Agenda, decisions and minutes

Cyfarfod Blynyddol, Cyngor - Dydd Mercher, 30ain Medi, 2020 15:00

Lleoliad: o Bell trwy Skype

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  Mark Anthony Galvin

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cyngor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

439.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

 

440.

Derbyn cyhoeddiadau gan y Cynghorydd Maer SE Baldwin

Cofnodion:

Cyn gwneud ei gyhoeddiadau, dywedodd y Maer wrth y Cyngor ei fod wedi nodi yn y Cyngor cyffredin diwethaf bod Cynghorydd Ceidwadol wedi gwneud datganiad anghywir. Dywedodd y Maer ei fod yn anghywir i ddweud mai Aelod Ceidwadol wnaeth y datganiad, gan y gallai fod wedi cael ei wneud, mewn gwirionedd, gan unrhyw Gynghorydd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Roedd cyhoeddiad y Maer fel a ganlyn:-

 

"Hoffwn ddweud ei bod wedi bod yn bleser mawr gwasanaethu fel Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2019/2020.    Efallai nad wyf wedi cael popeth yn iawn drwy gydol fy nhymor ond mae pawb yn gwneud camgymeriadau.  Wel, o leiaf rwy'n gwybod ac yn cyfaddef pan fyddaf yn eu gwneud, ac yn dysgu ganddynt.  Nid yw'r flwyddyn wedi mynd yn ôl y bwriad, rwy’n si?r eich bod chi gyd yn ymwybodol o hynny, gyda'r cyfyngiadau a osodwyd arnom fel rhan o bandemig Covid19, gan olygu mai fi bellach yw’r Maer sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Byddwn wedi hoffi gwneud mwy o ddigwyddiadau casglu arian, ond yn anffodus nid yw amser a pandemig wedi caniatáu hynny.  Yn ôl ym mis Tachwedd 2019 trefnais ddigwyddiad prynhawn llwyddiannus iawn o'r enw 'Music with the Mayor' yn Court Colman Manor.  Yn y digwyddiad, cafodd y gwesteion fwynhau canapés a Prosecco diwaelod am yr awr a hanner cyntaf.  Cafodd y gwesteion wledd o adloniant gan artistiaid cerddorol lleol ac artist drag o fri rhyngwladol, 'Pixie Perez'.  Diolch yn arbennig i bob artist a roddodd o'u hamser yn rhad ac am ddim ac i berchnogion y Court Colman Manor am ganiatáu i ni ddefnyddio eu lleoliad yn rhad ac am ddim hefyd. Heb gefnogaeth fy nghyfaill da iawn Ryan Phillips ni fyddwn byth wedi gallu trefnu digwyddiad o’r fath.  Gweithiodd yn ddiflino am fisoedd i wneud yn si?r bod y digwyddiad yn llwyddiant.  Diolch hefyd i bawb a roddodd wobrau raffl ac i'r cynghorwyr hynny a fynychodd y digwyddiad.

 

Gan mai fi yw Maer hoyw cyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, roedd yn bwysig i mi ddewis elusen a oedd yn agos at fy nghalon.  Rwyf wedi hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gydol fy mywyd, nid fel Cynghorydd yn unig.  Yr elusen a ddewisais oedd Pride Cymru, a ches bleser mawr o'u hysbysu y byddwn yn trosglwyddo £4954.54 iddyn nhw i gefnogi'r gwaith gwych y maen nhw’n ei wneud.

 

Trwy gydol y flwyddyn rwyf wedi annog Cynghorwyr i wneud rhoddion i Fanc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr yn ein cyfarfodydd cyngor llawn misol.  Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i helpu Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr i fwydo'r rhai o fewn ein cymdeithas sydd mewn tlodi bwyd eithafol.  Gwnaeth dychymyg y Cynghorwyr hynny a luniodd yr hamperi adfent gwrthdro argraff arbennig arnaf.  Roedd y Banc Bwyd yn hynod ddiolchgar am bopeth a wnaethom drostyn nhw.

