Agenda

Cyngor - Dydd Mercher, 24ain Mehefin, 2026 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

2.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

3.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 125 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 11/03/2026 a 13/05/2026

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Prif Weithredwr

 

5.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

6.

Ymateb Asesiad Perfformiad y Panel pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

Adolygiad o Drefniadau Cymunedol pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

Alldro Cyllideb Refeniw 2025-26 pdf eicon PDF 439 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

Diwygiadau i'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau a Rheolau Gweithdrefn Contractau pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

Adroddiad Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

11.

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Y Cynghorydd I Williams i'r Arweinydd

 

"Ym mis Medi 2025 gofynnais i'r arweinydd ddwyn achos llys yn erbyn DCWW, gan ddefnyddio'r pwerau sydd gan Awdurdodau Lleol, i atal ein hafonydd a'n traethau rhag cael eu llygru’n barhaus.

 

NA oedd yr ateb a gefais ganddo er gwaethaf y ffaith fod ein traethau'n cael eu difetha gan faw dynol, condomau a chynhyrchion misglwyf, sy'n cael eu golchi i fyny ar ein glannau, yn rhy reolaidd o lawer.

 

Mae 6 mis bellach ers i mi ofyn ddiwethaf a hoffwn gael gwybod beth mae CBSP wedi ei wneud yn y cyfamser i leihau rhagor o ddifrod rhag cael ei achosi gan lygredd DCWW i'n diwydiant twristiaeth, i iechyd a lles ein trigolion a’n hymwelwyr, ac i fioamrywiaeth werthfawr ein bwrdeistref?"

 

 

Y Cynghorydd Alex Ulberini-Williams at yr aelod Cabinet Adfywio a Thai

 

Pam nad yw Pencoed yn cael ei ystyried yn Dref gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

 

 

Y Cynghorydd O Clatworthy at y Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant

 

Mae'n groesawgar gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ledled Cymru i ddileu gofal preswyl i blant sy'n gwneud elw yn raddol a symud tuag at fodel dielw, sy'n gam pwysig i sicrhau bod pobl ifanc agored i niwed yn derbyn cymorth sy'n canolbwyntio ar eu lles yn hytrach nag elw ariannol.

 

A all yr Aelod Cabinet amlinellu pa gefnogaeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei darparu ar hyn o bryd i bobl ifanc sy'n trosglwyddo o gartrefi preswyl plant i lety â chymorth a byw'n annibynnol?

 

Ar ben hynny, wrth i Lywodraeth Cymru symud i ffwrdd o ddarpariaeth breswyl breifat i blant sy'n gwneud elw, a yw'r Cyngor wedi ystyried cyfleoedd i ehangu neu ddatblygu ei wasanaethau llety â chymorth ei hun a redir gan y cyngor ar gyfer pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal neu sy'n ddigartref, yn hytrach na dibynnu ar ddarparwyr preifat allanol? Os felly, pa waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i archwilio hyn, a pha heriau neu gyfleoedd sydd wedi'u nodi?

 

Y Cynghorydd T Thomas i'r Arweinydd

 

A wnaiff yr Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o'r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Profi oherwydd trasiedi gyhoeddus?

 

 

Y Cynghorydd M Williams i'r Arweinydd

 

A allai'r Arweinydd egluro beth a ysgogodd nifer o 'Siediau Cacennau' ar draws y fwrdeistref sirol i gael ymweliad gan swyddogion gorfodi BCBC y mis diwethaf a'u cyfarwyddo i roi'r gorau i fasnachu oni bai eu bod yn gwneud cais am 'drwyddedau masnachu stryd' neu'n wynebu dirwyon mawr.

 

12.

Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y:

Cynghorydd JP Blundell

 

Cynnig: Adolygiad o Fformiwla Gyllido Llywodraeth Leol

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

 

1.         Ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad diweddaraf y Senedd, gwnaed ymrwymiadau i adolygu a diwygio fformiwla gyllido llywodraeth leol, gan gynnwys y datganiadau:

 

“A byddwn yn adolygu ac yn diwygio fformiwla gyllido llywodraeth leol fel y bydd yn adlewyrchu’n deg yr hyn yw realiti gwasanaethu poblogaethau sy’n wledig i raddau helaeth.”

ac

“Adolygu’r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol fel ei bod yn adlewyrchu’n well gost wirioneddol darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru.”

 

2.         Y gallai unrhyw newidiadau i fformiwla gyllido llywodraeth leol gael goblygiadau sylweddol i awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

3.         Pwysigrwydd sicrhau y bydd diwygio’r fformiwla gyllido yn unrhyw ffordd yn adlewyrchu tegwch a thryloywder, ac na fydd yn gosod cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dan anfantais.

 

Felly mae'r Cyngor hwn yn penderfynu

 

1.         Ysgrifennu at Ysgrifennydd/Gweinidog y Cabinet dros Gyllid yn Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd/Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn gofyn am eglurder buan yngl?n â manylion yr ymrwymiadau a wnaed ynghylch diwygio fformiwla gyllido llywodraeth leol, eu cwmpas a'r bwriad i’w gweithredu.

2.         Gofyn am sicrwydd na fydd unrhyw ddiwygiadau arfaethedig yn cael effaith ariannol andwyol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr na'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

3.         Gofyn am ymgynghori’n llawn â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yngl?n ag unrhyw newidiadau arfaethedig i’r fformiwla gyllido cyn iddynt gael eu gweithredu.

 

 

Cynghorydd O Clatworthy

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

           Ein bod ni ledled Prydain yn gweld diwylliant cynyddol o fygwth, o gam-drin gwleidyddol a gelyniaeth tuag at bobl sy’n dal safbwyntiau gwahanol.

           Ni all democratiaeth weithredu'n iawn os yw pobl gyffredin yn cael eu tewi gan waeddiadau, eu bygwth neu eu dychryn am fynegi barn gyfreithlon.

           Bod trais gwleidyddol, bygwth ac aflonyddu yn erbyn cynghorwyr, ymgeiswyr, ymgyrchwyr, newyddiadurwyr neu aelodau o'r cyhoedd yn gwbl annerbyniol, waeth beth fo'u cysylltiadau gwleidyddol.

           Bod llawer o bobl weddus bellach yn cael eu digalonni rhag mynd i mewn i fywyd cyhoeddus oherwydd bod gwleidyddiaeth wedi mynd yn fwyfwy gwenwynig a gelyniaethus.

           Mae Prydain wedi ei i hadeiladu ar ryddid ymadrodd, dadl ddemocrataidd a'r hawl i anghytuno'n heddychlon.

            Mewn democratiaeth, mae dadl gref yn beth iach ond nid felly fygwth na thrais gwleidyddol.

           Ni ddylai neb wynebu bygythiadau, cam-drin nac ymdrechion i'w distewi yn syml oherwydd eu bod yn dal safbwyntiau gwleidyddol prif ffrwd.

           Mae’n ddyletswydd ar gynghorwyr i arwain drwy esiampl a chynnal dadl ddemocrataidd barchus, hyd yn oed pan fydd barn yn amrywio'n fawr, gan gynnwys dangos cwrteisi cyffredin tuag at ei gilydd.

 

Mae'r Cyngor hwn yn penderfynu:

 

1. Condemnio pob math o drais gwleidyddol, bygwth, aflonyddu ac ymdrechion i roi  taw ar fynegiant democrataidd cyfreithlon.

2. Ailgadarnhau cefnogaeth y Cyngor hwn i ryddid ymadrodd, dadl agored a chyfranogi democrataidd.

3. Annog yr holl aelodau etholedig i hyrwyddo ymddygiad parchus ar-lein ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus  ...  view the full Agenda text for item 12.

13.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.