Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: o bell trwy Skype

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cyngor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

418.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

419.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 167 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/02/20 a 11/03/20

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            Y byddai Cofnodion cyfarfodydd y Cyngor ar 26                       Chwefror ac 11 Mawrth 2020 yn cael eu                                             cymeradwyo’n gofnod gwir a chywir.

420.

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth y Maer

Cofnodion:

Diolchodd y Maer yn ddiffuant i holl staff CBS Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi mynd i’r afael â’r heriau a wynebwyd yn ystod y pedwar mis diwethaf.  Roedd staff ar draws pob adran wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i redeg yn rhwydd ac yn llwyddiannus i breswylwyr.  Roedd staff wedi addasu’n gyflym iawn i amgylcheddau gwaith newydd a gwahanol, a gwnaethant arloesi mewn meysydd lle’r oedd angen ymateb cyflym, gan weithio y tu hwnt i’r galw am gyfnod estynedig wrth wynebu eu heriau eu hunain yn sgil y pandemig.  Mae eu hymroddiad a’u gwaith caled yn gymeradwy.

 

Cyhoeddodd y Maer hefyd ei fod wedi addasu i ffordd newydd o weithio ac wedi mynychu ymrwymiadau drwy Skype, ac y bydd yn parhau i wneud hynny.  Roedd yn fraint ganddo roi negeseuon fideo ar ran CBS Pen-y-bont ar Ogwr i ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a choffáu dioddefwyr yr hil-laddiad yn Srebrenica.  Er gwaethaf y sefyllfa gyfredol, roedd yn teimlo ei bod yn bwysig parhau i ddathlu digwyddiadau pwysig a chofio’r bobl yr effeithiwyd arnynt.

 

Cyhoeddodd y Maer â thristwch y bu farw’r cyn Faer a Chynghorydd, Reg Jenkins, a oedd wedi gwasanaethu’n aelod o’r Cyngor am ddau gyfnod cyn ymddiswyddo i fwynhau ei ymddeoliad yn 2017.  Roedd nid yn unig yn aelod ward gweithgar dros ben ar gyfer Pontycymer, ond hefyd yn enwog am ei dasg flynyddol fel Siôn Corn, gan godi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau lleol.  Ar ran y Cyngor, ymestynnodd gydymdeimlad y Cyngor at ei wraig, Teresa.

421.

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd mai nod y Cyngor oedd ail-agor mannau chwarae i blant erbyn 30 Gorffennaf.  Crybwyllodd na ellir agor pob safle ar unwaith, oherwydd bod rhaid cynnal asesiad risg priodol ac archwilio pob safle er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio, nad yw’r offer chwarae wedi’i ddifrodi na’i fandaleiddio, ac y gallwn gymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i gyfyngu’r potensial o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.  Er mwyn bodloni hyn, rhaid cyflwyno arwyddion newydd i gynghori pobl ar y gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol a defnyddio hylif diheintio dwylo yn y man chwarae, a mwy. 

 

Cyhoeddodd hefyd fod y canfasio etholiadol blynyddol yn mynd rhagddo, a bod y Cyngor yn annog cymaint â phosibl o breswylwyr cymwys i lenwi eu cofrestriadau ar-lein, fel rhan o’r ymdrechion i gyfyngu ar ledu’r coronafeirws.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor, ar ôl i Aelodau’r Senedd basio’r Bil ym mis Tachwedd y llynedd, y gall pobl ifanc 14 a 15 oed gofrestru ymlaen llaw er mwyn iddynt allu pleidleisio’n 16 oed.  Roedd yn gobeithio y bydd Aelodau’n annog preswylwyr lleol i gyflawni’r canfasio yn ôl yr angen, ac mae’r tudalennau etholiadol ar wefan y Cyngor yn cynnwys mwy o fanylion am sut y gallant wneud hynny. 

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd hefyd, drwy gydol y pandemig, y bu’r Cyngor yn ymgymryd ag ystod o fentrau a luniwyd i helpu clybiau chwaraeon lleol.  Mae hyn yn cynnwys sefydlu Cronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr i roi grantiau o hyd at £1,000 i glybiau.  Gwnaed penderfyniad yn ddiweddar i hepgor ffioedd ar gyfer tymor 2019-20 a rhoi cefnogaeth barhaus i glybiau sydd eisoes yn datblygu’r broses trosglwyddo asedau cymunedol.  Sicrhawyd bod mwy o gymorth ar gael drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.  Mae hyn yn galluogi clybiau i wneud cais am grantiau rhwng £300 a £50,000 i helpu i dalu am gyfleustodau, yswiriant a chostau sefydlog eraill a all fod ar waith ar gyfer llogi cyfleusterau neu offer.  Gall helpu clybiau i wneud addasiadau hefyd er mwyn sicrhau bod gweithgareddau’n ddiogel, fel cyflwyno system unffordd, darparu hylif diheintio dwylo a phlatfformau archebu ar-lein, neu osod arwyddion iechyd a diogelwch.  Os yw Aelodau’n ymwybodol o unrhyw glybiau lleol yn eu cymunedau a all elwa ar hyn, mae manylion llawn ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru, a byddem yn annog clybiau chwaraeon i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd ariannu sydd ar gael.

 

Roedd hefyd am roi gwybod i etholwyr, gan fod y pandemig yn bodoli o hyd, bod ystod o gymorth ariannol ar gael i unrhyw un sy’n cael trafferth talu’r Dreth Gyngor.  Anfonwyd dros 6,000 o lythyrau yn rhoi gwybod i breswylwyr am y balansau sy’n weddill ar eu cyfrifon.  Crybwyllodd fod hwn yn gyfnod heriol ac ansicr dros ben, a bod y Cyngor wedi ceisio cydweithio â phreswylwyr, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.  Mae ystod o opsiynau ar gael, gan gynnwys gostyngiadau, disgowntiau ac atgyfeiriadau, ac mae’n gobeithio y bydd Aelodau’n annog unrhyw un sy’n cael trafferthion i gysylltu â’r Cyngor er mwyn canfod ffordd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 421.

422.

Diweddariad ar Ymateb Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Covid-19 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad ar yr ymateb i’r pandemig COVID-19 a’r camau sy’n cael eu cymryd tuag at adfer, ac i roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau am y dull adfer, gan gynnwys sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol.

 

Rhoddodd wybod i’r Cyngor, er mwyn ymateb i’r pandemig COVID-19 byd-eang, ar 23 Mawrth 2020, y rhoddodd Llywodraeth y DU gyfyngiadau symud cenedlaethol ar waith er mwyn ceisio lleihau lledaenu’r coronafeirws.  Ers hynny, mae’r Cyngor wedi newid yn sylweddol dros y pedwar mis diwethaf, yn aml yn ymateb ar frys i newidiadau o ran amgylchiadau, arweiniad a rheoliadau.  Crëwyd gwasanaethau newydd, ataliwyd rhai gwasanaethau, adleoliwyd staff a rhoddwyd arferion gweithio newydd ar waith, gan gynnwys galluogi’r rhai sy’n gallu gweithio gartref i wneud hynny.  Crybwyllodd mai’r ffocws dros y pedwar mis diwethaf fu cyflwyno gwasanaethau hanfodol, yn enwedig y rhai i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ei gymunedau, a cheisio atal lledaenu’r feirws er mwyn achub bywydau.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor bod gwasanaethau wedi’u haddasu ar raddfa a chyflymder digynsail, tra rhoddwyd trefniadau llywodraethu brys ar waith.  Trwy gydol y broses hon, bu un dull gan y Cyngor a gwaith partneriaeth gwell. 

 

Tynnodd sylw hefyd at graffeg a oedd yn dangos ymateb y Cyngor i COVID?19.  Amlygodd nifer yr achosion o COVID-19 yn y Fwrdeistref Sirol, ynghyd â nifer y marwolaethau. 

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y camau sy’n cael eu cymryd o ran llacio’r cyfyngiadau symud yn raddol, ynghyd â’r heriau parhaus sy’n effeithio ar y Cyngor.  Amlygodd yr heriau ariannol i’r Cyngor, sef y pwysau ychwanegol o ran costau, incwm a gollwyd i’r Cyngor, a’r posibilrwydd na fydd yr arbedion o £2.413m yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael eu cyflawni.  Fodd bynnag, gwnaed arbedion annisgwyl o ran cludiant o’r cartref i’r ysgol, adeiladau a thanwydd.  Dywedodd ei bod yn debygol y bydd diffyg yn y Dreth Gyngor, yn enwedig o ystyried yr oedi wrth ddechrau adfer a’r cynnydd mewn budd-daliadau’r Dreth Gyngor.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor am ystod y cymorth ariannol a fu ar gael gan Lywodraeth Cymru ledled Cymru.  Amlygodd y sefyllfa o ran hawliadau misol am wariant ychwanegol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, ynghyd â’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, â thanwariant o £3.8m yn chwarter 1.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y broses Ailddechrau, Adfer ac Adnewyddu a sefydlu’r Panel Adfer Trawsbleidiol.  Byddai angen ailosod cyllideb a Chynllun Corfforaethol 2020/21 er mwyn ystyried yr amgylchiadau a’r blaenoriaethau diwygiedig.  Amlygodd y blaenoriaethau adfer y mae’r Cyngor yn eu hwynebu, ynghyd ag ymateb cydlynus i adfer.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor am yr angen i groesawu’r normal newydd, ond hefyd deall y cyfleoedd a’r risgiau.  I gloi, rhoddodd wybod i’r Cyngor y bu’n cyfnod heriol hwn o 4 mis yn unigryw â newid digynsail, a bu ymateb y Cyngor yn rhagorol, gyda’r ymateb gan rai aelodau staff yn arwrol.  Dywedodd fod yr ergyd economaidd yn debygol o fod yn ddifrifol, â mwy o ddiweithdra a phobl yn hawlio budd-daliadau.

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor ba mor hyderus yw’r Cyngor o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 422.

423.

Canlyniad y Rhaglen Gyfalaf 2019-20 ac Adroddiad Diweddaru Chwarter 1 2020-21 pdf eicon PDF 568 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro adroddiad i gydymffurfio â gofynion Cod Materion Ariannol ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA); rhoddodd ddiweddariad ar yr alldro cyfalaf ar gyfer 2019-20; rhoddodd ddiweddariad ar y Rhaglen Cyfalaf ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill hyd 30 Mehefin 2020; ceisiodd gymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 hyd 2029-30, ac i’r Cyngor nodi’r Dangosyddion Darbodus ac Eraill rhagamcanol ar gyfer 2020-21.

 

Crybwyllodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf £35.474m, a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 26 Chwefror 2020, ac a ddiwygiwyd ymhellach a’i chymeradwyo gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn i gynnwys cyllidebau a dducpwyd ymlaen o 2018-29 ac unrhyw gynlluniau a chymeradwyaethau grantiau newydd.  Crybwyllodd fod y rhaglen ddiweddaraf ar gyfer 2019-20, a gymeradwywyd gan y Cyngor yn Chwefror 2020 fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, yn dod i gyfanswm o £30.137m, y daw £13.964m ohono o adnoddau CBS Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a benthyciadau, gyda’r £16.173 miliwn sy’n weddill yn dod o adnoddau allanol.   

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro wybod i’r Cyngor na wnaed llawer o newidiadau, heblaw’r cymeradwyaethau newydd o £1.964m o ganlyniad i’r cynllun grant newydd gan Lywodraeth Cymru – sef Grant Seilwaith Hwb a’r £0.403m o gyllid a ddaethpwyd yn ôl o 20-21 o adlewyrchu’n fwy cywir y proffiliau gwario, a oedd yn dod â’r gyllideb ddiwygiedig i £32.504m.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor mai’r cyfanswm gwariant ar 31 Mawrth 2020 oedd £22.822m, a oedd yn arwain at gyfanswm tanwariant o £9.682m.  Yn ystod y flwyddyn, roedd nifer o gynlluniau wedi dechrau ond nid oeddent wedi’u cwblhau yn ystod y flwyddyn, neu roeddent wedi’u symud yn gyfan gwbl i 2020-21.  Roedd y rhain yn cynnwys adnewyddu Depo Tred?r, Cryfhau Pontydd ar yr A4061 Cwm Ogwr, y Fargen Ddinesig a gwaith adnewyddu yng Nghwm Llynfi.  Crybwyllodd y bu llithriant am nifer o resymau, gan gynnwys oedi o ran dechrau prosiectau oherwydd yr angen i ymgymryd ag arolygon ehangach, trafodaethau parhaus â chyrff ariannu ac oedi cyffredinol arall mewn rhaglenni.  Roedd yn debygol y byddai llithriant sylweddol yn ystod 2020-21 hefyd, o ganlyniad i gyfyngiadau symud COVID-19 a’r rheoliadau dilynol yn ymwneud â chadw pellter cymdeithasol.    

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro wybod i’r Cyngor bod angen llithriant net o £9.073 miliwn yn 2020-21, a bod y prif gynlluniau fel a ganlyn:

 

·         £2,246,000 mewn perthynas â Datblygiad Llynfi – mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ag estyniad o 6 mis i’r benthyciad i alluogi’r Cyngor i ymgymryd â gwaith dichonolrwydd pellach

·         £908,600 o gyllid ar gyfer mân waith cyfalaf sydd wedi llithro o ganlyniad i’r oedi o ran cwblhau nifer o gynlluniau

·         £564,000 mewn perthynas â’r Hwb Preswyl i Blant oherwydd oedi wrth gadarnhau’r cymeradwyaeth cyllid

·         £471,000 mewn perthynas â Chryfhau Pontydd.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 423.

424.

Adroddiad Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro a Phrif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol wybod am yr Adroddiad Gwybodaeth canlynol, a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

Teitl                                                                          Dyddiad Cyhoeddi

Penderfyniadau Dirprwyedig Brys                           16 Gorffennaf 2020

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cyngor yn cydnabod y cyhoeddwyd y                             ddogfen a restrir yn yr adroddiad hwn.

425.

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cynghorydd MC Voisey i’r Dirprwy Arweinydd

 

Faint o achosion llys, (dirwyon, gorchmynion atafaelu enillion ac ati) a'r defnydd o feilïaid a ddefnyddiwyd gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y 12 mis diwethaf er mwyn adennill y dreth gyngor sydd heb ei thalu, a faint a adenillwyd drwy gamau o'r fath?

 

Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Mae tystiolaeth wedi dod i’r amlwg yn ystod y Pandemig fod COVID – 19 wedi effeithio’n anghymesur ar weithwyr iechyd proffesiynol o gefndiroedd ethnig.

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet roi sicrwydd i ni fod pob gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn Awdurdod Iechyd Cwm Taf Morgannwg gan gynnwys ein Cartrefi Gofal wedi cael eu hasesiadau risg fel rhagofal, gan gynnwys eu hethnigrwydd fel ffactor risg, ynghyd ag oedran, pwysau, problemau iechyd sylfaenol, anabledd a beichiogrwydd, a beth ydym ni wedi’i ddysgu?

 

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd MC Voisey i’r Dirprwy Arweinydd

 

"Sawl achos llys, dirwy, gorchymyn atal cyflog ac ati, a sawl gwaith mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi defnyddio beilïaid i adennill y Dreth Cyngor heb ei thalu, a faint a adenillwyd drwy’r camau gweithredu hyn?"

 

Ymateb y Dirprwy Arweinydd:

 

Mae’r Dreth Gyngor yn daladwy ar bob annedd domestig yn y fwrdeistref ac mae’n daladwy o 1 Ebrill bob blwyddyn.  Fodd bynnag, mae pawb yn cael yr opsiwn i dalu drwy randaliadau am 10 neu 12 mis.  Os caiff rhandaliad ei golli, caiff hysbysiad atgoffa ei anfon yn gofyn am y taliad, a bydd y broses adennill yn dechrau.  Crynhowyd y broses ar ffurf siart llif. 

 

Wedi i’r hysbysiad terfynol gael ei anfon, mae talwr y Dreth Gyngor yn colli’r hawl i dalu drwy randaliadau, a daw’r balans sy’n weddill ar gyfer y flwyddyn yn daladwy.

           Os caiff y taliad llawn ei dderbyn, ni chymerir unrhyw gamau pellach

           Os caiff rhan o’r taliad neu ddim ohono ei (d)derbyn, caiff gw?s ei dderbyn ynghyd â chostau ar gyfer y balans sy’n weddill

 

Wedi i w?s gael ei anfon, mae talwr y Dreth Gyngor yn colli’r hawl i dalu drwy randaliadau, a daw’r balans sy’n weddill ar gyfer y flwyddyn yn daladwy.

           Os caiff y taliad llawn ei dderbyn, gan gynnwys costau, cyn y dyddiad llys, ni chymerir unrhyw gamau pellach

           Os caiff rhan o’r taliad ei derbyn cyn y dyddiad llys, ceir Gorchymyn Atebolrwydd gan y Llys Ynadon ar gyfer y balans sy’n weddill

           Os na chaiff taliad ei dderbyn cyn y dyddiad llys, ceir Gorchymyn Atebolrwydd gan y Llys Ynadon ar gyfer y balans sy’n weddill

 

Ar hyn o bryd, ar ôl cael Gorchymyn Atebolrwydd gan y Llys Ynadon, mae’r camau canlynol ar gael i ni er mwyn adennill dyled y Dreth Gyngor:-

 

Cam gweithredu                   Sylwadau

Cytundeb swyddfa                 Os bydd rhywun yn mynd i gytundeb ac yn parhau i wneud taliadau, ni chymerir unrhyw gamau pellach.  Fodd bynnag, os caiff cytundeb ei dorri, byddant yn cael llythyr i ddechrau yn gofyn iddynt sicrhau bod eu cytundeb yn gyfredol.  Os na chaiff hyn ei wneud, defnyddir dull arall i adennill y balans, a all gynnwys unrhyw rai o’r dulliau sydd ar gael, gan ddibynnu ar ba wybodaeth sydd wedi’i dal ar y cyfrif penodol.

 

Atafaelu enillion                      Dyma lle mae’r balans sy’n weddill yn cael ei gasglu drwy gyflog unigolyn ar sail ei incwm net.  Dim ond 2 orchymyn atafaelu enillion sy’n gallu bod ar waith ar unrhyw adeg.  Llywodraeth ganolog sy’n pennu’r swm i’w ddidynnu gan y cyflogwr, a bydd yn parhau nes i’r ddyled gael ei thalu’n llawn neu nes i’r cyflogai roi’r gorau i weithio.  Yna, mae’r cyflogwr yn gyfrifol am anfon unrhyw ddidyniadau’n uniongyrchol atom er mwyn clirio’r ddyled.  Os bydd unigolyn yn gadael cyflogaeth, caiff llythyr ei anfon yn gofyn iddo/iddi gysylltu â ni i wneud trefniadau amgen i glirio’r ddyled.  Fodd bynnag, os na fydd yn cysylltu â ni ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 425.

426.

Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd R Young

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod y dystiolaeth wyddonol ysgubol o newid ym mhatrymau’r tywydd fel y dangoswyd gan y glaw a'r llifogydd digyffelyb a welwyd yn ddiweddar, yn lleol a thrwy'r DU gyfan hefyd, ac mae o'r farn fod hyn yn dystiolaeth bellach i gynhesu byd-eang, ac felly'n credu'n bendant fod argyfwng hinsawdd yn bodoli erbyn hyn, ac oherwydd hynny’n galw ar Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i ddarparu’r canlynol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

 

a.           y pwerau a'r adnoddau angenrheidiol i wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn niwtral o ran carbon

 

b.           lefelau o adnoddau ar raddfa i ymateb i'r heriau a wynebir a phrosesau ar gyfer cael gafael ar yr adnoddau hynny fydd yn ei gwneud yn bosibl gweithredu ar y cyfle cyntaf

 

i)                 Sefydlu mecanweithiau ymgysylltu priodol er mwyn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol

 

ii)                Ymgymryd ag adolygiad ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o’r camau presennol ar gyfer ymateb i argyfwng yn yr hinsawdd

 

iii)              Datblygu Strategaeth Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd a chynllun gweithredu wedi ei flaenoriaethu sy’n esbonio camau sydd i’w cymryd yn y tymor byr, canolig a hir.

 

 

Cofnodion:

Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd R Young

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod y dystiolaeth wyddonol aruthrol o batrymau tywydd cyfnewidiol, fel y dangoswyd yn ddiweddar gan y glawiad a’r llifogydd digynsail ar lefel leol ac ar draws y DU, ac mae o’r farn bod hyn yn dystiolaeth bellach o gynhesu byd-eang.  Felly, mae’n credu’n gryf bod argyfwng hinsawdd yn bodoli erbyn hyn ac, fel y cyfryw, mae’n galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i roi’r canlynol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

a. y pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Pen?y-bont ar Ogwr yn garbon niwtral

b. lefelau adnoddau ar raddfa i ymateb i’r heriau a wynebir, a phrosesau i fanteisio ar yr adnoddau hynny er mwyn gallu cymryd camau cyn gynted â phosibl

i) Sefydlu dulliau ymgysylltu priodol i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol

ii) Cynnal adolygiad ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o’r camau cyfredol i ymateb i’r argyfwng hinsawdd

iii) Datblygu Strategaeth Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd, a chynllun gweithredu â blaenoriaethau sy’n amlinellau camau tymor byr, canolig a thymor hir.

 

Eiliwyd yr Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd CE Smith.

 

Cynigiwyd diwygiad i’r Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd R Penhale Thomas, a eiliwyd gan y Cynghorydd N Clarke, y dylid ychwanegu’r geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyhoeddi argyfwng hinsawdd” ar ddechrau’r Hysbysiad o Gynnig. 

 

Derbyniwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Young. 

 

PENDERFYNWYD:                Bod yr Hysbysiad o Gynnig yn cael ei                                                                                   gymeradwyo.    

 

427.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z