Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Democratic Services Manager

Eitemau
Rhif Eitem

313.

Datganiad o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

314.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, y Cynghorydd JR McCarthy

Cofnodion:

Rhoddodd y Maer wybodaeth i’r Cyngor am y digwyddiadau yr oedd ef a’i Gymar wedi mynychu yn y mis diwethaf; roedd hynny’n cynnwys agor y cam diweddaraf o’r llwybr diogel i’r ysgol o Ysgol Croesty i Coychurch. Roedd y Maer a’i Gymar wedi ymweld ag ysgol iau Brynteg i glywed stori ddirdynnol Eva Clarke a oroesodd yr Holocost. Dywedodd y Maer wrth y Cyngor ei fod ef a’i Gymar wedi mynychu cinio ymddeoliad Dame Kate Thomas, a oedd yn ymddeol o’i swydd fel Arglwydd Raglaw. 

 

Byddai ef a’i Gymar yn mynychu tri digwyddiad pellach, a diolchodd i’r holl Aelodau a swyddogion am eu cymorth yn ystod ei flwyddyn fel Maer.

315.

Ethol y Maer i’w arwisgo yn y Seremoni Ddinesig Agoriadol ar 22 Mai 2019 a’r Maer (a etholwyd) i gyhoeddi enw ei Gymar/Hebryngwr

Cofnodion:

Gwnaed cynnig a eiliwyd yn briodol ac a gefnogwyd yn unfrydol, y dylid penodi’r Cynghorydd SE Baldwin yn Faer ar gyfer 2019/20.

 

PENDERFYNWYD:       Ethol y Cynghorydd SE Baldwin yn Faer am y flwyddyn i ddod.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd Baldwin mai ei Gymar am y flwyddyn i ddod fyddai ei bartner, Mr Craig Williams.     

316.

Penodi’r Dirprwy Faer i’w arwisgo yn y Seremoni Ddinesig Agoriadol ar 22 Mai 2019 a’r Dirprwy Faer (a etholwyd) i gyhoeddi enw ei Gymar/Hebryngwr

Cofnodion:

Gwnaed cynnig a eiliwyd yn briodol ac a gefnogwyd yn unfrydol, y dylid penodi’r Cynghorydd KJ Watts yn Ddirprwy Faer ar gyfer 2019/20.

 

PENDERFYNWYD:       Ethol y Cynghorydd KJ Watts yn Ddirprwy Faer am y flwyddyn i ddod. 

 

Cyhoeddwyd mai’r Cynghorydd JE Williams fyddai Cymar y Dirprwy Faer am y flwyddyn i ddod. 

 

317.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer oedd newydd ei ethol

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cynghorydd Baldwin ei fod yn anrhydedd mawr iddo gael ei ethol yn Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i fod yn edrych ymlaen at fynychu ystod eang o ddigwyddiadau yn ystod ei flwyddyn yn y swydd. Diolchodd i’r cyn Faer a’i Gymar am y ffordd yr oeddynt wedi gwasanaethu’r Fwrdeistref Sirol gydol eu blwyddyn yn y swydd. 

318.

Ethol Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Gwnaed cynnig a eiliwyd yn briodol, y dylai’r Cynghorydd HJ David gael ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2019/20.

 

PENDERFYNWYD:       Ethol y Cynghorydd HJ David yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y flwyddyn i ddod.

319.

Cytuno ar nifer yr Aelodau i’w penodi i’r Cabinet

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet ar gyfer 2019/20 yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a phedwar Aelod Cabinet yn cefnogi portffolios. 

320.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Diolchodd yr Arweinydd i’w gyd-aelodau am ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac addawodd y byddai unwaith eto yn rhoi ei holl sylw a’i ffocws i’r rôl. Byddai angen ffocws cryf yn y deuddeg mis nesaf, gyda degfed flwyddyn y llymder yn agosáu. Mae’r dyfodol yn parhau i fod yn heriol i lywodraeth leol, gyda gofyn i’r Cyngor arbed £35m ychwanegol yn y blynyddoedd i ddod; bydd hynny’n effeithio’n sylweddol ar wasanaethau lleol a chodiadau yn y dreth gyngor. 

 

Dywedodd wrth y Cyngor bod llywodraeth leol a chymdeithas mewn cyfnod o newid, gyda’r ansicrwydd ynghylch Brexit, y Cyngor bellach yn rhan o ardal awdurdod iechyd newydd, wynebu galwadau cynyddol am fwy o gydweithio rhanbarthol a gweld newidiadau sydyn yn y rolau y mae cynghorau yn eu chwarae ym mywydau pobl sy’n byw ledled y DU.  Dywedodd nad yw’r Cyngor wedi ymatal rhag gwneud penderfyniadau anodd yn ystod y cyfnod hwn, nac ychwaith wedi colli golwg ar sicrhau diogelwch a llesiant parhaus y trigolion mwyaf bregus, er gwaethaf gorfod darparu gwasanaethau yn erbyn cefndir o adnoddau cyfyng a oedd yn gofyn am ethos o gadernid.  

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cyngor wedi penodi Prif Weithredwr newydd, Cyfarwyddwr Addysg a Swyddog Monitro newydd, gyda’r Cyngor yn datblygu ei staff a dyrchafu’n fewnol. Mae’r Cyngor felly’n gallu manteisio ar dîm rheoli newydd sydd â phrofiad helaeth o’r sefydliad, a bydd y Cabinet yn parhau i weithio ochr yn ochr â nhw er mwyn wynebu heriau’r dyfodol yn uniongyrchol. 

 

Roedd yr Arweinydd yn cydnabod ymdrechion staff ar bob lefel dros y naw mlynedd diwethaf, sydd wedi bod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau’r cyngor a chynnal safonau uchel mewn amgylchiadau eithriadol o anodd. Mae torri dros 400 o swyddi o’r sefydliad wedi cynyddu’r gofynion a roddir ar staff ar bob lefel o fewn y sefydliad, ond roedd yn galonogol gwybod bod gan yr awdurdod weithlu medrus ac ymroddgar wrth edrych ar y flwyddyn sydd i ddod.

 

Er bod llai o adnoddau gan y Cyngor, dywedodd yr Arweinydd ei fod bob amser yn ceisio cydbwyso hyn gydag arloesedd a buddsoddiad yn y dyfodol. Dywedodd hefyd na ddylai’r Cyngor fyth golli golwg o’r angen i fuddsoddi yn ei gymunedau, moderneiddio a newid gwasanaethau a buddsoddi mewn pobl ifanc. Mae’r Cyngor wedi agor cyfleuster Gofal Ychwanegol yn Ynysawdre a bydd ail gyfleuster yn agor cyn hir ym Maesteg. Mae cartrefi preswyl i blant wedi cael eu hail-fodelu i ddarparu hwb gydag uned asesu tymor byr newydd sy’n cynnwys gofal therapiwtig arbenigo am y tro cyntaf, ac uned frys newydd. Mae hyn wedi helpu i osgoi trefnu lleoliadau tu allan i’r sir mewn llety diogel. 

 

Mae’r Cyngor wedi cydweithio gyda sefydliadau fel iechyd a Heddlu De Cymru i sefydlu Hwb Diogelu Aml Asiantaeth; mae hyn yn helpu i ymateb i bryderon ynghylch diogelu mewn modd cydlynol ac effeithiol. Mae’r Cyngor hefyd wedi cytuno i gefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal trwy sicrhau eu bod wedi’u heithrio rhag talu’r dreth gyngor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 320.

321.

Yr Arweinydd i benodi Aelodau’r Cabinet

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:      Penododd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol i’r Cabinet:-

 

                                         Cynghorydd HW Williams

                                         Cynghorydd D Patel

                                        Cynghorydd PJ White

                                         Cynghorydd CE Smith

                                         Cynghorydd RE Young

322.

Gallai’r Arweinydd gyhoeddi Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o blith yr Aelodau hynny a benodwyd i’r Cabinet a gallai gyhoeddi penodi Aelodau’r Cabinet i bortffolios

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cyhoeddodd yr Arweinydd mai’r Dirprwy Arweinydd ar gyfer 2019/20 fyddai’r Cynghorydd HM Williams, ac y byddai’n gyfrifol am Adnoddau.

 

                                  Ychwanegodd y byddai’r Aelodau Cabinet canlynol yn gyfrifol am y portffolios dan sylw:-

 

                          Cynghorydd D Patel – Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol

                          Cynghorydd PJ White – Gwasanaethau Cymdeithasol a

       Chymorth Cynnar

                          Cynghorydd RE Young – Cymunedau

                          Cynghorydd CE Smith – Addysg ac Adfywio

323.

Rhaglen Arfaethedig o Gyfarfodydd Cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau’r Cyngor pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i gynnig rhaglen o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor a Phwyllgorau’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn drefol Mai 2019 – Ebrill 2020 i’w chymeradwyo, ac i nodi’r rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn drefol Mai 2020 – Ebrill 2021. 

 

Cyhoeddodd y Swyddog Monitro fod un newid i’r rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn 2019-2020, sef bod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn newid o 18 Gorffennaf 2019 i 17 Gorffennaf 2019.

 

Gofynnodd aelod a fyddai modd adolygu amserau’r cyfarfodydd, ac a fyddai modd ystyried cynnal rhai cyfarfodydd o’r Cyngor gyda’r hwyr. Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor y byddai’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried elfennau o’r Cyfansoddiad er mwyn adolygu’r cyfnod amser ar gyfer cyflwyno Cwestiynau a Chynigion, a hefyd amserau cyfarfodydd y Cyngor. Byddai adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Cyngor yn:-

 

(1)    Cymeradwyo’r rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2019/20 fel y nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad. 

 

(2)    Cymeradwyo’r rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd Pwyllgorau’r Cyngor a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn, yn amodol ar y newid uchod.

 

(3)    Nodi rhaglen dros dro cyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgorau ar gyfer  2020/21, a nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn.

 

(4)         Nodi dyddiadau Cabinet, Pwyllgorau’r Cabinet a Chydbwyllgor y Cabinet sydd hefyd wedi’u nodi yn Atodiad 1 i’r adroddiad hwn, er gwybodaeth.   

324.

Penodiadau i Bwyllgorau’r Cyngor a Chyrff Eraill y Cyngor yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Swyddog Monitro am gymeradwyaeth ar gyfer penodi Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a pha bynnag Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Panelau a chyrff eraill y mae’r Cyngor yn ystyried eu bod yn briodol, i ymdrin â materion nad ydynt wedi’u neilltuo i’r Cyngor llawn nac ychwaith yn swyddogaethau gweithredol. 

 

Nododd y Swyddog Monitro bod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gwneud nifer o ofynion mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, gan gynnwys Aelodaeth Leyg a phenodi’r Cadeirydd. Mae’n ofynnol i’r Cadeirydd dan y Mesur gael ei benodi gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod cyntaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer 13 Mehefin 2019. O ran Aelodaeth Leyg y Pwyllgor hwn, cafodd Ms J Williams ei hailbenodi am dymor pellach yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 17 Mai 2017, ac yn unol â’r Mesur, mae ganddi hawl i wneud uchafswm o ddau dymor ar y Pwyllgor yn y rôl hon.

 

Nododd y Swyddog Monitro hefyd bod newid i gylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio i gynnwys y swyddogaeth ganlynol “Derbyn copi o adroddiad ynghylch y digwyddiadau a’r methiannau agos y rhoddwyd gwybod amdanynt dan Weithdrefn Rhoi Gwybod am Ddigwyddiadau a Methiannau Agos Rheolaeth Risg Corfforaethol (ac eithrio Iechyd a Diogelwch”.   

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod gan y Pwyllgor Safonau saith aelod ar hyn o bryd, a bod lle gwag ar gyfer Cynghorydd Tref a Chymuned. Argymhellodd y dylai’r aelodaeth barhau’r un fath ar hyn o bryd ac y dylid newid Rhan 3 y Cyfansoddiad mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Safonau i gyd-fynd â hyn. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro hefyd bod gan y Cyngor Bwyllgor Penodi ar waith er mwyn cyfweld a phenodi staff lefel JNC, sy’n cynnwys swyddi dynodedig megis y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth. Er mwyn cynnwys pob un o’r Arweinwyr Grwpiau gwleidyddol ar y Pwyllgor Penodi, cynigir y dylid ychwanegu 2 Aelod, sef Arweinydd Gr?p Annibynwyr Llynfi a sedd ychwanegol i’r Gr?p Llafur i gynnal eu lefel priodol o gynrychiolaeth ar Bwyllgorau yn gyffredinol.     

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor bod y Mesur hefyd yn sefydlu gweithdrefnau lle mae Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu henwebu a’u penodi. Mae’r Mesur yn mynnu bod Cadeiryddion y Pwyllgorau hyn yn cael eu penodi fel isafswm ar sail maint a chydbwysedd gwleidyddol pob un o’r grwpiau sy’n rhan o’r Cyngor. Yn unol â chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor, a’r fformiwla a ddefnyddir o dan y Mesur Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyrannu Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu, dylai’r rhain gael eu dyrannu i’r grwpiau gwleidyddol canlynol:

              

Gr?p Gwleidyddol

Nifer y Cadeiryddion i’w dyrannu

Llafur

1 Cadeirydd

Ceidwadwyr

1 Cadeirydd

Cynghrair Annibynnol

1 Cadeirydd

Annibynwyr Llynfi

0 Cadeirydd

Plaid Cymru

0 Cadeirydd

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor nad yw swydd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol wedi ei dyrannu, ac felly yn unol â’r Mesur, bydd yn cael ei benodi gan aelodau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol o blith un o Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu ar Bynciau ond ni all fod yn Gadeirydd sy’n cynrychioli’r Gr?p Gweithredol.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 324.

325.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol a Phwyllgorau eraill pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Swyddog Monitro am gymeradwyaeth y Cyngor i benodi Aelodau i Banel Heddlu a Throseddau De Cymru, Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a Gr?p Cynllunio Strategol De Ddwyrain Cymru.

 

PENDERFYNWYD:        Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r enwebiadau canlynol i’r cyrff a restrir isod:-

 

                                       Panel Heddlu a Throseddau De Cymru – Cynghorydd RE Young

 

Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd - Cynghorydd JP Blundell

 

Gr?p Cynllunio Strategol De Ddwyrain Cymru – Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu

326.

Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019/2020 pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro wybodaeth i’r Cyngor am Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel ac amrediad y gydnabyddiaeth ariannol y mae’n rhaid i’r Awdurdod ei rhoi i Aelodau ar gyfer y flwyddyn drefol 2019/20.

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro grynodeb o benderfyniadau’r Panel mewn perthynas â lefel y cyflog sylfaenol; uwch gyflogau; cyflogau’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd; Aelodau’r Cabinet; Cadeiryddion Pwyllgorau; Arweinydd y gr?p wrthblaid mwyaf; arweinwyr grwpiau’r gwrthbleidiau; cyflogau dinesig ac aelodau cyfetholedig. Dywedodd bod Adroddiad Blynyddol Drafft y Panel wedi bod yn destun ymgynghoriad â holl gynghorau Cymru. Dywedodd hefyd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi gwneud sylwadau ac wedi penderfynu ysgrifennu at y Panel yn nodi ei fod yn cefnogi’r penderfyniadau, ond bod angen hefyd i Banel Annibynnol Cymru ystyried y pwysau sydd ar gyllidebau awdurdodau lleol wrth osod lefelau cyflog. Roedd hefyd yn gofyn i’r Panel fod yn ofalus wrth benderfynu ar ddyfarniadau cyflog gan fod angen i’r Cyngor ddangos i’r cyhoedd ei fod yn ymwybodol o gyfyngiadau ar y gyllideb wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.   

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor y byddai cyflwyno’r cynigion hyn yn codi cost cyflogau Aelodau, sef £268 fesul Aelod Etholedig, sy’n cyfateb i £14,472.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cyngor:

 

(1)      yn nodi’r penderfyniadau a’r argymhellion o fewn Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaethau Ariannol mewn perthynas â’r lefel a’r amrediad y mae’n rhaid i’r Awdurdod ei dalu i’w Aelodau ar gyfer y flwyddyn drefol     2019/20;

 

(2)     Yn cymeradwyo:

 

·mabwysiadu penderfyniadau perthnasol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaethau Ariannol o fewn ei adroddiad ar gyfer 2019;

 

·y swyddi hynny (fel y dangosir yn Rhestr ddiwygiedig Cydnabyddiaethau Ariannol i Aelodau), a fydd yn derbyn cyflog uwch/cyflog dinesig; 

 

·lefel y gydnabyddiaeth ariannol i’r Cyflogau Uwch a Dinesig (lle bo hynny’n briodol); 

 

·Rhestr ddiwygiedig Cydnabyddiaethau Ariannol i Aelodau yn Atodiad 2, er mwyn i’r rhestr ddod i rym o 15 Mai 2019 (Cyfarfod Blynyddol y Cyngor). 

 

bod Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau yn cael ei diweddaru gydag unrhyw newidiadau y gwna’r Cyngor i swyddi Cyflogau Uwch/Dinesig yn ddiweddarach yn ystod blwyddyn drefol 2019/20.   

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z