Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 15fed Rhagfyr, 2021 15:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

607.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Cynghorydd Alex Williams – Buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 8 ar yr Agenda, sef ei fod yn byw mewn eiddo sy'n wynebu ffordd heb ei mabwysiadu. Gadawodd y Cynghorydd Williams y cyfarfod tra roedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.

 

Cynghorydd R Stirman – Buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda, sef ei bod yn byw mewn eiddo sy’n wynebu ffordd heb ei mabwysiadu.

   

608.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 401 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/11/2021

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor dyddiedig 17 Tachwedd 2021 fel cofnod gwir a chywir.

 

609.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Mae’r mis diwethaf wedi bod yn un cymharol brysur felly ni fyddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am bopeth sydd wedi digwydd, ond soniaf am rai uchafbwyntiau.

 

Roedd y digwyddiad Codi Arian Elusennol a drefnwyd gan fy ngwraig a minnau yng Ngwesty’r Heronston ddiwedd Tachwedd yn noson allan wych a chodwyd dros £1,000.  Cafodd pawb a oedd yno noson hwyliog. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a brynodd docynnau ac i’r rhai a gyfrannodd wobrau raffl neu a roddodd gyfraniadau oherwydd eu bod yn methu â bod yn bresennol. Nid yw digwyddiadau o’r fath yn hawdd i’w trefnu heb unrhyw gefnogaeth, ond rwy’n falch o ddweud i’r noson fod yn llwyddiant.

 

Mynychais agoriad swyddogol Canolfan Addysg a Lles Y Nyth ym Mharc Bryngarw sy’n gyfleuster gwych i blant o bob oed ddysgu am ein hamgylchedd a’n mannau awyr agored. Roedd nifer o blant yn bresennol a oedd â chryn ddiddordeb yng nghadwyn y maer ond fe lwyddais i’w gadael heb iddi gael ei thorri! Fy mai i yn rhannol serch hynny oedd y diddordeb oherwydd i mi ddechrau gwneud argraffnodau clai o arfbais y maer.

 

Cynhaliwyd fy ymweliad cyntaf â Chwm Ogwr gyda gwahoddiad i lansiad llyfr blynyddol Cymdeithas Treftadaeth Leol a Hanes Cwm Ogwr yn y Mem yn Nantymoel. Cafwyd perfformiadau gan Gôr Meibion Cwm Ogwr a hefyd Seindorf Arian Cwm Ogwr gyda nifer o garolau Nadolig. Gobeithiaf ddychwelyd eto’n fuan i agor yn ffurfiol gofeb newydd y glowyr sydd wedi’i gosod ger y man lle safai Canolfan Berwyn ar un adeg.

 

Yn olaf, nodwch fod y Gwobrau Dinasyddiaeth ar agor ar gyfer enwebiadau ond byddant yn cau ddydd Gwener 7 Ionawr 2022. Fy mhle i chi i gyd yw i bob Cynghorydd enwebu o leiaf un unigolyn neu gr?p o'ch ardal. Gyda dim gwobrau yn bosibl y llynedd, gadewch i ni wneud eleni yn un o’r blynyddoedd gyda’r nifer fwyaf o enwebiadau erioed, i ddiolch i’r rhai yn ein cymunedau sy’n mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau arferol ddydd ar ôl dydd i helpu eraill a gwneud gwahaniaeth.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Mae manylion trefniadau ailgylchu a chasglu gwastraff y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd wedi'u cadarnhau.

 

Gyda’r pandemig yn dal i fod mewn grym, rydym yn gofyn unwaith eto i gartrefi lle mae rhywun yn dangos symptomau coronafeirws wneud yn si?r bod yr holl wastraff papur, fel papur cegin, papur toiled neu weips gwlyb, yn cael ei roi mewn bagiau dwbl a’i roi o’r neilltu am 72 awr.

 

Ar ôl hyn, gellir gosod y bag y tu mewn i'r bag sbwriel cartref. Er mwyn helpu i gadw casglwyr yn ddiogel, ni ddylid ar unrhyw gyfrif gynnwys gwastraff o’r fath gyda phapur sy’n cael ei ailgylchu.

 

Bydd casgliadau eleni yn cael eu gwneud yn ôl yr arfer hyd at ac yn cynnwys ar Noswyl Nadolig, ond nid ar Ddydd Nadolig, G?yl San Steffan na Dydd Calan.

 

Rhwng dydd Llun 27 a dydd Iau 30 Rhagfyr, bydd casgliadau'n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na'r dyddiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 609.

610.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Bydd yr Aelodau wedi gweld y newid sydd wedi’i wneud ar y Cabinet ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r Cynghorydd Nicole Burnett am ei hymroddiad a’i phroffesiynoldeb fel Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.

 

Hoffwn hefyd gynnig croeso cynnes i’r Cynghorydd Jane Gebbie fel yr Aelod Cabinet newydd sy’n egnïol, yn angerddol ac yn brofiadol iawn.

 

Mae newidiadau brys i’r ffordd y mae pobl yn derbyn eu brechiadau atgyfnerthu Covid-19 yn cael eu cyflwyno wrth i ymdrechion cenedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad yr amrywiolyn Omicron newydd ddechrau.

 

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu brechlyn Covid-19 erbyn diwedd y mis.

 

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddarparu 166,000 o bigiadau atgyfnerthu ledled y rhanbarth erbyn 31 Rhagfyr 2021.

 

Cyfarfu’r Prif Weithredwr a minnau ynghyd ag Arweinwyr a Phrif Weithredwyr Cynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i drafod a datblygu’r gwaith o gyflymu’r rhaglen frechu ar frys, er mwyn cyrraedd y targedau hyn. 

 

Ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n golygu bod angen cyflwyno nifer o newidiadau pwysig yng nghanolfan frechu Ravens Court.

 

Er mwyn darparu ar gyfer mwy o apwyntiadau, mae oriau agor yn cael eu hymestyn i gynnwys 7am-10pm. Yr unig eithriadau fydd Noswyl Nadolig (7am-2pm) a Nos Galan (7am-4pm).

 

Bydd y ganolfan hefyd yn parhau i fod yn weithredol bob dydd o'r wythnos, gan gynnwys gwyliau banc, ac eithrio ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan.

 

Oherwydd y bydd y ganolfan ar agor yn gynharach yn y bore ac yn hwyrach yn y nos, mae goleuadau allanol ychwanegol a llochesi yn cael eu gosod.

 

Y tu mewn i’r ganolfan, bydd pigiadau atgyfnerthu a brechiadau safonol yn cael eu rhoi ochr yn ochr â'i gilydd. Mae lonydd brechu newydd yn cael eu sefydlu i wneud hyn, ac mae staff ychwanegol yn cael eu cyflogi i sicrhau bod y broses yn gallu rhedeg yn esmwyth. Rydym wedi secondio 5 aelod o staff ychwanegol i gynorthwyo gyda gweithredu hyn.

 

Er nad oes apwyntiadau galw i mewn ar gyfer brechiadau atgyfnerthu ar gael ar hyn o bryd, bydd slotiau galw i mewn yn parhau i gael eu cynnig i bobl gymwys sydd angen derbyn dos cyntaf neu ail ddos o’r brechlyn.

 

Unwaith y byddant wedi cael eu pigiad, bydd yr amser y bydd angen i bobl aros cyn gadael y safle yn cael ei leihau i bum munud.

 

Mae'r apwyntiadau'n cael eu trefnu nawr a byddant yn cael eu cynnig yn awtomatig i bob oedolyn cymwys yn y fwrdeistref sirol.

 

Ni fydd angen i bobl gysylltu â’r bwrdd iechyd na’r meddyg teulu lleol, ond dylent ddisgwyl cael apwyntiad drwy neges destun. Dim ond y rhai nad ydynt wedi rhoi rhif ffôn cyswllt fydd yn cael apwyntiad drwy’r post, sy’n wahanol i’r hyn a oedd yn digwydd ar gyfer y ddau ddos blaenorol.

 

Hyd yn oed os yw’r apwyntiad ar Noswyl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 610.

611.

Deddf Hapchwarae 2005 Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu 2022-2025 pdf eicon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir adroddiad, a’i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i gyhoeddi Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu’r Cyngor ar gyfer y cyfnod nesaf o dair blynedd o 2022 i 2025.

 

Dywedodd fod gan y Cyngor fel awdurdod lleol swyddogaethau strategaeth o dan y Ddeddf Hapchwarae ac felly roedd yn rhaid iddo gyflawni'r rhain yn effeithiol.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r uchod ac yn gwneud argymhellion ar gyfer diwygiadau i'r Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu. Roedd y diwygiadau arfaethedig wedi'u hamlygu mewn coch yn y ddogfen yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Roedd yr adolygiad arfaethedig hefyd wedi ystyried effaith digynsail y pandemig Coronafeirws ar fusnesau a oedd yn darparu cyfleusterau gamblo.

 

Roedd Paragraff 3.5 yr adroddiad yn nodi’r tri amcan trwyddedu a oedd yn ganolog i reoleiddio gamblo a’r egwyddorion y mae’n ofynnol i’r Cyngor weithredu oddi tanynt yn unol â'r rhain.

 

Pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir nad oedd gan y Cyngor gyfrifoldeb am hapchwarae ar-lein. Dim ond am weithgareddau trwyddedadwy ar safleoedd trwyddedig yr oedd y Cyngor yn gyfrifol amdanynt a dangoswyd rhai enghreifftiau o’r rhain ym mharagraff 3.3 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd fod yn rhaid i'r Cyngor gyhoeddi'r Polisi y mae'n rhaid cytuno arno bob tair blynedd.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wrth yr Aelodau fod Pwyllgor Trwyddedu'r Cyngor wedi cymeradwyo'r adroddiad yn flaenorol ac argymhellodd ei fod wedyn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gadarnhau. Argymhellodd y Pwyllgor ymhellach fod y Cyngor yn cymeradwyo’r set bresennol o egwyddorion, i’w cyflwyno am y cyfnod o dair blynedd nesaf.

 

Er iddo wneud y pwynt nad oes gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb am hapchwarae ar-lein, roedd hyn yn cael  effaith sylweddol ar ein cymunedau lleol, ac felly roedd yn integreiddio â rhai o bolisïau’r Cyngor, megis gofalu am lesiant a/neu iechyd meddwl unigolion.

 

Felly, rhoddodd sicrwydd i’r Aelodau fod swyddogion awdurdodau lleol yn ymgysylltu’n rheolaidd â’r Comisiwn Hapchwarae, Llywodraeth Cymru ac efallai’n bwysicaf oll, â’r Prif Swyddog Meddygol, a oedd i gyd yn cydnabod sut mae hapchwarae’n effeithio’n andwyol ar gymunedau lleol ac roeddent yn edrych ar gamau i reoli hyn.

 

Felly, daeth Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i’r casgliad, er na allai'r Polisi reoli gamblo ar-lein, fod y gwasanaeth yn ceisio defnyddio cymaint o liferi ag sy'n bosibl, i amddiffyn aelodau'r cyhoedd allan yn y gymuned. Roedd yn hawdd trwy hapchwarae ar-lein colli cannoedd o bunnoedd mewn mater o funudau, heb i rywun orfod gadael ei ystafell fyw. Felly, roedd yr her i’w rwystro, ei atal neu ei leihau, yn un anodd.

 

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir o’r Cyngor cyn ymddeol, dymunodd y Maer ynghyd ag Aelodau eraill y gorau iddo yn ei ymddeoliad a phwysleisiodd y ffaith ei fod wedi bod yn Swyddog rhagorol yn gofalu am fuddiannau etholwyr tri awdurdod lleol, a oedd yn her ynddi’i hun a wnaed yn llawer gwaeth, oherwydd y gwaith ychwanegol yr oedd y gwasanaeth wedi’i wneud yn ystod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 611.

612.

Cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Rhaglen o Gyflwyniadau i’r Cyngor yn y Dyfodol pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad uchod, gyda rhan ohono'n cyflwyno'r cynrychiolwyr a oedd yn bresennol o'r Bwrdd Iechyd Prifysgol uchod (BIP CTF).

 

Yn bresennol o’r Bwrdd Iechyd roedd Paul Mears, Prif Weithredwr, Emrys Elias, Cadeirydd ac Anthony Gibson, Cyfarwyddwr Gr?p, ILG Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mynegodd Mr. Mears, y Prif Weithredwr, pa mor falch ydoedd o allu bod yn bresennol heddiw a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith sy'n mynd rhagddo yn y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd. Fel y byddai’r Cyngor yn sylweddoli, bu gwaith cyson gyda staff a oedd dan bwysau aruthrol drwy gydol y pandemig hyd heddiw.

 

Byddai’r cyflwyniad heddiw yn amlwg yn ymdrin â COVID-19 a chynllunio ynghylch adfer gwaith llawfeddygol dewisol a chynllunio ar gyfer gwaith y gaeaf rydym yn ei wneud mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y Cyngor yn lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd Prif Weithredwr Cwm Taf hefyd yn bwriadu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol, yr Ysbyty Cymunedol, Maesteg a CAMHS.

 

Bellach roedd cyfnod brig unwaith eto yn cael ei brofi mewn perthynas â COVID, ar ffurf amrywiolyn Omicron a oedd yn dechrau cydio yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid oedd wedi cael effaith mor sylweddol o ran derbyniadau i’r ysbyty hyd yma yn CTM, ac yn wir roedd cyfraddau trosglwyddo Omicron yn gymunedol yn ein hardal yn dal yn gymharol isel. Fodd bynnag, fel gydag amrywiolion eraill o’r salwch bu’n rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd edrych ar ei gapasiti dros yr ychydig wythnosau a’r misoedd nesaf i wneud yn si?r bod cyflenwad digonol o staff ar gael i ymdopi ag unrhyw oblygiadau a allai ddod yn sgil y straen, hy derbyniadau i’r ysbyty a chapasiti o ran gwelyau ac ati. Mae’n debyg y bydd y straen hwn o’r salwch yn cynyddu'n gyflym iawn fel y mae eisoes yn ei wneud mewn rhannau o Loegr, ychwanegodd.

 

Yn amlwg, rhan allweddol o’r ymateb i COVID yw’r drefn brofi. Rydym wedi cael galw mawr iawn am ein profion PCR. Mae hynny’n eithaf sefydlog ar hyn o bryd, a’r cynllun yn amlwg yw parhau â’r capasiti profi sydd gennym ar draws ein hardal ffiniau iechyd, i sicrhau ein bod yn rhoi mynediad cyn gynted â phosibl i bobl a allai amau bod ganddynt symptomau, i allu eu cael wedi’u profi. Ac yn gefn i hynny mae’n amlwg mae’r olrhain cyswllt sydd y tu ôl i'r profion.

 

Roedd hefyd yn bwysig gwneud yn si?r ein bod yn gallu olrhain a diogelu pobl sydd wedi dod i gysylltiad ag unigolion sydd wedi profi’n bositif am COVID.

 

O ran brechu, dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf fod 159,000 o bigiadau atgyfnerthu wedi’u rhoi ar draws ei ardaloedd, sef 49.59% o boblogaeth gymwys y Bwrdd Iechyd. Serch hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddeb yn ystod y diwrnodau diwethaf, y dylem fod yn cynnig y pigiad i bob un cymwys trwy Gymru.

 

Felly erbyn diwedd Rhagfyr, y nod yw cynnig pigiad i bawb yn ardal Cwm Taf, a theimlai’r Prif Weithredwr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 612.

613.

Derbyn y Cwestiwn canlynol oddi wrth: Y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet - Cymunedau

Pa ganran o ffyrdd a phriffyrdd lleol sydd heb eu mabwysiadu?

 

 

Cofnodion:

Pa ganran o ffyrdd a phriffyrdd lleol sydd heb eu mabwysiadu?

Ymateb

 

Yn seiliedig ar y cyfrifiad o gyfanswm hyd y ffyrdd heb eu mabwysiadu o gymharu â mesuriad llinellol y rhwydwaith priffyrdd yn gyffredinol, mae canran y ffyrdd heb eu mabwysiadu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn llai nag 1% (0.08%).

Cofiwch fod y ffigur hwn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn 2018 ac mae’n gyfrifiad lefel uchel iawn, fodd bynnag, yr hyn sy’n amlwg yw ei fod yn isel iawn o’i gymharu â’r rhwydwaith priffyrdd yn gyffredinol.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd T Thomas

 

Mae canran fach o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn parhau i achosi problemau penodol i drigolion sy'n byw yn yr ardaloedd hyn. Rwy’n ymwybodol, yn ardal Pencoed o ardal Porth y Cymoedd fod yna ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ers degawdau. Felly, beth yw Strategaeth y Cyngor ar gyfer mabwysiadu’r ffyrdd hyn sydd heb eu mabwysiadu yn y tymor hir, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw datblygwyr safleoedd bellach yn masnachu, oherwydd eu bod efallai wedi’u diddymu neu o bosibl wedi’u dirwyn i ben am resymau eraill.

 

Ymateb

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau ei fod wedi bod yn gweithio gyda’n dau AS a’r Aelod lleol dros Fryncoch, gan edrych ar fater ffyrdd heb eu mabwysiadu, gan gynnwys yn ardaloedd Porth y Cymoedd. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn ofyniad ar ddatblygwr y safle i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu codi i safon y gellir eu mabwysiadu, ac os yw hyn yn disgyn i ran CBS Pen-y-bont ar Ogwr, yna bydd y darn o ffordd dan sylw yn dod yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Cronfa Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu ac mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am ddosraniad o’r arian hwn, gan arwain at waith yn cael ei wneud ar stryd ym Mhorthcawl, i ddod â hon i safon y gellir ei mabwysiadu ac yna gael ei mabwysiadu gan y Cyngor. Yn anffodus, nid yw lefel y cyllid sydd ar gael yn mynd i allu cefnogi’n ariannol y gwaith o fabwysiadu nifer y ffyrdd heb eu mabwysiadu sydd yn y Cyngor Bwrdeistref Sirol, nac yng Nghymru gyfan, felly mae’r Cyngor yn mynd i orfod ystyried y ffordd orau o ymdrin â'r mater o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn ei ardal gyffredinol. Pe bai gan Aelodau unrhyw ymholiadau ynghylch ffyrdd heb eu mabwysiadu o fewn eu Wardiau, anogodd hwy i fynd ato'n bersonol yngl?n â'r rhain.

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y  pwynt mai dim ond nifer fach o briffyrdd dosbarthedig yn y Fwrdeistref Sirol nad oeddent wedi’u codi i safon lle gellid eu mabwysiadu. Ond roedd cryn dipyn o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn parhau. Roedd y rhain yn y prif ardaloedd nad oedd yn wynebu datblygiadau tai, ond yn fwy o lonydd ochr neu lonydd cefn ac ati, yn hytrach na phrif ffyrdd, lle nad oedd unrhyw lif sylweddol o gerbydau.  Ailadroddodd y ffaith bod gennym gyllid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 613.

614.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.