Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 19eg Medi, 2018 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

212.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol a'r Swyddog Monitro y cyngor canlynol i'r Aelodau ynghylch eitem ar yr agenda y byddai gan rai efallai fuddiant ynddo yn nes ymlaen yn y cyfarfod (sef eitem 12), fel a ganlyn:-

 

Byddai gan Aelodau sydd yn y gronfa bensiwn fuddiant personol yn yr eitem hon. Fodd bynnag, o dan y Cod Ymarfer, os oedd y buddiant hwnnw'n codi o'u haelodaeth o'r gronfa drwy eu cyflogau fel Cynghorwyr ni fyddai ganddynt fuddiant oedd yn rhagfarnu. Roedd yr eithriad hwn yn berthnasol iddynt hwy'n bersonol ac ni fyddai'n berthnasol i unrhyw fuddiant oedd ganddynt o ganlyniad i deulu oedd yn rhan o'r gronfa bensiwn. Cyfrifoldeb pob Aelod oedd ystyried ei amgylchiadau unigol ei hun.

 

Gwnaed y datganiadau canlynol o fuddiant o ran eitem 12 ar yr Agenda:-

 

Y Cynghorydd DBF White, buddiant oedd yn rhagfarnu.

 

Y Cynghorydd DG Howells, buddiant personol, yn ogystal â buddiant oedd yn rhagfarnu fel Aelod oedd yn cynrychioli'r WDA.

 

Y Cynghorydd JC Spanswick, buddiant oedd yn rhagfarnu am fod rhai aelodau o'r teulu yng Nghynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Y Cynghorydd P Davies, buddiant oedd yn rhagfarnu.

 

Y Cynghorydd HJ David, buddiant oedd yn rhagfarnu am fod rhai aelodau agos o'r teulu yng Nghynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mynegodd y Cynghorydd David hefyd fuddiant oedd yn rhagfarnu yn eitem 6 ar yr Agenda am fod aelod agos o'r teulu yn cael ei gyflogi gan Rockwool.

 

Y Cynghorydd HM Williams, buddiant personol, a buddiant oedd yn rhagfarnu yn eitem 6 ar yr Agenda am ei fod yn berchen ar ddarn o dir o fewn safle'r cais.

 

Y Cynghorydd CE Smith, buddiant personol yn ogystal â buddiant oedd yn rhagfarnu oherwydd bod aelod agos o'r teulu yn aelod oedd yn elwa o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Y Cynghorydd S Baldwin, buddiant personol a buddiant oedd yn rhagfarnu.

 

Y Cynghorydd MJ Kearn, buddiant oedd yn rhagfarnu am fod aelod agos o'r teulu yng Nghynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Y Cynghorydd G Thomas, buddiant oedd yn rhagfarnu fel aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Y Cynghorydd KJ Watts, buddiant oedd yn rhagfarnu.

 

Y Cynghorydd RM Shaw, buddiant personol.

 

Y Cynghorydd N Clarke, buddiant personol.

 

Y Cynghorydd MC Voisey, buddiant personol.

 

Y Cynghorydd N Burnett, buddiant oedd yn rhagfarnu am fod aelod agos o'r teulu yn aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Y Cynghorydd M Jones, buddiant personol a buddiant oedd yn rhagfarnu.

 

Y Cynghorydd T Beedle, buddiant oedd yn rhagfarnu fel aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Y Cynghorydd A Williams, buddiant personol fel aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Y Cynghorydd D Patel, buddiant personol fel aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Y Cynghorydd MC Clarke, buddiant personol.

 

Y Cynghorydd S Aspey, buddiant personol am ei fod yn aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Y Cynghorydd T Thomas, buddiant personol am ei fod wedi talu i mewn o'r blaen i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Dywedodd yr aelodau hynny a wnaeth ddatgan buddiant oedd yn rhagfarnu yn y ddwy eitem ar yr Agenda y cyfeiriwyd atynt,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 212.