 

Yn ogystal â mynychu llawer o ddigwyddiadau, gosodais dasg i’n hun o wella'r ffordd yr oedd y Cyngor hwn yn cefnogi rôl y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 440.

441.

Ethol Maer ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mai 2021 yn unol ag Adran 23(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                      Ethol y Cynghorydd K Watts yn Faer am weddill y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2021.

 

442.

Cyhoeddi Consort y Maer

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cynghorydd Watts mai’r Cynghorydd J Williams fydd ei Gonsort.

    

443.

Penodi Dirprwy Faer ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mai 2021 yn unol ag Adran 24(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Cafwyd dau enwebiad ar gyfer safle’r Dirprwy Faer am weddill y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2021, fel a ganlyn:-

 

Cynghorydd JC Spanswick

Cynghorydd A Hussain

 

Cynhaliwyd pleidlais felly er mwyn penodi Dirprwy Faer, a’r canlyniad fel a ganlyn:-

 

Cynghorydd JC Spanswick                           Cynghorydd A Hussain

 

            34 pleidlais                                                 17 pleidlais

 

Gwnaeth 2 ymatal

PENDERFYNIAD:                      Bod y Cynghorydd JC Spanswick yn cael ei benodi'n Ddirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn ddilynol.

 

444.

Cyhoeddi Consort y Dirprwy Faer

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cynghorydd Spanswick mai Mrs S Spanswick fydd ei Gonsort.

 

445.

Cyhoeddi Maer Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                      Cyhoeddi mai Megan Stone, Coleg Cymunedol Y Dderwen, fydd Maer Ieuenctid y Fwrdeistref Sirol ar gyfer y flwyddyn ddilynol (hyd at fis Mai 2021).

 

446.

Cyhoeddi Dirprwy Faer Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                        Cyhoeddi mai Tino Kaseke, Ysgol Archesgob McGrath, fydd Dirprwy Faer Ieuenctid y Fwrdeistref Sirol ar gyfer y flwyddyn ddilynol (hyd at fis Mai 2021).

 

447.

Ethol Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

  PENDERFYNIAD:                      Fe'i cynigwyd, ei secondio'n briodol, a'i gario mewn cydsyniad, mai’r Cynghorydd HJ David a gaiff ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2021.

 

448.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei adroddiad fel a ganlyn:-

 

"Hoffwn ddechrau drwy longyfarch Ken a Julia, a John a Susan. Rwy'n gwybod y byddant yn gynrychiolwyr ac yn llysgenhadon gwych dros y Fwrdeistref Sirol, diolchaf i'm cydweithwyr am fy ail-benodi’n Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Rhoddaf fy llongyfarchion cyhoeddus i Megan a Tino hefyd.

 

Mae bod yn Arweinydd yn fraint ac yn gyfrifoldeb eithriadol, addawaf roi fy sylw a'm ffocws llawn i'r rôl unwaith eto, a gwneud fy ngorau bob amser i'r holl bobl a'r holl gymunedau a wasanaethwn.

 

 

Yn 2019, pan anerchais gyfarfod blynyddol y Cyngor diwethaf, soniais am sut yr oeddem yn parhau i fod yn un o'r cyfnodau anoddaf a heriol y mae llywodraeth leol wedi'i wynebu erioed.

 

Ar y pryd, roeddwn yn cyfeirio at fesurau cyni, ac effaith gorfod torri £60 miliwn o gyllidebau craidd cynghorau dros gyfnod o ddeng mlynedd.

 

Pwy allai fod wedi rhagweld y byddai'r senario parhaus hwn, o fewn ychydig fisoedd yn unig, yn cael ei ddwysáu ymhellach gan yr achosion byd-eang o Covid-19?

 

Yr ydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r modd y mae'r cyngor hwn wedi esgyn unwaith eto i wynebu’r her ddiweddaraf ac anoddaf hon.

 

Mae'r ymateb gan staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn hynod.

