Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 17eg Tachwedd, 2021 15:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

596.

Datgan Diddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

597.

Derbyn Cofnodion pdf eicon PDF 327 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/10/21

 

Cofnodion:

CYTUNWYD:                           Bod Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a ddyddiwyd 21 Hydref 2021, yn cael eu derbyn fel cofnod gwir a chywir..

598.

Derbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Mae’r mis diwethaf wedi bod yn gymharol dawel, ond rwy’n si?r nad felly y bydd pethau yn ystod yr wythnosau nesaf yn arwain at y Nadolig. Peidiwch anghofio mai’r wythnos hon yw eich cyfle olaf i sicrhau tocyn ar gyfer y noson Codi Arian i Elusennau sy’n digwydd ar nos Sadwrn 27 Tachwedd yng Ngwesty Heronston gyda bwffe, hypnotydd llwyfan comedi a cherddoriaeth gan Lee Jukes o Bridge FM ac mae croeso i bawb.

 

Ymhellach, mae raffl Nadolig fawreddog yn cael ei chynnal gyda gwobr gyntaf o £200 mewn arian parod ac o gwmpas 20 gwobr arall a’r rhifau’n cael eu tynnu ar ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021 yn dilyn cyfarfod nesaf y Cyngor. Os hoffech brynu tocyn am £2.00 yr un, anfonwch neges er mwyn gallu gwneud trefniadau i sicrhau eich tocynnau. Mae holl elw’r digwyddiadau yma’n mynd at Lads & Dads a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont.

 

Yn ystod y mis diwethaf, cefais y pleser o dderbyn gwahoddiad i agoriad Academi STEAM Coleg Pen-y-bont ar gampws Pencoed. Ystyr hyn yw gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg ac roedd gweld yr adnoddau yma’n cael eu cynnig i fyfyrwyr o fewn yr adrannau yma’n arbennig a llongyfarchiadau i Goleg Pen-y-bont am ddod â’r fath adnodd ardderchog i’r fwrdeistref sirol.

 

Ar ddiwedd mis Hydref, agorais Ffair Lyfrau Clwb Llewod Pen-y-bont yng Nghanolfan Gymunedol Westward a phrynu llwyth sylweddol o lyfrau. Mae’r Llewod wedi codi dros £180,000 ers i hyn ddechrau yn 1995 ac roedd hi’n braf clywed am y bartneriaeth y maent bellach wedi’i ffurfio gyda phwyllgor rheoli gwirfoddol Canolfan Gymunedol Westward gyda chymorth abl y Cynghorydd David White.

 

Yn dilyn hyn, cefais wahoddiad i agoriad y gwasanaeth milfeddygol symudol cyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, am wn i, yn Abercynffig. Sefydlwyd Mobivet mewn hen siop ddodrefn sydd wedi’i thrawsnewid i fod yn syrjeri filfeddygol gydag offer cystal ag unrhyw ysbyty. Mae hwn yn wasanaeth sydd i’w groesawu’n fawr iawn, ac ar gael 24 /7 ar gyfer galwadau cartref ac a fydd yn bendant o ddefnydd i bobl sy’n ei chael hi’n anodd teithio at y milfeddyg neu sy’n dymuno i’w hanifail anwes gael ei drin yn hwylus yn y cartref. 

 

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn i’n falch o dderbyn gwahoddiad i berfformiad awyr agored gan Ysgol Gyfun Brynteg yng nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yng nghwmni’r Cynghorydd Dhanisha Patel. Perfformiwyd eu fersiwn fer nhw eu hunain o Hansel & Gretel ac roedd hi’n braf gweld y gr?p blwyddyn gyfan yno hefyd yn canu yn ystod y perfformiad gyda thyrfa sylweddol o bobl yn gwylio hefyd. Byddai’n braf gweld mwy o ddigwyddiadau o’r fath yng nghanol y dref.

 

Yn ystod yr wythnos, ymwelais â Choed Tremains gyda’r Arweinydd a’r Cynghorydd Stuart Baldwin i longyfarch Ceidwaid Coed Tremains ar sicrhau gwobr y Faner Werdd am eu gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn diogelu a gwella’r goedwig hynafol hon sydd â choed yn hy?n na 400 mlwydd oed a hynny yng nghanol Bracla.

 

Ar Sul y Cofio cefais y fraint a’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 598.

599.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Ymysg rhai o’r cynigion sy’n rhan o ymgynghoriad ‘dylunio da’ Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mae parcio aml-lawr modern yn Hillsboro Place, gwesty moethus ar lan y d?r, tirlunio a phedestreiddio ar hyd Promenâd y Dwyrain, gwell trafnidiaeth gyhoeddus, ymestyn Stryd y Dociau a safleoedd cymunedol newydd.

 

Wedi’i drefnu yn unol â Siarter Dylunio CCD Cymru, mae’r ymgynghoriad yn gwahodd busnesau a thrigolion ym Mhorthcawl i fynegi barn am y cynigion naill ai ar-lein, neu drwy ymweld â sesiynau galw-i-mewn lle gallant weld byrddau arddangos a sgwrsio â swyddogion adfywio. 

 

Bydd y sesiynau galw-i-mewn yn digwydd yn y Pafiliwn Mawr rhwng 9 y bore a 5 y prynhawn, Ddydd Mercher 24 Tachwedd, a 9 y bore tan 8 yr hwyr, Ddydd Iau 25 Tachwedd.

 

Yn dilyn hyn, caiff y byrddau arddangos eu gosod ar hysbysfyrddau yn Cosy Corner am dair wythnos, a bydd gwefan y Cyngor yn cynnwys manylion pellach ac arolwg byr i alluogi pobl i gynnig adborth pellach. 

 

Rydym yn dal yn uchelgeisiol iawn o safbwynt y cynlluniau yma, ac rydym eisiau iddynt ddarparu adfywiad realistig, cynaliadwy ym Mhorthcawl.

 

Hyderaf y bydd Aelodau’n helpu i hyrwyddo’r ymgynghoriad pwysig hwn a hefyd yn annog pobl i gymryd rhan a dweud eu dweud.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau pa brosiectau sydd wedi’u cymeradwyo er mwyn derbyn nawdd gan Gronfa Adfywiad Cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dyma raglfaenydd y Gronfa Cyfoeth ar y Cyd, a fydd yn cael ei lansio’r flwyddyn nesaf yn lle grant nawdd strwythurol y Gymuned Ewropeaidd.

 

Clustnodwyd cyfanswm o £46m ar gyfer prosiectau ledled Cymru, a bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £785,000 o hwn.

 

Bydd £213,000 yn mynd i Fenter Pen-y-bont ar Ogwr, menter sy’n helpu pobl sydd wedi bod ar ffyrlo neu sydd wedi bod yn economaidd anactif i ganfod swyddi newydd.

 

Clustnodir £200,000 ar gyfer The Life You Want, sy’n cefnogi pobl sydd eisiau datblygu a gwella’u sgiliau neu ymgymryd â hyfforddiant newydd er mwyn sicrhau swydd newydd a gwella eu bywydau.

 

Bydd Young Minds for Tomorrow yn derbyn £86,800 er mwyn annog mwy o ddisgyblion i ystyried gyrfaoedd ym maes gweithgynhyrchu a pheirianwaith, tra bod Elevate and Prosper Pen-y-bont yn elwa o £125,000 i gefnogi dechrau busnesau newydd.

 

Bwriad rhaglen yr Incubator for Ambitious Entrepreneurs yw helpu entrepreneriaid benywaidd i ddatblygu rhwydweithiau busnes cadarn a bydd yn derbyn £92,700.

 

Clustnodwyd £56,700 pellach ar gyfer Connecting Teachers with Industry, sy’n galluogi athrawon i annog disgyblion sy’n awyddus i ddilyn gyrfaoedd o fewn y sectorau creadigol, digidol, yr amgylchfyd a deunyddiau pellach a gweithgynhyrchu.

 

Bydd Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn elwa o gais pellach a gyflwynwyd gan Gyngor Torfaen ar ran y 10 awdurdod lleol sy’n cydweithio drwy Ranbarth Cyfalaf Caerdydd – prosiect Cysylltu, Ymwneud, Gwrando a Thrawsffurfio, a gynlluniwyd i ychwanegu gwerth i raglen Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr gyfredol y cyngor.

 

Dyma brosiectau gwerth chweil bob un a fydd yn cael effaith cadarnhaol ar fywydau pobl leol ac rwy’n croesawu buddsoddiad gan Lywodraeth y DU ar eu cyfer.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 599.

600.

Cyflwyniad gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabl De Cymru a Rhaglen Gyflwyniadau ar gyfer Cyfarfodydd y Cyngor i’r Dyfodol pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad uchod, gyda rhan ohono’n cyflwyno cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru oedd yn bresennol.

 

Cyflwynodd y Maer y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Alun Michael a DCC Jenny Gilmer i siarad am waith yr heddlu yng nghyswllt 3 Uned Reoli sylfaenol a 7 Awdurdod Heddlu yn ardal De Cymru. 

 

Dechreuodd ei gyflwyniad drwy egluro pa mor anodd fu’r 18 mis diwethaf i’r Heddlu yn sgil y pandemig Covid-19, sydd hefyd wedi effeithio ar sefydliadau mawr eraill, megis y Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodol lleol megis CBSP. Roedd y sefyllfa’n dal i barhau, ychwanegodd. 

 

Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn, sicrhaodd fod Heddlu De Cymru wedi cadw ffocws clir ar eu blaenoriaethau, gyda chyflawni gwasanaethau a chefnogaeth leol yn dal i fod yn ganolog i’r Cynllun Cyflawni Heddlu a Throsedd, a gyflwynwyd i Gynghorwyr lleol yn flaenorol.

 

Roedd sefydliadau megis y GIG a Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â’r heddlu ychwanegodd, wedi simsanu, gyda’r heddlu’n wynebu heriau anferth yn ystod y cyfnod hwn. Cadarnhaodd fod llai o droseddu wedi digwydd yn ystod y clo mawr cyntaf, ond wrth i gymdeithas ailagor, roedd lefelau wedi cynyddu unwaith eto i fod cymaint os nad yn fwy na’r lefelau blaenorol.

 

Byddai’r drafodaeth heddiw, eglurodd, yn edrych ar waith yr heddlu yn y gymuned, rôl PCSO’s, ymateb i alwadau 999 ac 101, lefelau troseddu, trais yn erbyn menywod a diogelwch cymunedol. Roedd yn falch i allu dweud wrth y Cyngor, fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu 100 PCSO ychwanegol ledled Cymru, gyda 41 ohonynt yn gwasanaethu ardal De Cymru. Roedd timau cymunedol hefyd yn cefnogi’r Swyddogion yma, eglurodd Comisiynydd yr Heddlu.

 

Gyda’r cynnydd yn lefelau gwaith ac ar adegau, galw digynsail, roedd yr Heddlu wedi edrych ar ffyrdd y gellid cysylltu â nhw ar wahân i drwy ffonio 999 neu 101. Roeddent felly wedi ychwanegu dulliau cysylltu hefyd drwy e-bost a system gyfathrebu gymdeithasol unigol ar-lein newydd.  

 

Eglurodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd fod galwadau 999 at yr heddlu wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Gorffennaf 2021, h.y. 18,000 ond roedd y nifer bellach wedi disgyn ychydig. Ymatebwyd yn sydyn iawn i 99% o’r galwadau yma. Nid yw’r galwadau i rif 101 yn cael eu hystyried fel rhai brys, fodd bynnag, ymatebodd yr Heddlu i’r rhain cyn gynted â phosibl. O safbwynt yr ystadegau diweddaraf ar gyfer galwadau 101, ymatebwyd i 85% ohonynt cyn gynted â phosibl ar ôl eu derbyn. 

 

Deliwyd â’r mwyafrif o alwadau ffôn gan yr Ystafell Reoli i ddechrau, gyda’r galwadau mwyaf brys yn derbyn ymateb sydyn drwy bresenoldeb yr heddlu’n ymweld â’r person oedd yn galw/eu lleoliad yn bersonol.

 

Yn ôl y disgwyl mae’n debyg, roedd lefelau troseddu wedi disgyn yn ystod y cyfnod pan gafwyd clo llawn, am nad oedd economi gyda’r nos a dim ond allfeydd manwerthu hanfodol oedd ar agor. Ond roedd gweithredoedd troseddol difrifol, megis er enghraifft, lefelau gwerthu cyffuriau yn dal i fod yn uchel. Yn wahanol i gred y mwyafrif hefyd, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, disgynnodd enghreifftiau o drais neu gamdriniaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 600.

601.

Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) – Cytundeb Cyflwyno Diwygiedig pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, gyda’r bwriad o gynnig arweiniad i’r Cyngor am yr angen i adolygu’r Cytundeb Cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol (CCD); i geisio cymeradwyaeth i’r estyniad o Amserlen y CDLl ac i gyflwyno’r cynllun diwygiedig i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.

 

Eglurodd Arweinydd Tîm y Polisi Strategaeth Cynllunio fod Cytundeb Cyflwyno Diwygiedig yn rhan statudol o’r broses CDLl a’i fod yn ddull allweddol er mwyn creu cynlluniau defnydd tir yn fwy sydyn. Mae’n cynnwys y ddwy elfen ganlynol:

 

  • Yr Amserlen – sy’n amlinellu’r modd y bydd y Cyngor yn rheoli’r rhaglen ar gyfer paratoi’r CDLl.
  • Y Cynllun Ymwneud Cymunedol (CYC) – sy’n nodi pwy, pryd a sut y bydd y Cyngor yn ymgynghori ac yn ymwneud â rhanddeiliaid amrywiol, yn cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol.

 

Estyniad i amserlen y CDLl oedd pwnc yr adroddiad, eglurodd.

 

Ymgymerwyd ag ymgynghoriad cyhoeddus o Amserlen Ddrafft y CCD yn ystod mis Ebrill a Mai 2018 a chymeradwywyd y ddogfen gan y Cyngor i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru, a gymeradwyodd ddrafft terfynol cyntaf y CCD ar 25 Mehefin 2018.

 

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth bob Awdurdod Cynllunio Lleol y dylid addasu pob CCD er mwyn ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol i amserlen y CDLl yng ngoleuni’r oedi a ddigwyddodd oherwydd y pandemig.

 

O ganlyniad, cymeradwyodd y Cyngor y CCD ar 16 Medi 2020, a gafodd ei gymeradwyo wedyn gan Lywodraeth Cymru ar 5 Hydref 2020.

 

Ers y dyddiad hwnnw, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llunio Blaen Ddrafft o’r CDLl (BDdCDLl), a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet i’w drafod ar 18 Mai 2021. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am 8 wythnos rhwng 1 Mehefin a 27 Gorffennaf 2021.

 

Cafwyd oedi o safbwynt y datblygiad tuag at gam allweddol nesaf y CDLl newydd, cyflwyno’r BDdCDLl i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio, a dyma oedd sail y newidiadau angenrheidiol i’r CCD, fel y nodir yn rhan nesaf yr adroddiad.

 

Aeth Arweinydd Tîm y Polisi Strategaeth Cynllunio yn ei flaen drwy ddweud bod angen nawr i’r Cyngor lunio CCD newydd gyda LlC yn dilyn yr ymgynghoriad ar y BDdCDLl. Y rheswm am hyn oedd bod angen adolygu a mireinio sylfaen tystiolaeth gefnogol y CDLLl o ganlyniad i’r sylwadau a dderbyniwyd gan ein cymunedau a rhanddeiliaid allweddol. O gymeradwyo’r Blaen Ddrafft i’w drafod roedd y Cyngor yn ymrwymo i’r cymunedau hynny. Hynny yw, byddai’r Awdurdod yn ystyried, yn ffurfio a chyhoeddi ymateb i bob un o’r sylwadau ar y BDdCDLl a dderbyniwyd. Roedd y Cyngor wedi derbyn dros 1,200 o sylwadau, a fu’n waith gweinyddol sylweddol.

 

Yn ogystal ag ymateb i sylwadau unigol, mae angen adolygu a mireinio sylfaen anghenion y CDLl yn sgil y wybodaeth newydd a ddaeth i law, o ganlyniad i newidiadau yn y ddeddfwriaeth, diweddaru canllawiau cynllunio a chwblhau’r wybodaeth dechnegol gefnogol.

 

Nodwyd y llinynnau gwaith yma ym mharagraff 4.3 yr adroddiad gyda manylion pellach er budd y Cyngor, gan Arweinydd Tîm y Polisi Strategaeth Cynllunio.

 

Dangoswyd yr estyniad posib i’r Amserlen yn Nhabl 1 (paragraff 4.4 o’r adroddiad) gan ddangos  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 601.

602.

2022-23 Sylfaen Treth y Cyngor pdf eicon PDF 250 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn darparu manylion i’r Cyngor am Sylfaen treth y cyngor ac amcangyfrif o’r raddfa gasgluar gyfer 2022-23 i’w gymeradwyo.

 

Atgoffodd y Cyngor mai Sylfaen treth y cyngor yw’r mesur o gapasiti trethadwy cymharol ardaloedd gwahanol o fewn y Fwrdeistref Sirol ac sy’n cael ei gyfrif yn unol â’r rheolau rhagnodedig. Mae pob eiddo domestig yn y Fwrdeistref Sirol wedi’i brisio gan y Swyddfa Brisio. Wedi iddynt gael eu prisio, caiff eiddo eu gosod o fewn naw band (Bandiau A i I). Caiff pob band ei luosogi gan ffactor penodol er mwyn cyrraedd yr hyn sy’n cyfateb i Fand D, fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 3.2 o’r adroddiad.

 

Yr amcangyfrif gros ar gyfer Sylfaen treth y cyngor ar gyfer 2022-23 yw 55967.70 eiddo sy’n cyfateb i Fand D a’r gyfradd gasglu amcangyfredig yw 97.5%. Felly, y sylfaen deth y cyngor net yw 54568.51. Mae’r gyfradd gasglu amcangyfredig wedi’i chadw ar 97.5%, er mwyn adlewyrchu’r amgylchiadau economaidd cyfredol yn ymwneud â’r pandemig Covid-19, y nifer uwch o drigolion sy’n wynebu caledu economaidd a chyfraddau casglu cyfredol.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid mai Llywodraeth Cymru sy’n darparu sylfaen treth y cyngor a chaiff ei defnyddio i gyfrif swm y Grant Cefnogi Refeniw sy’n cael ei dderbyn gan awdurdod lleol dan Setliad Refeniw Llywodraeth Leol. Er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru, ni roddir ystyriaeth o ragdybiaethau’r cynghorau am gyfraddau casglu. O safbwynt dosbarthu’r GCF, ystyrir bod y cyfraddau casglu’n 100 y cant, beth bynnag fo’r symiau a gasglwyd.

 

Bydd elfen treth y cyngor o ofyniad cyllideb y Cyngor yn seiliedig ar sylfaen net treth y cyngor o 54568.51 ac er bod y Cyngor yn cyfrif y sylfaen dreth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn gyfan gwbl, darperir cyfrifon ar wahân ar gyfer pob cyngor tref a chymuned. Defnyddir y sylfaen treth y cyngor yma gan awdurdodau i gyfrif eu gofynion unigol.

 

Daeth â’i chyflwyniad i ben drwy gadarnhau bod cynghorau tref a chymuned yn seilio’u gofynion ar y sylfaen dreth ar gyfer bob ardal tref a chymuned a cheir manylion pellach yn Atodiad A o’r adroddiad.

 

CYTUNWYD:                                Bod y Cyngor:-

 

·         Yn cymeradwyo sylfaen treth y cyngor a’r gyfradd gasglu ar gyfer 2022-23 fel y gwelir ym mharagraff 4.1 o’r adroddiad hwn.

Yn cymeradwyo sylfeini treth ar gyfer yr ardaloedd cyngor tref a chymuned a nodir yn Atodiad A o’r adroddiad.

603.

Gwelliannau i Reolau Gweithdrefn Ariannol (RhGA) o fewn Cyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, gyda’r bwriad o geisio caniatâd y Cyngor i addasu’r Cyfansoddiad i gynnwys y Rheolau Gweithdrefn Ariannol diwygiedig.

 

Eglurodd fod materion ariannol y Cyngor yn cael eu rheoli a’u gweithredu’n unol â’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol fel y nodir yn Rhan 4 y Cyfansoddiad. Nid yw’r RhGA wedi’u hadolygu ers 2017, yn ystod yr amser hwnnw mae prosesau a gweithdrefnau ariannol newydd, a deddfwriaeth a chanllawiau newydd, wedi dod i rym, gan newid y ffordd y mae'r Cyngor yn gweithredu.

 

Mae’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol wedi’u hadolygu gan swyddogion, yn cynnwys rhai o’r adrannau cyllid, caffael, archwilio cyfreithiol a mewnol a nifer o newidiadau a wnaed i'w diweddaru i adlewyrchu newidiadau fel y rhai a amlinellir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar 16 Tachwedd 2021, er mwyn cymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol ddiwygiedig.

 

Atodwyd copi o’r rheolau diwygiedig i’r adroddiad yn Atodiad 1 er gwybodaeth i’r Aelodau. 

 

CYTUNWYD:                              Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r gwelliant i’r Cyfansoddiad i ymgorffori’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol fel y nodwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

604.

Adroddiadau Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheolaethol, AD a Pholisi Corfforaethol (a Swyddog Monitro), ar yr Adroddiadau Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y ddau Adroddiad Gwybodaeth dan sylw, a gynhwyswyd yn yr adroddiad cysylltiedig.

 

CYTUNWYD:                              Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi’r dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad.

605.

I dderbyn y Cwestiynau canlynol oddi wrth:

Cynghorydd Tim Thomas i’r Dirprwy Arweinydd

A all y Dirprwy Arweinydd amlinellu'r dyraniad a'r defnydd o ran Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHP) ar gyfer y flwyddyn ariannol hon?

 

Cynghorydd Ross Penhale Thomas i’r Aelod Cabinet drosLesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Pa asesiad mae Aelod y Cabinet wedi'i wneud o argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Tim Thomas i’r Dirprwy Arweinydd

 

All y Dirprwy Arweinydd amlinellu dyraniad a defnydd y Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD) ar gyfer y flwyddyn ariannol hon?

Ymateb

 

Beth yw Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn?

Caiff Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHP) eu talu o gyllideb gyfyngedig arian parod gyda’r bwriad o helpu pobl i dalu costau tai, fel arfer lle mae diffyg rhwng eu Budd-dal Tai (BT), neu elfen dai o Gredyd Cynhwysol (CC), a'u rhent. Dim ond os yw'r hawlydd yn hawlio HB, neu CC sydd â chostau tai tuag at atebolrwydd rhent y gellir dyfarnu. Gellir dod o hyd i’r ddeddfwriaeth wreiddiol yn ymwneud â TTD yn Rheoliadau Cymorth Ariannol yn ôl Disgresiwn 2001 (S1 001/1167).

 

Nid yw ‘costau tai’ yn cael eu diffinio yn y rheoliadau ac mae’r dull hwn yn bwrpasol ganiatáu disgresiwn eang ar gyfer dehongli. Yn gyffredinol, mae ‘costau tai’ fel arfer yn cyfeirio at atebolrwydd rhent, er y gellir defnyddio’r term yn fwy eang i gynnwys:

 

           rhent ymlaen llaw

           blaendaliadau rhent

           costau cyfandaliadau eraill sy’n gysylltiedig ag anghenion tai, megis  costau symud

 

Prosesu Cais TTD

 

Wrth brosesu cais ar gyfer TTD, ystyrir:

 

cyfanswm yr incwm wythnosol neu fisol ar gyfer yr aelwyd

tynnu

costau byw rhesymol wythnosol neu fisol

sy’n penderfynu

y diffyg mewn incwm ar gyfer ystyried cyfraniad TTD

 

Ni allu gwerth parhaus taliad TTD fod yn fwy na gwerth elfen costau tai CC ar gyfer y rhai sy’n derbyn BT, y rhent cytundebol heb daliadau gwasanaeth anghymwys (gweler paragraff 5.1 isod) e.e. os mai’r rhent cytundebol yw  £400 y mis, a’r £344 yw’r BT, felly uchafswm y TTD fyddai £56 y mis.

 

Pa fath o ddiffygion all TTD wneud iawn amdanynt?

 

Ymysg y diffygion all BT a CC TTD wneud iawn amdanynt (ond nid yn gyfyngedig felly) y mae:

 

           diffygion rhent er mwyn rhwystro digartrefedd tra bod yr awdurdod tai yn ystyried opsiynau gwahanol

           diffygion lle mae’r cap budd-daliadau’n weithredol (mae’r cap budd-daliadau’n cyfyngu ar yr incwm budd-dal allan-o-waith i isafswm o £20,000 ar gyfer cyplau a rhieni sengl, a £13,400 ar gyfer oedolion sengl)

           diffygion yn sgil tynnu cymhorthdal ystafell sbâr (y cyfeirir ato fel y cap ystafell wely) neu o ganlyniad i gyfyngiadau budd-dal tai

           didyniadau an-ddibynnol mewn BT neu gyfraniadau costau tai o safbwynt CC gan nad ydynt yn ddibynnol

           Cyfyngiadau deddfwriaethol technegol eraill: 

 

o           cyfyngiadau swyddog rhent megis rhent cyfeirnod lleol neu gyfradd llety ar y cyd

o          cyfyngiad 2 blentyn budd-dal y llywodraeth

o          lleihad tapr incwm

o          diddymu premiwm y teulu

 

           unrhyw newidiadau polisi eraill sy’n cyfyngu swm taladwy BT neu CC

 

Gellir dyfarnu TTD ar gyfer blaendal rhent neu rent ymlaen llaw ar gyfer eiddo nad yw'r un sy’n hawlio wedi symud iddo eto os oes ganddo eisoes hawl ar BT neu CC yn eu cartref presennol, a hefyd taliadau ar gyfer costau tai yn y gorffennol (gan gynnwys ôl-ddyledion rhent). Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am feini prawf ac ystyriaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 605.

606.

Materion brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.