Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 20fed Rhagfyr, 2017 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

102.

Datgan buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd DRW Lewis ddiddordeb personol yn Eitem 11 ar yr Agenda, gan ei fod yn Gadeirydd yr Undeb Credyd.

 

Datganodd y Cynghorydd JE Lewis ddiddordeb personol yn Eitem 11 ar yr Agenda, gan ei bod yn aelod o’r Undeb Credyd.

103.

Cymeradwyo’r cofnodion pdf eicon PDF 175 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 29 Dachwedd 2017

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo Cofnodion diwygiedig cyfarfod y Cyngor ar 29 Tachwedd 2017 (fel y’u cyflwynwyd) fel cofnod cywir.

104.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Croesawodd y Maer bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod.

 

Cyhoeddodd ei bod hi/ei Chonsort wedi ymweld yn gynharach yn y mis ag Ysbyty Tywysoges Cymru ac wedi rhoi syrpréis i’r staff ar yr holl wardiau drwy ddosbarthu sachau Santa. Syniad dau gyn-filwr lleol, Tom ac Alistair, oedd y sachau Santa. Gofynnodd y ddau i gwmnïau lleol am roddion o fisgedi, siocledi a phethau da eraill yn ‘Weithred o Garedigrwydd’ i staff yr ysbyty.  Ychwanegodd eu bod hefyd wedi dychwelyd i ddosbarthu nifer fawr o deganau’n rhodd gan gwmni teganau o Swydd Efrog. Diolchodd i’r ddau gyn-filwr a oedd wedi trefnu hyn; i staff yr ysbyty a baratôdd de, coffi a mins peis yn rhodd gan siopau lleol Tesco ac i’r cwmni teganau sydd wedi addo rhoi mwy o deganau yn 2018.

 

Roedd wedi bod mewn sawl Gwasanaeth Carolau gan gynnwys un yn y Plasty a gynhaliwyd gan Arglwydd Faer Abertawe.  Helpodd fy Ngwasanaeth Carolau innau i Elusennau’r Maer ac Eglwys Sant Ioan yng Nghaerdydd i godi arian i Ysbyty Llygaid Sant Ioan yn Jerwsalem. Mae’r ysbyty wedi cwblhau 113,000 o lawdriniaethau llygaid, a hynny’n aml mewn amgylchiadau anodd iawn.

 

Bu sawl ymweliad Nadolig hefyd â phob hostel, cartref nyrsio a llety gwarchod ac aethpwyd â bocsys o fisgedi i bob un ohonynt.

 

Roedd hefyd wedi cymryd rhan yn Fforwm Lluoedd Arfog Pen-y-bont ar Ogwr a gadeiriwyd gan Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Richard Young. Yn bresennol yn y digwyddiad roedd nifer o sefydliadau cefnogi a darparwyr gwasanaethau gan gynnwys Cymdeithas Teuluoedd Milwyr a Llongwyr (SSAFA), y Lleng Brydeinig Frenhinol, Cyn-filwyr a chynrychiolwyr cymdeithasau tai. Roedd y Fforwm yn gyfle i sefydliadau yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddod ynghyd i drafod ffyrdd o wella’r gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog.  Roedd rhagor o gyfarfodydd wedi’u trefnu i Fforwm y Lluoedd Arfog y flwyddyn nesaf er mwyn parhau â’r gwaith da a ddechreuwyd yn ddiweddar.

 

Dywedodd y Maer iddi fwynhau cwrdd â phobl ifanc yn Ysgol Heronsbridge a berfformiodd ‘Beauty and the Beast’.  Roedd yn deimladwy iawn ac roedd y canu’n bleser i bawb.  Roedd am ddiolch i bawb a gymerodd ran, ac i’r staff am eu holl waith caled mewn amgylchiadau a oedd weithiau’n anodd iawn.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd am atgoffa’r Aelodau y byddai’r trefniadau casglu gwastraff a deunydd ailgylchu dros yr ?yl yn golygu y byddai’r casgliadau’n digwydd ddeuddydd yn hwyrach nag arfer yn ystod wythnos y Nadolig, a ddiwrnod yn hwyrach nag arfer yn yr wythnos ar ôl y Calan. Byddai’r casgliadau’n dilyn y drefn arferol o ddydd Llun 8 Ionawr. Dywedodd fod modd ailgylchu’r rhan fwyaf o wastraff y Nadolig bellach. Rhagwelid ei bod yn debygol mai papur lapio Nadolig a pholystyren fyddai’r eitemau na ellid eu hailgylchu gan mwyaf. Gallai preswylwyr naill ai fynd â’u gwastraff ychwanegol i ganolfan ailgylchu gymunedol, neu ei roi mewn bag du ar wahân. Byddai’r canolfannau ailgylchu cymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, G?yl San Steffan a Dydd Calan, ond byddent ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 104.

105.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru, fel y byddai’r Aelodau efallai wedi’i weld yn gynharach yr wythnos honno, wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar gynigion i drosglwyddo gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn lle Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

 

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, yn bwriadu gosod y Fwrdeistref Sirol ym mhatrwm rhanbarthol De Ddwyrain Cymru o ran darpariaeth gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gyd-fynd â phartneriaethau economaidd ac addysgol sy’n bodoli eisoes.

Yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Alun Davies.

 

Roedd manylion llawn y cynigion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac roedd sylwadau’n cael eu gwahodd tan y dyddiad cau ar 7 Mawrth 2018.

 

Roedd yr Arweinydd yn sicr y byddai’r Aelodau am edrych yn fwy manwl ar hyn, a mynegi eu safbwyntiau, ac annog preswylwyr lleol i ddweud eu dweud.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi dweud wrth yr aelodau yn y cyfarfod diwethaf am y posibilrwydd o ddatblygu Canolfan Logisteg yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym Mrocastell ar gyfer adeiladu trydedd llain lanio yn Heathrow. Roedd gennym ddwsinau o fusnesau lleol a oedd mewn sefyllfa dda i allu gwasanaethu Canolfan o’r fath, ac roedd y Cyngor yn cynorthwyo AS Pen-y-bont ar Ogwr i drefnu digwyddiad yn y flwyddyn newydd i ddangos y busnesau llwyddiannus sydd gennym yn y Fwrdeistref Sirol. Pan gwrddodd â’r Prif Ysgrifennydd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n ddiweddar, manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i gyflwyno’r achos dros sefydlu Canolfan Logisteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Prif ddiben y cyfarfod â Damien Green AS ac Alun Cairns AS oedd trafod effaith Brecsit ar Gymru. Roedd holl Arweinwyr De Cymru, o bob plaid wleidyddol, o’r un farn, sef bod angen i ni sicrhau pan sefydlir y gronfa ffyniant ar y cyd ein bod yn cynnal lefel y buddsoddiad sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd drwy’r Undeb Ewropeaidd.

 

Dywedodd yr Arweinydd ein bod wedi gwneud cais yn ddiweddar am gyfarfod â Network Rail i drafod Canolfan Drafnidiaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wella mynediad i’r gwasanaeth bysiau i Orsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr, a bod y cyfarfod hwnnw wedi digwydd. Fel y gwyddai’r Aelodau, roedd y gwasanaeth bysiau uniongyrchol i Orsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr yn wael, ac roedd hynny i raddau helaeth oherwydd trefn gyfyngedig y ffyrdd a mynediad i’r orsaf.  Ar ôl cael cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, roeddem yn barod i ddechrau ar y gwaith dros ddegawd yn ôl. Cafodd hynny ei rwystro ar y funud olaf yn 2012 gan Network Rail a oedd wedi cefnogi hyn, oherwydd bod angen y tir i drydaneiddio’r brif linell. Yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf roedd swyddogion Network Rail yn gadarnhaol iawn ynghylch ein cynlluniau, a dywedodd y byddai’n rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau yn hynny o beth.

 

Fel y gwyddai’r Aelodau lleol, roedd gwaith yn mynd rhagddo o’r diwedd ar hen safle glo brig Margam.

 

Roedd y safle wedi bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 105.

106.

