Agenda

Cyngor - Dydd Mercher, 21ain Hydref, 2026 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB / Remotely via Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

2.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

3.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 149 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 23/09/2026.

 

4.

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Prif Weithredwr

5.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

6.

Diweddariad Chwarter 2 y Rhaglen Gyfalaf 2026-27 pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

Hunanasesiad 2025/26 pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

Ceisiadau Maes Tref a Phentref pdf eicon PDF 158 KB

9.

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Y Cynghorydd M Hughes at yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai

 

Ar adeg o angen dwys a digynsail am dai yn ein cymunedau, mae'n destun pryder bod yna leiniau o dir gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl sy'n cael eu gadael yn segur am gyfnodau rhy hir. Yn rhai achosion, mae lleiniau adeiladu yn cael eu gadael i ddirywio hyd nes eu bod yn troi’n adfeilion. Un enghraifft yn fy ward fi y hun, Dwyrain Maesteg, yw safle hen Gapel Libanus yn Heol Pen-y-bont. Yn yr achos hwn, rhoddwyd caniatâd i ddatblygu pedwar t? yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 2018 ac wedyn cafodd ei adnewyddu ym mis Medi 2024. Mae ei gyflwr wedi dirywio'n ddrwg dros y blynyddoedd. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'n Tîm Gorfodi Cynllunio yn rheolaidd yngl?n â’r mater hwn, a chaf fy sicrhau bod pawb yn gwneud eu gorau i symud pethau ymlaen.

 

Fy nghwestiwn i felly i Aelod y Cabinet dros Adfywio a Thai yw faint o safleoedd – a’r nifer cysylltiedig o unedau preswyl posibl - sydd yna yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, er iddynt gael caniatâd cynllunio ar y dechrau’n deg, yn dal heb ddechrau cael eu datblygu o fewn yr hyn y byddai'r Adran Rheoli Datblygu yn ei ystyried yn gyfnod derbyniol o amser?

10.

Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd

Cynigiwyd gan y Cynghorydd J Gebbie

 

Adfer Ymddiriedaeth y Cyhoedd Drwy Fecanwaith Galw'n Ôl i Gynghorwyr yng Nghymru

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

1.         Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth wedi ei hadeiladu ar atebolrwydd, tryloywder ac uniondeb.

2.         Mae Llywodraeth Cymru, yn briodol, wedi ceisio cryfhau safonau moesegol mewn llywodraeth leol drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a'r Fframwaith Safonau Moesegol.

3.         Er gwaethaf y diwygiadau hyn, mae cynghorwyr yng Nghymru yn parhau i fod wedi eu heithrio rhag unrhyw fecanwaith galw'n ôl statudol, hyd yn oed pan fo camymddygiad difrifol wedi niweidio hyder y cyhoedd y tu hwnt i adferiad.

4.         Mae Aelodau Seneddol yn ddarostyngedig i Ddeddf Galw ASau yn Ôl 2015, sy’n galluogi etholwyr, mewn amgylchiadau rhagnodedig, i greu deiseb am isetholiad yn dilyn camymddygiad difrifol.

5.         Nid oes diogelwch democrataidd cyfatebol yn bodoli ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, er bod cynghorwyr yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar drigolion bob dydd, gan gynnwys y dreth gyngor, cynllunio, addysg, tai, gofal cymdeithasol, datblygu economaidd a diogelwch cymunedol.

6.         Mae’r anghysondeb hwn yn creu diffyg democrataidd lle mae gan etholwyr fwy o bwerau i ddal Aelodau Seneddol i gyfrif nag sydd ganddynt i ddal y cynghorwyr sy’n eu cynrychioli’n lleol.

7.         Nid yw cryfhau atebolrwydd democrataidd yn ymwneud â gwanhau llywodraeth leol—mae’n ymwneud â chryfhau hyder y cyhoedd yn y rhai sydd wedi cael eu hethol i wasanaethu.

 

Mae’r Cyngor hwn yn credu:

1.         Dylai pob cynrychiolydd etholedig barhau i fod yn atebol i'r rhai a'i hetholodd drwy gydol ei gyfnod yn y swydd.

2.         Mae swydd gyhoeddus wedi'i seilio ar ymddiriedaeth, a phan fo'r ymddiriedaeth honno wedi' ei thorri'n sylfaenol trwy gamymddygiad difrifol, dylai'r etholwyr gael y cyfle i benderfynu a yw'r unigolyn hwnnw'n parhau i'w cynrychioli.

3.         Mae mwyafrif llethol y cynghorwyr yn gwasanaethu gyda gonestrwydd ac ymroddiad, a byddai mecanwaith galw'n ôl statudol yn gwella, yn hytrach na lleihau, hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol.

4.         Mewn amgylchiadau statudol, wedi eu diffinio'n glir, yn unig y dylai unrhyw broses galw'n ôl fod yn berthnasol, gyda mesurau diogelwch cadarn i atal ymgyrchoedd dibwys, blinderus neu â chymhelliant gwleidyddol.

 

Felly mae'r Cyngor hwn yn penderfynu:

1.         Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth sy'n sefydlu mecanwaith galw'n ôl statudol ar gyfer cynghorwyr yng Nghymru.

2.         Gofyn i ddeddfwriaeth o'r fath ddarparu i ddeisebau galw'n ôl gael eu sbarduno mewn amgylchiadau sydd wedi eu diffinio’n glir yn unig, gan gynnwys euogfarnau troseddol difrifol neu sancsiynau sylweddol a osodwyd dan y Fframwaith Safonau Moesegol.

3.         Ysgrifennu at y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am Lywodraeth Leol, Llywydd y Senedd, holl Aelodau'r Senedd sy'n cynrychioli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gofyn am  ...  view the full Agenda text for item 10.

11.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.