Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 20fed Hydref, 2021 15:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

582.

Dau funud o dawelwch yn deyrnged i'r diweddar Gynghorydd Philip White ac er parch at Syr David Amess

Cofnodion:

Cyn parhau at fusnes yr agenda, gofynnodd y Maer i'r Aelodau a'r Swyddogion ymuno ag ef mewn dau funud o dawelwch er parch i’r diweddar Philip White, cyn Aelod o'r Cabinet a’r Cynghorwr dros ward Caerau, ac i Syr David Amess, AS Ceidwadol Southend West.

 

Dywedodd y Maer nad oedd geiriau’n ddigon i gyfleu maint a thristwch y golled o’u cyfaill a’u cydweithiwr, y Cynghorydd White. Ychwanegodd ei fod yn meddwl am y teulu yn y cyfnod trasig hwn, a’n cynnig ei gydymdeimlad diffuant.

 

Yna rhoddodd yr Arweinydd y deyrnged ganlynol ar ran y Cyngor.

 

'Bydd pob cyd-Aelod wedi clywed am farwolaeth sydyn ein cyfaill a'n cydweithiwr, y Cynghorydd Phil White.

 

Fel y gwyddoch, bu’r Cynghorydd White yn yr ysbyty gyda Covid-19. Brwydrodd hyd at y diwedd, ond yn anffodus bu farw ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

 

Roedd Phil yn angerddol dros bobl, ei gymuned, a'i gredoau, a hynny ymhell cyn iddo ddod yn aelod o'r awdurdod yn 2008.

 

Mynnodd le yn hanes diwydiannol ein cenedl fel un o'r glowyr blaenllaw ym mhryniant ac ail-agoriad Glofa’r T?r. Dyma'r lofa gyntaf yn hanes Prydain i fod dan berchnogaeth a rheolaeth ei gweithwyr ei hun, ac fe’i rhedwyd yn llwyddiannus ac yn broffidiol nes cloddiwyd y glo yn llwyr yn 2007.  

 

Ni wnaf anghofio, pan oedd Llywodraeth y DU yn cynnal eu hadolygiad ynni yn 2006, iddo eistedd ochr yn ochr â Tyrone O'Sullivan a'r Ysgrifennydd NUM Wayne Thomas i annerch y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Nh?'r Cyffredin. Nid oedd Phil yn un am gilio pan oedd yn credu mewn rhywbeth, ac yn sicr gwnaeth ei farn yn hysbys y tro hwnnw.

 

Yn fuan wedi hynny, safodd yn yr etholiad i gynrychioli cymunedau Caerau a Nantyffyllon yn llwyddiannus.

 

Oherwydd ei rinweddau, buan iawn y cafodd ei benodi’n Aelod Cabinet dros Gymunedau.

 

Parhaodd i eistedd fel aelod o'r Cabinet drwy gydol y rhan fwyaf o'r tair blynedd ar ddeg bu'n gwasanaethu fel cynghorydd, hyd at ei ymddeoliad o'r rôl y llynedd, bryd hynny ef oedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.

 

Ond dim ond megis dechrau ydym ni, wrth gwrs, os ydym am drafod gwasanaeth cyhoeddus y Cynghorydd White.

 

Un o gyfrifoldebau niferus y Cynghorydd White oedd bod yn hyrwyddwr brwdfrydig a gweithgar i’r cyngor dros bobl h?n, plant a phobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys cadeirio ein Pwyllgor Rhianta Corfforaethol a dod yn is-gadeirydd angerddol ar ein Panel Maethu. Roedd yn eiriolwr iechyd meddwl brwd ac yn falch o'n cynrychioli yng Ngofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Ef oedd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Nantyffyllon, ac yn nheyrnged yr ysgol iddo disgrifiwyd ef fel cyfaill ffyddlon a chefnogol iawn i staff a disgyblion, fel aelod ymroddedig a gwerthfawr o deulu Nantyffyllon, a bydd yn golled enfawr i gymuned ein hysgol.

 

Gwasanaethodd y Cynghorydd White yn ddiflino, a gwn iddo wneud hynny wrth frwydro materion iechyd sylweddol ei hun, er na adawodd hynny ei atal rhag cyflawni ei gyfrifoldebau, ac mae ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 582.

583.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau canlynol o fuddiant:

 

Y Cynghorydd HM Williams, buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda, fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Abercerdin.

 

Y Cynghorydd Amanda Williams, buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda, fel Llywodraethwr ALl ar gyfer Ysgol Gyfun Brynteg.

 

Y Cynghorydd N Burnett, buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda, fel Llywodraethwr ALl ar gyfer Ysgol Gyfun Brynteg, yn ogystal â buddiant sy’n rhagfarnu yn yr un eitem, oherwydd bod aelod agos o'r teulu yn rhan o sefydliad a allai elwa o'r adroddiad. Gadawodd y Cynghorydd Burnett y cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried.

 

Y Cynghorydd J Gebbie, buddiant personol yn eitem 13 ar yr Agenda, fel aelod o Bwyllgor yr NJC.

 

584.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 501 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/09/21

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                          Bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 15 Medi 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, ar yr amod bod y Cynghorydd E Venables yn cael ei ychwanegu at y rhestr o’r rhai a oedd yn bresennol.

 

585.

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Dechreuodd y Maer ei gyhoeddiadau i'r Cyngor gyda datganiad personol fel a ganlyn:-

 

Ymddengys bod sylw diweddar a wnes mewn sgwrs â rhywun ar fy nghyfrif Facebook personol wedi digio rhai aelodau o'r wrthblaid, gan eu bod wedi’i  atgynhyrchu ar sawl tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â galwadau i mi ymddiswyddo. Er eglurder, roedd fy sylw'n ymwneud â'r gystadleuaeth dybiedig rhwng fy rôl i fel Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a rôl Maer Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Yn fwy penodol, dywedais fy mod yn edrych ymlaen at ei 'ei weindio i fyny' mewn digwyddiad lle’r oedd y ddau ohonom am fod yn bresennol, gan gyfeirio ato mewn jest fel 'maer bach', a gwneud jôc fod ei gadwyn 'fwy na thebyg yn fwy na fy un i'.

 

Nid neges gyhoeddus oedd hon i fod, roeddwn ar ddeall mai sgwrs breifat oedd hi, ond cyn gynted ag y sylweddolais ei bod yn gyhoeddus, dileais y neges ar unwaith er mwyn osgoi cynhyrfu neu ddigio neb. Nid oeddwn yn bwriadu niweidio neu sarhau trwy wneud hyn, ac mae'n ddrwg gennyf os pechais unrhyw unigolyn neu sefydliad, nid hynny oedd fy mwriad o gwbl.

 

Ni fu llawer o ymweliadau Maerol ers cyfarfod diwethaf o'r Cyngor, ond yr oeddwn yn falch o gael fy ngwahodd gan Steve Brace o Bridgend Athletics i ail-lansio’r trac athletau a'r cyfleusterau yn Newbridge Fields ar ôl eu hadnewyddu. Roedd nifer o sêr y byd chwaraeon yno, gan gynnwys y Cyng. Eric Hughes, sydd bellach yn ei 80au ac sy'n dal i redeg yn rheolaidd er gwaethaf llawdriniaeth fawr ar y galon. Mae Bridgend Athletics wedi cynhyrchu nifer o sêr rhanbarthol, sêr cenedlaethol, sêr byd eang a sêr Olympaidd dros y blynyddoedd, a hir oes i’r traddodiad hwnnw wrth iddynt ddechrau ar bennod nesaf eu datblygiad fel clwb.

 

Bûm yn ymweld ag enillwyr gwobrau Dinasyddiaeth y Maer o'r cyfnod pan oedd y Cynghorydd Stuart Baldwin yn Faer, gan na chyflwynwyd y gwobrau hynny oherwydd y pandemig. Pleser mawr oedd ymweld ag Isabella Evans yr wythnos diwethaf, sydd yn 15 oed ac wedi gwneud gwaith anhygoel wrth ddysgu iaith arwyddion o'r enw Makaton i helpu gyda'i brodyr a'i chwiorydd a'u datblygiad. Mae'n amlwg ei bod yn un o sêr y dyfodol.

 

Yna, ymwelais ag Ysgol Gyfun Pencoed a'u Gr?p Gofalwyr Ifanc. Gwych oedd dysgu am y gefnogaeth y mae’r ysgol yn ei roi iddynt, a chlywed rhai o'u straeon am sut y maent yn helpu ac yn cefnogi eu rhieni a'u brodyr a'u chwiorydd cyn yr ysgol ac ar ôl ysgol, gwnaeth i mi sylweddoli pa mor rhyfeddol yw'r bobl ifanc hyn, a’u bod yn saff o ddod yn bobl hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yn y dyfodol.

 

Yn olaf, es yn fy mlaen i i Glwb Rygbi Mynydd Cynffig i gyflwyno gwobr i Chris Leyshon sy'n gwneud gwaith anhygoel a hanfodol wrth godi arian a gwella ymwybyddiaeth o Ganser y Prostad. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith dynion yn y DU, gan effeithio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 585.

586.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod pawb wedi cael sioc yr wythnos diwethaf pan laddwyd aelod seneddol ymroddgar wrth iddo gynnal cymhorthfa gyngor. Cafodd Syr David Amess AS ei drywanu mewn eglwys yn ei etholaeth ei hun yn Southend West wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau fel cynrychiolydd etholedig.

 

Rhoddwyd teyrngedau teimladwy iawn i Syr David a'i gyfraniad i'r senedd a'i waith o hyrwyddo Southend. Fodd bynnag, yn y sesiwn honno o'r senedd clywsom hefyd pa mor gyffredin yw’r gamdriniaeth o ASau erbyn hyn, a phob un wedi’u cam-drin, wedi’u bygwth, wedi dioddef ymosodiadau, a bywydau sawl un wedi’u bygwth.   

 

Aeth seneddwyr o bob rhan o'r siambr ati i’n hatgoffa fod yr hyn sy’n gyffredin rhyngom yn bwysicach o lawer na’r gwahaniaethau, a bod rhaid inni drysori’r bondiau hynny a’r gwerthoedd a rennir rhyngom. Gwnaed un pwynt yn gyson, waeth beth yw’r gwahaniaethau gwleidyddol rhyngom, yr ydym i gyd yma am yr un rheswm, sef ceisio gwneud yr hyn yr ydym ni’n ei gredu sydd orau i'r rhai yr ydym yn eu cynrychioli.

 

Roedd yr Arweinydd yn meddwl am hyn pan glywodd adroddiad arall ar y newyddion, y tro hwn am AS y Rhondda a oedd wedi cael bygythiad ar ei bywyd gan aelod o'r cyhoedd dros y penwythnos. Roedd yn dipyn o agoriad llygaid i ddysgu bod dyn wedi'i arestio yma yn y fwrdeistref sirol yn sgil hyn.

 

Os ydym am ddysgu unrhyw beth o'r digwyddiadau trasig hyn, yn sicr dylem ddysgu bod angen am fwy o ffocws ar barchu ein gilydd, a'r gallu syml i allu trafod ac anghytuno heb i hynny arwain at ddinistrio neu ymosod ar unigolion, neu i fynd ati i ledaenu twyll wybodaeth niweidiol.

 

Nid oedd ganddo ddiddordeb yn y math hwnnw o wleidyddiaeth, a gobeithiai fod yr Aelodau i gyd yn cytuno bod angen llawer mwy o ffocws ar barchu ein gilydd, fel cydweithwyr gwleidyddol, fel bodau dynol, ac fel cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, waeth pa blaid y maent yn perthyn iddi neu beidio.

 

587.

Adroddiad Blynyddol 2020-21 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad gan y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, a'i ddiben oedd cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2020-21 (yn Atodiad A i'r adroddiad) i'r Cyngor er mwyn iddyn nhw ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

I roi rhywfaint o’r cefndir, eglurodd ei bod yn rhai i’r awdurdod, o dan adran 15 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac yn unol â'r canllawiau statudol cysylltiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gyhoeddi ei asesiad o berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol cyn 31 Hydref.

 

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd y Cyngor ei Gynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2018-23, wedi’i ddiwygio ar gyfer 2020-21. Er mwyn rhoi ystyriaeth i effaith sylweddol COVID-19 ar flaenoriaethau, diwygiwyd y Cynllun a gwnaed rhai addasiadau iddo, a chytunodd y Cyngor arnynt ym mis Medi 2020. O fis Mawrth 2020 ymlaen, o ganlyniad i Covid-19, canolbwyntiodd y Cynllun ar y blaenoriaethau oedd â mwy o frys.

 

Diffinia’r Cynllun diwygiedig 32 o ymrwymiadau i gyflawni'r tri amcan llesiant ac mae'n nodi 46 o fesurau llwyddiant i fonitro cynnydd. Fodd bynnag, er mwyn ystyried COVID-19 ac ailgyfeirio adnoddau, dilëwyd y targedau ar gyfer 14 o fesurau llwyddiant. Ar ddiwedd y flwyddyn, nid oedd data ar gael ar gyfer 7 mesur llwyddiant, rhai ym maes addysg yn bennaf yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio arholiadau a defnyddio trefniadau amgen i bennu graddau.

 

Mae'r Adroddiad Blynyddol, a baratowyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn gwerthuso llwyddiant y Cyngor yn 2020-21 wrth gyflawni ei ymrwymiadau a'r canlyniadau a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol, gan ddefnyddio mesurau llwyddiant a thystiolaeth gysylltiedig arall.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, fod y Cyngor wedi gwneud 32 o ymrwymiadau i gefnogi'r gwaith o gyflawni ei amcanion llesiant. Roedd 13 (40.6%) o'r rhain wedi'u cwblhau'n llwyr gyda 19 (59.4%) wedi cyrraedd y rhan fwyaf o'u cerrig milltir.

 

O'r 46 dangosydd a nodwyd ar gyfer y Cynllun Corfforaethol, gellir cymharu 25 yn erbyn eu targed: cyrhaeddodd 14 (48%) eu targed, roedd 2 (8%) o fewn 10% o’r targed, ac roedd 11 (44%) wedi methu'r targed o fwy na 10%. Ceir gwybodaeth fanwl am berfformiad y Cyngor yn Atodiad A yr adroddiad, gan gynnwys perfformiad y Cyngor yn erbyn ei amcanion, a chanmolodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad o ystyried yr anawsterau a wynebodd awdurdodau lleol ers y pandemig. Dangosodd yr Adroddiad Blynyddol gryn gynnydd yn erbyn amcanion lles y Cyngor a'i saith nod.

 

Ar ôl ei gymeradwyo, cadarnhaodd y bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a'i rannu â rhanddeiliaid. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd yn cael eu cynhyrchu a'u rhoi yn llyfrgelloedd cyhoeddus y Cyngor.

 

Canmolodd yr Arweinydd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-21 ynghyd â'r holl staff yn CBSP a fu’n gweithio'n ddiflino i'w gwneud mor braf i'w ddarllen. Teimlai fod staff wedi mynd y tu hwnt i’r galw o ystyried pwysau'r pandemig, a oedd yn dal i fodoli, a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 587.

588.

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2021-22 pdf eicon PDF 538 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn:

 

 · cydymffurfio â gofyniad ‘Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer’ y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i gynhyrchu adroddiadau Rheoli Trysorlys;

 · i geisio cymeradwyaeth o weithgareddau Rheoli'r Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2021-22 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021 a’r Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys rhagamcanol ar gyfer 2021-22.

 

Atgoffodd yr Aelodau mai rheoli'r trysorlys yw’r gwaith o reoli llif arian parod, benthyca, a buddsoddiadau'r Cyngor, a'r risgiau cysylltiedig. Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith newid cyfraddau llog ar refeniw. Felly, mae nodi, monitro a rheoli risg ariannol yn llwyddiannus yn rhan ganolog o reolaeth ariannol ddarbodus gan y Cyngor.

 

Arlingclose yw cynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor, fel y g?yr y Cyngor. Roedd y gwasanaethau a ddarparwyd i'r Cyngor yn cynnwys:

 

·         cyngor ac arweiniad ar bolisïau, strategaethau ac adroddiadau perthnasol

·         cyngor ar benderfyniadau buddsoddi

·         hysbysiad o sgoriau credyd a newidiadau

·         gwybodaeth arall am ansawdd credyd

·         cyngor ar benderfyniadau rheoli dyledion

·         cyngor cyfrifyddu

·         adroddiadau ar berfformiad y trysorlys

·         rhagolygon o gyfraddau llog

·         cyrsiau hyfforddi

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod TMS 2021-22 wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2021 gyda'r Adroddiad Hanner Blwyddyn i'w gyflwyno ar 20 Hydref 2021.

 

Mae crynodeb o’r gweithgareddau rheoli trysorlys ar gyfer hanner cyntaf 2021-22 i’w cael yn nhabl 1 yn Atodiad A i'r adroddiad. Dywedodd, ers dechrau'r flwyddyn ariannol, fod gan y Cyngor arian dros ben ar gyfer buddsoddi. Ym mis Ebrill, derbyniodd y Cyngor ddau randaliad o £12.6 miliwn yr un o gyllid craidd Llywodraeth Cymru (Grant Setliad Refeniw), a llwyddodd i gario arian grant ychwanegol ymlaen o 2020-21. O ganlyniad, y balans ar fuddsoddiadau ar 30 Medi 2021 oedd £79.84 miliwn, gyda chyfradd llog gyfartalog o 0.06%. Roedd hyn yn ostyngiad sylweddol o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd pan oedd y gyfradd gyfartalog yn 0.24%, ac mae’n dangos effaith y gostyngiadau mewn cyfraddau llog o ganlyniad i'r pandemig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid nad yw'r Cyngor wedi cymryd benthyciadau hirdymor ers mis Mawrth 2012. Roedd TMS 2021-22 yn rhagweld y byddai angen i'r Awdurdod fenthyca £30.37 miliwn yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd hyn yn rhagdybio y byddai gan y Cyngor £43 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio yn y tymor byr i ariannu gwariant. Ar 31 Mawrth 2021, roedd cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn £114 miliwn, cynnydd o £83 miliwn o gymharu â 31 Mawrth 2020, cynnydd na ragwelwyd pan gymeradwywyd y TMS. Derbyniodd y Cyngor £20.6 miliwn o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru, a oedd yn fwy na'r disgwyl yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â grantiau ychwanegol pellach o £8.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn chwarter olaf 2020-21, a derbyniadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn o £2.9 miliwn

 

Yn seiliedig ar y rhaglen gyfalaf bresennol a'r defnydd disgwyliedig o gronfeydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 588.

589.

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Adroddiad Chwarter 2 2021-22 pdf eicon PDF 628 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd:

 

 · cydymffurfio â gofyniad 'Y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (argraffiad 2017)’ y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)

 · rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyfalaf ar gyfer 2021-22 ar 30 Medi 2021 (Atodiad A)

 · ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31 (Atodiad B)

 · nodi'r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22 (Atodiad C).

 

Eglurodd fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer y rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a'r hyn y dylid ei drin fel gwariant cyfalaf. Maent yn addasu arferion cyfrifyddu mewn gwahanol ffyrdd i atal effeithiau andwyol ar adnoddau refeniw awdurdodau.

 

Yn ogystal â'r ddeddfwriaeth hon, mae'r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau Rheoli Trysorlys a Chyfalaf yn unol â'r canllawiau cysylltiedig a ddangosir ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad.

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor, ar 24 Chwefror 2021, wedi cymeradwyo cyllideb gyfalaf o £62.363 miliwn ar gyfer 2021-22 fel rhan o raglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod rhwng 2021-22 a 2030-31. Y tro diwethaf i’r rhaglen gael ei diweddaru a'i chymeradwyo gan y Cyngor oedd ar 21 Gorffennaf 2021.

 

Rhoddodd yr adroddiad hwn y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

 

• Monitro'r Rhaglen Gyfalaf chwarter 2 2021-22

• Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 hyd 2030-31

• Monitro'r Strategaeth Gyfalaf

• Dangosyddion darbodus a dangosyddion eraill

 

Rhoddodd yr adran hon o'r adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2021-22, ers y tro diwethaf iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor ac ers ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Ar hyn o bryd, mae gan y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 gyfanswm o £76.600 miliwn, daw £54.378 miliwn ohono o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn, gyda'r £22.222 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol.

 

Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn adlewyrchu’r rhaglen gyfalaf ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth o’r safle Cyngor a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2021 hyd chwarter 2.

 

Crynhodd Tabl 2 y tybiaethau ariannu presennol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2021-22. Rheolir yr adnoddau cyfalaf i sicrhau'r budd ariannol mwyaf posibl i'r Cyngor. Gallai hyn gynnwys adlinio cyllid i wneud y mwyaf o grantiau'r llywodraeth.

 

Nodwyd bod nifer o gynlluniau eisoes yn gofyn am lithriant cyllideb i'r blynyddoedd i ddod (2022-23 a thu hwnt). Yn chwarter 2, cyfanswm y llithriant y gofynnwyd amdano oedd £12.826 miliwn. Amlinellwyd manylion y rhain ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Ers yr adroddiad cyfalaf diwethaf a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2021, mae nifer o gynlluniau newydd a ariennir yn allanol wedi'u cymeradwyo yn ogystal â chynlluniau wedi’u hariannu'n fewnol, ac maent wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 589.

590.

Polisi Taliadau Atodol Ar Sail Y Farchnad pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a’i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth i'r Polisi Taliadau Atodol Ar Sail Y Farchnad.

 

Esboniodd nad oedd darpariaeth o fewn y Cyngor ar hyn o bryd ar gyfer gwneud taliadau atodol ar sail y farchnad. Roedd gweithredu Cydgytundeb Gwerthuso Swyddi Statws Sengl y Cyngor ym mis Medi 2013 yn golygu bod pob un o'r hen daliadau atodol ar sail y farchnad wedi dod i ben wrth gyflwyno'r strwythur cyflog a graddio newydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Polisi Cyflog y cytunwyd arno gan y Cyngor ar 10 Mawrth 2021 yn cadarnhau'r sefyllfa hon.  Fodd bynnag, cyfeiriwyd at y ffaith y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ail-gyflwyno taliadau atodol ar sail y farchnad er mwyn cydnabod yr heriau a wynebir wrth recriwtio a chadw staff mewn rhai proffesiynau ar y strwythur cyflog presennol.

 

Byddai cyflwyno'r Polisi Taliadau Atodol ar Sail y Farchnad yn mynd i'r afael â mater nad oedd cynllun gwerthuso swyddi a strwythur graddio'r cyngor yn ei ystyried, ffactorau marchnad megis cyfraddau cyflog y farchnad neu alw amrywiol am sgiliau yn y farchnad.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Gweithredol at y Polisi Taliadau Atodol ar Sail y Farchnad sydd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, a fyddai’n galluogi'r Cyngor i ymateb i unrhyw faterion recriwtio a chadw drwy gynyddu’r cyflog a ddyfarnwyd i swydd am gyfnodau byr, a hynny heb orfod newid y radd gwerthuso a bennwyd i’r swydd. Bydd hyn yn sicrhau bod yr egwyddorion o fewn y cynllun gwerthuso swyddi wrth gynnal cyflog cyfartal yn cael eu cadw.

 

Pwysleisiodd y byddai Taliadau Atodol ar Sail y Farchnad ond yn cael eu defnyddio pan fo angen, a byddai’n rhaid eu hystyried yn ofalus a chyflwyno achos busnes cadarn ar eu cyfer, gan gynnwys tystiolaeth wrthrychol glir ar yr holl ffactorau perthnasol sydd ar waith.

 

Daeth y Prif Weithredwr â’r adroddiad i ben trwy ddweud eu bod wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr undebau llafur gyda chynigion yr adroddiad a’u bod wedi cyfrannu at ddatblygu'r polisi newydd hwn. Os bydd y Cyngor yn cymeradwyo'r polisi, mae partneriaid yr Undebau Llafur wedi cydnabod y bydd angen cytuno ar atodiad i Gydgytundeb Gwerthuso Swyddi Statws Sengl y Cyngor yn unol â hynny.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi’r adroddiad gan ei fod yn mynd i'r afael â mater a fu’n broblem i’r Cyngor ers peth amser, byddai'r Polisi yn helpu i lenwi swyddi allweddol lle cafwyd anhawster recriwtio yn y gorffennol, a byddai hynny yn ei dro yn cyfrannu at wneud ein gwasanaethau'n fwy gwydn.

 

Holodd Aelod, gan nodi nad oedd yn erbyn y Polisi, sut yr oedd yr Awdurdod yn bwriadu gweithredu i ddarbwyllo staff mewn swyddi allweddol rhag gadael y Cyngor a symud i Awdurdod sydd â’r un math o bolisi ar waith i gefnogi swydd debyg, ond â chyflog gwell.

 

Atebodd y Prif Weithredwr trwy ddweud nad oedd modd osgoi’r perygl o golli staff os yw Awdurdodau eraill yn talu cyflogau gwell na CBSP am swydd debyg. Fodd bynnag, roedd y Polisi'n anelu at recriwtio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 590.

591.

Newidiadau i Aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 374 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a'i ddiben oedd ystyried y newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a fyddai’n dod i rym yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2022.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad ac eglurodd, er bod gan yr Awdurdod Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eisoes, fod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi gwneud hyn yn ofyniad statudol. Mae'r Mesur yn gwneud nifer o ofynion mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, gan gynnwys penodi Cadeirydd a chylch gwaith y Pwyllgor.

 

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bellach wedi rhoi cyfrifoldebau ychwanegol ar ysgwyddau’r Pwyllgor sy'n gysylltiedig â llywodraethu, gan gynnwys ystyried agweddau ar berfformiad a chwynion. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys 12 Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac un Aelod Annibynnol (Lleyg) ar hyn o bryd.

 

Bydd yr Aelodau'n cofio, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, y bydd yn ofyniad deddfwriaethol o 5 Mai 2022 i draean o aelodaeth y Pwyllgor fod yn Aelodau Lleyg.  Cynigir felly bod aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei newid i 12 Aelod, 8 Aelod CBSP a 4 Aelod Lleyg, a bod y Cyngor yn cymeradwyo penodi Aelodau Lleyg ychwanegol i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth o 5 Mai 2022 ymlaen.

 

Mae'r canllawiau'n argymell na ddylid penodi Aelod Lleyg am fwy na dau dymor awdurdod lleol llawn. Mae unrhyw Aelod Lleyg sydd â hawliau pleidleisio yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau.

 

Roedd adrannau nesaf yr adroddiad yn amlinellu'r broses recriwtio ar gyfer Aelodau Lleyg, ymhelaethodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid ar yr agwedd hon er budd y Cyngor, yn ogystal â'r meini prawf i'w mabwysiadu i ddyfarnu a yw ymgeiswyr yn addas i'w rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad.

 

Yna, byddai'r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld gan Banel Swyddogion.

 

Gofynnodd Aelod am gadarnhad y byddai'n rhaid i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn Aelod Lleyg yn dilyn Etholiadau'r flwyddyn nesaf ac, os felly, a fyddent yn cael hyfforddiant ar gyfer y rôl. Gofynnodd hefyd pa lefel o daliadau cydnabyddiaeth y byddai'r Aelod Lleyg yn ei chael fel Cadeirydd.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai hyfforddiant helaeth ar gael, yn fewnol gan Swyddogion a hefyd gan ddarparwr allanol, sef CLlLC mae'n debyg.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai’r Cadeirydd yn derbyn cyfradd tâl dyddiol uwch, a’u bod yn dal i ddisgwyl canllawiau statudol ar fanylion hyn ac ar y drefn hyfforddi ar gyfer Aelodau Lleyg, gan gynnwys y Cadeirydd. 

 

PENDERFYNIAD:                                Bod y Cyngor:

 

(1)      Wedi cymeradwyo'r newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel yr amlinellir ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad, i ddod i rym yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2022;

 

(2) Wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 591.

592.

Nodi Adroddiadau Gwybodaeth pdf eicon PDF 263 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol (a Swyddog Monitro) adroddiad ar yr Adroddiadau Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr yr Aelodau at y ddau Adroddiad Gwybodaeth dan sylw, a gynhwyswyd yn yr adroddiad eglurhaol.

 

PENDERFYNIAD:                         Fod y Cyngor wedi cydnabod cyhoeddiad y dogfennau a restrir yn yr adroddiad.

593.

I dderbyn y Cwestiwn canlynol gan:

Cynghorydd Altaf Hussain i’r Arweinydd

Mr Arweinydd, rydym ni i gyd yn ymateb i anghenion sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, yr amgylchedd a dyfodol y blaned yr un pryd ag ymateb i argyfwng tai. Ellwch chi gadarnhau sut y byddwch chi’n cydbwyso’r angen i ddatblygu ein hamgylchedd a hefyd lleihau allyriadau carbon ar yr un pryd ag ymgysylltu â chymunedau ynghylch y datblygiadau arfaethedig sydd weithiau heb gael eu hystyried yn drwyadl?

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Arweinydd

 

Arweinydd, mae pob un ohonom yn gorfod ymateb i anghenion sy’n cystadlu a’i gilydd, yr amgylchedd a dyfodol y blaned ac ymateb i argyfwng tai oll ar yr un pryd. A allwch gadarnhau sut y byddwch yn cydbwyso'r angen i ddatblygu ein hamgylchedd a lleihau allyriadau carbon tra hefyd yn ymgysylltu â chymunedau am ddatblygiadau arfaethedig, rhai nad ydynt wastad yn gynlluniau da o reidrwydd?

 

Ymateb:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr awdurdod hwn wedi datgan Argyfwng Hinsawdd yn 2020, a bod y Cabinet wedi creu Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd. Ar ôl cymryd y camau hyn amlygwyd y ffaith fod gan yr awdurdod rôl fel:

 

• Arweinydd cymunedol – gweithio gyda phreswylwyr, grwpiau a busnesau mewn perthynas â'u defnydd o ynni a pharatoi ar gyfer effeithiau'r hinsawdd 

• Darparwr gwasanaethau – i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon o ran adnoddau sy'n llai dwys o ran carbon, i annog mwy o wytnwch ac i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

• rheolwr ystâd – i sicrhau bod yr ystâd a'i weithrediadau mor effeithlon o ran adnoddau â phosibl, gan ddefnyddio ynni glân a pharatoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd. 

 

Erbyn 2030 rhaid cyrraedd y targed o gael Awdurdodau Lleol carbon sero-net yng Nghymru. Mewn ymateb, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Arweinwyr llywodraethau lleol wedi sefydlu Panel Strategaeth Datgarboneiddio, gyda chefnogaeth pob un o'r 22 awdurdod lleol, LlC, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Phrifysgol Caerdydd. Mae’r Panel Strategaeth Datgarboneiddio, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, wedi diffinio'r meysydd ffocws i gyrraedd carbon sero-net fel a ganlyn:

 

• Symudedd a Thrafnidiaeth

• Adeiladu ac Ynni

• Defnydd Tir a Bioamrywiaeth

• Caffael

 

Mae gan y system gynllunio ran allweddol i’w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sef datgarboneiddio'r system ynni a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (Polisi Cynllunio Cymru 11, 2021). 

 

Cymru'r Dyfodol – y cynllun cenedlaethol 2040, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol sy'n gosod cwys ar gyfer datblygu yng Nghymru hyd at 2040. Mae'n gynllun datblygu sydd â strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, sicrhau datgarboneiddio a chadernid yn yr hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a lles ein cymunedau.  Ar lefel leol, atgyfnerthir y polisi cynllunio cenedlaethol drwy'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), dogfen strategaeth lefel uchel y mae'n rhaid i'r Cyngor ei pharatoi. Mae'r CDLl hefyd yn mynegi gweledigaeth, amcanion llesiant a blaenoriaethau'r Cyngor mewn termau defnydd tir, ac yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Mae'r CDLl yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a chafodd ymgynghoriad ar y cynllun drafft ei gwblhau yn ddiweddar, a bydd adroddiad ymgynghori yn cael ei baratoi maes o law.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllaw Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-Net ym mis Mai 2021.  Mae hyn yn nodi cwmpas a ffiniau manwl allyriadau nwyon t? gwydr yn ogystal â methodoleg gyfrifo gyson ar gyfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 593.

594.

Dadl Chwarterol - "Sut bydd gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu ar ôl pandemig Covid?"

Cofnodion:

Agorodd yr Arweinydd y ddadl ar yr eitem hon.

 

Cadarnhaodd fod COVID-19 wedi amlygu pa mor hanfodol yw gofal cymdeithasol o ran cefnogi pobl i fod mor annibynnol â phosibl. Mae'r materion sy'n wynebu gofal cymdeithasol – yn enwedig y cynnydd yn y galw, maint y pwysau ariannu a heriau'r gweithlu – yr un mor bwysig yn awr ag yr oeddent cyn COVID, gyda llawer wedi'u gwaethygu gan y pandemig.

 

           Mae'r angen cynyddol am wasanaethau yn amlwg ar ôl Covid, ac fel y dywedasom wrth y Cabinet ddoe, rydym bellach yn darparu 8% yn fwy o ofal cartref o gymharu â’r adeg hon y llynedd. Mae hyn o ganlyniad i bobl yn gorfod disgwyl cyn cael triniaeth gan y GIG oherwydd y pandemig, dirywiad mewn cyflwr o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud a gwarchod, ac effaith Covid hir. Felly, mae angen llawer mwy o arian i gefnogi lefelau uwch o ofal cymdeithasol dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Yn ei hanfod, mae gofal cymdeithasol yn ymwneud yn bennaf â pherthnasoedd dynol a chefnogi anghenion gofal a chymorth unigolion a'u teuluoedd, gan gynnwys pobl h?n, y rhai sy'n agored i niwed, a'r rhai ag anghenion cymhleth, fel bo modd iddynt wella ansawdd eu bywyd. Dylai trafodaethau am ddyfodol gofal cymdeithasol ymwneud â gwella ansawdd gofal a sicrhau canlyniadau i'r unigolyn, yn seiliedig ar 'yr hyn sy'n bwysig iddynt'. Mae hyn yn dechrau ar lefel leol a dylai adeiladu ar gryfder awdurdodau lleol yn eu hardal a'u cymuned, gan fynd i'r afael ag anghenion unigolion a theuluoedd, meithrin gwydnwch a chanolbwyntio ar les. 

 

Mae iechyd a gofal cymdeithasol cyn bwysiced â’i gilydd, ac yn aml maent yn dibynnu ar ei gilydd o ran sicrhau llif drwy'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Dylai penderfyniadau a blaenoriaethau ar gyfer dyfodol y gwasanaethau adlewyrchu hynny, yn ogystal â'r angen i gynllunio a chydweithio, gan ymgorffori dulliau llawer mwy ataliol o ymdrin â lles sy'n gweithio'n agos gydag iechyd y cyhoedd a thai. Cynghorau sydd yn y sefyllfa orau i gynnull partneriaethau'n lleol i ddod â'r gwasanaethau hyn at ei gilydd mewn modd sydd â ffocws lleol ac sy'n cael ei harwain yn ddemocrataidd.

 

Wrth ystyried dyfodol gofal cymdeithasol a chymorth, dylid mynd i'r afael â'r blaenoriaethau sydd â mwyaf o frys fod yn gyntaf, mae'r rhain yn cynnwys:

 

·         Darparu cyllid cynaliadwy hirdymor sy'n ddigon i fodloni'r gofynion ychwanegol rhagweladwy ar ofal cymdeithasol sy'n cael eu gyrru gan bwysau demograffig a phwysau eraill, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym.

·         Yr angen am gyllid ychwanegol i fynd i'r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu. Mae angen rhoi mwy o werth ar ddulliau o ymdrin â gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cydnabod ysfa pobl i barhau i fyw yn eu cymunedau, yn eu cartrefi yn bennaf, a hynny gydag ystyr a phwrpas.

·         Gwella canlyniadau i blant. Mae heriau sylweddol o hyd o ran darparu'r lleoliadau cywir i blant mewn gofal, yn enwedig i'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth yn lleol. Mae'r 18 mis  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 594.

595.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.