Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim. |
|||||||||
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, y Cynghorydd P. A. Davies Cofnodion: Cyhoeddodd y Maer ei bod wedi mynychu'r Mosg lle roedd hi/ei chyfaill wedi cyfarfod â'r Imam a'r Henuriaid a soniodd wrthynt am eu crefydd a beth roedd yn ei olygu iddyn nhw. Cawsant daith o amgylch y Mosg a the a bisgedi gyda thrafodaeth dda i ddilyn. Fe wnaethon nhw hefyd fynd i noson ‘Teyrnged i Tom Jones' a fynychwyd gan 79 o bobl a chodwyd £1189 a £202 o'r raffl.
Cynhaliwyd Gala’r Maer yng Ngwesty Heronston ac roedd hi'n dymuno diolch i'r Cynghorwyr, ffrindiau a theulu a fynychodd, gan ei bod yn noson wych.
Roedd hi hefyd wedi mynychu digwyddiad yng Ngorsaf Dân Pen-y-bont ar Ogwr i nodi nifer y Dynion Tân oedd wedi colli eu bywydau ers 1902. Gosodwyd carreg a phlannwyd helygen i gofio amdanyn nhw. Cynhaliwyd gwasanaeth a chafwyd nifer o areithiau. Yn dilyn hyn cyflwynodd darian gydag arfbais Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr arni i’r Pennaeth Tân.
Ymwelodd y Maer â Stadiwm Dinas Caerdydd hefyd a chyflwynodd Dystysgrifau i Gadetiaid y Fyddin. Roedd y Cadetiaid i gyd o Academi Filwrol Pen-y-bont ar Ogwr yn bresennol ac fe wnaethant roi arddangosfa o orymdeithio, Ymarfer Dril ac Ymarfer Corfforol.
Yn ddiweddar, roedd hi a'i Chyfaill wedi mynychu Dawns Maer Tref Maesteg. Dymunodd yn dda i Faer /Maeres Cyngor Tref Maesteg ar gyfer y dyfodol nawr bod eu rôl wedi dod i ben. Roedd y Maer hefyd wedi mynychu Dawns y Maer yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ychwanegodd fod Margaret Tegg yn ysbrydoliaeth, ac wedi ei chefnogi trwy gydol ei thymor fel maer. Roedd hi'n 82 mlwydd oed ar ddiwrnod y ddawns a derbyniodd gymeradwyaeth wresog gyda’r gynulleidfa ar eu traed yn diolch am ei gwasanaeth.
Roedd y Maer hefyd wedi mynychu Dydd Sul Dinesig y Maer Tref Pencoed, ac roedd hwn hefyd wedi bod yn ddigwyddiad arbennig.
Yn anffodus, roedd y Maer wedi mynychu angladd y cyn Faer, Colin Teesdale, yn ddiweddar, a fu'n Faer mawr ei barch ar y Fwrdeistrefol Sirol a hefyd yn Faer Tref Maesteg.
Cadarnhaodd y Maer hefyd y byddai hi'n mynychu angladd Gareth Davies y dydd Iau canlynol. Yn aelod o dîm HART, roedd yn Barafeddyg mawr ei barch a oedd bob amser yn barod i deithio’r filltir ychwanegol. Bu'n gydweithiwr ac yn gyfaill am dros 30 mlynedd, a byddai pawb yn cael ei golli, a theimlai fod y Gymuned wedi colli gweithiwr proffesiynol ymroddedig.
Roedd y Maer / ei Chyfaill wedi mynychu Diwrnod Golff yng Nghlwb Golff Grove gyda 9 o Dimau yn cymryd rhan. Diolchodd i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad hwn.
Roedd y Maer hefyd wedi mynychu Dawns Flynyddol y Llewod lle cyflwynwyd siec am £300 iddi hi a'i Chyfaill ar gyfer ei helusennau.
Cyhoeddodd y Maer ei bod yn mynd i gymryd rhan yn y 'Daith Strôc' ar 20 Mai yng Nghaeau Newbridge. Pe bai unrhyw un yn dymuno ei noddi, roedd amser o hyd i wneud hynny, ychwanegodd.
Yn olaf, cadarnhaodd fod ei blwyddyn yn ei swydd fel Maer wedi mynd yn eithriadol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 175. |
|||||||||
Ethol y Maer i’w arwisgo yn y Seremoni Ddinesig Agoriadol ar 23 Mai 2018 a'r Maer (a etholwyd) i gyhoeddi enw ei Gymar/ Hebryngwr Cofnodion: Gwnaed cynnig a eiliwyd yn briodol ac a gefnogwyd yn unfrydol, y dylid penodi'r Cynghorydd J.R. McCarthy yn Faer ar gyfer 2018/19.
PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd J. R. McCarthy fel Maer am y flwyddyn i ddod.
Cyhoeddodd y Cynghorydd McCarthy mai ei Gymar am y flwyddyn i ddod fyddai ei wraig Mrs Judy McCarthy. |
|||||||||
Penodi'r Dirprwy Faer i'w arwisgo yn y Seremoni Ddinesig Agoriadol ar 23 Mai 2018 a'r Dirprwy Faer (a etholwyd) i gyhoeddi enw ei Gymar/Hebryngwr Cofnodion: Gwnaed cynnig a eiliwyd yn briodol, y dylid penodi'r Cynghorydd E. E. Baldwin yn Ddirprwy Faer ar gyfer 2018/19.
Cynigiodd Aelod y dylid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar benodi'r Dirprwy Faer, ac eiliwyd hyn yn briodol.
Felly, cynhaliwyd pleidlais electronig er mwyn sefydlu a ddylid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ynghylch y penodiad hwn, ac roedd y canlyniad fel a ganlyn: -
Dros Yn erbyn Ymatal
50 1 0
Gan fod hyn wedi cael ei gytuno, cymerwyd pleidlais wedi’i chofnodi am benodi'r Cynghorydd Baldwin fel Dirprwy Faer am y cyfnod uchod, ac roedd y canlyniad fel a ganlyn: -
PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd S. E. Baldwin yn Ddirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn 2018/19.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Baldwin, o ganlyniad i lefel ymrwymiadau gwaith ei bartner, na fyddai'n cael Cymar am y flwyddyn i ddod.
|
|||||||||
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer oedd newydd ei ethol Cofnodion: Cadarnhaodd y Cynghorydd McCarthy ei fod yn teimlo ei bod yn anrhydedd mawr iddo gael ei ethol yn Faer a gwasanaethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn swydd mor uchel ei pharch. Ychwanegodd fod ei dymor fel Dirprwy Faer wedi bod yn brysur iawn ond yn werth chweil, ac yn ystod y cyfnod hwn roedd wedi mynychu nifer sylweddol o ddigwyddiadau fel arweinydd allweddol dros yr Awdurdod. Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at gyfnod yr un mor brysur yn ystod y flwyddyn i ddod. |
|||||||||
Y Maer i gyhoeddi'r Maer Ieuenctid a'r Dirprwy Faer Ieuenctid 1. Maer Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2. Dirprwy Faer Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cofnodion: Cadarnhaodd y Maer y byddai enwau’r Maer Ieuenctid a'r Dirprwy Faer Ieuenctid yn cael eu cyhoeddi rywbryd yn y dyfodol agos. |
|||||||||
Ethol Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cofnodion: Gwnaed cynnig a eiliwyd yn briodol, y dylai'r Cynghorydd Huw David gael ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2018/19.
PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Huw David yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y flwyddyn i ddod. |
|||||||||
Cytuno ar nifer yr Aelodau i'w penodi i'r Cabinet Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet ar gyfer 2018/19 yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a phedwar Aelod Cabinet yn cefnogi portffolios. |
|||||||||
Derbyn Adroddiad yr Arweinydd Cofnodion: Yn gyntaf, estynnodd yr Arweinydd ddiolch arbennig iawn i'r Maer, y Cynghorydd Pam Davies am gynrychioli'r awdurdod o fewn ein Bwrdeistref Sirol a chynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr ar draws Cymru mor dda, gyda hyder a rhwyddineb, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Estynnodd ei longyfarchiadau hefyd i'r Maer newydd, y Cynghorydd John McCarthy a'i gymar, a hefyd i Ddirprwy Faer newydd CBSP, sef y Cynghorydd Stuart Baldwin.
Manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i staff CBSC, gan mai dim ond oherwydd eu gwaith caled a'u gwasanaeth yr oedd y Cyngor yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol a wnâi, ac ymddengys bob blwyddyn y gofynnir mwy oddi wrth y staff, er bod llai a llai ohonynt. Roedd un swyddog yn arbennig y dymunai ddiolch iddo heddiw, sef Andrew Jolley a oedd yn ei gyfarfod olaf fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth a Swyddog Monitro. Fel enghraifft o sut yr ydym yn parhau i ofyn mwy gan swyddogion, rhoddwyd cyfrifoldeb iddo ef dros Dai, TGCh, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Cwsmer. Roedd bob amser wedi ystyried bod Mr Jolley yn gadarn ond yn deg, ac roedd wedi bod yn ffyddlon iawn i'w staff, ac wedi credu yn yr athroniaeth o "dyfu eich pobl eich hun” ac wedi gwireddu hynny. Cyfrifoldeb allweddol y Swyddog Monitro yw hyrwyddo a chynnal llywodraeth dryloyw ac agored a safonau uchel o uniondeb, ac mae adroddiadau olynol gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos bod y safonau hynny ar waith o fewn CBSP. Diolchodd iddo am ei wasanaeth, a gobeithiai y byddai'n mwynhau ei ymddeoliad, gyda'i wyrion, ac yn trwsio hen geir.
Diolchodd Mr. Jolley i'r Arweinydd a'r holl Aelodau am y gefnogaeth a gafodd ers iddo fod yn gweithio i CBSP. Yn yr un modd diolchodd i'r Swyddogion am eu cefnogaeth hefyd. Roedd hyn, ychwanegodd, wedi gwneud ei swydd yn haws i'w chyflawni. Cadarnhaodd i ddiweddu ei fod wedi mwynhau ei amser yn fawr yn yr Awdurdod ers iddo ddechrau gweithio yma ryw 14 o flynyddoedd yn ôl.
Cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod yn anrhydedd ac yn fraint iddo gael ei ailethol unwaith eto gan gyd-Aelodau fel Arweinydd, a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth barhaus.
Ychwanegodd na allai wasanaethu fel Arweinydd heb gefnogaeth ei gydweithwyr yn y Cabinet.
Roedd yn hyderus y byddai'r tîm hwn yn parhau â'r gwaith da sydd eisoes wedi digwydd, ac fel bob amser, roedd yn ddiolchgar am eu hymrwymiad tuag at eu gwaith.
Nid oedd gwasanaethu mewn unrhyw rôl fel Aelod etholedig yn waith hawdd, ac fel y gwyddom oll, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod ymhlith y rhai anoddaf, os nad y rhai mwyaf anodd y mae'r Cyngor erioed wedi gorfod eu hwynebu.
Ond beth bynnag fo'r heriau sydd wedi codi, mae'r Awdurdod wedi wynebu pob un ohonynt, ac yn parhau i wneud hynny gyda phenderfyniad a phwrpas unedig ar draws y Siambr, i gefnogi ein cymunedau lleol hyd eithaf ein gallu.
Mae llymder cenedlaethol diddiwedd yn parhau, ac fel Cyngor, rydym yn parhau i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn erbyn cefndir ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 182. |
|||||||||
Yr Arweinydd i benodi Aelodau'r Cabinet Cofnodion: PENDERFYNWYD: Penododd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol i'r Cabinet: -
Y Cynghorydd HW Williams Y Cynghorydd D Patel Y Cynghorydd PJ White Y Cynghorydd CE Smith Y Cynghorydd RE Young |
|||||||||
Gallai’r Arweinydd gyhoeddi Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o blith yr Aelodau hynny a benodwyd i'r Cabinet a gallai gyhoeddi penodi Aelodau'r Cabinet i bortffolios Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cyhoeddodd yr Arweinydd mai'r Dirprwy Arweinydd ar gyfer 2018/19 fyddai’r Cynghorydd H.M. Williams, ac y byddai'n gyfrifol am Adnoddau.
Ychwanegodd y byddai'r Aelodau Cabinet canlynol yn gyfrifol am y portffolios dan sylw: -
Y Cynghorydd D Patel - Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol Y Cynghorydd P J White - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Y Cynghorydd R E Young - Cymunedau Y Cynghorydd CE Smith - Addysg ac Adfywio |
|||||||||
Rhaglen arfaethedig o Gyfarfodydd Cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau'r Cyngor PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i gynnig rhaglen o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn drefol Mai 2018 - Ebrill 2019 i'w chymeradwyo (Atodiad 1 i'r adroddiad), ac i nodi'r rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn drefol Mai 2019 - Ebrill 2020 (Atodiad 2 i'r adroddiad).
Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, Pwyllgorau’r Cabinet a Chyd-bwyllgor y Cabinet (Amlosgfa Llangrallwg).
Cyhoeddodd y Swyddog Monitro fod un newid i'r rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn 2018-2019 uchod, sef bod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg ar Bynciau a Chraffu 1 dyddiedig 4 Gorffennaf 2018 i gael ei ddileu o'r amserlen, a bod dyddiad newydd yn mynd i gael ei drefnu ar gyfer y cyfarfod hwn, maes o law.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn: -
(1) Cymeradwyo’r rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2018/19 fel y nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, yn amodol ar y newid uchod.
(2) Cymeradwyo’r rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd Pwyllgorau'r Cyngor a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.
(3) Nodi rhaglen dros dro cyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgorau ar gyfer 2019/20, a nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn.
(4) Nodi dyddiadau Cabinet, Pwyllgorau'r Cabinet a Chyd-bwyllgor y Cabinet sydd hefyd wedi'u nodi yn Atodiadau 1 a 2 i'r adroddiad hwn, er gwybodaeth. |
|||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer penodi Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a pha bynnag Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Panelau a chyrff eraill y mae'r Cyngor yn ystyried eu bod yn briodol, i ymdrin â materion nad ydynt wedi'u neilltuo i'r Cyngor llawn nac ychwaith. swyddogaethau gweithredol.
Mae Rhan 3 o Gyfansoddiad y Cyngor o dan y teitl Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r Cyngor, yn nodi Pwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli a chyrff eraill y Cyngor sydd ar waith ar hyn o bryd. Rhoddir manylion isod am rai Pwyllgorau, y mae rhai ohonynt yn cael eu llywodraethu gan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, o ran eu cyfansoddiad a/neu benodi Cadeiryddion.
Gwnaeth y Mesur nifer o ofynion mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, gan gynnwys Aelodaeth Leyg a phenodi’r Cadeirydd. Mae'n ofynnol i'r Cadeirydd dan y Mesur gael ei benodi gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod cyntaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer 28 Mehefin 2018. O ran Aelodaeth Leyg y Pwyllgor hwn, cafodd yr Aelod Lleyg ar hyn o bryd Ms J Williams ei hailbenodi am dymor pellach yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 17 Mai 2017 ac yn unol â'r Mesur, mae ganddi hawl i wneud uchafswm o ddau dymor ar y Pwyllgor yn y rôl hon.
Mae'r Pwyllgor Safonau yn cynnwys wyth aelod, sef: -
Pedwar Aelod Annibynnol (Dim swyddi gwag ar hyn o bryd); Dau Aelod o Gyngor y Fwrdeistref Sirol (Dwy swydd wag); Dau Aelod Cynghorau Tref /Cymuned (Un swydd wag);
Ar hyn o bryd mae swydd wag ar gyfer Cynghorydd Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau, ac felly argymhellwyd y dylid rhoi p?er dirprwyedig i'r Swyddog Monitro ymgymryd ag unrhyw brosesau angenrheidiol i hwyluso a phenodi cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned i'r Pwyllgor Safonau.
Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor Bwyllgor Penodi ar waith er mwyn cyfweld a phenodi staff lefel JNC, sy'n cynnwys swyddi dynodedig megis y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth. Mae aelodaeth y Pwyllgor hwn fel y nodir isod: -
· Arweinydd (Cadeirydd) · Dirprwy Arweinydd · Aelod Cabinet (o'r portffolio perthnasol i'r swydd) · 1 x Aelod Ceidwadol · 1 x Aelod Annibynnol · 1 x Aelod Plaid Cymru
Bydd y Pwyllgor Penodiadau hefyd yn hwyluso Panel Penderfynu JNC a Phaneli Apeliadau JNC. Bydd y rhain yn cynnwys 3 aelod yr un gyda'r Arweinydd neu'r Dirprwy Arweinydd yn cadeirio'r panel, gyda chymorth 1 cynrychiolydd yr un o'r grwpiau Ceidwadol ac Annibynnol. Caniateir amnewid aelodau'r Pwyllgor Penodiadau ond dim ond ar gyfer y broses penodiadau gyfan. Ni ellir amnewid Paneli’r JNC a rhaid i’r aelodau ddod o blith aelodaeth wreiddiol y Pwyllgor Penodiadau.
Roedd y Mesur hefyd yn sefydlu gweithdrefnau lle mae Cadeiryddion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael eu henwebu a'u penodi. Mae'r Mesur yn mynnu bod Cadeiryddion y Pwyllgorau hyn yn cael eu penodi fel isafswm ar sail maint a chydbwysedd gwleidyddol pob un o'r grwpiau sy'n rhan o'r Cyngor. Yn unol â chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor, a'r fformiwla a ddefnyddir o dan y Mesur Llywodraeth Leol mewn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 186. |
|||||||||
Penodi Cadeirydd y Panel Apeliadau
|
|||||||||
Penodiad Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
|
|||||||||
Penodiad Cadierydd Pwyllgor Datblygiad a Rheoli
|
|||||||||
Penodiad Cadeirydd Pwyllgor Trwyddedu / Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003
|
|||||||||
Penodi Cadeirydd Fforwm Cyngor Tref a Chymuned
|
|||||||||
Penodiad Cadeirydd Pwyllgor Craffu Testun 1
|
|||||||||
Penodiad Cadeirydd Pwyllgor Craffu Testun 2
|
|||||||||
Penodiad Cadeirydd Pwyllgor Craffu Testun 3
|
|||||||||
Cynrychiolaeth ar gyrff Allanol a Phwyllgorau eraill PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i benodi Aelodau i Banel Heddlu a Throseddau De Cymru, a Gr?p Cynllunio Strategol De Ddwyrain Cymru, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r enwebiadau canlynol i'r cyrff a restrir isod: -
Panel Heddlu a Throseddau De Cymru - Y Cynghorydd R.E. Young
Gr?p Cynllunio Strategol De Ddwyrain Cymru - Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu - Y Cynghorydd G. Thomas |
|||||||||
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |