Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gary Jones
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Munud o Dawelwch Cofnodion: Â thristwch, cyfeiriodd y Maer at farwolaeth y cyn-gynghorydd Colin Teesdale sef cyn-Faer y Fwrdeistref Sirol, Aelod Cabinet a hefyd cyn aelod o Gyngor Tref Maesteg. Gofynnodd y Maer i’r aelodau ymuno mewn munud o dawelwch er cof amdano.
Cododd pawb ar eu traed mewn teyrnged. |
|||||||||||||
Datgan Buddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Datganwyd y Buddiannau canlynol:
Datganodd y Cynghorydd DG Owen fudd personol a rhagfarn o ran eitem 6 ar yr agenda - Sefydliad y Gweithiwr Nant-y-moel - gan ei fod yn Ymddiriedolwr Clwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nant-y-moel a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth hon.
Datganodd y Cynghorydd JC Spanswick fudd personol a rhagfarn yn eitem 6 ar yr agenda - Sefydliad y Gweithiwr Nantymoel - gan ei fod yn Ymddiriedolwr Clwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nantymoel a gadawodd y cyfarfod yn ystod y gwaith o ystyried y mater hwn.
Datganodd y Rheolwr Gr?p - – Cyfreithiol fudd yn eitem 16 ar yr agenda - penodi Cyfreithiwr a Swyddog Monitro i’r Cyngor gadawodd y cyfarfod yn ystod y gwaith o ystyried y mater hwn. |
|||||||||||||
Cymeradwyo Cofnodion PDF 133 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 28/03/18 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion y Cyngor ar 28 Mawrth 2018 fel cofnod gwir a chywiro’r cyfarfod. |
|||||||||||||
Derbyn cyhoeddiadau gan: (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu) (ii) Aelodau’r Cabinet (iii) Prif Weithredwr
Cofnodion: Y Maer
Rhoddodd y Maer wybod i’r Cyngor am rai o'r achlysuron y bu'n bresennol ynddynt yn rhinwedd ei swydd yn ystod y mis. Roedd y rhain yn cynnwys y Ffair Lyfrau flynyddol yng Nghanolfan Westward, Cefn Glas ar y cyd â’r Lions a oedd wedi codi £180,000 tuag at elusennau lleol. Roedd y Maer hefyd yn bresennol mewn digwyddiadau i nodi Canmlwyddiant y RAF yn y Fwrdeistref Sirol, yn Abertawe ac ym Mro Morgannwg. Roedd y Maer hefyd wedi cael pleser o ymweld â Mr and Mrs Thomas a oedd yn dathlu eu 60ain Pen-blwydd Priodas. Roedd y Maer a’i Chymar yn bresennol mewn noson gymdeithasol yn Heronston er budd ei helusennau. Mae dau ddigwyddiad arall eto i'w cynnal er bud ei helusennau dewisedig gan gynnwys noson Teyrnged i Tom Jones ar 17 Ebrill yn yr Hi Tide a'r Gala ar 28 Ebrill yn yr Heronston.
Hefyd cyhoeddodd y Maer mai hi agorodd y cyfleuster 'galw-heibio' i gyn- filwyr ar gyfer Cyn-filwyr a'u teuluoedd a gynhelir yn y Parth. Diolchodd i’r merched yn y Parth a deiliad masnachfraint Subway am yr arlwyaeth ac i Mr Gareth Evans a’r cyn-filwyr sy’n perthyn i elusen o’r enw ‘stepping out’, elusen ar gyfer y lluoedd arfog, am drefnu'r cyfan. Diolchodd hefyd i’r AS Madeleine Moon ac aelodau’r Cabinet am eu presenoldeb yn y digwyddiad.
Cyhoeddodd y Maer ei bod wedi bod yn y Senedd i ddathlu Canmlwyddiant Ambiwlans Sant Ioan. Roedd hefyd wedi ymweld â Chanolfan Westward i’r dathliad 'Young at Heart’ ac roedd yn dymuno pob hwyl i’r gr?p i’r dyfodol. Gofynnwyd i’r Maer gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol y Fonesig Kate Thomas os gallai feddwl am berson a oedd yn haeddu cael mynd i’r Briodas Frenhinol a’i bod hi yn awgrymu'r teulu Hodge o Bettws a enwebwyd gan y Cynghorydd Martin Jones. Dywedodd bod y teulu wedi colli eu mab i Leukemia ddwy flynedd yn ôl a’u bod wedi codi mwy na £20,000 er budd Canser.
Dirprwy Arweinydd
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd bod bron iawn 10,000 o aelwydydd wedi cofrestru ar gyfer y casgliad cynnyrch hylendid amsugnol ers ei lansio ym mis Mehefin 2017.Cyn belled, mae 662 o dunelli o’r cynnyrch hwn wedi'i ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi ac wedi'i anfon i'r gwaith Nappicycle yn Rhydaman sy’n cynhyrchu deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Gofynnodd i’r Aelodau ei helpu i atgoffa eu hetholwyr am gynllun lle gall rhieni plant ifanc fanteisio ar ddisgownt arbennig drwy ddefnyddio cewynnau ‘go iawn’ y gellir eu hailddefnyddio.
Cyhoeddodd hefyd bod cyfraddau cyflog newydd wedi’u cytuno ar gyfer holl staff NJC a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2018. Caiff y cynnydd ei dalu o fis Mai 2018 ymlaen. Dywedodd y bydd yr isafswm cyflog felly yn £9 yr awr erbyn mis Ebrill 2019, sy’n cyd-fynd â dymuniad y canghellor y dylai’r isafswm cyflog cenedlaethol fod yn £9 yr awr erbyn 2020.
Aelod Cabinet Cymunedau
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau wrth yr Aelodau bod y goeden tiwlipau sy’n union gyferbyn â’r Swyddfeydd Dinesig yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 159. |
|||||||||||||
Derbyn adroddiad yr Arweinydd Cofnodion: Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi gofyn am gyfarfod gyda Gweinidog yr Economi Thrafnidiaeth i wneud cais am gynnydd y nifer y gwasanaethau trên i Faesteg. Roedd hefyd wedi cyfarfod gyda Network Rail gyda golwg ar gael gwared o’r groesffordd drenau ym Mhencoed.
Roedd ef, ynghyd a’r Aelod Cabinet Cymunedau a swyddogion wedi cyfarfod a chydweithwyr yng Nghyngor Bro Morgannwg i drafod y cysylltiadau gwell rhwng Cyffordd 34 traffordd yr M4 a’r A48 sydd wrthi’n cael eu hystyried. Dywedodd bod swyddogion y Cyngor hwn yn ystyried gwella ardaloedd megis Cyffordd 36 Sarn.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at y tân a gafodd ei gynnau yn y maes chwarae yn Heo Las, Cornelly, roedd cost y difrod a chyflwr y maes yn cael ei asesu ac ar hyn o bryd mae'r maes chwarae yn dal ar gau. Diolchodd i’r Gwasanaeth Tân am ymateb yn brydlon i'r digwyddiad, ac roedd yn sicr y byddai eu cydweithwyr yn Heddlu De Cymru yn falch o glywed gan unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth a fydd yn helpu eu hymchwiliad. Y rhif ffôn yw 101 a dylid dyfynnu’r cyfeirnod 1800 1300 11.
Roedd yr Arweinydd wrth ei fodd o weld y gymuned leol yn chwarae ei rhan yn y gwaith o fathu enw ar gyfer y dabtygiadau Gofal Ychwanegol sy'n mynd rhagddynt ym Maesteg ac Ynysawdre. Bydd y cyfleuster gofal ychwanegol sy'n cael ei ddatblygu ym Maesteg yn ychwanegu cyfanswm o 45 o fflatiau i'r fenter sy'n mynd rhagddi ac mae wedi cael ei enwi yn 'T? Llwynderw’ gan un o’r trigolion Barry Walters er mwyn cydnabod ysgol uwchradd fodern Llwynderw gynt. Caiff T? Llwynderw ei leoli ar ‘Cae’r Ysgol’. Cyhoeddodd bod y cynllun yn Ynysawdre, sy’n cael ei adeiladu ar safle Ysgol yr Archesgob McGrath gynt ar dir wrth ymyl Coleg Cymunedol Y Dderwen a'r ysgol newydd, Ysgol Gynradd Brynmenyn, yn cynnig 25 o fflatiau Gofal Ychwanegol, 15 o ystafelloedd gofal preswyl ac ystod o gyfleusterau cymunedol. Ei enw fydd T? Ynysawdre sef yr enw a gynigiwyd gan y trigolion Sally Hallet a Ann Szopsa.Mae’r ffordd newydd a lleoliad y datblygiad wedi cael ei enwi yn ‘Lôn Derw’ gan un o’r trigolion Jayne Taylor. |
|||||||||||||
Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel PDF 76 KB Cofnodion: Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i’r Aelodau yn rhinwedd eu swydd fel Ymddiriedolwyr yr Elusen, Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel, i gymeradwyo’r bwriad i gau a dirwyn yr elusen bresennol i ben ac arfer eu pwerau statudol dan adrannau 267-274 Deddf Elusennau 2011 i drosglwyddo holl asedau’r elusen i sefydliad elusennol corfforedig a sefydlir gydag amcanion elusennol tebyg iawn, sef Clwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nantymoel.
Yn dilyn cau Canolfan Berwyn yn 2010, gofynnwyd i’r Comisiwn Etholiadol am ganiatâd i ddymchwel yr adeilad presennol, a dyweddodd y Comisiwn y byddai dymchwel yr adeilad yn arwain at broblemau hirdymor y byddai'n rhaid mynd i'r afael â nhw maes o law. Dywedoddd bod Canolfan Berwyn dan ymddiriedolaeth gyda’r Cyngor, gyda phob un o’i aelodau etholedig yn gweithredu fel ymddiriedolwr o’r elusen sy’n gyfrifol amdano, sef Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel. Yn dilyn dymchwel y Ganolfan, ni fyddai’r Cyngor yn gallu bodloni diben elusennol y Sefydliad mwyach ac felly cynigiodd Comisiwn Etholiadaol nifer o opsiynau i’w hystyried. Dywedodd mai’r dewis a ffefrir yw trosglwyddo’r tir y saif Canolfan Berwyn arno (nid y tir ehangach sy'n ei amgylchynu) a'r arian a gedwir gan yr elusen bresennol i elusen leol arall gydag amcanion elusennol tebyg iawn. At y diben hwnnw mae’r Cyngor yn cefnogi sefydlu Sefydliad Elusennol Corfforedig, Clwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nantymoel, a sefydlwyd at ddibenion elusennol tebyg iawn i holl ddibenion Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn lleol am nifer o flynyddoedd i lunio cynllun busnes a chynnig i wario'r cyfalaf o £200,000 a neilltuwyd yn y Rhaglen Cyfalaf pan fyddai Canolfan Berwyn yn cau, tuag at ddatblygu cyfleusterau eraill neu estynedig yn Nantymoel. Dywedodd bod y Cabinet ym mis Tachwedd 2017 wedi cymeradwyo rhydau’r cyfalaf i Glwb Bechgyn a Merched Nantymoel yn seiliedig ar gynllun i ehangu a gwella’r cyfleusterau presennol i alluogi'r gymuned i'w ddefnyddio. Dywedwyd wrth y Cabinet ar y pryd bod y gr?p cymunedol wedi gofyn i’r Cyngor ddilyn y broses sy’n angenrheidiol i ryddhau’r arian a gedwir mewn ymddiriedolaeth, er mwyn ychwanegu at yr £200,000 o arian cyfalaf a neilltuwyd. Dywedwyd wrth y Cabinet ar y pryd bod tua £46,000 wedi'i gadw ac mai gwerth cyfredol y gronfa yw £49,274.69
Dywedodd y gofynnwyd am gyngor pellach gan y Comisiwn Elusennol ar y broses o drosglwyddo asedau'r elusen bresennol yn seiliedig ar y dewis hwn a ffefrir. Cynahliwyd cyfarfod cyhoeddus at y diben o ofyn barn trigolion lleol ar ddirwyn yr elsuen bresennol, Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel, a sefydlu corff ag amcanion elusenol tebyg iawn, Clwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nantymoel, ar 28 Mawrth 2018. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Dirprwy Arweinydd ac ynddo nodwyd y cynnig llawn gan roi’r cyfle i drigolion lleol ofyn unrhyw gwestiynau neu fynegi unrhyw bryderon. Cafodd y cynnig ei gefnogi’n unfrydol yn y bleidlais ddilynol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai dirwyn yr elusen bresennol i ben a throsglwyddo ei hasedau yn arwain at drosglwyddo £49,274.69 i Glwb ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 161. |
|||||||||||||
Gwyriad Cais Cynllunio P/17/1083/FUL PDF 200 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Rheolwr Gr?p - Datblygu fod y pwyllgor Rheoli Datblygu, yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd 2018, o’r farn nad yw cais cynllunio P/17/1083/FUL yn cyd-fynd â’r Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd fod y Pwyllgor wedi penderfynu peidio â gwrthod caniatâd cynllunio a bod y cais wedi’i gyfeirio at y Cyngor gan ofyn iddo gymeradwyo’r cais yn amodol ar amodau.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu bod y cais ar gyfer codi estyniad i’r is-orsaf grid yn Is-orsaf Grid Pen-y-bont ar Ogwr, oddi ar Great Western Avenue, Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd y byddai’r estyniad arfaethedig i’r gorllewin o’r is-orsaf bresennol yn sicrhau lle i godi adeilad sy’n cynnig y cyfle i uwchraddio’r is-orsaf bresennol drwy drawsffurfio’r foltedd sy’n dod i mewn i’w ddosbarthu i’r rhwydwaith lleol a darparu p?er ar gyfer ardal ehangach Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd wrth y Cyngor y bod angen uwchraddio a moderneiddio’r seilwaith presennol. Mae safle’r cais yn y prif anheddiad ym Mhenybont-ar-Ogwr, fel y diffinir gan Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr ac o fewn y Safle Datblygu Adfywio a Defnydd Cymysg - Seidins Coity Road, Pen-y-bont ar Ogwr fel y diffinir gan Bolisi PLA3 y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r safle wedi’i neilltuo ar gyfer cynlluniau adfywio a defnydd cymysg sy’n cynnwys 140 o unedau preswyl (COM1(4)), swyddogaeth cyflogaeth (REG1(3) sydd eisoes wedi’i ddatblygu) a chyfleuster Parcio a Theithio i wasanaethu Gorsaf Rheilffordd Melin Ifan Ddu.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu fod y safle yn cynnig cyfleoedd datblygu dros gyfnod y cynllun gyda golwg ar helpu i gyflawni gweledigaeth ac amcanion y Cynllun Datblygu Lleol ac y byddai’r neilltuad yn arwain at sicrhau datblygiad preswyl, cyflogaeth a masnachol cynhwysfawr, wrth ddarparu cyfleusterau trafnidiaeth, cymunedol, addysg a hamdden i wasanaethu’r gymuned.
PENDERFYNWYD: Nad yw'r Cyngor am wrthod y datblygiad ac y dylid rhoi pwerau dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad mewn perthynas â’r cynnig yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau. |
|||||||||||||
Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) – Adroddiad Adolygu Drafft PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu am gymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad targedig ar yr Adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd bod yr Adroddiad Adolygu drafft yn cyflwyno hyd a lled y newidiadau tebygol i’r CDLl (2006-2021) presennol ac yn gofyn am gadarnhau y caiff y weithdrefn adolygu ei dilyn wrth baratoi CDLl newydd. Dywedodd wrth y Cyngor y cynigir y byddai’r CDLl Newydd yn cwmpasu cyfnod hyd at 2033, sef diwedd cyfnod o 15 mlynedd a fydd yn dechrau yn 2018.
Dywedodd y cafodd y CDLl ei fabwysiadu ar 18 Medi 2013 a’i fod yn nodi amcanion y Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros gyfnod o 15 mlynedd o 2006 i 2021, a’i bolisi o ran eu gweithredu. Dywedodd bod CDLl ddiweddaredig yn rhan hanfodol o system gynllunio a arweinir gan gynllun yng Nghymru. Er mwyn sicrhau yr asesir yn rheolaidd a chynhwysfawr p'un ai yw cynlluniau yn dal yn gyfredol, mae’n ofyniad statudol ar y Cyngor i gynnal adolygiad llawn o’r CDLl mabwysiedig yn ystod cyfnodau o ddim mwy na phob pedair blynedd o ddyddiad ei fabwysiadu. Gan hynny, sbardunwyd adolygiad llawn o’r CDLl mabwysiedig ym mis Medi 2017. Ers iddo gael ei fabwysiadu, mae’r CDLl wedi bod yn destun adolygiad blynyddol ac mae tri Adroddiad Monitro Blynyddol wedi'u cyhoeddi.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu cyn y gellir gwneud unrhyw adolygiad mewn cysylltiad â Chynllun Datblygu bod rhaid cynnal Adroddiad Adolygu i benderfynu ar y llwybr gweithdrefnol priodol a'r problemau allweddol i'w hystyried wrth fwrw ymlaen â'r CDLl. Dywedodd bod yr Adroddiad Adolygu hefyd yn ystyried p’un ai a ddylai’r broses o baratoi CDLl newydd gael ei gyflawni’n unigol neu ar y cyd ag Awdurdodau Cynllunio Lleol cyfagos. Tynnodd sylw at brif ganlyniadau’r Adroddiad Adolygu drafft o ran Newidiadau Cyd-destunol; Asesu’r newidiadau tebygol sydd angen eu gwneud i’r CDLl presennol; Adolygu’r Opsiynau o ran Sail y Dystiolaeth ac Adolygu’r CDLl.
Holodd Aelod o’r Cyngor ba drefniadau fyddai ar waith i Aelodau gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y CDLl. Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu y caiff Grwpiau Pwnc eu sefydlu ac y caiff Aelodau lleol ac aelodau Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned eu gwahodd i gymryd rhan yn y broses ar y cam adolygu.
Cyfeiriodd aelod o’r Cyngor at benderfyniad y Cyngor i fwrw ymlaen a’i gynllun ei hun gan ofyn p'un ai a yw'n bwriadu cydweithio gydag awdurdodau cyfagos megis Cyngor RhCT, yng ngoleuni cynigion ar gyfer datblygiad tai ar raddfa fawr yn RhCT sy’n agos iawn at ei ffin â Phenybont-ar-Ogwr. Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu bod trefniadau cydweithio ar waith gydag awdurdodau lleol cyfagos yn enwedig pan fo ceisiadau cynllunio yn arwain at drafod materion trawsffiniol. Dywedodd y byddai CDLl Cyngor RhCT yn dod i ben tua’r un adeg a CDLl y Cyngor hwn. Dywedodd hefyd y byddai effaith y datblygiad mawr dan sylw ar Benybont-ar-Ogwr yn cael ei ystyried gan swyddogion.
Gofynnodd aelod o’r Cyngor p’un ai y gellir ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 163. |
|||||||||||||
Adolygiad Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr – Cytundeb Cyflawni Drafft PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu am gymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad targedig ar yr Adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd bod y ddogfen drafft yn nodi sut a phryd y caiff y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill gyfrannu at baratoi’r Cynllun Newydd ac amserlen ar gyfer ei baratoi. Dywedodd wrth y Cyngor y cynigir y byddai’r CDLl Newydd yn cwmpasu cyfnod hyd at 2033, sef diwedd cyfnod o 15 mlynedd a fydd yn dechrau yn 2018.
Dywedodd bod y Cytundeb Cyflawni yn cynnwys 2 ran, sef amserlen ar gyfer paratoi’r CDLl Newydd, a Chynllun Cynnwys y Gymuned. Cyflwynodd amserlen sy’n nodi'r dyddiadau allweddol gan gynnwys cyfnodau ymgynghori statudol ar gyfer yr holl gamau gwahanol sy'n gysylltiedig â pharatoi'r Cynllun a'i gyhoeddi. Roedd hefyd yn cynnwys cyfnodau allweddol ar gyfer cynnal Arfarniad Cynaliadwyedd, sef proses ailadroddol a gyflawnir fel rhan hanfodol o'r broses o baratoi'r Cynllun.
Dywedodd bod y Cynllun Cynnwys y Gymuned yn amlinellu egwyddorion ymgysylltu cymunedol yr Awdurdod Cynllunio Lleol, ei ddull o ran â phwy, sut a phryd y mae'n bwriadu ymgysylltu a'r gymuned a rhanddeiliaid; sut y bydd yn ymateb i sylwadau a sut y bydd y sylwadau hyn yn llywio camau diweddaraf y gwaith o baratoi’r cynllun. Yn dilyn ymgynghori ar y Cytundeb Cyflawni drafft cynigir ailgyflwyno'r Cytundeb Cyflawni terfynol gerbron y Cyngor i’w gymeradwyo. Cynhelir yr ymgynghoriad ar y Cytundeb Cyflawni drafft ochr yn ochr a’r ymgynghoriad ar yr Adroddiad Adolygu drafft a chynigiwyd y dylid cyflwyno’r ddwy ddogfen i Lywodraeth Cymru cyn diwedd mis Mehefin.
PENDERFYNWYD: (1) Bod y Cyngoryr yn cymeradwyo’r Adroddiad Adolygu at ddibenion ymgynghori targedig.
(2) Y byddai’r Cyngor yn awdurdodi Rheolwr Gr?p - Datblygu y Gyfarwyddiaeth Cymunedau i ymgynghori ar yr Adroddiad Adolygu drafft.
(3) Bod y Cyngor yn rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Reolwr Gr?p Datblygu y Gyfarwyddiaeth Cymunedau i wneud unrhyw gywiriadau ffeithiol neu fân newidiadau i’r Adroddiad Adolygu drafft yn ôl yr angen. |
|||||||||||||
Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr Gr?p - Cyfreithiol adroddiad ar Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel y gydnabyddiaeth ariannol y mae’n rhaid i’r Awdurdod sicrhau ei fod ar gael i Aelodau ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018/19.