213.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 107 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/07/2018.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD      Bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor, dyddiedig 18 Gorffennaf 2018, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

214.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Croesawodd y Maer yr Aelodau yn ôl ar ôl gwyliau Awst a gobeithiai fod pawb wedi llwyddo i fynd i ffwrdd am ychydig ddyddiau yn barod ar gyfer tymor yr hydref/gaeaf.

 

Ers ei adroddiad diwethaf i'r Cyngor, roedd ei Gydymaith ac yntau wedi mynychu 34 o achlysuron a digwyddiadau swyddogol, oedd wedi bod yn amrywiol ac yn wahanol ac eto'n ddifyr iawn, ac roedd hi wedi bod yn anodd dewis ychydig i adrodd wrth yr Aelodau amdanynt.

 

Fe ymwelsant â Mrs Emily McNamara ar ei 100fed pen-blwydd yn ei chartref ym Maesteg. Mae hi'n mwynhau iechyd da, yn dal i fedru mynd i siopa bob wythnos i ASDA gyda'i wyres, ac yn llwyddo i ddringo'r grisiau bob nos. Dywedodd wrthym am ei gwaith yn y ffatri arfau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y rhyfel a sut y cyfarfu hi â'i gwr mewn dawns ym 1943. Roeddent wedi priodi 6 mis yn ddiweddarach, ac mae'r gweddill yn hanes gyda nifer o wyrion a gorwyrion. Ychwanegodd ei bod wedi bod yn hyfryd ei chyfarfod hi a'i theulu.

 

Fe aethant hefyd i wasanaeth coffa Trychineb Slip y Parc, achlysur dwys wrth gofio yr holl fywydau a gollwyd, yn enwedig dynion ifanc oedd yn 13 mlwydd oed, ac yn rhai achosion nifer o aelodau o'r un teulu wedi eu colli. 

 

Roedd agoriad swyddogol Ysgol Betws gan y Prif Weinidog yn fore ardderchog pan gawsant eu tywys o gwmpas gan y disgyblion, oedd yn dweud wrthynt am eu hysgol newydd.

 

Roedd y Maer/Cydymaith hefyd yn bresennol yn noson wobrwyo chwaraeon Ysgol Gyfun Maesteg, ac yn Sinema'r Odeon, Pen-y-bont ar Ogwr, roeddent wedi bod i weld dangosiad cyntaf Dragon Hunters, ffilmiau byrion newyddiadurllyd ynghylch y problemau gyda dreigiau yn y cymoedd, wedi eu gwneud mewn cydweithrediad gan yr holl ysgolion cynradd yn ardal Maesteg, gyda chymorth staff a disgyblion Ysgol Gyfun Maesteg.

 

Fe wnaethant hefyd ymweld ag Ysgol Trelales i gyflwyno'r faner Blatinwm i'r ysgol ar ôl 10 mlynedd o dderbyn y faner werdd.

 

Roedd ymweliadau eraill yn cynnwys drama plant Blwyddyn 6 oedd yn gadael Ysgol Tondu; sioe geir Pen-y-bont ar Ogwr; gwasanaeth dinesig Maer Porthcawl, y cynghorydd Norah Clark; trwyddedu'r Parch Ian Hodges fel Deon Ardal gyda'r Esgob June; Sioe Frenhinol Cymru; ymweliad ag Uned Ganser symudol Tenovus yn y Pines; pen-blwydd priodas 65ain Mr & Mrs Panter; noson wobrwyo yn HMS Cambria y Barri. Roeddent hefyd wedi ymweld â'r Ymddiriedolaeth G?n ym Mhen-y-Fai a noson gyflwyno gwobrau i arwyr lleol radio FM y Bont. Cyflwynwyd siec i Elusennau'r Maer gan Aelodau a Rheolwyr Casle Bingo, a chafwyd diwrnod materion Tai yn nh? diogel Morfa Llamau.

 

Ychwanegodd mai achlysur trist oedd mynd i angladd Audrey Thomas, chwaer y Cynghorydd Jeff Tildesley, oedd yn Gydymaith iddo ef pan oedd yn Faer.

 

Roedd y Maer wedi derbyn siec ar gyfer radio Pen-y-bont ar Ogwr gan Sainsbury’s, ac ar ôl hynny ymwelodd â'r orsaf radio yn yr ysbyty. Wedyn bu'n bresennol yng nghlwb cicio a bocsio newydd y Gym for Warriors yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 214.

215.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor ar fin cychwyn yr ymgynghoriad ynghylch y gyllideb eleni, ac y byddent unwaith eto yn annog trigolion lleol i gymryd rhan a chynorthwyo i ailsiapio dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr. Fel rhan o hyn, byddent yn cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd a marchnata lawn fyddai'n cynnwys digwyddiadau cymunedol, datganiadau i'r wasg, hysbysebu a mwy.

 

Bydd y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan amlwg yn y broses, a gobeithiai ef y byddai'r holl Aelodau etholedig yn cefnogi'r ymgyrch ac yn annog cymaint o bobl ag sydd modd i gymryd rhan. Byddwn yn gofyn i'r trigolion pa wasanaethau y maent yn meddwl ddylai gael blaenoriaeth wrth i'r Awdurdod geisio ymdopi â gostyngiad o £35 miliwn mewn cyllid erbyn 2023. Mae'n hawdd iawn gweld dim ond y toriad ac nid y rhesymeg y tu ôl iddo, ac felly mae arnom angen i Aelodau ein cynorthwyo i gyfleu rhai problemau anodd iawn.

 

Fel yr oedd yr Aelodau'n gwybod, roedd y Cyngor eisoes wedi arbed £30 miliwn drwy wneud pethau fel lleihau nifer ein staff o fwy na 400, gweithio gyda phartneriaid megis Halo, neu gwtogi ar wasanaethau megis toiledau cyhoeddus, glanhau strydoedd, clybiau ieuenctid ac addysg i oedolion. Gwnaed hyn tra hefyd yn gwneud buddsoddiad hanfodol mewn ysgolion newydd, tai i bobl h?n, amddiffynfeydd morol hanfodol a mwy. Ond fel y gwyddai'r Aelodau hefyd, roedd pwynt critigol wedi ei gyrraedd bellach, ac roedd rhai penderfyniadau caled eto i gael eu gwneud.

 

Roedd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn mynd i fod y rhai mwyaf heriol eto, gan ein bod yn cael ein gorfodi i ystyried meysydd pwysig fel ysgolion ac addysg feithrin, gwasanaethau cymdeithasol i blant, trigolion h?n a phobl anabl, a mwy. Dyma pam roedd angen i'r Cyngor ymgysylltu'n llawn â phobl leol, ac roedd yn apelio ar y Cynghorwyr i gyd, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, i gynorthwyo i gyflawni hyn.

 

Byddai aelodau yn derbyn gwahoddiad cyn bo hir i ddigwyddiad ymgynghori arbennig. Mae hwn yn cael ei drefnu fel y gellir ei gynnal ochr yn ochr â'r Cyngor llawn ar Ddydd Mercher, 24 Hydref, a bydd yn rhoi cyfle i'r Aelodau roi eu barn a dod i wybod mwy am yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni. At hynny, byddai manylion llawn y digwyddiadau cymunedol oedd yn cael eu trefnu yn cael eu hanfon at y Cynghorwyr, ynghyd â gwybodaeth yn dweud wrth drigolion am y ffyrdd gwahanol y gallant gymryd rhan.

 

Cynhelir ymgynghoriad y gyllideb rhwng 24 Medi a 18 Tachwedd. Byddai digon o gyfle i gymryd rhan, ac felly gofynnodd i'r rhai oedd yn bresennol gynorthwyo i ledaenu'r neges ynghylch y cyfle tra phwysig hwn.

 

Yn olaf, llongyfarchodd yr Arweinydd Mr Lindsay Harvey oedd wedi ei benodi'n ddiweddar i swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ar ôl cyflawni'r swydd hon ar sail dros dro. Gwnaed y penodiad gan y Pwyllgor Penodiadau, corff sy'n cynnwys Aelodau trawsbleidiol.

 

Roedd yr Arweinydd yn sylweddoli mai dyma'r swydd fyddai'n freuddwyd i Mr Harvey, a gwyddai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 215.

216.

Cais Cynllunio sy'n Gwyro P/18/520/FUL pdf eicon PDF 362 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, oedd yn cadarnhau bod y Pwyllgor Rheoli Datblygu, ar 30 Awst 2018, wedi ystyried cais cynllunio P/18/520/FUL fel cais sy'n gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu Lleol. Penderfynodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu i beidio gwrthod caniatâd cynllunio, fel bod y cais yn cael ei gyfeirio at y Cyngor a gofynnid i'r Cyngor gymeradwyo'r cais gyda rhai amodau.

 

Roedd copi o adroddiad y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar y mater hwn wedi ei atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Datblygu fod yr Aelodau yn gyfarwydd â'i weld yn bresennol yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu i roi diweddariadau ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a materion cynllunio datblygu eraill, pan oedd wedi pwysleisio cydymffurfio a sicrhau eu bod yn cadw at y CDLl. Ambell waith, fodd bynnag, roedd angen i'r Cyngor ystyried adroddiadau yn ymwneud â datblygiad nad oedd yn cydymffurfio â'r CDLl, lle roedd y Pwyllgor uchod wedi penderfynu cymeradwyo, gan na allai'r Pwyllgor wneud penderfyniad terfynol ar rai ceisiadau (oedd yn gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu Lleol).

 

Roedd y cais uchod yn ymwneud ag estyniad i safle presennol ffatri Rockwool yng Nghwm Tarw, Pen-y-bont ar Ogwr, cyflogwr mawr yn y Fwrdeistref Sirol. Byddai'r estyniad yn golygu datblygu tir oedd ar hyn o bryd y tu allan i'r tir a ddyrannwyd ar gyfer y ffatri ac allan i'r wlad. Fel y cyfryw nid oedd y cynnig yn cydymffurfio â’r CDLl.

 

Byddai'r rhan estynedig yn darparu lle storio allanol mwy o faint a mwy hygyrch ar gyfer cynnyrch gorffenedig Rockwool, yn union i'r de o'u ffatri bresennol, gyda mynediad drwy fynedfa newydd oddi ar Heol Gwern Tarw.

Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau wedi cael ei sicrhau gan Bencadlys Byd-eang Rockwool yn Nenmarc i ymgymryd â'r estyniad hwn er mwyn gwella effeithlonrwydd y safle o ran danfoniadau, dadlwytho a llwytho ac i ateb y galw cynyddol am y cynnyrch.

 

Mae rhan y datblygiad newydd yn ymwneud â llain o goncrit caled (yn cynnwys mynedfa asffalt a heol mynediad/man parcio/rhan lwytho i Gerbydau Nwyddau Trymion) o oddeutu 20 acer o dir amaethyddol cymharol isel ei werth i'r de o'r cyfleuster presennol. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys belt cyfleu amgaeedig wedi ei insiwleiddio i mewn i safle'r brif ffatri, cyfleuster lles y gyrwyr, garej tryc codi a chwt diogelwch. Bydd y cyfleuster storio newydd yn galluogi'r cwmni i ryddhau peth lle wrth fynedfa bresennol y safle, gyferbyn â Ffordd Fferm y Wern; gwneud y defnydd gorau o'r ffatri i gynhyrchu, storio a danfon eu cynnyrch a chyflogi 65 yn ychwanegol o weithwyr llawn amser parhaol (ar ben y 404 o weithwyr presennol) ar y safle. Cafodd y cynhyrchiant yn y gwaith ei arafu yn dilyn y dirywiad economaidd ac nid yw'r cynnig hwn yn cynnwys cynyddu cyfleusterau cynhyrchu, ond yn hytrach gwella effeithlonrwydd y gweithrediad presennol.

 

Bu’r cynnig yn destun trafodaeth helaeth cyn i'r cais gael ei wneud ynghyd ag  ymgynghoriad cymunedol. Gyda'r cais hefyd cafwyd adroddiadau manwl yn cynnwys asesiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 216.

Motion Vote Type
TeitlMathMotion Vote Type textResult
Departure Planning Application Resolution Motion Carried
  • View Motion Vote Type for this item
  • 217.

    Adroddiad Alldro Rheoli'r Trysorlys Blynyddol 2017-18 pdf eicon PDF 655 KB

    Cofnodion:

    Fe wnaeth Pennaeth Cyllid Dros dro a Swyddog S151 gyflwyno adroddiad, a phwrpas hwn oedd cydymffurfio â gofyniad Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) 'Rheoli'r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer:' i adrodd am drosolwg ar weithgareddau'r trysorlys dros y flwyddyn ariannol flaenorol ac adrodd am union Reolaeth y Trysorlys a Dangosyddion Darbodus am 2017-18.

     

    Mae'r adroddiad yn seiliedig ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (TMS) am 2017-18 a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2017.

     

    Cyhoeddodd CIPFA argraffiadau newydd o ‘Reoli'r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer’ a'r ‘Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol’ ddiwedd Rhagfyr 2017. Fodd bynnag, cynhyrchwyd y TMS 2017-18 a'r adroddiad hwn gan ddefnyddio Codau 2011. Hefyd ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiwygiad i ‘Reoliadau Awdurdodau Lleol (Arian Cyfalaf a Chyfrifyddiaeth) (Cymru)’, sy'n galluogi'r Cyngor i fuddsoddi mewn rhai offerynnau o 2017-18, oedd gynt yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf, heb y gost refeniw bosibl o Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) a heb i'r elw o werthiant gael ei ystyried fel derbyn cyfalaf.

     

    Ychwanegodd mai'r cynghorwyr rheoli trysorlys i'r Cyngor yw Arlingclose. Mae eu contract yn rhedeg o 1 Medi 2016 am bedair blynedd yn dilyn proses dendro a chaiff y contract ei adnewyddu'n flynyddol a chaiff y naill barti neu'r llall derfynu'r cytundeb hwn drwy rhoi rhybudd o dri mis ymlaen llaw.

     

    Cafodd swyddogaeth rheoli'r trysorlys ei adolygu gan Archwilwyr Allanol y Cyngor, sef Swyddfa Archwilio Cymru, yn ystod archwiliad blynyddol 2017-18 ac ni wnaed dim newidiadau i Reolaeth y Trysorlys. Yn ychwanegol at waith yr Archwilwyr Allanol, cynhaliodd yr Archwilwyr Mewnol archwiliad o swyddogaeth rheolaeth y trysorlys yn ystod 2017-18 a nododd yr archwilwyr, 'yn seiliedig ar asesiad o gryfderau a gwendid y meysydd a archwiliwyd, a thrwy gynnal profion, daethpwyd i'r casgliad yr ystyrir effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli mewnol yn gadarn ac felly gellir rhoi sicrwydd sylweddol ynghylch rheoli risgiau'.

     

    Ar ddechrau'r flwyddyn ariannol roedd y Gyfradd Banc yn 0.25% a chynyddodd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr (MPC) hyn o 0.25% i 0.50% ym mis Tachwedd 2017. Roedd yn arwyddocaol am mai dyma'r cynnydd cyntaf yn y gyfradd sylfaenol mewn deng mlynedd, er bod yr MPC, mewn gwirionedd wedi dadwneud y toriad a wnaeth ym mis Awst 2016 yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Parhaodd y Gyfradd Banc ar 0.50% am weddill 2017-18.

     

    Dangoswyd sefyllfa dyled a buddsoddiad allanol y Cyngor o 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 yn adran 4.1 a thabl 1 yr adroddiad. Rhoddwyd mwy o fanylion yn Adran 4.4 a 4.5. Y pwyntiau allweddol i'w nodi oedd:

     

    ·         Cyfanswm y ddyled allanol gros oedd yn dal yn ddyledus ar 31 Mawrth 2018 oedd £117.89 miliwn.

    ·         Mae'r £96.87 miliwn o fenthyciad tymor hir ar 31 Mawrth 2018 yn cynnwys:

     

    a)        £77.62 miliwn yn ymwneud â Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus ar gyfraddau sefydlog (llog cyfartalog o 4.70%)

    b)        £19.25 miliwn gyda dyddiad dod i ben o 2054, yn ymwneud â benthyciadau Dewis Echwynnwr, Dewis Benthyciwr (LOBO), a all gael eu hailamseru cyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 217.

    218.

    Adolygiad o Bolisi Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) 2018-19. pdf eicon PDF 123 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog S151 adroddiad, a diben hwn oedd cyflwyno i'r Cyngor ddulliau gwahanol o gyfrifo tâl refeniw blynyddol darbodus i ad-dalu costau ariannu cyfalaf, a adwaenir fel y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru).

     

    Dywedodd nad yw'r ddeddfwriaeth yn diffinio'r hyn a olygir wrth 'ddarpariaeth ddarbodus'. Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru'n amlinellu amrywiol ddulliau derbyniol gyda'r nod o sicrhau bod dyled yn cael ei thalu'n ôl dros gyfnod sy'n rhesymol gymesur â'r cyfnod y mae'r gwariant cyfalaf yn rhoi budd, neu'r cyfnod sy'n ddealledig ym mhenderfyniad y Grant Cynnal Refeniw.

     

    Mae'n ofynnol i Awdurdodau gynhyrchu Datganiad Blynyddol ar eu Polisi ar gyfer codi'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, a adwaenir fel MRP, a rhaid i hyn gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn. Oherwydd hynny, mae angen cymeradwyaeth y Cyngor llawn hefyd i unrhyw newidiadau yn y Polisi. 

     

    Roedd Atodiad A yr adroddiad yn cynnwys Polisi MRP Blynyddol 2018-19 wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor. Y tâl MRP presennol 2018-19 am fenthyciad a gynhelir, yn seiliedig ar falans gostyngol o 4%, yw £4.884 miliwn yn erbyn cyllideb o £4.981 miliwn. Mae hyn o fewn Ariannu Cyfalaf yn y Gyllideb Refeniw Di-Gyfarwyddiaeth.

     

    Mae dull y Balans Gostyngol yn dyrannu taliadau uwch i'r blynyddoedd cynharaf a thaliadau llai yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r tâl o 4% yn awgrymu y bydd y ddyled wedi ei thalu mewn pum mlynedd ar hugain. Fodd bynnag, mae'r balans gostyngol yn golygu na fydd y ddyled wedi ei thalu'n llwyr mewn gwirionedd tan yn llawer diweddarach na hyn.

     

    Er enghraifft, ymhen 45 mlynedd, sy'n cyfateb i hyd oes cyfartalog asedau'r Cyngor, byddai'r fethodoleg bresennol yn dal i adael dyled o £18.673 miliwn ar ôl gyda thâl blynyddol o £778,000 o'r cyfrif refeniw. Nid yw hyn i'w weld yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac nid yw'n benthyg ei hun i ddarpariaeth ddarbodus. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn un o nifer fechan iawn o Awdurdodau sy'n dal i ddefnyddio'r dull hwn.

     

    Roedd hefyd yn werth nodi bod y Cyngor, yn ogystal â'r ddarpariaeth refeniw ar gyfer benthyciad a gynhelir, yn gwneud darpariaeth refeniw wirfoddol ychwanegol. Ar 31 Mawrth 2018, ffigur cronnus hyn yw £14.743 miliwn, wedi ei adeiladu ers 2004-05 ac yn 2018-19 y gost i refeniw hyd yma eleni yw £1.380 miliwn sydd i gyd yn mynd i ostwng y gofyniad ariannu’r cyfalaf sy'n weddill.

     

    Roedd Atodiad B yr adroddiad yn rhoi rhai dewisiadau ar gyfer newid yr MRP i ddull Balans Gostyngol o 3% ac wedyn ar sail llinell syth dros 40 mlynedd, 45 mlynedd a 50 mlynedd. Mae'n dangos mai methodoleg fwy darbodus fyddai sail llinell syth, y gellid ei gysylltu ag oes asedau fel ar fethodoleg balans gostyngol, mae'r gost refeniw  yn dal i barhau hyd yn oed ar flwyddyn 200. Byddai sail llinell syth yn arwain at:-

     

    219.

    Adroddiadau gwybodaeth i'w nodi pdf eicon PDF 58 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, oedd yn hysbysu'r Cyngor am yr Adroddiadau Gwybodaeth i'w nodi, oedd wedi cael eu cyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf a drefnwyd.

     

    Amlinellwyd y rhain ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

     

    PENDERFYNWYD:       Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi'r dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad.

    220.

    Cwestiwn i Aelod y Cabinet - Addysg ac Adfywio gan y Cynghorydd Tim Thomas

    A wnaiff yr Aelod Cabinet ddatganiad ar statws cyfredol y Cyngor hwn mewn cysylltiad â gweithredu’r strategaeth cynhwysiant yn yr ysgol?

     

    Cofnodion:

    "A wnaiff Aelod y Cabinet wneud datganiad ar y modd y mae'r Cyngor hwn ar hyn o bryd yn gweithredu strategaeth cynhwysant yn yr ysgolion?"

     

    Ymateb gan Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

     

    Gweithredu diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yw ffocws strategaeth Cynhwysiant ac ADY ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC).

     

    Cafodd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2017 ac, ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol, daeth yn Ddeddf ar 24 Ionawr 2018. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY o'r crud nes eu bod yn 25 mlwydd oed. Mae'r Ddeddf hon i ddisodli deddfwriaeth flaenorol ynghylch Anghenion Addysg Arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu anableddau mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

     

    I gefnogi gweithredu'r system newydd, gan gynnwys y Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu pump Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae pedwar o'r arweinyddion trawsnewid yn gweithredu'n rhanbarthol, ar ôl troed y consortia addysg, ac mae un arweinydd yn gweithio fel Arweinydd Trawsnewid Addysg Bellach ar lefel genedlaethol.

     

    Dylai'r system newydd ddechrau cael ei gweithredu ym mis Medi 2020 a disgwylir iddi gael ei chwblhau erbyn diwedd 2023. Mae'r llinell amser fel a ganlyn:-

     

    • Ionawr 2018 - Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys (Cymru) yn derbyn Cydsyniad Brenhinol
    • Mawrth 2018 - arweinyddion Trawsnewid ADY yn eu swyddi
    • Tymor yr hydref 2018 - ymgynghori ar y Cod a’r Rheoliadau ADY drafft
    • Rhagfyr 2019 - cyhoeddi'r Cod ADY terfynol
    • Ionawr 2020 – cynnal hyfforddiant sut i weithredu’r Cod ADY newydd
    • Medi 2020 - cynnal hyfforddiant sut i weithredu’r Cod ADY newydd
    • Haf 2023 - systemau AAA ac anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) yn dod i ben.

     

    Mae'r Cynllun Gweithredu ADY Rhanbarthol (2018-2019) wedi cael ei gytuno gan Gyfarwyddwyr Addysg o Gonsortiwm Canolbarth y De (CCD). Mae'r cynllun yn disgwyl i gael ei lofnodi'n derfynol gan Lywodraeth Cymru a ddisgwylir ym Medi 2018. Mae yna wyth o flaenoriaethau wedi eu cynnwys yn y cynllun sydd fel a ganlyn:

     

    • Blaenoriaeth 1- creu cynllun gweithredu rhanbarthol amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol, fydd yn tanategu'r newid llwyddiannus i'r ffordd newydd o weithio.

     

    • Blaenoriaeth 2 - cyflwyno rhaglen i godi ymwybyddiaeth fydd yn sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol i gyd, llywodraethwyr ysgol, rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc a'r trydydd sector yn derbyn gwybodaeth amserol am y newidiadau a'r cyfnodau amser sy'n gysylltiedig â hwy.

     

    • Blaenoriaeth 3 - Gweithredu cynllun datblygu gweithlu cynhwysfawr sy'n cydymffurfio â Deddf ALNET ac yn ategu'r diwygiadau addysgol cenedlaethol ehangach.

     

    • Blaenoriaeth 4 - datblygu cefnogaeth a darpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd dros oed addysg orfodol drwy nodi cynigion lleol a rhanbarthol posibl.

     

    • Blaenoriaeth 5 - sicrhau bod y disgwyliadau statudol newydd ar gyfer y blynyddoedd cynnar wedi eu deall ac yn cael eu darparu a bod y cymorth addas yn cael ei roi i gynyddu capasiti mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

     

    221.

    Rhybudd o Gynnig a Roddwyd gan y Cynghorydd Carolyn Webster

     

    Cynnig:

     

    Bod y Cyngor hwn a’i holl gyfarwyddiaethau a’r adrannau yn y cyfarwyddiaethau hynny yn mabwysiadu diffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) o wrthsemitiaeth.

     

    Mae’ndweud:

     

    “Math o ganfyddiad o Iddewon, a all gael ei gyfleu fel casineb tuag at Iddewon, yw gwrth-semitiaeth. Amlygir gwrth-semitiaeth drwy iaith a gweithredoedd corfforol sydd wedi'u hanelu at Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo; ac at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig.”

     

     

    Cofnodion:

    Gofynnodd a gâi hi, gyda chaniatâd y Maer, dynnu ei Rhybudd o Gynnig yn ôl, fel yr amlinellwyd yn eitem 11 yr Agenda, yn yr adroddiad gan ei bod hi wedi cael ar ddeall fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cynnig bod y Cyngor hwn yn edrych i fabwysiadu'r diffiniad hwn, a'i fod i gael ei osod ar agenda Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ym mis Tachwedd eleni. 

     

    Yn dibynnu ar y canlyniad, ychwanegodd y byddai hi efallai yn dewis dod â'r cynnig hwn yn ôl gerbron y Cyngor yn y dyfodol.

     

    Ddoe, roedd Iddewon ar draws y byd yn dathlu Yom Kippur. Manteisiodd hi felly ar y cyfle i ddymuno “G’mar Chatima Tova" i'n trigolion Iddewig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”

     

    222.

    Rhybudd o Gynnig a wnaed gan y Cynghorydd Tim Thomas

    Mae’r Cyngor yn cydnabod

     

    Yr effaith niweidiol y mae lefelau uwch o nwyon yn yr atmosffer yn ei chael ar yr amgylchedd a’r rhan y mae hyn yn ei chwarae mewn newid andwyol yn yr hinsawdd. Mae’r Cyngor yn cydnabod hefyd fod angen cydweithredu rhyngwladol er mwyn dal yr effaith ar ein hinsawdd yn y fan a’r lle.

     

    Mae’r Cyngor yn croesawu

     

    ymrwymiadau llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy fentrau i gyfyngu ar gynhesu byd-eang, a’r ffaith eu bod yn derbyn bod defnyddio tanwyddau ffosil yn un o’r ffactorau sy’n cyfrannu’n fawr at gynnydd yn nhymheredd y byd ac allyriadau carbon deuocsid.

     

    Mae’r Cyngor yn nodi bod Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf, sy’n gweinyddu’r trefniadau pensiwn ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi buddsoddi canran o’r cronfeydd cyfun anuniongyrchol mewn tanwyddau ffosil yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17.

     

    Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf i ddechrau tynnu’n ôl mewn modd trefnus o fuddsoddiadau o’r fath a hynny ar y cyfle cyntaf.

     

    Cofnodion:

    PENDERFYNWYD:       Cytunwyd yn gyntaf gan y Cynghorydd T Thomas ac wedyn gan yr holl Aelodau, i'r eitem hon gael ei gohirio tan gyfarfod nesaf y Cyngor.

    223.

    Eitemau Brys

    I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

    Cofnodion:

    Dim