Cynllun Adfywio Porthcawl pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog A151 a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad, er mwyn:

 

a.    Cael cymeradwyaeth y Cyngor i gynllun cyfalaf diwygiedig o 2017-18 tan 2026-2027

b.    Rhoi gwybod i’r Aelodau fod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar 19 Rhagfyr 2017 yn:

 

(i)            rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am Gynllun Adfywio Porthcawl

(ii)     rhoi gwybod bod cynnig wedi’i dderbyn gan y teuluoedd Evans, i werthu eu buddiant fel lesddeiliaid mewn tir Cam 1 ym Maes Parcio Salt Lake i’r Cyngor;

(iii)   cyflwyno telerau’r cynnig hwn, a nodi’r effaith ganlyniadol ar weddill Cynllun Adfywio Porthcawl;

(iv)  rhoi gwybod i’r Aelodau am y ‘diwydrwydd dyledus’ a arferwyd hyd yma, a’r mesurau pellach a fydd yn cael eu cymryd i warchod buddiannau’r cyhoedd; argymhellwyd y dylid derbyn y cynnig.

 

Yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr 2017, awdurdododd y Cabinet y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau, drwy ymgynghori â’r Swyddog A151 a’r Swyddog Monitro:

 

(a) I gaffael buddiannau prif brydles ac is-brydles y teuluoedd Evans ym Maes Parcio Salt Lake ym Mhorthcawl am £3,330,000 a’r telerau a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn;

 

(b) I amrywio’r Cytundeb Perchnogion cyfredol dyddiedig 11 Mawrth 2011 rhwng y Cyngor a’r teuluoedd Evans, ar y telerau a amlinellir ym mharagraff 4.11 yr adroddiad. 

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth gefndir, ac yn cadarnhau bod perchnogion y tir ym Mhorthcawl wedi cytuno yn 2006 i weithio ar y cyd, drwy ddod â’r buddiannau rhydd-ddaliadol a lesddaliadol a oedd yn  cwmpasu daliadau tir sylweddol yn y dref at ei gilydd. Y nod oedd cyflwyno’r tir i’w werthu, gan ddarparu derbynebau gwerthiant i’r perchnogion i’w rhannu ar sail a gytunwyd ymlaen llaw yn amodol ar sicrhau isafswm o ran prisiau; a darparu cyd-destun cynllunio clir ar gyfer gwaredu safleoedd i’w datblygu gan drydydd partïon.

 

Ym mis Tachwedd 2007, mabwysiadodd y Cyngor Ganllawiau Cynllunio Atodol Adfywio Porthcawl. Roedd hyn yn darparu ar gyfer cartrefi newydd yn yr ardal gyfan ynghyd â datblygiadau manwerthu a hamdden mawr, darpariaeth gymunedol, systemau ffyrdd newydd, tir wedi’i neilltuo ar gyfer darpariaeth iechyd, ac ardaloedd amwynder cyhoeddus eraill, gan gynnwys amddiffynfeydd môr newydd ar hyd Promenâd y Dwyrain a glannau Sandy Bay.

 

Rhannwyd yr ardal ddatblygu gyfan yn ddau gam:

 

·          Roedd Cam Un yn cynnwys maes parcio Hillsborough, The Green a maes parcio Salt Lake

·          Roedd Cam Dau yn cynnwys Parc Adloniant Traeth Coney a chyn faes carafanau Sandy Bay.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am hanes gwaredu’r tir, ac yn 2014, ar ôl methu â gwerthu’r safle i Morrisons (a chynigion i werthu’r safle yn 2010 i Tesco / Chelverton), gwnaed amryw o gynigion i gaffael buddiant y Cyngor. Gwrthodwyd y rhain gan nad oedd cysylltiad â’r farchnad (o ran sicrhau’r ystyriaeth orau) ac nad oedd natur y cynnig yn bodloni’r gofynion isaf o ran pris nac amcanion adfywio’r Cyngor.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y partïon wedi cytuno yn 2015 i adolygu’r cynigion datblygu yn sgil ymadawiad manwerthwyr bwyd o’r farchnad ar raddfa fawr. Comisiynwyd Uwchgynllun newydd i ategu’r Canllawiau Cynllunio Atodol cyfredol.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 106.

107.

Diwygio’r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, er mwyn ceisio cymeradwyaeth i ddiwygio’r Cyfansoddiad i alluogi’r Awdurdod i fodloni ei ofynion o ran darparu agendâu a chofnodion yn unol â Safonau’r Gymraeg.

 

Eglurodd fod Safon 41 yn ei gwneud yn ofynnol cynhyrchu agendâu a chofnodion cyfarfodydd ffurfiol yr Awdurdod yn Gymraeg.

 

Aeth y Swyddog Monitro ymlaen i ddweud ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol sicrhau bod agendâu, cofnodion ac adroddiadau ar gael i’r cyhoedd 3 diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

O dan ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, mae Cynghorwyr yn cael gofyn cwestiynau i’r Weithrediaeth a chyflwyno Hysbysiadau o Gynigion, ac mae’n rhaid iddynt roi pum diwrnod clir o rybudd o hyn.

 

Gan fod yr Awdurdod yn anfon ei agendâu a’i gofnodion i Gaerdydd i’w cyfieithu, roedd angen tua 5 diwrnod gwaith clir rhwng eu hanfon a pharatoi’r dogfennau hyn i’w hanfon allan i’r Pwyllgor, h.y. 3 diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Er mwyn sicrhau bod digon o amser i drefnu cyfieithiad Cymraeg i gynnwys cwestiwn neu Hysbysiad o Gynnig fel y nodir uchod, mewn pryd i gynnwys y rhain ar agenda’r Cyngor, cynigiwyd y dylid estyn y cyfnod uchod i 10 diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Roedd y Swyddog Monitro o’r farn y byddai hyn yn caniatáu digon o amser i drefnu cyfieithiad cyn cyhoeddi’r agenda yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn galluogi’r Awdurdod i fodloni gofynion Safonau’r Gymraeg a deddfwriaeth, h.y. o dan ddarpariaeth Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Roedd un Aelod o’r farn fod estyniad o 5 diwrnod gwaith ar gyfer y broses uchod yn rhy hir, a gofynnodd a fyddai modd cwtogi hyn i rhwng 5 a 10 diwrnod gwaith.

 

Atebodd y Swyddog Monitro y gallai hynny atal cyfarfodydd y Cyngor rhag mynd rhagddynt, pe na bai’r deunydd dwyieithog yn cael ei ddychwelyd mewn da bryd erbyn dyddiad anfon agendâu/cofnodion allan yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Daeth yr Arweinydd â’r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy awgrymu y dylid cytuno ar gynigion yr adroddiad, ac y dylid cyflwyno adroddiad cynnydd i’r Cyngor ymhen 6 mis.

 

Cytunodd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:      (1)  Cymeradwyo diwygio paragraffau 10, 11 a 12 Rhan 4 y Cyfansoddiad, fel yr amlinellir ym mharagraff 4 yr adroddiad, i estyn y cyfnod a nodir, o 5 i 10 diwrnod gwaith.

 

                                (2)  Y bydd yr Aelodau’n disgwyl adroddiad cynnydd ar y mater hwn ymhen 6 mis.          

108.

Disgrifiadau Rôl Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, er mwyn cyflwyno Disgrifiadau Rôl Aelodau Etholedig i’w cymeradwyo.

 

Eglurodd fod Disgrifiadau Rôl Aelodau unigol wedi’u datblygu ar sail y disgrifiadau rôl enghreifftiol a luniwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ond eu bod wedi’u teilwra i ofynion swyddogaethau Cynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a atodir yn Atodiadau 1–19 yr adroddiad.

 

Roedd Atodiad 20 yr adroddiad yn nodi manylion y canllawiau generig ar gyfer rolau Cyrff Allanol.

Roedd paragraff 4.3 yr adroddiad yn cynnwys manylion gofynion y Siarter, h.y. Siarter Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr CLlLC, ac ar ffurf tablau, disgrifyddion ar gyfer rolau Aelodau unigol, ac roedd hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am Gyrff Allanol.

 

Roedd paragraff 4.5.1 yr adroddiad yn argymell y dylid cymeradwyo a defnyddio Disgrifiadau Rôl Aelodau yn unol â’r amserlenni a awgrymir yn yr adran hon o’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo’r Disgrifiadau Rôl Aelodau Etholdeig a atodir ar ffurf Atodiadau i’r adroddiad.

109.

Adroddiadau Gwybodaeth i’w nodi pdf eicon PDF 49 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Nodi’r Adroddiadau Gwybodaeth sydd yn yr adroddiad uchod gan y Swyddog Monitro.

110.

Derbyn y cwestiynau canlynol i’r Cabinet

1.    Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio gan y Cynghorydd Timothy Thomas

 

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer ehangu a hyrwyddo Addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol a sut bydd yr awdurdod hwn yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

 

2.    Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Cymunedau gan y Cynghorydd Altaf Hussain

 

            Given the recent adverse weather conditions in the County Borough and the significant level of ongoing work within your portfolio i.e. potholes and street lighting etc. could the Cabinet Member for Communities advise me how this work has been prioritised.  I am sure that this Council wishes to ensure that the risk of injury of our residents and the likelihood of road traffic accidents is minimised to prevent this Council incurring additional costs and supports the health and wellbeing of its residents.

 

 

Cofnodion:

1. Cwestiwn i Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio gan y Cynghorydd Timothy Thomas

 

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer ehangu a hyrwyddo Addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol a sut bydd yr awdurdod hwn yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

 

Ateb                      Mae manylion llawn uchelgeisiau’r awdurdod lleol ar gyfer addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref wedi’u nodi yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020.

 

                              Mae’r awdurdod lleol wedi nodi 11 o dargedau i hyrwyddo darpariaeth Gymraeg dros y tair blynedd nesaf.

Byddwn yn:

 

          datblygu dichonoldeb darpariaeth Gymraeg ar gyfer Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif – gyda chymorth arolwg o’r galw ymhlith dysgwyr a’r adolygiad strategol a’r archwiliad o ddigonolrwydd gofal plant;

          denu 5% yn fwy o blant i ysgolion cyfrwng Cymraeg dros y tair blynedd nesaf drwy gyflwyno deunyddiau hyrwyddo’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru sy’n nodi manteision bod yn ddwyieithog a thrwy ychwanegu rhagor o ddarpariaeth lle mae digon o alw amdani;

          parhau i ddatblygu a gweithredu strategaeth i gadw mwy o blant mewn addysg Gymraeg yn y cyfnod sylfaen ac yng nghyfnod allweddol 2, gan gynnwys yr adolygiad sydd ar y gweill o gymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y sector cyfrwng Cymraeg;

          sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael i bob plentyn oedran cyn-ysgol a throsodd y mae eu rhieni/gofalwyr am iddynt gael eu gofal/addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny o fewn pellter teithio rhesymol i gartrefi’r plant;

          sicrhau continwwm sy’n datblygu o addysg gynradd Gymraeg i addysg uwchradd Gymraeg, fel bod disgyblion sy’n dechrau eu haddysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd ymlaen i ysgolion uwchradd Cymraeg ac ymlaen wedi hynny i addysg bellach ac uwch a hyfforddiant;

          sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei dysgu fel iaith gyntaf a/neu ail iaith ar amserlen pob un o’n hysgolion, yn unol â gofynion statudol y Cwricwlwm Cenedlaethol, a sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle i sefyll arholiad wedi’i achredu’n allanol yn Gymraeg ar ddiwedd cyfnod allweddol 4

          sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cyfle cyfartal yn ieithyddol o ran addysg Gymraeg, yn unol â Chod Ymarfer AAA Cymru a Strategaeth y Cyngor ar gyfer Cynhwysiant Addysgol a’r Bil Diwygio ADY newydd;

          sicrhau bod pob disgybl mewn ysgol Gymraeg ddynodedig yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl erbyn diwedd cyfnod allweddol 2;

          gweithio mewn partneriaeth â phob ysgol i wella safon y Gymraeg fel iaith gyntaf ac fel ail iaith;

          datblygu ymhellach wybodaeth a dealltwriaeth athrawon o’r Gymraeg fel iaith gyntaf ac fel ail iaith, a darparu cyfleoedd i ddisgyblion i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ethos/nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru drwy’r Cwricwlwm Cymreig; a

          hybu datblygiad ehangach sgiliau Cymraeg disgyblion drwy weithgareddau a phrosiectau penodol, ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid.

 

Y gobaith yw y bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn cynorthwyo targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 110.

111.

Hysbysiad o Gynnig

Hysbysiad o Gynnig a Gynigir gan y Cynghorydd Bridie Sedgebeer

 

Cau NatWest yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr

 

Mae’r Cyngor hwn yn mynegi ei bryderon fod Canghennau Banc NatWest yn cau mewn tair o’n prif drefi; Pencoed, Maesteg a Phorthcawl.

 

Mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn lwcus o gael llawer o fusnesau bach yng nghanol ein trefi, ac mae’r cynnig i gau’r tair cangen yma yn ein trefi ar draws y Sir yn peryglu ffyniant ein trefi.

 

At hynny, mae cwsmeriaid, yn arbennig trigolion h?n, yn dibynnu ar allu galw mewn i’w cangen leol i reoli eu harian. Mae’r ddarpariaeth o gyfleusterau bancio wyneb yn wyneb wedi lleihau’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ond nawr mae’r ddarpariaeth wedi’i lledaenu’n rhy denau, a bydd hyn yn gadael Pencoed heb gangen o unrhyw fanc yn y dref. Mae newid technolegol yn helpu cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau bancio mewn ffyrdd gwahanol ond ni ddylai’r banc anwybyddu anghenion y cwsmeriaid hynny nad ydynt yn gallu gwneud hynny.

Mae’r cyngor hwn yn annog RBS Group, y mae NatWest yn rhan ohono, i ailystyried cau’r tair cangen. At hynny, mae’r Cyngor hwn yn cytuno i gymryd pob cam rhesymol i gefnogi preswylwyr a busnesau yn y trefi hyn, gan edrych ar bob opsiwn i gadw cyfleusterau bancio, gan gynnwys gweithio gyda’n hundebau credyd lleol a helpu’r gymuned i edrych ar yr opsiynau o agor canghennau niwtral a rennir.

 

Cofnodion:

Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd Bridie Sedgebeer

 

Cau canghennau’r NatWest yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr

 

Mae’r Cyngor hwn yn mynegi ei bryder mawr ynghylch y cynnig i gau canghennau banc y NatWest ym Mhencoed, Maesteg a Phorthcawl.

Bydd y cynnig i gau’r tair cangen hon yn ein sir yn andwyol i ffyniant ein cymunedau. Mae cwsmeriaid, yn enwedig preswylwyr h?n, yn dibynnu ar allu galw i mewn i’w cangen leol i drin a thrafod eu harian. Mae’r ddarpariaeth o ran adnoddau bancio lleol wyneb yn wyneb wedi crebachu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a bydd yn golygu nad oes cangen o’r un banc ym Mhencoed. Mae newidiadau technolegol yn helpu cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau bancio mewn ffyrdd gwahanol ond rhaid i’r banciau beidio ag anwybyddu anghenion y cwsmeriaid hynny nad ydynt yn gallu defnyddio/dod i ben â’r ffyrdd newydd hyn. Mae’r Cyngor hwn yn gofyn i’r Arweinydd ysgrifennu at NatWest, i ofyn i’r banc ailystyried ei safbwynt o ran cau’r tair cangen hon a chytuno i gymryd camau rhesymol i gefnogi preswylwyr, grwpiau cymunedol a busnesau i ystyried posibiliadau eraill, gan gynnwys gweithio gydag undebau credyd a changhennau niwtral ar y cyd.

 

PENDERFYNWYD:       Cefnogi’r Hysbysiad o Gynnig uchod, yn amodol ar yr isod:-

 

1.     Bod y Cyngor hefyd yn mynd ar drywydd Bancio Symudol drwy’r dulliau priodol

2.     Bod ASau ac ACau yn cael eu lobïo i annog mwy o ddefnydd ar Undebau Credyd a Bancio Cymunedol, drwy wasanaethau ar y cyd.

 Archwilio dichonoldeb gosod rhagor o adnoddau twll yn y wal yn ardal Porth y Cymoedd, ac mewn mannau a ddefnyddir yn rheolaidd gan y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sydd ym mherchnogaeth neu dan ofal yr awdurdod lleol. Gellid trafod hyn â LINC.

112.

Materion brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.