Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 20fed Mehefin, 2018 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

189.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd Cyfreithiwr y Cyngor a'r Swyddog Monitro fuddiant yn eitem 14 ar yr Agenda ac fe wnaethant adael  y cyfarfod tra cafodd yr eitem hon ei hystyried.

190.

Derbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

 

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer mai dim ond tair wythnos oedd yna ers iddo gael ei sefydlu’n swyddogol fel Maer, er ei fod ef a'i Gymar wedi bod yn hynod o brysur.  Roeddent eisoes wedi mynychu 16 o ymrwymiadau "swyddogol", oedd i gyd yn wahanol iawn ond yn eu ffordd eu hunain yn ddiddorol ac yn bleserus iawn. 

 

Roeddent wedi cael eu swyno gan lansiad llyfr y Gofalwyr Ifanc, lle roedd pobl ifanc wedi cydweithio i gynhyrchu llyfr stori i blant i godi ymwybyddiaeth ymysg plant ysgol gynradd am rai o'r problemau sy'n wynebu gofalwyr ifanc. Roedd hwn yn ddigwyddiad teimladwy oedd wedi’u hysbrydoli ac roedd yn wych cael cwrdd â phawb a wnaeth y llyfr yn realiti, fe esboniodd.

 

Cafodd y Maer hefyd yr anrhydedd o gyfarfod Ei Uchelder Brenhinol Dug Caint yn ystod ei ymweliad â Sony yr wythnos ddiwethaf.  Cafodd ef a’i Gymar daith ddiddorol ac addysgiadol o gwmpas y ffatri, lle cafwyd cyfle i wylio cynhyrchu'r Raspberry Pi - enghraifft wych o arloesi, dylunio a pheirianneg y DU.

 

Roedd agor G?yl Maesteg hefyd yn noson bleserus, gyda'r gr?p Collabro yn rhoi adloniant cerddorol gwych.  Dymunai sôn hefyd am yr arddangosfa gelf wych gan blant nifer o ysgolion cynradd Maesteg. Defnyddiodd yr arddangosfa ddeunyddiau anarferol iawn, a chafodd y plant eu cynorthwyo a'u hysbrydoli gan yr artist ifanc Cymreig, Nathan Wyburn.

 

Digwyddiad hynod ddiddorol arall oedd rowndiau terfynol rhanbarthol Menter yr Ifanc, a gynhaliwyd yn Ysgol Fusnes Caerdydd. Roedd timau o entrepreneuriaid ifanc o bob cwr o Gymru yn cystadlu am le yn rowndiau terfynol Prydain, a chymerodd Ysgol Brynteg ran ac ennill y wobr am y stondin fasnach orau.  Mae eu prosiect ardderchog yn defnyddio bagiau siopa wedi'u hailgylchu i wneud esgidiau i bobl yng ngwledydd y trydydd byd; yn anffodus fe’u curwyd gan Ysgol Haberdashers yn Nhrefynwy, ond roedd ein tîm lleol wedi gwneud argraff fawr ar y Maer.

 

Heblaw am y digwyddiadau hyn, mae'r Maer wedi mynychu seremoni i agor siop, cyflwyniad Rhyddid y Fwrdeistref yn Rhondda Cynon Taf, y diwrnod gwirfoddoli yn y Gynghrair Amddiffyn Cathod, gwobrau Cymdeithas Gelf Tondu, digwyddiad 5ed pen-blwydd Côr Tenovus, digwyddiad Wythnos y Gofalwyr, seremoni Dinasyddiaeth Brydeinig, digwyddiad yn ymwneud â Phen-y-bont ar Ogwr yn ystod y Rhyfel, Gerddi Agored Cefn Cribwr, ymweliad â’r YMCA, a digwyddiad 'Cydraddoldeb' yn dathlu 100 mlynedd o bleidleisiau i ferched gyda'n cwmni Geidiaid lleol.

 

Yn olaf ond nid yn lleiaf, cadarnhaodd y Maer ei fod wedi cael y pleser o gyhoeddi mai Lewis David Pilliner fydd y Maer Ieuenctid newydd ar gyfer 2018 -19.  Mae Lewis yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bryntirion ac roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn ystod y flwyddyn i ddod.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd i'r Aelodau barhau i annog eu hetholwyr i arwyddo ar gyfer gwasanaeth 'Fy Nghyfrif/My Account' y Cyngor a lansiwyd yn ddiweddar.

 

Ynghyd â'r wefan newydd sbon, mae Fy Nghyfrif wedi ei gynllunio i'w gwneud hi'n haws ac yn symlach i bobl gael mynediad at wasanaethau'r cyngor,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 190.

191.

Derbyn Adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi yr wythnos ddiwethaf y bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud allan o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a bydd yn dod yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf erbyn Ebrill 2019 .

 

Bydd yr effaith fwyaf uniongyrchol wrth gwrs ar feysydd gwasanaeth lle rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar ôl troed Bae'r Gorllewin, hy Gwasanaethau Cymdeithasol a gwasanaethau cymorth cynnar fel Teuluoedd yn Gyntaf a Throseddau Ieuenctid. Cadarnhaodd y byddwn ar y cyfan yn disgwyl gweithio'n agosach gyda Chwm Taf, RhCT a Merthyr Tudful yn hytrach nag PABM (ABMU), Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. 

Fodd bynnag, mewn achosion lle mae'n gwneud synnwyr i weithio ar y raddfa fwy honno, bydd enghreifftiau yn sicr lle y gallwn weld cydweithio ar draws ardaloedd y ddau fwrdd iechyd hefyd. Mae'n debygol hefyd y bydd rhai trefniadau presennol gyda chydweithwyr o fewn PABM (ABMU) a Bae’r Gorllewin yn cymryd ychydig yn hwy nag Ebrill 2019 i symud drosodd.

 

Fel roedd yr Aelodau'n ymwybodol, mae'r Cyngor wedi pwysleisio wrth Lywodraeth Cymru ers amser bod ystyried Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o Dde Ddwyrain Cymru ar gyfer gwasanaethau fel addysg a'r economi, ond fel rhan o Dde Orllewin Cymru ar gyfer  gwasanaethau fel iechyd a gofal cymdeithasol, yn eithaf anodd i'w gynnal yn wyneb mwy a mwy o ranbartholi.

 

Roedd disgwyl i ni weithio mewn ffordd sy'n sylfaenol wahanol i ardaloedd Cynghorau eraill i gyd yng Nghymru yn peryglu gwanhau ein cymunedau, ond er gwaethaf hyn, rydym wedi creu record rhyfeddol o gydweithio effeithiol. Roedd yr Arweinydd yn si?r y byddai’r Aelodau'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y broblem. Mae datganiad y Gweinidog yn ei gwneud hi'n glir mai'r bwriad yw alinio ein holl drefniadau partneriaeth economaidd, addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gadarn o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. O ran sut y bydd hyn yn effeithio ar ein partneriaethau gweithio cyfredol, rydym yn gobeithio cael mwy o eglurder yn fuan iawn. Ynghyd â'n partneriaid yn y ddau fwrdd iechyd, rydym wedi ymrwymo i wneud y trosglwyddo mor esmwyth ac effeithiol â phosibl, ac rydym yn cadw ffocws cadarn ar sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n cymunedau a'n trigolion.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd ei fod wrth ei fodd o weld y bydd Maesteg yn cael ei gwasanaethu gan bedwar trên yr awr yn ychwanegol at wasanaeth Sul newydd. Bydd hwn yn gyswllt hanfodol i helpu pobl i gael mynediad at swyddi a hyfforddiant, a bydd yn ei gwneud hi'n llawer haws teithio rhwng Cwm Llynfi a Phen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a thu hwnt.

 

Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld â Gorsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar wedi gweld canlyniadau ei adnewyddiad £1.5m yn ddiweddar. Bellach mae ganddi well ardal ‘concourse’ gyda desg wybodaeth newydd, swyddfa docynnau a seddi, toiledau newydd i deithwyr a chyfleusterau newid babanod newydd, cysgodfan a llwybrau newydd i gwsmeriaid, gwell diogelwch a theledu cylch cyfyng  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 191.

192.

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan: Y Cynghorydd A Hussain i'r Aelod Cabinet - Cymunedau

All yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r cyngor sut y mae disgwyl i ni breswylwyr Pen y Fai i deithio yn ac o amgylch Pen-y-bont?

 

 

 

Cofnodion:

'A allai Aelod y Cabinet roi gwybod i'r Cyngor os gwelwch yn dda sut mae trigolion Pen y Fai i fod i deithio yn ac o gwmpas Pen-y-bont ar Ogwr?'

 

Ymateb:

 

            Mae Gwasanaeth Rhif 81 yn gweithredu ym Mhen y Fai ar hyn o bryd. Ond oherwydd y penderfyniad diweddar i gwtogi ar gyllid tuag at wasanaethau bws lleol sy’n cael eu cefnogi, bydd y cymhorthdal ??a ddarperir i'r gwasanaeth rhannol fasnachol hwn yn dod i ben ar 11 Awst 2018, gan adael elfen fasnachol y gwasanaeth.

 

            Mater i’r gweithredwr fyddai gwneud y penderfyniad am hyfywedd masnachol yr elfen fasnachol hon. 

 

            Ond mae’r Gwasanaeth Rhif 67 (Pen-y-bont ar Ogwr - Abercenffig - Sarn) a ariennir yn rhannol gan GBSP (BCBC) ar gael, sydd ddim wedi ei effeithio gan ostyngiadau yn y gyllideb yn 2018/19.

 

            Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu i Heol-tyn-Garn ar hyd y briffordd (A4063), cyn troi i'r dde i Ffordd Pen y Fai (tuag at Bentref Abercenffig). Mae'r llwybr dychwelyd yr un fath, sydd i'r dwyrain o Ben y Fai.

 

            Os bydd y gweithredwr bysiau yn penderfynu dileu elfen fasnachol y gwasanaeth yna byddai hyn yn gadael rhan orllewinol ardal Pen y Fai heb wasanaeth. Pe byddai hyn yn digwydd yna byddai'n rhaid i'r trigolion ddefnyddio llwybr Gwasanaeth Rhif 67 i gael mynediad i Dref Pen-y-bont ar Ogwr neu Sarn.

 

            Fel y nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad mae gan lawer o drigolion fynediad at gerbydau modur preifat ac i'r rhai sydd â phroblemau mynediad penodol, mae trafnidiaeth gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig darpariaeth arall.

 

            Wrth ystyried ail-drefnu gwasanaethau masnachol presennol, byddai hwn yn benderfyniad masnachol i’w wneud gan y gweithredwyr bysiau. Gofynnwyd am hyn ac archwiliwyd y mater yn flaenorol ac ar yr adeg honno roedd First Cymru Buses Ltd o'r farn bod hyn yn amhriodol gan ei fod yn effeithio ar amseru eu gwasanaethau.

 

            O ran teithio llesol mae yna nifer o gynigion sydd wedi'u cynnwys ym Map Rhwydwaith Integredig y Cyngor (INM) a fydd yn ceisio gwella mynediad at deithio llesol i Ben-y-fai. Cymeradwywyd yr INM gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru. Wrth gyfeirio at y pryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Hussain, mae cynnig INM-BR-14 yn tynnu sylw at lwybr posibl y gellid ei rannu rhwng Pen-y-fai a Gorsaf Reilffordd Sarn yn gyfochrog â Heol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

            Yn ogystal, mae cynnig INM-BR-19 yn nodi dymuniad i ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer darparu llwybr i gerddwyr rhwng Pen-y-Fai a Chefn Glas ar hyd Ffordd Cefn Glas. Er bod y llwybr hwn wedi'i nodi fel cynnig yn yr INM, nid yw'n cael ei ystyried yn addas ar hyn o bryd ar gyfer teithio llesol gan nad yw'n bodloni'r safonau sy'n ofynnol gan Gyfarwyddyd Dylunio Llywodraeth Cymru.

 

            Mae Cynnig INM-BR-61 yn cyfeirio at gyfleuster croesi gwell a gwaith cysylltiedig ar droedffordd wrth gyffordd Heol Pen-y-bont ar Ogwr/Heol yr Eglwys ym Mhen-y-fai yng nghyffiniau'r orsaf betrol. Yn olaf, mae yna gynnig hefyd (INM-BR-15) i wella mynediad i gerddwyr rhwng Llwybr Cenedlaethol 885 y Rhwydwaith Beicio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 192.

193.

Ysgol Gynradd Cwmfelin - Rhaglen Gyfalaf pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro - Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Pennaeth Cyllid a’r Swyddog A151 Dros Dro adroddiad ar y cyd.  Diben yr adroddiad oedd ceisio cael cymeradwyaeth y Cyngor i ddiwygio'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018 i 2028, i gynnwys cyllideb o £165k ar gyfer adeiladu ystafell ddosbarth newydd yn Ysgol Gynradd Cwmfelin. Byddai’r arian yn dod o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi, yr ysgol dan sylw a chyllideb y Gyfarwyddiaeth Cymorth i Deuluoedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, er gwaethaf y ffaith bod staff yn gwneud y defnydd gorau o adeiladau'r ysgol fod maint annigonol yr ystafelloedd ddosbarth yn yr Ysgol yn rhoi pwysau ar gyfleoedd addysgu a dysgu yno. Roedd yr awdurdod lleol wedi cydnabod bod angen mwy o le ar yr Ysgol i gynorthwyo i gyflawni'r cyfnod sylfaen ac ymgymryd ag ymyriadau.

 

Cadarnhaodd fod nifer o awgrymiadau wedi'u hystyried, gyda chynllun yn cael ei ddatblygu o'r diwedd ar gyfer darparu llety sy'n addas ar gyfer grwpiau o 20, sy'n bodloni anghenion yr Ysgol. Felly, cynigiwyd bwrw ymlaen ar sail darparu'r gofod hwn fel adeilad newydd ar ddarn o dir sy'n agos at adeilad y Feithrinfa ar safle'r Ysgol.

 

Byddai'r ddarpariaeth hon yn darparu'r gofod ychwanegol sydd ei angen, a fyddai yn ei dro yn lleihau'r pwysau ar y dosbarthiadau presennol, yn ogystal â chefnogi cyflwyno ymyriadau a gwaith gr?p.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro - Addysg a Chymorth Teuluol na ragwelir y byddai angen unrhyw le ychwanegol ar gyfer ystafell ddosbarth yn y dyfodol agos, gan fod twf demograffig rhagamcanol yn gymharol isel yn nalgylch yr Ysgol hon. Felly, nid oedd unrhyw gynnig i gynyddu'r nifer derbyn a gyhoeddwyd (PAN) i'r Ysgol o ganlyniad i'r cynnig.

 

Yna cwblhaodd ei gyflwyniad, trwy gynghori ynghylch goblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Dywedodd un Aelod ei fod yn croesawu gwaith a oedd yn cael ei wneud mewn perthynas ag ysgolion o dan y Rhaglen Foderneiddio Ysgolion sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Ond dywedodd y byddai hefyd yn croesawu adborth ar ganlyniadau buddsoddiad o'r fath mewn perthynas ag ysgolion rywbryd yn y dyfodol, hy i weld a oes gwelliannau wedi'u gwneud yno.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro - Addysg a Chymorth Teuluol y byddai'n gallu darparu'r wybodaeth hon i'r Aelodau maes o law.

 

Gofynnodd un Aelod am sicrwydd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, fod y buddsoddiad sy'n cael ei ymrwymo i'r Ysgol yn opsiwn synhwyrol, o ystyried yr aildrefnu arfaethedig ar Ysgolion Cwm Llynfi maes o law.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Adeilad yr Ysgol yn Ysgol Gynradd Cwmfelin yn adeilad categori Cyflwr C, yn rhy fach ac o ansawdd gwael, gydag ystafelloedd cotiau wedi’u lleoli yn yr ystafelloedd dosbarth ac felly roedd angen ei wella er mwyn ei ddwyn i fyny i'r safon ofynnol. Ychwanegodd y byddai diweddariad pellach yn y dyfodol o ran ad-drefnu ysgolion ym Maesteg fel y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 193.

194.

Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) (2013) pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad i'r Cyngor, i roi gwybod am ganlyniad yr ymarferiad ymgynghori ar Adroddiad Adolygu drafft Cynllun Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (2013), ac i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i gyflwyno Adroddiad Adolygu terfynol CDLl Pen-y-bont ar Ogwr (a atodir yn Atodiad 1 yr adroddiad) (ar y cyd â'r Cytundeb Cyflenwi CDLl Newydd i Lywodraeth Cymru) cyn diwedd Mehefin 2018.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu y dylid ysgrifennu Adroddiad Adolygu sy'n rhan statudol o'r broses o Adolygu’r CDLl llawn cyn unrhyw ddiwygiad i’r CDLl.

 

Mae'r Adroddiad Adolygu'n nodi maint arfaethedig y newidiadau tebygol i'r CDLl presennol (2006-2021) ac mae'n ceisio cadarnhau'r weithdrefn adolygu i'w dilyn wrth baratoi CDLl newydd. 

 

O ran 'llwybr trefniadol', yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r cynllun eisoes yn destun adolygiad llawn 4 blynedd sydd ei angen yn statudol, ac felly bydd angen asesu pob agwedd ar y cynllun i ystyried a ydynt yn parhau i fod yn gadarn ac yn addas at y diben.  Bydd hyn yn cynnwys gweledigaeth, amcanion, strategaeth ofodol, polisïau a dyraniadau defnydd tir y CDLl, gan ddilyn yr un broses baratoi a'r un cyfnodau yn fras â'r cynllun gwreiddiol. 

  

Cadarnhaodd fod yr Adroddiad Adolygu'n cwmpasu'r pynciau canlynol: -

 

  • Newidiadau Cyd-destunol
  • Asesiad o'r Newidiadau Tebygol sy’n Angenrheidiol i'r CDLl Cyfredol
  • Adolygiad o'r Sail Dystiolaeth
  • Opsiynau Adolygu'r CDLl

 

O ran ymgynghoriad cyhoeddus, bydd Aelodau'n cofio bod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Cyngor ar 25 Ebrill 2018 yn gofyn am awdurdodiad i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu ar Adroddiad Adolygu CDLl drafft Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 30 Ebrill 2018 a 25 Mai 2018. Cynhaliwyd yr Ymgynghoriad ar yr Adroddiad Adolygu drafft ar y cyd â'r Cytundeb Cyflawni drafft.

 

Cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu fod yr ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu yn y ffyrdd canlynol: -

 

·         Roedd y dogfennau ymgynghori ar gael i'w harchwilio gyda ffurflenni sylwadau yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel;

·         Rhoddwyd gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys yr holl ddogfennau, ffurflenni sylwadau a'r cyfleuster i gyflwyno sylwadau yn electronig ar wefan y Cyngor; ac

·         Anfonwyd negeseuon e-bost a llythyrau at oddeutu 190 o ymgynghoreion wedi'u targedu, gan gynnwys Cynghorau Cymuned, ymgynghorwyr cynllunio, adeiladwyr tai, cymdeithasau tai a sefydliadau allanol perthnasol eraill gyda manylion am sut i ymateb.

 

Erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori, roedd 11 o unigolion a sefydliadau allanol wedi cyflwyno sylwadau ar yr Adroddiad Adolygu drafft.

 

Mewn ymateb i hyn, mae'r Cyngor wedi llunio Adroddiad Ymgynghori (a gynhwysir fel Atodiad 7 yn yr Adroddiad Adolygu terfynol) sy'n rhoi ymateb y Cyngor i'r sylwadau a dderbyniwyd. Ond nid oedd yn angenrheidiol gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r ddogfen o ganlyniad i sylwadau o'r ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Cwblhaodd ei gyflwyniad, trwy gynghori y gallai Aelodau weld copïau o'r sylwadau llawn yn yr Adran Gynllunio.

 

PENDERFYNWYD:                     (1) Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Adroddiad Adolygu terfynol a'i fod yn awdurdodi Rheolwr y Gr?p Datblygu, y Gyfarwyddiaeth Cymunedau i gyflwyno Adroddiad Adolygu terfynol CDLl Pen-y-bont ar Ogwr sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad (ar y cyd â Chytundeb Cyflenwi’r CDLl Newydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 194.

195.

Cytundeb Cyflawni Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad i'r Cyngor ar ganlyniad yr ymarferiad ymgynghori ar Gytundeb Cyflenwi CDLl Newydd Pen-y-bont ar Ogwr, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cyngor i gyflwyno'r Cytundeb Cyflawni terfynol (ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad) (ar y cyd ag Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (2013) i Lywodraeth Cymru cyn diwedd Mehefin 2018.

 

Mae'r Cytundeb Cyflawni yn nodi sut a phryd y gall y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill gyfrannu at baratoi'r Cynllun Newydd ac amserlen ar gyfer ei baratoi.  Cynigir y bydd y CDLl Newydd yn cynnwys cyfnod y cynllun hyd at 2033.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Datblygu, o ran ymgynghori ar y Cytundeb Cyflawni, y byddai Aelodau hefyd yn cofio y cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor ar 25 Ebrill 2018 a oedd yn amlinellu ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet, a oedd yn caniatáu i Ben-y-bont ar Ogwr fynd ymlaen â'i CDLl yn ddarostyngedig i ddyddiad cau caeth oedd yn gofyn am gyflwyno'r Cytundeb Cyflawni cyn diwedd Mehefin 2018.  Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am awdurdodiad i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu ar Gytundeb Cyflwyno CDLl Newydd drafft Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 30 Ebrill 2018 a 25 Mai 2018.

 

Ychwanegodd y cynhaliwyd yr Ymgynghoriad ar y Cytundeb Cyflawni drafft ar y cyd ag Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol (2013) drafft Pen-y-bont ar Ogwr.

 

            Hysbysebwyd yr ymgynghoriad yn y ffyrdd canlynol: -

 

·         Roedd y dogfennau ymgynghori ar gael i'w harchwilio yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel;

·         Rhoddwyd gwybodaeth am yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor; ac

·         Anfonwyd negeseuon e-bost a llythyrau at tua 190 o ymgynghoreion, gan gynnwys Cynghorau Cymuned, ymgynghorwyr cynllunio, adeiladwyr tai, cymdeithasau tai a sefydliadau allanol perthnasol eraill gyda manylion am sut i ymateb.

 

Ychwanegodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu, erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori, bod 8 sefydliad allanol wedi cyflwyno sylwadau ar y Cytundeb Cyflawni drafft. Mewn ymateb, mae'r Cyngor wedi llunio Adroddiad Ymgynghori a gynhwyswyd fel Atodiad 3 yn y Cytundeb Cyflawni terfynol, a oedd yn rhoi ymateb y Cyngor i'r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Gellir gweld copïau o'r sylwadau llawn gan yr Aelodau yn yr Adran Gynllunio, ychwanegodd ymhellach.

 

Roedd y prif newidiadau i'r Cytundeb Cyflawni a argymhellwyd gan Swyddogion yn cynnwys:

·         Diweddariadau i'r rhestr o Gyrff Ymgynghori (sydd ynghlwm fel Atodiad 1 yn y Cytundeb Cyflawni):

 

o   Ystyrid ei bod yn ddoeth cynnwys yr holl ACLl ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hytrach na dim ond yr ACLl cyfagos (Bro Morgannwg, RhCT a Chastell-nedd Port Talbot) i adlewyrchu cydweithio / gweithio rhanbarthol a pharatoi'r Cynllun Datblygu Strategol.

o   Mae Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Partneriaeth Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu dileu gan fod y ddau wedi’u disodli gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

o   Mae RNI Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw wedi disodli Gweithredu ar Golli Clyw.

o   Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi disodli’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, a’r Comisiwn Hawliau Anabledd. 

o   Mae Fields in Trust - yn disodli Cymdeithas Genedlaethol Caeau Chwarae Cymru.

o   Mae 'Gweithredu ar Golli Clyw' wedi disodli’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 195.

196.

Diwygio'r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i ddiwygiadau arfaethedig i'r Cyfansoddiad.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, dywedodd y Swyddog Monitro bod adolygiad bwrdd gwaith o'r Cyfansoddiad wedi'i wneud i sicrhau ei fod yn gyfoes ac yn addas i'r diben.

 

Cyfeiriodd at baragraff 4.2 yr adroddiad a rhai diwygiadau arfaethedig i'r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Archwilio, fel y dangoswyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Yna, argymhellodd yr adroddiad ymhellach fod y Rheolau Fframwaith Cyllideb a Pholisi yn cael eu diwygio ym mharagraff 2 (d), ac oherwydd nad oedd y newidiadau a ddangoswyd fel ‘tracked changes’ yn Atodiad 2 yr adroddiad yn manylu ar y rhain wedi ymddangos yn y copïau a gynhyrchwyd i'r Aelodau oherwydd problem dechnegol ar Modern.Gov, cyflwynodd y diwygiad hwn ar lafar i'r Aelodau.

 

Roedd y diwygiad diwethaf a awgrymwyd i'r Cyfansoddiad mewn perthynas â Rhan 4, Rheolau Gweithdrefn ym mharagraff 17 mewn perthynas â phleidlais fwrw'r Maer. Cynigiwyd y dylid diwygio hyn er mwyn peidio â bod yn berthnasol mewn perthynas â phleidleisio ar benodiadau. Manylwyd ar y ‘tracked change’ hwn yn Atodiad 3 i'r adroddiad, ond oherwydd problem dechnegol debyg i'r un y cyfeiriwyd ati uchod, nid oedd y newid hwn ychwaith wedi bod yn weladwy ar gopïau o'r adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol.

 

Byddai angen diwygio'r Cyfansoddiad o ganlyniad i ddarpariaethau'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:                    Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r diwygiadau i'r Cyfansoddiad fel y nodwyd yn yr adroddiad a'i Atodiadau ynghlwm.

197.

Ail-ddyrannu Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau'r Cyngor yn Ymwneud â'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a’i bwrpas  oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i drosglwyddo swyddogaethau'r Cyngor o fewn y Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau a ddyrennir ar hyn o bryd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth.

 

Roedd yr adroddiad yn cynghori, o ganlyniad i ddileu swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Chorfforaethol yn ddiweddar, ac er mwyn cynnal prosesau gwneud penderfyniadau effeithiol, bod holl Swyddogaethau'r Cyngor yng Nghynlluniau B1 a B2 y Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau a ddyrannwyd i ddeilydd blaenorol y swydd a ddilëwyd uchod, yn cael eu hailddyrannu i’r Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cyngor:-

 

(1)  yn cymeradwyo trosglwyddo swyddogaethau'r Cyngor o fewn y Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau o'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth i'r Swyddog Monitro.

 

Nodwyd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn argymell newid tebyg i'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau ar gyfer swyddogaethau Gweithredol.

198.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

199.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12,13,14, 15 and 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hwn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.  

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            O dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir hynny ym Mharagraff 12, 13, 14, 15 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

                                           Yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem yn breifat, gyda'r cyhoedd yn cael ei eithrio o'r cyfarfod gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig o natur fel y nodwyd uchod.</AI14>

<AI15>

 

 

200.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion wedi’u eithrio cyfarfod y 25/04/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            Cymeradwyo Cofnodion eithriedig cyfarfod cyffredin o'r Cyngor dyddiedig 25 Ebrill 2018 fel cofnod gwir a chywir.

201.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 160 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 25/04/2018 a 16/05/2018

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                Cymeradwyo Cofnodion cyfarfodydd canlynol y Cyngor fel cofnod gwir a chywir: -

 

                                     Y Cyfarfod blynyddol - 16 Mai 2018

                                     Cyfarfod arferol - 25 Ebrill 2018