Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 21ain Tachwedd, 2018 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

236.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd CE Smith fuddiant personol a rhagfarnol yn eitem 12 yr agenda – Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd T. Giffard a thynnu yn ôl o'r cyfarfod yn ystod yr ystyriaeth o’r eitem hon.

 

Datganodd y Cynghorydd CA Webster fuddiant personol yn eitem 7 yr agenda – Diweddariad ar Gynllun Adfywio Porthcawl am ei bod wedi gweithio gyda’r tirfeddiannwr am ychydig yn flaenorol.

 

Datganodd y Cynghorydd N Clarke fuddiant personol yn eitem 4 yr agenda (i) Cyhoeddiad gan Aelod y Cabinet – Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol am ei bod yn aelod am oes o Glwb Achubwyr Bywydau Rest Bay.      

237.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 186 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 24/10/18

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Bod cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 24 Mehefin  2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

238.

I dderbyn cyhoeddiadau gan y canlynol:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Maer

 

Gwnaeth y Maer longyfarch Gorsaf Dân Pen-y-bont ar Ogwr ar ei llwyddiant am ennill am y drydedd tro yn olynol ym Mhencampwriaeth y Byd am dynnu o gerbyd modur. Rhoddodd wybod i'r Cyngor fod cyfle i wneud enwebiadau ar gyfer ei Wobrau Dinasyddiaeth blynyddol. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 25 Ionawr 2019, gyda'r enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad ym mis Mawrth 2019.  

 

Dywedodd y Maer wrth y Cyngor am y digwyddiadau yr oedd ef a'i Gydweddog wedi'u mynychu dros y mis diwethaf a oedd yn cynnwys gosod torch yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymwelodd y Maer a'r Cydweddog â chwmnïau a oedd wedi derbyn gwobrau yng ngwobrau busnes Pen-y-bont ar Ogwr ac aethpwyd i wobrau gwirfoddoli BAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr), twrnamaint pêl-droed plant y Rotari, cynhyrchiad Ysgol Brynteg o High School Musical, g?yl ddiolchgarwch Ysgol Gynradd Notais a sioe geir Hot Rod ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Treuliodd ef a'i Gydweddog amser yn gwerthu pabïau gyda'r Cynghorydd DBF White yn ail-lansiad Canolfan Llesiant Cefn Glas. Gwnaethon nhw hefyd ymweld ag Ysgol Afon y Felin i gynorthwyo â dadorchuddio cerflun ar dir yr ysgol yn ogystal â chynrychioli'r awdurdod i nodi agoriad swyddogol Cwrt y Crwner ym Mhontypridd a mynd i Wasanaeth Dinesig Bro Morgannwg.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor am ymgynghoriad cyllideb 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr' a oedd wedi'i gau yn gynharach yr wythnos hon, a oedd wedi derbyn 2,677 o arolygon wedi’u cwblhau. Gwnaeth 679 o bobl gymryd rhan yn y sesiynau clicker pad ac roedd 2,148 wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau. Bu ymgysylltu uniongyrchol â grwpiau megis Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr a BAVO. Cafwyd rhaglen gyhoeddusrwydd lawn ynghyd â chyfres o stondinau a thrafodaethau ymgysylltu â'r cyhoedd a oedd wedi digwydd ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Cynhaliwyd cyfres o weithdai cyllideb cynhyrchiol iawn mewn ysgolion uwchradd a chynradd, gan annog pobl ifanc i ymwneud yn fwy â'r broses ddemocrataidd. Diolchodd y swyddogion am eu gwaith caled yn cyflwyno'r ymgynghoriad ac i'r cyhoedd am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

 

Aelod y Cabinet dros Gymunedau

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau fod camerâu CCTV newydd wedi'u gosod er mwyn helpu i wneud traethau yn Rest Bay a Newton yn fwy diogel. Bydd y camerâu yn cael eu monitro o bell gan wirfoddolwyr o Sefydliad Cenedlaethol Coastwatch a fydd yn cydweithio'n agos ag achubwyr bywydau'r RNLI (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub). Bydd y ddau sefydliad yn rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau diogelwch yn uniongyrchol i wylwyr y glannau a'r gwasanaethau brys. Mae'r camerâu wedi'u gosod gan y Cyngor fel rhan o ymdrechion cydweithredol i wneud y morlin mor ddiogel â phosibl.

