Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o fuddiant personol a rhagfarnus gan Aelodau/Swyddogion yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
|
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 282 KB Derbyn cofnodion 1/3/23 a 15/3/23 i'w cymeradwyo
Dogfennau ychwanegol: |
|
Derbyn cyhoeddiadau gan: (i) Maer (neu'r sawl sy'n llywyddu) (ii) Aelodau'r Cabinet (iii) Prif Weithredwr
|
|
Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd |
|
Y Cynllun Llesiant ar gyfer Cwm Taf Morgannwg PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Derbyn y cwestiynau canlynol gan: Cwestiwn gan y Cyng Tim Wood i Aelod y Cabinet dros Adfywio
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwario swm sylweddol o arian cyhoeddus, yn gyntaf yn cynnal ymgynghoriad ac yna'n llunio adroddiad ac wedyn cynnal proses ymchwilio i’r posibilrwydd o agor rhan fechan o Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr i draffig unwaith eto.
Yr ymgynghoriad hwn, yn ôl yn 2016, ysgogodd yr ymgysylltiad cyhoeddus mwyaf yn hanes y cyngor hwn ac roedd y cyhoedd yn frwd eu cefnogaeth i ail-agor canol y dref yn rhannol.
Fel y cyfryw, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio gytuno ein bod ni fel cyngor yma i wasanaethu’r cyhoedd, i fod yn stiwardiaid da o’r pwrs cyhoeddus a’n bod yma i galonogi a chynnal canol ein trefi, nid eu rhwystro?
Felly, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi manylion i mi am eu cynlluniau i wneud Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn hygyrch i bawb?
Cwestiwn gan y Cyng Alex Williams i Aelod y Cabinet dros y Cymunedau
A wnaiff Aelod y Cabinet dros y Cymunedau ddatganiad am y cymorthdaliadau y mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn eu rhoi ar hyn o bryd i gefnogi'r llwybrau bysiau hynny a gafodd eu hystyried yn fasnachol anhyfyw; a wnaiff amlinellu pa ystyriaeth a roddwyd i leihau'r cymorthdaliadau hyn neu eu tynnu'n ôl yn llwyr; a pha ddadansoddiad gafodd ei wneud o’r hyn y byddai gostyngiad o'r fath, neu dynnu'r cymorthdaliadau yn ôl, yn ei olygu o bosibl i’r bobl yn y cymunedau oedd yn arfer derbyn llwybrau cymorthdaledig o’r blaen?
Cwestiwn gan y Cyng Tim Thomas i Aelod y Cabinet dros y Cymunedau
Beth mae Aelod y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod ffyrdd a phriffyrdd CBSP yn hygyrch i’r henoed a’r anabl?
Cwestiwn gan y Cyng Ian Williams i Aelod y Cabinet dros Adfywio
A wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am ba fesurau sy’n cael eu cymryd i adfer yr adeiladau adfeiliedig niferus yng nghanol ein tref a beth yw’r amserlen ar gyfer y gwaith adfer hwn? |
|
Eitemau brys Ystyried unrhyw eitem(au) o fusnes y mae hysbysiad wedi’i roi yn ei gylch yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor ac y mae’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod o’r farn y dylai oherwydd amgylchiadau arbennig fod. a drafodwyd yn y cyfarfod fel mater o frys.
|