Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Andrew Rees Democratic Services Manager
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau Buddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008 Cofnodion: Dim |
|
Cadarnhau Cofnodion PDF 137 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 23/10/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 23 Hydref 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
Derbyn cyhoeddiadau gan: (i) Maer (neu berson sy'n llywyddu) (ii) Aelodau'r Cabinet (iii) Prif Weithredwr Cofnodion: Y Maer
Rhoddodd y Maer hysbysiad i’r Cyngor ynghylch ei weithgareddau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys mynychu gwobrau gwirfoddolwyr BAVO, sy’n dathlu’r bobl leol hynny sy’n cyfrannu eu hamser er budd eraill yn y gymuned. Cafodd y fraint o gyflwyno gwobr Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn i Shannie Bowen, sy’n cynnal cyfarfodydd wythnosol gydag arweinyddion Pobl Ifanc Egnïol Maesteg trwy gydol y flwyddyn ysgol, gan eu helpu gyda'u llyfrau gwaith, eu cefnogi â'u cynnydd, a threfnu lleoliadau gwaith.
Roedd enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Flynyddol y Maer bellach yn cael eu derbyn, a'r gwobrau yn agored i bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â grwpiau a busnesau lleol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan CBS Pen-y-bont ar Ogwr a gellir lawrlwytho ffurflen enwebu. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 24 Ionawr, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad ym mis Mawrth.
Cafodd y Maer yr anrhydedd o gynrychioli'r Awdurdod yn nigwyddiad Sul y Cofio a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan osod torch ar ran CBS Pen-y-bont ar Ogwr a'i thrigolion.
Cyhoeddodd y Maer fod y digwyddiad "Music with the Mayor" cyntaf, a gynhaliwyd yn Court Colman ar 10 Tachwedd, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan gasglu £1,300 ar gyfer elusen y Maer.
Atgoffodd y Cynghorwyr y byddai'n casglu ar gyfer y banc bwyd yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Rhagfyr. Gall cynghorwyr hefyd ddod â'u calendrau adfent gwrthdro fel bo modd i’r banc bwyd eu casglu, ac anogodd bawb i gymryd rhan.
Cyhoeddodd hefyd fod uned newydd-anedig Ysbyty Tywysoges Cymru wedi derbyn gwobr bwysig gan UNICEF, am y cymorth y mae'r Uned yn ei roi i famau a babanod. Dywedodd fod yr Uned ar flaen y gad yng Nghwm Taf ac yng Nghymru hefyd.
Dirprwy Arweinydd
Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd hysbysiad i’r aelodau yngl?n â’r ystod eang o ddigwyddiadau lleol a gynhelir ledled y fwrdeistref fel bo modd iddynt roi gwybod i’w hetholwyr. Bydd digwyddiadau'n dechrau ar 22 Tachwedd pan fydd gr?p Casglu Arian Marie Curie Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn cynnal noson o grefftau, caneuon, a lluniaeth yn Eglwys Unedig Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â pherfformiad gan y gr?p corawl Sounds Familiar. Bydd ‘Nadolig Gwyn’ blynyddol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gynnal ar 23 Tachwedd, pan fydd Siôn Corn yn teithio o ganol y dref i'w groto yn Carnegie House, ac yna'n cynnau goleuadau'r dref. Gall plant ymweld ag ef yn ei groto ar 30 Tachwedd, ac ar 7 a 14 Rhagfyr.
Bydd Parêd Jingle Bell Porthcawl yn cael ei gynnal ar 29 Tachwedd gyda cherddoriaeth fyw gan fand pres, stondinau bwyd, reidiau i blant, a llwyfan Bridge FM, ac yn y Grand Pavilion y Grand bydd Only Men Aloud yn cyflwyno A Merry Little Christmas. Ar 30 Tachwedd, bydd Gorymdaith Nadolig Maesteg yn cynnal arddangosfa tân gwyllt a’n cynnau’r goleuadau Nadolig, a bydd yr unig Santa Gwyrdd yn Ne Cymru ym Mharc Gwledig Bryngarw, bydd yno ar 1 Rhagfyr hefyd. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 372. |
|
Derbyn adroddiad yr Arweinydd Cofnodion: Cyhoeddodd yr Arweinydd fod cyfres o ddigwyddiadau Wythnos Genedlaethol Diogelu wedi'u cynnal ledled Cymru, gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o’r ffurfiau gwahanol o gam-drin, a sut y gall pobl gael gafael ar gymorth a chefnogaeth. Er mwyn dangos sut y gallai unrhyw un adnabod arwyddion o gam-drin a helpu i hyrwyddo diogelu, dywedodd fod plant ysgol lleol yn cymryd rhan drwy roi cerrig mân wedi'u paentio'n arbennig mewn parciau a mannau cyhoeddus ar draws y fwrdeistref sirol. Roedd y Cyngor wedi ymuno ag ystod o wahanol sefydliadau i helpu i nodi'r wythnos, ac i gynnal digwyddiadau gwybodaeth ochr yn ochr â Barnardos, y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, a Telecare.
Dywedodd wrth y Cyngor y byddai gweithdrefnau diogelu newydd Cymru yn cael eu lansio i roi arweiniad i ymarferwyr, cynhaliwyd sesiynau hyfforddi penodol a oedd yn rhoi sylw i’r defnydd o offer megis y rhaglen 'Bright Sky', a gynlluniwyd i roi cymorth a gwybodaeth i unrhyw un a all fod yn cael eu cam-drin yn ddomestig, yn rhywiol, yn cael eu dilyn, neu’n cael eu haflonyddu, neu'n adnabod rhywun sy'n dioddef. Diolchodd i bawb a gyfrannodd ac i bawb a helpodd i drefnu hyn oll, yn enwedig Aelodau Canolfan Ddiogelu Aml-asiantaeth Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyhoeddodd yr Arweinydd fod WEPA UK Ltd wedi cysylltu â'r Cyngor. Maent yn archwilio nifer o opsiynau ar hyn o bryd i wella eu gweithrediadau Ewropeaidd, sy'n cynnwys Melin Bapur Pen-y-bont ar Ogwr yn Llangynwyd. Byddai'r cynigion ar gyfer y safle yn cynnwys adeiladu a gweithredu ail beiriant hancesi papur, cynyddu capasiti trosi mewn estyniadau newydd i adeiladau, ardaloedd trin a danfon newydd, yn ogystal â mynedfa newydd ar ochr dde-ddwyreiniol y safle. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr estyniad yn diogelu'r 267 o swyddi presennol ar y safle ac yn creu hyd at 74 o swyddi newydd o ansawdd uchel yn ogystal â dod â buddsoddiad i'r economi leol. Mae WEPA yn amcangyfrif y byddai buddsoddiad mewnol o fwy na £100m yn cael ei gynhyrchu trwy ehangu'r Felin Bapur, a byddai hefyd yn arwain at effaith gadarnhaol ar y gadwyn gyflenwi. Roedd wedi derbyn cais i gyfarfod â WEPA i glywed am eu cynlluniau. Mae WEPA wedi cychwyn y cyfnod ymgynghori cyn-gais statudol o 28 diwrnod gan y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer hyn. Bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried yn yr un modd ag y bydd unrhyw gais cynllunio yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod, gan ddefnyddio ei gynlluniau a’i bolisïau statudol.
Cyhoeddodd yr Arweinydd hefyd ei fod yn edrych ymlaen at weld y math newydd o drenau a fydd yn gwasanaethu llinell reilffordd Maesteg o fis Rhagfyr, rhai a fydd â llawer mwy o gapasiti, mwy o ofod, systemau gwybodaeth i deithwyr, toiledau hygyrch, aerdymheru, Wi-Fi, a socedi p?er. Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cyflwyno’r trenau newydd ar reilffyrdd Cheltenham a Glynebwy, gan ddarparu lle i hyd at 6,500 yn fwy o bobl bob wythnos o fis Rhagfyr eleni. Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 373. |
|
Sylfaen y Dreth Gyngor 2020-21 PDF 88 KB Cofnodion: Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 ar fanylion sylfaen y dreth gyngor ac amcangyfrif o'r gyfradd gasglu ar gyfer 2020-21.
Dywedodd mai'r amcangyfrif o sylfaen y dreth gyngor ar gyfer 2020-21 oedd 55,604.38, eiddo cyfwerth â Band D, a'r gyfradd gasglu amcangyfrifedig yw 98%. Felly, roedd sylfaen net y dreth gyngor yn 54,492.29. Dywedodd fod Sylfaen y Dreth Gyngor yn cael ei darparu i Lywodraeth Cymru ac yn cael ei defnyddio fel rhan o ddosbarthiad y Grant Cynnal Refeniw yn y Setliad Llywodraeth Leol. At ddibenion dosbarthu'r Grant Cynnal Refeniw, tybir bod cyfraddau casglu yn 100%. Cyfrifir swm y Dreth Gyngor sy'n ddyledus am annedd ym mand D drwy rannu'r gofyniad cyllideb blynyddol a gaiff ei ariannu gan drethdalwyr gyda sylfaen y dreth gyngor. Dywedodd wrth y Cyngor y bydd elfen treth gyngor cyllideb y Cyngor yn seiliedig ar sylfaen y dreth gyngor net o 54,492.29.
Holodd aelod o'r Cyngor a yw'r gyfradd gasglu o 98% yn cael ei gyrraedd. Dywedodd Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 fod y gyfradd gasglu o 98% yn cael ei chyflawni, roedd perfformiad wedi gostwng yn gynt na'r gyfradd gasglu a gwneir pob ymdrech gan swyddogion i sicrhau'r gyfradd gasglu darged.
PENDERFYNWYD: Fod y Cyngor yn:
(1) Cymeradwyo sylfaen y dreth gyngor a'r gyfradd gasglu ar gyfer 2020-21, fel y dangosir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad. Cymeradwyo'r seiliau treth ar gyfer yr ardaloedd cymunedol a nodir yn Atodiad A yr adroddiad. |
|
Adolygiad o'r Cyfansoddiad a Gwelliannau i'r Cyfansoddiad PDF 121 KB Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Monitro adroddiad ar ganfyddiadau'r Gweithgor Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, gan geisio cymeradwyaeth ar gyfer gwelliannau i'r cyfansoddiad.
Eglurodd y Swyddog Monitro fod cais wedi dod i law gan Aelod Etholedig am adolygu'r Cyfansoddiad. Yn unol ag Erthygl 15 y Cyfansoddiad bydd y Swyddog Monitro yn monitro ac yn adolygu gweithrediad y Cyfansoddiad er mwyn sicrhau bod nodau ac egwyddorion y Cyfansoddiad yn cael yr effaith lawn. Bydd angen i'r Cyngor gymeradwyo unrhyw newidiadau yn seiliedig ar argymhellion y Swyddog Monitro.
Gofynnodd yr adolygiad o'r Cyfansoddiad i'r canlynol gael eu hystyried yn enwedig:
1) Dylai’r cyfnod amser ar gyfer cwestiynau a chynigion gael ei ail-osod ar 5 diwrnod, gan fod adnoddau addas ar gael bellach i ganiatáu cyfieithu amserol i'r Gymraeg;
2) Yn dilyn cyflwyniadau a chyhoeddiadau Aelodau'r Cabinet, yr Arweinydd, a'r Prif Weithredwr, am gyfnod o 15 munud y caiff Aelodau ofyn cwestiynau nad ydynt wedi'u cyflwyno o flaen llaw;
3) Bod y tri gr?p gwrthblaid mwyaf, yn cael 3 munud (wedi'u cymryd o Reol 3 munud y Pwyllgor Rheoli Datblygu) i wneud cyhoeddiadau neu gyflwyniadau i'r Cyngor;
4) Amseriad cyfarfodydd y Cyngor
Adroddodd y Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi sefydlu Gweithgor Cyfansoddiad Trawsbleidiol i adolygu'r cyfansoddiad, a oedd wedi cyfarfod ddwywaith.
Argymhellodd y Gweithgor y dylai'r cyfnod amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau a chynigion barhau i fod yn 10 diwrnod gwaith. Ychwanegodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y dylid plismona cwestiynau atodol yn gliriach er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol i'r cwestiwn gwreiddiol a'u bod yn fyr ac yn gryno. Argymhellodd y Gweithgor, o ystyried y cyhoeddiadau a wnaed yn y Cyngor, y dylid diwygio'r cyfansoddiad er mwyn ail-enwi Adroddiad yr Arweinydd i fod yn Gyhoeddiadau'r Arweinydd, ac y dylid byrhau'r cyhoeddiadau a wnaed gan y Cabinet ar hyn o bryd. Argymhellodd y Gweithgor y dylai pob aelod o'r Cyngor dderbyn atebion i gwestiynau ysgrifenedig 24 awr cyn cyfarfod y Cyngor lle y bo'n ymarferol. Bydd yr ateb yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw o'r Cyngor. Roedd y Gweithgor o'r farn y gallai cyhoeddiadau gan Arweinwyr Grwpiau'r Gwrthbleidiau arwain at wneud datganiadau gwleidyddol ac nad oeddent yn dymuno mynd ar ôl Cyhoeddiadau gan Arweinwyr y 3 Gr?p Gwrthblaid Mwyaf. O ran amseriad cyfarfodydd y Cyngor, cynhaliwyd pleidlais electronig ar ddiwedd cyfarfod y Cyngor ar 24 Gorffennaf 2019 i weld a ddylid archwilio cyfarfodydd gyda'r nos ai peidio. O'r 45 o Aelodau a oedd yn bresennol, pleidleisiodd 17 o aelodau o blaid cynnal cyfarfodydd gyda'r nos. Argymhellodd y Gweithgor, yn sgil y bleidlais, na fyddai cynnal cyfarfodydd gyda'r nos yn cael ei archwilio ymhellach tan y weinyddiaeth nesaf.
Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor fod yr adolygiad wedi cynnwys edrych ar weithdrefn galw-yn-ôl y Cyngor, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio'n effeithiol o fewn y strwythur Craffu presennol. Gwnaed gwaith ymchwil gan Dîm y Gwasanaethau Democrataidd yngl?n â’r prosesau galw-yn-ôl sydd ar waith mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Argymhellodd y Gweithgor y dylid ymestyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 375. |
|
Derbyn y cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd A Hussain i'r Aelod Cabinet dros Gymunedau YmMwrdeistref y Sir mae yna lawer o fylchau ar lwybrau beiciau a llwybrau cerdded. Sut mae'r Aelod Cabinet yn mynd i'r afael â hyn i annog Teithio Gweithredol?
Cofnodion: Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i'r Aelod Cabinet dros Gymunedau
Yn y Fwrdeistref Sirol ceir llawer o fylchau yn y llwybrau beicio a cherdded. Sut mae'r Aelod Cabinet yn bwriadu mynd i'r afael â hyn i annog teithio llesol?
Ymateb yr Aelod Cabinet
Mae map rhwydwaith teithio byw'r Cyngor mewn dwy ran: a) y map llwybr presennol (ERM) sy’n seiliedig ar y llwybrau beicio a oedd yn bodoli cyn deddfu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013; b) y map rhwydwaith integredig (INM) sy’n seiliedig ar lwybrau arfaethedig. Roedd y cynlluniau arfaethedig o fewn yr INM yn cynnwys y nodau canlynol: 1. Gwella mynediad at wasanaethau a chyfleusterau allweddol gan gynnwys canol trefi, safleoedd cyflogaeth, ardaloedd manwerthu a chanolfannau trafnidiaeth; 2. Gwella mynediad i gyfleusterau addysg fel ysgolion a cholegau; 3. Gwella, ac ehangu'r rhwydwaith beicio strategol presennol yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r wybodaeth ategol sy’n cyd-fynd â’r INM yn rhoi cyngor pellach fod y llwybrau a nodir yn "aliniadau dangosol a allai newid wrth i lwybrau gael eu datblygu ymhellach. Bydd datblygu a chyflawni'r cynigion a ddangosir ar yr INM yn dibynnu ar faint o gyllid fydd ar gael.
Mae'r pwyntiau a nodir uchod yn ategu'r meini prawf a nodwyd yn y canllawiau darparu ar gyfer teithio llesol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Ynddo, mae Atodiad B yn cynnwys 9 anheddiad lle'r oedd yn rhaid nodi llwybrau, mae dolen ato i’w gael isod.
Mae'r 13 anheddiad fel a ganlyn: • Ar gyfer dalgylch Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr, Sarn, Trelales. • Ar gyfer dalgylchoedd Maesteg: Croeserw, Cymer, Maesteg. • Ar gyfer anheddiad Bro Ogwr/Nant-y-moel: Nantymoel, Bro Ogwr. • Ar gyfer anheddiad Hendreforgan/Gilfach Goch: Gilfach Goch. • Y ddau ddalgylch arall yw'r Pîl, Pencoed a Phontycymer.
Pan fydd aneddiadau'n pontio awdurdodau, y cyd-awdurdodau sy'n gyfrifol.
Er bod y teithio llesol a ddarparir gan INM yn sylfaen i’r rhwydwaith teithio llesol cynradd yn y Fwrdeistref Sirol, nid yw datblygu rhwydwaith cynhwysfawr yn rhywbeth sy’n gyfyngedig i'r INM. Mae'r INM yn darparu rhwydwaith sylfaenol a allai gysylltu â’r llwybrau teithio llesol a nodir fel rhan o'r broses datblygu defnydd tir ac i'w darparu gan ddatblygwyr. Bydd mesurau eraill fel llwybrau diogel i ysgolion a chymunedau yn cael eu harchwilio i gwmpasu ardaloedd nad ydynt yn rhan o'r INM.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hussain at Fap 8 yr INM a oedd yn dangos cynigion ar gyfer y dyfodol yn y Sir a’r cyffiniau, a gofynnodd gwestiwn atodol, sef a allai'r Aelod Cabinet helpu'r cyhoedd drwy osod croesfan i gerddwyr wrth Gyffordd Tondu Road a'r Eglwys Ffordd, ger yr orsaf betrol, a fyddai’n caniatáu i’r trigolion feicio a cherdded i Ben-y-bont ar Ogwr?
Addawodd yr Aelod Cabinet Cymunedau i siarad â'r Cynghorydd Hussain mewn perthynas â'r cais a wnaed yn ei gwestiwn atodol. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |