Diolchodd Dirprwy Arweinydd y Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb am yr amser a dreuliwyd yn ystyried y wybodaeth, craffu a chynnig mewnbwn. Ychwanegodd fod mewnbwn Aelodau Annibynnol y Panel yr un mor werthfawr. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y 14 argymhelliad a wnaed gan y Panel gan ymhelaethu ar ymatebion y Cabinet.
Pwysleisiodd yr Arweinydd fod cyfraniadau’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu a phob Aelod etholedig y tu allan i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hefyd yn werthfawr ac wedi eu hystyried wrth lunio’r gyllideb, a oedd yn amlwg yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a gyflwynwyd.
Dywedodd yr Arweinydd na chafodd yr argymhellion ar gyfer y gyllideb eu datblygu dros nos, a bod y broses wedi bod yn un hir a chraff a ddechreuodd bron yn syth ar ôl y gyllideb flaenorol. Gofynnodd i’r Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid i egluro’r llinell amser yn y cyswllt hwn.
Eglurodd y Prif ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 625. |
|
Strategaethau Rheoli’r Trysorlys a Chyfalaf 2021-22 ymlaen PDF 602 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad oedd yn amlinellu Strategaeth Reoli’r Trysorlys 2021-22 (Atodiad A), a oedd yn cynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys, a Strategaeth Gyfalaf 2021-22 tan 2030-31 (Atodiad B), sy’n cynnwys y Dangosyddion Ariannol, a’r Datganiad Isafswm Darpariaeth Refeniw Blynyddol 2021-22 (Atodlen A o Atodiad B), cyn eu cyflwyno i’r Cyngor eu cymeradwyo.
Rhoddodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid gefndir Rheoli’r Trysorlys a’r cyswllt â gweithgareddau benthyca o safbwynt Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA). Cafwyd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.
Eglurodd fod Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021-22 yn Atodiad A yn cadarnhau cydymffurfiaeth y Cyngor â Chod Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA), oedd yn gofyn am fabwysiadu amcanion ffurfiol, polisïau ac arferion, strategaethau a threfniadau adrodd cynhwysfawr, a rheoli risg yn effeithiol fel prif amcanion y gweithgareddau yma. Amlinellodd amrywiol adrannau’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021-22 a’r Strategaeth Gyfalaf 2021-22 tan 2030-31.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddiolch i’r Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid am yr adroddiad cynhwysfawr a’r tîm oedd wedi gweithio’n galed i’w lunio.
Nododd y Dirprwy Arweinydd, yng nghyswllt yr estyniad i fenthyg arian o £1 filiwn i £2 filiwn ar gyfer cerbyd pwrpas arbennig, nad oedd hyn yn golygu y byddai’r Cyngor yn gwneud hynny, a byddai angen cyfiawnhad ar gyfer y fath lefel o wariant.
Holodd y Dirprwy Arweinydd am fanylion pellach yngly?n â’r asesiad dichonolrwydd a faint o fanylion fyddai eu hangen.
Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid mai bwriad yr argymhellion a wnaed gan Archwiliad Mewnol oedd cryfhau’r cyswllt rhwng dichonolrwydd a chost ac effeithiolrwydd y gwaith ac i sicrhau fod y Cyngor wedi dysgu gwersi oddi wrth waith blaenorol yng nghyswllt cynllunio.
Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod dichonolrwydd yn rhan hanfodol o unrhyw brosiect yr oedd y Cyngor yn ymgymryd ag ef, a bod elfennau yr edrychwyd arnynt yn lefel cyraeddadwy, gochelgar o fuddsoddiad, boed angen caniatâd cynllunio ai peidio yn ogystal â risg. Arweiniodd hyn at ddyraniad cadarn o safbwynt y gyllideb gan gynnwys cronfa wrth gefn o 10-15% ar gyfer unrhyw amgylchiadau anrhagweledig a allai ddigwydd.
Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol yngly?n â dichonolrwydd a oedd yn dangos manylder y gwaith ar brosiectau a chymaint o reoli risg a chynllunio i’r dyfodol oedd yn digwydd.
CYTUNWYD: Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad gan nodi y dylai’r canlynol gael eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo:
|
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim |