Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Cyhoeddodd yr holl Swyddogion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac eithrio'r Rheolwr Gr?p - AD a Datblygu Sefydliadol, y Dadansoddwr Swyddi a'r Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Pwyllgorau fuddiant niweidiol yn eitem 5 yr Agenda a gadawsant y cyfarfod wrth i'r adroddiad hwn gael ei ystyried. |
|
Derbyn cyhoeddiadau gan: (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu) (ii) Aelodau’r Cabinet (iii) Prif Weithredwr Cofnodion: Y Maer Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau.
Aelodau’r Cabinet Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau.
Prif Weithredwr Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Datganiad Polisi Cyflog - 2020/2021 PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a'i bwrpas oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer y Datganiad Polisi Cyflog ar gyfer 2020/2021.Roedd hyn mewn ymateb i ofynion deddfwriaethol ac i ddarparu didwylledd ac atebolrwydd mewn perthynas â sut mae'r Cyngor yn gwobrwyo ei staff.
Dywedodd Rheolwr y Gr?p - AD a Datblygu Sefydliadol fod gofyniad statudol ar y Cyngor o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, Adran 38 (1), i baratoi datganiad polisi tâl ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd 2020/21. Roedd angen cymeradwyo a chyhoeddi'r datganiad hwn erbyn 31 Mawrth 2020.
Mae'r datganiad polisi tâl yn darparu'r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar dâl, ac yn benodol gwneud penderfyniadau ar dâl uwch.
Roedd y Datganiad Polisi Tâl wedi'i ddiweddaru i'w ystyried gan y Cyngor ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad.
Cadarnhaodd y Rheolwr y Gr?p - AD a Datblygu Sefydliadol, fod hwn wedi'i gynhyrchu yn unol â gofynion Deddf Lleoliaeth 2011, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddatblygu a chyhoeddi eu polisi ar bob agwedd ar dâl Prif Swyddogion.
Dywedodd, wrth gloi, bod y polisi tâl, ers ei gyflwyno ar 1 Ebrill 2012, wedi datblygu i ystyried canllawiau, deddfwriaeth a newidiadau perthnasol i strwythur uwch reolwyr y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl 2020/2021 sydd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad. |
|
Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020-21 PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, i hysbysu’r Cyngor o Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel ac ystod y gydnabyddiaeth ariannol y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei darparu i'w Aelodau ar gyfer blwyddyn y cyngor 2020/21.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybod am Adroddiad Atodol Drafft a gyhoeddwyd gan y Panel yn ymwneud ag ad-dalu Costau Gofal sy'n destun ymgynghori.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 yn darparu ar gyfer sefydlu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Hwn oedd deuddegfed Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel), a'r nawfed a gyhoeddwyd o dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad). Ymestynnodd y Mesur gyfrifoldebau'r Panel a'i bwerau o dan Adran 142 i benderfynu (rhagnodi) taliadau i aelodau awdurdodau perthnasol.
Dangoswyd penderfyniadau Adroddiad Blynyddol 2020 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn Atodiad 2 yr adroddiad, er hwylustod.
Er bod cyllid y sector cyhoeddus yn parhau i gael ei gyfyngu, dywedodd bod y Panel o'r farn bod cyfiawnhad dros gynnydd yn y cyflog sylfaenol. Mae wedi penderfynu y bydd cynnydd o £350 y flwyddyn (sy'n cyfateb i 2.5%) yn weithredol o 1 Ebrill 2020 i'r cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau prif gynghorau. Mae'r cynnydd arfaethedig i'r cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau prif gynghorau yn cydnabod y dyletswyddau sylfaenol a ddisgwylir gan yr holl Aelodau Etholedig. Cynigiwyd cyflog sylfaenol o £14,218 yn 2020/2021 ar gyfer Aelodau Etholedig prif gynghorau. (Penderfyniad 1).
Penderfynodd y Panel na thelir unrhyw godiadau ychwanegol i ddeiliaid cyflogau uwch yn 2020-21. Derbyniodd yr aelodau godiad yn adroddiad blynyddol y llynedd a bydd deiliaid cyflogau uwch yn derbyn cynnydd yr elfen gyflog sylfaenol yn unig. Bydd y lefelau cyflog uwch yn 2020-21 ar gyfer aelodau prif gynghorau fel y nodir yn Nhabl 5, tudalen 17 yr adroddiad (mae Atodiad 1 yn cyfeirio at hyn). Mae'r Panel o'r farn mai'r rolau arwain a gweithredol sydd â'r atebolrwydd unigol mwyaf a bod maint y boblogaeth yn parhau i fod yn ffactor o bwys wrth ddylanwadu ar lefelau cyfrifoldeb ac felly mae'r defnydd o'r grwpiau poblogaeth wedi'i gadw. (Penderfyniad 2).
O ran yr Adroddiad Atodol Drafft, cynigiodd y Panel set o egwyddorion y dylid eu mabwysiadu gan yr holl awdurdodau perthnasol ac mae wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori yn gofyn am gyflwyno ymatebion i'r Panel erbyn 9 Ebrill 2020, cyn cyhoeddi'r Adroddiad terfynol. Mae'r adroddiad atodol drafft yn nodi cynigion y Panel ar gyfer ymgynghori, sydd ynghlwm yn Atodiad 3 i'r adroddiad ac yn nodi'r isafswm y dylai'r awdurdodau ei wneud a sut y gellid gwneud hyn mewn perthynas ag Ad-dalu Costau Gofal. Pwrpas y cynnig yw galluogi pob aelod ac aelod cyfetholedig awdurdodau perthnasol i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol.
Eglurodd y Swyddog Monitro, bod yr adroddiad atodol drafft, wedi'i gylchredeg i Arweinwyr Gr?p ac y byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Mawrth 2020, er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y set o egwyddorion ac ymateb i’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 413. |
|
Adroddiad Gwybodaeth ar gyfer ei Nodi PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod adroddiad y Prif Swyddog AD, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio sy’n manylu ar Adroddiad Gwybodaeth y Pennaeth Cyllid, o’r enw ‘Trafodion Partïon Cysylltiedig 2019-20 a Datganiad Cyfrifon,’ a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor, yn cael ei nodi. |
|
I dderbyn y cwestiynau canlynol i’r Weithrediaeth gan: CwestiwnI’r Dirprwy Arweinydd wrth Cynghorydd MC Voisey
1. Faint o achosion llys, (dirwyon, gorchmynion atafaelu enillion ac ati) a'r defnydd o feilïaid a ddefnyddiwyd gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y 12 mis diwethaf er mwyn adennill y dreth gyngor sydd heb ei thalu, a faint a adenillwyd drwy gamau o'r fath?
CwestiwnI’r Arweinydd wrth Cynghorydd A Hussain
2. A allai'r Arweinydd roi gwybod i'r Cyngor pa drafodaeth os o gwbl a gafodd ef â Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd pan wnaethant benderfynu israddio'r Gwasanaeth Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac, os bydd hynny’n digwydd, sut y mae Ysbyty Tywysoges Cymru yn mynd i ymdopi?
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cytuno i ohirio'r ddau gwestiwn i aelodau'r Cabinet, fel yr amlinellwyd yn eitem 8 ar yr Agenda, i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol. |
|
Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd RE Young
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod y dystiolaeth wyddonol ysgubol o newid ym mhatrymau’r tywydd fel y dangoswyd gan y glaw a'r llifogydd digyffelyb a welwyd yn ddiweddar, yn lleol a thrwy'r DU gyfan hefyd, ac mae o'r farn fod hyn yn dystiolaeth bellach i gynhesu byd-eang, ac felly'n credu'n bendant fod argyfwng hinsawdd yn bodoli erbyn hyn, ac oherwydd hynny’n galw ar Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i ddarparu’r canlynol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
a. y pwerau a'r adnoddau angenrheidiol i wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn niwtral o ran carbon
b. lefelau o adnoddau ar raddfa i ymateb i'r heriau a wynebir a phrosesau ar gyfer cael gafael ar yr adnoddau hynny fydd yn ei gwneud yn bosibl gweithredu ar y cyfle cyntaf
i) Sefydlu mecanweithiau ymgysylltu priodol er mwyn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol
ii) Ymgymryd ag adolygiad ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o’r camau presennol ar gyfer ymateb i argyfwng yn yr hinsawdd
iii) Datblygu Strategaeth Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd a chynllun gweithredu wedi ei flaenoriaethu sy’n esbonio camau sydd i’w cymryd yn y tymor byr, canolig a hir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cytuno’n unfrydol i ohirio'r Hysbysiad o Gynnig, fel yr amlinellwyd yn eitem 9 o'r Agenda, i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |