Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Democratic Services Manager

Eitemau
Rhif Eitem

276.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Gwnaed y Datganiadau o Fuddiant canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd E Venables fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda – Y Dreth Gyngor: Gostyngiad Dewisol yn y Dreth Gyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi oherwydd bod ganddi eiddo gwag sy’n destun profiant.  Tynnodd y Cynghorydd Venables yn ôl o’r cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried. 

 

Datganodd y Cynghorydd L Walters fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda – Y Dreth Gyngor: Gostyngiad Dewisol yn y Dreth Gyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi oherwydd ei bod hi’n gwerthu eiddo gwag sy’n destun profiant ar hyn o bryd.  Tynnodd y Cynghorydd Walters yn ôl o’r cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried. 

 

Datganodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn eitem 7 yr agenda – Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23 gan fod ei mab yn cael trafnidiaeth ysgol i ysgol arbenigol y tu allan i’r sir.

 

Datganodd y Cynghorydd B Jones fuddiant personol yn eitem 10 yr agenda – Y Dreth Gyngor: Gostyngiad Dewisol yn y Dreth Gyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi oherwydd bod gan ei frawd eiddo gwag. 

 

Datganodd y Cynghorydd G Thomas fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 yr agenda – Y Dreth Gyngor: Gostyngiad Dewisol yn y Dreth Gyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi oherwydd gadawyd cyfran o eiddo gwag iddo sy’n destun profiant.  Tynnodd y Cynghorydd Thomas yn ôl o’r cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried.   

277.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 387 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 23/01/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD: Y dylai cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2019 gael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

278.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr Dros Dro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer wybod i’r Cyngor am ymrwymiadau yr oedd ef a’i Gydweddog wedi eu mynychu yn ystod y mis diwethaf, a oedd yn cynnwys cyngerdd elusen ar gyfer gofalwyr ifanc a gynhaliwyd yn Theatr Sony, Pen-y-bont ar Ogwr, gwasanaeth diolchgarwch i nodi 30 mlynedd ers i Ymddiriedolaeth Hunangymorth Sandville gael ei chychwyn, Gemau OlympAge blynyddol y Gaeaf a chyflwyno tystysgrifau yng ngwobrau’r Coleg Paratoi Milwrol.  Yn ogystal, roedd y Maer a’i gydweddog hefyd wedi mynychu cynhyrchiad Ysgol Porthcawl o’r sioe ‘Oliver’, gwasanaeth yr Holocost yng Nghaerdydd, gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth, beirniadu gwobrau Dinasyddiaeth, lansio gwobrau Cyn-filwyr Cymru yng Nghaerdydd, Caffi Darllen yn Ysgol Fabanod Bryntirion a lansio Cyflogaeth Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd wybod i’r Cyngor am gynnydd wrth greu cyfleuster cymunedol newydd yng Nghlwb Bechgyn a Merched Nantymoel, a oedd yn golygu creu ymddiriedolaeth elusennol, a dywedodd y bydd y cyfleuster yn cael ei lansio’n swyddogol yn ddiweddarach yr wythnos hon.  Bydd y cyfleuster yn ganolfan barhaol i’r tîm plismona cymunedol a bydd hefyd yn gweithredu fel Canolfan Dreftadaeth Cwm Ogwr ac atyniad ymwelwyr i gysylltu Parc Gwledig Bryngarw trwy Lwybr Treftadaeth newydd Cwm Ogwr.  Byddai cyfleusterau hurio beiciau’n cael eu darparu ym Mryngarw hefyd ynghyd ag arddangosiadau gwybodaeth wedi’u cysylltu ag ap lleisiol ar hyd y llwybr.  Dywedodd y byddai celfwaith cyhoeddus a seddau cymunedol newydd yn cael eu lleoli yn safle hen Ganolfan Berwyn hefyd. 

 

Aelod y Cabinet dros Gymunedau    

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau wrth y Cyngor fod preswylwyr Porthcawl yn cael eu gwahodd i fynychu sesiwn wybodaeth galw heibio lle y gallant helpu i ddylanwadu ar gam nesaf y gwaith ar amddiffynfeydd rhag llifogydd y dref.  Bydd y cyfranogwyr yn gallu gofyn cwestiynau a chynnig adborth ar y cynigion, sy’n ategu cynlluniau adfywio ehangach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y dref.  Bydd y sesiwn wybodaeth galw heibio yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn y Grand ddydd Iau 28 Chwefror rhwng 1pm a 7pm. 

 

Dywedodd wrth y Cyngor hefyd fod Gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth blynyddol Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol wedi cael eu cynnal yn ddiweddar i amlygu enghreifftiau rhagorol o ddatblygiad diogel, cynaliadwy, arloesol o ansawdd uchel yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd fod y tîm Rheoli Adeiladu yn cynnal 7,000 o archwiliadau bob blwyddyn ac y bydd yr enillwyr yn symud ymlaen i wobrau rhanbarthol de Cymru a gynhelir ym mis Ebrill.

 

Gobeithiai y byddai’r Aelodau’n croesawu’r Cynllun Ynni Clyfar a gymeradwywyd gan y Cabinet ddoe.  Dywedodd fod y Fwrdeistref Sirol yn un o dair ardal yn unig a ddewiswyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) i arloesi cynlluniau ynni carbon isel, ac yr amcangyfrifir y gallai hyd at £7.4 biliwn gynyddu’r economi leol erbyn 2050.  Mae prosiectau sy’n cael eu datblygu yn cynnwys rhwydwaith gwres Pen-y-bont ar Ogwr i gysylltu cartrefi ac adeiladau cyhoeddus, a chynllun D?r Mwynglawdd Caerau sy’n defnyddio d?r tanddaear fel ffynhonnell wres i gynhesu cartrefi yng Nghwm Llynfi.  Y Cyngor yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddatblygu strategaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 278.

279.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi mynychu digwyddiad lansio’r prosiect Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, sef prosiect a gynlluniwyd i helpu pobl i oresgyn rhwystrau a allai eu hatal rhag datblygu sgiliau newydd a chael gwaith.  Dywedodd fod helpu pobl i ddychwelyd i waith yn arwain at fuddion niferus ac amrywiol, ac o fewn yr uned deulu, fod torri cylch diweithdra’n rhoi esiampl gadarnhaol i blant ac yn helpu i ddarparu modelau rôl sy’n hanfodol i’w datblygiad llwyddiannus.  Mae hefyd yn lleihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus wrth i aelwydydd ddod yn gryfach yn economaidd.  Bydd digwyddiad Ysgol Fusnes Dros Dro yn cael ei gynnal fis nesaf i helpu pobl i gael gwybod mwy am sefydlu eu busnes eu hunain.  Anogodd yr Aelodau i gysylltu â thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr os hoffent ddysgu mwy am y fenter.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor ei fod wedi rhoi diweddariad i’r Aelodau yn flaenorol yngl?n â sut mae’r Cyngor yn cefnogi Bridgend Ford, a’i fod wedi cyfarfod â rheolwyr, staff ac undebau llafur yn y ffatri.  Byddai’n dychwelyd i gyfarfod â nhw eto yn fuan iawn a byddai’n rhoi diweddariad arall i’r Aelodau cyn gynted ag y byddai’r cyfarfod hwnnw wedi digwydd.  Gobeithiai y byddai’r ffatri’n llwyddiannus yn ei chais i adeiladu cerbyd gyriant pedair olwyn newydd Ineos Automotive, ond pe byddai’r gwaethaf yn digwydd, mae cynlluniau fel Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn barod i helpu’r gweithwyr yr effeithir arnynt.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth yr Aelodau fod y Cyngor hefyd yn parhau i ymgysylltu ag ABMU yngl?n ag Ysbyty Maesteg, a’i fod yn falch o weld bod y penderfyniad yngl?n â gwasanaethau dydd wedi cael ei ohirio fel y bydd yr awdurdod iechyd newydd, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, yn penderfynu yn y pen draw ar sut y bydd hyn yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.  Byddai’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda nhw ar gynigion i wella rôl yr ysbyty yn y dyfodol.

280.

Cynllun Corfforaethol 2018-2022 Adolygwyd ar gyfer 2019-20 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd y Prif Weithredwr Dros Dro gymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Corfforaethol 2018-22. 

 

Dywedodd fod gan y Cyngor ddyletswydd i osod amcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac i osod amcanion gwella o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.  Dywedodd fod y Cynllun Corfforaethol presennol ar gyfer 2018-22 yn amlinellu tri amcan llesiant corfforaethol a’i fod wedi cael ei adolygu ar gyfer 2019-20.  Wrth adolygu’r Cynllun, mae’r Cyngor wedi datblygu ei amcanion llesiant ymhellach a bydd y blaenoriaethau hyn, wedi iddynt gael eu cymeradwyo, yn ffurfio amcanion llesiant y Cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i amcanion gwella o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.  

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Dros Dro fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi ystyried y cynllun drafft diwygiedig ar 14 Ionawr 2019 ac wedi gwneud cyfres o sylwadau adeiladol yngl?n â newidiadau ac ychwanegiadau.  Rhoddwyd ystyriaeth i’r sylwadau a, lle bynnag y bo’n ymarferol, gwnaed diwygiadau priodol i’r Cynllun drafft.  Ystyriodd y Cabinet Gynllun Corfforaethol 2018-2022, a ddiwygiwyd ar gyfer 2019-20, ar 12 Chwefror 2019.  Bydd y Cynllun yn cael ei adolygu’n flynyddol gan ystyried amgylchiadau sy’n newid a chynnydd a wnaed tuag at yr amcanion llesiant er mwyn sicrhau y bodlonir gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.  Wedi iddynt gael eu cymeradwyo, bydd y Cynllun yn disodli’r Cynllun Corfforaethol presennol ac yn cael ei gefnogi gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, cynlluniau busnes Cyfarwyddiaethol a chynlluniau gwasanaeth. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, a fu’n drwyadl iawn wrth graffu ar y Cynllun Corfforaethol ac a gyfrannodd at y Cynllun diwygiedig.  Dywedodd fod y Cynllun yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu canolfan chwaraeon d?r ym Mhorthcawl i’w wella fel cyrchfan i dwristiaid; ailddatblygu Neuadd Dref Maesteg yn ganolfan celfyddydau a diwylliannol, datblygu cynlluniau gwres carbon isel, ad-drefnu’r ystâd, datblygu’r rhaglen trawsnewid digideiddio a pharhau i fuddsoddi ym Mand B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. 

 

Gofynnodd Aelod o’r Cyngor pam nad oedd ffigurau nifer yr ymwelwyr wedi’u cynnwys ar gyfer canol tref Maesteg.  Dywedodd yr Arweinydd nad oedd niferoedd ymwelwyr yn cael eu mesur ym Maesteg ar hyn o bryd ac y byddai swyddogion yn darparu gwybodaeth i’r Aelodau am ymarferoldeb mesur nifer yr ymwelwyr.  Dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro wrth y Cyngor nad oes modd o gyfrif nifer yr ymwelwyr yn gywir yng nghanol tref Maesteg gan nad oes camerâu yno, ond y gellid archwilio cost gosod camerâu.   

 

PENDERFYNIAD:   Cymeradwyodd a mabwysiadodd y Cyngor Gynllun Corfforaethol 2018-22, a adolygwyd ar gyfer 2019-20.    

281.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2019-23, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2019-20 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018-19 i 2028-29. 

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi cael ei harwain yn sylweddol gan flaenoriaethau’r Cyngor, ac er y bu gostyngiadau o flwyddyn i flwyddyn, bod Cyllid Allanol Cyfanredol (AEF) wedi golygu bod angen cwtogi’r gyllideb yn sylweddol iawn ar draws meysydd gwasanaeth.  Mae’r Cyngor yn parhau i gyflawni swyddogaeth arwyddocaol iawn yn yr economi leol; mae’n gyfrifol am wariant gros blynyddol o oddeutu £400 miliwn, ac ef yw’r cyflogwr mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cyngor fod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo ochr yn ochr â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-23.  Mae’r ddwy ddogfen yn cyd-fynd â’i gilydd, sy’n golygu bod modd gwneud cysylltiadau penodol rhwng blaenoriaethau’r Cyngor a’r adnoddau a fwriadwyd i’w cefnogi. 

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn amlinellu’r egwyddorion a’r tybiaethau manwl sy’n sbarduno cyllideb a phenderfyniadau gwario’r Cyngor, a’r cyd-destun ariannol y mae’r Cyngor yn gweithredu ynddo, ac yn lliniaru unrhyw risgiau a phwysau ariannol wrth symud ymlaen, ar yr un pryd â manteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai godi. 

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro Drosolwg Ariannol Corfforaethol i’r Cabinet a dywedodd y bydd cyllideb gros y Cyngor oddeutu £420 miliwn ac mai’r gyllideb refeniw net a gynlluniwyd ar gyfer 2019-20 yw £270.809 miliwn.  Amlinellodd y Cyd-destun Ariannol Strategol a dywedodd wrth y Cyngor fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi’i gosod yng nghyd-destun cynlluniau gwariant economaidd a chyhoeddus y DU, a blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.  Yn dilyn cyhoeddi’r setliad llywodraeth leol dros dro ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £550 miliwn ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu sut i wario’r dyraniad hwn.  Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd becyn o gynigion cyllido ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, a fyddai’n cael eu cynnwys yn y gyllideb derfynol.  Derbyniodd y Cyngor ei setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018, a oedd yn golygu gostyngiad 0.1% mewn Cyllid Allanol Cyfanredol, neu £258,000, i’r Cyngor hwn.  Gwrthbwyswyd hyn gan gyfrifoldebau newydd, ac amcangyfrifwyd mai’r gwir effaith i’r Cyngor fyddai gostyngiad o £1.182 miliwn neu -0.61% o gymharu â 2018-19, ac mai’r gwir sefyllfa i’r Cyngor hwn fyddai gostyngiad o -1.07% neu £2.07 miliwn. 

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod Cyllideb Refeniw derfynol 2019-20 yn cynnwys cynnydd 5.4% yn y Dreth Gyngor yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Tachwedd 2018, yr ystyriwyd ei fod yn angenrheidiol i ariannu’r pwysau sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor, yn enwedig pwysau sylweddol o ran cyflogau, prisiau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 281.

Motion Vote Type
TeitlMathMotion Vote Type textResult
To approve the Medium Term Financial Strategy Motion Carried
  • View Motion Vote Type for this item
  • 282.

    Y Dreth Gyngor 2019-20 pdf eicon PDF 604 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Adroddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y gofyniad Treth Gyngor ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, ynghyd â gofynion Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Chynghorau Tref / Cymuned. 

     

    Amlinellodd sut oedd y Cyngor yn bwriadu gwario’r Gyllideb Refeniw Net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-20 a gymeradwywyd ganddo yn y cyfarfod hwn o’r Cyngor.  Y swm i’w ariannu o’r Dreth Gyngor yw £79,001,854 miliwn, sy’n cyfateb i Dreth Gyngor o £1,470.87 ar eiddo Band D, sef cynnydd o 5.4%.  Byddai’r gyllideb net hefyd yn cael ei hariannu trwy Grant Cynnal Refeniw o £145,354,407 ac Ardrethi Annomestig o £46,452,373. 

     

    Adroddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi rhoi gwybod i’r Cyngor y bydd ei braesept ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2020 yn cynyddu i £13,831,719, sy’n cyfateb i Dreth Gyngor o £257.52 ar eiddo Band, gan arwain at gynnydd o 10.28%.  Dywedodd fod y cynnydd yn unol â chyhoeddiad diweddar gan y Swyddfa Gartref a oedd yn dyblu hyblygrwydd y praesept ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sy’n atebol yn lleol trwy roi’r rhyddid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ofyn am £2 ychwanegol y mis yn 2019-20, ac i gynyddu eu praesept Band D £24 yn 2019-20 heb fod angen galw refferendwm lleol.      

     

    Adroddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y gofyniad Treth Gyngor fesul Cyngor Tref a Chymuned.

     

    Heriodd Aelod o’r Cyngor y ffordd yr oedd cynrychiolydd y Cyngor ar Banel y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi pleidleisio.  Dywedodd yr Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau wrth y Cyngor ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y cynnydd 10.28% gan na allai dderbyn lefel uchel y cynnydd a pholisi’r Swyddfa Gartref a oedd wrth wraidd y cynnydd hwnnw.  Dywedodd fod cyllideb yr heddlu wedi cael ei chwtogi flwyddyn ar ôl blwyddyn ac nad oedd y Swyddfa Gartref wedi cydnabod y dylai Heddlu De Cymru dderbyn ychwanegiad am blismona prifddinas, yn wahanol i’r heddluoedd sy’n plismona prifddinasoedd Caeredin a Belfast. 

     

    Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal pleidlais gofnodedig ar y cynigion a gynhwyswyd yn yr adroddiad, ond yn gyntaf, roedd angen pleidlais electronig i weld a oedd consensws o Aelodau o blaid hyn.

     

    Felly, cynhaliwyd pleidlais electronig, a’i chanlyniad oedd:-

     

    O blaid (pleidlais gofnodedig)                Yn erbyn               Ymatal

     

    39                                                           8                           1

     

    Derbyniwyd y bleidlais dros bleidlais gofnodedig ac felly fe’i cynhaliwyd, a’i chanlyniad oedd:-

     

    O blaid                                      Yn erbyn             Ymatal

     

    40                                             9                         1       

     

    PENDERFYNIAD:         Cymeradwyodd y Cyngor:

     

    ·      Dreth Gyngor Band D o £1,470.87 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a

    Thaliadau’r Cyngor ar gyfer eiddo Band D yn 2019-20 ym mhob un o’r ardaloedd cymunedol fel y’u hamlinellir yn Nhabl 6 yr adroddiad.    

    Motion Vote Type
    TeitlMathMotion Vote Type textResult
    To approve the Council Tax 2019-20 Motion Carried
  • View Motion Vote Type for this item
  • 283.

    Strategaethau Rheoli Trysorlys a Chyfalaf ar gyfer 2019-20 Ymlaen pdf eicon PDF 105 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Ceisiodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro gymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019-20, sy’n cynnwys y Dangosyddion Rheoli Trysorlys, Strategaeth Gyfalaf 2019-20 i 2028-29, sy’n cynnwys y Dangosyddion Darbodus a’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol diwygiedig i’w cynnwys yn y Cyfansoddiad.

     

    Adroddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cod Darbodus diwygiedig yn gosod gofyniad newydd ar awdurdodau lleol i bennu Strategaeth Gyfalaf, i’w chymeradwyo gan y Cyngor, sy’n dangos bod yr Awdurdod yn gwneud penderfyniadau ar fuddsoddi a gwariant cyfalaf yn unol ag amcanion gwasanaeth a’i fod yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, gwerth am arian, gochelgarwch, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd. O ganlyniad i newidiadau i’r Codau, bydd y Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus a bydd y Strategaeth Rheoli Trysorlys yn cynnwys y Dangosyddion Rheoli Trysorlys yn unig.

     

    Adroddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019-20 yn cadarnhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â Rheoli Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer, sy’n mynnu bod amcanion, polisïau ac arferion, strategaethau a threfniadau adrodd ffurfiol a chynhwysfawr ar waith i reoli gweithgareddau rheoli trysorlys yn effeithiol, ac mai prif amcanion y gweithgareddau hyn yw rheoli risg yn effeithiol. 

     

    Adroddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cynlluniau Cyfalaf yn dangos bod y Gofyniad Cyllido Cyfalaf (CFR) Benthyciadau, sef angen y Cyngor i fenthyca i ariannu gwariant cyfalaf, yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn o ganlyniad i fenthyca darbodus ychwanegol ynghyd â gostyngiad mewn cyfleoedd benthyca mewnol o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, ac mai’r ffigur benthyca newydd yw £29 miliwn.  Dywedodd mai un o’r amcanion yw cyflawni cydbwysedd rhwng risg ac adenillion.

     

    Adroddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cyngor yn cynllunio gwariant cyfalaf o £36.157 miliwn yn 2019-20 yn y Strategaeth Gyfalaf, a rhoddodd fanylion yngl?n â sut mae’r Cyngor yn bwriadu ariannu’r gwariant hwn.  Amlygodd hefyd sut y bydd mwy o bwysau refeniw ar y cyllidebau ariannu cyfalaf yn ystod cyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, gyda gorwariant rhagamcanol o £595 miliwn yn 2021-22.  Dywedodd Prif Gyfrifydd y Rheolwr Gr?p mai dyna fyddai’r achos gwaethaf, gyda benthyca digymorth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol, ond y byddai’r awdurdod yn ceisio lleihau hynny.  Bydd y Cyngor yn ceisio lleihau’r pwysau refeniw i’r eithaf trwy gynyddu adnoddau cyfalaf amgen i’r eithaf, fel cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a derbyniadau cyfalaf.         

     

    PENDERFYNIAD:         Cymeradwyodd y Cyngor:

     

    ·      Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019-20, gan gynnwys Dangosyddion Rheoli Trysorlys 2019-20 i 2021-22;

    ·      Strategaeth Gyfalaf 2019-20, gan gynnwys Dangosyddion Darbodus 2019-20 i 2021-22;

    ·      Datganiad Darpariaeth Refeniw Leiaf Flynyddol (MRP) 2019-20; a’r

    diwygiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol i’w cynnwys yn y Cyfansoddiad.             

    284.

    Y Dreth Gyngor: Gostyngiad Dewisol yn y Dreth Gyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi pdf eicon PDF 301 KB

    Cofnodion:

    Adroddodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar gynnig i ddiwygio lefel y gostyngiad dewisol sydd ar gael ar y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi, yn weithredol o 1 Ebrill 2019 ymlaen. 

     

    Dywedodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cyngor fod Deddf Llywodraeth Leol 2003 wedi rhoi grymoedd dewisol i awdurdodau lleol leihau neu ddileu’r gostyngiad 50% yn y Dreth Gyngor ar anheddau heb eu meddiannu ac anheddau heb fawr o ddodrefn ynddynt y gellir codi’r Dreth Gyngor arnynt ar ôl i’r cyfnod esemptio 6 mis cychwynnol ddod i ben, a adwaenir fel eiddo Dosbarth C.  Dywedodd fod y Cyngor hwn wedi rhoi gostyngiad 50% yn flaenorol i eiddo a allai berthyn i’r categori hwn.  Dim ond 10 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sy’n parhau i roi gostyngiad 50% ar ôl y cyfnod esemptio 6 mis cychwynnol. 

     

    Amlygodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro y categorïau eiddo gwag y mae’r Cyngor yn rhoi gostyngiad 50% iddynt ar y Dreth Gyngor.  Amlinellodd gynnig i ddileu’r grym dewisol i roi gostyngiad a chodi 100% o’r Dreth Gyngor ar y categorïau a amlinellwyd o 1 Ebrill 2019 ymlaen, ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 ymlaen, a fyddai, yn ei dro, yn annog perchenogion eiddo gwag i beidio â chaniatáu iddynt aros yn wag ac i’w cyflwr ddirywio.  Dywedodd y bydd angen cyhoeddi hysbysiad yngl?n â’r newid hwn o fewn 21 o’r penderfyniad.

     

    PENDERFYNIAD:         Bod y Cyngor:

     

    ·      Yn cytuno i barhau i beidio â rhoi gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar ail gartrefi, heblaw lle y caniateir y gostyngiad yn achos annedd sy’n gysylltiedig â swydd;

    ·      Yn cymeradwyo lefel newydd o 100% o’r Dreth Gyngor sy’n daladwy ar gyfer pob categori a grybwyllwyd yn yr adroddiad yn 4.1 sydd wedi bod yn wag am fwy na 6 mis;

    Yn dirprwyo awdurdod i’r Rheolwr Refeniw weithredu’r newidiadau.     

    285.

    Eitemau Brys

     

    I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

    Cofnodion:

    Nid oedd unrhyw eitemau brys.

     

    Chwilio A i Y

    1. A
    2. B
    3. C
    4. D
    5. E
    6. F
    7. G
    8. H
    9. I
    10. J
    11. K
    12. L
    13. M
    14. N
    15. O
    16. P
    17. Q
    18. R
    19. S
    20. T
    21. U
    22. V
    23. W
    24. X
    25. Y
    26. Z