Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Democratic Services Manager

Eitemau
Rhif Eitem

327.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

328.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 90 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/04/19, 01/05/19 a 15/05/19

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD     Bod cofnodion cyfarfodydd y Cyngor ar 17 Ebrill a 1 Mai 2019 a chyfarfod blynyddol y Cyngor ar 15 Mai 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

329.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Derbyniodd y Cyngor hysbysiad gan y Maer yn ymwneud â’r ymgysylltiadau yr oedd wedi'u cynnal ers ei Urddo, gan gynnwys mynychu G?yl Maesteg a mynychu YMCA Porthcawl i nodi pen-blwydd y Sefydliad Cenedlaethol yn 175 oed.  Hyd yma, y mae fwyaf balch o gwrdd â disgyblion Ysgol Gyfun yr Archesgob McGrath yn Rowndiau Terfynol Cwmniau Young Enterprise ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd, a dysgu am eu busnes 'Archways', offer adolygu sy’n defnyddio olewau persawrus.  Enillodd y disgyblion rownd derfynol Cymru a byddant yn parhau i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol DU Young Enterprise.  Dymunodd y Maer bob lwc i’r disgyblion.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor heddiw yn nodi National Refill Day, sef ymgyrch i leihau'r defnydd o blastig untro drwy annog bwytai, caffis, a busnesau i ail-lenwi poteli d?r cwsmeriaid am ddim.  Gall busnesau gofrestru ar-lein yn refill.org.uk, tra gall pobl lawrlwytho ap sy'n dangos iddynt lle gallant lenwi eu poteli. 

 

Rhoddodd wybod i'r Aelodau hefyd am adroddiadau'n ymwneud â dau ddyn sy'n ffugio bod yn swyddogion sbwriel 3GS newydd, ac sy’n mynnu taliadau arian parod ar unwaith ar gyfer troseddau taflu sbwriel.  Anogodd y cyhoedd i gadw llygad am y sgam a dywedodd fod y swyddogion gorfodaeth bob amser yn gwisgo bathodynnau a chardiau adnabod swyddogol a byth yn gofyn am daliad arian parod.  Bydd swyddogion gorfodaeth yn rhoi tocyn sydd arno fanylion y drosedd ac sy’n cynnig dulliau o dalu. 

 

Soniodd y Dirprwy Arweinydd am ddau brosiect Trosglwyddo Asedau hefyd.  Yn gyntaf, y parc sglefrfyrddio newydd ym Mhencoed, sy’n denu llawer o ymwelwyr.  Mae’r prosiect £59,000 wedi dod yn sgil partneriaeth rhwng yr Awdurdod â Chyngor Tref Pencoed.  Yn ail, mae £550,000 wedi’i wario ar Glwb Rygbi Bryncethin er mwyn ei drawsffurfio’n ganolfan gymunedol newydd, dyma ffrwyth llafur caled gan y Clwb a wnaed gyda chefnogaeth y tîm Trosglwyddo Asedau Cymunedol.   Cafodd y ddau brosiect eu cwblhau er budd eu cymunedau lleol. 

 

Aelod Cabinet Gwasanaeth Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wrth yr Aelodau fod y côr gofalwyr, Off Duty, wedi dathlu wythnos gofalyddion drwy ryddhau sengl a fideo elusen am y tro cyntaf.  Dywedodd fod y côr wedi'i ffurfio er mwyn rhoi cyfle i ofalwyddion lleol gael amser i'w hunain ac i gymdeithasu.  Mae'r côr wedi cael ei sefydlu gyda chefnogaeth y Cyngor, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a Chanolfan Gofalyddion Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd wrth ei fodd yn gweld fod menter newydd o'r enw 'Super-Agers' ar gyfer gwella iechyd meddyliol a chorfforol oedolion h?n am derbyn cyfran o gyllid o £5.4m.  Nod y cynllun yw sefydlu rhaglen gweithgarwch corfforol ranbarthol ar gyfer oedolion 50 oed a throsodd i'w helpu i fyw'n iach ac yn egnïol gan leihau'r pwysau ar wasanaethau cymorth.  Mae’r cynllun yn un o 17 o brosiectau sy'n elwa o’r Gronfa Iach ac Egnïol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenhedlaethau’r Dyfodol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 329.

330.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod Ford yn bwriadu cau ei Ffatri Beiriannau y flwyddyn nesaf.  Mae cyfarfod lefel uchel rhwng arweinwyr busnes lleol a chyflogwyr yn cael ei drefnu i drafod cydweithio i helpu'r economi leol i ymateb i’w chau.  Mae'r Cyngor hefyd yn ail-lansio dwy fenter ariannu fawr a fydd yn cefnogi cwmnïau'r gadwyn gyflenwi a busnesau a gaiff eu heffeithio gan y cyhoeddiad.

 

Dywedodd fod Ford wedi’u hen ystyried fel cwmni angori yn economi De Cymru, a bydd y Gronfa Adfywio Arbennig yn helpu cwmnïau lleol i arallgyfeirio a buddsoddi er mwyn ffynnu a manteisio ar gyfleoedd busnes newydd.  Mae'r Gronfa Kick Start yn ceisio cefnogi busnesau newydd a chreu swyddi ffres o fewn eu tair blynedd gyntaf o fasnachu drwy eu helpu i fuddsoddi mewn offer a chostau cychwyn eraill.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd camau cyflym a brys gyda'r newyddion bod tîm ymateb arbennig yn cael ei gynnull i gefnogi gweithwyr, busnesau a chymunedau lleol.  Bydd y Cyngor yn cynnig cymorth diswyddo i weithwyr y ffatri beiriannau, yn ogystal â mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd.  Dywedodd fod staff Ford yn weithwyr medrus o'r radd flaenaf, a lle bynnag y bo'n bosibl bydd y Cyngor yn annog busnesau eraill o fewn y fwrdeistref sirol i gynnig gwaith arall iddynt.  Mae nifer o fentrau ar waith a allai gefnogi hyn, megis Cronfa ReAct sy'n helpu cyflogwyr newydd i gwrdd â chostau recriwtio a hyfforddi, neu raglen cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr sy'n helpu pobl i addasu, i ailhyfforddi, i ennill sgiliau newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

 

Dywedodd, os bydd y cau yn digwydd, y bydd angen buddsoddiad sylweddol ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn gwrthbwyso rhywfaint o'r effaith enfawr a gaiff hyn ar yr economi leol, ar yr ardal, ac ar y gymuned.  Cyhoeddodd yr Arweinydd y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mater pryderus hwn. 

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod mynediad cyhoeddus llawn at Town Beach, Porthcawl ar ei newydd wedd wedi'i adfer yn ddiweddar.  Mae cwblhau'r amddiffynfeydd môr newydd gwerth £3m wedi gweddnewid yr ardal, a elwid gynt yn draeth tarmac, yn llwyr.  Mae dyluniad y terasau yn golygu eu bod yn dargyfeirio grym y tonnau i'r naill ochr a'r llall, yn hytrach na thua’r lan yn uniongyrchol.  Bydd hyn yn sicrhau bod 260 o adeiladau, gan gynnwys y Pafiliwn mawr, ar lan y môr yn cael eu gwarchod rhag llifogydd ac erydu arfordirol.  Diolchodd i bawb a fu'n gysylltiedig â chwblhau’r prosiect. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd ei longyfarchion i Ysgol yr Archesgob McGrath a gafodd gydnabyddiaeth hyn yng ngwobrau Young Enterprise Waled yn ddiweddar, a hynny wedi i ddisgyblion sefydlu prosiect o'r enw ‘Archways' sy'n hyrwyddo aromatherapi fel cymorth adolygu.  Mae'r gwobrau yn helpu i adeiladu sgiliau trosglwyddadwy ac annog dyfeisgarwch, a chan iddynt ddod i’r brif, yr ysgol fydd bellach yn cynrychioli Cymru yng  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 330.

331.

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau Dyfodol  

A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu’r prif argymhellion ar adroddiad diweddar Arolygiad Prawf EM ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid ym Mae’r Gorllewin?

 

Cynghorydd R Stirman i’r Aelod Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

A allai’r aelod Cabinet perthnasol roi gwybod beth yw’r gost ychwanegol i BCBC am gyflenwi gofal a chymorth i aelodau’r ystâd ddiogel am fod y grant gan Lywodraeth Cymru wedi’i rannu ar draws y 22 Awdurdod Lleol i gyd yn hytrach na thrwy grant uniongyrchol i’r ALlau hynny a oedd â charchar o fewn eu ffiniau?

 

Cynghorydd A Hussain i’r Dirprwy Arweinydd

All yr Aelod Cabinet mewn gofal o dwristiaeth roi gwybod i'r Cyngor am ei gynlluniau i gefnogi sgiliau yn y sector twristiaeth yn ogystal â rhoi gwybod i ni am y bylchau mewn darpariaeth a data, a hefyd ddangos sut y gallai’r Cyngor wneud ein cyrchfannau glan y môr yn boblogaidd?

 

Cynghorydd M Voisey i’r Dirprwy Arweinydd

A wnaiff y dirprwy arweinydd ddweud wrth y cyngor pa sancsiynau, os oes sancsiynau o gwbl, sydd wedi’u gosod ar Kier, yngl?n â’r contract gwastraff, ers eu penodi?

 

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn Gan y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu prif argymhellion yr adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn y Bae Gorllewinol?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet

 

Gellir gweld argymhellion Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi ar dudalen 7 yr adroddiad arolygu llawn.

 

Gwnaed 14 o argymhellion mewn perthynas â nifer o bartneriaid ac fe'u nodir isod:

 

Dylai Bwrdd Rheoli Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin:

 

1.          Adolygu ac egluro ei rôl a'i swyddogaeth, gan gynnwys yr holl bartneriaid statudol, a gweithio mewn ffordd effeithiol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu i safon ddigonol.

 

2.          Sicrhau bod asiantaethau partneriaeth yn darparu cymorth a gwasanaethau priodol.

 

3.          Datblygu goruchwyliaeth effeithiol o waith y gwasanaeth a her effeithiol i bartneriaid.

 

4.          Datblygu cynllun clir i reoli'r gwaith o ddadgyfuno timau troseddau ieuenctid unigol o'r gwasanaeth, a hynny er mwyn cyfyngu ar unrhyw effaith andwyol ar y rhannau sy'n weddill o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin.

 

5.          Darparu'r adnoddau a'r gefnogaeth i'r tîm rheoli allu rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.

 

6.          Adolygu rôl a swyddogaeth y gwasanaeth atal.

 

Dylai Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin:

 

7.          Sicrhau bod yr holl staff yn cael goruchwyliaeth briodol a goruchwyliaeth gan reolwyr.

 

8.          Adolygu'r strwythur rheoli a'r llinellau atebolrwydd.

 

Dylai Cyfarwyddwyr y gwasanaethau plant:

 

9.          Monitro ac adolygu'r holl achosion lle ceir problemau diogelwch a lles, gan sicrhau bod atgyfeiriadau priodol yn cael eu gwneud a bod gwaith ar y cyd yn digwydd yn ôl yr angen.

 

10.        Gwella ansawdd (ac ymwybyddiaeth staff) o'r systemau atgyfeirio fel bod plant a phobl ifanc yn derbyn y gwasanaethau y maent eu hangen.

 

Dylai gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol:

 

11.        Adolygu effeithiolrwydd protocolau rhannu gwybodaeth i sicrhau bod yr holl ysgolion a’r gweithwyr sy'n gysylltiedig gyda’r wybodaeth y maent eu hangen i ddarparu cymorth wedi'i deilwra at anghenion unigol plant a phobl ifanc.

 

12.        Datblygu strategaethau effeithiol i annog plant a phobl ifanc sy ' n siarad Cymraeg i fanteisio ar wasanaethau yn eu hiaith ddewisol, ac i ddefnyddio, datblygu, a chydnabod gwerth yr iaith fel sgìl cyflogaeth

 

13.        Datblygu strategaeth llythrennedd a rhifedd i gynorthwyo plant a phobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau hyn.

 

Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:

 

14.        Darparu gwasanaethau iechyd corfforol, iechyd rhywiol, iechyd emosiynol, a iechyd meddwl perthnasol ac amserol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc er mwyn lleihau niwed pellach ac er mwyn hybu lles.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thomas pa gynlluniau sydd gan yr Aelod Cabinet i weithredu argymhellion yr Arolygiaeth Prawf.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol fod cynllun gweithredu ôl-arolygiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ebrill 2019.  Caiff y cynllun gweithredu ôl-arolygiad ei fonitro gan bartneriaid, gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn fodlon gyda’r cynnydd da a wnaed hyd yma.  Bu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn hysbysu'r Cyngor bod gwaith helaeth yn cael ei wneud gyda staff a phartneriaid, a fod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 331.

332.

Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Bu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn hysbysu'r Cyngor am ganlyniadau arolygiad diweddar Estyn o wasanaethau addysg llywodraeth leol y Cyngor. 

 

Adroddodd fod yr arolygiad wedi cael ei gynnal gan Estyn ym mis Mawrth 2019, o dan y Fframwaith Arolygu Addysg Llywodraeth Leol newydd.  Roedd arolygwyr o Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhan o'r tîm arolygu.  Roedd ystod eang o randdeiliaid yn rhan o'r arolygiad hefyd, gan gynnwys Aelodau etholedig, swyddogion, penaethiaid, dysgwyr, ac aelodau o'r cyhoedd. 

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylw at y cryfderau a'r meysydd i'w datblygu mewn perthynas ag Ardaloedd Arolygu (IA) 1 – Canlyniadau; IA2 – Gwasanaethau Addysg, ac IA3 – Arweinyddiaeth a Rheolaeth.  Tynnodd sylw hefyd at yr argymhellion a wnaed gan Estyn.  Dywedodd fod Estyn, er mwyn cydnabod arferion nodedig yr awdurdod, wedi gwneud cais iddynt ddarparu astudiaeth achos ar eu gwaith yn ymwneud â chyfranogiad pobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniadau mewn ysgolion ac o fewn awdurdod lleol, a hynny er mwyn ei ledaenu ar wefan Estyn.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r awdurdod yn sicrhau bod yr argymhellion a wnaed gan Estyn yn cael eu gweithredu mewn modd amserol yn y cynllun ôl-arolygiad.  Roedd yn falch o weld bod Estyn wedi cydnabod gwaith y Cyngor o ran cynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau, gan gynnal cyfarfodydd misol gyda'r Maer Ieuenctid ac roedd yn gwerthfawrogi mewnbwn y Cyngor Ieuenctid wrth wneud polisi.  Diolchodd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, i’r Swyddogion, i holl Aelodau'r Cyngor, ac i’r rhanddeiliaid am wneud gwahaniaeth i bobl ifanc. 

 

Gofynnodd Aelod o'r Cyngor am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gyda'r cynllun ôl-arolygiad.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrth y Cyngor bod cynllun manwl wedi'i lunio er mwyn edrych ar y blaenoriaethau allweddol ac roedd yn croesawu'r elfen o graffu yn hynny o beth. 

 

Holodd Aelod o'r Cyngor beth oedd yn cael ei wneud i nodi a darparu cymorth i ofalwyr ifanc.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a chymorth i deuluoedd fod gwaith ar y gweill i gefnogi gofalwyr ifanc, ond bod angen i ofalwyr ifanc gynnig eu hunain er mwyn iddynt allu derbyn cymorth.

 

Holodd Aelod o'r Cyngor am y cymorth a roddir i grwpiau sy’n agored i niwed lle gallai apwyntiadau ysbyty gael effaith andwyol ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd a phartneriaid i gynorthwyo grwpiau agored i niwed.  Roedd Tîm Grwpiau Agored i Niwed wedi'i sefydlu i weithio gydag ysgolion a phartneriaid. 

 

Mynegwyd pryder gan Aelod yngl?n â safon llythrennedd mewn ysgolion cynradd, gyda dibyniaeth ar y Consortiwm a ph'un a oedd y Cyngor yn cael gwerth am arian gan y Consortiwm.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod y profion darllen yn unol â'r disgwyliadau.  Dywedodd fod 3 ysgol gynradd yn peri pryder a bod gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Consortiwm i fynd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 332.

333.

Adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol - Newidiadau i Aelodaeth Pwyllgorau pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor am ganlyniad adolygiad o gydbwysedd gwleidyddol yr Awdurdod, yn sgil newid yn aelodaeth y gr?p Plaid Cymru, a cheisiodd am gymeradwyaeth o’r cydbwysedd gwleidyddol diwygiedig.  Dywedodd wrth y Cyngor na fyddai'r Cynghorydd R Stirman yn eistedd fel aelod Annibynnol ar ei ben ei hun bellach am ei fod wedi ymuno â gr?p Plaid Cymru.  Nid yw'r newid yn effeithio ar y seddi a neilltuir ar hyn o bryd i'r Cynghorydd Stirman.           

 

PENDERFYNWYD……………….Fod y Cyngor yn:

 

(a)           Nodi’r newid yng nghyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor

 

Cymeradwyo’r neilltuad o seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r rheolau yngl?n â chydbwysedd gwleidyddol fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

334.

Nodi Adroddiad Gwybodaeth pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol ar yr adroddiad gwybodaeth canlynol, a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor:

 

Penderfyniadau Dirprwyedig Brys

 

PENDERFYNWYD:           Fod y cyngor yn cydnabod cyhoeddiad y ddogfen a restrir yn yr adroddiad.

335.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

336.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.  

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           O dan adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad At Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitemau canlynol o fusnes gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio fel y'i diffinnir ym mharagraff 12 o ran 4 a pharagraff 21 o ran 5 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

 

Ar ôl cymhwyso'r prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitemau a oedd wediu tangrybwyll yn breifat, gyda'r cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio fel y nodwyd uchod.

337.

Cadarnhau Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion wedi’u eithrio cyfarfod y 17/04/19 a 01/05/19

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:    Bod cofnodion eithriedig cyfarfodydd y Cyngor ar 17 Ebrill a 1 Mai 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z