Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Datganiadau o fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiannau |
|
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer y Cynghorydd M Jones Cofnodion: Traddododd y Maer yr araith ymadawol a ganlyn.
‘Mae’n sicr wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cyflawni rôl Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyn imi grynhoi’r daith nodedig hon, hoffwn ddweud wrthych am ddigwyddiad anhygoel a gynhaliwyd yma yn Siambr y Cyngor.
Ar 14 Ebrill cynhaliwyd seremoni fabwysiadu gennym yn y Swyddfeydd Dinesig. Digwyddiad oedd yn dod â phroses fabwysiadu ar gyfer pobl ifanc arbennig i ben.
Gall pob un ohonom gydnabod bod Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar, efallai am rai rhesymau anghywir, ond mae'r digwyddiad hwn yn darlunio’r gwaith anhygoel parhaus sy'n cael ei wneud i gefnogi plant ifanc nad ydynt efallai wedi cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Ymwelodd saith teulu gwahanol â Siambr y Cyngor. Teuluoedd estynedig balch yr oedd yn bleser eu cyfarfod. Roedd y cariad a’r edmygedd a ddangosid tuag at y plant i’w deimlo ac roedd eu gwylio’n rhedeg o amgylch y Siambr, rhai ohonynt yn eistedd yng nghadair y Maer yn gwisgo cadwyn y Maer gyda balchder ac yn gwneud defnydd da o’r morthwyl graean pren hwn, yn bleser i’w wylio.
Nid wyf yn petruso o gwbl cyfaddef fy mod ar rai adegau, wrth gynnal busnes swyddogol y digwyddiad, wedi cael anhawster i reoli fy emosiynau fy hun.
Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad anhygoel hwn, yn enwedig ein Cyfarwyddwr Clare Marchant ac Aelod y Cabinet/y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Jane Gebbie, rydych yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth, ac felly llongyfarchiadau i chi i gyd.
Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel. Mae cael mynychu cymaint o ddigwyddiadau yn y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt wedi bod yn wych. Gaf i ddiolch i bawb am fy ngwahodd i’ch achlysuron arbennig?
O ddigwyddiadau cymunedol i ysgolion a cholegau, digwyddiadau elusennol, i gyngherddau gyda'r nos a llawer o seremonïau gwobrwyo. Roeddwn yn cael fy nghyfarch â chwrteisi a gwerthfawrogiad bob tro.
Os oes yna un neges, y gallaf ei chyfleu i eraill, honno yw bod y Fwrdeistref Sirol hon yn gyfoethog o bobl anhygoel sy'n Falch ac yn Gadarnhaol. Yn rhy aml mae'r newyddion / cyfryngau yn canolbwyntio ar agweddau negyddol bywyd modern.
Efallai, efallai, y gallent fynd allan i gymunedau a chyfarfod â'r bobl anhygoel yma sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas. Pobl nad ydynt yn edrych am wobr na chydnabyddiaeth ond yn mynd ymlaen â bywyd bob dydd i gefnogi eraill.
Mae ein proses Gwobrau Blynyddol y Maer yn nodi'r positifrwydd hwn yn glir.
Felly, mae Aelodau yn parhau i wneud yr enwebiadau hynny, mae gan bob ward, pob tref yr hyrwyddwr cymunedol hwnnw.
Roedd marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn sydyn ac annisgwyl. Cyfnod trist a difrifol i ni i gyd.
Roedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel pob ardal arall ar draws y Gymanwlad mewn cyflwr o alar. Mynychais lawer o wasanaethau mewn eglwysi ac yn yr eglwys gadeiriol a gwelais â'm llygaid fy hun y parch cymunedol a ddangoswyd tuag at y ddiweddar frenhines.
Roedd darllen y datganiad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 127. |
|
|
Ethol y Maer am y cyfnod hyd at fis Mai 2024 yn unol ag Adran 23(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 · • Y Maer newydd ei ethol i gyhoeddi ei Gymar Cofnodion: PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd William Kendall yn Faer am y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2024
Cadarnhaodd y Cynghorydd Kendall mai ei wraig, June Kendall, fyddai ei Faeres Gydweddog. |
|
|
Ethol y Dirprwy Faer am y cyfnod hyd at fis Mai 2024 yn unol ag Adran 24(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 · • Y Dirprwy Faer sydd newydd ei ethol i gyhoeddi ei Gymar. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Heather Griffiths yn Ddirprwy Faeres am y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2024.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Griffiths mai David Griffiths, ei g?r, fyddai ei Dirprwy Faer Cydweddog. |
|
|
Ethol Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cofnodion: Enwebwyd y Cynghorydd HJ David heb wrthwynebiad yn Arweinydd y Cyngor am y flwyddyn ddilynol.
PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd HJ David yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y flwyddyn ddilynol, tan fis Mai 2024.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelodau am yr hyder a osodwyd ynddo unwaith eto fel Arweinydd yr Awdurdod a sicrhaodd yr Aelodau y byddai'n parhau i gymryd y rôl bwysig hon o ddifrif fel yr oedd wedi gwneud o’r blaen yn y gorffennol, er mwyn medru gwneud y gorau a allai i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont a'r etholwyr sy'n byw yn ei chymunedau. |
|
|
Yr Arweinydd i hysbysu’r Cyngor am yr Aelodau oedd i gael eu penodi i’r Cabinet gan gynnwys portffolio’r Dirprwy Arweinydd ac Aelodau’r Cabinet. Cofnodion: Roedd yr Arweinydd yn falch i gadarnhau y byddai Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys yr Aelodau canlynol:-
Y Cynghorydd HJ David – Arweinydd Y Cynghorydd J Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Y Cynghorydd HM Williams – Aelod y Cabinet dros Gyllid ac Adnoddau Y Cynghorydd N Farr – Diogelwch Cymunedol a Lles Y Cynghorydd JP Blundell – Aelod y Cabinet dros Addysg Y Cynghorydd JC Spanswick – Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd Y Cynghorydd R Goode – Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywiad
|
|
|
Rhaglen arfaethedig Cyfarfodydd Cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau’r Cyngor Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a phwrpas hwn oedd cynnig rhaglen o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau’r Cyngor ar gyfer Mai 2023 - Ebrill 2024 i’w chymeradwyo (Atodiad 1 i’r adroddiad) a nodi’r rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn ddinesig Mai 2024 – Ebrill 2025 (yn Atodiad 2).
Dywedodd fod angen cymeradwyo rhaglen cyfarfodydd cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau’r Cyngor yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro, er mwyn cynorthwyo gyda chynllunio ar gyfer y dyfodol, fod rhaglen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2024/25 ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad i'w nodi. Efallai y bydd y rhaglen hon yn destun rhai diwygiadau pellach, cyn iddi gael ei chymeradwyo yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor y flwyddyn nesaf.
Nododd Aelod fod gwall teipograffyddol yn Atodiad 2 i'r adroddiad, lle roedd cyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf yn cael ei ddangos fel yn dechrau am 15:00 o'r gloch, pan ddylai fod yn 16:00. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y câi hyn ei newid.
Nododd yr Aelod hefyd nad oedd unrhyw gyfarfodydd Cyngor wedi cael eu hamserlennu ar gyfer Rhagfyr 2023 a Rhagfyr 2024, yn yr atodiadau ynghlwm.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y câi'r rhain eu cynnwys yn Rhaglen y Cyfarfodydd yn y dyfodol, ar ddyddiadau na fyddai'n gwrthdaro ag unrhyw gyfnodau gwyliau ar yr adegau hyn.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor:-
a. yn cymeradwyo rhaglen arfaethedig cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2023/24 a nodwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad;
b. yn cymeradwyo rhaglen arfaethedig cyfarfodydd Pwyllgorau'r Cyngor ar gyfer yr un cyfnod, a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;
c. yn nodi rhaglen ddrafft dros dro cyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau'r Cyngor ar gyfer 2024/25 a nodwyd yn Atodiad 2 i'r adroddiad;
d. yn nodi dyddiadau arfaethedig y Cabinet, unrhyw Bwyllgorau Cabinet a Chyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo oedd hefyd wedi eu nodi yn Atodiadau 1 a 2 i'r adroddiad hwn, er gwybodaeth. |
|
|
Penodiadau i Bwyllgorau a Chyrff Eraill y Cyngor Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a’i ddiben oedd gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer penodi Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a’r cyfryw Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli a chyrff eraill ag yr oedd y Cyngor yn eu hystyried yn briodol, i ymdrin â materion nad ydynt wedi eu cadw i’r Cyngor llawn nac ychwaith yn swyddogaethau gweithredol.
Ynghlwm wrth yr adroddiad yr oedd yr Atodiadau ategol canlynol:-
• Rôl, cylch gwaith a swyddogaethau Pwyllgorau a Chyrff eraill y Cyngor - Atodiad 1; • Cydbwysedd gwleidyddol arfaethedig Pwyllgorau, ac yn y blaen - Atodiad 2 • Strwythur Arfaethedig Pwyllgorau - Atodiad 3
Roedd paragraff 4.11 yr adroddiad yn argymell rhai newidiadau i Dempled yr Adroddiad Corfforaethol yr oedd ei angen bellach ar gyfer pob adroddiad Pwyllgor. Roedd y newidiadau hyn yn ymwneud ag ymgorffori dyletswydd economaidd-gymdeithasol a’r goblygiadau ar gyfer y Gymraeg, cysylltiadau â’r newid yn yr hinsawdd, diogelu a rhianta corfforaethol, yn ogystal â chynnwys crynodeb gweithredol, er mwyn i’r sawl fyddai’n darllen yr adroddiad a’r sawl fyddai’n gwneud penderfyniadau allu ymgyfarwyddo’n gyflym â chynnwys yr adroddiad. Cynigiwyd bod y templed newydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adroddiadau Pwyllgorau o 18 Mai 2023, yn dilyn cyfarfod heddiw.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor :-
(1) wedi penodi'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a’r cyfryw Bwyllgorau eraill ag yr oedd y Cyngor yn eu hystyried yn briodol i ymdrin â materion nad ydynt wedi cael eu cadw i'r Cyngor llawn nac yn swyddogaethau gweithredol;
(2) wedi pennu maint a chylch gorchwyl y Pwyllgorau hynny fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;
(3) wedi penderfynu ar ddyraniad y seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â'r rheolau cydbwysedd gwleidyddol fel y nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad;
(4) wedi penderfynu pa grwpiau gwleidyddol a gynrychiolid yn y Cyngor oedd â'r hawl i wneud pa benodiadau Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu;
(5) wedi derbyn enwebiadau ac wedi penodi Cynghorwyr i wasanaethu ar bob un o’r Pwyllgorau, Paneli a chyrff eraill (fel y nodwyd), fel sydd ynghlwm fel Atodiad i’r cofnodion hyn:-
· Panel Apeliadau · Pwyllgor Penodiadau · Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio · Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd · Pwyllgor Rheoli Datblygu · Pwyllgor Trwyddedu · Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 · Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned · Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 · Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2 · Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 · Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol
(6) Wedi derbyn enwebiadau a phenodi Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau, Paneli a chyrff eraill a ganlyn (fel y nodwyd), gan nodi y bydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod cyntaf a drefnir yn penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd, o blith ei Aelodau Lleyg:
Ar gyfer penodi Cadeirydd y Panel Apeliadau, derbyniwyd dau enwebiad, a gynigiwyd ac a eiliwyd yn briodol, sef Y Cynghorydd H Bennett a'r Cynghorydd N Clarke.
Felly cynhaliwyd pleidlais, a’r canlyniad oedd:-
Y Cynghorydd Bennett – 29 pleidlais Y Cynghorydd Clarke – 18 pleidlais Nid oedd neb yn ymatal
PENDERFYNWYD: Penodi’r Cynghorydd H Bennett yn Gadeirydd y Panel Apeliadau am y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2024.
Derbyniwyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 133. |
|
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol a Phwyllgorau eraill Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro Adroddiad a diben hwn oedd gofyn i’r Cyngor gymeradwyo penodi Aelodau i Banel Heddlu a Throsedd De Cymru, Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Caerdydd a Gr?p Cynllunio Strategol De Ddwyrain Cymru fel y nodwyd yn yr adroddiad yn Atodiad 1, am y flwyddyn ddilynol hyd at fis Mai 2024.
Derbyniwyd yr enwebiadau canlynol, y ddau wedi eu cynnig a’u heilio’n briodol, ar gyfer penodi aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Caerdydd:
Y Cynghorydd P Davies a’r Cynghorydd I Williams.
Felly cynhaliwyd pleidlais ynghylch y penodiad hwn, a’r canlyniad oedd:-
Y Cynghorydd P Davies - 28 pleidlais Y Cynghorydd I Williams - 22 pleidlais Nid oedd neb yn ymatal
Derbyniwyd yr enwebiadau canlynol, y ddau wedi eu cynnig a’u heilio’n briodol, ar gyfer penodi Dirprwy aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Caerdydd:
Y Cynghorydd S Griffiths a’r Cynghorydd T Thomas.
Felly cynhaliwyd pleidlais ynghylch y penodiad hwn, a’r canlyniad oedd:-
Y Cynghorydd S Griffiths - 27 pleidlais Y Cynghorydd T Thomas - 23 pleidlais Nid oedd neb yn ymatal
PENDERFYNWYD: (1) Penodi'r Cynghorydd P Davies yn aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Caerdydd a phenodi'r Cynghorydd S Griffiths yn Ddirprwy Aelod. (2) Penodi'r Cynghorydd J Llewellyn-Hopkins yn aelod o Banel Heddlu a Throsedd De Cymru. (3) Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu (y Cynghorydd RM Granville) yn aelod o Gr?p Cynllunio Strategol De Ddwyrain Cymru. |
|
|
Arwisgo Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2023/2024 Cofnodion: Yn dilyn cymeradwyo enwebiad y Cynghorydd W Kendall yn Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2023/2024, gwahoddwyd y Cynghorydd Kendall gan y Maer oedd yn ymadael, i dderbyn Swydd y Maer yn ffurfiol. Derbyniodd y Cynghorydd Kendall swydd y Maer ar lafar ac adroddodd y llw ganlynol:–
“Yr wyf i William Kendall yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn dwyn gwir deyrngarwch i'w Fawrhydi y Brenin, Charles y Trydydd.”
Estynnodd y Cynghorydd M Jones ei longyfarchiadau i’r Maer newydd.
Wedyn traddododd y Maer, oedd newydd ei ethol, yr araith ganlynol.
Rwyf yn sefyll ger eich bron heddiw gydag ymdeimlad dwys o ddiolchgarwch wrth imi dderbyn yr anrhydedd aruthrol o gael fy mhenodi’n Faer ein Bwrdeistref Sirol. Rwyf yn gwerthfawrogi'r ymddiriedaeth a'r hyder yr ydych chi wedi ei osod ynof, ac rwyf yn addo cyflawni fy nyletswyddau gydag ymroddiad ac uniondeb.
Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r Maer sy'n ymadael nid yn unig fel teyrnged i'w wasanaeth rhagorol fel Maer ond hefyd fy niolchgarwch personol am y mentora y mae wedi ei roi imi yn fy rôl fel Dirprwy Faer.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gynnig fy niolch i Roger Harrison sydd wedi rhoi arweiniad di-feth ar bob achlysur y bu ei angen.
Hoffwn hefyd ddiolch i Dîm y Gwasanaethau Democrataidd am eu cyngor a'u cwnsela yn ystod fy nghyfnod fel Dirprwy Faer.
Mae'n fraint i mi gyhoeddi’r Maer Ieuenctid newydd, Ellie O’Connell, a’r Dirprwy Faer Ieuenctid, Daisy Davies, - llongyfarchiadau i Ellie a Daisy yn eu swyddi.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i gyhoeddi mai fy elusen enwebedig yw Ambiwlans Awyr Cymru.
I ddinasyddion ein Bwrdeistref Sirol, mae'n anrhydedd mawr i mi gael y cyfrifoldeb o wasanaethu fel eich Maer. Mae arnaf eisiau eich sicrhau y bydd fy neiliadaeth yn cael ei nodweddu gan dryloywder, cynwysoldeb, ac ymrwymiad diysgog i wasanaethu budd gorau pob un ohonoch.
Rwyf yn deall ein bod fel Aelodau etholedig i gyd yn bencampwyr ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, mae gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol gyfrifoldebau i leisio pryderon preswylwyr ac i'w cynorthwyo i wireddu eu dyheadau. Fel Maer byddaf yn cadw hyn mewn cof ym mhob penderfyniad y byddwn yn ei wneud.
Diolch i chi, a gadewch inni gyda'n gilydd wneud ein Bwrdeistref Sirol yn lle gwell fyth i’w alw’n gartref.
Felly wrth bawb, rwyf yn dweud ‘ymlaen â ni gyda hyder’. |
|
|
Arwisgo’r Faeres Gydweddog Cofnodion: Cyhoeddodd y Maer oedd yn ymadael y Cynghorydd M Jones ei fod yn falch i gadarnhau mai June Kendall fyddai Maeres Gydweddog y Maer newydd. |
|
|
Arwisgo Dirprwy Faeres Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2023/2024 Cofnodion: Cadarnhaodd y Maer oedd yn ymadael y Cynghorydd M Jones fod y Cyngor yn gynharach wedi cymeradwyo enwebu’r Cynghorydd H Griffiths yn Ddirprwy Faeres Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y flwyddyn 2023-24. Felly gwahoddodd y Cynghorydd Griffiths i dderbyn y cynnig hwn o swydd. Derbyniodd y Cynghorydd Griffiths y cynnig o swydd y Dirprwy Faeres gyda phleser mawr, gan ychwanegu ei bod yn edrych ymlaen at gefnogi’r Maer oedd newydd gael ei ethol, y Cynghorydd W Kendall, fel rhan o’r swydd anrhydeddus hon a roddwyd iddi. |
|
|
Arwisgo’r Dirprwy Faer Cydweddog Cofnodion: Cyhoeddodd y Maer oedd yn ymadael y Cynghorydd M Jones mai ei bleser pellach oedd cadarnhau mai David Griffiths fyddai Dirprwy Faer Cydweddog y Ddirprwy Faeres newydd. |