Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Julie Ellams Democratic Services Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Gwnaed y Datganiadau o Fuddiant dilynol:
Datganodd Y Cynghorydd DBF White fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor gan fod aelod o'r teulu’n derbyn gostyngiad yn y Dreth Gyngor, ac fe dynnodd y Cynghorydd White yn ôl o'r cyfarfod wrth iddynt ystyried yr eitem hon.
Datganodd Y Cynghorydd JM McCarthy fuddiant
personol yn eitem 6 yr agenda - Rhaglen Foderneiddio Ysgolion Band
B fel Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Pencoed. Hefyd
datganodd y Cynghorydd McCarthy fuddiant personol yn eitem 7 agenda
- Neuadd y Dref Maesteg fel Aelod o Ymddiriedolaeth Awen.
Datganodd y Cynghorydd JC Spanswick fuddiant
rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda - Cynllun Gostyngiadau’r
Dreth Gyngor gan fod aelod o'r teulu yn derbyn gostyngiad yn y
Dreth Gyngor ac fe dynnodd e yn ôl o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.
Datganodd y Cynghorydd D Davies fuddiant personol yn eitem 7 yr agenda – Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg fel Aelod o Neuadd y Dref Maesteg. Datganodd y Cynghorydd Davies fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda - Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gan fod aelod o'r teulu yn derbyn gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Tynnodd y Cynghorydd Davies yn ôl o'r cyfarfod wrth iddynt ystyried yr eitem hon.
Datganodd y Cynghorydd RJ Collins fuddiant
personol yn eitem 7 yr agenda -
Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg fel Aelod o Neuadd y Dref
Maesteg.
Datganodd y Cynghorydd TH Beedle fuddiant personol yn eitem 6 yr agenda - Rhaglen Foderneiddio Ysgolion Band B fel aelod o’r Bwrdd Adolygu Strategol a Throsfwaol. Datganodd y Cynghorydd Beedle fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda - Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gan fod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 113. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 147 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/12/2017
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 20 Rhagfyr 2017 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
I dderbyn cyhoeddiadau gan: (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu) (ii) Aelodau’r Cabinet (iii) Prif Weithredwr
Cofnodion: Y Maer
Cyhoeddodd y Maer ei bod wedi
mynychu nifer o wasanaethau carolau dros y Nadolig, un ohonynt oedd
cyngerdd y staff yn Siambr y Cyngor. Diolchodd i'r holl staff oedd
wedi cyfranogi at drefnu’r digwyddiad difyr hwn a’i
Chaplan am fynychu i roi bendith.
Hefyd mynychodd y Maer berfformiad o'r Pantomeim Cinderella ym Mhafiliwn Porthcawl a oedd yn bleserus iawn ac ynghyd â’r Maer y Dref ar gyfer Porthcawl Lorri Desmond Williams Cyflwynwydsiec iddynt, i'w rannu rhwng eu Helusennau.
Roedd yn anrhydedd i’r Maer gynrychioli’r awdurdod yn y seremoni i Goffa'r Holocost yn Theatr Sony Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hwn yn ddigwyddiad emosiynol a oedd yn procio’r meddwl a oedd yn cynnwys barddoniaeth a ddarllenwyd gan ddisgyblion ein hysgolion cyfun lleol ac anerchiad gan Eric Muranghwa Eugene MBE a goroeswr Hil-laddiad 1994yn erbyn y Tutsi yn Rwanda, a gollodd 35 o aelodau ei deulu yn ystod yr erchyllter . Fe ddatganodd hi ei fod yn ei bod yn ddiddorol iawn i wrando ar hanes ei fywyd ers dod i'r wlad hon 20 mlynedd yn ôl. Hefyd mynychodd y Maer ail Ddigwyddiad Holocost yn Neuadd y Ddinas Caerdydd a oedd hefyd yn emosiynol iawn.
Hefyd cyhoeddodd y Maer ei bod hi wedi mynychu cynhyrchiad o Phantom of the Opera yn y Pafiliwn gan Ysgol Gyfun Porthcawl a oedd yn bleser ac yn broffesiynol iawn. Datganodd hi mai syrpréis ychwanegol oedd bod nifer o'r disgyblion yn perthyn i Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a oedd yn un o’i helusennau dewisol a'i bod yn gobeithio y byddent yn dilyn eu breuddwydion a mynd ymlaen i actio a chanu ym myd y Theatr Gerddorol. Roedd y Maer a'r Cydweddog yn freintiedig i gwrdd â'r cast, athrawon a rhieni ar ôl y perfformiad. Diolchodd i'r cast a'r athrwaon am eu holl waith caled.
Cyhoeddodd y Maer ei bod wedi mynychu’r Seremoni Gwobrwyon ar gyfer yr Arglwydd Raglaw yng Nghanolfan Gynadledda Pontypridd De Cymru. Hefyd mynychodd y Gwobrau MPCT yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a oedd yn cynnwys arddangosiadau, gorymdeithio a chyflwyno tystysgrifau. Fe wnaeth y Maer a'r Cydweddog fwynhau'r seremoni yn fawr iawn ac mae hi'n falch iawn o'r dynion a merched ifanc yn cymryd rhan, rhai ohonynt wedi cael eu derbyn i mewn i'r Lluoedd Arfog.
Cyhoeddodd y Maer â thristwch fod y cyn Gynghorydd, Mrs. Margaret Bertorelli, wedi marw ar fore dydd Sul. Fe wnaeth hi hysbysu'r Cyngor bod Mrs Bertorelli yn Gynghorydd Bwrdeistref a Chynghorydd Tref Pen-y-bont ar Ogwr fel ei gilydd ac yn gyn Ddirprwy Faer Tref. Dywedodd fod Mrs Bertorelli wedi gweithio'n galed yn ei bywyd cyhoeddus ac wrth wasanaethu fel Cynghorydd a bod hyn wedi bod yn rhan bwysig o’i bywyd. Mae'r Cyngor yn cydymdeimlo â'i theulu yn ystod yr amser trist hwn.
Safodd pob un oedd yn bresennol
mewn tawelwch fel nod o barch. |
|
I dderbyn adroddiad yr Arweinydd (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu) (ii) Aelodau’r Cabinet (iii) Prif Weithredwr
Cofnodion: Cyhoeddodd yr Arweinydd fod yr Ysgrifennydd Cabinet newydd ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Alun Davies AC, yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi siarad yn gyhoeddus am ei uchelgeisiau ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn fawr. Dywedodd y byddai'n hoffi cael awdurdodau lleol mwy o faint a llawer cryfach yng Nghymru ac mae wedi mynegi’r farn nad yw unrhyw un mewn llywodraeth leol yn credu bod 22 o awdurdodau lleol yn gynaliadwy a bod ad-drefnu llywodraeth leol yn ôl ar yr agenda.
Fe wnaeth yr Arweinydd hysbysu’r Cyngor ei fod wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr wythnosau diwethaf ac wedi gofyn am sicrwydd na fydd y cydweithrediadau a phartneriaethau rhanbarthol cyfredol megis y Fargen Ddinesig, y consortiwm addysg a'r gwasanaethau a rennir mae’r Cyngor hwn wedi buddsoddi cymaint o amser ac egni ynddynt yn cael eu datgymalu neu eu hailadeiladu os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ad-drefnu. Hefyd fe wnaeth yr Arweinydd fynegi’r farn y bydd unrhyw ansicrwydd ychwanegol a hir ynghylch y dyfodol yn ddi-fudd wrth i’r Cyngor barhau i archwilio a datblygu ffyrdd gwahanol o weithio a gofynnodd fod unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud yn ofalus wrth gwrs, ond yn gyflym. Dywedodd fod Ysgrifennydd y Cabinet yn glir y byddai'n hoffi i gynghorau arwain a llywio’r agenda hon. Nid oes unrhyw gynlluniau na chynigion na mapiau ond disgwylir clywed rhagor yn y gwanwyn. Dywedodd yr Arweinydd, beth bynnag fydd y cynlluniau diweddaraf o Fae Caerdydd byddai'r Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda'i holl bartneriaid, gan fantoli'r gyllideb a moderneiddio gwasanaethau a buddsoddi yn y dyfodol.
Hefyd fe wnaeth yr Arweinydd gyhoeddi, yn gynharach y mis hwn, yr ymwelodd y Gweinidog dros Dai ac Adfywio Rebecca Evans AC â chanol y dref i agor yn swyddogol y datblygiad pwysig porth Rhiw, sy'n ymgorffori maes parcio aml-lawr modern, 28 o fflatiau gyda mannau parcio dynodedig, a hefyd clwb iechyd a gaiff ei agor cyn bo hir ar y llawr gwaelod. Dywedodd fod y prosiect £10m wedi cael ei ariannu ag oddeutu £5.7m o raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniadau gan Gr?p Coastal Housing, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Grant Tai Cymdeithasol. Mae'r buddsoddiad wedi darparu i'r Cyngor, nid yn unig siawns i amnewid yr hen faes parcio, ond hefyd cymuned newydd yn byw yng nghanol y dref. Bellach roedd rhestr aros am y fflatiau hardd, wedi’u cynllunio’n dda ac yn effeithlon iawn ag ynni, sydd â golygfeydd gwych o’r cymoedd â’r bryniau yng ngogledd y bwrdeistref. Roedd y tenantiaid, y cwpl, roedd ef a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio wedi cyfarfod â nhw, yn falch iawn o'u cartref newydd.
Llongyfarchodd bawb a oedd wedi chwarae rhan wrth gyflawni'r prosiect mawr hwn. Roedd ymdrechion yn parhau i adfywio'r dref ac roedd yn edrych ymlaen at weld yr adeilad newydd yn cynnig cyfleoedd masnachol a chartrefi newydd ar Stryd Nolton ac at weld yr Adeilad Davies hanesyddol yn cael ei adfer ar gornel Stryd y Frenhines ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 116. |
|
Rhaglen Foderneiddio Ysgolion Band B PDF 84 KB Cofnodion: Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim a’r Adran
Gefnogaeth Teuluoedd am gymeradwyaeth o’r ymrwymiad ariannol
sydd ei angen ar gyfer Band B y Rhaglen Foderneiddio
Ysgolion. · Pen-y-bont ar Ogwr Gogledd-ddwyrain (mynediad 2 ddosbarth (AB) - grant cyfalaf · Pen-y-bont ar Ogwr De-ddwyrain (2.5AB) - grant cyfalaf · Ysgol Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr (270 o leoedd) - Model Buddsoddi Cydfuddiannol · Pen-y-bont ar Ogwr Gorllewin – Cyfrwng Cymraeg (2AB) - grant cyfalaf · Pen-y-bont ar Ogwr Gorllewin - cyfrwng Saesneg (2AB) - grant cyfalaf
Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru ar 6 Rhagfyr 2017, wedi rhoi 'cymeradwyaeth mewn egwyddor' ar gyfer ail don buddsoddiad Pen-y-bont ar Ogwr, sydd ar hyn o bryd â chwmpas costau rhaglenni a amcangyfrifir o £68.2m, a rhagwelir y bydd oddeutu £43.2m ohoni’n cael ei hariannu gan gyfalaf, a chynigir ariannu’r gweddill trwy Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru (MIM). Er mwyn derbyn yr arian hwn, bydd angen i'r Cyngor gyflwyno achosion busnes manwl ar gyfer pob prosiect, gan gynnwys manylion ynghylch sut y bydd yr arian cyfatebol (tua £22.8m), sy’n ofynnol gan y Cyngor, yn cael ei ddarparu. Cynigiwyd y dylid diwallu hyn o gyllid cyfalaf cyffredinol yn y lle cyntaf (yn amodol ar setliadau Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru), gyda'r gweddillyn cael ei fodloni o arian a106, derbyniadau o werthu safleoedd ysgol a rhai eraill, cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a benthyca heb gymorth. Dywedodd y bydd y rhaglen gyfalaf yn cael ei diweddaru gyda chostau cynllun unigol a chyllid diwygiedig wrth i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 117. |
|
Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg PDF 90 KB Cofnodion:
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ar ddiweddariad
ar Brosiect Neuadd y Dref Maesteg a gofynnodd am gymeradwyaeth i
ddiwygio'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2016-27.
Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y Cyngor y comisiynwyd Mace Group ym mis Awst 2017 i ddatblygu'r cysyniad dylunio, cynnal gwaith ychwanegol ar ddichonoldeb a darparu amcangyfrifon cost cywirach ar gyfer y prosiect. Roedd y gwaith dichonoldeb manwl wedi'i drefnu i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth. Rhagwelwyd mai cost y cynllun yn seiliedig ar yr uchelgais wreiddiol fyddai £5-6 miliwn, cynnydd dros yr amcangyfrif rhagarweiniol cychwynnol o £4- £5 miliwn a oedd yn adlewyrchu'r gwaith dylunio a dadansoddi peirianneg manylach ac a fydd yn cael ei fireinio ymhellach gan y gwaith parhaus. Dywedodd, nes bod y tendrau wedi’u derbyn, y byddai'r amcangyfrif o'r gost yn parhau i fod yn ddangosol, er iddo gael ei lywio gan y gwaith dylunio a dichonoldeb a wnaed hyd yn hyn. Roedd adnewyddu adeiladau hanesyddol yn gymhleth ac nes bod y gwaith dichonoldeb yn gyflawn ac roedd yr holl faterion perthnasol wedi’u nodi roedd amcangyfrif cyfalaf gwirioneddol yn anodd ei ragweld yn gywir. Hysbysodd y Cyngor y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet pan fydd y gwaith dichonoldeb a'r cynllun cost wedi’u cwblhau.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau hefyd ar gymhlethdod y prosiect cyfalaf a’i fod yn cynnwys nifer o ffynonellau cyllid posibl. Byddai cais am gyllid yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn Mawrth / Ebrill 2018 a oedd wedi cadarnhau mai'r grant uchaf fyddai £2.86m.
Dywedodd fod y Cyngor wedi cytuno’n flaenorol i ddyrannu £500,000 o'r rhaglen gyfalaf a bod y Cabinet wedi penderfynu’n flaenorol i warchod £800,000 o'r arian disgwyliedig o werthu tir yn Heol Ewenni ar gyfer adfywio yng Nghwm Llynfi. Dywedodd, er mwyn darparu'r sicrwydd cylar y cam cynnig, byddai angen i'r ymrwymiad hwn fod yn benodol i brosiect Neuadd y Dref Maesteg. Yn ogystal, byddai'n rhaid i'r Cyngor warantu'r derbyniadau i ddiwallu cerrig milltir y rhaglen. Hysbysodd y Cyngor fod y tir yn Heol Ewenni wedi cael ei brynu’n wreiddiol gyda grant gan Lywodraeth Cymru, a oedd wedi cadarnhau na fyddent yn dymuno adfachu'r gwerth grant gwreiddiol. Dywedodd fod £206,000 o ffioedd wedi’u tynnu hyd yn hyn, a dalwyd gan gyfuniad o gyllid dichonoldeb corfforaethol diogel a dyraniadau refeniw Cronfa Adfywio Arbennig. Byddai angen ffioedd pellach i gwblhau'r cam dylunio manwl terfynol, byddai angen cyfres lawn o arolygon ychwanegol a gwaith ymchwiliol i fodloni cynllunio a galluogi gwahodd tendrau, yr amcangyfrifwyd y byddent yn costio £175,000, a oedd wedi'i gynnwys yn nyraniad y gyllideb gyfalaf.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau hefyd y byddai gofyn i gytundeb ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 118. |
|
Cais Cynllunio Croes PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu fod y Pwyllgor Rheoli Datblygu, yn ei gyfarfod ar 21 Rhagfyr 2017, wedi ystyried cais cynllunio P/17/373 / FUL fel un croes i’r Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd fod y Pwyllgor wedi penderfynu peidio â gwrthod caniatâd cynllunio a chyfeiriwyd y cais at y Cyngor gan gofyn iddo gymeradwyo'r cais ond ag amodau.
Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu fod y cais yn ceisio
caniatâd ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd o uned
fanwerthu (Dosbarth A1) i
Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu fod y cais yn ailgyflwyniad o gais blaenorol ar gyfer "Newid defnydd o fan manwerthu gwersylla a gwerthiannau hamdden i ysgol nofio breifat a ffurfio pwll nofio o fewn y lle" dan gyfeirnod cynllunio P/16/488 / FUL . Dywedodd fod y cais a ailgyflwynwyd, fel y'i ystyriwyd gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu, yn cynnwys datganiad cynllunio i fynd i'r afael â pholisi lleol a chenedlaethol. Mae'n cydnabod bod y busnes wedi cychwyn heb ganiatâd ond mae'n ceisio caniatâd ôl-weithredol eto ar sail nifer o newidiadau i'r busnes. Mae'r datganiad hefyd yn cadarnhau bod Water Wings yn bwll aelodau preifat sy'n darparu gwersi nofio i aelodau o Ysgol Nofio Water Wings yn unig. Mae aelodaeth wedi'i gynnwys o fewn cost prynu bloc o wersi ac mae'r ysgol hefyd wedi lleihau oriau agor ar gyfer y cyfleuster Water Wings.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor o blaid peidio â gwrthod y datblygiad a rhoi pwerau llawn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad mewn cysylltiad â'r cynnig hwn yn amodol ar yr amodau a gynhwysir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau. |
|
Adroddiad Gwella Blynyddol 2016-17 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Sarah-Jane Byrne, Rheolwraig
Llywodraeth Leol a Samantha Clements o Swyddfa Archwilio Cymru a
fyddai'n cyflwyno Adroddiad Gwella Blynyddol yr Archwilydd
Cyffredinol i'r Cyngor.
· Llywodraethu Da wrth Benderfynu ar Newidiadau Gwasanaeth · Llythyr Archwilio Blynyddol 2015-16 · Cynllunio Arbedion · Dilyniant Asesiad Corfforaethol · Archwiliad Blynyddol y Cynllun Gwella · Asesiad Blynyddol o Archwiliad Perfformiad
Ni wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol unrhyw argymhellion na chynigion ffurfiol ar gyfer gwelliant. O ran y prosiect Llywodraethu Da wrth Benderfynu ar Newidiadau i'r Gwasanaeth, roedd y Cyngor wedi ymateb yn gadarnhaol i'r materion a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac wedi cymryd camau i fynd i'r afael â phob maes y mae angen ei wella. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi canfod bod gan y Cyngor flaenoriaethau clir sy'n llunio ei benderfyniadau ar newid sylweddol mewn gwasanaethau ac mae'n ceisio dysgu a gwella trefniadau, ond mae lle i wella hygyrchedd rhywfaint o wybodaeth. Canfu hefyd fod y Cyngor yn elwa o drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd clir yn gyffredinol, a pherthynas weithio gadarnhaol rhwng swyddogion ac aelodau. Yn nodweddiadol, mae'r Cyngor yn ystyried ystod o opsiynau ar gyfer newidiadau sylweddol i'r gwasanaeth a gefnogir gan wybodaeth glir, ond nid yw gwerthusiad ffurfiol o opsiynau yn cael ei gynnwys ar y cyfan. Yn gyffredinol, mae gan y Cyngor drefniadau ymgynghori effeithiol wrth ystyried newidiadau sylweddol i'r gwasanaeth ac mae'n parhau i'w datblygu, er y gellid gwella hygyrchedd gwybodaeth. Mae'r Cyngor yn monitro arbedion ariannol ac effaith rhai newidiadau sylweddol i'r gwasanaethau, er y gellid cryfhau hyn trwy nodi'n glir sut y bydd yr effaith yn cael ei monitro ar adeg y penderfyniad. Mae'r Cyngor yn dysgu o'i brofiad i wella ei drefniadau ar gyfer penderfynu a chyflwyno newidiadau i'r gwasanaeth.
Diolchodd yr Arweinydd i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru am eu hymrwymiad ar yr Adroddiad Gwella Blynyddol, yr hyn yr oedd yn credu ei fod yn adlewyrchiad teg o sefyllfa'r Cyngor ond hefyd roedd yn nodi bod lle i wella bob amser.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn nodi’r Adroddiad Gwella Blynyddol a'r adroddiad Llywodraethu Da wrth Benderfynu ar Newidiadau Sylweddol i Wasanaeth a gynhyrchir gan Swyddfa Archwilio Cymru. |
|
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor PDF 89 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth
Cyllid Interim a Swyddog S151 adroddiad, ei bwrpas oedd rhoi
gwybodaeth i'r Cyngor ynghylch gweithredu'r Cynllun Gostyngiadau'r
Dreth Gyngor (CTR) 2011/19 (i'w fabwysiadu erbyn 31 Ionawr 2018),
ynghyd â'r goblygiadau ariannu.
• Adlewyrchu newidiadau a wnaed i'r system fudd-daliadau mewn
cysylltiad â Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Dywedodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 nad oedd y rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol o safbwynt yr hawliwr i'r cynllun presennol, a bod y lefel uchaf o gymorth y gallai hawlwyr cymwys ei hawlio’n aros ar 100%. Eglurodd y disgresiwn cyfyngedig a roddir i'r Cyngor, i gymhwyso elfennau dewisol a oedd yn fwy hael na'r cynllun cenedlaethol. Cynigiwyd y dylai’r elfennau dewisol fod fel sy’n dilyn:-
• Cynhelir y cyfnod
talu estynedig ar yr isafswm safon o 4
wythnos.
Eglurodd y Pennaeth
Cyllid Interim a Swyddog S151 mai’r cyfanswm cost
amcangyfrifedig i’r Cyngor am y cynigion hyn yw £15,300
ar gyfer 2018-19. |
|
I dderbyn y cwestiynau dilynol i'r Cabinet Cwestiwni’r Aelod Cabinet Cymunedau gan Cynghorydd Tim Thomas
Yn ystod oes y cynllun ariannol tymor canolig nesaf, beth fydd y Cyngor hwn yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy’n byw ag anableddau’n gallu defnyddio’r ffyrdd, y strydoedd a’r priffyrdd yn eu cymunedau’n llawn bob dydd.
Cwestiwni’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gan Cynghorydd Altaf Hussain
Yn ôl Coleg Brenhinol Meddyginiaeth Frys Cymru, mae‘r adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ysbytai Cymru yn debyg i faes y gad. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi’r bai ar y ffliw, y cynnydd yn nifer y galwadau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd a’r norofeirws. Dywedodd Dr Robin Roop, Is-lywydd RCEM Cymru fod staff unrhyw adran frys yn teimlo’u bod ar faes y gad, bod diogelwch y cleifion yn cael ei beryglu, a bod y sefyllfa’n anniogel, yn ddiurddas ac yn peri gofid i’r cleifion a’u perthnasau. Mae nifer o Fyrddau Iechyd Cymru wedi gorfod gohirio llawdriniaeth oherwydd pwysau’r gaeaf. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi canslo’r rhan fwyaf o lawdriniaethau cyffredin a oedd wedi’u trefnu. Mae’rYsgrifennydd Iechyd wedi ymddiheuro wrth y cleifion dan sylw.
O ganlyniad bydd rhagor o gleifion, yn enwedig cleifion oedrannus, yn mynd i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys oherwydd y ffliw, problemau anadlu neu oherwydd eu bod wedi cael codwm etc. Caiffnifer o’r rhain eu rhyddhau o’r ysbyty’n fuan.
A oes gan y Cyngor adnoddau digonol i roi Gofal Cymdeithasol i’r cleifion hyn, ac a all yr Aelod Cabinet sicrhau’r siambr na fydd gwelyau’n cael eu blocio yn ein hysbytai oherwydd prinder adnoddau gofal cymdeithasol? Cofnodion: Cwestiwn i'r Aelod Cabinet Cymunedau gan y Cynghorydd Tim Thomas Yn
ystod y cynllun ariannol tymor canolig nesaf, beth fydd y Cyngor
hwn yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy'n byw ag anableddau yn gallu
cael mynediad llawn i ffyrdd, strydoedd a phriffyrdd maent yn eu
defnyddio o ddydd i ddydd yn eu cymuned? Gwneir ceisiadau bob blwyddyn am arian cyfalaf i ymgymryd
â rhai o'r strydoedd a gofnodir ar y gofrestr waith, a
rhoddwyd arian eleni i dargedu'r lleoliadau hynny lle'r oedd
ceisiadau wedi'u derbyn. Rhoddwyd £50,000 o archebion i'r
contractwr cynnal a chadw cyfredol i ymgymryd â'r mathau hyn
o waith yn y flwyddyn ariannol hon. Mae'r strydoedd ar y gofrestr
waith wedi cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar gategoreiddio'r
llwybr troed, sy'n seiliedig ar y cod ymarfer. Mae gan strydoedd
sydd wedi’u categoreiddio’n uwch fwy oddefnyddwyr, ac
felly maent wedi'u targedu yn gyntaf. Gan fod y lleoliadau hyn ar
gyffyrdd cerbytffyrdd, defnyddir categori uwch y ddwy stryd a
ymunir i asesu'r flaenoriaeth.
Tynnodd y Cynghorydd Webster sylw at yr anawsterau a brofwyd gan drigolion ward Newcastle â phobl yn parcio mewn strydoedd er mwyn cyrraedd canol y dref a holodd a ellid gweithredu cynlluniau parcio pellach ar gyfer preswylwyr er mwyn lliniaru'r broblem. Gofynnodd yr Aelod Cabinet Cymunedau i'r Cynghorydd Webster a'r Cynghorydd T Thomas roi manylion iddo am y strydoedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 122. |
|
Hysbysiad o Gynnig Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd T Beedle
Eithrio’rrhai sy’n Gadael Gofal rhag talu’r Dreth Gyngor
O ganlyniad i doriadau i fudd-daliadau oedran gweithio, y cynnydd mewn contractau dim oriau a thai rhent islaw’r safon, nid yw pobl ifanc sy’n agored i niwed yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd ag a gafodd pobl yr un oed yn y gorffennol.
Yn ei hadroddiad, Breuddwydion Cudd, dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i bobl ifanc sy’n gadael gofal wrth ystyried sut i wneud y system dreth gyngor yn decach. Dywedodd hefyd fod nifer o’r rhai sy’n gadael gofal yn gorfod byw ar cyn lleied ag £8 y dydd ac roeddent yn gwario mwy ar y dreth gyngor nad dim arall, ac eithrio’u rhent.
Mae’r Cyngor yn nodi :
· bod diwygiadau lles y Llywodraeth yn targedu pobl ifanc mewn ffordd gwbl annheg, fel “Rhwymedigaeth Ieuenctid” y Llywodraeth, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2017, ac sy’n atal pobl ifanc 18-21 oed rhag hawlio budd-dal tai yn awtomatig. Mae hyn, yn anochel, wedi arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau’r Cyngor
· bod ganddo’r p?er i eithrio rhai grwpiau penodol rhag talu’r dreth gyngor o dan adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
· bod 1 person ifanc wedi gadael gofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y llynedd (2016/2017) ac wedi dechrau’r cyfnod anodd o adael y system gofal a dechrau byw fel oedolion.
Mae’r Cyngor yn credu:
· y gellir gwneud rhagor i helpu’r rhai sy’n gadael gofal i reoli eu harian yn ystod y cyfnod hwn, a hynny heb roi gormod o faich ar y trethdalwyr
· y dylid eithrio’r bobl ifanc hyn rhag talu’r dreth gyngor nes byddant yn 25 oed, a hynny er mwyn sicrhau bod y cyfnod rhwng gadael gofal a dechrau byw fel oedolion mor ddidrafferth â phosibl, ac er mwyn lleihau’r siawns iddynt fynd i ddyled wrth iddynt ddechrau rheoli eu harian eu hunain.
Penderfyniad y Cyngor yw:
· Defnyddio’i bwerau i eithrio pawb sy’n gadael gofal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhag talu’r dreth gyngor nes byddant yn 25 oed.
· Gofyn i’r Arweinydd ysgrifennu at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i’w annog i eithrio pawb sy’n gadael gofal rhag talu’r dreth gyngor nes byddant yn 25 oed, a hynny ym mhob rhan o’r wlad.
Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon yn ôl a chaiff ei ohirio i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Gwahardd y Cyhoedd Nidoedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ddilynol ag gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth esempt fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A y Ddeddf.
Yn dilyn gweithredu'r prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem ddilynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'i gwahardd o'r cyfarfod, gan ei fod o'r farn, o dan yr holl amgylchiadau yn ymwneud â'r eitem, fod budd y cyhoedd o ran cynnal yr esemptiad yn gorbwyso budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth. |
|
Pecynnau Diswyddo ac Ymddeoliad Cynnar yn cyflwyno Costau sy’n fwy na £100,000 |