Agenda a chofnodion drafft

Cyngor - Dydd Mercher, 12fed Mawrth, 2025 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

110.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 169 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 05/02/2025

 

111.

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer

(ii) Prif Weithredwr

112.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

113.

Trafodion Partïon Cysylltiedig 2024-25 ar gyfer Datganiad Cyfrifon pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

114.

Rhaglen Amnewid Fflyd pdf eicon PDF 240 KB

115.

Dyraniad Rhaglen Gyfalaf Ar Gyfer Prosiect Pafiliwn y Grand pdf eicon PDF 253 KB

116.

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2025-26 pdf eicon PDF 552 KB

Dogfennau ychwanegol:

117.

Datganiad Polisi Tâl - 2025/26 pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

118.

Rheolau Gweithdrefn Contractau Diwygiedig pdf eicon PDF 494 KB

Dogfennau ychwanegol:

119.

Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

120.

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Cynghorydd Heidi Bennett i’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r

Amgylchedd

 

A all yr Aelod Cabinet roi diweddariad ar lefel y cyllid a dderbyniwyd gan y Cymry Llywodraeth ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd fel rhan o'r Grant Cynnal Refeniw 25/26 ac yn ogystal, pa gamau a yw'r cyngor am sicrhau buddsoddiad pellach gan LlC i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o ffyrdd atgyweiriadau a thyllau yn y ffordd ar draws y sir?

 

121.

Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd Gary Haines

Cynnig i Ddychwelyd Refeniw Ystad y Goron i Lywodraeth Cymru

Cyflwynir y cynnig hwn i gydnabod hawliau Cymru i reoli ac elwa o’i chyfoeth naturiol ei hun, gan sicrhau bod llesiant cymdeithasol ac economaidd ei dinasyddion yn cael eu blaenoriaethu.

Mae'r Cyngor hwn:

  1. Yn cydnabod bod Ystad y Goron yng Nghymru yn cynhyrchu refeniw sylweddol o adnoddau naturiol Cymru, gan gynnwys gwynt alltraeth, adnoddau morol, a daliadau tir.
  2. Yn nodi bod refeniw o Ystad y Goron yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael ei gasglu a’i reoli gan Drysorlys y DU, a’r elw yn cael ei ddyrannu i Lywodraeth y DU.
  3. Yn cydnabod bod yr Alban wedi llwyddo i ddatganoli refeniw Ystad y Goron, gan sicrhau bod yr incwm a gynhyrchir o asedau’r Alban yn cael ei ail-fuddsoddi yn economi a chymunedau’r Alban.
  4. Yn credu y dylai’r refeniw a gynhyrchir o asedau Ystad y Goron yng Nghymru gael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru, i sicrhau ei fod yn cael ei ail-fuddsoddi mewn datblygiadau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.
  5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli refeniw Ystad y Goron i Lywodraeth Cymru, gan alluogi buddsoddiad uniongyrchol mewn gwasanaethau cyhoeddus, tai, prosiectau ynni adnewyddadwy, a chyfleoedd economaidd i gymunedau ledled Cymru.
  6. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddadlau dros ddychwelyd y cyllid hwn a datblygu fframwaith strategol ar eu cyfer wrth fynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, lleddfu tlodi, a chefnogi twf cynaliadwy yng Nghymru.

Mae'r Cyngor hwn yn penderfynu:

  1. Cefnogi pob mesur sy’n ceisio datganoli Ystad y Goron yng Nghymru.
  2. Galw ar Lywodraeth y DU i drafod yn ystyrlon ynghylch dosbarthu’r incymau a gynhyrchir o adnoddau naturiol Cymru yn deg.

 

122.

Rhybudd o Gynnig a Gynigiwyd Gan y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd

Hysbysiad o Gynnig: Cymorth ar gyfer Gwarant Hanfodion

Noda’r Cyngor hwn:

         Bu cynnydd sylweddol yn yr angen am fwyd brys yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gyda Banc Bwyd Sir Pen-y bont ar Ogwr yn darparu dros 8,000 o barseli bwyd brys yn ystod y 12 mis diwethaf, cynnydd o 21% ar yr un cyfnod yn 2018/19.

         Aelwydydd gyda phlant yw 62% o fuddiolwyr Banciau Bwyd Sir Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae 28% o’r rhain yn deuluoedd gyda 3 neu fwy o blant. Dengys hyn bod cyfradd uwch o aelwydydd gyda phlant yn profi newyn, tlodi a chaledi.

         Mae tua 5 o bob 6 aelwyd incwm isel sydd yn derbyn Credyd Cynhwysol yn mynd heb o leiaf un peth hanfodol fel bwyd, cartref cynnes neu bethau ymolchi [1], sy’n dangos nad yw’r system nawdd cymdeithasol yn darparu digon i bobl allu fforddio’r hanfodion.

         Mae 9.3 miliwn o bobl yn y DU yn wynebu caledi a bod heb fwyd, gan olygu bod eu haelwydydd fwy na 25% yn is na ffin tlodi’r Comisiwn Metrigau Cymdeithasol. Mae hyn yn cynrychioli un o bob saith person yn y DU, ac un o bob pump plentyn. Heb weithredu, rhagwelir y bydd 425,000 yn fwy o bobl yn wynebu caledi a bod heb fwyd erbyn 2026/27 [2].

 

Penderfyniad y Cyngor:

-         Cefnogi hyrwyddo’r ymgyrch gan Fanc Bwyd Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Trussell a Sefydliad Joseph Rowntree i gyflwyno Gwarant Hanfodion[3], cyfraith a fyddai’n sicrhau bod cyfradd sylfaenol y gefnogaeth nawdd cymdeithasol wastad yn ddigonol i allu fforddio’r hanfodion sydd eu hangen ar bob un ohonom i fyw.

-         Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at y Canghellor ac Ysgrifennydd yr Adran Waith a Phensiynau o blaid cyflwyno Gwarant Hanfodion.

-         Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Chris Elmore AS Pen-y-bont ar Ogwr, Stephen Kinnock AS Aberafan Maesteg, a Chris Bryant AS Rhondda ac Ogwr, yn gofyn iddynt ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch Bwyd a Materion Gwledig, yn ogystal â'r Canghellor ac Ysgrifennydd yr Adran Waith a Phensiynau, o blaid cyflwyno Gwarant Hanfodion.

 

[1] Joseph Rowntree Foundation: https://www.jrf.org.uk/social-security/guarantee-our-essentials-reforming-universal-credit-to-ensure-we-can-all-afford-the

[2] The Cost of Hunger and Hardship, Trussell, 2024: https://www.trussell.org.uk/news-and-research/publications/report/the-cost-of-hunger-and-hardship

[3] https://www.trussell.org.uk/support-us/guarantee-our-essentials

 

123.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.