Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 24ain Hydref, 2018 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

224.

Datganiadau o fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol a'r Swyddog Monitro y cyngor a ganlyn i'r aelodau ynghylch eitem ar yr agenda y gallai fod gan rai Aelodau fuddiant ynddi yn ddiweddarach yn y cyfarfod (hy, eitem 10 ar yr Agenda):

 

Bydd gan Aelodau sydd y aelodau o'r gronfa bensiwn fuddiant personol yn yr eitem hon. Fodd bynnag, yn ôl y Cod Ymddygiad, os bydd y buddiant hwnnw'n deillio o'u haelodaeth o'r gronfa yn sgil eu cyflogau fel Cynghorwyr, ni fyddai ganddynt fuddiant sy'n rhagfarnu. Mae'r eithriad hwn yn berthnasol iddynt yn bersonol, ac ni fyddai'n berthnasol i unrhyw fuddiant a fyddai ganddynt pe bai aelod o'u teulu yn aelod o'r gronfa bensiwn. Gorffennodd drwy ddweud y dylai pob Aelod ystyried ei amgylchiadau unigol ei hun.

 

 

Datganwyd y buddiant canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd RM James fuddiant yn eitem 8 ar yr Agenda gan fod ei wraig yn gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Datganwyd y buddiannau canlynol yn gysylltiedig ag Eitem 10 ar yr Agenda:

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd PJ White.

 

Buddiant rhagfarnus gan y Cynghorydd DBF White gan fod ei wraig yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd DG Howells, yn ogystal â buddiant rhagfarnus am ei fod yn Aelod cynrychioliadol o'r WDA.

 

Buddiant rhagfarnus gan y Cynghorydd P Davies.

 

Buddiant rhagfarnus gan y Cynghorydd HJ David gan fod perthnasau agos iddo yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd HM Williams.

 

Buddiant personol a buddiant rhagfarnus gan y Cynghorydd CE Smith gan fod aelod agos o'r teulu yn aelod ac yn fuddiolwr o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant personol a rhagfarnus gan y Cynghorydd S Baldwin.

 

Buddiant rhagfarnus gan y Cynghorydd MJ Kearn gan fod perthynas agos yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant rhagfarnus gan y Cynghorydd G Thomas gan ei fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant rhagfarnus gan y Cynghorydd KJ Watts.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd RM Shaw.

 

Buddiant personol a rhagfarnus gan y Cynghorydd N Clarke. (CHECK THIS ONE)[DVX21] 

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd MC Voisey.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd N Burnett gan fod perthynas agos yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd M Jones gan ei fod yn derbyn pensiwn o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant rhagfarnus gan y Cynghorydd T Beedle fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant personol a rhagfarnus gan y Cynghorydd A Williams fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd D Patel fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd MC Clarke am ei fod wedi talu i mewn i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd S Aspey gan ei fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd T Thomas am ei fod wedi talu i mewn i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn y gorffennol.

 

Buddiant personol gan y Cynghorydd J Gebbie.

 

Buddiant rhagfarnus gan y Cynghorydd R Penhale-Thomas gan fod ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 224.

225.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 150 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/09/18

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:          Cymeradwyo bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor dyddiedig 19 Medi 2018 yn gywir.

 

226.

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

 

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Dywedodd y Maer fod angen llongyfarch Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Thîm Rhyddhau Pen-y-bont ar Ogwr. Llwyddodd y tîm yn ddiweddar i gadw'r teitl fel y tîm gorau yn y DU am y chweched tro. Enillodd y tîm yn wyneb cystadleuaeth gref gan dimau ar draws y wlad mewn Her ym Mae Caerdydd a gynhaliwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.  Diolchodd yn fawr i bawb a gymerodd ran am eu hymroddiad a'u gwaith caled parhaus.

 

Bu'r cyfnod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor yn gyfnod prysur iddo, ac roedd Judy ac yntau wedi bod yn bresennol mewn 28 o ddigwyddiadau swyddogol. Bu'r digwyddiadau'n amrywiol, yn wahanol ac yn bleserus iawn. Cyfeiriodd yn arbennig at:

 

  • Ben-blwydd Mrs Catherine Powell yn 100 yng nghartref gofal preswyl Oakland ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nid yw ond newydd adael ei chartref ym Mhen-prysg, Pencoed.
  • Aethom i 60fed penblwydd priodas Mr a Mrs Lewis o Nantyffyllon.
  • Cafwyd presenoldeb da o blith yr Aelodau pan agorwyd Ysgol Brynmenyn gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Dyma'r pumed ysgol newydd i gael ei hagor mewn pum mlynedd, ac mae'n dangos ymrwymiad parhaus yr awdurdod i ddarparu addysg o'r safon uchaf.
  • Ar ôl cyfarfod diwethaf y Cyngor, cawsom y pleser o godi lluman yr RAF i ddathlu 100 mlynedd ers ei ffurfio. Hoffem ddiolch i bawb a oedd yn bresennol i'n helpu i ddathlu'r garreg filltir bwysig hon.
  • Aethom i fore coffi Macmillan KPC a chinio Elusennol Clwb y Rotari er budd apêl Closer to Home Tenovus, a gododd dros £7,000 i'r achos ardderchog hwn.
  • Roedd y Seminar Rhyng-ffydd a'r cinio yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, yn noson ragorol, ac yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o bob cefndir a ffydd.
  • Roedd gwobrau blynyddol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr a gynhaliwyd yng Nghoed-y-Mwstwr yn uchafbwynt arall a byddaf yn ymweld â'r holl enillwyr i'w llongyfarch wyneb yn wyneb, i gwrdd â'u staff ac i weld y gwaith y maent yn ei wneud.
  • Cafwyd presenoldeb da yng Ngwasanaeth Dinesig y Maer, a diolchodd i'r holl swyddogion a gymerodd ran am eu gwaith caled er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant.
  • Llongyfarchiadau i siop Ymchwil Canser Pen-y-bont ar Ogwr am fod ar agor ers 25ain mlynedd. Dros y cyfnod hwnnw, mae'r siop a'i chriw o wirfoddolwyr ymroddedig wedi codi dros £1.8 miliwn o bunnoedd.
  • Roedd hi'n anrhydedd cael gwahoddiad i gyflwyno Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i Mr John Berry i gydnabod y gwaith y mae wedi'i gyflawni ar hyd ei oes i'r YMCA.  Pleser o'r mwyaf hefyd oedd gwahodd Mr Roger Hudd i'r swyddfeydd dinesig i dderbyn ei BEM am ei holl waith caled ar hyd y blynyddoedd er budd elusennau amrywiol.

 

I gloi, atgoffodd y Maer yr holl ddynion o blith y Cynghorwyr y byddai llun yn cael ei dynnu i gefnogi Ymgyrch y Rhuban Gwyn ar ôl y cyfarfod heddiw. Dylai'r Aelodau fod wedi derbyn e-bost ynghylch hyn eisoes oddi wrth y Cynghorydd David White, sef ein Hyrwyddwr Rhuban Gwyn, a byddai'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 226.

227.

I dderbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Atgoffodd yr Arweinydd yr holl aelodau fod Darren Mepham yn gadael yr awdurdod yn y Flwyddyn Newydd i'w rôl newydd fel Prif Weithredwr coleg addysg bellach Barnett and Southgate yng ngogledd Llundain.

 

Manteisiodd ar y cyfle i longyfarch Darren. Roedd yr Awdurdod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y chwe blynedd y bu'n gyflogedig yno, ac wedi wynebu rhai o'r amgylchiadau mwyaf heriol a welwyd erioed o fewn y Cyngor.

 

Mae hyn wedi cynnwys datblygiadau fel newid bwrdd iechyd, gweithio drwy heriau ariannol anodd i sicrhau cyllideb gytbwys a sefyllfa ariannol gadarn, cydweithio mwy â chynghorau cyfagos ee drwy rannu gwasanaethau rheoleiddio, newidiadau radical er mwyn symleiddio trefniadau rheoli'r holl gyfarwyddiaethau, gan gynnwys sefydlu cyfarwyddiaeth newydd i gyfuno mwyafrif ein gwasanaethau corfforaethol, ac wrth gwrs, y mae wedi sicrhau mwy na thraean o ostyngiad mewn costau uwch reoli.

 

Byddai Darren yn aros gyda CBSPO dros y tri mis nesaf a bydd yn parhau i gyflawni rôl arweinyddol ymarferol dros y cyfnod hwnnw. Fel awdurdod byddem yn ceisio penodi unigolyn yn barhaol i'r swydd cyn gynted ag sy'n bosibl. Yr oedd wedi bod yn siarad, a byddai'n siarad ymhellach â chydweithwyr yn y Cabinet ac arweinwyr gr?p ynghylch y trefniadau dros dro yr oedd angen eu gwneud.

 

Bydd Darren yma yn nau gyfarfod nesaf y Cyngor cyn dechrau ei rôl newydd, felly nid heddiw oedd yr adeg i ffarwelio.

 

Mae gennym uwch dîm rheoli galluog a medrus iawn a chanddynt ddegawdau o brofiad rhyngddynt, ac roedd yr Arweinydd yn hyderus iawn bydd ein holl raglenni uchelgeisiol yn parhau i symud ymlaen.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd £1.5 miliwn o gyllid gan yr UE yn cael ei fuddsoddi yng nghanolfan chwaraeon d?r newydd sbon Porthcawl yn Rest Bay. Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu yn rhan o raglen Cyrchfan Denu Ymwelwyr newydd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd gan Croeso Cymru i greu 13 o gyrchfannau y mae'n rhaid i ymwelwyr eu gweld. Un o'r cyrchfannau hyn fydd y ganolfan chwaraeon d?r, ac fe'i dyluniwyd i apelio i rai sy'n ymddiddori mewn chwaraeon d?r ledled De Cymru a thu hwnt. Mae'r gwaith wedi dechrau, a 'bwrdd selffi' wedi cael ei osod ar ffensys a osodwyd o amgylch y safle adeiladu er mwyn lleihau effaith weledol y gwaith, ac i ddangos ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod Porthcawl yn parhau i dyfu a ffynnu fel un o brif gyrchfannau arfordir Cymru.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd mai pleser o'r mwyaf oedd bod yn bresennol wrth i'r Prif Weinidog agor adeilad newydd sbon Ysgol Gynradd Brynmenyn yr wythnos diwethaf. Nid yw'r ysgol gwerth £9 miliwn ond yn un o'r ysgolion diweddaraf i gael ei darparu yn rhan o'n rhaglen flaenllaw i foderneiddio ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif. Daw'r agoriad yn fuan iawn ar ôl agoriad swyddogol adeilad newydd Ysgol Betws.

 

Roedd yr hen eiddo ar Heol Bryn dros ganrif oed, ac nid oedd modd ei ehangu gan fod tir comin yn ei amgylchynu.

 

Mae'r ysgol newydd ddwywaith mor fawr ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 227.

228.

Adroddiad Blynyddol 2017-18 pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a gyflwynai Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2017-18 (wedi'i gynnwys yn Atodiad A) i'w ystyried a'i gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Dechreuodd ei gyflwyniad drwy ddweud ei bod hi'n ofyniad cyfreithiol i'r Cyngor gyhoeddi asesiad o'i berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, cyn 31 Hydref.

 

Roedd y Cynllun wedi diffinio 38 o ymrwymiadau i gyflawni'r tri amcan llesiant ac wedi nodi 53 o ddangosyddion a ganolbwyntiai ar ganlyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18.

 

Nod/amcan y Cynllun oedd mesur perfformiad y Cyngor yn 2017-18, drwy ddefnyddio mesuriadau llwyddiant a mathau eraill o dystiolaeth yn seiliedig ar ffeithiau

 

Ym mharagraff 4.2 yr adroddiad, cadarnhawyd bod y Cyngor yn perfformio'n dda yn ystod y cyfnod uchod, ac o'r 37 o ymrwymiadau a gariwyd drosodd, cwblhaodd y Cyngor 29 o'r rheiny'n llawn (bron 79%) a llwyddo i gwblhau rhan helaeth o'r 6 ymrwymiad arall (16%). Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y rhain bron â chael eu cwblhau, ac esboniodd pam nad oeddent wedi'u cwblhau'n llawn hyd yma.

