Agenda, decisions and minutes

Cyngor - Dydd Mercher, 16eg Medi, 2020 15:00

Lleoliad: o bell trwy Skype

Cyswllt: Gwansanaethau Democrataidd 

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cyngor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

428.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Cofnodwyd y datganiadau canlynol o ddiddordeb:

 

Nododd Y Cynghorydd PA Davies ddiddordeb personol yn eitem 6 ar yr agenda - Cyflwyniad ar Fargen Prifddinas-Rhanbarth Dinas Caerdydd a’r Rhaglen Gyflwyniadau i’r Dyfodol i’r Cyngor am fod y Cynghorydd yn adnabod Cadeirydd y Panel Partneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi.

 

Nododd y Cynghorydd SE Baldwin ddiddordeb personol yn eitem 6 ar yr agenda - declared a personal interest in agenda item 6 - Cyflwyniad ar Fargen Prifddinas-Rhanbarth Dinas Caerdydd a’r Rhaglen Gyflwyniadau i’r Dyfodol i’r Cyngor am ei fod yn adnabod Cadeirydd y Panel Partneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi.

429.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 130 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/07/20

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Derbyn Cofnodion cyfarfod y Cyngor ar y 22 Gorffennaf 2020, fel cofnod gwir a chywir.

430.

Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer

Cofnodion:

Diolchodd y Maer i holl staff yr awdurdod am eu gwaith caled parhaus yn ystod y cyfnod anodd hwn, a bod eu hymdrechion diflino’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr.

 

Llongyfarchwyd Mr Laurence Brophy o Bencoed a oedd wedi beicio o Land’s End i John ‘O Groats yn ddiweddar i godi arian ac i greu ymwybyddiaeth o Llamau sef elusen i’r digartref. Nododd fod Mr Brophy yn fwy arbennig fyth, am ei bod hi’n ymddangos mai ef yw’r dyn hynaf i gwblhau’r sialens, ac yntau’n 88 mlwydd oed. Hyd yn hyn, mae wedi llwyddo i godi £3,000 ar gyfer yr elusen.

 

Gyda thristwch, cyhoeddodd y Maer am farwolaeth Mr George Davies yn ddiweddar. Bu’n gymar i’r Maer, sef Marlene Thomas ei ferch, yn ystod ei chyfnod fel yr arweinydd Dinesig. Roedd hefyd yn gyn Cynghorydd cymunedol. Er dathlu ei ben-blwydd yn 90 yn ystod ei gyfnod fel Cymar i’r Maer, ni fethodd yr un digwyddiad gan roi o’i orau yn y rôl, gan ymhél â gwaith pellach yn y gymuned hyd yn oed wedi diwrnodau hir yn cyflawni ei ddyletswyddau dinesig. Estynnodd y Maer ei gydymdeimlad â Marlene Thomas a’i theulu ar ran y Cyngor.

431.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Hysbysodd yr Arweinydd yr Aelodau o’r cyhoeddiad mai Rhondda Cynon Taf, yn anffodus, oedd yr ail ardal yng Nghymru i wynebu clo mawr a rhoddodd grynodeb i’r Aelodau o ddiweddariad ar y sefyllfa ym Mhen-y-bont. Mewn cyfarfod o’r Cabinet ddoe, cefnogwyd cynllun gweithredu rhanbarthol a oedd yn amlinellu cyfres o fesurau ar gyfer taclo lledaeniad Covid-19 ac ymateb i unrhyw achosion neu ddigwyddiadau’n gysylltiedig â’r feirws. Mae Cynllun Atal ac Ymateb i Covid-19 yn ymwneud ag ardal Cwm Taf Morgannwg yn gyfan, ac fe’i datblygwyd ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a’r bwrdd iechyd er mwyn disgrifio rôl, rôl allweddol, prif amcanion a’r mesurau ar gyfer y rhanbarth yn fanwl, nodi trefniadau ar gyfer atal lledaeniad yr haint ymysg y mwyaf bregus, lliniaru a rheoli ei effaith, a monitro o fewn cymunedau lleol. Mae’r cynllun hefyd yn amlinellu’r gweithdrefnau sydd wedi eu mabwysiadu pan fydd gofyn gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithredu camau lleol neu gyfyngiadau, fel y gwelwyd yn fwyaf diweddar yn ardal Caerffili, a bellach yn Rhondda Cynon Taf.

 

Eglurodd fod modd rheoli nifer o glystyrau a digwyddiadau drwy raglen Profi, Olrhain, Diogelu heb fod angen cau adeiladau na gweithredu cyfyngiadau clo mawr pellach, ac mae ymchwiliadau trylwyr a threfniadau rheoli wedi eu mabwysiadu ar gyfer unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol. Cyfeiriodd y Cyngor at rôl ganolog pob Cyngor o safbwynt rheoli Covid-19 yng Nghymru. Tanlinellodd y modd y caiff trigolion bregus eu cefnogi gan ofal cymdeithasol, yr hybiau gofal plant sydd wedi cefnogi gweithwyr allweddol hanfodol a phlant bregus. Cynnal gwasanaethau hanfodol, sicrhau fod staff ar gael i gefnogi’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu. Os bydd galw ar y Cyngor i ymateb i ddigwyddiadau neu achosion arwyddocaol pellach, bydd yn ateb y galw yma.

 

Hysbysodd yr Arweinydd yr Aelodau y gall fod pobl yn poeni am y cynnydd diweddar yn y cyfraddau heintio ar hyd a lled rhanbarth De Cymru a’r cyfyngiadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi, ac aeth ati i sicrhau’r Aelodau a’r trigolion fod y systemau angenrheidiol yn eu lle i geisio atal hyn rhag digwydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Ar yr un pryd, dylai pawb gydnabod fod osgoi gorfod wynebu clo mawr neu beidio yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar ymateb y gymuned. Pwysleisiodd ei bod hi’n bwysicach nac erioed i’r Fwrdeistref Sirol ddod ynghyd fel un gymuned, i ymddwyn mewn modd cyfrifol a diogel, a dilyn y gofynion cenedlaethol o safbwynt ymbellhau cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb, golchi dwylo a diheintio. Eglurodd nad oedd y pandemig drosodd o bell ffordd, ac y dylai trigolion fod yn wyliadwrus o hyd. Hysbysodd yr Aelodau fod datganiad ar y cyd wedi ei gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon rhwng y Cyngor a Heddlu De Cymru yn gofyn ar i drigolion ymddwyn yn gyfrifol a chadw’n effro gan annog pobl i osgoi ymgasglu yn eu niferoedd ar gyfer G?yl Elvis ym Mhorthcawl, sydd wedi ei chanslo, ac i feddwl ddwywaith, cadw’n ddiogel ac aros gartref. Hyderai y byddai Aelodau’n cefnogi’r ymdrechion yma ac yn helpu i hybu’r prif negeseuon  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 431.

432.

Cyflwyniad o Fargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd a’r Rhaglen Gyflwyniadau i’r Dyfodol i’r Cyngor pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr gyflwyniad i’r Cyngor o raglen Bargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r rhaglen gyflwyniadau i’r Cyngor yn y dyfodol. Nododd fod tri diben i’r cyflwyniad ar Fargen Prifddinas-Ranbarth, yn benodol, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth o’r rhaglen i’r Aelodau, rhoi cyfle i ddangos y cynnydd da ac er mwyn trafod cyfleoedd i’r rhaglen o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont.

 

Rhoddwyd cyflwyniad o Fargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd (CCR) i’r Cyngor gan Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd (CCR) a Frank Holmes, Cadeirydd Panel y Bartneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi. Nododd Cyfarwyddwr y Fargen Prifddinas-Ranbarth mai rhaglen fuddsoddi £1.3bn cyhoeddus yw’r Fargen Prifddinas-Ranbarth sy’n seiliedig ar bartneriaeth driwiaeth o 10 awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog. Ei nod oedd cynhyrchu 25,000 o swyddi ychwanegol, sicrhau gwerth £4 biliwn o fuddsoddiad pellach a chynyddu Gwerth Gros Ychwanegol i’r economi o 5%. Eglurodd wrth y Cyngor fod y Cynhgorau’n cydweithio ar sail deg am eu bod yn rhannu daearyddiaeth economaidd weithredol, ond o fewn hynny, fod rhai o’r mannau mwyaf a lleiaf cystadleuol yn bodoli ochr yn ochr â’i gilydd, ac o’r herwydd gallai strategaeth unigol danseilio yn hytrach na mynd i’r afael â rhai o’r problemau endemig hynny. Amlinellodd awgrymiadau arloesol y rhaglen, a fyddai’n cael eu defnyddio nid yn unig er mwyn canolbwyntio ar dechnoleg a busnes, ond hefyd i hybu’r gymdeithas ddinesig, gan sbarduno tyfiant o safbwynt economïau Sylfaen a’r sector gwasanaethau cyhoeddus. Y nod yw creu amodau ar gyfer llewyrch cyffredinol ac i sicrhau fod amcanion economaidd yn cyd-fynd â pholisi cymdeithasol mwy blaengar ac i fod yn wydn a pharhaus. 

 

Cyfeiriodd Cadeirydd Panel y Bartneriaeth Economaidd Ranbarthol a Buddsoddi y Cyngor at y prosesau sydd wedi eu mabwysiadu a’i fod wedi ymgynnull bwrdd o unigolion profiadol gyda’r rôl o asesu’r rhaglen fuddsoddi, ymgynghorwyr i’r Cabinet ar y cyd ac i sicrhau buddsoddiad mewnol. Soniodd fod angen cynllun ar y Bwrdd i sicrhau fod arian yn cael ei fuddsoddi yn unol â’r rhaglen fuddsoddi er mwyn trosoledd o’r buddsoddiad ychwanegol o £4bn. Roedd y Bwrdd eisoes wedi dechrau ar y 3 piler angenrheidiol o safbwynt sicrhau gwir gysylltedd rhanbarthol gyda phartneriaethau cyhoeddus a phreifat. Er mwyn bod yn gystadleuol, roedd angen buddsoddi mewn arloesedd a chysylltedd gyda chysylltedd digidol yn hollbwysig a’r angen i fod yn gadarn er budd y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Nododd fod y cynllun wedi ei adolygu’n ddiweddar, yn ogystal â datblygu fframwaith fuddsoddi er mwyn hybu arloesedd a helpu cwmnïau i dyfu. Gwnaed ymchwil helaeth i sicrhau fod arian yn cael ei ddefnyddio’n briodol ar draws y rhanbarth.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Bargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd (CCR) y Cyngor o’r ymgyrch i sicrhau tyfiant cadarn da ar sail rhagwelediad a’r hyn oedd i ddod, a fyddai’n sicr o gael ei effeithio’n anghyfartal gan Brexit o ystyried dibyniaeth ar gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd o safbwynt tyfiant economaidd. Eglurodd na fyddai unrhyw fargen ddinesig arall ac y byddai unrhyw fuddsoddiad rhanbarthol newydd ar lefel Llywodraeth y DU bellach yn dod wrth UKIS. Byddai angen datblygu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 432.

433.

Adroddiad Blynyddol Canlyniad Rheoli’r Trysorlys 2019-20 pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro, gyda’r bwriad o gydymffurfio â gofynion Rheolaeth y Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer (y Cod) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA), i gyflwyno trosolwg o weithgareddau’r trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol ac i adrodd ar Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys 2019-20. 

 

Adroddodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro fod y trysorlys y Cyngor yn cael ei reoli o fewn fframwaith Rheolaeth y Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer Rhifyn 2017 (y Cod CIPFA) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg sy’n gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (TMS) cyn dechrau bob blwyddyn ariannol. Darperir arweiniad i’r Cyngor yngly?n â rheoli’r trysorlys gan Arlingclose ac yn dilyn proses dendro, nhw sydd wedi eu penodi eto am gyfnod o 4 mlynedd, tan Awst 2024. 

 

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro fod ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd a threfniadau masnachu i’r dyfodol yn parhau i fod yn un o’r prif ddylanwadau ar economi’r DU yn ystod 2019-20.  Symudodd Banc Lloegr, a oedd wedi cadw cyfraddau llog yn gyson ar 0.75% drwy gydol 2019-20 bron, i dorri’r gyfradd o 0.75% i 0.25% ym mis Mawrth 2020 a’i thorri eto’n fuan wedyn i 0.1%, sy’n record. Hysbysodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro y Cyngor fod y pandemig Covid-19 wedi newid y popeth yn gyflym iawn tua diwedd y flwyddyn ariannol gan greu ansicrwydd yn y marchnadoedd arian.

 

Adroddodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro ar Ganlyniad Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2019-20 gan hysbysu’r Cyngor ei fod wedi cydymffurfio â’r gofynion deddfol a rheolaethol yn ystod 2019-20. Cyflwynodd grynodeb o’r ddyled allanol a’r sefyllfa fuddsoddi ar gyfer 1 Ebrill 2019 tan 31 Mawrth 2020, ni chymerwyd unrhyw fenthyciadau tymor hir yn ystod 2019-20 ac ni chafodd unrhyw ddyled ei had-drefnu am nad oedd manteision arbed arian sylweddol, ond byddai’r portffolio benthyciadau’n cael ei adolygu yn ystod  2020-21. Hysbysodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro y Cyngor fod llif arian ffafriol wedi sicrhau cyllid dros ben ar gyfer buddsoddi a bod balans y buddsoddiadau ar y 31 Mawrth 2020 yn £30 miliwn, ar raddfa llog cyfartalog o 0.82%. Gwelwyd cynnydd yn y buddsoddiadau dyledus o ddechrau’r flwyddyn ariannol pan welwyd buddsoddiad o £27.4 miliwn ar raddfa llog cyfartalog o 0.94%. Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro grynodeb a chanlyniad y strategaeth fuddsoddi gan egluro mai’r prif amcanion yn ystod 2019-20 oedd cynnal sicrwydd cyllid; sicrhau hylifedd, fel bod cyllid ar gael pan fydd ei angen a dim ond ceisio cynnydd ar y buddsoddiadau wedyn. Hysbysodd y Cyngor fod y mwyafrif o’r buddsoddiadau yn rhai tymor byr oedd yn cael eu dal gydag awdurdodau lleol o fewn y DU a banciau o ansawdd credyd uchel.

 

Nododd aelod o’r Cyngor mai arfer awdurdodau lleol oedd benthyca arian i awdurdodau lleol eraill. Hysbysodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor fod Strategaeth Reoli’r Trysorlys wedi ei chymeradwyo gan y Cyngor a bod y Swyddogion yn gweithredu’r strategaeth. Eglurodd fod benthyg arian i gynghorau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 433.

434.

Diweddariad O Gynllun Corfforaethol 2018-2022 Wedi Ei Adolygu Ar Gyfer 2020-21, Yn Sgil Effaith Covid-19 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Weithredwr i’r diweddariadau i Gynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2018-2022 wedi ei adolygu ar gyfer 2020-21, yn sgil effaith  Covid-19 gael eu cymeradwyo ac i’r Cyngor fabwysiadu’r Cynllun Corfforaethol diwygiedig.

 

Adroddodd fod Cynllun Corfforaethol 2018-2022 yn disgrifio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, y 3 amcan lles a’r gwerthoedd sefydliadol a’r egwyddorion sy’n sail i’r modd y bydd y Cyngor yn gweithio i gyflawni ei flaenoriaethau. Eglurodd fod y Cynllun yn cynrychioli cyfraniad y Cyngor wrth gyflawni’r 7 amcan lles cenedlaethol fel y nodwyd yn Neddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac amcanion cynnydd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. 

 

Eglurodd fod effaith y pandemig Covid-19 wedi effeithio ar allu’r Cyngor i symud ymlaen o safbwynt cyflawni ei amcanion lles yn unol â’r Cynllun Corfforaethol diwygiedig. Nododd mai da o beth fyddai adolygu’r ymrwymiadau a’r targedau cyfredol a chanolbwyntio ar y prif flaenoriaethau ar gyfer gweddill 2020-21. Cyfeiriodd at newidiadau arfaethedig y Cynllun Corfforaethol oedd yn cynnwys rhai mân newidiadau i ymrwymiadau’r Cyngor yn ogystal ag ambell un newydd i adlewyrchu’r prif feysydd blaenoriaeth y mae angen i’r Cyngor ganolbwyntio arnynt yn ystod gweddill 2020-21. Dywedodd fod nifer o fesurau llwyddiant newydd yn y Cynllun, yn ogystal â rhai cyfresol, a’u targedau wedi eu hadolygu. Yn achos y targedau oedd wedi eu lleihau o ganlyniad i effaith Covid-19 darparwyd eglurhad o’r rhesymeg, er enghraifft, effaith cau canol trefi ar fusnesau a nifer ymwelwyr. 

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cyngor y byddai’r Cynllun yn cael ei adolygu’n flynyddol er mwyn ystyried newidiadau yn y sefyllfa a’r cynnydd a wnaed ochr yn ochr â’r amcanion lles er mwyn sicrhau cyflawni gofynion y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd yr ymrwymiadau a’r mesurau diwygiedig yn cymryd lle’r ymrwymiadau a’r mesurau a gynhwysir yn y Cynllun Corfforaethol cyfredol ac yn dod yn rhan o Gynllun Corfforaethol 2018-2022 wedi ei adolygu ar gyfer 2020-21. Hysbysodd y Cyngor y caiff cyflawniad ei gefnogi gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a chyfarwyddiaeth cynlluniau busnes a’i fonitro’n chwarterol drwy gyfrwng cyfarfodydd tîm rheoli’r gyfarwyddiaeth a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan ystyried argymhellion y Panel Adferiad. 

 

Pwysleisiodd y prif newidiadau a argymhellwyd yng nghyswllt yr adran deilliannau dysgwyr yn sgil cyflwyno dysgu hybrid a chyfunol a datblygiad amgylchedd diogel mewn ysgolion. Ceir ffocws cynyddol ar gefnogi isadeiledd er mwyn i fusnesau allu goresgyn effaith y pandemig. O safbwynt datblygu cymunedau cadarn, bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol i sicrhau atebion tymor hir er mwyn rheoli adnoddau / gwasanaethu. O safbwynt diwylliant a hamdden roedd angen ailsefydlu cyfranogiad drwy wella mynediad a dileu rhwystrau. Edrychir ar gyfleoedd o safbwynt trawsnewidiadau digidol er mwyn esblygu ffyrdd newydd o weithio ac ailfodeli gwasanaethau.

 

Hysbysodd y Cyngor fod y Cabinet wedi awgrymu newidiadau o safbwynt ychwanegu naratif yng nghyswllt adeiladau gwag a pharcio rhad ac am ddim a pharhau i weithio gyda busnesau sy’n bodoli eisoes a busnesau newydd. O safbwynt  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 434.

435.

Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont (LDP) – Cytundeb Cyflwyno wedi’i Ddiwygio pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygiad at yr angen i adolygu’r Cytundeb Cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol (DA), a gafodd ei gymeradwyo’n flaenorol gan Lywodraeth Cymru (WG) ym mis Mehefin 2018 a cheisio cael caniatâd i addasu’r Amserlen ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol yn sgil y pandemig Covid-19. Hysbysodd y Cyngor fod y Pwyllgor Rheoli Datblygiad, yn ystod cyfarfod 20 Awst 2020, wedi cytuno i’r argymhellion yn yr adroddiad hwn gan gyfeirio’r argymhellion i’r Cyngor eu cymeradwyo.

 

Adroddodd fod y Cyngor wedi derbyn llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru ar 7 Gorffennaf 2020 yn eu cynghori i ymgymryd ag asesiad o’r bas tystiolaeth dechnegol oedd yn sail i’r Cynllun Datblygu Lleol newydd, ynghyd â’r strategaeth ddewisedig a pholisïau o safbwynt sensitifrwydd i ganlyniadau’r pandemig. Eglurodd fod y dasg hon wedi ei chwblhau ynghyd â’r casgliadau a amlinellwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi awgrymu y dylid addasu Cytundebau Cyflwyno er mwyn dwyn unrhyw newidiadau angenrheidiol i amserlen y Cynllun Datblygu Lleol yn sgil unrhyw oedi oherwydd y pandemig i ystyriaeth. Dylai hyn hefyd gynnwys diwygiadau i’r Cynllun Ymwneud Cymunedol (CIS) oherwydd yr angen i addasu i batrymau gwaith newydd ac ystyried dulliau amgen o ymwneud â rhanddeiliaid yn sgil yr angen i ymbellhau’n gymdeithasol. Amlinellodd y diwygiadau posib i’r amserlen. Eglurodd y dylai’r Cynllun Cyflwyno gael ei drafod rhwng Ionawr a Mawrth 2021 (yn hytrach na Gorffennaf - Awst 2020), ond roedd caniatâd wedi ei roi i ymestyn y cyfnod trafod statudol o 5 wythnos i 8 wythnos er mwyn rhoi mwy o amser i bobl gynnig eu safbwyntiau wrth ystyried unrhyw gyfyngiadau pellach yn sgil y pandemig. Hysbysodd y Cyngor na fyddai modd mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol terfynol am gyfnod pellach o hyd at 6 mis o ganlyniad, er bod y dyddiadau’n ymwneud â’r camau’n dilyn cyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru’n ddynodol. Amlinellodd sut y cafodd y Cynllun Ymwneud Cymunedol ei ddiwygio gan ystyried gwahanol ddulliau o sicrhau ymwneud rhanddeiliaid wrth ddilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol sy’n debygol o fodoli i’r dyfodol rhagweladwy.

 

PENDERFYNWYD:           Y byddai’r Cyngor yn:

 

        cymeradwyo’r adolygiadau i’r amserlen a’r Cynllun Ymwneud Cymunedol gan roi’r hawl i Reolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i gyflwyno’r Cytundeb Cyflawni (gweler Atodiad 2) i Lywodraeth Cymru;  a

           dirprwyo awdurdod i Reolwr Tîm y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu er mwyn gwneud unrhyw gywiriadau ffeithiol neu fân newidiadau i’r Cytundeb Cyflwyno yn ôl y gofyn.  

436.

Adroddaiadau Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Maer y Cyngor ei fod wedi derbyn neges oddi wrth Gyfarwyddwr Bargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd yn ei hysbysu fod datganiad wedi ei wneud i’r wasg Geidwadol yn honni fod Bargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd yn cefnogi ffordd liniaru’r M4 ac yn rhoi’r bai ar Lywodraeth Cymru am ei chanslo. Gan fod Ms Bernie yn Swyddog, rhoddodd gyfle i Mr Frank Holmes fynegi ei farn fel g?r busnes annibynnol. Ni wnaeth Ms Beirne gefnogi’r feirniadaeth o Lywodraeth Cymru am ganslo ffordd liniaru’r M4. Gofynnodd i’r Aelod Ceidwadol a wnaeth y datganiad gwreiddiol gywiro’r datganiad a roddwyd i’r wasg.

 

Gofynnodd Arweinydd y Gr?p Ceidwadol am gael codi pwynt o drefn gan gredu fod tor-rheol wedi bod o safbwynt y Cyfansoddiad. Eglurodd y Maer fod y datganiad yn ganlyniad i neges y derbyniodd oddi wrth Gyfarwyddwr Bargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd. Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd cyfeiriad wedi ei wneud at ba ran o’r Cyfansoddiad oedd wedi ei dorri. Eglurodd y Maer fod y neges a dderbyniodd oddi wrth Gyfarwyddwr Bargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd yn sôn fod rhywun wedi siarad â’r wasg Geidwadol. Dywedodd Arweinydd y Gr?p Ceidwadol nad oedd hi’n glir fod y sylw wedi ei wneud gan y Gr?p Ceidwadol. Atebodd y Maer ei bod hi’n annhebygol mai’r Gr?p Llafur oedd wedi gwneud y sylw ac na wnaeth Cyfarwyddwr Bargen Prifddinas-Ranbarth Dinas Caerdydd feirniadu Llywodraeth Cymru, ond fod y sylwadau wedi eu gwneud gan rywun sy’n annibynnol o’r Fargen. Roedd Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Gr?p Ceidwadol yn anfodlon â’r feirniadaeth ar eu gr?p nhw. Cadarnhaodd aelod o’r Cyngor a ofynnodd y cwestiwn yn ystod y cyflwyniad am ganslo ffordd lliniaru’r M4 nad oedd wedi cysylltu ag unrhyw un, yn cynnwys y wasg. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd symud ymlaen o’r drafodaeth ar y mater.

 

Canlyniad y bleidlais oedd 20 o blaid y cynnig i symud ymlaen o’r drafodaeth ar y mater a 9 o blaid parhau â’r ddadl.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol, Gwasanaethau Adnoddau Dynol a Rheolaethol a’r Swyddog Monitro ar yr Adroddiadau Gwybodaeth canlynol a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor. Cyngor.

 

 

Teitl                                                                          Dyddiad Cyhoeddi

Penderfyniadau Brys wedi eu Dirprwyo                  10 Medi 2020

Datganiad Cyfrifon Terfynol 2019-20                      10 Medi 2020

 

PENDERFYNWYD: Fod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi’r dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad hwn 

437.

Derbyn y Cwestiynau canlynol oddi wrth:

1.    Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu ei gynlluniau i leihau'r risg o ddigartrefedd yn ystod pryder parhaus pandemig Covid-19?

 

2.    Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Ceir rhybudd yn dilyn cyhoeddiad adroddiad ar y cyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl sy’n nodi’r angen am wasanaethau lleol ataliol sy’n helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a sicrhau gwell iechyd meddwl i bawb.

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet roi gwybod i ni pa fesurau ataliol yr ydym ni’n eu cymryd yn ein Sir ni i helpu pawb i gadw’n iach yn feddyliol, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19?

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn oddi wrthY Cynghorydd T Thomas i Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

A wnaiff Aelod y Cabinet amlinellu eu cynlluniau i leihau’r risg o ddigartrefedd yn ystod cyfnod gofidus y pandemig Covid-19?

 

Ymateb Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Fel yr hysbyswyd chi eisoes, mae unigolion yn cael eu hunain yn ddigartref am nifer o resymau, er enghraifft, diwedd perthynas, anawsterau yn y berthynas rhwng rhiant a phlentyn, trais yn y cartref. Nid yw’r fath resymau (risgiau) wedi newid yn sgil y pandemig Covid-19, ond yr hyn sydd wedi newid yw’r disgwyliadau ar awdurdodau lleol.

 

Fel y gwyddoch, ar ddechrau’r pandemig, disgwylid i bob awdurdod lleol sicrhau nad oedd unigolion yn ddigartref ar y stryd yn ystod y clo mawr. Disgwyliai Llywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr I ddarparu llety dros dro addas gydag ystafell ymolchi i’r garfan hon. Ymestynnodd Llywodraeth Cymru’r diffiniad o fregus dan y Ddeddf Tai gyfredol er mwyn ystyried effaith y pandemig Covid-19. Yn eu barn nhw, mae’r pandemig Covid-19 yn fygythiad difrifol ac yn risg eithriadol i’r bobl hynny sy’n ddigartref a’r posibilrwydd yw nad yw’r unigolion yma’n gallu cydymffurfio â chyngor iechyd, hunan-ynysu, ymbellhau’n gymdeithasol na chynnal y gofynion hylendid angenrheidiol ac mae’n ymddangos yn anorfod felly fod person sydd naill ai’n ddigartref ar y stryd neu’n wynebu digartrefedd ar y stryd yn llai abl na pherson digartref cyffredin i ofalu amdano/amdani ei hun. Golygai’r newid hwn yn y canllawiau nad oedd yr unedau llety lle a osodwyd i unigolion digartref yn y gorffennol bellach yn cydymffurfio â’r gofynion presennol, h.y. yn sgil ymbellhau cymdeithasol, roedd y trothwy capasiti’n is, ac roedd angen hefyd am adnoddau ystafell ymolchi unigol yn sgil natur heintus iawn y feirws Covid-19.

 

Y llynedd, derbyniodd y Cabinet ein strategaeth i daclo digartrefedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont, gyda’r bwriad o “Weithio ar y cyd ar sail gorfforaethol gyda phartneriaid allanol, a defnyddwyr gwasanaeth, mewn modd ymatebol, greadigol ac amserol i atal a lliniaru digartrefedd drwy’r fwrdeistref sirol yn gyfan, gan sicrhau y gall pobl gael mynediad i lety addas, gyda’r gefnogaeth angenrheidiol i gyflenwi eu hanghenion”.

 

Nid yw’r pandemig Covid-19 wedi newid ein huchelgais, ond gyda’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, mae wedi rhoi’r modd i ni gyflymu rhan o’n cynllun a bwrw ymlaen â phrosiectau a fyddai wedi bod yn disgwyl ar y cyrion am gyllid heblaw am hynny.

 

Mae ein cynllun ar y cyd yn ystyried fod digartrefedd yn fater cymhleth ac aml-haenog sy’n gofyn am ymateb amlweddog. Mae dadansoddiad o anghenion y cohort o bobl a dderbyniodd lety yn ystod y pandemig Covid-19 yn cadarnhau hyn. Er enghraifft, o’r rhai a dderbyniodd lety yn ystod y pandemig Covid-19, dim ond 1 o’r 15 oedd heb angen cefnogaeth, tra bod anghenion gan y gweddill i gyd, oedd yn gofyn am gefnogaeth iechyd meddwl a/neu gamddefnydd sylweddau – nid darparu llety yw’r unig ateb. Er mwyn sicrhau fod y llety sy’n cael ei ddarparu’n addas ar gyfer yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 437.

438.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.