Agenda, decisions and minutes

Cyngor - Dydd Mercher, 20fed Medi, 2023 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB /remotely via Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

163.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau/Swyddogion canlynol:-

 

Y Cynghorwyr S Griffiths, T Wood, RM James, G Walter a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau.

 

164.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o fuddiannau canlynol:-

Y Cynghorydd H Bennett - Eitem 6 ar yr agenda, buddiant personol gan fod ei chyflogwr wedi ei grybwyll yn yr adroddiad fel darparwr partner.

Y Cynghorwyr J C Spanswick – Eitem 6 ar yr agenda, buddiant rhagfarnus gan fod aelod agos o’r teulu yn ymwneud â’r Gwasanaethau Plant.

Y Cynghorwyr N Clarke, Alex Williams ac H Williams – Eitem 8 ar yr agenda, buddiannau rhagfarnus gan fod gan aelodau agos o’r teulu ail gartrefi.

Y Cynghorwyr Chris Davies a D Harrison – Eitem 8 ar yr agenda, buddiannau rhagfarnus (ni roddwyd rhesymau)

Y Cynghorydd T Thomas – Eitem 8 ar yr agenda, buddiant rhagfarnus am ei fod yn gweithio i sefydliad sy’n cynrychioli buddiannau asiantau eiddo.

Y Cynghorydd S Bletsoe – Eitem 8 ar yr agenda, buddiant rhagfarnus fel Rheolwr Gweithrediadau, Cymru, i Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl sy’n cynrychioli buddiannau Landlordiaid Rhentu Preifat sy’n berchen ar ail gartrefi yn y Fwrdeistref Sirol. 

Fe wnaeth yr holl Aelodau hynny a ddatganodd fuddiannau rhagfarnus yn yr eitemau a fynegwyd uchod, adael y cyfarfod tra roedd yr adroddiadau yn ymwneud â’r materion hyn yn cael eu hystyried.

165.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 360 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/07/23.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor, dyddiedig 19 Gorffennaf 2023 fel cofnod gwir a chywir.

166.

Derbyn cyhoeddiadau:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Maer

 

Sylwch fod newid bach wedi bod i aelodaeth y Pwyllgor Rheoli Datblygu gan y bydd y Cynghorydd Johanna-Llewellyn-Hopkins yn cymryd lle'r Cynghorydd Heidi Bennett. Ni fydd hyn yn effeithio ar gydbwysedd gwleidyddol y Pwyllgor.

 

Gyda chytundeb yr Arweinwyr Grwpiau bu rhai newidiadau i’r agenda heddiw. Bydd cyhoeddiadau cyfyngedig; Bydd Eitem 9 yn cael ei gohirio tan y Cyngor ym mis Hydref er mwyn caniatáu ymgorffori gwybodaeth ychwanegol ac ni fydd unrhyw gwestiynau gan y Cyngor yn Eitem 12 ychwaith.

 

Cafwyd un cyhoeddiad gan y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, fel a ganlyn:-

 

Cyhoeddwyd Cyd-adolygiad Asiantaethau ar effeithiolrwydd trefniadau amddiffyn plant ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ymweliadau a gynhaliwyd rhwng 12 a 16 o Fehefin gan gynrychiolwyr Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Gwasanaethau Tân ac Achub Cwnstablaeth Ei Fawrhydi, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn.

 

Er mai’r Cyngor yw’r arweinydd ar ddiogelu, bu’r adolygiad hefyd yn ystyried y camau gweithredu a’r prosesau sydd yn eu lle ar gyfer ein partneriaid diogelu statudol eraill, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Heddlu De Cymru ac roedd yn cynnwys y trefniadau gweithio mewn partneriaeth rhwng pob sefydliad wrth fynd i’r afael â cham-drin ac esgeuluso plant.

 

O ganlyniad, mae’r adroddiad helaeth wedi amlygu enghreifftiau niferus o ble mae’r trefniadau partneriaeth a’r prosesau ar gyfer pob asiantaeth unigol wedi perfformio’n dda, tra hefyd yn nodi meysydd o amrywioldeb a lle mae angen gwneud gwelliannau pellach – fel gr?p, ac fel sefydliadau ar wahân hefyd.

 

Mae’r holl bartneriaid oedd yn ymwneud â’r adolygiad wedi croesawu canfyddiadau’r adroddiad hwn, gan ei fod yn cynnig cipolwg annibynnol ar waith pob sefydliad yn ogystal ag effeithiolrwydd ein hymdrechion aml-asiantaeth.

 

Er ei bod yn arbennig o braf nodi’r lefel uchel o sylwadau cadarnhaol yn yr adroddiad, rydym hefyd wedi rhoi sylw manwl i’r meysydd hynny y mae’n rhaid eu cryfhau neu lle gellir gwneud gwelliannau.

 

Mae hyn yn cynnwys y cynnydd digynsail yn y galw, sydd wedi effeithio ar bob partner, ac wedi gorfodi gorddibyniaeth ar ddefnyddio asiantaethau a gweithredu uwchlaw’r sefydliad a ariennir yn y gwasanaethau plant.

 

Mae pob partner yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaethau diogelu gorau posibl, a chyflawni gwelliannau ym mhob maes.

 

Os oes unrhyw un yn dymuno edrych ar yr adolygiad, yna mae copïau ar gael iddo ar wefan yr Arolygiaeth Cyfiawnder ynghyd â rhagor o fanylion am waith Adolygiad ar y Cyd yr Arolygiaethau.

167.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol:

 

Mae’n debyg y cymer cau ffatri Zimmer Biomet hyd at ddwy flynedd i’w gwblhau, a bydd diswyddiadau’n digwydd drwy gydol y cyfnod hwn.

 

Roedd 69 y cant o'r diswyddiadau yn weithwyr o fewn y Fwrdeistref Sirol.

 

Ar y cyd â phartneriaid, rydym wedi cyfarfod ag uwch reolwyr yn y ffatri i drafod sut y gallwn gyda’n gilydd gefnogi’r staff yr effeithir arnynt.

 

Cafwyd cyfarfod yn yr haf yng Nghanolfan Waith Pen-y-bont ar Ogwr lle’r oedd ein tîm Cyflogadwyedd a Datblygu Economaidd yn bresennol i drafod y cymorth y gall pob sefydliad ei ddarparu i Zimmer Biomet a’u staff.

 

Mae disgwyl i'r cyfnod ymgynghori swyddogol ddod i ben ym mis Hydref. Mae’r cwmni wedi datgan nad oes arnynt eisiau i Lywodraeth Cymru wneud dim ar hyn o bryd, heblaw am gynorthwyo i chwilio am gwmni newydd a allai fod â diddordeb mewn cymryd uned y ffatri ymlaen.

 

Bydd cyfarfod cyd-asiantaethol arall yn cael ei gynnal gyda'r cwmni yn ystod mis Tachwedd i drefnu cymorth addas ar gyfer y staff fydd yn colli eu swyddi y flwyddyn nesaf.

 

Ni fu’r ymdrechion i arbed Wilko yn llwyddiannus. Caeodd siop Maesteg ei drysau am y tro olaf ddoe, tra bydd siop Pen-y-bont ar Ogwr yn cau yfory.

 

Yn wreiddiol, y gobaith oedd y byddai'r ddwy siop leol wedi cael eu cynnwys ymhlith y safleoedd hynny sydd wedi cael eu prynu gan B&M a Pepco. Yn anffodus, nid yw hyn wedi cael ei wireddu.

 

O ganlyniad, mae cyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn y ddwy siop i gynnig cymorth i weithwyr sy'n cael eu diswyddo.

 

Rydym yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor uniongyrchol i staff yr effeithir arnynt, a bydd yr holl bartneriaid yn cydweithio'n agos dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i gynnig cymorth pellach.

 

Rydym yn parhau i hysbysebu a hybu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel lle rhagorol i fusnesau fuddsoddi ynddo. Bydd diweddariadau pellach ar gael wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

 

Mae Llywodraeth y DU i fuddsoddi pum can miliwn o bunnau i helpu Gwaith Dur Tata ym Mhort Talbot i symud tuag at ffyrdd glanach a gwyrddach o gynhyrchu dur.

 

O ystyried nifer uchel trigolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cael eu cyflogi yn y diwydiant, mae pryderon ynghylch adroddiadau na chafodd undebau llafur eu cynnwys yn y trafodaethau ynghylch y fargen, a bod rhybuddion cynnar wedi bod y gallai’r buddsoddiad mewn technoleg newydd hefyd arwain at golli cymaint â 3,000 o swyddi.

 

Er bod hwn yn gam cadarnhaol tuag at ddatgarboneiddio, y gobaith yw y gellir cynnal trafodaethau brys fydd yn ceisio sicrhau dyfodol cynhyrchu dur cynaliadwy yn Ne Cymru tra hefyd yn diogelu swyddi.

 

Yn ogystal â thechnoleg ffwrnais arc trydan, gallai hyn, er enghraifft, ystyried defnyddio ffyrdd gwyrdd eraill o wneud dur.

 

Fel y dywedwyd wrth yr aelodau’n gynharach, mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Siopa’r Rhiw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cau ar unwaith y prynhawn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 167.

168.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad yn amlinellu adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23, sy'n ofyniad statudol.

 

Dywedodd fod yr adroddiad yn edrych yn ôl dros 2022/23, gan amlygu’r prif gyflawniadau a heriau tra hefyd yn amlinellu blaenoriaethau allweddol y Gyfarwyddiaeth ar gyfer 2023/24.

 

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, adroddir ar berfformiad yn erbyn chwe safon ansawdd gan dynnu sylw at gamau gweithredu allweddol a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn (gweler paragraff 3.4 yr adroddiad); sut mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi perfformio yn erbyn y safonau hyn yn ystod y cyfnod hwn a'r camau allweddol ar gyfer 2023/24 i'n galluogi i gyflawni ein blaenoriaethau.

 

Roedd y dadansoddiad a ddeilliodd o’r Adroddiad Blynyddol yn tynnu ar gynnydd yn erbyn Cynllun Busnes y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, data perfformiad ar gyfer pob maes gwasanaeth ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant, barn Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel y corff rheoliadol ac  arolygol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac adborth gan bobl sydd wedi cael profiad o’r gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a’u gofalwyr.

 

Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2023/24 roedd cyflwyniad yr adroddiad blynyddol gan y Cyfarwyddwr yn nodi’r meysydd thematig allweddol ar gyfer gwella yn ystod 2023/24, er enghraifft:

 

        Clywed a gweithredu ar lais plant a theuluoedd, oedolion a gofalwyr;

        Sicrhau gweithlu sefydlog, yn cael ei gefnogi’n dda, yn llawn cymhelliant ac yn barhaol;

        Gwella ymarfer;

        Cynyddu effaith ein gwasanaethau a'n hymyriadau i’r eithaf;

        Sicrhau ymateb mwy effeithiol i blant a theuluoedd, oedolion a gofalwyr, ag anghenion cymhleth;

        Gweithio'n ddiwnïad gyda phartneriaid; a

        Rhoi systemau cudd-wybodaeth a gwybodaeth gwell yn eu lle

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod ymgysylltu ac ymgynghori yn agwedd allweddol ar yr adroddiad a’r ffordd yr ydym yn ymgymryd â'r gweithgareddau hyn, yn ogystal â throsolwg ar yr adborth sydd wedi ei gynnwys ynddo.

 

Tynnodd yr adroddiad hefyd sylw at y ffordd yr oedd adborth yn cysylltu â rhai o'r camau allweddol.

 

Roedd crynodeb o weithgarwch rheoleiddio allweddol a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn hefyd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ac roedd hwn yn canolbwyntio ar arolygiadau gwasanaethau a reoleiddir; Arolygiad Gwerthuso Perfformiad Gofal Cymdeithasol Plant ym mis Mai 2022 (a rannwyd ymhellach gyda’r adran Trosolwg a Chraffu) a Gwiriad Gwelliant Gofal Cymdeithasol Plant Tachwedd 2023. Roedd y crynodeb ymhellach yn cynnwys canfyddiadau allweddol a sut y byddwn yn ymateb i sefyllfaoedd penodol sy'n codi yn ystod y flwyddyn.

 

Mae'r Gyfarwyddiaeth hefyd yn y broses o adnewyddu'r cynllun strategol ar gyfer plant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y cynllun wedi ei adnewyddu yn canolbwyntio ar ddatblygu cynllun cynaladwyedd, yn amlinellu gwasanaeth, gweithlu a strategaeth ariannol ar y ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio gyda phlant a theuluoedd sydd mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ystyrir y cynllun gan y Cabinet yn hydref 2023, meddai Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 168.

169.

Cynllun Cynaliadwyedd 3 Blynedd i Wella’r Canlyniadau ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 353 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, a’r pwrpas oedd i’r Cyngor gymeradwyo cynllun 3 blynedd (Atodiad 1 i’r adroddiad y cyfeirir ato) i wella canlyniadau i blant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda’r goblygiadau ariannol fyddai’n codi o’r camau gweithredu yn y cynllun hwnnw sy’n cefnogi diogelu ac amddiffyn plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu rhywfaint o wybodaeth gefndir, lle roedd yn cadarnhau y byddai angen adnoddau ychwanegol i gefnogi'r uchod yn fwy cadarn, er mwyn medru cyflawni hyn yn llwyddiannus wrth wynebu'r nifer o heriau disgwyliedig o'n blaenau.

 

Esboniodd, er bod pob gwasanaeth wedi cael ei herio yn ystod ac ar ôl Covid, ei bod yn ymddangos bod y gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi profi'r gwaethaf o’r anghydbwysedd rhwng y galw a’r capasiti, yn enwedig yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae lefel y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol statudol i blant dros y 18 mis diwethaf, yn enwedig mewn Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) a gwasanaethau ardal seiliedig mewn canolfannau, wedi cynyddu’n sylweddol. Y penawdau yw:

 

        8,334 o gysylltiadau â gofal cymdeithasol plant yn 2022/23 o gymharu â 5,667 (cynnydd o 47.1% o gymharu â 2021/22)

        3,114 o asesiadau yn 2022/23 (cynnydd o 89.4% o gymharu â 2021/22)

        1,202 o blant â chynlluniau gofal a chymorth ar 31.03.23 (cynnydd o 9.3% o gymharu â 31.03.22)

        2,154 o gyfarfodydd strategaeth cychwynnol yn 2022/23 (cynnydd o 98.3% o gymharu â 2021/22)

        Cwblhawyd 1,557 o ymchwiliadau diogelu S47 yn 2022/23 (cynnydd o 80% o gymharu â 2021/22)

        270 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant ar 31.03.23 (cynnydd o 54% o gymharu â 31.03.22)

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod dadansoddiad annibynnol yn dangos bod y Cyngor wedi gweithio'n galed, ac yn llwyddiannus ar y cyfan, dros y flwyddyn ddiwethaf i ymdrin â'r cynnydd digynsail yn y galw. Mae wedi golygu cyllid tymor byr sylweddol i ymdrin ag argyfwng capasiti gwirioneddol. Mae’r ymateb hwn yn amlwg yn sefyllfa bresennol y gweithlu a grynhoir isod:

 

        Staff parhaol ym maes gofal cymdeithasol plant: 122.91 cyfwerth ag amser llawn;

        Mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithredu ar 29% yn uwch na'r sefydliad i gwrdd â'r holl ddyletswyddau statudol mewn modd amserol. Ariennir y staff ychwanegol hyn drwy gyfuniad o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a grantiau penodol, ond mae hefyd yn cyfrannu at sefyllfa gorwariant sylweddol;

        Mae 20% o swyddi gwag yn y gweithlu parhaol. Fel arfer mae tua 5% yn absennol o'r gwaith ar unrhyw adeg;

        Mae pob swydd wag (a mwy) wedi ei chynnwys er mwyn sicrhau diogelwch trefniadau diogelu ac amddiffyn plant;

        Felly, mae 38% o'r gweithlu gofal cymdeithasol plant presennol yn staff asiantaeth.

 

Yn dilyn cynnal y dadansoddiad a amlinellwyd yn yr adroddiad, ystyrid bod y systemau presennol sydd yn eu lle yn rhy gymhleth, ac mae cydweithwyr ar draws y system yn gweithio’n galed o ddydd i ddydd i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n effeithiol, a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 169.

170.

Premiwm Treth Gyngor ar Ail Gartrefi pdf eicon PDF 185 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi gwybodaeth bellach i’r Cyngor ar oblygiadau cymhwyso premiwm y dreth gyngor i ail gartrefi o safbwynt cynllunio ac adfywio, fel y gofynnwyd yng nghyfarfod y Cyngor ar 8 Chwefror 2024, a gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i symud ymlaen i gymhwyso’r premiwm o 1 Ebrill 2024.

 

Rhoddai’r adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndir ac yn dilyn hynny, dywedodd fod y Cyngor o’r blaen wedi derbyn adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i osod premiwm treth gyngor ar gartrefi gwag ac ail gartrefi yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ac yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Y cynnig oedd gosod premiymau treth gyngor o 100% ar gartrefi gwag o 1 Ebrill 2023 ac ar ail gartrefi o 1 Ebrill 2024, gyda’r ddau yn cynyddu i 200% ar ôl 2 flynedd.

 

Atgoffodd hi, fodd bynnag, fod yr Aelodau wedi gofyn i adroddiad pellach gael ei ddwyn yn ôl i'r Cyngor yn ystod y flwyddyn ar oblygiadau ehangach premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi, cyn penderfynu a ddylid parhau i gymhwyso'r premiwm hwn ai peidio (gweler Paragraffau 3.5 i 3.11 yr adroddiad am fanylion pellach).

 

Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor 81 o ail gartrefi y gellir codi tâl arnynt, a allai gynhyrchu £188,000 o incwm treth gyngor ychwanegol, ond roedd hyn yn amodol ar gymhwyso gostyngiadau ac eithriadau a chasglu’r dreth yn llwyddiannus.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr adroddiad diweddaraf hwn yn amlinellu rhai o oblygiadau gweithredu’r cynnig ar gyfer cynllunio ac adfywio a gofynnodd am benderfyniad gan y Cyngor ynghylch a ddylid parhau â’r penderfyniad a wnaed yn y Cyngor ym mis Chwefror 2023 i gymhwyso’r premiwm o Ebrill 2024.

 

Ailadroddodd Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio fod adroddiad cychwynnol wedi cael ei gyflwyno i'r Cyngor y llynedd ar y pwnc hwn ac ar dai gwag. Dymunai dynnu sylw at y ffaith fod argyfwng tai sylweddol yn dal i fod yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd Aelod pe bai aelod o’r cyhoedd yn prynu ail gartref oedd wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer ac oedd yn anaddas i fyw ynddo, yna a fyddai’n rhaid iddo dalu Treth Gyngor ddwbl ar hwn, h.y. yn ogystal ag ar ei brif eiddo, am y cyfnod o amser a gymerai i wneud yr ail eiddo yn gyfanheddol. Gofynnodd a oedd unrhyw amddiffyniad ariannol neu gymorth ar gael i'r bobl hyn.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, fod nifer cynyddol o grantiau ar gael i uwchraddio eiddo fel yr uchod er mwyn eu hadfer i’w defnyddio fel cartrefi. Cadarnhaodd y byddai’n rhannu’r rhain â’r Aelodau, fel y gallent hwythau yn eu tro eu rhannu ag unrhyw etholwyr â diddordeb.

 

Nododd Aelod y cyfle i ennill refeniw ychwanegol yn ffurf taliadau’r Dreth Gyngor gan berchnogion ail gartrefi preifat. Gofynnodd, serch hynny, a allai'r Cyngor yn yr un modd gasglu refeniw ychwanegol oddi wrth berchnogion eiddo busnes gwag.

 

Dywedodd y Prif Swyddog  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 170.

171.

Trefniadau Trosolwg a Chraffu Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Cytunodd y Cyngor i ohirio'r eitem hon er mwyn cael rhagor o wybodaeth yng nghyfarfod arferol nesaf y Cyngor.

172.

Penodi Cynrychiolwyr Cofrestredig i'r Pwyllgorau Pwnc Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 214 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad, a’i ddiben oedd gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i benodi’r unigolion canlynol yn Gynrychiolwyr Cofrestredig ar gyfer eitemau Addysg a ystyrid gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc, am gyfnod o bedair blynedd ar y mwyaf:

 

a)    Ms Angela Clarke fel Cynrychiolydd Cofrestredig yr Eglwys yng Nghymru;

 

b)    Ms Samantha Rachel Lambert-Worgan fel Cynrychiolydd Rhiant Lywodraethwyr Ysgolion Arbennig

 

Dywedodd fod cyfnod swydd Cynrychiolydd Cofrestredig blaenorol yr Eglwys yng Nghymru wedi dod i ben a bod enwebiad newydd wedi'i geisio. Mae Ms Angela Clarke wedi’i henwebu i wasanaethu fel Cynrychiolydd Cofrestredig yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer eitemau Addysg a ystyrid gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc, am uchafswm o bedair blynedd.

 

           Yn dilyn etholiad a gynhaliwyd yn unol â Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001, mae Ms Samantha Rachel Lambert-Worgan wedi’i henwebu i wasanaethu fel Cynrychiolydd Rhiant Lywodraethwyr Ysgolion Arbennig ar gyfer eitemau Addysg a ystyrid gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc am yr un tymor ag uchod.

 

Ar ôl i'r Cyngor ystyried yr adroddiad,

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Cyngor wedi nodi’r adroddiad a chymeradwyo penodi’r unigolion a ganlyn yn Gynrychiolwyr Cofrestredig ar gyfer eitemau Addysg a ystyrid gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc, am uchafswm o bedair blynedd:

 

(i)  Ms Angela Clark fel Cynrychiolydd Cofrestredig yr Eglwys yng Nghymru;

(ii) Ms Samantha Rachel Lambert-Worgan fel Cynrychiolydd Rhiant Lywodraethwyr Ysgolion Arbennig.

173.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol y Cyngor am adroddiad gwybodaeth i'w nodi, oedd wedi cael ei gyhoeddi ers y cyfarfod arferol diwethaf.

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi’r adroddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

174.

Cwestiynau gan yr Aelodau i’r Weithrediaeth

Cyng Melanie Evans i'r Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Os gwelwch yn dda, a all Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ddweud wrthyf pa effaith yr ydym yn disgwyl ei gweld ar ein plant a'n pobl ifanc pan fydd ein canolfan asesu a phreswyl newydd yn agor ym Mrynmenyn ac, o ystyried Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, ydy hi'n ystyried bod hyn yn ddefnydd da o arian?

 

Cyng Steven Bletsoe i'r Aelod Cabinet - Addysg

 

A allai Aelod y Cabinet dros Addysg ddweud wrthyf faint o ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi cyflwyno “cyllideb ddiffyg” ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 i’r Awdurdod Lleol a hefyd i ddarparu gwybodaeth berthnasol i mi ynghylch sut mae’r Awdurdod yn gweithio gyda nhw i sicrhau na fu unrhyw ddiswyddiadau staff ac na ddilëwyd darpariaeth addysg o ganlyniad i’r cyllidebau hyn.

 

Cyng Ian Williams i'r Aelod Cabinet - Addysg

 

Concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC). Faint o'r ysgolion oddi mewn i’r fwrdeistref sydd wedi'u hadeiladu gan ddefnyddio'r deunydd uchod. Rhestrwch nhw gan nodi oedran yr adeiladau a pha fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn ddiogel?

 

Cyng Tim Thomas i Aelod y Cabinet – y Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd.

 

Pa effaith gaiff y terfyn cyflymder diofyn o 20m.y.a. ar y fwrdeistref sirol?

 

Cofnodion:

Roedd ymatebion y Pwyllgor Gwaith i gwestiynau a ofynnwyd iddynt gan rai Aelodau o'r Cyngor wedi'u dosbarthu i'r holl Aelodau cyn y cyfarfod.

 

Fel yr oedd y Maer wedi’i gyhoeddi’n fyr yn gynharach, ni fyddai’r eitem hon ar yr agenda yn cael ei hystyried ymhellach yn y cyfarfod heddiw.

 

175.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.