Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 28ain Chwefror, 2018 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

127.

Datganiadau Budd

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Swyddogion canlynol fudd mewn eitem Agenda 13.  Gadawodd Swyddogion JNC y cyfarfod tra oedd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried:-

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau

Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chefnogaeth Teuluol

Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cefnogaeth Gweithredol a Phartneriaeth

Pennaeth Cyllid Dros Dro

128.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 147 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 31/01/2018

 

Cofnodion:

WEDI’I DATRYS:       Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Cyngor dyddiedig 31 Ionawr 2018 yn gywir, yn amodol ar y gair ‘Neuadd’ yn nhrydedd llinell rhif Cofnodion 113, yn cael ei newid i ‘Cyngor’.

129.

I dderbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Faeres

Cyhoeddodd y Faeres iddi fynychu ‘Sandville’ Porthcawl yn ddiweddar, lle roedd gwasanaeth blynyddol diolchgarwch.  Ariannir Sandville gan roddion elusennol yn unig.  Rhoir seibiant i’r teuluoedd y rhai sydd wedi bod yn mynd yno ers mwy na 30 mlynedd a chynnig sawl fath o therapi a thriniaeth yno.  Mae hi ar agor i’r cyhoedd a gall unigolion gymryd rhan mewn cyfres o

driniaethau megis Reike a Massage am rodd i Sandville.  Roedd yn lle ysbrydoledig i’w weld gyda dros 100 o wirfoddolwyr yn gweithio yno, ac mae nifer ohonynt wedi bod yn helpu yno ers dros 30 mlynedd.  Roedd awyrgylch hyfryd yn y lle gyda gogwydd teuluol cryf.

 

Cadarnhaodd y Faeres ei bod yn falch i fynychu agoriad Canolfan Glywed yn Boots (Fferyllfa) ar Stryd Caroline, lle gallai unrhywun drefnu apwyntiad a chael prawf clywed am ddim.  Gall pawb dderbyn cyngor am unrhyw broblemau clywed a gweld yr holl dechnoleg ac offer diweddar sydd ar gael.

Ymwelodd y Faeres â Chanolfan y Mileniwm hefyd yng Nghaerdydd ar gyfer Gwobrau Dewi Sant a gweld y terfynwyr yn derbyn Tystysgrifau a  phinnau.  Daeth y terfynwyr o bob lliw a llun mewn categorïau gwahanol, megis dewrder, gwaith yn y gymuned, ayyb.  Bydd Seremoni Gwobrwyo ar gyfer y terfynwyr ym Mawrth.

 

Mynychodd hi Ddawns yr Uchel-Siryf yn y Vale Resort, lle codwyd £4,500 ar y noson gydag Ocsiwn a Raffl.  Gosododd yr Uchel-Siryf darged o £10,000, a dywedodd y Faeres iddi obeithio y bydd e’n ei chyrraedd erbyn i’w flwyddyn yn dod i ben yn Ebrill.  Mae Lamau yn elusen ar gyfer y digartref.

Dywedodd y Faeres iddi glywed rhai hanesion bywyd go iawn lle mae pobl wedi troi eu bywydau rownd mewn ffordd gadarnhaol.  Eto, mae’r gwirfoddolwyr a’r staff sy’n gweithio gyda’r digartref yn dîm ymrwymedig a roedd eu hymroddiad yn hollol amlwg ar y noson.  Dymunodd hi bob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau bod neb yn gorfod cysgu ar y strydoedd mewn rhai o’r tywydd gwaethaf a gafwyd yn y 30 mlynedd diwethaf. 

 

Cadarnhaodd y Faeres ei bod yn falch i fynychu Lansiad Dementia ym Mhafiliwn Porthcawl, lle cafwyd nifer o siaradwyr a’r cyflwyniad PowerPoint.  Atgoffodd hi bob Cynghorydd i fynd i’r wefan ac ymrestru ar gyfer yr hyfforddiant cefnogi Dementia gyda’r bwriad o fynd ymlaen i fod yn Bencampwr  er mwyn i’r hyfforddiant ac ymwybyddiaeth y salwch ofnadwy hwn gael eu rhannu drwy’r Sir, a gwneud i bobl yn ymwybodol am beth i edrych amdani gyda ffrindiau a pherthnasau, gan fod y salwch yn gallu effeithio unrhywun o bob lliw a llun.  Nid yw’r salwch yn gwahaniaethu.

Mynychodd y Faeres Sioe Gerdd ‘Carousel’ a berfformiwyd gan Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn Mhafiliwn Porthcawl.  Roeddent yn broffesiynol iawn a roedd y canu a’r dawnsio yn ddifyr iawn.   Rhodd ddiolch i’r cast, y bobl yn gweithio tu ôl i’r llenni, y rhieni a theidiau a neiniau, a phawb a gefnogodd y sioe gerdd rhagorol hon.

 

Yn olaf, cynghorodd y Faeres iddi fynychu te prynhawn elusennol yng Ngwesty  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 129.

130.

I dderbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod sgwrsio yn mynd yn ei flaen rhwng Yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Arweinwyr Cyngor a’r Gymdeithas Llywodraeth Cymru, yngl?n â datganiad yr Ysgrifennydd  am ail-drefnu llywodraeth leol.  Ychwanegodd fod yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, byddai ymateb cyntaf y Cyngor yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf yr Arweinwyr Gr?p, a bod y WLGA yn bwriadu ysgrifennu at yr Ysgrifennydd yn amlinellu ymateb ar y cyd gan yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru. 

 

Hysbysodd hefyd efallai byddai’r Aelodau yn dymuno atgoffa eu hetholwyr am linellau terfyn rhai ymgynghoriadau pwysig a redir ar hyn o bryd.  Mae’r ymgynghoriad cyntaf yn gynnig ar gyfer dosbarth newydd ar gyfer plant Awtistaidd yn Ysgol Gynradd Pencoed.  Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 23 Mawrth 2018.

 

Bydd ymgynghoriad arall, ychydig o ddyddiau yn hwyrach, am dynnu cymorthdaliadau o rhai ffyrdd masnachol bysiau hefyd yn dod i ben ar 26 Mawrth.  Yn olaf, bydd yr ymgynghoriad am Doiledau Cyhoeddus yn dod i ben.

 

Mae pob un o’r ymgynghoriadau yn dod â llawer o sylwadau, a gall unrhywun sydd eisiau mynegi barn yn gwneud hyn drwy ymweld â thudalennau ymgynghori’r Cyngor. 

 

Mae’r dogfennau ar gael ar ffurf bapur a mewn ffurfiau eraill gan gysylltu â’r Tîm Ymgynghori’r Cyngor.

 

Yn olaf, dywedodd yr Arweinydd fod yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio a’i yntau wedi cael y fraint o gael eu gwahodd i’r seremoni swyddogol yn cau Ysgol Gynradd Brynmenyn.  Roedd yn brofiad emosiynol gan mai hwn oedd y diwrnod olaf yn yr hen adeilad, ond roedd hefyd yn garreg filltir cyffrous a phennod newydd oherwydd bod adeilad newydd sbon gan yr ysgol erbyn hyn a agorwyd yr wythnos honno.  Roedd e felly yn falch iawn am hwn, fel yr oedd y staff, llywodraethwyr ysgol, disgyblion a rhieni, oherwydd eu bod yn hapus yn astudio mewn Ysgol yr 21ain Ganrif.  Roedd e’n sicr y byddai’r Aelodau i gyd yn adleisio ei farn am hyn, yn cytuno bod yn bwysig iawn i’r Awdurdod edrych ar ffordd i ddarparu’r cyfleoedd addysg gorau posib i’r holl blant yn ysgolion y Bwrdeistref Sirol.

131.

Gwahoddiad i baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (LDP) De Ddwyrain Cymru – Gorllewin, a Gwahoddiad i Awdurdodau Cynllunio Lleol i baratoi Cynllun Datblygu Strategol (SDP). pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Gr?p adroddiad ar ran y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, yn trafod ymateb y llythyrau gan yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Lesley Griffiths AC a dderbyniwyd ar 13 Rhagfyr 2017, yngl?n â’i gwahoddiad i ymgymryd â Chynlluniau Datblygu Lleol ar y Cyd (LDP) a Chynllun Datblygu Strategol Rhanbarthol (SDP).

 

Ynghylch Cynlluniau Datblygu Lleol ar y Cyd, roedd y llythyr yn gwahodd i’r Cyngor roi ystyriaeth ddifrifol at baratoi cynllun ar y cyd gyda RhCT a Caerffili.  Roedd y rhesymau tu ôl y gofyn hwn yn bennaf yn gysylltiedig â chyfleoedd adnoddau gwell, mwy o weithredu a chyfundrefn gynllunio mwy gyfunedig er nad oes tystiolaeth wedi’i chyflwyno i gefnogi’r farn hon.

 

Ychwanegodd fod y llythyr yngl?n â’r SDP yn debyg yn gwahodd i awdurdodau cynllunio lleol baratoi cynllunio strategol  ar gyfer y 3 ôl-troed rhanbarthol,  a fyddai’n, yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, ymgyfuno â Dinas-Ranbarth Caerdydd.  Byddai’r SDP ar lefel ar wahân ar gynllun datblygu a fydd yn sefyll uwchben y LDP.  Byddai’r SDP, wedi’i osod, yn caniatáu LDPs ‘mewn drafft’ i gael eu cynhyrchu.

 

Roedd yr Ysgrifennydd wedi gofyn am ymatebion cadarnhaol i’r gwahoddiad gael eu cyflwyno erbyn 28 Chwefror 2018.  Ni fydd Llywodraeth Cymru (WG), tan bryd hynny, yn cytuno i unrhyw gynllun unigol yn cael ei symud ymlaen.  Mae gan y WG b?er i gyfarwyddo Awdurdodau Cynllunio Lleol (LPAs) i gynhyrchu cynlluniau datblygu gan gynnwys cynlluniau ar y cyd.

 

Mae Pen-y-bont ar Ogwr wastad wedi cael sylw cyson i’w cynlluniau datblygu a mae rhain wedi bod yn llwyddiannus yn cyflawni twf. 

 

Roedd derbyn y llythyrau hyn yn weddol annisgwyl.  Gwelir, yng nghynnwys y llythyrau, goblygiadau cyrhaeddbell ar gyfer y LPAs o ran cynhyrchu cynlluniau datblygu yn awtonomaidd, a byddai’n ymddengys i ymwahanu oddi wrth gyfeirio at deithio ar gyfer datblygu fel a drafodir gyda swyddogion WG tan bryd hynny. 

 

Cynghorodd y Rheolwr Datblygu Gr?p fod elfen o gytuno gyda phwyntiau’r Ysgrifennydd yn y llythyrau, e.e. byddai’n well i’r system gynllunio gyflwyno gweledigaeth strategol a defnydd tir lleol ar gyfer y rhanbarth a’r Bwrdeistref Sirol, ac i sicrhau bod y datblygu iawn yn cael ei wneud yn y lle iawn.  Serch hynny, mae pryder yngl?n â dull LDP ar y cyd a drafodir yn fanwl yn yr adroddiad a’r atodiadau atodedig. 

 

Awgryma’r llythyrau na fyddai LPAs yn gallu symud ymlaen gyda’u LDP eu hunain tan fod y llythyrau yn arwain at oblygiadau sylweddol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr gan ystyried y rheidrwydd i ddechrau gwaith yn syth ar Adolygiad o’i LDP a fydd yn dod i ben yn 2021.  Mae perygl na fyddai cynllun ar y cyd yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad hwn yn arwain i ‘gwactod polisi’.  Mae cynllun datblygu cyfredol yn bwysig ar gyfer arwain datblygu cynaliadwy ac i hyrwyddo cyfleoedd buddsoddi ac atal datblygu anaddas rhag ddigwydd.

 

O ran yr adroddiad, ystyrir yr opsiynau canlynol:-

 

1.         Paratoi SDP yn unig heb unrhyw adolygiadau unigol o’n LDP cyfredol tan fod y SDP yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 131.

132.

Newid arfaethedig i ffin y Byrddau Iechyd – Ymgynghoriad: Gweithio’n Effeithiol mewn Partneriaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad yn:-

 

·         Hysbysu’r Cyngor am weithio ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) a sut mae hwn wedi helpu llunio gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol;

·         Sicrhau bod Aelodau Etholedig yn ymwybodol o oblygiadau Bwrdd Iechyd ABMU ym Mhen-y-bont yn symud i’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; a

·         Ceisio caniatâd y Cyngor am ymateb ffurfiol y BCBC i Lywodraeth Cymru am y ddogfen ymgynghori, ‘Gweithio’n Effeithiol mewn Partneriaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yngl?n â’r newid arfaethedig i ffin y byrddau iechyd yn gosod y broses o wneud penderfyniadau ar draws gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol’.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i’r adroddiad gan y Prif Weithredwr, ac ar ôl crynhoi rhai gwybodaeth gefndirol, cynghorodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ymgynghoriad ar ddiwedd llynedd fel a amlinellir ym mhwynt bwled 3 uchod, a gaewyd ar 7 Mawrth 2019, a atodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. 

 

Cadarnhaodd fod y newid arfaethedig i ffin y byrddau iechyd a osodir yn y ymgynghoriad wedi’i ddatblygu, yn dilyn ymatebion i’r Papur Gwyn ‘Diwygio Llywodraeth Leol – Cadernid ac Adnewyddiad’. 

 

Esboniodd fod yr ymgynghoriad hwn wedi gofyn am farnau ar gynnig ynghylch trosglwyddo gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn lle ABMU, er mwyn gosod y broses o wneud penderfyniadau ar draws gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod angen i wasanaethau cyhoeddus allu weithio gyda’n gilydd yn effeithiol er mwyn cwrdd ag anghenion a disgwyliadau pobl ac i ddiogelu’r canlyniadau gorau ar gyfer pobl yn lleol, rhanbarthol ac yng Nghymru.  Er ni ddylai ffiniau fod yn rhwystr at gyflwyno’r canlyniadau sydd angen gan Cymru, gallai cymhlethdod diangen, yn enwedig o ran gwneud penderfyniadau, wneud hyn yn fwy anodd a chyfyngu ar gyfleoedd i wasanaethu’r cyhoedd yn well.

 

Cadarnhaodd wedyn mai bwriad  y newid arfaethedig oedd i ddarparu eglurder a chysondeb ar gyfer arweiniad a phartneriaeth mwy effeithiol; yn cefnogi uchelgeisiau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’u partneriaid strategol yn cwrdd ag anghenion ein cymunedau. 

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau y byddai Aelodau yn derbyn cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yng nghyfarfod nesaf y Cyngor, ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, yn esbonio sut maent yn gweithio ac integreiddio gydag awdurdodau lleol.  Credodd fod hyn yn bwysig i gael rhyw synnwyr oddi wrthynt o ran beth maent yn gweld yn bwysig o ran gweithio yn gydweithredol.

 

Hysbysodd i’r Aelodau yn bellach y byddai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn rhoi cyflwyniad byr i’n hysbysu yn well ein hymateb i’r ymgynghoriad; yn rhoi syniad am beth yr ydym yn gweld yn bwysig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac i sicrhau bod ein hymateb i’r ymgynghoriad yn wybodus. 

 

Rhoddwyd cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, gyda’r prif bwyslais ar atgrynhoi’r elfen gyd-destun gofal cymdeithasol; yn canolbwyntio ar y prif ardaloedd o integreiddio ar hyn o bryd gyda’r ABMU, ac i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 132.

133.

Cynllun Corfforaethol 2018-2022 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, yn gofyn am gymeradwyaeth Cyngor ar gyfer Cynllun Corfforaethol 2018-2022, a ddangosir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Hysbysodd fod y Cynllun Corfforaethol arfaethedig yn gosod blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y cyfnod a sonnir uchod, ac  yn diffinio ymrwymiadau’r Cyngor ar gyfer 2018-2019.

 

Cyfeiriodd at baragraff 4.3 a gadarnhaodd fod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol y Cyngor wedi ystyried y cynllun drafft yn Ionawr 2018, a gwneud nifer o sylwadau adeiladol ac yn awgrymu newidiadau i’w cynnwys yn y cynllun.  Casglwyd rhain, a ble bynnag y bo modd, gwnaethpwyd newidiadau i’r Cynllun, a dangoswyd esiamplau o’r rhain mewn ffurf pwynt bwled yn adran hon yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai’r Cynllun yn cael ei gefnogi gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS), Cynlluniau Busnes y Gyfarwyddiaeth a Chynlluniau Gwasanaeth.  Ychwanegodd y byddai blaenoriaethau ac ymrwymiadau’r Cynllun yn cael eu hadolygu yn flynyddol, yn ystyried amgylchiadau newidiol ac unrhyw gynnydd a wneid, ac i sicrhau bod gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu cwrdd.

 

Cyfeiriodd wedyn at baragraff 4.9 yn yr adroddiad a’r tair ‘Blaenoriaethau’r Cynllun’ rhestredig, yn pwysleisio er nad yw rhain yn agored i’w newid (ond yn agored i’w adolygu),  roedd ymrwymiadau’r Cynllun yn agored i’w newid, fel rheol yn flynyddol.  Cafodd ‘Blaenoriaethau’r Cynllun’ gefnogaeth etholwyr y Bwrdeistref Sirol yn dilyn ymarfer ymgynghori a ddigwyddwyd yn 2017, yn gysylltiedig â dau ddarn o ddeddfwriaeth wahanol a drafodir uchod. 

 

Cyfeiriodd un aelod at dudalen 97 ‘Y Cynllun a’r Nod’ – i greu canolau trefi llwyddiannus.  Gofynnodd sut y gallai’r nod hwn gael ei gyflawni os oedd cynnig yn rhan o’r MTFS, i gau toiledau cyhoeddus a lleihau rhai gwasanaethau bysiau i ganolau trefi ac ardaloedd eraill. 

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio wrth ddweud nad oedd unrhywbeth wedi cael ei benderfynu yn iawn eto yngl?n â’r dau gynnig uchod gan fod y broses ymgynghori ar gyfer y ddau yn digwydd ar hyn o bryd. 

 

Cyfeiriodd un aelod at dudalen 102 yn yr adroddiad a’r ddata cymharol o ran y nifer o eiddo gwag yn y 4 canol tref sy’n rhan o Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cwestiynu cywirdeb y ddata hon. 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod y darged ar gyfer 2016-17 a 2017-18 wedi bod yr un peth, ond pan dderbyniwyd a chasglwyd y ddata wirioneddol, roedd y cyfansymiau i gyd yn wahanol, yn benodol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl.  Hysbysodd i’r Cyngor y byddai’n syniad i’r ffigyrau wirioneddol gael eu cadw o’r flwyddyn gynt, yn y dyfodol, ar gyfer trosglwyddo’r balans i’r flwyddyn i ddod. 

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Cymunedau eisiau sôn bod y golwg i leihau’r nifer o wasanaethau bysiau nad yw’n benderfyniad a lywodraethir gan y Cyngor ynddo’i hun.  Byddai’r Awdurdod yn ymgynghori am gymorthdaliadau gwasanaethau bysiau.  Gorffennodd drwy ddweud y byddai’r cwmnïau a ddarperir gwasanaethau bysiau yn y bôn yn gwneud penderfyniadau am ddarpariaeth dyfodol y gwasanaethau hyn. 

 

WEDI’I DATRYS:       Cymeradwywyd a mabwysiadwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 133.

134.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 a Threth Cyngor 2018-19 pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Swyddog S151 dros dro adroddiad ar y cyd, yn gofyn am gymeradwyaeth Cyngor ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22, yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2018-22, cyllideb refeniw ar gyfer 2018-19, a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2027-28.

 

Atodwyd y dogfennau canlynol i’r adroddiad:-

 

·         Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer y cyfnod a sonnir uchod

·         Atodiad A – Pwysau Cyllidol 2018-19

·         Atodiad B – Cynigion Gostyngiadau Cyllideb 2018-19 i 2021-22

·         Atodiad C – Ffioedd a Thaliadau 2018-19

·         Atodiad D – Cyllideb yn ôl Dosbarthiad Gwasanaeth Ardal

·         Atodiad E – Cyllidebau Cyfarwyddol Cyffredin yn ôl Blaenoriaeth Corfforaethol

·         Atodiad F – Balansau a Chronfeydd

·         Atodiad G – Rhaglen Gyfalaf MTFS 2017-2028

·         Atodiad H – Strategaeth Reoli’r Drysorfa

·         Atodiad I – MTFS EIA 2018-19

·         Rhestr A – Ymateb y Cabinet i argymhellion Sgriwtini

·         Rhestr B – Asesiad Risg Corfforaethol

·         Rhestr C – Treth Cyngor 2018-19

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid dros dro grynodeb o’r adroddiad a’r atodiadau uchod er budd yr Aelodau, gan dynnu’r pwyntiau amlycaf o bob un rhan/adran.

 

Rhoddodd yr Arweinydd araith gyflwyno wedyn am y Gyllideb. 

Rhoddodd ddiolch i’r Dirprwy Arweinydd, y tîm Rheoli Uwch a’r Aelodau i gyd ar gyfer datblygu’r cynigion.  Cynghorodd fod Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithio yn wahanol i Gynghorau eraill ers nifer o flynyddoedd.  Roedd Aelodau Meinciau Cefn o bleidiau gwleidyddol a grwpiau gwahanol, ers nifer o flynyddoedd, wedi ymgymryd â’r prif rôl yn datblygu’r gyllideb.  Nid oedd eleni wedi bod yn wahanol, a rhoddodd ddiolch i Aelodau’r Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb (BREP), am ddadansoddi’r cynigion a gofyn cwestiynau a oedd yn anodd i’w hateb ar adegau, a herio popeth a ystyriwyd ganddynt.  Roedd y broses o osod cyllideb a ddechreuodd yr haf diwethaf wedi bod yn adeiladol, cynhwysfawr a gonest, a rhoddodd ddiolch i’r Aelodau o bob gr?p gwleidyddol am gymryd rhan a’u cyfraniadau. 

 

Roedd y Gyllideb yn her sylfaenol a fu rhaid i awdurdodau lleol wynebu bob blwyddyn, ac un sy’n dod yn anoddach bob blwyddyn, yn enwedig gyda darbodaeth ac ers dechrau’r dirwasgiad.  Serch hynny, dyna oedd yr un her a wynebwyd bob awdurdod lleol Cymru. 

 

Roedd pob Cyngor yng Nghymru wedi cynyddu ei Dreth Cyngor, ni waeth beth pa blaid wleidyddol oedd yn dal p?er yn yr awdurdod penodol hwnnw, gyda’r cynnydd mwyaf o 12.5% yn Sir Benfro. 

 

Nid oedd unrhyw awdurdod wedi cynnig cynyddu Treth Cyngor allan o ddewis.  Roedd codiadau o’r fath yn cael eu gwneud gan nad oedd dewis arall cynaliadwy realistig.  Roedd BCBC eisoes wedi arbed £35m a bydd angen iddynt arbed £32m ychwanegol yn y blynyddoedd i ddod.  Roedd 490 o bobl wedi cael ei diswyddo yn y Cyngor dros gyfnod o 4 mlynedd.  Roedd y Cyngor yn fwy effeithiol nawr nag erioed ond byddai rhaid parhau i wneud toriadau i wasanaethau gwerthfawr o bwys i etholwyr a dyna oedd realiti y sefyllfa. 

 

Roedd ond un ffordd realistig o weithredu ar gael i awdurdod lleol sef i gynyddu Treth Cyngor er mwyn ennill digon o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 134.

135.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

136.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 31/1/18

 

Cofnodion:

WEDI’I DATRYS:       Cymeradwywyd Cofnodion Eithriedig cyfarfod y Cyngor dyddiedig 31 Ionawr 2018 fel rhai cywir.

137.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiad sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12, 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. 

 

 

Cofnodion:

WEDI’I DATRYS:       Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn ystyried yr eitemau busnes ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym Mharagraff 12, 14 a 16 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodiad 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 a ddiwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

138.

Newidiadau Arfaethedig i Strwythur Rheoli JNC