 

Maent wedi addasu, arloesi, a dyfalbarhau o dan yr amgylchiadau anoddaf, ac maent wedi sicrhau bod yr awdurdod hwn wedi gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl y fwrdeistref sirol.

 

Yr wyf yn sicr y bydd aelodau o bob plaid am ymuno â mi i gydnabod eu hymdrechion, ac i gynnig ein diolchgarwch a'n parch diffuant i staff y cyngor.

 

Yn ail, mae'r pandemig wedi dod ag ystod eang o sefydliadau ac asiantaethau ynghyd i gydweithio a chyflawni nod cyffredin ar draws ein hysgolion a'n cymunedau.

 

Mae hyn wedi cynnwys cyflawniadau fel sefydlu chwe chanolfan gofal plant brys dros nos, sicrhau nad oedd dros bum mil o blant mynd ar lwgu, troi depo cyngor yn orsaf ambiwlans dros dro o fewn ychydig ddyddiau, sefydlu Abergarw Manor fel cyfleuster cam-i-lawr dros dro i bobl sy'n gadael yr ysbyty, a darparu mwy na £28 miliwn o gymorth ariannol i 2,300 o fusnesau anghenus.

 

Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â BAVO a grwpiau cymunedol gwych i gefnogi miloedd o bobl agored i niwed a oedd gwarchod, ac wedi sefydlu system ymarferol, a reolir yn lleol, er mwyn monitro, olrhain, ac amddiffyn mewn pythefnos yn unig.

 

Er mor heriol, mor galed, ac, mewn llawer o achosion, mor drasig ag y bu'r pandemig, rydym wedi gweld y gorau o bobl, a'r agwedd hon yn anad dim sydd wedi ein hatgoffa'n ysbrydoledig o’r rheswm ein bod ni yma.

 

Wrth gwrs, yr ydym hefyd wedi wynebu'r ergyd drom o golli'r Ford Engine Plant, gan golli 1,700 o swyddi a thros £250 miliwn y flwyddyn o'r economi leol.

 

Dywedais wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Nh?'r Cyffredin fod buddsoddi brys a gweithredu cyflym yn hanfodol i ddiogelu cymunedau a'r economi leol y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 448.

449.

Yr Arweinydd i benodi Aelodau'r Cabinet

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                      Penododd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol i'r Cabinet yn swyddogol:-

 

                                           Cynghorydd HM Williams

                                           Cynghorydd D Patel

                                           Cynghorydd N Burnett

                                           Cynghorydd CE Smith

                                           Cynghorydd RE Young

450.

Caiff yr Arweinydd gyhoeddi Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o blith yr Aelodau hynny a benodir i'r Cabinet, a chaiff gyhoeddi penodiad Aelodau'r Cabinet i bortffolios

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                      Cyhoeddodd yr Arweinydd mai'r Cynghorydd EM Williams fydd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Adnoddau ar gyfer 2020/2021.

 

                                           Ychwanegodd mai'r Aelodau Cabinet canlynol fyddai'n gyfrifol am y portffolios isod:-

 

                                Cynghorydd D Patel – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol

                                Cynghorydd N Burnett – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

                                Cynghorydd CE Smith – Addysg ac Adfywio

                                Cynghorydd RE Young - Cymunedau

 

451.

Rhaglen Arfaethedig o Gyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau'r Cyngor pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a'i ddiben oedd cynnig rhaglen o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ddinesig Hydref 2020 – Ebrill 2021 i'w chymeradwyo, ac i nodi'r rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn ddinesig Mai 2021 – Ebrill 2022. 

 

Cyhoeddodd y Swyddog Monitro ddau newid i'r rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn 2020-2021, sef bod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu  ar 25 Tachwedd bellach yn i’w gynnal ar 18 Tachwedd 2020, a bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 22 Hydref bellach yn cael ei gynnal ar 4 Tachwedd 2020.

 

PENDERFYNIAD:                          Fod y Cyngor wedi:

 

a.         Cymeradwywyd y rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2020/21 a nodir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad hwn;

 

b.         Cymeradwywyd y rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd Pwyllgorau'r Cyngor a nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad hwn (yn amodol ar y diwygiadau uchod);

 

c.         Nodwyd y rhaglen ddrafft dros dro o gyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau’r Cyngor ar gyfer 2021/22 a nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad;

 

d.         Nodwyd dyddiadau'r Cabinet, Pwyllgorau'r Cabinet a Chyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo sydd hefyd wedi'u nodi yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad, at ddibenion gwybodaeth.

 

452.

Penodiadau i Bwyllgorau'r Cyngor a Chyrff Eraill y Cyngor yn unol â Darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i benodi Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac unrhyw Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli, a chyrff eraill y mae'r Cyngor o'r farn eu bod yn briodol, i ymdrin â materion nad ydynt wedi'u neilltuo i'r Cyngor llawn nac yn swyddogaethau gweithredol.

 

Dywedodd fod Rhan 3 o Gyfansoddiad y Cyngor, dan deitl Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r Cyngor, yn nodi holl Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli a chyrff eraill y Cyngor sydd ar waith ar hyn o bryd.  Yn yr adroddiad roedd rhai Pwyllgorau penodol a lywodraethir gan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 o ran eu cyfansoddiad a/neu eu penodiad o Gadeiryddion.  

 

Amlinellodd yr adroddiad y broses y dylid ei dilyn mewn perthynas â phenodi Aelodau i'r cyrff uchod, ond yn fwy penodol, i benodi Cadeiryddion a lle y bo'n gymwys, Is-gadeiryddion, yn unol â'r darpariaethau a amlinellir uchod.

 

Enghraifft o hyn fyddai penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar ôl y cyfarfod blynyddol. Ni allai'r penodiadau hyn fod yn Aelodau o gr?p gwleidyddol mwyaf y Cyngor.

 

Cynigwyd fod cylch gwaith a swyddogaethau presennol Pwyllgorau a chyrff eraill y Cyngor heb eu newid, fel y nodir yn Rhan 3 o'r Cyfansoddiad – Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r Cyngor a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Mae cydbwysedd gwleidyddol yn hanfodol er mwyn pennu'r ffordd y dyrennir seddi ar Bwyllgorau. Dangosir cydbwysedd gwleidyddol presennol Pwyllgorau a chyrff eraill yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dangoswyd strwythur presennol y pwyllgorau yn Atodiad 3 yr adroddiad, tra bod aelodaeth bresennol pwyllgorau a fydd yn sail i unrhyw newidiadau i aelodaeth y pwyllgorau wedi'i hatodi yn Atodiad 4. 

 

PENDERFYNIAD:                         Fod y Cyngor wedi:-

 

(1)        Cytuno i ailenwi'r Pwyllgor Archwilio yn Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a chymeradwyo y dylid diwygio Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio yn Rhan 3 o'r Cyfansoddiad yn unol â hynny i adlewyrchu'r newid yn enw'r Pwyllgor Archwilio, yn unol â pharagraff 4. 2.3 o'r adroddiad, ac i ddileu'r cyfeiriad at y Polisi Chwythu'r Chwiban ym mharagraff 4.2.4 o'r adroddiad;

 

(2)        Penodi’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac unrhyw Bwyllgorau eraill y mae'r Cyngor o'r farn eu bod yn briodol i ymdrin â materion nad ydynt wedi'u neilltuo i'r Cyngor nac yn swyddogaethau gweithredol;

 

(3)        Pennu maint a chylch gorchwyl y Pwyllgorau hynny fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(4)        Penderfynu dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â'r rheolau cydbwysedd gwleidyddol fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad;

 

(5)        Penderfynu pa grwpiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cyngor sydd â hawl i wneud pa benodiadau o Gadeiryddion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu;

 

(6)        Derbyn enwebiadau a chynghorwyr penodedig i wasanaethu ar bob un o'r Pwyllgorau, y Paneli a chyrff eraill (fel y dangosir fel Atodiad i'r cofnodion hyn);

 

           Panel Apeliadau

           Y Pwyllgor Penodiadau

           Y Pwyllgor Archwilio

           Y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

           Pwyllgor Rheoli Datblygu

           Y Pwyllgor Trwyddedu

           Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003

           Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned

           Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 452.

453.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol a Phwyllgorau eraill pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

          Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i benodi Aelodau i Banel Heddlu a Throseddu De Cymru,Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Gr?p Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru fel y nodir yn yr adroddiad yn Atodiad 1, ar gyfer y flwyddyn ddilynol h.y. hyd at fis Mai 2021.

 

Enwebwyd dau berson i ymuno â Chyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd, fel a ganlyn:-

 

Y Cynghorydd JP Blundell

Y Cynghorydd M Voisey

 

Cynhaliwyd pleidlais felly, a’r canlyniad fel a ganlyn:-

 

Cynghorydd JP Blundell                           Cynghorydd M Voisey

 

            30 pleidlais                                                          17 pleidlais

 

Gwnaeth 5 ymatal

 

PENDERFYNIAD:                    (1) Bod y Cynghorydd JP Blundell yn cael ei benodi i Gyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Caerdydd a bod y Cynghorydd Alex Williams yn cael ei benodi'n Aelod Wrth Gefn (nid oedd gwrthwynebiad i benodiad y Cynghorydd Williams).

 

                                         (2) Bod y Cynghorydd RE Young yn cael ei benodi i Banel Heddlu a Throseddu De Cymru.

 

                                          (3) Bod Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn cael ei benodi i Gynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru.

 

454.

Arwisgo Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2020/21

Cofnodion:

Yn sgil cymeradwyaeth y Cyngor i enwebiad y Cynghorydd K Watts fel Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y flwyddyn 2020/2021, gwahoddwyd y Cynghorydd Watts i dderbyn Swyddfa'r Maer yn ffurfiol gan y Maer sy’n ymadael. Derbyniodd y Cynghorydd Watts swydd y Maer ar lafar, ac adroddodd y llw canlynol :–

 

"Rwyf i, Kenneth Watts, yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn dwyn gwir deyrngarwch i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail."

 

Estynnodd y Cynghorydd SE Baldwin ei longyfarchiadau i'r Maer newydd.

455.

Arwisgo Consort y Maer

Cofnodion:

Yn sgil enwebiad y Cynghorydd J Williams i fod yn gonsort y Maer ar gyfer y flwyddyn 2020/21, gwahoddwyd ef i dderbyn swydd y consort yn ffurfiol gan y Maer sy’n ymadael.

 

Derbyniodd y Cynghorydd Julia Williams swydd Consort y Maer ar lafar, fel a ganlyn:-

 

"Mae'n bleser mawr gennyf dderbyn swydd Consort y Maer." 

 

Estynnodd y Cynghorydd SE Baldwin ei longyfarchiadau i’r Consort newydd.

 

456.

Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer newydd

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd K Watts, y Maer newydd, ei anerchiad fel a ganlyn:-

 

"Mr. Maer, Cynghorwyr, gwesteion, a theulu, sydd 'bron' yn bresennol, , diolch i ryfeddodau technoleg fodern.

 

Yn naturiol, yr wyf yn falch iawn ac yn anrhydeddus o gael fy ethol i swydd Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rhywbeth nad oeddwn erioed wedi disgwyl iddo ddigwydd. Er mwyn ymhelaethu rhywfaint ar yr hyn y mae’n ei olygu i mi a'i realiti annisgwyl, bydd angen egluro ychydig ar sut y gwnaeth Sais fel fi gyrraedd y pwynt yma.

 

Ond, cyn i mi fynd ymhellach, rhaid imi ddweud fy mod yn falchach fyth, a’n fwy anrhydeddus, o gael un person penodol i gytuno i fod yn gonsort i mi, yn enwedig o ystyried y newyddion a gafodd yr adeg hon y llynedd a'r effaith ddilynol y cafodd arni. Ni allaf ond edmygu ei chryfder a'i phenderfynoldeb o ystyried yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'i phenderfyniad, ac mae’n cadarnhau ei bod yn fenyw arbennig.

 

Felly, mae'n fater o falchder a phleser pan ddywedaf wrthych fod y Cynghorydd Julia Williams wedi cytuno i fod yn gonsort i mi.

 

Ond i ddod yn ôl at yr hyn y mae'r anrhydedd hwn yn ei olygu i mi.

 

Des i Dde Cymru am y tro cyntaf yn 1964, yn 18 oed a’m bryd ar ferch ifanc o Gymru o Gwm Garw, a ddaeth yn ddiweddarach i fod yn wraig i mi.

 

Bryd hynny, roedd y tipiau glo yn dal yn amlwg iawn, a d?r yr afon farw yn ddu. Roedd fy narpar fam yng nghyfraith, er nad oedd hi’n gynghorydd, yn llafar iawn ar fater glanhau'r llanastr a adawyd gan y diwydiant glo, diwydiant lle bu ei g?r, fy narpar dad yn y gyfraith, yn gweithio drwy gydol ei oes. A minnau o Loegr, gwnaeth y sefyllfa a'r dinistr a wnaed gan y diwydiant argraff barhaol arnaf. Ond, dros y blynyddoedd, gwnaethpwyd mwy o argraff fyth gan y gwaith glanhau dilynol gan Gyngor Bwrdeistref Ogwr i ddechrau, a chan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach. I mi, mae hyn hyd yn oed yn fwy trawiadol o ystyried sefyllfa Dyffryn Garw cyn dechrau ei adferiad.

 

Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf yn ôl yn y 60au y byddwn yn dod yn Faer Sir Pen-y-bont ar Ogwr (Cyngor Bwrdeistref Ogwr ar y pryd hynny) byddwn wedi meddwl eu bod wedi drysu’n lan! A byddai fy rhieni yng nghyfraith yn meddwl hynny hefyd!  Doedd gen i ddim math o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ar y pryd.

 

Yn anffodus, nid oes yr un o'r rhai yr wyf wedi sôn amdanynt yma heddiw, ond rwy'n falch o ddweud fod fy mhlant a'm hwyrion yma.

 

Wedi i mi symud i Dde Cymru ym 1976 dechreuais gymryd rhan mewn materion lleol ym Mhorthcawl. Ar ôl gweld beth yr hyn a wnaethpwyd yng Nghwm Garw, doedd dim byd i’n hatal rhag gwneud yr un fath mewn mannau eraill, felly dyma fi heddiw.

 

Fel y gwyddom, mae pethau o'r diwedd yn dechrau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 456.

457.

Arwisgo Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2020/21

Cofnodion:

Yn sgil cymeradwyaeth y Cyngor i arwisgo’r Cynghorydd JC Spanswick fel Dirprwy Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y flwyddyn 2020/2021, gwahoddwyd y Cynghorydd Spanswick i dderbyn Swydd y Dirprwy Faer yn ffurfiol gan y Maer sy’n ymadael.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Spanswick ei fod yn falch ac yn anrhydeddus o dderbyn rôl Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn 2020/2021.

 

Estynnodd y Cynghorydd SE Baldwin ei longyfarchiadau i’r Dirprwy Faer newydd.

 

458.

Arwisgo Consort y Dirprwy Faer

Cofnodion:

Yn sgil enwebiad Mrs S Spanswick i fod yn gonsort y Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn 2020/21, gwahoddwyd hi i dderbyn swydd y consort yn ffurfiol gan y Maer sy’n ymadael.

 

Derbyniodd Mrs S Spanswick swydd Consort y Dirprwy Faer ar lafar, fel a ganlyn:-

 

"Mae'n bleser mawr gennyf dderbyn swydd Consort y Dirprwy Faer." 

 

Estynnodd y Cynghorydd SE Baldwin ei longyfarchiadau i Gonsort newydd y Dirprwy Faer.