Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o fuddiant personol a rhagfarnus gan Aelodau/Swyddogion yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd H Bennett ddatgan buddiant personol yn eitem 6 ar yr Agenda fel Aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, drwy ei gwaith. |
|
|
Cymeradwyo’r Cofnodion Derbyn cofnodion 1/3/23 a 15/3/23 i'w cymeradwyo
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Cyngor dyddiedig 1 Mawrth 2023 a 15 Mawrth 2023 fel cofnodion gwir a chywir, yn amodol ar ddiwygio tudalen 11 o gofnodion 1 Mawrth, sef hwnnw ar frig y dudalen, lle cyfeirir at 'yr oedd Hawliad Cyflog yr Undeb Llafur ar gyfer staff yn annheg', bod hwn yn cael ei newid i 'deg'. |
|
|
Derbyn cyhoeddiadau gan: (i) Maer (neu'r sawl sy'n llywyddu) (ii) Aelodau'r Cabinet (iii) Prif Weithredwr
Cofnodion: Y Maer
Gobeithio i chi i gyd fwynhau gwyliau’r Pasg gyda theulu a ffrindiau.
Mae’n adeg arbennig o braf o’r flwyddyn i mi fy hun lle rydw i’n hoffi gweld golau’r haul a chennin Pedr yn ffynnu ar draws ein holl gymunedau. Nodyn amserol i'n hatgoffa y bydd yr haf gyda ni cyn bo hir.
Ers ein cyfarfod llawn diwethaf o’r Cyngor, cefais y pleser unwaith eto o gwrdd â rhai pobl anhygoel a nodedig yn ein Bwrdeistref Sirol.
Roedd rhai enghreifftiau yn cynnwys, dathliadau pen-blwydd Mrs Helena Charles BEM, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 105 yn ei chymuned enedigol ym Mlaengarw. Gwraig wirioneddol ryfeddol a rannodd atgofion am oes yng Nghwm Garw. Mae’n debyg mai Mrs Charles yw’r person hynaf yn ein Bwrdeistref Sirol, ond rydw i’n si?r y caf fy nghywiro os nad ydy hyn yn iawn.
Cyfarfûm â Gr?p Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad Cwm Ogwr a chefais y pleser o ddyfarnu Tystysgrif y Maer i’w aelodau am eu gwasanaeth i’r gymuned. Enwebwyd y gr?p ar gyfer gwobr o’r fath gan Gyngor Cymuned Cwm Ogwr.
Roedd yn brofiad gostyngol cwrdd ag aelodau'r gr?p, rhai ohonynt hwy eu hunain wedi profi trawma o ganlyniad i hunanladdiad. Roedd gwrando ar eu profiadau a gweld â’m llygaid fy hun eu ffocws anhygoel a’u hagwedd gadarnhaol tuag at helpu eraill sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn anhygoel.
Roedd hi hefyd yn foment arbennig o falchder i fynychu Seremoni Cyhoeddi ein Huchel Siryf newydd ar gyfer Morgannwg Ganol, yr Athro Jean White.
Roedd hwn yn achlysur braf iawn i fod yn dyst i'r Cyhoeddiad. Rydw i’n si?r y bydd y Siambr gyfan yn ymuno â mi i ddymuno’r gorau i’r Athro White yn ei thymor o ddeuddeng mis yn y swydd.
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Uchel Siryf Maria Thomas, sydd wedi dod i ddiwedd ei thymor, am ei chefnogaeth i'r Fwrdeistref Sirol yn ystod ei thymor yn y swydd. Roedd yn bleser cael mynd gyda Maria a gweithio gyda hi mewn llawer o ddigwyddiadau dinesig yn y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt.
Cefais y fraint hefyd o groesawu’r Dywysoges Anne, Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol, i gyfleuster Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn Stryd y Parc Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y digwyddiad, dan arweiniad Helen Pitt, rheolwr Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, yn dangos pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth mae Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn ei roi i ofalwyr di-dâl. Roedd yn amlwg bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cymunedau, yn aml mewn sefyllfaoedd anodd iawn. Roedd yr egni a'r balchder yn y ganolfan i’w deimlo.
Diolch yn fawr iawn i holl dîm Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Rydw i’n si?r y bydd y siambr gyfan yn parhau i gefnogi eich ymgysylltiad a’ch gwasanaeth hanfodol i’r rhai mwyaf agored i niwed.
Profiad eithaf unigryw a’r tro cyntaf i mi, oedd bod yn westai anrhydeddus ar ymweliad â Mosg Dar-Ui-Isra yn Heol Wyeverne yng Nghaerdydd i rannu Pryd o Fwyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 120. |
|
|
Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd Cofnodion: Byddwch wedi gweld adroddiadau newyddion am gynulliad anghyfreithlon dros benwythnos g?yl banc y Pasg, ar Ystad Ddiwydiannol Cynffig ym Margam, sy’n ffinio â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rhoddodd Heddlu De Cymru orchymyn cyhoeddus i gyfarwyddo pobol i adael yr ardal.
Am resymau diogelwch, cafodd ffyrdd eu cau ar fyrder a chynghorwyd pobl i beidio â mynychu'r cyfarfod ar droed nac mewn cerbydau.
Mae ymateb i gynulliad anghyfreithlon o’r maint ac o natur hwn yn cael effaith ar ein gwasanaethau brys, timau priffyrdd a chriwiau glanhau, a gafodd eu galw allan yn annisgwyl ar Sul y Pasg.
Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd a’u cefnogaeth ynghyd â chydweithwyr yn Heddlu De Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac asiantaethau partner eraill a weithiodd gyda’i gilydd i ymdrin â’r sefyllfa a sicrhau bod pobl yn gadael y safle’n ddiogel.
Cawsom hefyd wybod dros y penwythnos fod nifer o garafanau wedi parcio’n anghyfreithlon ar gaeau chwarae Rest Bay ym Mhorthcawl. Fe wnaethom weithredu’n gyflym ac ar y cyd â Heddlu De Cymru, cyflwynwyd hysbysiad yn gofyn i'r carafanau adael y safle. O dan y gyfraith, mae'n rhaid i gynghorau ddilyn proses benodol ac mae'n ofynnol iddynt gynnal asesiadau gwasanaethau cymdeithasol a chadarnhau nad oes unrhyw faterion lles cyn y gellir cyflwyno hysbysiad. O ganlyniad i'r ymateb yma, gadawodd y carafanau'r safle ar y dydd Llun.
Mae deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru yn golygu, o 17 Medi 2023, y bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol yn disgyn o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig.
Bydd yr Aelodau’n gwybod oddi wrth y papur briffio y maent wedi ei dderbyn mai nod y symudiad yw lleihau anafiadau ar y ffyrdd, cynnig amgylchedd mwy diogel i annog beicio neu gerdded, yn ogystal â lleihau llygredd s?n.
Mae ymarfer ymgysylltu cyhoeddus yn mynd ymlaen ar-lein ar hyn o bryd yngl?n ag eithriadau lleol i’r gostyngiad o 30mya i 20mya a bydd yn parhau ar agor tan 24 Ebrill.
Cefais lythyr o gysur gan y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru, Lee Waters, ynghylch cyllid ar gyfer gweithredu’r terfyn cyflymder is.
Derbyniais gadarnhad hefyd fod yr ymgynghoriad a gynlluniwyd ynghylch problem anodd ‘parcio ar y palmant’ wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn nesaf.
Mae hyn yn dilyn adborth gan Arweinwyr Cynghorau yn dweud bod angen canolbwyntio mwy yn gyntaf ar weithredu’r gofynion terfyn cyflymder cenedlaethol newydd, ac mae’n dda gennyf weld bod y dirprwy weinidog wedi gwrando ar ein pryderon.
Er nad yw parcio ar balmentydd yn anghyfreithlon yng Nghymru ar hyn o bryd oni bai bod cerbyd yn achosi rhwystr, mae’r Alban yn y broses o wahardd yr arferiad, ac mae eisoes yn anghyfreithlon yn Llundain.
Mae elusennau fel Strydoedd Byw Cymru a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion wedi dadlau ers tro bod cadw palmentydd yn glir o gerbydau yn hanfodol i bobl ddall a rhannol ddall, a hefyd ar gyfer pobl â phroblemau symudedd a allai gael eu gorfodi i fynd allan i’r ffordd i gael o gwmpas ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 121. |
|
|
Y Cynllun Llesiant ar gyfer Cwm Taf Morgannwg Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a’i ddiben oedd gofyn am gymeradwyaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Gynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Cwm Taf Morgannwg.
Cadarnhaodd fod newidiadau i ôl troed y bwrdd iechyd wedi creu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Cytunwyd y dylai’r ddau BGC oedd yn cwmpasu’r ardal honno, uno i ddod yn un BGC er mwyn lleihau dyblygu a galluogi cydweithio mwy effeithiol i wella llesiant pobl yn yr ardal.
Ychwanegodd, yn dilyn cyhoeddi’r Cynllun Llesiant, y bydd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr yn uno i ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.
Dywedodd y Prif Weithredwr mai thema gyffredinol y Cynllun Llesiant yw ‘Cwm Taf Morgannwg Mwy Cyfartal’ sy’n dylanwadu ar bob agwedd ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Dangosodd yr Asesiad Llesiant fod gan gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf lawer i fod yn falch ohono. Fodd bynnag, nid yw pob cymuned yn cael mynediad teg at gyfleoedd ac maent yn wynebu heriau gwahanol sy’n effeithio ar lesiant.
Mae gan y Cynllun Llesiant sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad ddau amcan ac amlinellwyd y rhain ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.
Mae’r Cynllun Llesiant yn gwneud pump ymrwymiad ar gyfer y ffordd y bydd y BGC sengl yn gweithio a’r rhain fydd yr egwyddorion craidd ar gyfer y BGC, fydd yn arwain ac yn herio gweithgaredd ar draws strwythur y BGC. Dangoswyd yr ymrwymiadau hyn ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.
Yna cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr ymgynghoriad 12 wythnos a gynhaliwyd yngl?n â’r Cynllun drafft terfynol, oedd yn cynnwys arolwg ar-lein, a ddenodd 238 o ymatebion.
Daeth y Prif Weithredwr â’i gyflwyniad i ben, drwy gadarnhau yn ogystal â’r ffaith fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo eu cynllun llesiant ar y cyd fod yn rhaid i’r chwe phartner statudol hefyd gymeradwyo’r cynllun i’w gyhoeddi.
Y partneriaid statudol yw:
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful • Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg • Cyfoeth Naturiol Cymru
Gofynnodd aelod a oedd bwriad i'r Cynllun fod yn gwbl hygyrch i bawb, gan nad oedd y copi oedd gerbron y Cyngor yn cyfarfod â'r holl ofynion hygyrchedd angenrheidiol.
Cadarnhaodd Swyddog y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) mai dyma fyddai’r copi, trwy Dîm Dylunio’r Cyngor.
Dywedodd aelod, gan gyfeirio at sylfaen dystiolaeth yr AEA fod y ddogfen yn nodi bod 238 o ymatebion i'r arolwg ar-lein mewn perthynas â'r broses ymgynghori. Roedd sesiynau ymgysylltu pellach hefyd wedi cael eu cynnal mewn rhai sefydliadau yr ymwelwyd â hwy gan y cyhoedd yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys yn Llyfrgell Sarn. Gofynnodd faint oedd wedi mynychu mewn perthynas â'r olaf.
Cadarnhaodd Swyddog y BGC nad oedd ganddi’r lefelau presenoldeb penodol ym mhob un o’r safleoedd ymgynghori. Fodd bynnag, roedd canlyniadau’r holl sesiynau ymgysylltu wedi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 122. |
|
|
Derbyn y cwestiynau canlynol gan: Cwestiwn gan y Cyng Tim Wood i Aelod y Cabinet dros Adfywio
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwario swm sylweddol o arian cyhoeddus, yn gyntaf yn cynnal ymgynghoriad ac yna'n llunio adroddiad ac wedyn cynnal proses ymchwilio i’r posibilrwydd o agor rhan fechan o Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr i draffig unwaith eto.
Yr ymgynghoriad hwn, yn ôl yn 2016, ysgogodd yr ymgysylltiad cyhoeddus mwyaf yn hanes y cyngor hwn ac roedd y cyhoedd yn frwd eu cefnogaeth i ail-agor canol y dref yn rhannol.
Fel y cyfryw, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio gytuno ein bod ni fel cyngor yma i wasanaethu’r cyhoedd, i fod yn stiwardiaid da o’r pwrs cyhoeddus a’n bod yma i galonogi a chynnal canol ein trefi, nid eu rhwystro?
Felly, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi manylion i mi am eu cynlluniau i wneud Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn hygyrch i bawb?
Cwestiwn gan y Cyng Alex Williams i Aelod y Cabinet dros y Cymunedau
A wnaiff Aelod y Cabinet dros y Cymunedau ddatganiad am y cymorthdaliadau y mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn eu rhoi ar hyn o bryd i gefnogi'r llwybrau bysiau hynny a gafodd eu hystyried yn fasnachol anhyfyw; a wnaiff amlinellu pa ystyriaeth a roddwyd i leihau'r cymorthdaliadau hyn neu eu tynnu'n ôl yn llwyr; a pha ddadansoddiad gafodd ei wneud o’r hyn y byddai gostyngiad o'r fath, neu dynnu'r cymorthdaliadau yn ôl, yn ei olygu o bosibl i’r bobl yn y cymunedau oedd yn arfer derbyn llwybrau cymorthdaledig o’r blaen?
Cwestiwn gan y Cyng Tim Thomas i Aelod y Cabinet dros y Cymunedau
Beth mae Aelod y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod ffyrdd a phriffyrdd CBSP yn hygyrch i’r henoed a’r anabl?
Cwestiwn gan y Cyng Ian Williams i Aelod y Cabinet dros Adfywio
A wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am ba fesurau sy’n cael eu cymryd i adfer yr adeiladau adfeiliedig niferus yng nghanol ein tref a beth yw’r amserlen ar gyfer y gwaith adfer hwn? Cofnodion: Y Cynghorydd Tim Wood i Aelod y Cabinet – Adfywio
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwario swm sylweddol o arian cyhoeddus, yn gyntaf yn cynnal ymgynghoriad ac yna'n adrodd ac yn ymchwilio i ailagor rhan fechan o Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr i draffig.
Yr ymgynghoriad hwn yn ôl yn 2016 ddenodd yr ymgysylltiad cyhoeddus mwyaf yn hanes y cyngor hwn ac roedd y cyhoedd yn frwd eu cefnogaeth i ailagor canol y dref yn y modd hwn.
O’r herwydd, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio gytuno ein bod ni fel cyngor yma i wasanaethu’r cyhoedd, i fod yn stiwardiaid da ar y pwrs cyhoeddus ac yma i galonogi a chynnal canol ein trefi nid eu rhwystro. Felly a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi gwybodaeth i mi am eu cynlluniau i wneud Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn hygyrch i bawb?
Ymateb
Yn dilyn ymlaen o Brif Gynllun Adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr 2021, mae ffocws parhaus ar gyflawni rôl Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan a chanolfan ar gyfer manwerthu, byw, cyflogaeth, addysg a threftadaeth. Er mwyn gwneud hyn yn bosibl, gofynnwyd i’r Cyngor, dros nifer o flynyddoedd, ystyried dad-bedestreiddio fel ateb posibl i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref, cefnogi’r economi leol a chreu canol tref mwy bywiog a chynhwysol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Rydym yn wir wedi cwblhau ymarferiadau dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn gweld sut y gellid gwella mynediad ond, heb os nac oni bai, rydym wedi wynebu rhwystrau ar hyd y ffordd, nid lleiaf y newid ym mholisïau Llywodraeth Cymru ar Gynllunio a Theithio Llesol, ond hefyd moratoriwm Llywodraeth y DU ar Ddadbedestreiddio. a chynlluniau teithio llesol i ganiatáu adolygiad o bolisi cenedlaethol.
Mae’r Gwerthusiad o Ddewisiadau Hygyrchedd Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar well mynediad i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cynnig tri dewis posibl i fynd i'r afael â'r mater, gan anelu at gydbwyso blaenoriaethau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd ar gyfer yr ystod amrywiol o randdeiliaid yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Er bod astudiaethau o’r blaen wedi awgrymu dewisiadau ar gyfer dadbedestreiddio, mae’r gwaith hwn yn ailedrych ar hygyrchedd canol y dref gan gynnwys adolygiad o bolisïau cynllunio cyfredol megis Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 11, Chwefror 2021) a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru newydd, ynghyd ag adolygiad o'r astudiaethau mynediad a gynhaliwyd o’r blaen.
Mae gwerthusiad wedi ei gynnal hefyd o’r gorchymyn rheoleiddio traffig presennol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r dull gweithredu sydd ei angen i wella mynediad i ganol y dref, gan gynnwys rheoli bolardiau electronig, darpariaeth parcio ac ymchwilio i ddewis clicio a chasglu a chlicio a danfon.
Rydym yn awr yn gweithio gydag arbenigwyr yn Atkins i brofi a chwestiynu hyfywedd y tri dewis yn drylwyr a phenderfynu ar y dewis gorau y gellir ei symud ymlaen i’r cam cyflawni, gan sicrhau bod prosiectau yn gyfreithiol ac yn dechnegol ymarferol, yn ogystal â bod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 123. |
|
|
Eitemau brys Ystyried unrhyw eitem(au) o fusnes y mae hysbysiad wedi’i roi yn ei gylch yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor ac y mae’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod o’r farn y dylai oherwydd amgylchiadau arbennig fod. a drafodwyd yn y cyfarfod fel mater o frys.
Cofnodion: Dim. |