Agenda, decisions and minutes

Cyngor - Dydd Mercher, 19eg Gorffennaf, 2023 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB /remotely via Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

151.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

152.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Elaine Winstanley fuddiant personol yn yr adroddiad “Diweddariad Chwarter 1 Rhaglen Gyfalaf 2023-24” a “Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol 2023-24 a’r Fframwaith Perfformiad” gan ei bod yn cael ei chyflogi gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen oedd yn rheoli Pafiliwn y Grand, T? Bryngarw a Neuadd y Dref Maesteg.

 

Datganodd y Cynghorydd Heidi Bennett fuddiant rhagfarnus yn y “Cynigion ar gyfer y Trefniadau Trosolwg a Chraffu ar y Cyd yn dilyn y newid i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer Cwm Taf Morgannwg” gan ei bod yn Aelod o’r BGC ar ran ei chyflogwr, sef BAVO.

 

Mewn perthynas ag eitem 11 ar yr agenda, “Derbyn y Cwestiynau a ganlyn”:

 

Datganodd y Cynghorydd Richard Williams fuddiant personol gan ei fod yn aelod o Fwrdd Gwarchodwyr Walia Coety ac yn Aelod o Gyngor Tref Pencoed.

 

Datganodd y Cynghorydd Elaine Winstanley fuddiant rhagfarnus gan mai hi oedd y person cyfrifol ar gyfer dau adeilad CBSP, oedd yn cael eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

 

Datganodd y Cynghorydd Paula Ford fuddiant rhagfarnus gan ei bod ar Fwrdd Gwarchodwyr Walia Coety.

153.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 430 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 21/06/23

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo cofnodion 21/06/2023 fel cofnod gwir a     chywir.

154.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Croesawodd y Maer Ellie O’Connell, sef Maer yr Ifanc, oedd yn bresennol i arsylwi’r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Maer at ddigwyddiadau yr oedd wedi bod ynddynt yn ddiweddar, yn cynnwys:

 

·       Agor Gorymdaith Diwrnod y Lluoedd Arfog gan Arglwydd Raglaw  Canol Morgannwg.

·       Digwyddiad Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. 

·       Gerddi agored Cefn Cribwr. 

·       “First Give” yn Ysgol yr Archesgob McGrath lle bu’n rhan o’r panel oedd yn penderfynu ar y tîm a enillodd y grant o £1000 gan First Give.

·       Ras 10 cilometr Porthcawl lle y cychwynnodd Heriau’r Dyfodol a Ras y Teulu.

·       Noswaith Gyraeddiadau CCYD lle y dathlwyd llwyddiannau ardderchog y dysgwyr.

·       Cynhyrchiad Ysgol Brynteg o ‘Grease’ ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl.

·       Yr Orymdaith Heddwch Ryng-ffydd, cyfle unigryw i ymweld ag Eglwys, Synagog a Mosg i gyd yn yr un diwrnod. Trefnwyd hyn gan yr elusen Cofio Srebrenica, ac roedd yn cael ei noddi gan Gydraddoldeb Hiliol.

·       Sioe Fawr Pen-y-bont ar Ogwr, lle’r ymunodd â’r Gwasanaeth Atal a Lles i ddathlu llwyddiannau’r arweinwyr a’r llysgenhadon ifanc ffantastig.

 

Y Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd

 

Fe wnaeth y Dirprwy arweinydd hefyd fynd i'r Sioe Fawr, digwyddiad a ddatblygwyd i ddathlu ymdrechion gwirfoddoli a sgiliau arwain pobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol. Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd gyflwyniad arbennig i gydnabod gwaith yr oedd llysgenhadon y gofalwyr ifanc wedi bod yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu.

 

Esboniodd y Dirprwy Arweinydd gynllun y cerdyn adnabod, oedd yn cael ei gydnabod gan ysgolion, meddygfeydd, fferyllwyr ac archfarchnadoedd. Roedd mwy na 300 o gardiau gofalwyr ifanc bellach yn cael eu defnyddio, ac roedd eu potensial yn cael ei ehangu ymhellach i ddarparu mynediad am bris gostyngol a manteision eraill gyda busnesau lleol. Ar y cyd â’r Cyngor a phartneriaid y 3ydd sector roeddent wedi datblygu digwyddiadau megis diwrnodau “Rydym yn cael ein gwerthfawrogi” oedd yn gyfleoedd i wneud gweithgareddau gyda’u hysgolion na fyddent yn eu cael fel arall. Bu llysgenhadon gofalwyr ifanc hefyd yn helpu i ddatblygu'r Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc lle gallai pobl ifanc leisio'u barn, tra’n cynnig mewnwelediad a barn ar ystod eang o faterion oedd yn effeithio arnynt.

 

Aelod y Cabinet - Cyllid, Adnoddau a Chyfreithiol

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor, yn dilyn yr aflonyddwch sylweddol yn gynharach yn yr wythnos pan aeth y systemau TGCh i lawr a chyfyngu ar fynediad at systemau cyfrifiadurol, y wefan gorfforaethol, y system ffôn a nifer o wasanaethau rhyngweithiol. Esboniodd fod y tîm TGCh wedi gweithio'n ddiflino i ganfod a chywiro'r broblem, ac wrth i faint y mater ddod i'r amlwg, cychwynnwyd y cynllun parhad busnes.


Anfonwyd negeseuon a diweddariadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol a throsglwyddwyd pob cyswllt ffôn i’r system wrth gefn. Gweithiodd staff rownd y cloc i sicrhau bod yr holl systemau'n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl. Byddai adolygiad yn cael ei gynnal yn awr ac yn y cyfamser, diolchodd i'r tîm TGCh, a chydnabod eu hymdrechion a'u harbenigedd wrth fynd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 154.

155.

Derbyn Cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad byr i'r Aelodau ar y sefyllfa gyda Zimmer Biomet. Roedd penderfyniad y cwmni i gau safle Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn syndod llwyr, ac roedd wedi ysgrifennu at yr uwch reolwyr i fynegi siom aruthrol na fu rhagrybudd na chyfle i drafod y mater ymlaen llaw. Anogodd hwy i ailystyried eu penderfyniad, ac ymrwymo i ddatblygu ac ystyried dewisiadau eraill. Pe bai'r ffatri'n cau, byddai effaith y penderfyniad hwn yn cael ei deimlo nid yn unig gan y gweithlu o 540, ond hefyd gan fusnesau o fewn y gadwyn gyflenwi ac eraill oedd wedi dod i ddibynnu ar fasnach gysylltiedig â Zimmer Biomet a'i staff. Roedd cymorth a chefnogaeth yn cael ei gynnig i bawb yr oedd y newyddion wedi effeithio arnynt. Roeddent hefyd yn hyrwyddo CBS Pen-y-bont ar Ogwr fel lle rhagorol i fuddsoddi ynddo, gyda chyngor ar gyllid a chymorth cychwyn busnes, cyfleoedd rhwydweithio cryf, cysylltiadau cyfathrebu rhagorol a gweithlu lleol medrus iawn a mwy. Roedd trafodaethau gyda Zimmer Biomet yn parhau, ac roeddent yn canolbwyntio'n gadarn ar greu twf a ffyniant yn y dyfodol ac annog busnesau eraill i ddod i weld beth oedd gan yr ardal i'w gynnig.

 

Ar nodyn hapusach, dathlodd un o gyflogwyr mwyaf hirsefydlog y fwrdeistref sirol, Gr?p WEPA, ei ben-blwydd yn 75 oed. Roedd WEPA ymhlith y tri gwneuthurwr papur hylendid Ewropeaidd mwyaf ac roedd yn arwain y farchnad yn ei ddefnydd o ffibr wedi'i ailgylchu. Ym mis Mehefin 2020, cymeradwyodd y Cyngor gynlluniau’r cwmni ar gyfer ehangiad gwerth £100 miliwn a ddyblodd gynhyrchiant yn y ffatri a chreu 54 o swyddi newydd a diogelu mwy na 270 o swyddi presennol.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth yr Aelodau fod Ffliw Adaraidd pathogenig iawn, neu ‘ffliw adar’, wedi’i gadarnhau mewn nifer o leoliadau ac mewn nifer o gytrefi adar gwyllt yng Nghymru. Dywedodd na ddylai aelodau'r cyhoedd godi na thrin corff aderyn marw na cheisio codi aderyn oedd yn sâl ac mewn trallod. Pe bai ieir d?r gwyllt marw neu adar yn cael eu darganfod, dylid rhoi gwybod amdanynt gan ddefnyddio’r canllawiau ar-lein sydd ar gael gan Gov.UK, neu ffonio llinell gymorth Defra ar 034 59 33 55 77. Pe bai aderyn gwyllt sâl neu anafus yn cael ei ddarganfod, dylid cysylltu â’r RSPCA ar 0300 1234 999.

 

Llongyfarchodd yr Arweinydd CPD Pen-y-bont am frwydro yn ôl yn erbyn Clwb Pêl-droed Santa Coloma o Andorra i gael gêm gyfartal 1-1. Cymal cyntaf eu Gêm Ragbrofol Cynghrair Cynhadledd Europa UEFA hefyd oedd y gêm Ewropeaidd gyntaf erioed i gael ei chynnal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe werthodd cae Bragdy Dunraven bob tocyn ar gyfer y digwyddiad yn fuan iawn. Byddai’r ail gymal yn digwydd yn fuan yn Andorra. Ynghyd â’r holl Aelodau, dymunodd y gorau iddynt.

156.

Diweddariad ar Chwarter 1 o Raglen Gyfalaf 2023-24 pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid y Diweddariad ar Chwarter 1 o Raglen Gyfalaf 2023-24, oedd yn cynnwys diweddariad ar y cyllidebau cyfalaf a gwariant fel ar 30 Mehefin 2023, fersiwn ddiwygiedig y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023-24 i 2032-33 a'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2023-24. Dangosai Atodiad A y cyllidebau a'r gwariant hyd at 30 Mehefin 2023 ar gyfer y cynlluniau unigol yn 2023-24. Rhoddai Atodiad B fanylion y rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023-24 i 2032-33 ac roedd atodiad C yn rhoi manylion y Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2023-24.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y rhaglen gyfalaf wedi newid ers mis Mawrth, a'i bod ar hyn o bryd yn dod i gyfanswm o £96.9 miliwn. Roedd y rhan fwyaf o'r cynnydd yn y rhaglen honno yn ganlyniad i lithriad o'r flwyddyn ariannol ddiwethaf i mewn i raglen eleni. Roedd Tabl Un yr adroddiad yn egluro sut y rhannwyd y rhaglen gyfalaf rhwng y gwahanol gyfarwyddiaethau. Dangoswyd manylion ariannu'r rhaglen yn nhabl dau o'r adroddiad. Adroddwyd am y newidiadau allweddol ym mharagraff 3.15 o'r adroddiad. Cadarnhaodd fod y Cyngor yn gweithredu yn unol â'r dangosyddion cymeradwy.

 

Ymddiheurodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol nad oedd y papur briffio ar y gyllideb wedi mynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd ac anogodd yr holl aelodau i geisio mynychu'r cyfarfod briffio oedd wedi cael ei aildrefnu oherwydd yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Croesawodd yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ond cydnabu'r pwysau refeniw ac ychwanegodd y byddai’r swyddogion yn ymchwilio i hyn ymhellach. 

 

Gofynnodd Aelod faint o'r rhaglen gyfalaf a neilltuwyd i risg. Atebodd y Prif Swyddog fod y rhaglen gyfalaf yn cael ei dyrannu ar sail blaenoriaethau ac y byddai llawer o'r blaenoriaethau hynny’n ymwneud â risg i'r Cyngor. Ni welwyd risg o fewn y rhaglen gyfalaf, ond roedd llawer o'r cynlluniau unigol yn ymwneud â naill ai uwchraddio, amnewid neu wella'r asedau oedd ganddynt i wneud yn si?r eu bod yn addas i'r diben.

 

Atebodd yr Aelod ei fod yn cyfeirio at arian wrth gefn a gofynnodd faint oedd yn gost adeiladu a faint oedd yn cael ei gadw ar gyfer arian wrth gefn? 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod elfen wrth gefn yn y contract o fewn pob prosiect, sef amcangyfrif fel arfer o'r hyn a allai dalu am gost annisgwyl yn ystod unrhyw brosiect penodol. O fewn y rhaglen gyfalaf, anaml y byddent yn gwario'r balans cyfan oedd ar gael ar gynlluniau ac felly roedd rhywfaint o arian wrth gefn ar gael o fewn y rhaglen. Ni fyddai pob eitem yn y rhaglen gyfalaf yn digwydd ar yr un pryd, felly pe bai angen cyllid ychwanegol ar bethau yn gynnar yn y rhaglen gyfalaf, byddai effaith ar bethau a nodwyd yn ddiweddarach yn y rhaglen. Roedd yn rhaid iddynt reoli'r risg honno yn y ffordd honno yn hytrach na dim ond nodi un swm ar gyfer risg. Roeddent  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 156.

157.

Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol 2023-24 a’r Fframwaith Perfformiad pdf eicon PDF 1019 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn cynnig Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol (CPDP) blwyddyn i gefnogi Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor a Fframwaith Perfformiad Corfforaethol wedi’i ddiweddaru i gynorthwyo’r Cyngor i fesur cynnydd arno. Esboniodd fod yr adroddiad yn seiliedig ar lawer o ymgysylltu, ymgynghori ac adborth o amrywiaeth o ffynonellau dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gan gynnwys gan Aelodau o ran sesiwn briffio aelodau. Roedd yn adlewyrchu rhai o'r awgrymiadau a'r argymhellion gan Aelodau a rhai o'r argymhellion gan Archwilio Cymru ynghylch sut yr oedd yr awdurdod yn rheoli perfformiad wrth symud ymlaen.

 

Eglurodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad eu bod wedi symud i ddull cynllun cyflawni blynyddol. Ers y sesiwn briffio ddiweddar i'r holl Aelodau, roeddent wedi treulio amser gyda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i barhau i wneud gwelliannau fel yn y cynllun oedd o'u blaenau. Roedd Cynllun Cyflawni newydd y Cynllun Corfforaethol  yn cynrychioli casgliad llawer gwell o wybodaeth ar gyfer llywio'r broses o wneud penderfyniadau a dylai roi darlun cynhwysfawr o gynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol. Amlinellodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad y prif welliannau gan ychwanegu bod y Graddedigion yn ei thîm wedi dechrau ar y gwaith cefndirol ac y ceid diweddariad yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gobeithiai fod hon yn ddogfen ddefnyddiol oedd yn esbonio rhai pethau oedd wedi bod yn aneglur yn y gorffennol ac yn amlinellu'n ddefnyddiol rolau a chyfrifoldebau swyddogion ac Aelodau a'r berthynas a'r ddibyniaeth rhyngddynt.

 

Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i'r Prif Weithredwr, y Rheolwr Polisi a Pherfformiad a'i thîm am ymgysylltu â'r Pwyllgor ac am yr holl waith yr oeddent wedi ei wneud ar y Cynllun Cyflawni a'r Fframwaith Perfformiad. Roedd hwn yn gam mawr yn y cyfeiriad cywir wrth fynd i'r afael â rhai o'r gwendidau yn ymwneud â rheoli perfformiad, a godwyd gan Archwilio Cymru. Roedd yn ymwybodol mai dyma ddechrau'r broses ac y byddai'r dogfennau'n esblygu, yn hyblyg ac yn rhwydd wrth i'r Cynllun Cyflawni a'r Fframwaith symud i'r cam nesaf. Ychwanegodd, yn hytrach na monitro meysydd gwasanaeth o fewn eu seilos unigol eu hunain, bod angen iddynt fabwysiadu ymagwedd fwy cyfannol a chysoni gwaith craffu yn fanwl i ganolbwyntio mwy ar berfformiad. Roedd y Tîm Craffu yn gweithio ar fodel arfaethedig ar gyfer hyn, a châi'r dewisiadau eu cyflwyno maes o law.

 

Diolchodd Aelod i'r swyddogion am yr asesiad gonest o ble yr oedd yr awdurdod a ble yr oedd yn mynd. Cyfeiriodd at y modd yr oeddent wedi defnyddio'r adborth a ddarparwyd gan Archwilio Cymru yn benodol i egluro'n well sut byddai llwyddiant yn edrych i gael ei rannu fel Cyngor, fel trigolion a rhanddeiliaid.

 

Eglurodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad sut y byddai Cynllun Datblygu'r Cynllun Corfforaethol yn mynd i'r afael â pheth beirniadaeth a rhoddodd nifer o enghreifftiau.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod rhai elfennau yr oeddent yn dal i fod mewn deialog yn eu cylch gydag Archwilio Cymru, lle nad oeddent yn cytuno'n llwyr. Roedd enghreifftiau da iawn o fewn y Cyngor o ddefnyddio data i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 157.

158.

Cynigion ar gyfer y Trefniadau Trosolwg a Chraffu ar y Cyd yn dilyn y newid i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer Cwm Taf Morgannwg pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad ar y trefniadau craffu arfaethedig ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg, yn dilyn y newid i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Esboniodd, er mwyn lleihau dyblygu a’i gwneud yn bosibl cydweithio’n fwy effeithiol, fod y ddau Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd yn eu lle ar y pryd o fewn yr ôl troed wedi symud ymlaen i uno er mwyn creu BGC newydd ar gyfer ardal Cwm Taf Morgannwg. Byddai’r uno hwn yn galluogi’r BGC i alinio ag ôl troed y bwrdd iechyd wrth symud ymlaen.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, er mwyn sicrhau atebolrwydd democrataidd y BGC, fod gofyniad statudol wedi cael ei nodi yn y ddeddfwriaeth a chanllawiau i Bwyllgor Craffu dynodedig Llywodraeth Leol yr awdurdod perthnasol graffu ar waith y BGC.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol yr aelodaeth a’r trefniadau arfaethedig ar gyfer Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Cwm Taf Morgannwg a chyfeiriodd sylw’r Aelodau at y Cylch Gorchwyl Drafft, a fyddai, unwaith y cytunwyd arno, yn cael ei adolygu o bryd i’w gilydd, er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r diben. Awgrymwyd y dylid symud ymlaen i benodi’r Cadeirydd yn flynyddol, ond er mwyn cael mwy o gysondeb cynigiwyd nad oedd angen cylchdroi penodiadau rhwng awdurdodau yn flynyddol ac y gellid ailbenodi cadeirydd presennol. Cynigiwyd symud y trefniant hwn yn ei flaen am gyfnod o ddwy flynedd cyn cynnal adolygiad o'r trefniant.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt 3.12 yn yr adroddiad ynghylch penodi’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ac awgrymodd ei bod yn bwysig i awdurdodau cyfansoddol gael cyfran o berchnogaeth yn y corff newydd hwn ac y dylid dod â chylchdroi i mewn, o leiaf bob 3 blynedd, i fod o gymorth i roi aeddfedrwydd ychwanegol i'r corff. Derbyniai’r ddadl y byddai arbenigedd yn cael ei ennill ond roedd yna wrthddadl, ac awgrymodd welliant.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol y gofynnwyd i'r Cyngor gymeradwyo'r Cylch Gorchwyl Drafft a gwneud unrhyw sylwadau pellach fel y teimlent yn briodol ac felly nad oedd angen newid ar hyn o bryd gan y byddai unrhyw sylwadau'n cael eu cymryd i fyny gan y BGC a chraffu. Byddai'n cael ei adolygu o bryd i'w gilydd i sicrhau ei fod yn addas i'r diben. 

 

Gofynnodd Aelod pa gymorth y gallai aelodau etholedig ddisgwyl ei gael i sicrhau y gallent graffu’n briodol ar waith y BGC. Atebodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol y byddent yn trefnu hyfforddiant fel y nodir yn y Cylch Gorchwyl ac y byddent yn cysylltu â'r Comisiynydd Llesiant i weld beth oedd ar gael.

 

Atebodd Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio ei fod ef a’r Arweinydd wedi cael cyfarfod cynhyrchiol iawn gyda Chomisiynydd newydd Cenedlaethau’r Dyfodol ychydig wythnosau ynghynt lle buont yn trafod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 158.

159.

Penodiadau i’r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn hysbysu’r Aelodau bod lleoedd gwag ar gyfer Aelodau Annibynnol ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor a bod angen penodiadau i lenwi’r swyddi gwag hyn. Hefyd yn dilyn adborth o gyfarfod o'r Pwyllgor Safonau, fe argymhellwyd cyflwyno adroddiad i'r Aelodau i gadarnhau cylch gorchwyl y Pwyllgor a'r cefndir deddfwriaethol.

 

Amlinellodd y Swyddog Monitro rôl a swyddogaethau'r Pwyllgor fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd y Cyngor eisoes wedi cymeradwyo cynyddu aelodaeth y Pwyllgor i 8 aelod, oedd yn ychwanegu Aelod annibynnol ychwanegol at y cyfansoddiad. Roeddent wedi cael gwybod yn ddiweddar am farwolaeth drist Mr Jeff Baker, oedd yn aelod annibynnol ac yn fwy diweddar, roeddent wedi derbyn ymddiswyddiadau Mrs Judith Keeley a Mr Cliff Jones, y ddau yn aelodau annibynnol. Roedd gan y Pwyllgor, felly, 4 lle gwag ar gyfer aelodau annibynnol.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod y panel, yn dilyn proses gyfweld drylwyr, wedi argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r penodiadau canlynol: Mr Peter Baker, Miss Sue Maughan, Mr Roy Lynch a Mr Shawn Cullen. Eisteddodd y Cyng Graham Walters ar y panel cyfweld a chadarnhaodd fod y rhain yn ymgeiswyr addas.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yn gywir mai dim ond un ferch oedd yn cael ei phenodi a gofynnodd pa gamau oedd yn cael eu cymryd i ddenu mwy o ferched pan fyddai swyddi gwag yn codi yn y dyfodol.

 

Atebodd y Swyddog Monitro fod 3 neu 4 ymgeisydd wedi bod ar y dechrau ond mai 1 oedd wedi aros i'r cam cyfweld gan fod y lleill wedi tynnu'n ôl o'r broses. 

 

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn eithaf pryderus oherwydd y byddai'r Pwyllgor hwn yn edrych ar safonau ar draws y Fwrdeistref Sirol ar gyfer pob rhyw ac mai dim ond un ferch oedd yna. Roedd y penodiadau hyn am bedair blynedd ac roedd angen iddynt annog gwell cynrychiolaeth o blith y trigolion.

 

Atebodd y Swyddog Monitro fod yna reoliadau yr oedd angen iddynt eu dilyn wrth hysbysebu, a dywedai’r rhain pwy oedd yn gymwys ac wedyn roeddent wedi gosod yr hysbysebion priodol a'u cylchredeg i awdurdodau lleol eraill. Ni chawsant ymateb gwych i'r pedair swydd wag ond teimlai fod yr ymgeiswyr yn fwy amrywiol o ran eu proffil oedran, y ddemograffeg, eu gyrfaoedd a’r lle yr oeddent yn byw ac felly bod yna well cydbwysedd yn awr.

 

Cytunodd Aelod gyda'r Dirprwy Arweinydd a thynnodd sylw at y ffaith, o ran penodiadau gwleidyddol, fod hynny o fewn gallu Arweinwyr Grwpiau. Ychwanegodd nad oedd gan ei gr?p ef gynrychiolaeth ar y Pwyllgor hwnnw.

 

Nododd Aelod y gallai fod diffyg amrywiaeth ar draws cyfansoddiad y panel ac awgrymodd yn y dyfodol, wrth edrych ar hyrwyddo'r cyfleoedd hyn, eu bod hefyd yn cysylltu â sefydliadau fel Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched Cymru, Stonewall a Chyngor Hiliaeth Cymru i gael mwy o amrywiaeth.

 

Gofynnodd aelod i Aelodau'r Pwyllgor Safonau, ar wahân i ryw, ai'r bobl a benodwyd oedd y bobl orau yn eu barn hwy i gyflawni'r rôl y gofynnwyd iddynt ei chyflawni. Cadarnhaodd y Cynghorydd Walter  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 159.

160.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, AD a Pholisi Corfforaethol y Cyngor am adroddiad gwybodaeth i'w nodi, oedd wedi cael ei gyhoeddi ers y cyfarfod arferol diwethaf. Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau oedd yr adroddiad gwybodaeth.

 

Cofnododd yr Arweinydd ddiolch y Cyngor i’r Cadeirydd oedd yn gadael,

Mr Jones OBE, ac i Mrs J Keily am eu cyfraniad i waith y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi’r adroddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

161.

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Cyng Freya Bletsoe i Aelod y Cabinet dros Cyllid, Adnoddau a Chyfreithiol

 

Mae adroddiadau dros y penwythnos ym mhapur newydd y Times wedi tynnu sylw at y ffaith y ceir o hyd mewn adeiladu cyhoeddus fel ysgolion, swyddfeydd, llyfrgelloedd ac yn y blaen, flynyddoedd yn ddiweddarach, lefelau sylweddol o asbestos yng ngwneuthuriad yr adeiladau hynny. Mae'r adroddiad yn datgan, er gwaethaf gwybod am y materion hyn, mai ychydig neu ddim y mae awdurdodau'n ei wneud i gael gwared ar yr asbestos ac felly liniaru'r risg i iechyd pobl.

 

Oherwydd y dylid yn gyfreithiol gadw cofrestr asbestos fesul ystafell o bob adeilad yr effeithiwyd arno, ac mae’n ddiamau y bydd asbestos yn nifer sylweddol o adeiladau y mae CBSP yn eu rheoli neu'n eu cynnal, hoffwn ofyn beth mae'r awdurdod hwn yn ei wneud i liniaru niwed yn y gweithle i athrawon, llyfrgellwyr a staff swyddfeydd oddi wrth effeithiau tymor hir asbestos a beth mae'r awdurdod hwn yn ei wneud i ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu mewn ystafelloedd sydd ag asbestos ynddynt - yn unol â'n rhwymedigaethau statudol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

 

Hoffwn ofyn hefyd, fel aelod etholedig a Chadeirydd Craffu, am gael gweld y gofrestr risg ddiweddaraf ac adroddiadau cysylltiedig am yr asbestos sydd yn yr adeiladau yr ydym yn eu goruchwylio.

 

Cyng Ian Williams i Aelody Cabinet dros Cyllid, Adnoddau a Chyfreithiol

 

Gyda nifer yr ymwelwyr yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ei chael yn anodd cyrraedd y lefelau cyn y pandemig, a gaf i ofyn i Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfraith pa gamau sy'n cael eu cymryd i weithio gyda chwmnïau bysiau er mwyn diogelu llwybrau presennol y bysiau (gweler ynghlwm) a lliniaru unrhyw doriadau pellach i’r gwasanaethau sy’n lleihau o hyd?

 

Ydy Aelod y Cabinet yn fodlon gwneud ymrwymiad i’r cyngor yma y bydd yn sicrhau na chaiff cymorthdaliadau eu torri ac na fydd yr achubiaeth i lawer o drigolion, sef y gwasanaethau bysiau lleol, yn gweld toriadau pellach yn ystod tymor y cyngor presennol hwn.

 

Cyng Martin Williams i'r Arweinydd

 

Mae Comin Walia Coety yn dirwedd unigryw sy'n cynnwys dros 1,000 hectar o'n bwrdeistref sirol, yn ymestyn o Bencoed i Sarn, Coety i Fryncethin a thu hwnt. Mae'r comin yn gynefin amrywiol ac yn nodwedd y dylem fod yn falch ohoni. Fodd bynnag, mae’n gornel o'n sir sydd wedi cael ei hanghofio i raddau helaeth ac wedi ei gadael i’w chynnal gan wirfoddolwyr ar gyllideb bitw. A all yr arweinydd ddweud wrthyf, os gwelwch yn dda, sut mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn cefnogi Walia Coety a pha gynlluniau sydd gan yr awdurdod i amddiffyn y cynefin hanfodol hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

CyngTim Thomas i Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

A wnaiff Aelod y Cabinet ddatganiad ar ansawdd y d?r sy’n dod o’n hafonydd a'n moroedd o fewn y Fwrdeistref Sirol?