Roedd cynrychiolwyr y Panel wedi cynnal ymweliadau â'r holl brif Gynghorau ym 2017 i drafod y fframwaith cydnabyddiaeth ariannol a sut y caiff ei gweithredu ym mhob Cyngor. Roedd y Panel wedi gwneud 52 o gynigion yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018/19.
Arweiniodd Rheoliadau’r Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Cymru) 2007 at sefydlu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Penderfynodd y Panel i gynyddu Cyflog Sylfaenol aelodau etholedig gan £200, byddai’r cyflog ar gyfer aelodau etholedig y prif gynghorau ar gyfer 2018/19 yn £13,600. Nid oedd y Panel wedi newid ei benderfyniadau blaenorol mewn perthynas â'r cyflogau uwch a delir i ddeiliaid Swyddi Uwch sy'n cynnwys y cynnydd yn y Cyflog Sylfaenol. Mae Cyflog yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd yn seiliedig ar boblogaeth y Fwrdeistref Sirol (100,000 - 200,000), gyda’r Arweinydd yn cael £48,300 a’r Dirprwy Arweinydd yn cael £33,800. Mae’r Panel wedi cael gwared y lefelau gwahanol o ran y taliadau a wneir i aelodau Cabinet ac mae pob un ohonynt bellach yn gallu hawlio'r cyflog uwch o £29,300. Mae’r Panel hefyd wedi cael gwared ar y lefelau gwahanol o ran y taliadau a wneir i Gadeiryddion Pwyllgor a bydd pob Cadeirydd yn cael cyflog o £22,200. Mae hefyd wedi ailadrodd mai mater i’r awdurdodau lleol yw penderfynu pa gadeiryddion a delir. Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Cyfreithiol bod y Cyngor yn ei Adroddiad Blynyddol ym mis Mai 2017 wedi penderfynu talu'r Cadeiryddion Pwyllgor canlynol:
Panel Apeliadau Pwyllgor Archwilio 2.3.4 Pwyllgor Rheoli Datblygiad Trwyddedu/Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 Trosolwg Pwnc a Phwyllgor Craffu 1 Trosolwg Pwnc a Phwyllgor Craffu 2 Trololwg Pwnc a Phwyllgor Craffu 3 Aelod Annibynnol sy’n cadeirio’r Pwyllgor Safonau y telir £256 iddo am gyfarfod sy’n para mwy na 4 awr neu £128 am gyfarfod dan 4 awr.
Mae’r Pwyllgorau canlynol yn cael eu cadeirio gan aelodau sydd eisoes yn cael cyflog Uwch/Dinesig ac felly nid ydynt yn cael unrhyw dâl ychwanegol.
· Y Cyngor · Pwyllgor Penodiadau · Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu · Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned · Is-bwyllgor Hawliau Tramwy · Nid yw Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cael tâl ar hyn o bryd.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Cyfreithiol fod y Panel eisoes wedi penderfynu y dylai'r Cyngor sicrhau bod cyflog uwch o £22,300 ar gael i arweinydd yr wrthblaid fwyaf sy'n cynrychioli o leiaf 10% (6 Aelod) o’r Cyngor cyn bod yn gymwys i gael cyflog uwch. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn sicrhau bod cyflog uwch ar gael i arweinydd gr?p y Gyngrhair Annibynnol. Mae cyflog uwch o £17,300 hefyd ar gael i arweinydd unrhyw gr?p arall sy’n cynrychioli o leiaf 10% (6 Aelod) o’r Cyngor. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn sicrhau bod cyflog uwch ar gael i arweinydd gr?p y Ceidwadwyr. Mae’r Panel wedi nodi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 165. |
|||||||||||||
I dderbyn y cwestiynau dilynol i'r Gweithrediaeth: CwestiwnI’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wrth Cynghorydd A Hussain
A all yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ddweud wrth y Cyngor faint o asesiadau gofal cymunedol ar gyfer adferiadau a gafodd eu gwneud yn y tair blynedd diwethaf yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a faint ohonynt a arweiniodd at leoliadau mewn canolfannau adfer a pha rai?
CwestiwnI’r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio wrth Cynghorydd R Stirman
Gan gofio bod y Llywodraeth yn bwriadu gwahardd gwerthu ceir disel a thrydan yn y dyfodol agos, a yw'r Cyngor yn bwriadu gweithredu strategaeth er mwyn cyflwyno pwyntiau gwefru trydanol ledled y Sir? Os felly pryd caiff y polisi hwn ei gyflwyno? A fydd hyn hefyd yn dod yn ystyriaeth mewn datblygiadau’r CDLl yn y dyfodol? Hefyd, pa ddarpariaeth a gaiff e wneud afr gyfer y cynnydd a ragwelir ar gyfer cyflenwi trydan yn BCBC?
Cofnodion: Question to the Cabinet Member Social Services and Early Help from Councillor Altaf Hussain
"Can the Cabinet Member for Social Services tell the Council how many community care assessments for residential rehabilitation have been undertaken in the last three years within BCBC and how many resulted in placements in residential rehabilitation centres and which ones?"
Response: The Community Resource Team (CRT) is the amalgamation of Intermediate Care Services in Bridgend into a single service; one of these services being Residential Reablement. Referrals to CRT are made through a single point of contact, the Common Access Point, which is staffed by experienced call handlers and a Multi-Disciplinary Triage team who screen the referrals to identify the most appropriate CRT response and the priority of response. This streamlines the process of referral ensuring interventions are delivered by the most appropriate service element, therefore avoiding duplication of referrals. As referrals are not made for an explicit element of the CRT we are unable to provide the specific data requested. The following data shows the numbers of referrals to the CRT for the last three years.
2015 – 2601 CRT Referrals and Re-referrals 2016 – 2404 CRT Referrals and Re-referrals 2017 – 2542 CRT Referrals and Re-referrals
The small decline in referral rates is largely due to the fact that we have been working on referral pathways and ensuring they are all routed through the Common Access point. This has helped us to reduce any duplication, i.e. Referrals to a number of services and wait for the first to respond.
The Bryn y Cae Reablement Unit is suitable for individuals who, for short periods of time, are likely to need more intensive support with activities of daily living than it would be possible to provide at home. The Unit is able to accommodate a total of 6 people at any one time and the usual length of stay is up to 6 weeks but there is flexibility around this depending on an individual’s progress. The Reablement Unit is situated in a dedicated wing of the Bryn y Cae Residential Care Home, Brackla, Bridgend.
In the table below, the number of new placements commenced in Bryn Y Cae Residential Reablement unit is provided for the last 3 years together with the occupancy rates.
There a few factors that affect occupancy rates:
Councillor Hussain informed Council that he would ask the Cabinet Member Social Services and Early Help a supplementary question in writing.
Question to the ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 166. |
|||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig gan Grwp Plaid Cymru Pen-y-bont ar Ogwr: Cynnig gan Gr?p Plaid Cymru Pen-y-bont ar Ogwr:
Pen-y-bont ar Ogwr Rhydd o Blastig
Pryderon y gymuned ehangach yngl?n â’r swm o lygredd gwastraff plastig a’i effaith andwyol ar fywyd gwyllt ac ar ein harfordir
Mae'r Cyngor yn cynnig: Fel rhan o'n cyfrifoldebau tuag at gynaladwyedd byd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rydym o blaid Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn dod yn 'awdurdod rhydd o blastig’.
Mae’r Cyngor yn tynnu sylw at: Byddwn yn gweithio tuag at hyn yn y ffyrdd canlynol: 1. Byddwn yn adolygu ein sefydliad ein hunain ac yn disodli'r eitemau plastig untro, gan annog newid eitemau plastig untro fel gwellt plastig, cwpanau coffi plastig am eitemau bioddiraddadwy.
2. Byddwn yn cysylltu â busnesau’r Fwrdeistref Sirol i'w hannog i ddisodli eitemau plastig untro, lleihau deunydd pacio dianghenraid a chymhwyso egwyddorion cynaladwyedd o fewn eu busnes bob dydd.
3. Byddwn yn hybu ‘Pen-y-bont ar Ogwr Rhydd o Blastig' drwy'r cyfryngau cymdeithasol a dulliau marchnata a chyfathrebu priodol eraill.
4. Byddwn yn parhau i gefnogi mentrau cymunedol i 'Gadw Pen-y-bont ar Ogwr yn daclus', gan gynnwys ein traethau, parciau a strydoedd, a hybu dewisiadau gwahanol yn lle taflu deunyddiau, yn unol ag egwyddorion yr economi gylchol a hierarchaeth gwastraff.
5. Byddwn yn hybu polisïau masnach deg a chynllun siopa’n lleol.
6. Byddwn yn ysgrifennu at Weinidogion Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ystyried pa fesurau y gellir eu cyflwyno, gan gynnwys canllawiau a deddfwriaeth, i leihau gwastraff plastig ar draws Cymru, yn unol â’r egwyddorion a amlinellwyd eisoes.
Mae'r Cyngor yn credu: Dylid monitro effeithiolrwydd y polisi arfaethedig yn flynyddol o leiaf er mwyn dangos y cynnydd yn amlwg i'r aelodau fel rhan o'r broses graffu.
Cofnodion: Councillor T Thomas proposed the following Notice of Motion on behalf of the Plaid Cymru Group.
Plastic Free Bridgend County
The Notice of Motion was seconded by Councillor A Williams.
The Cabinet Member Communities expressed some sympathy with the principles of the Notice of Motion as the Council supports the Welsh Government’s target of zero waste and the promotion of plastic free and the keep Bridgend tidy initiative. He stated that the Council already does a great deal within the spirit of the Notice of Motion and requested the withdrawal of the Notice of Motion and instead send the matter to the relevant Overview and Scrutiny Committee so that the Council can identify what it is doing and where the gaps are from which the Council can identify the next steps.
Councillor T Thomas withdrew the Notice of Motion.
The Leader informed Council that he and the Corporate Director Communities had met the Minister for Communities who had confirmed that the Council had made significant strides with its recycling targets. The Leader stated that he had asked the Minister what his plans are to influence retailers in reducing the use of plastic packaging and he confirmed to Council that he would seek those assurances from the Minister in writing.
RESOLVED: That the original Notice of Motion be withdrawn and that and instead send the matter to the relevant Overview and Scrutiny Committee so that the Council can identify what it is doing and where the gaps are from which the Council can identify the next steps.
|
|||||||||||||
I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: The Mayor agreed to the following item being considered as an urgent item of business in accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules to allow for the approval of Prudential Borrowing and for the inclusion of the schemes in the Capital Programme forthwith and in order to take forward the delivery of the Enterprise Hubs Development Programme without delay. |
|||||||||||||
Rhaglen Datblygu Canolfannau Menter PDF 95 KB Cofnodion: The Corporate Director Communities reported on an update on the development of the Enterprise Hub Development Programme and sought agreement to the prudential borrowing of £878,957 for the delivery of two separate schemes within the overall programme at the Bridgend Science Park of £544,182 and Brocastle of £334,775 and sought approval for these schemes to be included within the capital programme. This represented the largest single programme of business property development undertaken by the Council.
The Corporate Director Communities reported that approval had previously been given by Cabinet for the submission by Blaenau Gwent County Borough Council of a bid to WEFO for a regional Enterprise Hub Development Programme. Since that time, WEFO had advised that each of the partners could take forward their projects separately.
He reported that there were no start up units currently available from the Council or Business in Focus and both have waiting lists as was the case with the Sony Incubation Units at Pencoed. He stated that the Enterprise Hub Development Programme proposed to support the refurbishment and creation of business premises at Bridgend Science Park, Village Farm Industrial Estate and Brocastle.
A member of Council asked for details of the numbers of businesses on the waiting lists for start up units, their cash flow forecasts and for details of occupancy rates. The member of Council also commented there were a number of units which could not be let and lessons needed to be learnt so that the units had flexibility. The Corporate Director Communities stated that he would provide members with the detail requested in relation to the start up units.
RESOLVED: That Council approved prudential borrowing of £878,957 with the assigned borrowing values of Enterprise Hub Development (Bridgend Science Park and Village Farm Industrial Estate) (£544,182) and Enterprise Hub Development (Brocastle) (£334,775) which, subject to approval of the Section 151 Officer, Corporate Director, Operational and Partnership Services, and WEFO will enable the Corporate Director, Communities to take forward the delivery of the Enterprise Hubs Development Programme. Council also approved the inclusion of these schemes within the capital programme for delivery once all funding sources have been approved. |
|||||||||||||
Gwahardd y Cyhoedd Nid oedd y cofnodion ac adroddiad sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. Cofnodion: RESOLVED: That under Section 100A(4) of the Local Government Act 1972 as amended by the Local Government (Access to Information) (Variation) (Wales) Order 2007, the public be excluded from the meeting during consideration of the following items of business as they contain exempt information as defined in Paragraphs 12, 13, 14, 15 and 16 of Part 4 and Paragraph 21 of Part 5 of Schedule 12A of the Act.
Following the application of the public interest test it was resolved that pursuant to the Act referred to above to consider the following items in private, with the public excluded from the meeting, as it was considered that in all the circumstances relating to the item, the public interest in maintaining the exemption outweighed the public interest in disclosing the information. |
|||||||||||||
Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 28/03/18 |
|||||||||||||
Adroddiad y Swyddog Monitro |
|||||||||||||
Cyhoeddiad gan y Swyddog Monitro |