Agenda, decisions and minutes

Budget, Cyngor - Dydd Mercher, 1af Mawrth, 2023 16:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

99.

Datganiadau Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Eitem 3, Cynllun Corfforaethol 2023-28

 

Datganodd y Cynghorydd H Bennett fuddiant personol gan ei bod yn gweithio i sefydliad a enwyd yn bartner hanesyddol yn yr adroddiad (h.y. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr).

 

Datganodd y Cynghorydd E Winstanley fuddiant personol gan ei bod yn un o weithwyr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, partner sy'n cyflawni rhai o amcanion y Cynllun.

 

Eitem 4, Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2023-24 i 2026-27

 

Datganodd y Cynghorydd N Clarke fuddiant personol gan ei bod yn gwirfoddoli gyda RNLI Porthcawl.

 

Datganodd y Cynghorydd J Pratt ddiddordeb personol gan fod ei wraig yn athrawes gyflogedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBS Pen-y-bont ar Ogwr) ac yn Gynrychiolydd Undeb.

 

Eitem 5, Strategaeth Gyfalaf 2023-24 a thu hwnt

 

Datganodd y Cynghorydd JP Blundell ddiddordeb personol gan ei fod yn Llywodraethwr AALl yn Ysgol Gyfun Bryntirion.

 

Datganodd y Cynghorydd R Smith ddiddordeb personol gan fod ei wraig yn athrawes gyflogedig gyda CBS Pen-y-bont ar Ogwr

 

100.

Cynllun Corfforaethol 2023-28 pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, er mwyn rhoi diweddariad ar Gynllun Corfforaethol y Cyngor a gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Cynllun Corfforaethol 2023-28, sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fod datblygu a chyhoeddi Cynllun Corfforaethol yn ofyniad statudol ac mae'n debyg mai dyma un o'r dogfennau pwysicaf y byddent yn ei hystyried, gan ei bod yn nodi cyfeiriad y sefydliad a blaenoriaethau'r Cyngor dros y pum mlynedd nesaf. Rhaid i’r cynllun gyfateb i'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Cydnabu waith aruthrol y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus a'i thîm, gan gynnwys y gwaith ymgysylltu ac ymgynghori, ac mae’r manylion wedi eu nodi yn yr adroddiad ac yn yr atodiad. Ychwanegodd y gallai o bosibl newid cyn ei gyhoeddi o ran diwyg a ffeithluniau. Cyfeiriodd at yr amcanion llesiant newydd a ffyrdd newydd o weithio a oedd wedi'u datblygu o gymharu â fersiynau blaenorol. Roedd y ddogfen yn canolbwyntio ar y pethau hynny a gafodd yr effaith fwyaf ar lesiant trigolion lleol. Ymdrechwyd i gyflwyno'r Cynllun Corfforaethol mewn arddull haws ei deall ac mewn Saesneg clir oedd felly'n fwy hygyrch. Ychwanegodd y byddai cynllun gweithredu blynyddol yn cyd-fynd â'r prif Gynllun Corfforaethol a byddai'r holl ddangosyddion perfformiad manwl, y cerrig milltir a'r elfennau craff yn cael eu cynnwys yn y cynllun gweithredu blynyddol.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr yr elfennau amlwg yn yr adroddiad gan gynnwys y cysondeb rhwng y Cynllun Corfforaethol a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a'r cysylltiadau penodol rhwng amcanion llesiant y Cyngor a'r adnoddau oedd angen eu cyfeirio atynt i'w cefnogi. Eglurodd mai'r Cynllun Corfforaethol oedd prif gyfrwng y Cyngor ar gyfer dangos a chyfathrebu'r blaenoriaethau i bobl leol a busnesau a'i bod yn ddogfen hollbwysig i reoleiddwyr megis Archwilio Cymru. Cyfeiriodd at waith ymgysylltu, yn enwedig gyda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a diolchodd i'r pwyllgor am eu mewnbwn a'u hadborth. O ran yr adborth a roddwyd, roedden nhw wedi ystyried yr awgrym i ddangos cost gwasanaethau'r Cyngor fesul dydd drwy ffeithlun, sy'n ffordd llawer mwy ystyrlon o wneud hynny.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fanteision gweithredu blynyddol gan gynnwys mwy o hyblygrwydd a chaniatáu ar gyfer ymgysylltu ychwanegol a pharhaus, gan gynnwys gyda phobl ifanc. Nodwyd yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn llawn yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai Cynllun Cyflawni yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu y Cyngor, gyda'r nod o fonitro a mesur canlyniadau ac amcanion Cynllun Gweithredu'r Cynllun Corfforaethol.

 

Diolchodd yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a'r Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus a'i thîm am eu gwaith ar y cynllun gan groesawu lefel yr ymgysylltu ar draws y Siambr a arweiniodd at newidiadau i'r cynllun. Cawsant eu calonogi gan lefel yr ymgysylltu â phobl ifanc a phartneriaid. Roedd y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen hawdd i'w darllen a'i dilyn ac yn dangos sut oedd yr awdurdod yn cynnig gwerth am arian.

 

Dywedodd Aelod fod y ffeithluniau yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 100.

101.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2023-24 i 2026-27 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid i'r Dirprwy Bennaeth Cyllid a'i thîm am eu gwaith caled wrth ddod â'r adroddiad hwn gerbron yr Aelodau.

 

Esboniodd mai pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno  Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 tan 2026-27 i'r Cyngor, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2023-27, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2023-24 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022-23 tan 2032-33. Ychwanegodd fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cyfateb i Gynllun Corfforaethol newydd y Cyngor a'r amcanion llesiant oedd wedi'u cynnwys ynddo. Roedd y dogfennau hynny'n nodi blaenoriaethau gwasanaethau ac adnoddau'r Cyngor dros y pedair blynedd ariannol nesaf, gan ganolbwyntio'n benodol ar y flwyddyn ariannol nesaf a datblygiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig sydd wedi'i lywio gan y blaenoriaethau hynny.

 

Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi rheoli gwariant gros blynyddol o tua £485 miliwn ac mai dyma'r cyflogwr mwyaf yn y fwrdeistref sirol. O ganlyniad, roedd y Cyngor yn rhan sylweddol o economi leol yr ardal hon. Roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

yn amlinellu'r egwyddorion a'r rhagdybiaethau manwl sy'n llywio cyllideb a phenderfyniadau gwario'r Cyngor. Amlinellodd y cyd-destun ariannol yr oedd y Cyngor yn gweithredu ynddo a cheisiodd leihau unrhyw risgiau a phwysau ariannol wrth symud ymlaen, gan hefyd fanteisio ar unrhyw gyfleoedd sy'n codi. Esboniodd fod y strategaeth yn canolbwyntio ar sut roedd y Cyngor yn bwriadu ymateb i'r pwysau cynyddol ar wasanaethau'r sector cyhoeddus, a gynyddodd yn ystod pandemig COVID-19 ac yn syth wedi hynny gan yr argyfwng costau byw presennol. Mae'n nodi'r dulliau a'r egwyddorion y byddai'r Cyngor yn eu dilyn i sicrhau ei fod yn parhau'n gynaliadwy yn ariannol ac yn cyflawni'r amcanion lles corfforaethol.

Ychwanegodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod a gosod y cyfraddau treth cyngor ar gyfer y fwrdeistref sirol, yn unol â'r gofyniad cyfreithiol dan ddarpariaethau Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 92. Roedd yr adroddiad yn nodi cynigion i gyflawni'r amcan hwnnw a chyfrannu at sefyllfa ariannol gynaliadwy wrth symud ymlaen i'r tymor canolig.

 

Esboniodd y Prif Swyddog - Cyllid Perfformiad a Newid fod cynaliadwyedd ariannol hirdymor y Cyngor yn fater pwysig. Mae’r adroddiadau chwarterol i'r Cabinet ar ragolygon refeniw ar gyfer 2022-2023 wedi amlinellu'n fanwl yr effaith mae pwysau’r costau ychwanegol a wynebai'r Cyngor gydol y flwyddyn yn ei chael ar y gyllideb, o ganlyniad i'r hinsawdd economaidd sy'n gwaethygu, a’r chwyddiant a’r cyfraddau llog cynyddol. Cafodd hyn ei adlewyrchu wrth i brisiau godi’n uwch na'r codiadau cyflog disgwyliedig a chynnydd sylweddol mewn prisiau tendro ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Er nad oedd rhai o'r pwysau ychwanegol hynny yn digwydd drosodd a throsodd, roeddent yn bwysau craidd i'r Cyngor wrth symid ymlaen, ac mae'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn adlewyrchu hyn. Nid oedd disgwyl i'r setliad terfynol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru gael ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach y mis hwnnw, felly roedd y gyllideb yn cael ei chynnig ar sail y setliad dros dro a gafwyd ym mis Rhagfyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 101.

Motion Vote Type
TeitlMathMotion Vote Type textResult
Test Vote Ad-Hoc Rejected
  • View Motion Vote Type for this item
  • 102.

    Strategaeth Gyfalaf 2023-24 a thu hwnt pdf eicon PDF 535 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Cyflwynodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023-24 tan 2032-33 (Atodiad A i'r adroddiad) i'r Cyngor ei chymeradwyo, a oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus a'r Datganiad Darpariaeth Refeniw Isafswm Blynyddol 2023-24.

     

    Esboniodd fod gofyn i awdurdodau lleol benderfynu ar Strategaeth Gyfalaf a oedd yn dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn ystyried stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb ariannol, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd yn briodol wrth wneud y penderfyniadau hyn. Cafodd y Strategaeth Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023 - 2024 tan 2032 - 2033 ei hatodi yn Atodiad A yr adroddiad.

     

    Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y strategaeth yn nodi cynllun y Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf, a sut oedd hynny i'w ariannu dros y 10 mlynedd nesaf. Wrth ddatblygu penderfyniadau buddsoddi hirdymor, roedd yn hanfodol bod penderfyniadau'n seiliedig ar wybodaeth glir, gan gynnwys cynllun rheoli hirdymor. Cafodd y ddogfen ei chyflwyno fel rhan annatod o fframwaith cyllideb a pholisi'r Cyngor. Roedd yn gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Rheoli Asedau'r Cyngor.

     

    Amlinellodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid yr egwyddorion a oedd yn llywio penderfyniadau cyllideb a gwariant y Cyngor fel y cânt eu hadlewyrchu yn y strategaeth gyfalaf. Roedd y cynllun yn manylu ar sut y byddai angen cwblhau astudiaeth ddichonoldeb lawn ar gyfer unrhyw fuddsoddiadau arfaethedig mewn tir ac adeiladau er mwyn gwerthuso ymarferoldeb y prosiect cyfalaf, ac asesu'r elfennau cyflawni cyn i'r Cyngor fuddsoddi amser ac arian i'r prosiect hwnnw.

     

    Ychwanegodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid y byddai llawer o feysydd sylweddol angen eu cyllido wrth symud ymlaen, gan gynnwys adfer yr economi, datgarboneiddio a digartrefedd, digidoleiddio ac amddiffynfeydd arfordirol. Fel yr adroddwyd i'r Cyngor gydol y flwyddyn, roedd pwysau ariannol eraill hefyd yn codi yn sgil y pandemig a Brexit - pwysau a welwyd mewn cynlluniau cyfredol - a rhagwelir y byddai hyn yn parhau am gryn amser eto. Roedd y pwysau'n cynnwys trafferthion y gadwyn gyflenwi gan arwain at brisiau uwch ac oedi o ran cwblhau cynlluniau.

     

    Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y strategaeth hefyd yn cyfeirio at y newidiadau yn y gallu i fenthyca gan y bwrdd benthyciadau gwaith cyhoeddus o ran benthyca i fuddsoddi'n bennaf ar gyfer adenillion ariannol. Roedd angen rheoli prosiectau cyfalaf mawr yn ofalus i liniaru'r risgiau posibl a allai godi. Roedd monitro, rheoli a lliniaru'r risgiau hyn yn rhan allweddol o reoli'r strategaeth gyfalaf yn effeithiol.

     

    Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod yr adroddiad yn amlinellu'r broses gadarn ar waith i gymeradwyo, rheoli a monitro prosiectau cyfalaf a pharatowyd adroddiadau monitro cyfalaf chwarterol ar gyfer y Cabinet a'r Cyngor gyda manylion unrhyw amrywiannau rhwng prosiectau yn ogystal â rhagamcanion o wariant tebygol diwedd blwyddyn.

     

    Yn ôl y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid, yn 2023 - 2024, roedd y Cyngor yn cynllunio gwariant cyfalaf o £69 miliwn a chrynhowyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 102.

    103.

    Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023-24 pdf eicon PDF 592 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Cafwyd cyflwyniad o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023-24 (Atodiad A i'r adroddiad), gan y Prif Swyddog Cyllid Perfformiad a Newid, a oedd yn cynnwys Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, ar gyfer 2023-24 tan 2025-26.

     

    Esboniodd fod swyddogaethau Rheoli Trysorlys y Cyngor wedi'u rheoleiddio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Roedd hyn yn rhoi'r pwerau i'r awdurdodau fenthyg a buddsoddi yn ogystal â darparu rheolaethau a chyfyngiadau ar y gweithgaredd hwn. Bu'n rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, sy'n nodi cyfrifoldebau, dirprwyaethau a threfniadau adrodd y Cynghorau a'r Prif Swyddog Ariannol.

     

    Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi cyflawni ei weithgareddau i reoli'r trysorlys yn unol â chod darbodus y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a oedd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn amgylchedd sy'n gynyddol gymhleth ac i ategu'r newidiadau i reoliadau. Roedd Strategaeth Rheoli'r Trysorlys integredig gan y Cyngor lle rheolwyd benthyca a buddsoddiadau yn unol â'r arferion proffesiynol gorau. Byddai'r Cyngor yn disgwyl benthyg arian os byddai angen, naill ai i ddiwallu anghenion llif arian yn y tymor byr neu i ariannu cynlluniau cyfalaf a gymeradwywyd o fewn y rhaglen gyfalaf. Felly, nid oedd unrhyw fenthyciadau gwirioneddol yn gysylltiedig ag eitemau penodol o wariant neu asedau. 

     

    Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys y posibilrwydd o golli arian a fuddsoddwyd ac effaith refeniw'r newidiadau mewn cyfraddau llog. Felly, roedd adnabod, monitro a rheoli'r risg yn llwyddiannus yn ganolog i Strategaeth Rheoli'r Trysorlys. Pe bai unrhyw newid sylweddol, byddai strategaeth ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo. Ychwanegodd y byddai effaith barhaus rhyfel Wcráin ar y DU, yn ogystal â chwyddiant uwch, cyfraddau llog uwch, polisi ansicr gan y llywodraeth a rhagolygon economaidd sy'n dirywio, yn gryn ddylanwadau ar Strategaeth y Cyngor ar gyfer Rheoli'r Trysorlys yn 2023-2024.

     

    Yn ôl y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid roedd gan y Cyngor £99.8 miliwn o fenthyciadau a £94.05 miliwn o fuddsoddiadau ar 31 Rhagfyr 2022. Rhagwelwyd y gallai fod angen i'r Cyngor fenthyg yn ystod y tair blynedd nesaf fodd bynnag, ond y gallai'r sefyllfa hon newid os na fydd cynlluniau cyfalaf yn mynd rhagddynt fel y rhagwelwyd, neu gynlluniau newydd heb eu hariannu'n llawn gan grant yn cael eu hychwanegu at y rhaglen gyfalaf, neu ychwanegu cynlluniau newydd sydd angen cyllid dyled ychwanegol. Wrth fenthyg arian, prif amcan y Cyngor oedd taro cydbwysedd risg priodol o isel rhwng sicrhau costau llog isel a sicrhau sicrwydd o'r costau hynny dros y cyfnod ariannu. Roedd y strategaeth yn amlinellu prif amcanion y Cyngor o ran benthyca yn 2023-24.

     

    Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid eu bod wedi newid y strategaeth yn seiliedig ar sylwadau a gawsant gan Aelodau etholedig. Roedd y strategaeth newydd yn cynnig llai o gyfyngiad ar yr hyn y gallen nhw ei osod gydag awdurdodau lleol eraill a chynnig lleihau'r amser y gellid buddsoddi'r arian hwnnw. Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, byddai'r Cyngor yn derbyn adroddiadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 103.

    104.

    Y Dreth Gyngor 2023-24 pdf eicon PDF 301 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Cyflwynwyd i'r Cyngor gan y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid adroddiad yn cynnwys manylion y dreth gyngor ar gyfer y Cyngor Bwrdeistref Sirol, ynghyd â gofynion Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Cynghorau Tref a Chymuned, gan ofyn i’r Cyngor gymeradwyo Band D y Dreth Gyngor ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r ardaloedd cymunedol ar gyfer 2023-24.

     

    Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid, yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fod yn rhaid i'r Cyngor gyfrifo ei ofyniad cyllideb a chymeradwyo'r Dreth Gyngor yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Hefyd, fel awdurdod bilio, roedd yn ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfrifo swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau'r ardal, a oedd yn ymwneud ag un neu ragor o eitemau arbennig. Y Cyngor hwn sy'n casglu'r Dreth Gyngor ar ran Cynghorau Tref a Chymuned yr ardal yn ogystal â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Roedd y Cyngor wedi cytuno ar ofyniad cyllideb net o £342 miliwn i'r Cyngor am y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd hyn gyfystyr â threth gyngor o £1675.26 ar eiddo band D.

     

    Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi rhoi gwybod i'r Cyngor bod y praesept ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod wedi'i gytuno, ac y byddai eu praesept ar eiddo band D yn cynyddu i £324.47. Roedd hyn yn gynnydd o 7.4% ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd gofyniad cyllideb Cynghorau Tref a Chymuned ar gyfer y flwyddyn i ddod yn gynnydd o .92% ar gyfartaledd ar gyfer 2023-2024. Mae cyfanswm gofyniad treth gyngor band D ar gyfartaledd ar gyfer y flwyddyn i ddod ar gyfer pob ardal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dadansoddiad pellach o'r dreth ar gyfer pob ardal sy'n dangos y swm sy'n daladwy i'r Cyngor hwn, i'w gweld yn nhabl 7 yr adroddiad.

     

    Gofynnodd Aelod a ellid cael pleidlais ar hyn o gofio bod y gyllideb eisoes wedi'i phasio, ac a ddylai'r Aelodau hynny sy'n eistedd ar Gynghorau Tref a Chymuned ddatgan buddiant. Atebodd y Swyddog Monitro nad oedd angen datgan buddiant rhagfarnus. Roedd y Cyngor wedi pasio'r gyllideb, a'i chyngor hi oedd os nad oedd y dreth gyngor wedi'i chymeradwyo ar y cam hwn, y byddent felly’n llesteirio ewyllys y Cyngor.

     

    Soniodd yr Aelod am yr argyfwng costau byw a gofyn beth oedd y broses ar gyfer adennill taliadau a fethwyd ac a oedd yr awdurdod yn hyblyg dan yr amgylchiadau hyn. Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod sawl proses ar waith i helpu pobl oedd yn cael trafferth talu'r bil treth gyngor. Os oedd pobl eisiau talu mewn rhandaliadau, roedd modd gwneud hynny dros 12 mis yn hytrach na 10, a oedd yn gymorth i rai pobl. Hefyd, dylid gwirio a oedd ganddyn nhw hawl i unrhyw fudd-daliadau nad oedden nhw'n ymwybodol ohonynt. Roedd cynllun gostyngiadau'r dreth Gyngor hefyd, gyda £16 miliwn yn y gyllideb refeniw yn helpu pobl pe baen nhw'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 104.

    105.

    Eitemau brys

    I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

     

    Cofnodion:

    Dim