Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 28ain Mawrth, 2018 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Ellams  Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

139.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganwyd y Buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd JC Spanswick fuddiant niweidiol yn eitem agenda 12 – Datganiad ar y Polisi Cyflog  2018-19 gan fod aelodau o’i deulu yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod a gadawodd y cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem hon.

 

Datganodd y Cynghorydd DBF White fuddiant niweidiol yn eitem agenda 12 – Datganiad ar y Polisi Cyflog  2018-19 gan fod ei wraig yn cael ei chyflogi gan yr awdurdod a gadawodd y cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem hon.  Hefyd datganodd y Cynghorydd White fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd bod ei ferch yn cael ei chyflogi gan yr awdurdod.     

 

Datganodd y Cynghorydd PJ White fuddiant niweidiol yn eitem agenda 12 – Datganiad ar y Polisi Cyflog  2018-19 gan fod ei chwaer yn cael ei chyflogi gan yr awdurdod a gadawodd y cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem hon.

 

Datganodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Cymorth Teuluol, Pennaeth Cyllid Dros Dro, Rheolwr Gr?p Cyfreithiol ac Arweinydd Tîm - 

Gwasanaethau Cymdogaethau fuddiant yn eitem agenda 12 –Datganiad ar y Polisi Cyflog 2018-19 ac aethant o’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o’r eitem hon.      

140.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 143 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  28/02/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyo cofnodion y Cyngor ar 28 Chwefror 2018 fel rhai gwir a chywir.    

141.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Dywedodd y Maer wrth y Cyngor am yr achlysuron roedd hi wedi’u bod yn bresennol ynddynt yn ystod y mis diwethaf, gan gynnwys taith o gwmpas Ysgol Heronsbridge, mynd i’r Dyfarniadau Rhagoriaeth mewn Adeiladu a dathliadau pen blwydd 100 oed 3 preswylydd yn y Cyngor Bwrdeistref.  Roedd y Maer hefyd wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Cefn Cribwr ac roeddent wedi bod mewn parti cinio ar gyfer Penaethiaid Dinesig a gynhaliwyd gan Arglwydd Faer Abertawe.  Roedd y Maer hefyd yn falch o fod wedi cyflwyno dyfarniadau i unigolion a grwpiau yn y Dyfarniadau Dinasyddiaeth Blynyddol ac roedd hefyd wedi bod yn bresennol yng Ngwasanaeth Coffa Sul y Blodau yn Amlosgfa Margam.  Hefyd bu’r Maer yn bresennol mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Ganolfan Cynghori ar Bopeth ynghyd â’r Arweinydd, Aelodau Cabinet a Huw Irranca Davies AC. 

 

Dirprwy Arweinydd        

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor am y trefniadau diwygiedig ar gyfer casgliadau ailgylchu a gwastraff dros benwythnos y Pasg i ddod.  Hefyd dywedodd wrth yr Aelodau am rai o’r canlyniadau o gyfarfod diweddar y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, hynny y byddai adolygiad o'r system atgyfeirio Aelodau.  Yn ogystal, tynnodd sylw’r Aelodau at y gofyniad iddynt gwblhau modiwlau E-ddysgu erbyn 1 Mehefin ac am yr hyfforddiant i ddod gyda'r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau; sesiynau Datblygu Aelodau a briffiadau cyn y Cyngor. 

 

Aelod Cabinet Cymunedau       

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ei fod wedi bod yn bresennol yn y Dyfarniad Rhagoriaeth mewn Adeiladu diweddar a drefnwyd gan y Tîm Rheoli Adeiladu.  Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau y byddai’r Cyngor yn recriwtio cyn bo hir i nifer o swyddi ar gyfer Patrolau Croesi Ysgolion lle y mae swyddi gwag. 

 

Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y cyngor wedi dathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd trwy wahodd pobl i ddysgu rhagor am y rôl y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei chwarae yn y gymuned.  Hefyd gosodwyd arddangosfa yng nghyntedd y Swyddfeydd Dinesig a rhannodd rai o linellau cerdd a ysgrifennwyd yn ddienw gan weithiwr cymdeithasol. 

 

Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol wrth y Cyngor ei bod yn falch o weld bod Gemma Hartnoll yn derbyn Dyfarniad Dinasyddiaeth y Maer am ei menter WINGS Cymru, oedd yn treialu cynnig cynhyrchion mislif ar draws 14 ysgol yn y Bwrdeistref Sirol. 

 

Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio   

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y Cyngor wedi ymuno â'r gr?p CF31 BID er mwyn sicrhau y byddai parcio ceir am ddim yn parhau yn y Rhiw a gâi ei adolygu eto ym mis Ionawr 2019.  Yn ogystal, rhannodd gyda’r Aelodau gyflawniadau diweddar Leanne Rees Sheppard o Ysgol Gynradd Tremains wrth gyrraedd rownd derfynol Cogydd Ysgol y Flwyddyn 2018 ac Ysgolion Cyfun Porthcawl a Bryntirion lle roedd mwy na 100 o ddisgyblion chweched dosbarth wedi gwneud rhoddion i Wasanaeth Gwaed Cymru.  Dywedodd wrth Aelodau fod Ysgol Gynradd Litchard wedi derbyn sgôr ‘da’ drwyddi draw gan Estyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 141.

142.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweiniad wrth y Cyngor fod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol yn ceisio barn ar ad-drefnu llywodraeth leol.  Mae’r Papur Gwyrdd yn gosod cynnig i leihau Cynghorau o 22 i 10, gyda Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tydfil yn cael eu cyfuno i awdurdod sengl.  Dywedodd Aelodau, ar yr un pryd, bod y Cyngor yn aros am benderfyniad ar newidiadau i ffiniau'r bwrdd iechyd, a fyddai'n golygu bod y Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud i’r ABMU i Gwm Taf. 

 

Hefyd, dywedodd yr Aelodau fod y Cyngor wedi cael ei ddiolch gan Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru am ei gyfranogiad yn y Cynllun Ailsefydlu sy'n Agored i Niwed.  Dywedodd fod yr CLlLC wedi gofyn faint o ffoaduriaid eraill mae'r Cyngor yn rhagweld y bydd yn gallu ailsefydlu yn y flwyddyn ariannol i ddod ac am weddill y rhaglen ailsefydlu a fydd yn ymestyn i 2020. Roedd yr Arweinydd wedi ymateb i’r CLlLC trwy ddweud y bydd ailsefydlu pellach yn amodol ar argaeledd tai a chapasiti ysgolion.  Roedd hefyd wedi egluro i’r CLlLC fod y Cyngor yn rhagweld gallu cynnig llety i bum teulu arall yn ystod gweddill y rhaglen ond nid oedd yn gallu cadarnhau union nifer y ffoaduriaid oherwydd byddai hyn yn dibynnu ar faint y teuluoedd.       

143.

Newid Arfaethedig i Ffiniau’r Bwrdd Iechyd

Mae’reitem hon yn ddilynol i’r adroddiad a chyflwynwyd i’r Cyngor ym mis Chwefror Proposed Health Board Boundary Change – Consultation: Effective Partnership Working in Bridgend oddi wrth Cadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Allison Williams, y Prif Weithredwr a’r Athro Marcus Longley, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i annerch y Cyngor ar y Newid Arfaethedig i Ffiniau’r Bwrdd Iechyd. 

 

Esboniodd Prif Weithredwr Cwm Taf i’r Cyngor ei bod yn y swydd ers 7 mlynedd.  Dywedodd fod Pen-y-Bont ar Ogwr wedi elwa’n fawr ar fod yn rhan o’r ABMU a’i fod wedi bod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau i’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.  Dywedodd wrth y Cyngor ei bod yn ddiolchgar am y trafodaethau cynnar a gynhaliwyd gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles cyn i benderfyniad gael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y newid arfaethedig i ffiniau’r Bwrdd Iechyd. 

 

Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf wrth y Cyngor fod Cwm Taf wedi arwain ar wasanaethau iechyd meddwl i bobl h?n a gofal dementia.  Dywedodd nad yw Cwm Taf eisiau ansefydlogi gwasanaethau a byddai unrhyw newidiadau i wasanaethau clinigol yn destun ymgynghoriad.  Sicrhaodd i Aelodau fod buddion sylweddol i gleifion yn parhau i dderbyn triniaeth gan yr ysbytai lle y maent yn derbyn y driniaeth honno ar hyn o bryd.  Dywedodd fod Cwm Taf yn cymryd yr awenau mewn academi delweddu, i hyfforddi radiolegwyr y dyfodol ac y byddai’n agor cyfleuster newydd ym Mhencoed ar ddiwedd mis Ebrill. 

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor a fyddai gan Gwm Taf ymrwymiad i gynnal Ysbyty Gymunedol Maesteg.  Sicrhaodd Prif Weithredwr Cwm Taf y Cyngor, yn ystod ei hamser yn y swydd, roedd Cwm Taf wedi adeiladu 2 ysbyty cymunedol ac wedi datblygu 2 barc iechyd cymunedol a rhoddodd ymrwymiad i wasanaethau iechyd cymunedol yn parhau.

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor a fyddai preswylwyr, lle y bo’n bosibl yn derbyn gwasanaethau o Ysbyty Treforys neu UHW yng Nghaerdydd yn dibynnu ar ble maent yn byw yn ogystal â gwasanaethau yn cael eu darparu gan Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl.  Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf y byddai cleifion sydd angen gofal trydyddol yn mynd naill ai i Ysbyty Treforys neu UHW.  Roedd yn rhagweld y tri ysbyty sef Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg a Ysbyty’r Tywysog Siarl yn gweithio gyda’i gilydd—maen nhw i gyd o faint tebyg, ond byddai hyblygrwydd o ran staffio’r ysbytai hynny yn dilyn newid i ffin y bwrdd iechyd.  Dywedodd fod cryfderau ac arbenigeddau penodol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg a fyddai o fydd i'r rhanbarth poblogaeth ehangach.  Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf wrth y Cyngor fod newid yn ffin y bwrdd iechyd hefyd yn achosi cyfleoedd gwahanol. 

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor ei fod wedi cyfarfod yn ddiweddar ag Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a oedd yn hyderus y cyrhaeddid penderfyniad yn fuan gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y newid arfaethedig i ffin y bwrdd iechyd.  Wedyn byddai angen ffurfio cynllun ar y cyd ar gyfer y bwrdd iechyd diwygiedig. 

 

Sicrhaodd y Prif Weithredwr i Aelodau mai dyma’r unig newid posibl i ffiniau’r bwrdd iechyd sydd dan ystyriaeth ac nid yw'n gysylltiedig â’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 143.

144.

Gostyngiad ar y Dreth Gyngor i’r rhai sy’n Gadael Gofal pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Ceisiodd Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 gymeradwyaeth ar gyfer y meini prawf arfaethedig dros weithredu Gostyngiad i bobl sy’n gadael gofal.

 

Dywedodd fod adroddiad yn 2015 gan Gymdeithas y Plant yn awgrymu bod pobl sy'n gadael gofal yn gr?p arbennig o agored i niwed ar gyfer dyledion y dreth gyngor a phan fydd y bobl sy’n gadael gofal yn symud i mewn i lety annibynnol ac yn dechrau rheoli eu cyllideb eu hun am y tro cyntaf, maent yn ei gael yn heriol, yn enwedig os byddant yn syrthio ar ei hôl hi gyda'r dreth gyngor.  Cafodd nifer o argymhellion eu gwneud gan Gymdeithas y Plant, gan gynnwys sicrhau bod pobl sy’n gadael gofal yn cymwys ar gyfer gostyngiad ar y dreth gyngor. 

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog 151 fod gan y Cyngor y p?er i leihau atebolrwydd i’r dreth gyngor mewn perthynas ag achosion unigol neu ddosbarth(iadau) achosion y bydd yn eu pennu o bosibl.  Dywedodd nad oedd unrhyw eithriad ar gyfer pobl sy’n gadael gofal mewn deddfwriaeth Treth Gyngor ar hyn o bryd felly yr unig fodd o gyflawni eithriad oedd rhoi gostyngiad dewisol o dan y ddeddfwriaeth. 

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid dros dro a'r Swyddog Adran 151 ar gynnig i roi gostyngiad i bob un sy’n gadael gofal sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hyd at 25 oed fel y’i diffinnir gan ddiffiniad rhywun sy’n gadael gofal yn Neddf Plant (Sy’n gadael gofal) 2000 ac y dylai fod yn gymwys o 1 Ebrill 2018. 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth gymeradwyo’r cynnig, ei fod yn ymrwymiad cymharol fach i’r awdurdod ei wneud, ond byddai’r effaith ar bobl sy’n gadael gofal yn enfawr.              

 

Dywedodd yr Arweinydd, wrth ymateb i gwestiwn gan aelod y Cyngor o ran sut y byddai’r cynnig yn ffitio i mewn gyda'r flaenoriaeth gorfforaethol, sef helpu pobl i fod yn fwy hunan-ddibynnol, fod pobl sy'n gadael gofal yn wynebu rhwystrau sylweddol ac yn ei gael yn heriol rheoli eu cyllideb eu hunain am y tro cyntaf.  

 

PENDERFYNWYD:           Y byddai’r Cyngor yn:

 

(1)              cymeradwyo’r meini prawf a gynigiwyd ar gyfer gweithredu'r Gostyngiad i bobl sy’n gadael gofal fel y nodwyd yn Atodiad A yr adrodd, gan ei gymhwyso i bobl sy’n gadael gofal hyd ar 25 oed;

 dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Cyllid i benderfynu ar geisiadau dilys sy'n dod i law sy'n bodloni'r meini prawf yn Atodiad A yr adroddiad.     

145.

Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd – Cynllun Busnes y Cytundeb Gweithio ar y Cyd pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau Gynllun Busnes y Cytundeb Gweithio ar y Cyd (JWA) a gafodd ei argymell gan Gabinet Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a cheisiodd ei fabwysiadu fel y “Cynllun Busnes JWA” ffurfiol. 

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai’r Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd yn mynd i’r afael â’r Amlen Fforddiadwyedd a ddiweddarwyd, y fethodoleg ar gyfer cytuno ar natur, cwmpas a blaenoriaeth projectau i’w datblygu er budd cyffredinol Prifddinas-ranbarth Caerdydd, methodoleg a chyfrifoldeb dros unrhyw archwiliadau allanol, a monitro perfformiad ac adroddiadau monitro cyfalaf a refeniw i’w paratoi gan y Cydbwyllgor, a pha mor aml y gwneir yr adroddiadau hyn.  Dywedodd y cyfeirid at y Cynllun Busnes JWA Drafft fel y Cynllun Busnes Strategol CCR ar gyfer y Gronfa Buddsoddi Ehangach er mwyn adlewyrchu ei statws a’i ffocws.    

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y cyd-destun strategol a blaenoriaethau gofodol y Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd drafft, a nododd y cyfleoedd oedd yn codi o fewn cyfnod y cynllun.  Eglurodd fod y cytundeb â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi darparu £1.2 biliwn, ac roedd £734m ohono wedi’i neilltuo i’r Metro, a rhoddwyd y £495m a oedd yn weddill i’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach.  Roedd y Cabinet Rhanbarthol wedi nodi bod uchelgeisiau uchel y Gronfa Fuddsoddi Ehangach wedi arwain at 25,000 o swyddi newydd a £4bn o fuddsoddiad sector preifat.  Cafodd y buddsoddiad cyntaf ei wneud yn y Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd drwy roi benthyciad o £38.5m gyda’r posibilrwydd o greu 2,000 o swyddi a thros £380m o fuddsoddiad sector preifat.  Eglurodd fod y Cabinet Rhanbarthol, yn dilyn y buddsoddiad cychwynnol hwn, wedi cytuno mewn egwyddor i gefnogi Project Metro Canolog, Cronfa Buddsoddi Tai Rhanbarthol, Strategaeth Ddigidol a Sgiliau ar gyfer y Dyfodol.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151 fod y cyfraniad y Cyngor i’r CCRD yn £11.328 miliwn (9.4% o ofyniad cyllid cyfalaf Partneriaeth yr Awdurdod Lleol cyffredinol) a bod pwysau cyllideb cylchol o £598,000 yn cael ei gynnwys o fewn MTFS yn 2017-18 i ariannu cyfraniad y Cyngor.  Roedd hyn y seiliedig ar y proffil ariannu ar yr adeg honno.  Esboniodd, oherwydd newid yn y proffil ariannu, roedd gofyn i’r Cyngor dalu tua £2,299,950 cyn diwedd blwyddyn ariannol 2017-18. Byddai hyn yn lleihau'r taliadau yn hwyrach a bydd angen ail-broffilio'r cyllido o fewn y rhaglen gyfalaf, ond o fewn yr un amlen rhaglen gyffredinol.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith ar argaeledd cyllid cyfalaf, cynigiwyd y dylid talu gweddill y cyllid a oedd yn ofynnol uwchben y gyllideb o £598,000 a oedd ar gael (£1,701,950) o’r tanwariant o fewn cyllidebau eraill ledled y Cyngor, a fyddai’n gofyn am hawl trosglwyddo arian o’r gyllideb hon i gyllideb Cyfarwyddiaeth y Cymunedau y caiff y taliad ei wneud ohoni a chyllid ar gyfer y cynllun o fewn y rhaglen cyfalaf.

 

Anerchodd y Cynghorydd Andrew  Morgan, sef Cadeirydd Bargen Dinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd y Cyngor a mynegodd ei ddiolchiadau i Arweinydd a Phrif Weithredwr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 145.

Motion Vote Type
TeitlMathMotion Vote Type textResult
City Deal Resolution Carried
  • View Motion Vote Type for this item
  • 146.

    Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Lles pdf eicon PDF 104 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Gwahoddodd yr Arweinydd Andrew Davies, Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflwyno ei Gynllun Lles i’w gymeradwyo 

     

    Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth y Cyngor fod y Bwrdd wedi datblygu pedwar amcan lles gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbyniwyd gan bartneriaid a derbyn adborth gan ddinasyddion, sef;

    • Y Dechrau Gorau mewn Bywyd;
    • Cefnogi Cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod yn Ddiogel ac yn Gydlynol;
    • Lleihau Mentrau Cymdeithasol ac Economaidd
    • Dewisiadau Iach mewn Amgylchedd Iach  

     

    Bu’r Cynllun Lles drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, a derbyniwyd 329 o ymatebion.  Cafodd adborth ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymgynghoriad a nododd un mater sylweddol, sef bod angen i'r cynllun fod yn fwy eglur o ran sut y bydd y camau arfaethedig yn mwyhau'r cyfraniad i'r nodau lles cenedlaethol.  Roedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi rhoi adborth manwl a bwysleisiodd pwysigrwydd dangos sut mae’r PSB wedi ystyried pob un o’r pum ffordd o weithio mewn perthynas â phob amcan.  Hefyd, roedd y Comisiynydd wedi rhoi cyngor ar sut y gallai’r PSB gymryd camau o bosibl i ateb yr amcanion gan gynnwys cysylltiadau ag ymchwil ac astudiaethau eraill.  Hefyd, mae swyddfa’r Comisiynydd wedi dweud y bydd yn edrych ar sut y gall amcanion cyrff cyhoeddus unigol gyfrannu at gyflwyno’r cynllun lles.

     

    Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fod rhaid i bob un o aelodau statudol y PSB gytuno ar y Cynllun Lles, y mae'n rhaid ei gyhoeddi erbyn 4 Mai 2018.  Talodd teyrnged i'r awdurdod a'r Prif Weithredwr a'r staff am y ffordd y mae'n gweithredu'r PSB.  Dywedodd, er y caiff y Cynllun ei gyfyngu gan ddeddfwriaeth, sylwodd ar bwysigrwydd y PSB yn destun craffu.

     

    Diolchodd yr Arweinydd i Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am ei ymrwymiad personol i'r PSB a chofnododd ei ddiolchiadau i Mr Davies fel rhan o Fwrdd Iechyd ABMU.

     

    PENDERFYNWYD:           Bod y Cyngor yn Cymeradwyo Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.           

    147.

    Adolygiad o Broses Adroddiadau Blynyddol i Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 69 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Adroddodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol ar argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i ddiweddaru’r adroddiadau i Aelodau Etholedig a’r broses adrodd gysylltiedig.  Hefyd ceisiodd gymeradwyaeth ar y broses i’w ddefnyddio ar gyfer Adroddiadau Blynyddol i Aelodau Etholedig  fel y'i argymhellwyd ar gyfer pob Aelod.

     

    Adroddodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol fod y Mesur Llywodraeth (Cymru) 2011 am wneud trefniadau i bob Aelod Etholedig wneud a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar eu gweithgareddau.  Dywedodd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr 2018 wedi cael gwybod am y broses ddiwygiedig ar gyfer Adroddiadau Blynyddol, a adlewyrchodd newidiadau i’r wybodaeth am Aelodau Etholedig sydd ar gael ar hyn o bryd ar wefan y Cyngor, gweithredu Safonau’r Iaith Gymraeg a lleihau'r adnoddau i greu, gweinyddu a chyhoeddi Adroddiadau Blynyddol yn Gymraeg a Saesneg.

     

    Cwestiynodd aelod o’r Cyngor a oes proses adolygu ar waith i sicrhau bod y cyfieithiad o'r adroddiad Blynyddol a ddychwelir gan y cyfieithydd yn gywir ac yn ddiduedd.  Dywedodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol fod fframwaith ar waith a bod rhaid i gyfieithwyr gael eu hachredu cyn y gallant gael eu derbyn i'r fframwaith gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.  

     

    PENDERFYNWYD:           Y byddai’r Cyngor yn:

     

    (1)          cymeradwyo’r diwygiad i broses yr Adroddiad Blynyddol a’r amserlen cyhoeddi arfaethedig ar gyfer Adroddiadau Blynyddol

     

    nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi dynodi'r hyfforddiant i Aelodau Etholedig fel “argymhellwyd ar gyfer pob Aelod”.                 

    148.

    Adolygiad o’r Broses Adolygiad Datblygiad Personol (PDR) pdf eicon PDF 96 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Adroddodd Arweinydd y Gr?p Cyfreithiol ar argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r cynigion i’r broses Adolygu Datblygiad Personol (PDR) fod ar gael i bob Aelod Etholedig.  Amlygodd elfennau allweddol y broses  PDR fel y’u nodwyd ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.  Bu’r broses PDR flaenorol yn destun adolygiad er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n addas i’r diben. 

     

    Adroddodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol fod 3 opsiwn ar gyfer templedi cyfweliadau wedi'u hystyried o'r blaen, ac ystyriwyd y Ddogfen Adolygu Datblygiad Personol gan y Cyngor yn 2013 fel yr un fwyaf addas i’w defnyddio.  Cafodd pob un o'r 3 ffurflen templed ei hadolygu er mwyn ei hail-hystyried i'w defnyddio yn y dyfodol yn y broses PDR.  Amlygodd y broses i’w cymryd er mwyn cyflwyno PDRau ac er mwyn hwyluso ei weithredu yn llwyddiannus, darperir sesiynau hyfforddi. 

     

    Amlygodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol y broses ar gyfer adnabod adolygwyr a'r amserlenni er mwyn cyrraedd y dyddiadau cau am gyflwyno Siarter y CLlLC, ei weithredu a chwblhau PDRau yn llwyddiannus ar gyfer Deiliaid Cyflogau Uwch. 

     

    PENDERFYNWYD:           Y byddai’r Cyngor yn:

     

    (1)          cymeradwyo gweithredu’r ddogfen Adolygiad Datblygiad Personol fel y cerbyd i symud y broses PDR ymlaen yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

    (2)          cymeradwy’r gweithgareddau a’r amserlen arfaethedig a ddangosir;

    nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi dynodi'r hyfforddiant i Aelodau Etholedig fel “argymhellwyd ar gyfer pob Aelod”.                  

    149.

    Datganiad Polisi Cyflog – 2018/19 pdf eicon PDF 51 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Adrodd Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol fod Deddf  Lleoliaeth 2011 yn gofyn i awdurdodau lleol gynhyrchu a chyhoeddi Datganiad o’r Polisi Cyflog a chyflwynodd y Datganiad o’r Polisi Cyflog wedi’i ddiweddaru i’r Cyngor ei ystyried ar gyfer y flwyddyn 2018/19. 

     

    Dywedodd fod y Datganiad ar y Polisi Cyflog yn cydymffurfio’n llwyr â'r Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae negodi yn mynd rhagddo ar fargen dwy flynedd gyda chyflogeion NJC, ond ni chawsant eu gorffen.  Dywedodd fod y polisi Colli Swyddi ac Adleoli wedi’i atodi i’r Datganiad ar y Polisi Cyflog yn ôl y gofyn. 

     

    Dywedodd yr Arweinydd y byddai hyn yn gyfarfod olaf y Cyngor lle y byddai Sarah Kingsbury, Pennaeth Adnoddau Dynol yn bresennol, cyn iddi hi ymddeol.  Cofnodwyd ei ddiolchiadau i Ms Kingsbury am roi arweiniad cryf yn ei rôl.   

     

    PENDERFYNWYD:           Cymeradwyodd y Cyngor y Datganiad a ddiweddarwyd ar y Polisi Cyflog.    

    150.

    I Dderbyn y Cwestiynau Dilynol i'r Cabinet: Cynghorydd A Hussain, Cynghorydd T Thomas a Cynghorydd M Voisey

    Cofnodion:

    Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio gan y Cynghorydd A Hussain

     

    Mae Heddlu De Cymru wedi galw am addysg iechyd meddwl well mewn ysgolion ar ôl cynnydd o ran pobl ifanc yn cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a chafodd hyn ei gefnogi gan Mind Cymru ac maen nhw eisiau i ysgolion wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl a chamu i'r adwy i helpu'r rhai sy'n cael problemau ynghynt.  

    A all yr Aelod Cabinet dros Addysg roi gwybod i'r Cyngor sut mae e’n mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn?

     

    Ymateb:

    Mae nifer o wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan BCBC sy’n ceisio gwella iechyd meddwl a lles plant.Mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau hyn yn canolbwyntio ar lefel Haen 1 ond mae rhai yn wasanaethau Haen 2.   Byddant yn cynnwys:

     

    Haen 1

       Ymyriadau yn yr ysgol (e.e. darparu magwraeth, addysg bersonol a chymdeithasol, Cyflawniad i Bawb, Thrive ac ELSA)

       Ymyriadau gwaith cymdeithasol (e.e. damcaniaeth ymlyniad, damcaniaeth ymddygiad gwybyddol a gwaith uniongyrchol gyda phlant)

       Cefnogaeth nyrs yr ysgol

       Gofal bugeiliol mewn ysgolion

       Gwaith gwrth-fwlio mewn ysgolion a chyda’r Tîm Cymorth Cynnar

       Dechrau’n Deg – cefnogaeth ychwanegol gan ymwelwyr Iechyd

       Iaith a chwarae, rhif a chwarae a sesiynau cymorth iaith a lleferydd Welcomm

       Cefnogaeth rhianta

       Cefnogaeth i ofalwyr ifanc

     

    Haen 2

        Mae un gweithiwr cymdeithasol CAMHS arbenigol (rhan amser) yn y Tîm Cymorth Cynnar

        Mae un therapydd chwarae arbenigol (rhan amser) yn y Tîm Cymorth Cynnar

        Cwnselwyr mewn ysgolion

        Cwnselwyr yn yr ysgol

        B2P (Adeiladu at Gynnydd) – darpariaeth addysgol i blant sydd â phroblemau iechyd meddwl

     

    Yn ogystal â’r gwasanaethau canolog hyn, mae’r ysgolion yn defnyddio ystod eang o ymagweddau ac arferion sydd â’r nod o gefnogi lles emosiynol a meddyliol ein plant.

     

    Darperir gwasanaethau i blant ar lefelau mwy acíwt gan ABMU.

     

    Gofynnodd y Cynghorydd Hussain gwestiwn ychwanegol o ran pan gaiff Swyddogion Lles eu cyflwyno i ysgolion.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chefnogaeth Deuluol fod nifer o fentrau ar waith a bod rhai ysgolion eisoes â Swyddogion Lles ar waith.

     

    Cwestiwn i’r Arweinydd gan y Cynghorydd Tim Thomas

     

    Tynnwyd y cwestiwn hwn yn ôl gan y Cynghorydd Thomas.

     

    Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau gan y Cynghorydd MC Voisey

     

    A all yr Aelod Cabinet ddweud pa faint o Gartrefi Amlfeddiannaeth
    (HMO) o bob maint sydd yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, a'u dosbarthiad yn ôl wardiau?"

     

    Ymateb:

     

    Prif Swyddogaeth SPG yw rhoi eglurder ar bolisi neu strategaeth penodol y cynllun datblygu.Nid oes unrhyw bolisi penodol yn CDLl Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas a HMO ac nid yw’r cynllun yn gwneud unrhyw ymrwymiad i gynhyrchu SPG HMO, yn wahanol, er enghraifft i Fannau Agored neu Ddylunio.Mae llunio SPG yn ddwys iawn o ran adnoddau ac mae’n cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, er enghraifft bu'r SPG mannau agored yn cael ei gynhyrchu ers tipyn ac ni ellir cymryd penderfyniad i gychwyn ar SPG ar chwarae bach.

     

    Hefyd,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 150.

    151.

    Hysbysiad o Gynnig gan y Cyng. Dr Altaf Hussain

    Hysbysiad o Gynnig gan y Cyng. Dr Altaf Hussain

     

     “Ystyried rhoi cynhyrchion mislif i ferched ysgol”

     

    Gwrthodir addysg i filiynau o blant ledled y byd.  Rydym yn ffodus yma yn y Deyrnas Unedig bod hawl gan bob plentyn i fynd i’r ysgol ond mae nifer cynyddol ohonynt yn wynebu methu’r ysgol bob mis am y rheswm syml na allant fforddio cynhyrchion mislifol. 

     

    Mae Cynghorau ym mhob rhan o Gymru yn cael eu hannog i ystyried rhoi cynhyrchion mislif am ddim i ferched ysgol mewn ymgais i'w hatal rhag dioddef yn ddistaw a bod â chywilydd.

     

    Mae plant mor ifanc â 10 oed yn teimlo cywilydd o ddefnyddio hosannau, neu gludo papur sidan i’w dillad isaf. Nid yw’n annerbyniol, ond gall effeithio ar eu hiechyd yn fawr. Maent yn methu’r ysgol bob mis oherwydd ni allant wynebu'r cywilydd a’r ofn yn mynd i’r ysgol. Yn y teuluoedd hyn, mae cynhyrchion mislifol yn rhywbeth na allant eu cael.

     

    Mae “tlodi mislif” bob amser wedi bodoli a, than yn ddiweddar, nid oes dim wedi’i wneud i fynd i'r afael â'r mater yn benben. Golygodd tab? mislif nad yw’r plant hyn yn teimlo'n gyfforddus i siarad yn rhydd ac yn agored am yr hyn maent yn ei ddioddef. Mae’n golygu na allen ni byth gwybod graddau llawn y broblem hon.

     

    Mae angen i ni roi pen ar y tab? hwn fel na chaiff plant o'r cefndiroedd incwm isaf eu gwthio i’r cyrion. 

     

    Tan ein bod yn argyhoeddi'r Llywodraeth i roi cynhyrchiol mislifol am ddim i bob plentyn yng Nghymru, dylai ein Cyngor helpu’r merched ifanc hyn gan roi tyweli mislif iddynt yn yr ysgol a allai fynychu’r ysgol yn hyderus bob mis heb angen poeni am deimlo cywilydd o’u mislif sydd fel arall yn rhoi stop ar eu bywydau.

     

    O’r herwydd, byddwn yn annog fy nghynghorwyr i gefnogi’r cynnig hwn

     

    1.    Fel bod pob merch yn yr ysgol yn cael tyweli mislif am ddim ac

    2.    fel ein bod yn parhau i ymgyrchu Llywodraeth Cymru i sicrhau   

         bod pob ysgol yn cael darpariaeth fislif am ddim ar gyfer y plant hyn.

     

                      

     

     Altaf Hussain

     

    Cofnodion:

    Cafodd yr Hysbysiad o Gynnig ei dynnu yn ôl gan y Cynghorydd Hussain. 

    152.

    Adroddiadau Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 49 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol adroddiad, a'i bwrpas oedd rhoi gwybod i'r Cyngor am yr Adroddiad Gwybodaeth a gafodd ei gyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf.

     

    PENDERFYNWYD:         Y byddai’r Cyngor yn cydnabod cyhoeddi’r dogfennau a restrir yn yr adroddiad:-

                                   

    Teitl                                                     Dyddiad Cyhoeddi

     

    Trafodaethau partïon perthynol 2017 – 18    22 Mawrth 2018

    a Datganiad Cyfrifon      

    153.

    Eitemau Brys

    I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

     I 

    Cofnodion:

    Nid oedd unrhyw faterion brys.

    154.

    Eithrio’r Cyhoedd

    Nid oedd y cofnodion ac adroddiad sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12, 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

    (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

     

    Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. 

     

     

     

    Cofnodion:

    PENDERFYNWYD:            O dan adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio) (Cymru 2007, dylid eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitemau busnes canlynol oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 12, 14 a 16 Rhan 4 a Pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A y Ddeddf.

     

    Ar ôl cymhwyso’r prawf diddordeb y cyhoedd, penderfynwyd, yn dilyn y Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, i ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, oherwydd yr ystyriwyd, yn yr holl amgylchiadau sy’n perthyn i’r eitem, roedd buddiant y cyhoedd o ran cadw’r eithriad yn gorbwyso buddiant y cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth.  

    155.

    Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

    I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 28/02/18

     

    156.

    Costau Dileu Swyddi ac Ymddeoliad Cynnar sy’n fwy na £100,000