Lleoliad: o bell - trwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Datganodd y Prif Weithredwr, M Shephard, fuddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 6 ar yr Agenda, yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Canlyniadau'r Cyngor. Gadawodd y cyfarfod pan oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.
|
|
I dderbyn cyhoeddiadau gan: (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu) (ii) Aelodau’r Cabinet (iii) Prif Weithredwr Cofnodion: Y Maer
Rydym bellach yn trefnu sut i gyflwyno’r gwobrau, a bydd naill ai ymweliad personol gen i neu gyflwyniad ym Mharlwr y Maer, yn amodol ar yr asesiadau risg priodol a fydd wedi’u cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Hoffwn ddiolch i'r swyddogion a’r Dirprwy Faer am eu cymorth yn y broses, ac am nodi fy sylwadau mewn perthynas â diwygiadau posibl i'r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dirprwy Arweinydd
Gan fod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn cael ei chynnal yr wythnos hon, rwyf am roi diweddariad byr iawn i'r aelodau ar sut mae cynllun prentisiaeth y Cyngor ei hun yn dod yn ei flaen.
Ers ei lansio yn 2013 rydym wedi cefnogi 116 o brentisiaid, ac mae llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i weithio gyda'r cyngor yn llawn amser.
Ar hyn o bryd mae gennym 27 o brentisiaid yn gweithio ar draws ystod o adrannau, o gymorth busnes a marchnata i ofal cymdeithasol a chaffael, ac maent yn gwneud cyfraniad gwerthfawr.
Mae'r cynllun prentisio yn ein galluogi ni, fel awdurdod lleol, i recriwtio talent newydd. Mae'n galluogi pobl i ddatblygu sgiliau proffesiynol ac i ennill profiad gwerthfawr, a hynny wrth ennill cyflog a gweithio tuag at gymhwyster achrededig.
Efallai bydd yr Aelodau yn awyddus i ddweud wrth etholwyr am ein rhaglen brentisiaid, a'u cynghori i chwilio tudalennau swyddi'r wefan gorfforaethol am gyfleoedd yn y dyfodol.
Hoffwn ddiolch hefyd i'n holl brentisiaid am eu gwaith caled, yn enwedig yn ystod amgylchiadau anodd y ddwy flynedd ddiwethaf, ac i ddymuno pob lwc iddynt gyda'u gyrfaoedd.
Aelod Cabinet – Cymunedau
Rwy'n si?r y bydd cynghorwyr yn ymwybodol o'r problemau a achosir gan ffyrdd heb eu mabwysiadu o fewn y fwrdeistref sirol.
Dyma’r strydoedd nad yw’r Cyngor wedi'u mabwysiadu, lle mae'r preswylwyr a’r perchnogion yn parhau i fod yn gyfrifol am y gwaith o gynnal a chadw.
Mae cynllun peilot newydd gan Lywodraeth Cymru wedi darparu £230,000 i wella stryd heb ei mabwysiadu leol fel ei bod yn cyrraedd safon lle gallai’r cyngor gymryd cyfrifoldeb.
Bwriad y cynllun yw gwella dealltwriaeth cynghorau a Llywodraeth Cymru o’r goblygiadau o ran cost o fynd i'r afael â'r ôl-groniad hanesyddol o strydoedd o'r fath ledled Cymru. Dewiswyd Ynyslas ym Mhorthcawl yn seiliedig ar ffactorau megis cyflwr gwael ei phalmentydd a'r ffordd goncrid, a nifer yr eiddo y mae'n eu gwasanaethu.
Erbyn hyn, mae’r llwybrau troed a’r lôn wedi'u hailadeiladu, mae draeniad y priffyrdd wedi'i atgyweirio ac mae gwaith pellach yn cael ei wneud i sicrhau bod Ynyslas yn addas i'w mabwysiadu.
Rydym wedi cael rhai sylwadau cadarnhaol iawn o ran ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 629. |
|
Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd Cofnodion: Roeddem yn falch o gadarnhau ddoe ein bod yn cefnogi dychweliad yr Uwch Bencampwriaeth Golff Agored i Glwb Brenhinol Porthcawl yn 2023.
Dyma’r unig bencampwriaeth golffwyr h?n fawr yn Ewrop, ac mae’n ddigwyddiad pwysig sy'n dod â manteision parhaol i dwristiaeth a'r economi leol.
Pan wnaethom ei gynnal am y tro cyntaf yn 2014, ymwelodd dros 43,000 o bobl â'r fwrdeistref sirol ac fe’i hystyriwyd yn llwyddiant a gynhyrchodd filiynau o bunnoedd i'r economi leol, gan ddenu cynulleidfa deledu ryngwladol gyda miliynau o wylwyr ledled y byd. Edrychwn ymlaen at ddod â diweddariadau i chi wrth i'r cynlluniau ddatblygu.
Mae datblygiad mawr arall ym maes twristiaeth ranbarthol gam yn nes at gael ei wireddu hefyd, yn sgil rhoi caniatâd cynllunio amodol i brosiect trawsnewidiol Cwm Afan yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae'r datblygiad newydd trawiadol yn rhan o frand Wildfox Resorts ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel safle gwyliau a hamdden hunangynhwysol, tebyg i Centre Parks yn y cymoedd.
Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio i'r prosiect gael ei grybwyll gyntaf gan ymgeiswyr Afan Valley Cyf. Fodd bynnag, ers hynny mae'r Gr?p Salamanca aml-genedlaethol, sydd â hanes o 20 mlynedd o ddatblygiadau llwyddiannus, wedi cymryd yr awenau, ac maent yn gyrru'r cynlluniau ymlaen yn gyflym.
Gallai greu cannoedd o swyddi newydd a darparu manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol, rhai a allai ddod â budd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Yr wyf wedi gofyn am ddiweddariad manwl, a phan ddarperir hynny fe'i rhannaf gydag aelodau.
Yn olaf, mae’r cynlluniau ar gyfer sut y bydd safle hen ffatri peiriannau Ford yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol yn prysur gyflymu.
Mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos ochr yn ochr â Chwmni Moduron Ford a’r arbenigwyr eiddo tirol a buddsoddi masnachol, CBRE.
Disgwylir y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn pan fyddwn yn trafod cynlluniau ar gyfer ailddatblygiad arfaethedig y safle, yr amserlenni, y cyfleoedd marchnata a mwy.
Y bwriad yw galluogi'r safle i gael ei gyflwyno i'r farchnad o fewn chwarter cyntaf 2022.
Fel y g?yr yr aelodau, roedd y gwaith moduron yn gyflogwr mawr yn Ne Cymru cyn iddo gau, ac mae'r safle 1.6 miliwn troedfedd sgwâr yn parhau i fod yn ddarn o dir sy'n fasnachol werthfawr.
Mae Ford a CBRE yn dweud wrthym ei fod yn denu diddordeb cryf, gydag o leiaf un cleient posibl eisoes wedi dangos diddordeb ym meddiannu’r safle.
Dylem wybod mwy ar ôl i'r cyfarfod gael ei gynnal, a byddaf, wrth gwrs, yn dod â newyddion pellach i chi wrth i'r sefyllfa hon ddatblygu.
|
|
Cynllun Peilot Pleidleisio Ymlaen Llaw yn Etholiadau Lleol Mai 2022 PDF 277 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gymryd rhan yn y cynlluniau peilot Pleidleisio o Flaen Llaw, cynllun a fyddai’n caniatáu pleidleisio ar y dydd Mawrth a dydd Mercher cyn y Diwrnod Pleidleisio ar ddydd Iau 5 Mai 2022 mewn rhai Gorsafoedd Pleidleisio yn ystod Etholiadau Lleol Mai 2022.
Ar ôl ymgynghori ag arweinwyr grwpiau, dywedodd ei fod wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru fod gan Ben-y-bont ar Ogwr ddiddordeb mewn sefydlu cynllun peilot Pleidleisio Ymlaen Llaw, gan agor gorsafoedd pleidleisio mewn wardiau penodol ar y dydd Mawrth a dydd Mercher cyn y diwrnod pleidleisio, yn ogystal â chynllun peilot ar wahân wedi’i leoli mewn ysgol ar gyfer disgyblion cymwys yr ysgol honno yn unig.
Roedd
angen penderfyniad yn awr ynghylch a ddylai Cyngor Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr fwrw ymlaen â'r cynllun peilot pleidleisio
ymlaen llaw. Rhestrir y wardiau a ddewiswyd ar gyfer y cynllun peilot isod, gan ddefnyddio’r enwau newydd a ddefnyddir o fis Mai 2022, a chydag enwau’r wardiau fel y maent yn awr mewn cromfachau: -
· Dwyrain Bracla a Llangrallo Isaf [Bracla, Llangrallo Isaf] · Canol Dwyrain Bracla [Bracla] · Gorllewin Brackla [Bracla] · Canol Gorllewin Bracla [Bracla] · Corneli [Corneli] · Y Pîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr [Y Pîl, Cefn Cribwr] · St Bride’s Minor ac Ynysawdre [Bryncethin, Bryncoch, Sarn ac Ynysawdre]
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y wardiau peilot gwreiddiol wedi’u dewis yn seiliedig ar gyfraddau pleidleisio Etholiadau Lleol 2017, a oedd yn nodi’r 5 ward gyda'r cyfraddau pleidleisio isaf yn gyffredinol a'r cyfraddau pleidleisio isaf mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae’r tabl ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad yn dangos y nifer a bleidleisiodd a'r safle’r ward ar y rhestr.
Ychwanegodd bod tair ward ychwanegol o Etholiadau Lleol yn 2017 wedi'u hychwanegu at y peilot, a hynny oherwydd adolygiad y Comisiwn Ffiniau sydd wedi eu cyfuno â’r wardiau a nodwyd ar gyfer y peilot. Y wardiau hyn yw Cefn Cribwr, Llangrallo Isaf ac Ynysawdre.
Ar wahân i hyn, gan fod Ysgol Gyfun Cynffig yn rhan o gynllun peilot ar wahân ar gyfer disgyblion cymwys yn yr ysgol honno yn unig, ychwanegwyd ward Corneli at y peilot gan fod dalgylch Ysgol Gyfun Cynffig bron yn gyfan gwbl o fewn ffiniau'r Pîl, Cefn Cribwr, a Chorneli, a byddai mwyafrif y disgyblion sy'n gymwys i bleidleisio yn cael eu cynnwys.
Daeth y Prif Weithredwr i'r casgliad drwy gadarnhau y bydd 20 o orsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 9pm ar draws y saith ward beilot ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher, gan roi dewis o 3 diwrnod i'r etholwyr fwrw eu pleidleisiau. Yn Ysgol Gyfun Cynffig, byddai 2 orsaf bleidleisio ar agor ar y dydd Mawrth rhwng 8.30am a 4.30pm ar gyfer y myfyrwyr cofrestredig 16+ yn unig. Bydd hyn yn caniatáu iddynt bleidleisio mewn amgylchedd cyfforddus a bydd yn meithrin yr arfer o bleidleisio, er y gallent ddewis pleidleisio yn un o'r gorsafoedd pleidleisio ward peilot pe dymunent.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a'r Peilot a’r ffordd y byddai'r newidiadau a gynigiwyd yn cyd-fynd â’r newidiadau mewn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 631. |
|
Ffioedd Etholiadau Lleol - Cyngor Bwrdeistref Sirol a Chynghorau Tref a Chymuned PDF 361 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar ran y Prif Weithredwr gyda’r bwriad o geisio cymeradwyaeth y Cyngor i'r ffioedd etholiadol y bwriedir eu cymhwyso yn etholiad y Fwrdeistref Sirol ac etholiad y Cynghorau Tref a Chymuned o fis Mai 2022, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
I roi rhywfaint o gefndir, yn unol ag arfer sefydledig, mae cyllid yn cael ei neilltuo ar gyfer yr etholiadau lleol ac mae cronfa wrth gefn ar gael ar hyn o bryd i dalu costau etholiadau'r Fwrdeistref Sirol ym mis Mai 2022.
I roi rhywfaint o gefndir, yn unol ag arfer sefydledig, mae cyllid yn cael ei neilltuo ar gyfer yr etholiadau lleol ac mae cronfa wrth gefn ar gael ar hyn o bryd i dalu costau etholiadau'r Fwrdeistref Sirol ym mis Mai 2022.[IH1]
Eglurodd y Swyddog Monitro fod y costau gweinyddu ychwanegol yn anodd eu hasesu cyn ei bo’n hysbys sawl etholiad y bydd mwy nag un ymgeisydd, gan fod hyn yn cael effaith sylweddol ar lwyth gwaith y tîm Gwasanaethau Etholiadol.
Mae taliadau ychwanegol i Staff Etholiadol yn ystod yr etholiadau mawr diweddar wedi amrywio o £2,000 i £4,000, yn dibynnu ar rolau a chyfrifoldebau penodol. Cynigir felly y dylid rhoi pwerau penodol i'r Swyddog Canlyniadau bennu lefel y taliadau ar gyfer gwaith gweinyddol ychwanegol unwaith y bydd yr etholiad wedi'i gwblhau.
Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 1 yr adroddiad ac at y ffi ar gyfer Clercod Pleidleisio, a osodwyd yn £150. Teimlai fod hyn yn eithaf isel am 15 awr o waith.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod rhywfaint o ddisgresiwn o ran pennu'r ffioedd amrywiol, fodd bynnag, cadarnhaodd y byddai'r Rheolwr Etholiadol wedi cymharu ag awdurdodau cyfagos eraill wrth bennu ffioedd yr etholiad. Fodd bynnag, byddai'n gofyn iddo gysylltu â'r Aelod y tu allan i'r cyfarfod yngl?n â'r pwynt hwn.
PENDERFYNIAD: Bod y Cyngor:
(1) Yn cymeradwyo'r rhestr ffioedd a nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad
(2) Yn rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Swyddog Canlyniadau i bennu lefel y taliadau ar gyfer gwaith gweinyddol ychwanegol mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151.
[IH1]Repeated paragraph |
|
Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar raglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31 (Atodiad A i'r adroddiad y cyfeiriwyd ato).
Adroddodd fod y Cyngor, ar 24 Chwefror 2021, wedi cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf a oedd yn ymgorffori'r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021-22, ynghyd â rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod rhwng 2020-21 a 2030-31 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Roedd y rhaglen gyfalaf wedi'i diweddaru yn ystod y flwyddyn gyda chynlluniau newydd, diwygiadau i becynnau ariannu presennol a newidiadau i broffiliau cyflenwi. Roedd dyfarniadau grant newydd, canlyniadau prosesau tendro a diweddariadau ar gynlluniau presennol sydd angen eu cynnwys wedi digwydd ers i'r rhaglen gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ar 19 Ionawr 2022.
Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y bydd rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2021-22 hyd 2031-2032 yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor ar 22 a 23 Chwefror 2022, fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26, ochr yn ochr â'r Strategaeth Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022-23 i 2031-32. Dywedodd fod sawl ffynhonnell o bwysau ariannol wedi codi o ganlyniad i amodau cyfredol y farchnad a’u bod wedi'u heffeithio gan y pandemig a Brexit.
Adroddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021-22 i 2030-31 a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2002 yn £212.439m, a bod £118.094m o’r swm yn cael ei dalu o adnoddau'r Cyngor, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a benthyca, gyda'r £94.345m sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol. Dywedodd wrth yr Aelodau fod bellach angen cynnwys y cynlluniau newydd canlynol yn y rhaglen gyfalaf, y mae rhai ohonynt yn cael eu hariannu'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan grantiau, ac eraill sydd angen eu diwygio:-
Roedd nifer fach o welliannau a newidiadau eraill hefyd i’r cymeradwyaethau grant, ac maent wedi’u hadlewyrchu yn y rhaglen gyfalaf sydd wedi'i diweddaru.
Daeth y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid i'r casgliad drwy gynghori bod y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig, sy’n ymgorffori'r cynlluniau a amlinellir uchod ac sy’n cael ei drafod mewn mwy o fanylder yn yr adroddiad, wedi'i nodi yn Atodiad A yr adroddiad.
Cyfeiriodd Aelod at y gwaith a wnaed yn Ystâd Ddiwydiannol Heol Ewenni a’r dyraniad cyllid o £3.5m tuag ato o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gobeithiai bod rhai ffactorau allanol wedi derbyn sylw ac y byddai'r gwaith cywiro adeiladau a seilwaith ar y safle yn parhau yn unol â'r amserlen, a hynny rhag rhwystro cynnydd y gwaith datblygu canlynol sydd wedi’i gynllunio.
Hefyd, mynegodd ei siom o ran Prosiect Arbed a'r gwaith blaenorol a wnaed. Felly, roedd yn gobeithio y byddai trigolion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 633. |
|
Nodi Adroddiadau Gwybodaeth PDF 264 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol (a Swyddog Monitro) adroddiad ar yr Adroddiadau Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.
Cyfeiriodd yr Aelodau at y ddau Adroddiad Gwybodaeth dan sylw, a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad eglurhaol.
Nododd Aelod, mewn perthynas ag adroddiad y Rhaglen Sefydlu Aelodau, y gallai cryn dipyn o’r hyfforddiant yma barhau i gael ei roi dros Teams ac ati, ac roedd yn ymwybodol nad oedd signal band eang da gan rai Aelodau, yn enwedig yn y cymoedd, a bod eraill ddim yn gwbl lythrennog o ran TG. Gofynnodd a allai'r rhwystrau hyn atal rhai Aelodau yn y weinyddiaeth newydd rhag cymryd rhan lawn yn y Rhaglen.
Dywedodd y Swyddog Monitro, o dan y ddeddfwriaeth newydd a fydd yn dod i mewn ym mis Mai, y bydd yn ddyletswydd ar awdurdodau lleol i drefnu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi rhithwir, rhai hybrid, a rhai wyneb yn wyneb o bosibl, ac y bydd gan Aelodau'r offer angenrheidiol i gymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn. Byddai'r rhai nad ydynt yn hyderus â chyfarfodydd o bell yn derbyn hyfforddiant i’w galluogi.
Ailadroddodd Aelod sylwadau a wnaeth mewn Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd blaenorol, h.y. ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig ymestyn hyfforddiant Rheoli'r Trysorlys i bob Aelod, ac i aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn unig.
PENDERFYNIAD: Fod y Cyngor wedi cydnabod cyhoeddiad y dogfennau a restrir yn yr adroddiad.
|
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |