Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 22ain Ionawr, 2020 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

387.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganwyd y buddiannau a ganlyn:

 

Datganodd y Cynghorydd R Shaw fuddiant personol yn eitem 10 ar yr agenda - Adolygiad o Ardaloedd, Mannau a Gorsafoedd Pleidleisio 2019-20 oherwydd ei gysylltiad ag elusen leol sy'n cynnal Canolfan Gymuned William Trigg.

 

Datganodd y Cynghorydd JC Spanwick fuddiant personol yn eitem 8 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21 gan fod aelod o'i deulu yn elwa ar y cynllun.

 

Datganodd y Cynghorydd DBF White fuddiant personol yn eitem 8 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21 gan fod perthynas agos yn elwa ar y cynllun.

 

Datganodd y Cynghorydd HM Williams fuddiant personol yn eitem 8 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21 gan fod perthynas agos yn elwa ar y cynllun.

 

Datganodd y Cynghorydd JE Lewis fuddiant personol yn eitem 10 ar yr agenda - Adolygiad o Ardaloedd, Mannau a Gorsafoedd Pleidleisio 2019-20 - am ei bod yn aelod o Ganolfan Gymuned Sarn. 

 

Datganodd y Cynghorydd DRW Lewis fuddiant personol yn eitem 10 ar yr agenda - Adolygiad o Ardaloedd, Mannau a Gorsafoedd Pleidleisio 2019-20 - am ei fod yn aelod o Ganolfan Gymuned Sarn.

 

Datganodd y Cynghorydd RM James fuddiant personol yn eitem 8 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21, gan fod aelod o'i deulu yn elwa ar y cynllun, a gadwodd y cyfarfod tra'r oedd yr eitem yn cael ei hystyried.

 

Datganodd y Cynghorydd HJ David fuddiant personol yn eitem 10 ar yr agenda - Adolygiad o Ardaloedd, Mannau a Gorsafoedd Pleidleisio 2019-20 gan mai ef yw Cadeirydd Canolfan Gymuned Cefn Cribwr, sy'n cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio. Gadawodd y cyfarfod tra'r oedd yr eitem yn cael ei hystyried.

 

Datganodd y Cynghorydd P Davies fuddiant a oedd yn rhagfarnu yn eitem 8 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21 gan fod aelod o'i deulu yn elwa ar y cynllun.  Datganodd y Cynghorydd P Davies fuddiant a oedd yn rhagfarnu yn eitem 10 ar yr agenda - Adolygiad o Ardaloedd, Mannau a Gorsafoedd Pleidleisio 2019-20 gan ei fod yn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau, lle ceir gorsaf bleidleisio. Gadawodd y Cynghorydd Davies y cyfarfod tra'r oedd yr eitemau'n cael eu trafod.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd CE Smith fuddiant personol yn eitem 8 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21 gan fod aelod o'i deulu yn rhedeg busnes.

 

Datganodd y Cynghorydd MJ Kearn fuddiant personol yn eitem 10 ar yr agenda - Adolygiad o Ardaloedd, Mannau a Gorsafoedd Pleidleisio 2019-20 gan mai ef yw Cadeirydd Canolfan Gymuned Talbot a ddefnyddir fel gorsaf bleidleisio.        

388.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 137 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/12/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Cyngor dyddiedig 18 Rhagfyr 2019 yn wir ac yn gywir. 

389.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer ei fod wedi derbyn llythyr o werthfawrogiad a diolch oddi wrth Fanc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr am y cyfraniad ariannol a wnaed i'r Banc gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac am y bwyd a gyfrannwyd yn hael gan y staff a'r aelodau dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn y 10 mlynedd ers sefydlu Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r Banc wedi darparu bwyd i oddeutu 50,000 o bobl.  Bydd y Banc yn gwneud defnydd da o'r arian a'r rhoddion er mwyn bwydo pobl y fwrdeistref sirol sydd mewn argyfwng.

 

Diolchodd y Maer hefyd i'r 100 a mwy o bobl sy'n gwirfoddoli ym Manc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae pob un ohonynt yn gweithio'n galed iawn i frwydro yn erbyn tlodi bwyd yn y fwrdeistref sirol. Byddai'n bleser i'r Maer gael mynd i'r Cyfarfod Blynyddol heno, ac edrychai ymlaen at gael mynegi diolch a gwerthfawrogiad wyneb yn wyneb ar ran y Cyngor.

 

Cyhoeddodd y Maer hefyd fod enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Blynyddol y Maer yn cau y dydd Gwener yr wythnos hon. Croesewir pob enwebiad a gellir lawrlwytho ffurflen gais o wefan y Cyngor neu wneud cais am ffurflen drwy gysylltu â Swyddfa'r Maer.  Anogodd yr Aelodau i beidio â cholli cyfle i ddathlu cyflawniadau pobl a sefydliadau o fewn eu cymunedau.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor wedi ymuno â Chyngor Tref Porthcawl i dreialu dull newydd dyfeisgar o ddatrys problem ludiog gwm cnoi sy'n cael ei ollwng. Mae biniau 'Gollwng Gwm' arbennig yn cael eu gosod ar byst lamp ar hyd John Street, a phobl yn cael eu hannog i waredu eu gwm cnoi ynddynt yn lle ei ollwng ar y stryd a chreu staen hyll y mae'n anodd cael gwared arno. Gan fod y biniau wedi'u creu o gwm cnoi wedi'i ailgylchu, gellir eu tynnu i lawr a'u hailgylchu gyda'u cynnwys i greu amrywiaeth o gynnyrch, gan gynnwys biniau newydd ac esgidiau glaw.  Dywedodd mai dyma gynllun diweddaraf y bartneriaeth â Chyngor Tref Porthcawl i ymdrin â sbwriel, a bydd yn golygu mai Porthcawl fydd un o'r trefi cyntaf yng Nghymru i gynnwys y biniau arloesol.

 

Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal â siopau cludfwyd lleol, ac mae tri bin arbennig newydd yn cael eu hychwanegu yn ardaloedd Promenâd y Gorllewin, John Street a Pharc Griffin er mwyn cefnogi ymdrechion i ailgylchu pecynnau bwyd brys. Roedd cyllid wedi dod i lawr oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac yn fuan byddai dwy ffynnon dd?r yn cael eu gosod ar hyd glan y môr er mwyn annog pobl i ail-lenwi poteli ailddefnyddadwy am ddim yn hytrach na phrynu poteli plastig untro.  Yr oedd yn gobeithio y byddai'r cynlluniau arloesol newydd hyn yn cefnogi ymdrechion i newid ymddygiad ac agweddau at wastraff, ac yn annog mwy o bobl i ailgylchu.

 

Aelod Cabinet Cymunedau

 

Hysbysodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y Cyngor fod y Cyngor wedi gwneud amryw o ymrwymiadau i Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, a'i fod wedi ennill gwobr i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 389.

390.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod un o adeiladau tirnod newyddaf y Fwrdeistref wedi cael ei ddewis fel lleoliad i lansio strategaeth genedlaethol yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol twristiaeth ledled Cymru.  Bydd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ymweld â'r Ganolfan Chwaraeon D?r newydd yn Rest Bay yfory i ddatgelu 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025' yn y ganolfan gwerth £1.5m a ariannwyd gan yr UE. 

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd hefyd y bu'n brofiad dirdynnol bod yn bresennol yn nigwyddiad Diwrnod Coffa'r Holocost eleni, a gynhaliwyd ddoe yn Theatr Sony yng Ngholeg Penybont.  Thema 2020 oedd 'Safwn Gyda'n Gilydd', ac roedd y digwyddiad yn atgoffa pawb sut mae llywodraethau hil-laddol ar hyd hanes wedi mynd ati'n fwriadol i chwalu cymdeithas drwy wthio grwpiau penodol i'r cyrion. Roedd y digwyddiad yn annog y rhai a oedd yn bresennol i gyd-sefyll â'u ffrindiau, eu cydweithwyr a'u cymdogion, ac i godi llais yn erbyn gorthrwm.  Yr oedd yn cynnwys anerchiad teimladwy a bythgofiadwy gan Dieu-Donne Ganza Gahizi, a oedd wedi goroesi Hil-laddiad 1994 yn erbyn y Tutsi yn Rwanda. Siaradodd am ei brofiadau personol fel bachgen 9 oed yn ffoi am ei fywyd ac yn colli 50 o aelodau o'i deulu, cyn cyflwyno neges o heddwch, gobaith a maddeuant. Yr oedd yn ddiolchgar i Ganza am deithio i'r Fwrdeistref Sirol i rannu ei stori a'i neges â phawb a oedd yn bresennol, a diolchodd i bawb fu'n gweithio i gynnal y digwyddiad.

391.

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 3 2019-20 pdf eicon PDF 562 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro adroddiad i gydymffurfio â gofyniad Cod Cyllid Cyfalaf Darbodus 2018 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; rhoddodd y newyddion diweddaraf am Raglen Gyfalaf 2019-20 ar 31 Rhagfyr 2019; gofynnodd am gymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 hyd 2028-29, ac i'r Cyngor nodi'r Dangosyddion Darbodus a'r Dangosyddion Eraill a ragamcanwyd ar gyfer 2019-20.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro fod Rheoliadau Awdurdod Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003, fel y cawsant eu diwygio, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf, a'r hyn y dylid ei drin fel gwariant cyfalaf.  Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau Rheoli Trysorlys a Chyfalaf yn unol â chanllawiau cysylltiedig.  Yn ôl y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol sefydlu Strategaeth Gyfalaf sy'n dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau ynghylch gwario a buddsoddi cyfalaf yn unol ag amcanion gwasanaethau, a'i fod yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, sicrhau gwerth am arian, darbodusrwydd, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf, a gafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 23 Hydref 2019.  Dywedodd fod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 yn cynnwys cyfanswm o £33.700m. Defnyddir adnoddau'r Cyngor i dalu £15.057m o'r swm hwn, ac adnoddau allanol i dalu'r £18.643 sy'n weddill.  Rhoddodd grynodeb o'r sefyllfa fesul Cyfarwyddiaeth, a'r rhagdybiaethau cyllido cyfredol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2019-20.  Rhoddodd fanylion am y gwariant a ragamcanwyd ar gynlluniau unigol o fewn y rhaglen, o gymharu â'r gyllideb a oedd ar gael.  Roedd nifer o gynlluniau wedi'u nodi'n gynlluniau yr oedd angen arian llithriant ar eu cyfer i'r blynyddoedd nesaf. Yn chwarter 3, cyfanswm yr arian llithriant a geisiwyd oedd £5.158 miliwn, yn gysylltiedig â'r canlynol:

 

·         Neuadd y Dref Maesteg (£1.6m)

·         Hyb Cymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg (£0.768m)

·         Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr (£0.387m)

·         Llys y Gigfran (£0.442m)

·         TAC Parciau / Pafiliynau / Canolfannau Cymuned (£0.66m)

·         Asedau Anweithredol (£0.48m)

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod nifer o gynlluniau newydd wedi'u hariannu'n allanol ac incwm ychwanegol wedi cael eu cymeradwyo, a bod y rheiny wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf:

 

·         Hyb Cymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg (£0.284m)

·       Cymorth cyfalaf i weithredu ac ehangu casgliadau cartref ar wahân ar gyfer gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol (£0.238m)

·       Cronfa Gwella Eiddo Canol Trefi (£0.1m) a'r Grant Byw yng Nghanol y Dref (£0.5m)

·         Cynllun Rheoli Risg Arfordirol - Porthcawl (£6.032m)

·         Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif

·         Darpariaeth Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

·         Grant Cynnal a Chadw Ysgolion

·         Gwaith ar Anghenion Cymhleth a Meddygol mewn Ysgolion

·         Benthyciad Cwm Llynfi   

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro hefyd ar waith monitro Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2019-20.  Bwriedir i'r Strategaeth Cyfalaf a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2019 roi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 391.

392.

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Chwarter 3 2019-20 pdf eicon PDF 827 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad er mwyn cydymffurfio â gofyniad y Rheoli Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer (y Cod) gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i lunio Adroddiadau Rheoli Trysorlys Interim; adrodd ar Ddangosyddion Rheoli Trysorlys rhagamcanol 2019-20 a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer gweithgareddau Rheoli Trysorlys yn y cyfnod 1 Ebrill 2019 hyd 31 Rhagfyr 2019.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro mai Rheoli Trysorlys yw'r rheolaeth ar lifoedd arian, benthyciadau a buddsoddiadau'r Cyngor, a'r risgiau cysylltiedig.  Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol, gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith cyfraddau llog newidiol ar refeniw.  Cynhelir gweithgareddau rheoli risg Trysorlys yn y Cyngor o fewn fframwaith Rheoli Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer Rhifyn 2017 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus (Cod CIPFA). Yn ôl y cod, mae'n ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys (SRhT) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol.  Arlingclose sy'n cynghori'r Cyngor ynghylch rheoli'r trysorlys.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y farn ynghylch cyfraddau llog a gafwyd yn SRhT y Cyngor ar gyfer 2019-20 yn seiliedig ar farn swyddogion, ar sail rhagolygon gan Arlingclose.  Pan luniwyd SRhT 2019-20 ym mis Ionawr 2019, oherwydd y cyfnod byr a ragwelwyd i ddod i gytundeb ymadael yn gysylltiedig â Brexit, a'r posibilrwydd o gyfnod estynedig o ansicrwydd yn sgil hynny, senario achos canolog Arlingclose oedd rhagweld 0.25% o gynnydd yng Nghyfradd y Banc yn ystod 2019-20 a fyddai'n codi cyfraddau llog swyddogol y DU i 1.00% erbyn mis Rhagfyr 2019.  Dechreuodd Cyfradd y Banc y flwyddyn ariannol ar 0.75%, ac yn ôl y rhagolygon cyfredol bydd yn parhau ar y lefel hon ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro grynodeb o'r sefyllfa o ran buddsoddiadau a dyledion allanol ar 31 Rhagfyr 2019, sef bod y Cyngor yn dal £96.87m o fenthyciadau hirdymor allanol a £38.945m o fuddsoddiadau.  Tynnodd sylw at y strategaeth fenthyca a'r alldro a ragfynegai y byddai angen i'r Cyngor fenthyca £16m yn 2019-20.  Rhagwelwyd na fyddai angen unrhyw fenthyciadau hirdymor yn 2019-20, gan fod grantiau ychwanegol wedi'u derbyn yn chwarter olaf 2018-19, ac yn sgil newid i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019-20.  Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro grynodeb o'r strategaeth a'r alldro fuddsoddi gan esbonio mai'r prif amcanion yn ystod 2019-20 oedd cadw cyfalaf yn ddiogel;  cynnal hylifedd cyllid fel bo modd cael gafael ar gyllid ar gyfer gwariant angenrheidiol, a sicrhau'r enillion ar fuddsoddiadau sy'n gymesur â lefelau diogelwch a hylifedd priodol.  Balans buddsoddiadau ar 31 Rhagfyr 2019 oedd £38.945m  Rhoddodd grynodeb o'r proffil buddsoddi o 1 Ebrill hyd 31 Rhagfyr 2019; y dangosydd Rheoli Trysorlys ar gyfer Prif Symiau a fuddsoddwyd am gyfnodau hwy na blwyddyn, a'r sefyllfa'n gysylltiedig â chyfraddau llog posibl ar fenthyciadau a buddsoddiadau 

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor a roddwyd ystyriaeth i fodelau buddsoddi amgen a ffafrir gan awdurdodau lleol eraill.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 392.

393.

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad er mwyn rhoi gwybodaeth i'r Cyngor ynghylch gweithredu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21, ac er mwyn esbonio'r gofyniad i Gynghorau fabwysiadu cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor erbyn 31 Ionawr 2020, ynghyd â'r goblygiadau ariannu cysylltiedig.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn rhoi cymorth i rai ar incwm isel sydd yn gorfod talu'r Dreth Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun sengl wedi'i ddiffinio'n genedlaethol, a'i nodi yn y rheoliadau, er mwyn darparu cymorth ar gyfer y Dreth Gyngor yng Nghymru.  Mabwysiadodd y Cyngor Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2019-20 yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig 2013, a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2020.  Ar hyn o bryd, roedd 13,423 o aelwydydd yn derbyn Gostyngiad i'r Dreth Gyngor. Roedd 8,445 o'r rheiny o oed gwaith a 4,978 o oed pensiwn. O'r 13,423 o aelwydydd a dderbyniai Ostyngiadau'r Dreth Gyngor, roedd gan 10,017 ohonynt hawl i ostyngiad llwyr.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yng Nghymru wedi'i seilio ar reoliadau a wnaed o dan Atodlen 1B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y cafodd ei mewnosod gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012).  Roedd

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 bellach wedi'u gosod ac yn cyflwyno diwygiadau er mwyn:

 

·         Sicrhau bod partneriaethau sifil rhwng unigolion o rywiau gwahanol yn cael eu trin yn gydradd â phriodasau rhwng unigolion o rywiau gwahanol a'r un rhyw, a phartneriaethau sifil rhwng unigolion o'r un rhyw, o ganlyniad i Ddeddf Partneriaethau Sifil, Priodasau a Marwolaethau (Cofrestru ac ati) 2019;

·         Darparu i gyflwyno hawl penodol, statudol i absenoldeb profedigaeth rhiant o ganlyniad i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018.

·         Newid cyfeiriadau at Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006, i gyfeiriadau at Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016.

·         Cynnwys darpariaeth nad yw nifer yr hawliau i breswylio (a sefydlwyd ar gyfer gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r UE) yn hawliau preswylio perthnasol i ddibenion sefydlu lle maent yn preswylio fel arfer.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro nad oedd y rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau o bwys i'r cynllun cyfredol o safbwynt yr hawlwyr, a bod hawlwyr cymwys yn dal i allu ymgeisio am uchafswm o 100% o gymorth. Esboniodd fod yr ychydig o ddisgresiwn a roddwyd i'r Cyngor, sef cymhwyso elfennau dewisol a oedd yn fwy hael na'r cynllun cenedlaethol fel a ganlyn:-

 

·         Y gallu i gynyddu'r cyfnod estynedig safonol o 4 wythnos o ostyngiad a roddir i unigolion ar ôl iddynt ddychwelyd i'r gwaith (os ydynt wedi bod yn derbyn Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a fydd yn dod i ben o ganlyniad i ddychwelyd i'r gwaith);

·         Disgresiwn i gynyddu swm y Pensiynau Anabledd Rhyfel a'r Pensiynau Gweddw Rhyfel sydd i'w ddiystyru wrth gyfrifo incwm yr hawlydd; a'r

·         Gallu i ôl-ddyddio cais am Ostyngiad i'r Dreth Gyngor yn gysylltiedig â hawliadau hwyr cyn y cyfnod safonol o dri mis  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 393.

394.

Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth a Ffafrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu ar Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), i'r Cyngor ei ystyried a'i gefnogi. 

 

Adroddodd fod Rheoliad 15 yn Rheoliadau'r CDLl yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi ei gynigion cyn adneuo (y Strategaeth a Ffefrir) i'r cyhoedd gael eu harchwilio ac ymgynghori arnynt cyn penderfynu ar gynnwys ei CDLl ar gyfer Adneuo. Dywedodd fod y cyfnod ymgynghori statudol ar y Strategaeth a Ffefrir wedi cael ei chynnal o 30 Medi 2019 hyd 8 Tachwedd 2019, a bod cyfanswm o 70 o sylwadau ffurfiol wedi dod i law. Wrth baratoi am Gam Adneuo'r CDLl, mae'n rhaid i'r Cyngor ddrafftio Adroddiad Ymgynghori cychwynnol i'w gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol yn dilyn yr ymgynghoriad cyn-adneuo, o dan Reoliad CDLl 16A.   Dywedodd wrth y Cyngor fod Adroddiad Ymgynghori wedi cael ei lunio yn amlinellu sut yr oedd y Cyngor wedi cynnwys ac ymgynghori â'r cyhoedd ar y Strategaeth a Ffefrir ei hun.  Dywedodd fod yr Adroddiad yn nodi'r camau a gymerwyd i roi cyhoeddusrwydd ynghylch y gwaith o baratoi'r cynllun, yn unol â'r Cynllun Cynnwys Cymunedau, cyn amlinellu'r cyrff penodol a gymerodd ran, a chrynhoi'r prif faterion a godwyd a nodi pa ymateb a gafwyd/a geir i'r sylwadau. Roedd yr Adroddiad yn cynnwys esbonio'n fanwl sut y byddai'r cyfnod ymgynghori allweddol hwn yn dylanwadu ar ddatblygiad y CDLl Adneuo.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu fod nifer o ddulliau ymgynghori wedi cael eu defnyddio er mwyn sicrhau ymgynghoriad a chyfranogiad effeithlon ac effeithiol, yn unol â'r Cynllun Cynnwys Cymunedau. Dywedodd nad oedd bwriad i'r Adroddiad Ymgynghori fod yn adroddiad cynhwysfawr ar bob sylw a gafwyd, ond ei fod yn hytrach yn grynodeb o'r prif faterion a godwyd mewn ymateb i'r cwestiynau penodol ar y ffurflen gais. Roedd nifer sylweddol o'r sylwadau hefyd yn canolbwyntio ar safleoedd penodol, ond nid oedd yr Adroddiad yn gwneud unrhyw ymgais i werthuso holl rinweddau'r darpar safleoedd. Dywedodd y byddai'r holl ddarpar safleoedd yn cael eu gwerthuso yn rhan o'r Fethodoleg Asesu Darpar Safleoedd, a gynhelir ar wahân i'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir.  Dywedodd wrth y Cyngor fod yr Adroddiad Ymgynghori wedi'i drefnu i gyd-fynd â phob cwestiwn yn yr ymgynghoriad, ac yn nodi'r prif bwyntiau cyfatebol a gafwyd a manylion ymatebion dilynol y Cyngor. Mae'r Adroddiad Ymgynghori yn rhoi trosolwg thematig manwl o'r prif sylwadau a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr. 

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio wrth y Cyngor fod y diwydiant datblygu wedi rhoi pwysau ar yr Adran Cynllunio i ryddhau safleoedd maes glas i'w datblygu, ond bod yr Adran wedi gwrthateb hynny, gyda chefnogaeth adroddiadau Arolygwyr.  Cymeradwyodd aelod o'r Cyngor y modd yr oedd yr Adran Gynllunio wedi gwrthateb datblygiadau ar safleoedd maes glaw, a bod angen datblygiadau o ansawdd da yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor a oedd yr Adran Gynllunio yn sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn hygyrch i bobl ag anableddau.  Hysbysodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu y Cyngor fod yr Adran yn cydweithio â Iechyd Cyhoeddus  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 394.

395.

Adolygiad o Ardaloedd, Mannau a Gorsafoedd Pleidleisio 2019-2020 pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Weithredwr ar ganfyddiadau'r adolygiad o Orsafoedd Pleidleisio ac ar unrhyw newidiadau arfaethedig yn deillio o'r adolygiad. Dywedodd ei bod hi'n ddyletswydd i'r awdurdod, o dan adran 16 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006, gynnal adolygiad o ardaloedd, mannau a gorsafoedd pleidleisio o fewn ei ardal ar bob pumed blwyddyn. Roedd rhybudd ynghylch yr adolygiad wedi'i gyhoeddi ar 7 Hydref 2019, gyda chais am sylwadau erbyn 8 Tachwedd 2019. Cafodd yr holl sylwadau a'r awgrymiadau a gafwyd erbyn y dyddiad hwn wedyn eu postio ar-lein, eu harddangos ar y Bwrdd Hysbysiadau Etholiadol, yn y Swyddfeydd Dinesig a'u hanfon at holl Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned fel bo modd derbyn unrhyw sylwadau pellach ar y cynigion a awgrymwyd erbyn 22 Tachwedd 2019. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai amcan yr adolygiad oedd pennu ffiniau ar ardaloedd pleidleisio sy'n rhoi ystyriaeth i'r newid ym mhoblogaeth rhai ardaloedd (yn dilyn datblygiadau newydd) ac i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn y lleoliad gorau ac mewn adeiladau addas sy'n cynnig mynediad da. Yn yr adolygiad, mae'n ofynnol i'r Cyngor sicrhau bod gan yr holl etholwyr ym mhob etholaeth Seneddol cyfleusterau rhesymol er mwyn pleidleisio ar sail yr hyn sy'n ymarferol yn yr amgylchiadau, a hyd y bo'n rhesymol ac yn ymarferol bod mannau pleidleisio yn hygyrch i bob etholwr, ac y rhoddwyd ystyriaeth i anghenion hygyrchedd unigolion anabl.

 

Adroddodd fod mwyafrif y sylwadau a gafwyd o blaid y trefniadau a'r lleoliadau a oedd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Roedd hyn yn cynnwys ymateb gan Aelodau Etholedig a nifer o gynghorwyr Tref a Chymuned. Codwyd pryderon ynghylch trefniadau yn y dyfodol ym Mracla pan fydd wardiau newydd yn cael eu cyflwyno yn 2022. Roedd a wnelo hyn ag adolygiad y Comisiwn Ffiniau ac y tu hwnt i gylch gwaith yr adolygiad etholiadol mewnol.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cyngor yn nodi canlyniad yr adolygiad, ac yn enwedig y sylwadau a nodwyd yn atodiad yr adroddiad.  

396.

Derbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cynghorydd N Burnett i’r Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

A all Aelod y Cabinet roi diweddariad inni ar ein Strategaeth Eiddo Gwag a’r hyn y mae wedi ei gyflawni hyd yma?

 

Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet Cymunedau 

A oes modd i Aelod y Cabinet roi gwybod inni, os gwelwch yn dda, a ydym yn newid ein hen Gyfreithiau Cynllunio i gynorthwyo’r amgylchedd drwy leihau’r gwastraff ac a yw ein Cyngor yn ymrwymedig i bolisi tai a chynllunio sy’n ecogyfeillgar?

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd N Burnett i'r Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

A all yr Aelod Cabinet roi'r newyddion diweddaraf am ein Strategaeth Eiddo Gwag, a'r hyn y mae wedi'i gyflawni hyd yma?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd, cafodd y Strategaeth Eiddo Gwag 2019-2023 ei chefnogi a'i chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2019. Gan na ddigwyddodd hyn ond pedair wythnos yn ôl, nid yw wedi cael digon o amser i fagu gwreiddiau. Mae'r strategaeth yn cadarnhau ein hymrwymiad i leihau'r malltod a achosir gan eiddo gwag ledled y fwrdeistref, ac isod rwyf wedi nodi rhai enghreifftiau o'r gwaith a gyflawnwyd:

 

  1. Mae cyfres o lythyrau ymgysylltu/gorfodi cadarn wedi cael ei llunio a fydd yn golygu bod modd mabwysiadu dull wedi'i dargedu a graddol o ymdrin ag eiddo gwag.
  2. Mae canllaw eiddo gwag wedi cael ei lunio sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i berchnogion eiddo gwag i'w cynorthwyo i sicrhau bod eu heiddo yn cael ei ddefnyddio o'r newydd.
  3. Mae system asesu risg wedi cael ei datblygu sy'n ein galluogi i dargedu eiddo sy'n cael effaith niweidiol ar yr ardal a rhai mewn ardaloedd lle ceir lefel uchel o anghenion tai. Mae hyn yn ein galluogi i fabwysiadu ymagwedd gyfun at ymdrin â'r broblem.
  4. Mae cyfeiriad e-bost arbennig wedi cael ei greu sy'n hygyrch drwy ein gwefan, sy'n cynnig un man cyswllt ar gyfer ymholiadau/cwynion yn gysylltiedig ag eiddo gwag.
  5. Mae cronfa ddata wedi cael ei chreu lle gellir cofnodi manylion yr holl gamau gorfodi/cwynion a'r cynnydd o ran defnyddio eiddo o'r newydd, gan olygu bod modd inni roi adroddiadau mwy manwl gywir ar y sefyllfa.
  6. Mae'r gostyngiad i'r dreth gyngor yn gysylltiedig ag eiddo gwag wedi'i ddileu.
  7. Mae cysylltiadau wedi'u sefydlu ag arwerthwyr er mwyn cynorthwyo perchnogion i werthu eu heiddo.
  8. Mae Gweithdrefn Orfodi wedi cael ei lunio ar gyfer Gwerthu Gorfodol.

 

Fodd bynnag, cyn cymeradwyo'r strategaeth yn swyddogol, mae'r weinyddiaeth wedi bod yn gweithio'n unol â'r strategaeth ac wedi ymrwymo i benodi'r Swyddog Eiddo Gwag ym mis Hydref 2018.Cafwyd cynnydd sylweddol wrth fynd i'r afael â'r broblem Eiddo Gwag, ac ers penodi'r swyddog mae ymchwiliad wedi cael ei gynnal i gyfanswm o 219 eiddo. O'r 20 eiddo â blaenoriaeth a nodwyd drwy'r broses asesu risg, mae 12 eiddo wedi'u defnyddio o'r newydd. O ran yr 8 eiddo arall, mae 5 yn destun Hysbysiadau Adran 215 o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990,ac mae ffurflenni mynegi diddordeb wedi'u llunio ar gyfer 2 ohonynt yn gysylltiedig â grantiau/benthyciadau. Roedd yr eiddo arall ar ganol cael ei werthu, ond yn anffodus mae'r gwerthiant wedi methu felly bydd angen inni ymgysylltu ymhellach â pherchennog yr eiddo.Y Strategaeth yw cydweithio â pherchennog yr eiddo gwag, cyn mynd ar drywydd deddfwriaeth. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae perfformiad y Cyngor o'i gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru wedi gwella o'r 18fed safle yn 2016-17 i'r 5ed yn 2018-19, ac yn gysylltiedig â hyn rydym wedi gweld y ffigur hwn yn codi dros  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 396.

397.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.