 

Cyhoeddodd hefyd fod rhaglen £400,000 ar waith i wella palmentydd a llwybrau cerdded yn rhai o'r prif leoedd yn y Fwrdeistref Sirol, gydag 16 o strydoedd yn cael eu targedu i gael eu hatgyweirio a gwella problemau draenio. Y strydoedd sy'n cael eu targedu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 238.

239.

I dderbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Adroddodd yr Arweinydd y bydd Pwyllgor Penodiadau yn cael ei gynnal ar 6 Rhagfyr 2018 i ystyried y broses benodi ar gyfer swydd y Prif Weithredwr dros dro ac i wneud penodiad parhaol ar gyfer swydd Swyddog Adran 151. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod i'r Cyngor fod Arweinwyr y Cyngor wedi cwrdd â'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i drafod cyllid yr awdurdodau lleol. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol o £13 miliwn i awdurdodau lleol, a fydd yn golygu y bydd yr awdurdod hwn yn derbyn £595 mil yn ychwanegol, sydd bellach yn cyfateb i leihad o 0.3% yn y Grant Cymorth Refeniw o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Datganodd y byddai £340 mil yn cael ei ddyrannu i ariannu'r cynnydd ym mhensiynau athrawon a £170 mil i ofal cymdeithasol.  Hysbysodd y Cyngor y bydd angen gwneud arbedion o £8 miliwn yn 2019/20.  

 

Hysbysodd Aelodau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd mewn arian cyfalaf o £2.2 miliwn i awdurdodau lleol, gan olygu y bydd yr awdurdod hwn yn derbyn £880 mil yn ychwanegol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i'r broses o gyllido rhaglen Band B, sef y bydd yn talu 65% o’r costau cyfalaf ar gyfer ysgol newydd gyda'r Cyngor yn talu'r 35% sy'n weddill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynyddu ei chyfran o gyllid cyfalaf ar gyfer cyfleusterau i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac unedau cyfeirio disgyblion i 75%, gyda'r Cyngor yn talu'r 25% o gostau sy'n weddill.

 

Hysbysodd Aelodau, yng ngoleuni'r newidiadau i gyllid, y byddai'n angenrheidiol i'r adroddiad ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B gael ei dynnu’n ôl.            

240.

Sylfaen y Dreth Gyngor 2019-20 pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 fanylion ar sylfaen y dreth gyngor ac amcangyfrif o'r gyfradd gasglu ar gyfer 2019-20.

 

Dywedodd mai amcangyfrif sylfaen y dreth gyngor ar gyfer 2019-20 oedd 54,807.11 ac mae amcangyfrif y gyfradd gasglu yw 98%. Y sylfaen dreth gyngor net felly oedd 53,710.97. Dywedodd fod Sylfaen y Dreth Gyngor yn cael ei darparu i Lywodraeth Cymru ac yn cael ei defnyddio fel rhan o ddosbarthiad y Grant Cymorth Refeniw yn y Setliad Llywodraeth Leol. Ar gyfer y pwrpas o ddosbarthu RSG, cymerir fod cyfraddau casglu yn 100%.  Mae swm y dreth gyngor sy'n ddyledus am annedd ym Mand D yn cael ei gyfrifo drwy rannu gofyniad y gyllideb flynyddol i'w ariannu gan drethdalwyr gan Sylfaen y Dreth Gyngor. Hysbysodd y Cyngor y bydd elfen y dreth gyngor o gyllideb y Cyngor yn seiliedig ar sylfaen net y dreth gyngor o 53,710.97.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd y swyddogion am gasglu cyfran uchel o dreth gyngor ac anogodd drigolion a oedd yn cael anhawster i dalu eu treth gyngor i gysylltu â'r awdurdod. 

 

Gwnaeth aelod o'r Cyngor gwestiynu canran y gyfradd gasglu a gyflawnwyd. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd mai'r gyfradd gasglu yw 97.3%.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cyngor wedi:

 

(1)  Cymeradwyo sylfaen y dreth gyngor a'r gyfradd gasglu ar gyfer 2019-2020, fel y gwelir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

Cymeradwyo sylfaen y dreth ar gyfer yr ardaloedd cymunedol a nodir yn Adran A yr adroddiad.

241.

Diweddariad ar Gynllun Adfywio Porthcawl pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau ddiweddariad ar Gynllun Adfywio Porthcawl a gofyn am gymeradwyaeth i adolygu'r rhaglen gyfalaf i fuddsoddi derbyniadau cyfalaf rhagweledig sy’n deillio o werthu tir, yn cynnwys Maes Parcio Salt Lake. Gofynnodd hefyd am gymeradwyaeth i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer gwelliannau i amddiffynfeydd arfordirol a fydd yn rhyddhau cyfnodau datblygu yn y dyfodol.

 

Hysbysodd y Cyngor fod y broses o gaffael buddiannau llesddaliad trydydd partïon ym maes parcio Salt Lake, swm o £3.3 miliwn wedi'i chymeradwyo gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr 2017, a roddodd fuddiant rhydd-ddaliadol heb ddyled i'r Cyngor ar y safle i sicrhau ei fod yn cael ei ailddatblygu. Dywedodd mai'r cynllun gwreiddiol oedd ystyried rhoi archfarchnad fawr ym maes parcio Hillsboro, ond ers hynny, arweiniodd newidiadau sylfaenol yn y farchnad siopau bwyd at alw am siop fwyd lai o faint. Yn dilyn asesiad o opsiynau, roedd y strategaeth bresennol yn seiliedig ar leoli’r siop ar ochr ogleddol Salt Lake gan gadw Hillsboro fel prif faes parcio canol y dref.  

 

Adroddodd mai un o'r prif ofynion i sicrhau bod safle cyfan Salt Lake yn cael ei ddatblygu yw gwaith amddiffyn arfordirol i leihau peryglon llifogydd, a heb y gwaith hwn, ni fyddai’n bosibl datblygu mwyafrif y parseli a nodwyd ar gyfer tai. Byddai denu cyfleusterau hamdden ar ochr ddeheuol y safle yn gallu bod yn broblematig hefyd. Hysbysodd y Cyngor fod achos busnes amlinellol ar gyfer gwaith amddiffyn arfordirol wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a bod cynlluniau manwl yn cael datblygu. Os bydd yn llwyddiannus, byddai'n arwain at gyllid o 75% drwy’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol tuag at y gwaith hwn. Gofynnwyd i'r awdurdod gyfrannu 25% o arian cyfatebol. Dywedodd nad oedd yn ddisgwyliedig cael penderfyniad ar y cyllid gan Lywodraeth Cymru tan hydref / gaeaf 2019. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod dadansoddi marchnadoedd, cyfyngiadau i seilwaith allweddol ac ystyriaethau llif arian yn gorchymyn bod y datblygiad yn cael ei gyflwyno mewn camau. Amlinellodd y strategaeth arfaethedig fesul cam:

 

·         Cam 1 – Safle Archfarchnad

·         Cam 2 – Tai

·         Cam 3 – Maes Parcio Hillsboro Place

·         Cam 4  – Gwaith amddiffyn rhag llifogydd arfordirol ar Bromenâd y Dwyrain a’r ardal ehangach

·         Cam 5 & 6 – Safleoedd Tai

·         Cam 7 – Safle Hamdden

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau'r sail resymegol dros glustnodi derbyniadau cyfalaf ynghyd â chrynodeb o dderbyniadau. Amlinellodd hefyd strategaeth ar gyfer y cynnig i ail-fuddsoddi derbyniadau lle caiff buddsoddiad ei wneud ym maes parcio Hillsboro, tra byddai gwelliannau’n cael eu gwneud i faes parcio Salt Lake er mwyn ei alluogi i redeg fel maes parcio cyhoeddus gan y Cyngor a fydd yn gofyn am beiriannau talu ac arddangos newydd. Byddai gwelliannau hygyrchedd yn cael eu gwneud yn Portway gan gynnwys mannau croesi a'r posibilrwydd o gyflwyno parcio ar y stryd. Byddai gwaith ffisegol i'r safle hamdden yn cael ei ddwyn ymlaen fel rhan o'r strategaeth hamdden a byddai gwelliannau ffisegol yn cael eu gwneud i fynedfa'r safle, y promenâd a chysylltiadau cerddwyr i ganol y dref. Y costau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 241.

242.

Parc Afon Ewenni pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adrodd ar gynnig i ddatblygu Depo Priffyrdd modern yn Nhred?r ar ôl troed llai er mwyn galluogi’r cynnig i adfywio safle Parc Afon Ewenni i ddatblygu a diogelu gofynion y depo ar gyfer y Cyngor i’r dyfodol fel rhan o’r broses gyffredinol o resymoli’r depo. Gwnaeth hefyd ofyn am gymeradwyaeth ar gyfer diwygio’r Rhaglen Gyfalaf er mwyn cynnwys swm cyfalaf pellach o £4,944,000 yn y Rhaglen Gyfalaf i adnewyddu a datblygu'r depo'n llawn, i'w ariannu drwy werthu tir yn Nhred?r fel rhan o Barc Afon Ewenni ac yn rhannol gan arian cyfalaf cyffredinol. 

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y Cyngor y cafwyd cymeradwyaeth gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2016 fel mesur dros dro i weithredu Depo ôl troed llai yn Nhred?r am y 4/5 mlynedd nesaf er mwyn dod o hyd i gydbwysedd rhwng gweithredu depo dichonadwy a gwneud y mwyaf o’r tir sydd ar gael i’w waredu. Wrth ddatblygu'r strategaeth ar gyfer depo gweithredol ag ôl troed llai yn Nhred?r, cafodd dau ddewis eu nodi a'u hasesu. Dewis 1 i gadw Adeilad y Priffyrdd ac Adeilad Biffa; dymchwel Cyflenwadau'r Fwrdeistref Sirol (CBS), adeilad Fflyd a storfa biniau olwyn. Dewis 2 i gadw Adeilad Biffa, dymchwel CBS, Fflyd, Priffyrdd a'r storfa biniau olwyn. Gwnaeth Bwrdd Parc Afon Ewenni benderfynu datblygu dewis 2 a chwblhawyd y gwaith yn ystod 2017.

 

Adroddodd y byddai unrhyw gyflunio yn y dyfodol o ran ad-drefnu llywodraeth leol yn dal i ofyn am Ddepo Priffyrdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wasanaethu'r Fwrdeistref Sirol. Amcangyfrifwyd y byddai Depo newydd mewn lleoliad newydd yn costio rhwng £9 miliwn a £12 miliwn, o ganlyniad i newid (tebygol) a gofynion mwy beichus gan Cyfoeth Naturiol Cymru. I gydnabod hyn, roedd y dewis o weithredu depo a oedd prin wedi'i newid am 4/5 mlynedd fel mesur dros dro yn unol â chymeradwyaeth y Cabinet ac yna adeiladu depo newydd mewn lleoliad diwygiedig yn edrych yn fwyfwy anfforddiadwy.

 

Dywedodd fod ymchwiliad wedi'i gynnal i nodi’r gwahaniaethau rhwng gweithrediad parhaol yr ôl troed llai am 4-5 mlynedd, gyda depo newydd yn cael ei adeiladu mewn lleoliad newydd wedi hynny, a'r dewis arall o ddatblygu depo gweithredol parhaol ar ôl troed llai yn Nhred?r. Dywedodd mai cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar hyn o bryd ar gyfer y cynllun oedd £4.376 miliwn. Mae rhywfaint o'r gyllideb hon eisoes wedi’i neilltuo i waith yn Nepo Bryncethin, o ganlyniad i symud rhai o weithrediadau’r parciau a’r amgylchedd adeiledig i'r lleoliad hwn, gan adael £3.2 miliwn yn weddill. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau mai oddeutu £8.144 miliwn oedd cost amcangyfrifedig yr opsiwn dewisol; fodd bynnag, roedd diffyg nawr rhwng cost gyffredinol y gwaith cynnal a chadw/cydymffurfio a chyfanswm amcangyfrifedig y derbyniad tir net a'r gyllideb gyfalaf bresennol. Er mwyn datblygu'r dewis hwn, dywedodd fod buddsoddiad cyfalaf pellach o £4.944 miliwn yn ofynnol yn ychwanegol at yr amcangyfrif cyfalaf a oedd yn weddill o £3.2 miliwn, a fyddai'n dod o gyfanswm amcangyfrifedig y derbyniad tir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 242.

243.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B pdf eicon PDF 152 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrth y Cyngor, yng ngoleuni'r cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Addysg ynghylch yr arian ychwanegol sydd ar gael ar gyfer Band B o’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, y bydd Llywodraeth Cymru yn talu 65% o’r costau cyfalaf am ysgol newydd, gyda'r awdurdodau lleol yn talu'r 35% sy'n weddill. Yn achos unedau cyfeirio disgyblion ac ar gyfer cyfleusterau i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, y gyfradd ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru fydd 75%, gyda'r awdurdodau lleol yn talu'r 25% sy'n weddill. Gofynnodd am dynnu’r adroddiad yn ôl er mwyn rhoi cyfle i swyddogion ddadansoddi'r effaith y bydd y newidiadau yn ei chael ar y rhaglen moderneiddio ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:              Bod yr adroddiad yn cael ei dynnu’n ôl a bod adroddiad diwygiedig yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.   

244.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2017-18 pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio Adroddiad Blynyddol ar swyddogaeth Trosolwg a Chraffu'r awdurdod sy'n goruchwylio dull y Cabinet o wneud penderfyniadau ac yn cefnogi gwaith y Cabinet a'r Cyngor.

 

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio fod Adroddiad Blynyddol Craffu 2017-2018 yn darparu manylion ar y canlyniadau a'r cyflawniadau gan Aelodau Craffu a swyddogion yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â nodi meysydd i'w gwella i sicrhau bod y craffu'n dal i ddatblygu ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer trigolion Pen-y-bont ar Ogwr. O ganlyniad i hunanasesu, dywedodd fod y swyddogaeth craffu'n cyflwyno gwasanaeth da ond bod y disgwyliadau gan awdurdodau partner, Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru yn dal i gynyddu.  Nid yw trefniadau craffu rhanbarthol a phartneriaeth wedi'u datblygu'n llawn eto ond maent yn mynd rhagddynt o ganlyniad i sefydlu’r Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Rhoddodd yr Aelodau ddiolch i'r Swyddogion Craffu am y ffordd maent yn dod â'r gwasanaeth at ei gilydd i alluogi'r Pwyllgorau Craffu i graffu ar ystod eang o bynciau. Gwnaeth Aelodau hefyd ganmol y broses Ymchwilio i’r Gyllideb a’i Gwerthuso am ychwanegu gwerth at y broses gyllidebu. Credodd Aelodau, er bod y swyddogaeth graffu yn cael ei chanmol, bod angen iddi ymgysylltu'n well â'r cyhoedd drwy gynnal cyfarfodydd yn y gymuned ac ymgymryd â'r adolygiad o'i bolisïau a'i weithdrefnau. Gwnaeth aelodau'r Cyngor ddiolch i Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am y gwaith gwerthfawr a wneir ganddynt sy'n un o swyddogaethau pwysig yr awdurdod. 

 

PENDERFYNWYD:                 Bod y Cyngor yn nodi cynnwys yr adroddiad.  

         

245.

Hysbysiad o'r Cynnig gan y Cynghorydd Alex Williams

Bod y Cyngor hwn yn:

Gresynu at setliad cyllido dros dro’r llywodraeth leol ar gyfer 2019/2020 a fydd yn arwain at 0.6% o doriad mewn cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Nodi gyda phryder rhybudd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y bydd canlyniadau addysg plant yn cael eu heffeithio gan doriadau mewn cyllidebau ysgolion oni bai y caiff newidiadau mawr eu gwneud i setliad cyllido’r llywodraeth leol.

Croesawu’r £550 miliwn ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn gan Drysorlys Llywodraeth y DU rhwng nawr a 2021 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyllid llywodraeth leol.

Galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei fformiwla cyllido ar unwaith er mwyn i lywodraeth leol ariannu'n ddigonol y pwysau ychwanegol y mae cynghorau’n ei wynebu o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog, cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr i bensiynau athrawon a chynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau a gomisiynwyd yn allanol.

Cymeradwyo argymhellion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei chyhoeddiad diweddaraf, "Cyllid Teg a Chynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Lleol Hanfodol" ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar rymuso awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau ariannol yn lleol gan ddarparu hyblygrwydd ariannol trwy’r Grant Cymorth Refeniw yn hytrach na chanoli cyllid ar ffurf grantiau penodol.

Galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud popeth a all i ddiogelu gwasanaethau craidd mewn cyfarwyddiaethau addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn ei gyllideb ar gyfer 2019/20.

 

Cofnodion:

Wrth gyflwyno Hysbysiad o'r Cynnig, diolchodd y Cynghorydd A Williams yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd am ddylanwadu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch setliad dros dro'r llywodraeth leol. Croesawodd y newyddion fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cyhoeddi'n ddiweddar gyllid ychwanegol i addysg a gofal cymdeithasol ond roedd yn parhau i fod yn setliad heriol er mwyn ariannu'r cynnydd mewn dyfarniadau cyflog a chyfraniadau pensiwn.        

 

“Bod y Cyngor hwn yn:

Gresynu at setliad cyllido dros dro’r llywodraeth leol ar gyfer 2019/2020 a fydd yn arwain at 0.6% o doriad mewn cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Nodi gyda phryder rhybudd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y bydd canlyniadau addysg plant yn cael eu heffeithio gan doriadau mewn cyllidebau ysgolion oni bai y caiff newidiadau mawr eu gwneud i setliad cyllido’r llywodraeth leol.

Croesawu’r £550 miliwn ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn gan Drysorlys Llywodraeth y DU rhwng nawr a 2021 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyllid llywodraeth leol.

Galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei fformiwla cyllido ar unwaith er mwyn i lywodraeth leol ariannu'n ddigonol y pwysau ychwanegol y mae cynghorau’n ei wynebu o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog, cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr i bensiynau athrawon a chynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau a gomisiynwyd yn allanol.

Cymeradwyo argymhellion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei chyhoeddiad diweddaraf, "Cyllid Teg a Chynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Lleol Hanfodol" ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar rymuso awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau ariannol yn lleol gan ddarparu hyblygrwydd ariannol trwy’r Grant Cymorth Refeniw yn hytrach na chanoli cyllid ar ffurf grantiau penodol.

 

Galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud popeth a all i ddiogelu gwasanaethau craidd mewn cyfarwyddiaethau addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn ei gyllideb ar gyfer 2019/20”. 

 

Cafodd yr Hysbysiad o'r Cynnig ei eilio gan y Cynghorydd N Clarke. 

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd gynnig diwygiad i’r Hysbysiad o'r Cynnig gan ychwanegu'r geiriau canlynol i'r Hysbysiad o'r Cynnig: ???

 

“Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i ariannu'n llawn y cynnydd ym mhensiynau athrawon”.    

 

Cafodd y diwygiad hwn ei eilio gan y Cynghorydd RME Stirman.

 

PENDERFYNWYD:            Bod yr Hysbysiad o'r Cynnig gwreiddiol fel y'i diwygiwyd yn cael ei gymeradwyo a bod yr Hysbysiad o’r Cynnig yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol.    

246.

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan y Weithrediaeth gan:

Cwestiwn i’r Aelod Cabinet Member dros Cymunedau wrth Cynghorydd Altaf Hussain

 

A wnaiff Aelod y Cabinet roi gwybod i'r Cyngor a yw gwasanaeth croesfan ysgol yn cael ei ddiddymu?

 

Cwestiwn i’r Arweinydd wrth Cynghorydd Tom Giffard

 

Ar 1 Tachwedd, dywedodd GEM Pen-y-bont ar Ogwr bod Aelod Cabinet CBSC dros Addysg ac Adfywio wedi dweud y byddai 'dirwasgiad enfawr, diweithdra, prinder a hilwyddiad rhyngwladol' yn 'beth da' yn y pen draw pe byddai'n golygu bod Prydain wedi aros o fewn yr UE.

 

A allai'r Arweinydd esbonio sefyllfa'r Cabinet ynghylch y sylwadau hyn, a chadarnhau a ydyn nhw yn ganlyniad dewisol y cyngor ai peidio?

 

 

Cofnodion:

Cwestiynau i Aelod y Cabinet dros Gymunedau gan y Cynghorydd A Hussain

 

A wnaiff Aelod y Cabinet roi gwybod i'r Cyngor a yw’r gwasanaeth croesfannau ysgol yn cael ei ddiddymu?

 

Ymateb Aelod y Cabinet dros Gymunedau:

 

Nid oes cynlluniau i ddiddymu'r gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn gyfan gwbl. Byddai arbediad yr MTFS a gynigiwyd sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd yn deillio o adolygiad o safleoedd Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn unol â'r safonau a gydnabyddir yn genedlaethol.  Sicrhau bod y lleoedd hynny sydd â’r nifer fwyaf o gerddwyr a symudiadau cerbydau yn cael eu cynnal, gan roi’r gorau i'r gwasanaeth o bosibl mewn safleoedd tawelach sydd â lefelau risg is. Mae hefyd yn bwysig amlygu mai’r rhieni neu warcheidwaid sy’n bennaf gyfrifol am sicrhau bod eu plant yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel.

 

Roedd y Cynghorydd Hussain yn edrych ymlaen at adroddiad yr adolygwr ac yn gobeithio y bydd Ysgol Pen y Fai ymysg yr ysgolion lle bydd y gwasanaethau'n cael eu cynnal a gofynnodd gwestiwn ychwanegol ynghylch yr ysgolion hynny lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddiddymu, a wnaiff Aelod y Cabinet roi gwybod sut y bwriedir gwneud croesfannau ysgol yn ddiogel i rieni a phlant eu croesi? Gwnaeth Aelod y Cabinet dros Gymunedau roi gwybod i'r Cyngor fod proses sgorio ar waith er mwyn adolygu Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, sy’n dibynnu ar y math o heol, nifer y cyffyrdd a nifer y bobl. Dywedodd fod y meini prawf o ran nifer y bobl wedi newid ac nad oedd bellach yn ystyried nifer yr oedolion sy'n defnyddio heol benodol. Rhoddodd wybod i'r Cyngor nad oedd yr awdurdod wedi mabwysiadu'r meini prawf newydd ond yn glynu at God 2012.  

 

Gwnaeth aelod o'r Cyngor gwestiynu sut gall yr awdurdod geisio lleihau nifer y rhieni sy’n gyrru eu plant i'r ysgol. Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau wybod i'r Cyngor fod llwybrau Teithio Llesol yn eu lle ac roedd o’r farn y bydd rhieni sy'n mynd â'u plant i'r ysgol ar droed yn parhau i wneud hynny. Dywedodd fod gan y Cyngor gyfrifoldeb i greu llwybrau diogel i'r ysgol. Hysbysodd y Cyngor am yr anawsterau yn recriwtio hebryngwyr croesfannau ysgol.           

 

Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd T Giffard

 

Ar 1 Tachwedd, gwnaeth GEM Pen-y-bont ar Ogwr adrodd bod Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio wedi dweud y byddai 'dirwasgiad enfawr, diweithdra, prinderau a chywilydd rhyngwladol' yn 'beth da' yn yr hirdymor petai'n golygu bod Prydain yn aros o fewn yr UE.

 

A wnaiff yr Arweinydd esbonio sefyllfa'r Cabinet ynghylch y sylwadau hyn, a chadarnhau ai dyma ganlyniad dewisol y Cyngor ai peidio?

 

Ymateb yr Arweinydd:

 

Roedd sylwadau'r Cynghorydd Smith yn fwriadol eironig. Gwnaeth y postiad ar Facebook wedyn gyfeirio ato'n cael ei "arestio am annog gwrthryfel a meddu ar feddyliau anwlatgar", ac yn amlwg, ni fydd hynny'n digwydd! 

 

Wedi iddo sylweddoli bod ei sylwadau wedi'u camddehongli, cafodd wared arnyn nhw oddi ar Facebook. Mae’r rhain yn sylwadau na fyddwn i wedi'u gwneud ac rwyf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 246.

247.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys. 

248.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

O ganlyniad i gymhwyso’r prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitem a enwir isod yn breifat gyda'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod oherwydd y byddai'n cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir uchod.

249.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion wedi’u eithrio cyfarfod y 24/10/18

 

250.

Costau Diswyddo ac Ymddeoliad Cynnar yn fwy na £100,000