Lleoliad: Hybrid yn Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
|
|
|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
|
|
|
Cymeradwyaeth Cofnodion dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 24/06/2026
|
|
|
I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth: (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu) (ii) Prif Weithredwr
|
|
|
Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd |
|
|
Cyflwyniad i'r Cyngor gan Gyfarwyddwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd |
|
|
Alldro Rhaglen Gyfalaf 2025-26 a Diweddariad Chwarter 1 2026-27 Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Adroddiad Alldro Rheoli'r Trysorlys 2025-26 Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Derbyn y Cwestiynau canlynol gan: Y Cynghorydd Tim Thomas i'r Aelod Cabinet Addysg
Sut mae’r awdurdod hwn yn cefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog?
Y Cynghorydd Ian Williams i'r Aelod Cabinet Cymunedau a'r Amgylchedd
'Cafodd Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ei troi’n gerddwyr yn unig yn 2004 a rhoddwyd GRhT ar waith gan ei gwneud yn drosedd traffig symudol i unrhyw gerbyd fynd i mewn i ganol y dref oni bai at ddibenion llwytho neu ddadlwytho. Tua diwedd 2017 derbyniwyd cais cynllunio gan CBSP ar gyfer Maes Parcio 7 lle yn ardal gadwraeth Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo ar 9 Ionawr 2018. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau gan Briffyrdd ac mae adroddiad y swyddogion yn darllen ...
O ystyried nad yw'r Adran Trafnidiaeth, Polisi a Datblygu wedi codi unrhyw wrthwynebiad hyd yma, ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt diogelwch priffyrdd ac felly ystyrir ei fod yn cydymffurfio â Pholisi PLA11 y Cynllun Datblygu Lleol.
Yn wahanol i uwch Swyddog Cynllunio sydd bellach yn dweud ei fod yn faes parcio i breswylwyr cyn creu parth cerddwyr yn 2004, hoffwn ddadlau hynny gan taw bae llwytho ar gyfer Mothercare a siopau eraill yn y bloc hwnnw ar Stryd Caroline mewn difrif. Nid oedd unrhyw Amodau Cynllunio wedi'u cynnwys yn y Caniatâd Cynllunio ac nid oes unrhyw drwyddedau erioed wedi'u rhoi ar gyfer noddwyr y maes parcio. O ystyried bod 14,000 o deithiau posibl wedi'u gwneud i mewn ac allan o ardal gerddwyr Heol y Frenhines, Plas Dwnrhefn a Stryd y Farchnad gan gerbydau sy'n defnyddio'r maes parcio yn yr 8.5 mlynedd ers caniatáu i gerbydau gael mynediad i ganol y dref sy'n groes uniongyrchol i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ond heb unrhyw wrthwynebiadau gan briffyrdd ar sail diogelwch, felly yng ngoleuni'r wybodaeth ddiweddaraf hon rwy'n gofyn pam mae rhai cerbydau (amhenodol) yn cael eu caniatáu i fynd i mewn i'r ardal i gerddwyr a cherbydau eraill sy'n perthyn i'r cyhoedd pan fyddant yn defnyddio'r un briffordd a ystyriwyd yn anniogel oherwydd uchder palmant annigonol a diogelwch priffyrdd? |
|
|
Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd Cynghorydd Tim Thomas
Hysbysiad o Gynnig: Diogelu Meysydd Chwaraeon a Chaeau Chwarae (Rheoli C?n) Mae’r Cyngor hwn yn nodi: • Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn adolygu ei Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPOs) gyda golwg ar reoli c?n, er mwyn sicrhau bod mannau cyhoeddus yn parhau i fod yn ddiogel ac yn lân.
• Arweiniodd digwyddiad difrifol diweddar ym Mharc Pandy, yn ymwneud â chwaraewr Clwb Rygbi Tondu, at dderbyniad brys i'r ysbyty a thriniaeth feddygol ddwys oherwydd haint a achoswyd gan faw ci a adawyd ar faes chwaraeon wedi ei farcio.
• Mae problemau parhaus tebyg gyda ch?n yn baeddu meysydd chwaraeon a chaeau chwarae plant yn achosi peryglon sylweddol i iechyd, gan gynnwys heintiau bacterol difrifol a thocsocariasis, yn enwedig i blant a’r rheiny sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae’r Cyngor hwn yn credu: • Er bod y mwyafrif helaeth o berchnogion c?n yn gyfrifol, mae gweithredoedd lleiafrif bach yn achosi risg annerbyniol i iechyd a diogelwch clybiau chwaraeon, pobl ifanc, a'r gymuned ehangach.
• Er mwyn amddiffyn cyfleusterau gemau a chwarae pwrpasol tra’n dal i gwrdd ag anghenion perchnogion anifeiliaid anwes lleol, mae angen ffiniau cliriach a llymach o ran cyfyngu ar g?n yn baeddu mewn mannau hamdden egnïol.
Mae’r Cyngor hwn yn penderfynu: 1. Diwygio'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus arfaethedig er mwyn ei gwneud yn orfodol cadw c?n ar dennyn bob amser wrth fynd â hwy am dro ger caeau chwarae a meysydd chwaraeon, a'u gwahardd yn llym rhag baeddu o fewn unrhyw gae chwarae plant caeedig sy'n eiddo i'r cyngor a meysydd chwaraeon wedi eu marcio. 2. Lansio prosiect peilot ym Mharc Pandy i sefydlu man "rhedeg rhydd" wedi'i ddynodi'n glir ac wedi'i ffensio'n ddiogel lle gall perchnogion c?n cyfrifol ollwng eu c?n oddi ar dennyn yn ddiogel, gan gydbwyso anghenion clybiau chwaraeon a pherchnogion anifeiliaid anwes. 3. Adolygu llwyddiant cynllun peilot Parc Pandy ar ôl 12 mis i asesu a ddylid cyflwyno mannau penodol oddi ar dennyn mewn parciau eraill ar draws y fwrdeistref sirol ochr yn ochr â'r cyfyngiadau hyn sydd wedi eu targedu.
Cynghorydd Freya Bletsoe
Yng Nghymru, mae'r system Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru drwy bwerau datganoledig. Yma yng Nghymru, os yw'ch busnes yn gweithredu o eiddo sydd â Gwerth Ardrethol hyd at £6,000, mae'r busnesau'n gymwys i dderbyn rhyddhad 100%. Os oes ganddo Werth Ardrethol rhwng £6,001 a £12,000, mae'r rhyddhad hwnnw'n cael ei leihau o 100% i lawr i 0%. Yn olaf, os yw'r Gwerth Ardrethol dros £12,000, yna nid oes Rhyddhad Ardrethi Busnes ar gael o dan y cynllun penodol hwn. Fodd bynnag, os ydych chi'n gweithredu'r un busnes yn Lloegr, gallech hawlio Rhyddhad Ardrethi Busnes 100% am Werth Ardrethol yr eiddo hyd at £12,000 ac yna caiff ei ryddhad wedi'i leihau o 100% i 0% ar gyfer Gwerthoedd Ardrethol rhwng £12,001 a £15,000. Mae'r gwahaniaeth hwn rhwng Cymru a Lloegr yn ffactor sy'n cyfrannu at pam ... view the full Agenda text for item 11. |
|
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
|