 

Nodwyd 53 o ddangosyddion i fesur llwyddiant yn y Cynllun Corfforaethol, ac roedd 51 o ddangosyddion wedi cael eu casglu ar gyfer y flwyddyn. O'r rhai a chanddynt darged, dywedodd fod y Cyngor wedi cyrraedd neu ragori ar bron 69% o'r targedau, ac wedi bod o fewn dim i gyrraedd 10% o dargedau eraill. Roedd gwybodaeth fanwl am berfformiad y Cyngor yn erbyn ei ymrwymiadau a'i dargedau wedi'i gynnwys yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod yr Adroddiad Blynyddol hefyd yn rhoi crynodeb o gyllidebau ar gyfer y flwyddyn, canfyddiadau rheoleiddwyr, themâu sy'n tanategu ein gwaith a throsolwg o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Gorffennodd ei gyflwyniad drwy gadarnhau y byddai'r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ac yn cael ei rannu â rhanddeiliaid. Byddai copïau caled o'r adroddiad hefyd yn cael eu cynhyrchu a'u rhoi yn llyfrgelloedd cyhoeddus y Cyngor.

 

Ailbwysleisiodd yr Arweinydd eiriau'r Prif Weithredwr, gan ychwanegu y byddai'r 6 ymrwymiad sydd heb eu cwblhau ar hyn o bryd yn cael eu cwblhau ar y cyfle cyntaf. Cymeradwyodd hefyd y gwaith a gyflawnwyd hyd yma, er enghraifft Cynllun Pontydd i Waith a Phrosiect Kerrigan.

 

Ychwanegodd un o'r Aelodau y byddai'n dda pe bai'r holl Aelodau'n cael cyfle i weld y Cyflwyniad yn gysylltiedig â'r rhaglen 'Get on Track' a roddwyd yn flaenorol i rai o'r Aelodau a Swyddogion gan Jodie Coupland, cyn-ddisgybl o Ysgol Bryn Castell.

 

Rhoddwyd esboniad o'r rhaglen yn y paragraff olaf ond un ar dudalen 36 o'r Atodiad. Teimlai'r Aelodau y byddai hyn yn werth chweil. 

 

PENDERFYNWYD:          Cymeradwyodd y Cyngor Adroddiad Blynyddol 2017-18, a oedd wedi'i gynnwys yn Atodiad A i'r adroddiad cyflwyno.    

229.

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Canol Blwyddyn 2018-19 pdf eicon PDF 624 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog A151 adroddiad er mwyn cydymffurfio â gofyniad yn nogfen y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), Rheoli'r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer (y Cod), i roi trosolwg o weithgareddau trysorlys fel rhan o adolygiad canol blwyddyn. Rhoddai'r adroddiad hefyd grynodeb o'r gweithgarwch Rheoli Trysorlys o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2018, ac adroddai  ar ragamcanion Rheoli Trysorlys a Dangosyddion Darbodus 2018-19.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i seilio ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys (TMS) ar gyfer 2018-19 a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 28 Chwefror 2018.

 

Esboniodd fod CIPFA wedi cyhoeddi rhifynnau newydd o Rheoli'r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus@ Cod Ymarfer a'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol yn hwyr ym mis Rhagfyr 2017. Fodd bynnag, mae TMS (a'r adroddiad hwn yn sgil hynny) wedi cael eu llunio drwy ddefnyddio Codau 2011, oherwydd amseriad y newid, ac yr oedd rhywfaint o wybodaeth yn dal heb ei chyhoeddi pan gynhyrchwyd y TMS.

 

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd ddiwygiad i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) sy'n galluogi'r Cyngor i fuddsoddi mewn rhai offerynnau a oedd gynt yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf (er enghraifft, Cronfeydd y Farchnad Arian) heb y gost refeniw bosibl yn gysylltiedig â Darpariaeth Refeniw Isafswm (MRP) a heb ystyried enillion y gwerthiant fel derbyniad cyfalaf.

 

Dangoswyd sefyllfa'r Cyngor o ran buddsoddiadau a dyledion allanol o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2018 yn nhabl 1 yn yr adroddiad, a rhoddwyd mwy o fanylion yn adran 4.3 yr adroddiad, y Strategaeth a'r Alldro Benthyca, ac adran 4.4 a esboniai'r Strategaeth Buddsoddi ac Alldro.

 

Er gwybodaeth i'r Aelodau, dywedwyd bod Cyfradd y Banc wedi dechrau'r flwyddyn ariannol ar 0.50% ac wedi parhau ar y gyfradd honno hyd 2 Awst 2018, pan gafwyd cynnydd o 0.25% yng nghyfradd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr o 0.75%. Yn ôl y rhagolygon presennol, ceir cynnydd pellach o 0.25% yng Nghyfradd y Banc erbyn mis Mawrth 2019, gan gyrraedd 1% erbyn diwedd 2018-19.

 

Dyma'r prif bwyntiau i'w nodi yn yr adroddiad:

 

Cyfanswm y dyledion allanol gros a oedd yn weddill ar 30 Medi 2018 oedd £117.52 miliwn, a oedd yn cynnwys:

 

           Roedd y £96.87 miliwn o fenthyciadau yn cynnwys:

 

           £77.62 miliwn yn gysylltiedig â benthyciadau hirdymor gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) (cyfradd gyfartalog o 4.70%)

 

           £19.25m a chanddo ddyddiad aeddfedrwydd o 2054 yn gysylltiedig â benthyciadau LOBO a all gael eu hailamserlennu cyn y dyddiad aeddfedrwydd (cyfradd gyfartalog o 4.65%)

 

Byddai'r Cyngor yn dewis ad-dalu'r benthyciadau LOBO heb unrhyw gostau pe bai'n cael cyfle i wneud hynny yn y dyfodol.

 

Yn dilyn cyngor TM Advisers Arlingclose, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog A151 fod y Cyngor wedi cysylltu â'r rhoddwr benthyciadau LOBO i drafod opsiynau ad-dalu posibl yn 2017-18. Fodd bynnag, tybiwyd bod y premiwm yn rhy ormodol i weithredu hynny, ond byddai'r Cyngor yn dewis ad-dalu'r benthyciadau hyn heb unrhyw gostau pe bai'n cael cyfle i wneud hynny  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 229.

230.

Adroddiad i'w Nodi pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd hysbysu'r Cyngor am yr Adroddiad Gwybodaeth i'w nodi a oedd wedi cael ei gyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf a amserlennwyd.

 

Manylwyd ar yr Adroddiad Gwybodaeth dan sylw ym mharagraff 4.1 yr adroddiad. Teitl yr Adroddiad oedd 'Swyddfa Archwilio Cymru - Trosolwg a Chraffu - Addas i'r Dyfodol?'

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio fod adroddiad ar y testun hwn wedi cael ei ystyried a'i drafod gan Aelodau'r Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi'r ddogfen a nodwyd yn yr adroddiad.

231.

I Dderbyn y Cwestiynau Dilynol i'r Cabinet

CwestiwnI’r Aelod Cabinet dros Addysg ac AdfywiowrthCynghorydd T Thomas

 

A fydd yr Aelod Cabinet yn gwneud datganiad am nifer y disgyblion sy’n dilyn cyrsiau Safon Uwch yn ysgolion y Fwrdeistref Sirol.

 

CwestiwnI’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help CynnarwrthCynghorydd A Hussain

 

Mae 575,000 o bobl yng Nghymru yn colli’u clyw ac mae’r nifer yn cynyddu wrth i’r boblogaeth heneiddio ac wrth i ni fyw’n hirach. Nidoes gennyf y ffigurau ar gyfer y nifer sy’n colli’u clyw yma yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyhoeddodd Action on Hearing Loss Cymru adroddiad yn ddiweddar gan argymell y dylai Awdurdodau Lleol adolygu eu darpariaeth a’u trefniadau i sicrhau mynediad i bobl fyddar neu’n colli’u clyw, gan sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.Dylid rhoi sylw penodol i’r pwynt cyswllt cyntaf, y broses asesu, y system ar gyfer darparu offer cynorthwyol a’r

wybodaeth/cyngor/canllawiausydd ar gael drwy’r Awdurdod cyfan.

 

O gofio’r argymhelliad uchod gan Action on Hearing Loss Cymru, a all yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r Cyngor sut rydym yn cynorthwyo’r rhai sy’n colli’u clyw yma yn ein Sir?

Cofnodion:

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio oddi wrth y Cyng. T Thomas.

 

‘A wnaiff yr Aelod Cabinet ddatganiad ynghylch y nifer sy'n sefyll Cymraeg Safon Uwch ar draws ysgolion y Fwrdeistref Sirol?'

 

Ymateb

 

Cymraeg (Iaith 1af) Safon Uwch

 

Yn 2017, safodd 10 myfyriwr o ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr Safon Uwch Cymraeg Iaith 1af.  Ledled Cymru, yn 2017, safodd 214 o fyfyrwyr Safon Uwch Cymraeg Iaith 1af.  Gan hynny, daeth 5% o'r holl geisiadau Safon Uwch Cymraeg Iaith 1af o ysgolion ledled Cymru yn 2017 o Ben-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn debyg i nifer y ceisiadau yn 2016, o gymharu â gostyngiad o 13% ledled Cymru ers 2015.

 

Mae canran y disgyblion sy'n ennill graddau A*-E ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyd-fynd â chyfartaledd Cymru.  Roedd canran y disgyblion a enillodd raddau A*-C ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan yn 2015, ond yn is na'r cyfartaledd hwnnw yn 2016 a 2017. Bydd cynifer o fyfyrwyr yn sefyll Safon Uwch Cymraeg Iaith 1af yn 2018 â nifer y ceisiadau yn 2016 o leiaf.

 

Ledled Cymru, cafwyd gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio Cymraeg Iaith 1af o 280 yn 2015 i 214 yn 2017. Yn yr un modd, cafwyd gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio Safon UG Cymraeg Iaith af o 280 yn 2014 i 218 yn 2017.

 

2.  Cymraeg (2il Iaith) Safon Uwch

 

Yn 2017, safodd 29 o fyfyrwyr o ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr Safon Uwch Cymraeg 2il Iaith. Ledled Cymru, yn 2017, safodd 242 o fyfyrwyr Safon Uwch Cymraeg 2il Iaith. Gan hynny, daeth 12% o'r holl geisiadau Safon Uwch Cymraeg 2il Iaith o ysgolion ledled Cymru yn 2017 o Ben-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o gymharu â 2016.

 

Roedd canran y disgyblion a enillodd raddau A* - C yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru gyfan. Roedd canran disgyblion Pen-y-bont ar Ogwr a enillodd raddau A*- E ychydig yn is na chyfartaledd Cymru gyfan. Dim ond un myfyriwr na wnaeth ennill gradd 'llwyddo'. Bydd cynifer o fyfyrwyr yn sefyll Safon Uwch Cymraeg 2il Iaith yn 2018 â nifer y ceisiadau yn 2015 a 2016 o leiaf.

 

Ledled Cymru, gostyngodd nifer y disgyblion a astudiodd Safon Uwch Cymraeg o 272 yn 2015 i 242 yn 2017. Yn yr un modd, gostyngodd nifer y disgyblion a astudiodd Safon UG Cymraeg 2il Iaith o 354 yn 2014 i 298 yn 2017.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dirwyn y cwrs byr TGAU Cymraeg 2il Iaith i ben ac erbyn hyn mae'r holl fyfyrwyr yng nghyfnod allweddol 4 yn astudio'r cwrs llawn TGAU Cymraeg 2il Iaith.  Gan hynny, nid yw'r niferoedd mawr sy'n astudio Cymraeg hyd at TGAU wedi'u hadlewyrchu yn y niferoedd sy'n astudio'r pwnc ar Safon Uwch.  Os cafwyd unrhyw newid o gwbl, mae ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn adrodd mai gostwng a wnaeth y niferoedd sy'n dewis Safon UG Cymraeg 2il Iaith ers  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 231.

232.

Rhybudd o Gynnig a wnaed gan y Cynghorydd Tim Thomas

Mae’r Cyngor:

 

Yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae lefelau uwch o nwyon yn yr atmosffer yn ei chael ar yr amgylchedd a’r rhan y mae hyn yn ei chwarae mewn newid andwyol yn yr hinsawdd. Mae’r Cyngor yn cydnabod hefyd fod angen cydweithredu rhyngwladol er mwyn dal yr effaith ar ein hinsawdd yn y fan a’r lle.Mae’r Cyngor yn croesawu ymrwymiadau llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy fentrau i gyfyngu ar gynhesu byd-eang, a’r ffaith eu bod yn derbyn bod defnyddio tanwyddau ffosil yn un o’r ffactorau sy’n cyfrannu’n fawr at gynnydd yn nhymheredd y byd ac allyriadau carbon deuocsid.

 

Mae’r Cyngor:

 

Yn nodi bod Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf, sy’n gweinyddu’r trefniadau pensiwn ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi buddsoddi canran o’r cronfeydd cyfun anuniongyrchol mewn tanwyddau ffosil yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf i ddechrau tynnu’n ôl mewn modd trefnus o fuddsoddiadau o’r fath a hynny ar y cyfle cyntaf.

 

Cofnodion:

Yn dilyn araith gyflwyniadol, cyflwynodd yr Aelod uchod Hysbysiad o Gynnig:-

 

Bod y Cyngor yn cydnabod:

 

Effaith niweidiol y cynnydd mewn nwyon yn yr atmosffer ar yr amgylchedd a'r modd y mae'n cyfrannu at newid andwyol yn yr hinsawdd. Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor yn cydnabod bod angen cydweithredu ar raddfa ryngwladol er mwyn atal yr effaith uniongyrchol ar ein hinsawdd.

 

“Mae'r Cyngor yn croesawu:

 

Ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd drwy fentrau i gyfyngu ar gynhesu byd-eang, a'r ffaith eu bod yn derbyn bod defnyddio tanwydd ffosil yn ffactor o bwys sydd yn cyfrannu at gynnydd parhaus yn nhymheredd y byd ac allyriadau carbon deuocsid. 

 

Yn ystod 2016/17, mae'r Cyngor yn nodi bod Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf, sydd yn gweinyddu trefniadau pensiwn ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi buddsoddi canran o gronfeydd cyfunol anuniongyrchol mewn tanwydd ffosil.

 

Mae'r cyngor yn galw ar Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf i ddechrau tynnu'n ôl yn drefnus o'r buddsoddiadau hynny ar y cyfle cyntaf."

 

Bu'r Aelodau'n trafod yr eitem hon, a chan fod gwahaniaeth barn ar y llawr ynghylch a ddylai'r Cyngor gefnogi'r Cynnig ai peidio, cynhaliwyd pleidlais electronig ynghylch a ddylid cofnodi pleidlais ar y cynnig. Dyma ganlyniad y bleidlais honno:

 

O blaid                   Yn erbyn                           Atal pleidlais            Heb bleidleisio

 

19                           15                                      0                               15

 

Yn dilyn hynny, cynhaliwyd pleidlais ynghylch yr Hysbysiad o Gynnig uchod. Dyma fu canlyniad y bleidlais honno:

 

Members names to be put in after they have been translated and before the minutes go out with the agenda for the next meeting

 

O blaid                   Yn erbyn                          Atal pleidlais             

 

10                            24                                     0

 

Nodwyd bod gweddill yr Aelodau a oedd yn bresennol naill ai heb bleidleisio neu wedi gadael y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon, ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:              Nodi na dderbyniwyd/chefnogwyd yr Hysbysiad o Gynnig uchod drwy benderfyniad gan y mwyafrif.                                

Motion Vote Type
TeitlMathMotion Vote Type textResult
Notice of Motion Motion Rejected
  • View Motion Vote Type for this item
  • 233.

    Materion Brys

    I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

     

    Cofnodion:

    Dim

    234.

    Gwahardd y Cyhoedd

    Nid oedd yr adroddiad sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

     

    Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. 

     

    Cofnodion:

    PENDERFYNWYD:     Y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem a ganlyn, o dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y cafodd ei diwygio gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, gan fod yr eitem honno'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 ac ym Mharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y cafodd ei diwygio gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

     

    Ar ôl cymhwyso’r prawf budd cyhoeddus, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, er mwyn trafod yr eitem a ganlyn yn breifat, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir uchod.

     

    235.

    Pecyn Ymddeoliad Cynnar a Diswyddo Gwirfoddol

    Cofnodion:

    Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad eithrio a ofynnai i'r Cyngor gymeradwyo'r pecyn diswyddo (y manylir arno yn yr Atodiad i'r adroddiad), yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Atebolrwydd tâl o fewn Llywodraeth Leol yng Nghymru, ac a gaiff ei adlewyrchu ym Mholisi Tâl y Cyngor (a gaiff ei ddiweddaru'n flynyddol) ar gyfer 2018-19 ar ôl dileu swydd Rheolwr Gr?p.

     

    Fel gwybodaeth gefndir, esboniodd fod y canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 40 o'r Ddeddf Lleoliaeth 2011, yn argymell y dylai'r Cyngor gymeradwyo pecynnau diswyddo dros £100k. Nod y canllawiau yw hyrwyddo gonestrwydd a thryloywder yn gysylltiedig â phecynnau diswyddo sydd yn uwch na'r swm hwn.

     

    Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod y cyfrifiadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys taliadau na chyflwynir i'r cyflogai, a bod diffiniad y canllawiau o'r elfennau sy'n creu'r pecyn diswyddo £100k ac uwch yn cynnwys y canlynol:

     

    i.              Cyflog a delir yn lle rhybudd;

    ii.             Cyfandaliad diswyddo, a

    iii.    Y gost i'r awdurdod yn sgil unrhyw ychwanegiad at bensiwn neu straen ar y gronfa bensiwn.

     

    Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn ei flaen i ddweud bod ymarfer wedi'i gynnal i ad-drefnu rheolwyr trydedd haen, a gynigiai y dylid gwahanu gwasanaethau yn ôl cyfrifoldebau gweithredol a strategol o fewn ei Gyfarwyddiaeth. Byddai'r Pennaeth Gwasanaeth newydd unigol yn arwain adain weithredol y Gyfarwyddiaeth, a byddai'r elfen strategol yn adrodd wrth y Cyfarwyddwr Corfforaethol.

     

    Byddai'r swydd newydd yn cael ei neilltuo ar gyfer y ddau Reolwr Gr?p yr oedd eu swyddi'n cael eu dileu, ac effaith hynny fyddai diswyddo un ohonynt yn orfodol. Mae'r cyflogai yn un o'r ddwy swydd hyn, hy y Rheolwr Gr?p - Gwaith Stryd wedi cadarnhau nad yw'n dymuno cael ei ystyried ar gyfer y swydd newydd.

     

    Bydd rhyddhau'r cyflogai hwn yn cyfrannu at y targed o £500k o arbedion mewn costau uwch reoli dros y 2-3 blynedd nesaf.

     

    Esboniai paragraff 4.7 yr adroddiad sut y caiff y cyfandaliad diswyddo ei gyfrifo o dan gynllun Polisi Cyflogau'r Cyngor, tra nodai paragraff 4.8 nad oedd y "straen" ar y gronfa bensiwn yn cael ei dalu i'r cyflogai, ac mai taliad cyfalaf oedd hwnnw gan y Cyngor i'r gronfa bensiwn gyffredinol ei hun er mwyn talu'r gost o alluogi'r cyflogai i gael mynediad cynnar i'w bensiwn. Mae swm y taliad yn seiliedig ar ddarpariaeth yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013, sydd yn rhagnodi y bydd gan unrhyw gyflogai 55 oed a throsodd sydd yn gadael ei swydd oherwydd diswyddo, yr hawl i gael mynediad yn syth at y LGPS heb leihau'r pensiwn ar sail tybiaethau actwaraidd yn sgil talu'r pensiwn yn gynnar.

     

    Gorffennodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei gyflwyniad drwy ddweud beth fyddai goblygiadau ariannol yr adroddiad, fel yr amlygir ym mharagraff 8.1.

     

    Cyfeiriodd Aelod at Nodyn 3 yn Atodiad 1, a'r Iawndal y byddai'r cyflogai'n ei dderbyn, a'r ffaith mai dyma oedd 'elfen ddewisol y cyfandaliad diswyddo'. Hyd y bo polisi tâl neilltuol mewn grym, cynghorir na fyddai rhyw lawer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 235.