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Freya Bletsoe i Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol

 

Mae adroddiadau dros y penwythnos ym mhapur newydd y Times wedi tynnu sylw at y ffaith, flynyddoedd yn ddiweddarach, fod gan adeiladau cyhoeddus fel ysgolion, swyddfeydd, llyfrgelloedd ac yn y blaen lefelau sylweddol o asbestos yng ngwead yr adeiladau hynny. Mae’r adroddiad yn pwysleisio, er eu bod yn gwybod am y materion hyn, nad yw awdurdodau’n gwneud fawr ddim, os o gwbl, i gael gwared ar yr asbestos ac felly liniaru’r risg i iechyd pobl.

 

Yn gyfreithiol, dylid cadw cofrestr o asbestos fesul ystafell ar gyfer pob mangre yr effeithiwyd arno, ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd nifer sylweddol o safleoedd y mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn eu rheoli neu’n eu cynnal ag asbestos ynddynt, a gaf fi ofyn beth y mae’r awdurdod hwn yn ei wneud i liniaru niwed yn y gweithle i athrawon, llyfrgellwyr a staff swyddfa oddi wrth effeithiau hirdymor asbestos a beth mae’r awdurdod hwn yn ei wneud i ddiogelu plant sy’n cael eu haddysgu mewn ystafelloedd sydd ag asbestos ynddynt – yn unol â’n rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

 

A gaf i hefyd ofyn, fel aelod etholedig a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu, am gael gweld y gofrestr risg gyfredol a'r adroddiadau cysylltiedig ar gyfer asbestos sydd wedi ei gynnwys yn y safleoedd yr ydym ni’n eu goruchwylio.

 

Ymateb

 

Mewn ymateb i'r cwestiwn, byddem yn cynghori mai ymagwedd a pholisi'r awdurdod ar reoli asbestos yw mynd ati i reoli'r asbestos yn y fan a'r lle, er mwyn sicrhau bod cynhyrchion asbestos yn parhau i fod mewn cyflwr da a diogel, gan gyflawni ein rhwymedigaethau statudol o dan Reoliadau Rheoli Asbestos 2012 y fframweithiau cyfreithiol sy’n sail i reoli asbestos mewn eiddo annomestig.

 

Mae’r dull hwn yn adlewyrchu canllawiau Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar reoli asbestos sy’n cynghori nad yw presenoldeb asbestos yn berygl i iechyd pan gaiff ei reoli a’i gynnwys yn ddiogel ac nad yw’n beryglus ond pan fydd rhywun yn tarfu arno. Nid ydym yn ymroi’n systematig i gael gwared ar asbestos o fewn adeiladau, oherwydd y gall cael gwared ar asbestos yn ddiangen fod yn fwy peryglus na’i adael yn ei le a’i reoli. Fodd bynnag, rydym yn cymryd camau i gael gwared ar ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos lle yr argymhellir hyn fel rhan o'r dull rheoli, a gwneir hyn bob amser drwy gontractwyr arbenigol yn unol â methodolegau sydd wedi eu cymeradwyo. Mae’r dull hwn wedi gweld gwariant o tua £190,000 ar arolygon a monitro asbestos a buddsoddiad pellach o dros £1,000,000 ar adfer a thynnu asbestos, o flwyddyn ariannol agoriadol 2020/2021 hyd ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/2023. Nid yw'r gwariant hwn yn cynnwys gwaith cysylltiedig ag asbestos sy'n rhan o waith cynnal a chadw cynlluniedig neu brosiectau adeiladu ac felly bydd cyfanswm y gwariant ar waith sy'n ymwneud ag asbestos yn uwch.

 

Mae presenoldeb asbestos yn ein portffolio eiddo a reolir wedi cael ei nodi drwy arolygon rheoli asbestos sydd wedi cael eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 161.

162.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim