Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 18fed Gorffennaf, 2018 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams  Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

202.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

203.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 140 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/06/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo cofnodion y Cyngor ar 20 Mehefin 2018 fel cofnod  gwir a chywir o’r cyfarfod.   

204.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer wybod i’r Cyngor o ddigwyddiadau swyddogol yr oedd ef a’i gonsort wedi mynd iddynt yn y mis diwethaf oedd yn cynnwys mynd i wasanaeth bendithio Ysgol Gynradd Betws a phen-blwydd Mrs Elsie Criddle yn 100 oed.  Roedd y Maer a’r Consort wedi mynd i dair sioe ysgol a’r ?yl Ddysgu, y symposiwm a diwrnod i ddysgwyr Pen-y-bont ar Ogwr.  Roeddent hefyd wedi mynd i’r gwobrau YSBRYDOLI am Oes a chyflwyniad RAF gyda Madelaine Moon AS.  Aethpwyd i ddigwyddiadau pellach gyda gwasanaeth ieuenctid cymunedol y Pîl a Chynffig, Barnu cystadleuaeth “just giving” yn ysgol gyfun Pencoed, Diwnod Hwyl yr Haf Dogs Trust, gwobrau cyfnod allweddol 3 yn CCYD, cofnod o Seremoni Cyflawniadau yn Ysgol Bryn Castell, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Samaritans, Diwrnod Hwyl Bracla, Cyngerdd Flynyddol Côr Plant Maesteg, diwrnod hwyl i’r teulu Little fingers Kidz yn Evanstown, Digwyddiad 4 Gorffennaf Hapus yng Nghanolfan Gristnogol Vine, gwobrau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gwasanaeth Dinesig Caerffili, Arddangosfa Samtampa a Thywysog Edward Cymru, project teulu Splice and Child, Sioe Sir Pen-y-bont ar Ogwr, cyngerdd Flynyddol Côr Pencoed, Gwasanaeth Dinesig Castell-nedd Port Talbot, Seremoni Gwobrau Dinasyddiaeth Cynradd Tondu, noson ddathlu yn Ysgol Bryn Castell.     

 

Dirprwy Arweinydd 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth Aelodau am yr ymdrechion i roi hwb i ailgylchu ym Melin Wyllt i fynd i’r afael â phroblemau gyda gwastraff a thipio anghyfreithlon o gwmpas ardaloedd biniau cyffredin, gyda mwy o finiau ychwanegol yn Nhairfelin i greu mannau casglu dynodedig newydd ar gyfer gwastraff a bagiau porffor.  Mae gwelliannau tebyg eisoes wedi cael effaith gadarnhaol yn rhan Glanffornwg yr ystâd, lle y cafodd mannau ailgylchu eu symud i’w gwneud yn fwy hygyrch a haws i’w defnyddio.  Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau fod swyddogion addysg wedi bod yn siarad â thrigolion i godi ymwybyddiaeth ym mhob rhan o’r gymuned.  Caiff dwy orsaf ailgylchu ychwanegol eu hychwanegu yng Nglanffornwg.  Erbyn diwedd yr haf, bydd gwelliannau wedi’u gwneud ym mhob rhan o Felin Wyllt a chaiff yr effaith y mae’r mannau casglu newydd wedi’i chael ar drigolion ym Maesyfelin a Threm Garth ei hadolygu.

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod Cadwch Gymru’n Daclus wedi gwobrwyo statws Baner Werdd i wyth cyfleuster ym y Fwrdeistref Sirol i nodi safon uchel parciau a mannau gwyrdd ym Mharc Sirol Bryngarw, Amlosgfa Llangrallo, Parc Llesiant Maesteg, Ll?n Wilderness ym Mhorthcawl, Ysbyty Glanrhyd, Gardd Marchnad Caerau, Rhandiroedd Badgers Brook a Chymdeithas Rhandir Wilderness.

 

Hefyd cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod adborth cadarnhaol wedi’i dderbyn o’r ?yl Ddysgu ddiweddar.  Roedd yr ?yl wedi’i chreu i arddangos dulliau addysgu a dysgu arloesol a newydd, ac anogodd ysgolion i rannu eu profiadau a’u gwybodaeth tra'n sefydlu cyfleoedd hyfforddiant newydd i athrawon a staff.  Ymgasglodd mwy na 800 o athrawon, disgyblion, addysgwyr, hyfforddwyr a chyflogwyr ar gyfer yr ?yl, a chynhaliwyd hyd at 100 o weithdai mewn ysgol a arddangosodd sut y gellir defnyddio y datblygiadau ystafell ddosbarth modern diweddaraf i fuddio plant lleol.  Yn yr ?yl, rhoddodd y Comisiynydd Plant, Dr Sally Holland, araith ac  

hefyd yn yr ?yl roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 204.

205.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd y Arweinydd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AS wneud datganiad yn y Senedd prynhawn ddoe’n cadarnhau dileu map cyfuno a’i fwriad, yn dilyn adborth ar ymgynghoriad, i sefydlu gweithgor wedi'i gadeirio gan Derek Vaughan MEP i ystyried sut i fynd â’r agenda diwygio yn ei flaen.  Bydd y rhan fwyaf o aelodau ar y gweithgor o lywodraeth leol a bydd y gweithgor hwnnw’n ceisio cytuno’r hyn sy’n bosibl o ran diwygio, trwy fwy o gydweithredu neu gyfuniadau gwirfoddol, a sicrhau bod adnoddau a phwerau digonol yn cael eu rhoi i lywodraeth leol i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus.  Roedd yr agwedd hon wedi’i chroesawu a’i chefnogi gan Arweinydd CLlLC, y Cyng. Debbie Wilcox, gan ei bod yn cynnig dychweliad at agwedd fwy cydweithredol at ddiwygio, wedi cytuno’n eang gyda Mark Drakeford AS pan oedd yn Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol.  Gobeithiodd yr Arweinydd y gellir gwneud rhywfaint o gynnydd erbyn y Gwanwyn.  Dywedodd ei bod yn hanfodol bod cynaliadwyedd ariannol yn cael ei ystyried ynghyd â diwygio, gan fod yr argyfwng cyfredol mewn Cynghorau Sir mawr yn Lloegr yn dangos nad yw llymder yn parchu graddfa yn enwedig o ganlyniad i gost gofal cymdeithasol sy’n cynyddu.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd i ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet hefyd gadarnhau y bydd Llywodraeth Leol yn cyflwyno bil llywodraeth leol fel y cynlluniwyd, i gyflwyno pwerau cyfuno gwirfoddol, pwerau newydd ehangach ar gyfer cynghorau yn ogystal â phleidleisiau ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed a diwygio etholiadol eraill. 

Bydd yr holl Arweinwyr Cyngor yn trafod y datblygiadau hyn a’r telerau cyfeirio drafft yng nghyfarfod dydd Iau Bwrdd Gweithredol CLlLC.  Byddai’n parhau i roi'r diweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd sy'n cael ei wneud.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd, yn rhan o’r cynllun mwyndd?r Caerau arloesol, fod plant o ysgolion yng Nghwm Llynfi wedi bod yn dysgu am sut y caiff gwres wedi'i greu ei ddefnyddio i wresogi 150 cartref.  Roedd tua 200 o ddisgyblion wedi cymryd rhan mewn gweithdai diweddar wedi’u dylunio i esbonio gwyddoniaeth, technoleg, peirianyddiaeth a mathemateg oedd yn sail i'r cynllun a dysgon nhw hefyd am hanes diwydiannol cyfoethog y cwm, a sut y gellir bellach defnyddio gwaith pyllau glo yng Nghaerau, Bryn Navigation, Garth, Coegnant, Oakwood, Maesteg a St John’s i ddarparu ffurf diogel, parhaol, effeithlon a chost-effeithiol ar wresogi ar gyfer y gymuned leol. 

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd, ynghyd â’r Aelod Cabinet dros Gymunedau, iddo gyfarfod â’r Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i fynd â’r cynllun mwyndd?r yn ei flaen i’r cam nesaf, a’r potensial yn rhan o Rhwydwaith Gwres Rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu’r ddiweddaraf yn seilwaith TG i gefnogi busnesau yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr ar yr un pryd.  Dywedodd fod y Cyngor hefyd yn rhan o gonsortiwm gyda Cenin i ddatblygu ei barc ynni yn Stormy Down ymhellach.  Arweiniodd hyn at ymweliad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog Gwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ynni a Thwf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 205.

206.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 pdf eicon PDF 103 KB

I gael cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/18 a gofynnodd i’r Cyngor nodi’r penderfyniadau wedi’u gwneud yn lleol am y gwasanaeth gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd mai nawfed Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn ac mae'n seiliedig ar hunanasesiad yr awdurdod o berfformiad a darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Cyngor, o fis Hydref 2016, fod Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi newid y ffordd y mae’n archwilio gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion ac mae awdurdodau’n cael eu harchwilio trwy ddefnyddio canlyniadau llesiant y Ddeddf.       

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant grynodeb o berfformiad ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion lle y cafodd 5177 o oedolion eu cefnogi yn y gymuned; roedd nifer y bobl a dderbyniodd becyn Teleofal wedi cynyddu o 2921 yn y flwyddyn flaenorol i 3162 yn y flwyddyn gyfredol.  Roedd y galw am wasanaethau ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi lleihau ychydig yn 2017/18 gyda 7604 o atgyfeiriadau’n cael eu derbyn o gymharu â 7623 o atgyfeiriadau a dderbyniodd yn 2016/17. Roedd nifer y bobl a gefnogwyd yng ngofal preswyl / nyrsio wedi lleihau o 1493 i 986. Roedd nifer y bobl wedi’u gwyro o wasanaethau prif lif i'w helpu i aros yn annibynnol cyhyd â phosibl wedi lleihau 167 yn y flwyddyn flaenorol i 116 yn y flwyddyn gyfredol, yn ogystal â 857 o bobl yn mynd i’r clinig galw heibio yn ARC. 

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant grynodeb o berfformiad ym maes Gofal Cymdeithasol i Blant, lle roedd 6677 o gysylltiadau newydd wedi'u derbyn yn ystod y flwyddyn.  Roedd nifer y plant ar y gofrestr diogel plant wedi lleihau yn y flwyddyn flaenorol i 169 yn y flwyddyn gyfredol.  Roedd nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi lleihau o 98 yn y flwyddyn flaenorol i 70 yn y flwyddyn gyfredol ac roedd nifer y gofalwyr yn derbyn cymorth gan yr awdurdod lleol a’i bartneriaid ar 31 Mawrth wedi lleihau o 131 i 116. 

 

Amlygodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y prif gamau gweithredu ar gyfer 2018/19.  

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Cyngor fod yr awdurdod wedi comisiynu ffilm fer trwy bartneriaeth Bae’r Gorllewin o brofiadau staff a defnyddwyr gwasanaeth y gwnaeth yr Aelodau ei gwylio wedyn.

 

Holodd aelod o’r Cyngor beth oedd effaith negyddol y Cyngor yn arbed £12m ym maes gofal cymdeithasol.  Sylwodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant nad yw ochr negyddol yr arbedion wedi’u gwneud wedi’u gweld eto gan fod y Gyfarwyddiaeth wedi moderneiddio a thrawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu trwy alluogi pobl i aros yn annibynnol.  Dywedodd fod datblygu model gofal ychwanegol yn ffordd fwy cost-effeithiol o ddarparu gwasanaethau na gofal preswyl. 

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor a fydd yr alldro ar gyfer y Gyfarwyddiaeth ar y trywydd iawn.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Cyngor fod y cynllun ariannol yn cael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 206.

207.

Adolygu Balans Gwleidyddol – Newidiadau i Aelodaeth y Pwyllgor pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro wybod i’r Cyngor am ganlyniad adolygiad o falans gwleidyddol yr Awdurdod sydd o ganlyniad i newid i aelodaeth y Gr?p Cynghrair Annibynnol.  Ceisiodd hefyd enwebiad gan Gr?p Plaid Cymru i sefyll ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 ac i Gr?p Annibynwyr Llynfi ildio sedd ar y Pwyllgor hwnnw, i adlewyrchu newid sydd ei angen ym malans gwleidyddol Pwyllgorau.     

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor, ar ôl adolygiad o falans gwleidyddol, fod aelodaeth pwyllgorau wedi’i diweddaru i adlewyrchu cyfansoddiad y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD              Bod y Cyngor yn:

 

(a)          Nodi’r newid i gyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor;

 

(b)          Cymeradwyo dyraniad y seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â rheolau balans gwleidyddol fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

Penodi’r Cynghorydd T Thomas o Gr?p Plaid Cymru i sefyll ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 i gymryd y sedd Annibynwyr Llynfi wedi’i ildio.    

208.

Diwygiad i’r Cyfansoddiad a’r Cynllun Cyflawni Swyddogaethau – Rheolau Gweithdrefn Contract Diwygiedig pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd y Swyddog Monitro gymeradwyaeth i ddiwygio’r Cyfansoddiad i ymgorffori’r Rheolau Gweithdrefn Contract diwygiedig a diwygio’r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau mewn perthynas â swyddogaethau’r Cyngor wedi’u neilltuo i bob Prif Swyddog. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod nifer o newidiadau wedi’u gwneud i Reolau gweithdrefn Contract cyfredol i sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ac i foderneiddio’r ffordd mae’r Cyngor yn caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith.  Dywedodd fod i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 19 Mehefin 2018 gymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Contract diwygiedig i fod ar waith o 1 Awst 2018 ymlaen. 

 

PENDERFYNWYD              Bod y Cyngor yn:

 

·         Nodi’r Rheolau Gweithdrefn Contract diwygiedig i fod ar waith o 1 Awst 2018;

·         Cymeradwyo’r diwygiad o’r Cyfansoddiad i ymgorffori'r Rheolau Gweithdrefn Contract diwygiedig;

Cymeradwyo’r diwygiad i’r Cynllun Dirprwyaethau fel y nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

209.

Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd – Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Weithredwr ar gynnig i sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd (CCRCD).  Dywedodd fod y Cyd-gabinet y CCRCD yn ei gyfarfod ar 20 Tachwedd 2017 ystyried adroddiad oedd yn manylu ar gynigion i sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd.  Penderfynwyd ar ôl hynny gan y Cyd-gabinet mai’r awdurdod hwn fyddai'r Awdurdod Cynnal. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor am y cefndir a gwybodaeth am y cynnig ynghyd â'r Cylch Gorchwyl drafft.  Dywedodd y byddai adroddiad yn cynnwys manylion am y cynnig yn cael ei ystyried gan bwyllgor craffu priodol pob awdurdod sy’n cymryd rhan cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor yn unol â Chanllawiau Statudol, wedi’u cyhoeddi dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.  

 

Dywedodd wrth y Cyngor i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin 2018 ystyried adroddiad y Cyd-gabinet Rhanbarthol, y Cylch Gorchwyl drafft ac enwebiad Aelod anweithredol i sefyll ar y PThCC.

 

 PENDERFYNWYD              Bod y Cyngor yn:

 

(a)         Ystyried yr adroddiad a’r atodiadau a chymeradwyo sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd;

(b)          Cymeradwyo enwebu'r Cynghorydd J-P B Blundell i gynrychioli'r awdurdod ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd;

Nodi mai penderfyniad pob un o’r deg awdurdod fydd a hoffent sefydlu'r PThCC wedi’i gynnig.          

210.

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan: Y Cynghorydd Altaf Hussain i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau

Cynyddu’r Dreth Gyngor, torri cymorthdaliadau i hanner y llwybrau bysiau a gefnogir gan y Cyngor, toriad o 60% i’r gyllideb ar gyfer toiledau cyhoeddus a defnydd callach o adnoddau (fel y’i gelwir) – a wnaiff yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r Cyngor beth rydym yn ei gynnig i drigolion Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gyfnewid?

 

Cofnodion:

Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau gan y Cynghorydd A Hussain

 

 “Cynyddu’r Dreth Gyngor, gwaredu cymorthdaliadau hanner llwybrau bysus a gefnogir gan y Cyngor, toriad o 60% i gyllideb toiledau cyhoeddus a defnydd callach o adnoddau - all yr Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor beth rydym yn ei gynnig i drigolion Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gyfnewid am hyn.

 

Ymateb

 

 “Mae’r Awdurdod yn dal i wario mwy na £250m net i ddarparu nifer sylweddol o wasanaethau cyhoeddus gwahanol; ac er gwaethaf y mesurau llymder parhaol ac arbedion cyllideb sylweddol mae awdurdodau lleol megis CBSP wedi gorfod cystadlu â nhw am sydd bellach yn swm sylweddol o flynyddoedd, rydym yn parhau'n bennaf i ddarparu gwasanaethau gwerthfawr a da ar gyfer y cyhoedd, ac wedi parhau i wneud hyn yn y rhan fwyaf o achosion, hyd yn oed os yw hyn trwy ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau o'r fath (er gwaethaf cael llai o adnoddau i wneud felly.) Am fwy o fanylion am broses ddyrannu cyllideb y Cyngor  a'r gwasanaethau mae wedi'i ymrwymo iddynt, yn ogystal â'r meysydd mae toriadau wedi'u gwneud ynddynt er mwyn cyflawni'r arbedion sydd eu hangen dan y SATC, gall yr Aelod gyfeirio at yr adroddiad o'r enw ‘Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 a’r Dreth Gyngor 2018-19, a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod dyddiedig 28 Chwefror 2018.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hussain gwestiwn ategol gan ddweud ei fod yn credu  bod yr Aelod Cabinet wedi methu â gofyn y cwestiwn, fel ym misoedd y gaeaf, mae trigolion yn cwyno am grudio ffyrdd.  Ym misoedd yr haf, mae trigolion yn cwyno am laswellt yn cael ei dorri ac thrwy’r flwyddyn mae trigolion yn cwyno am geubyllau.  Gofynnodd i’r Aelod Cabinet beth yw'r blaenoriaethau a sut eir i’r afael â’r materion. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ar ran yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod yn rhaid i'r Cyngor gwneud defnydd callach o'i adnoddau a gweithio mor effeithlon â phosibl.  Dywedodd fod gan y Cyngor un o’r strwythurau rheoli mwyaf main o’r awdurdodau lleol yng Nghymru gan fod ganddo 3 Chyfarwyddwr Corfforaethol.  Dywedodd wrth y Cyngor mai 75% o gyllideb yr awdurdod yw costau staff a’i bod yn debygol y byddai'n rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i £7m ychwanegol i fodloni pwysau demograffig a gwobr tâl athrawon a staff.  Dywedodd y byddai’n rhaid i'r Cabinet wneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â gwario ar wasanaethau, boed hynny i gau sawl gwasanaeth neu leihau gwariant mewn sawl ardal.  Anogodd yr Aelodau i geisio cymorth ASau gyda cheisio diwedd mesurau llymder.

211.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys i’w trafod.