Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
|
|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. |
|
Cymeradwyaeth Cofnodion I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/02/25 a 12/03/25
Dogfennau ychwanegol: |
|
I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth: (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu) (ii) Prif Weithredwr |
|
Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd |
|
Adolygiad o'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2025/26 Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd Ian Williams
“Ym mis Mehefin 2020, fe wnaeth yr awdurdod hwn ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae wedi rhoi’r holl fesurau angenrheidiol ar waith i leihau ei ôl troed carbon. Yn 2021 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng natur. Yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw bod 17% o’r 3,902 o rywogaethau a astudiwyd yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, gyda llawer o rai eraill yn prinhau.
Mae'r cynlluniau a'r camau gweithredu a ganlyn bellach yn eu lle. Yn 2015, cydnabu Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) Llywodraeth Cymru fod Cymru ymhell o gyrraedd nodau bioamrywiaeth cenedlaethol a rhyngwladol. Mae data bellach yn dangos bod bywyd gwyllt Cymru wedi gostwng o 20% ar gyfartaledd rhwng 1994 a 2023. Ac roedd oddeutu 1 o bob 6 rhywogaeth Gymreig mewn perygl o ddiflannu yn 2023.
Nod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Ymhlith pethau eraill, mae'n gosod dyletswydd gryfach ar awdurdodau cyhoeddus tuag at fioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau. Ers hynny, mae’r Senedd wedi datgan argyfwng natur ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ymgorffori ei hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth y bydd yn ei wneud.
Mae’r cynnig hwn yn galw ar i’r cyngor hwn benderfynu ymrwymo i’r argyfwng natur a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru ar y 30ain o Fehefin 2021 ac ystyried effaith yr holl benderfyniadau a wneir gan yr awdurdod hwn ar fywyd gwyllt, natur a bioamrywiaeth yn ein bwrdeistref ”.
|
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
|