Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 9fed Mawrth, 2022 15:00

Lleoliad: o bell - trwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  M A Galvin

Media

Eitemau
Rhif Eitem

645.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Ar wahân i'r Swyddog a oedd yn cyflwyno'r adroddiad a'r Swyddogion Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cefnogi'r cyfarfod, datganodd bob swyddog fuddiant rhagfarnus yn eitem 7 ar yr Agenda, gan adael y cyfarfod tra'r oedd yr eitem honno'n cael ei hystyried.

 

646.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 253 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 9/2/2022

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:              Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022, yn gywir.

 

647.

Cyflwyniad i'r Cyngor gan gynrychiolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a gyflwynai’r cynrychiolwyr Huw Jakeway a Chris Barton o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i’r Cyngor, iddynt roi diweddariad ar waith y Gwasanaeth, ac ati.

 

Yn gyntaf, rhoddodd Mr Jakeway gyflwyniad byr i Wasanaeth Tân De Cymru, cyn trosglwyddo'r awenau i Mr. Barton roi rhywfaint o'r cyd-destun ariannol.

 

Dywedodd fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gwasanaethu'r Bwrdeistrefi Sirol canlynol. Mae nifer y gorsafoedd/sefydliadau tân ym mhob un o'r ardaloedd wedi'i nodi mewn cromfachau:-

 

·         Pen-y-bont ar Ogwr (8)

·         Rhondda Cynon Taf (9)

·         Bro Morgannwg (4)

·         Caerffili (5)

·         Merthyr Tudful (2)

·         Blaenau Gwent (4)

·         Torfaen (4)

·         Trefynwy (5)

·         Caerdydd (4)

·         Casnewydd (3)

 

Cadarnhaodd fod pob un o'r Awdurdodau cyfansoddol wedi ymrwymo cyllideb tuag at weithredu Gwasanaeth Tân De Cymru a oedd yn gymesur â phoblogaeth pob ardal. Yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, roedd hyn i gyfrif am £7.5m (9.5%) o gyfanswm y gyllideb o £79m. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn cael ei gefnogi'n ariannol drwy ddyraniad grant penodol. Esboniodd fod 80% o'r gyllideb hon yn mynd tuag at gyflogwyr ac yn cynnwys adnoddau ar gyfer agweddau fel Trafnidiaeth, Cyflenwadau, Hyfforddiant, Eiddo, Pensiynau a Chyllid Cyfalaf.

 

Roedd cyllideb refeniw'r Gwasanaeth wedi cynyddu dros y 10 mlynedd diwethaf, er bod hyn yn dal yn llawer is na chwyddiant. Roedd Gwasanaeth Tân De Cymru yn un o 3 Awdurdod Tân yng Nghymru. Y ddau wasanaeth arall oedd Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, yr oedd y naill wasanaeth a'r llall yn derbyn cyllideb fwy na rhanbarth De Cymru.

 

O ran pwysau cyllidebol eleni, roedd codiad cyflog o 1.5% wedi'i ddyfarnu, ond roedd rhai risgiau'n gysylltiedig â hynny oherwydd yr RPI cyfredol. Roedd yr holl gostau chwyddiant eraill wedi'u hamsugno o fewn Cyllidebau presennol y Gwasanaethau gan gynnwys ei Gronfeydd Wrth Gefn. Er bod tanwariant wedi'i ragweld o fewn y Gwasanaeth ar hyn o bryd, byddai'r arian hwnnw a oedd dros ben yn cael ei osod yn erbyn unrhyw risgiau'n gysylltiedig â chwyddiant cyflogau. Rhagdybiwyd y byddai cyllid grant oddi wrth Lywodraeth Cymru yn parhau.

 

Aeth Mr Jakeaway wedyn yn ei flaen i gyfeirio at broblemau gweithredol Gwasanaeth Tân De Cymru, gan ddweud fod yr holl fuddsoddiad a wnaed wedi mynd tuag at gadw cymunedau'n ddiogel.

 

Roedd atal yn cael ei ystyried yn eithriadol o bwysig, ac roedd swm sylweddol o arian yn cael ei ymrwymo i addysgu'r cyhoedd am agweddau ar ddiogelwch tân.

 

Roedd 20,000 o wiriadau'n cael eu cynnal ar gartrefi'n flynyddol, gyda chymorth cwmnïau cyfleustodau, ac asesiadau risg yn cael eu cynnal ar gartrefi'r rhai y tybiwyd eu bod yn fwyaf agored i niwed, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel. Cynhaliwyd gwiriadau'n gysylltiedig â diogelwch tân, yn ogystal â gwiriadau eraill ar gartrefi i atal problemau fel masnachu mewn pobl a sefyllfaoedd a oedd yn cynnwys cam-drin rhywiol neu ddomestig. Cafodd cartrefi'r bobl sy'n fwyaf agored i niwed hefyd eu gwirio, i sicrhau nad oedd unrhyw beth ynddynt a allai waethygu unrhyw ddamweiniau, ee, baglu a chwympo.

 

Gyda chymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 647.

648.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn ymweld â nifer o unigolion a grwpiau i gyflwyno Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer iddynt ac mae hi wedi bod yn bleser cael cwrdd â nhw i gyd. Mae yna nifer ar ôl i'w cyflwyno o hyd a bydd pob un wedi'i chyflwyno o fewn tua wythnos.

 

Ddydd Llun nesaf byddaf yn agor Cofeb y Glowyr yn Nant-y-moel yn swyddogol. Mae'r gofeb wrth ymyl hen safle Canolfan Berwyn sydd bellach wedi'i dymchwel, ac rwy'n si?r mai dyma fydd un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn fel Maer. Ar ôl cael fy magu yn Nant-y-moel bydd hi'n anrhydedd dychwelyd i nodi'r digwyddiad arbennig hwn a thalu teyrnged i'r llu o lowyr (fy nhad yn eu plith) a dreuliai oriau lawer bob dydd o dan y ddaear yn y tywyllwch, ond a wnaeth gyfraniad gwirioneddol at adeiladu'r cwm.

 

Mae hi wedi bod yn brofiad ac yn bleser Cadeirio cyfarfodydd y Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf, hyd yn oed os oedd hi'n siom braidd nad oedd modd inni ond dychwelyd i siambr y Cyngor drwy drefniant hybrid. Fodd bynnag, gobeithio y bydd hyn yn newid yn fuan. Hoffwn ddiolch ichi i gyd am beidio â bod yn rhy galed arnaf yn y cyfarfodydd hyn, ond dim ond megis dechrau ar gyfarfod heddiw yr ydym ni felly pwy ?yr beth wnaiff ddigwydd.

 

Gan mai dyma fydd cyfarfod olaf y Cyngor cyn yr etholiad, meddyliais y byddai'n syniad gofyn i chi i gyd unwaith eto wneud cyfraniad at y ddau gr?p yr wyf yn codi arian ar eu cyfer eleni - Lads & Dads a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Byddaf yn cymryd rhan yn her 3 Chopa Cymru ddydd Sadwrn 2 Ebrill, ynghyd â 21 o bobl eraill, ac rydym ni i gyd yn gobeithio codi arian i'r ddau gr?p hyn. Bydd y digwyddiad yn dechrau tua 4.00am ar y dydd Sadwrn ac mae’n debygol y byddwn yn cwblhau’r digwyddiad ar yr Wyddfa yn y tywyllwch, ond gan wneud y cyfan o fewn 24 awr. A fyddech cystal â gwneud cyfraniad drwy Wefan CBSP ar dudalen y Maer os gallwch chi, a llawer o ddiolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth.

 

I gloi, efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol bod cyfarfodydd canlynol y Pwyllgor wedi'u canslo gan y bydd y cyfnod cyn yr etholiad yn dechrau ar 21 Mawrth 2022:-

 

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – 24 Mawrth

Pwyllgor Safonau – 29 Mawrth

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - 31 Mawrth

 

Bydd cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei gynnal ynghynt ar 15 Mawrth am 2pm, gyda chytundeb y Cadeirydd. Caniateir cynnal Pwyllgorau Rheoleiddio yn y cyfnod cyn yr etholiad.

 

Bydd staff y Gwasanaethau Democrataidd yn tynnu'r digwyddiadau uchod o galendrau'r Aelodau a'r Swyddogion yn unol â hyn. Mae dyddiad diwygiedig y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eisoes wedi'i osod yng nghalendrau Aelodau/Swyddogion

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Efallai yr hoffai'r Aelodau rybuddio eu hetholwyr ein bod yn derbyn galwadau unwaith eto gan ddeiliaid tai pryderus sydd wedi cael eu targedu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 648.

649.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Gwn fod yr holl aelodau wedi'u tristau a'u syfrdanu gan ymosodiad Rwsia ar Wcrain, sy'n achosi argyfwng dyngarol a welir yn datblygu bob dydd, yn fyw ar ein sgriniau teledu.

 

Mae pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cyngor hwn yn parhau i sefyll ochr yn ochr â phobl Wcrain wrth iddynt frwydro'n ddewr yn erbyn lluoedd arfog Putin.

 

Fel ardal sydd eisoes yn gartref i wladolion Rwsia ac Wcrain, rydym yn cydsefyll â'n cymdogion o Wcrain, ac ni allwn ddychmygu sut maent yn teimlo nac yn ymdopi, heb wybod a yw eu hanwyliaid yn Wcrain yn ddiogel, ac a fyddant yn goroesi'r bomiau a'r sieliau.

 

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi a chefnogi ein preswylwyr o Rwsia sydd, fel ni, wedi condemnio'r ymosodiadau anghyfreithlon a direswm a orchmynnwyd gan yr Arlywydd Putin, ac sy'n parhau i gydsefyll â Wcrain.

 

Yn union fel y mae Cymru’n genedl noddfa, mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hithau'n ardal sy'n cynnig noddfa, ac mae hi wedi bod yn galonogol gweld ein cymunedau lleol yn dod at ei gilydd i gynnig eu cefnogaeth i bobl Wcrain gyda’u negeseuon, eu gweddïau a'r arian, y meddyginiaethau a'r hanfodion eraill y maent wedi'u cyfrannu.

 

Cynhaliwyd gwylnos gyhoeddus emosiynol yn Dunraven Place yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Gwener diwethaf a chafwyd cefnogaeth dda iawn gyda chyfraniadau teimladwy iawn gan bobl o Wcrain sy'n byw yng Nghymru. Bydd ail wylnos yn cael ei chynnal yn sgwâr marchnad Maesteg ddydd Sadwrn yma 12 Mawrth am 10.00am.

 

Mae nifer o gymunedau lleol yn trefnu eu casgliadau eu hunain ar gyfer bwyd, meddyginiaethau a hanfodion eraill, ac mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn derbyn nwyddau ymolchi a hylendid personol ac eitemau meddygol yn ei hyb cymunedol.

 

Fel arall, a dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o helpu, gall pobl gyfrannu arian i'r Disasters Emergency Committee  fel bo modd prynu eitemau i Wcrain heb orfod eu cludo o'r DU.  Mae ein pobl wedi dangos eu haelioni, eu caredigrwydd a’u parodrwydd i weithredu, gan gynnig eu cartrefi eu hunain hyd yn oed i ffoaduriaid sy'n ffoi rhag erchylltra rhyfel.  Mae angen sicrhau'r un ymrwymiad gan lywodraeth y DU ag ymrwymiad y bobl.

 

Yr wythnos diwethaf cyfarfu holl Arweinwyr Cynghorau Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru â Gweinidogion Llywodraeth Cymru i drafod ein hymateb ar y cyd i’r argyfwng dyngarol sy'n tyfu bob dydd o fewn y wlad.Cadarnhaodd yr arweinwyr fod pob cyngor lleol yng Nghymru yn barod i wneud beth bynnag a oedd o fewn eu gallu i helpu’r rhai sy’n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcrain, a'u bod yn gwneud paratoadau. Fodd bynnag mae ein gallu i baratoi'n gyfyngedig, gan nad ydym wedi derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnom ar frys gan Lywodraeth y DU.

 

Dros y penwythnos ysgrifennodd ein Arweinydd CLlLC, Andrew Morgan, at Brif Weinidog y DU ynghylch y rhyfel, a’r wythnos hon fel Llywydd, ynghyd â holl Arweinwyr y Grwpiau mewn ymateb trawsbleidiol unfrydol, galwodd eto ar i Lywodraeth y DU fod yn llawer mwy eglur a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 649.

650.

Datganiad Polisi Cyflogau - 2022/2023 pdf eicon PDF 360 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Datganiad Polisi Tâl 2022/2023 (Atodiad 1 yr adroddiad). Roedd yr adroddiad yn ymateb i ofynion deddfwriaethol ac yn sicrhau bod y Cyngor yn agored ac yn atebol o ran y modd y mae'n gwobrwyo ei staff.

 

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol ei bod hi'n ofynnol yn statudol i'r Cyngor, o dan y Ddeddf Lleoliaeth, i baratoi Datganiad Polisi Tâl ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, y mae angen ei gymeradwyo a'i gyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2022.

 

Mae amseriad yr adroddiad yn fodd i sicrhau bod yr wybodaeth mor gyfredol ag sy'n bosibl. Mae hyn yn cynnwys Cytundeb Tâl y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021, y cytunwyd arno mor ddiweddar â 28 Chwefror 2022.

 

Mae’r Datganiad Polisi Tâl yn darparu’r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch tâl ac, yn enwedig, penderfyniadau ynghylch tâl uwch swyddogion.

 

Er mai'r hyn a oedd yn ofynnol yn y Ddeddf Lleoliaeth oedd bod yr holl awdurdodau'n datblygu a chyhoeddi eu polisi ar holl dâl Prif Swyddogion, cadarnhaodd fod manylion tâl yr holl grwpiau perthnasol wedi'u cynnwys, er mwyn sicrhau tryloywder.

 

O ran Atodiad 1 yr adroddiad, hy y Datganiad Polisi Tâl, datganiadau Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol, tynnodd sylw'r Aelodau at Baragraff 6.6 a esboniai fod Polisi Taliad Atodol ar sail y Farchnad, fel y gwyddai'r Aelodau, wedi cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cyngor ers y Datganiad Polisi Tâl diwethaf.

 

Roedd paragraff 8 o'r adroddiad wedyn yn rhoi gwybodaeth am Berthynoleddau Cyflogau y mae'n rhaid i'r Awdurdod eu cyhoeddi yn rhan o'r adroddiad. Ychwanegodd fod y rhain wedi cael eu diweddaru o'r flwyddyn flaenorol yn unol â chyflogau a ddiwygiwyd yn dilyn dyfarniad cyflog 2021. 

Nododd Aelod fod Cynghorydd Tref wedi dweud yn gyhoeddus yn ddiweddar fod CBSPO yn talu cyfraddau cyflog gwahanol i ddynion a merched sy'n gwneud yr un swydd. Gofynnodd i Reolwr y Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol a oedd y datganiad hwn yn gywir, a hefyd i esbonio neu ymhelaethu ar y gwahaniaeth rhwng anghyfartaledd cyflog a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

 

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol ei bod yn ofynnol i'r Cyngor adrodd bob blwyddyn ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (cymedrig neu ganolrifol) dynion a merched ar draws y gweithlu.

 

Yn yr adroddiad diweddaraf a gyflwynwyd ar 31 Mawrth 2022, dangoswyd bwlch cyflog o 13% wrth gymharu cyflogau canolrifol.

 

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw mesuriad o'r gwahaniaeth yng nghyflog cyfartalog dynion a merched, waeth beth fo'u gwaith, ar draws y sefydliad. Mae'n wahanol i gyflog cyfartal, sy'n cymharu sut mae dynion a merched yn cael eu talu am gyflawni'r un rolau, neu rolau tebyg.

 

Mae'r Cyngor yn ceisio bodloni'r gofynion am gyflog cyfartal o fewn y Strwythur Cyflogau a Graddfeydd drwy werthuso unrhyw rolau newydd, neu rolau sydd wedi newid, drwy ei Gynllun Gwerthuso Swyddi. Drwy  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 650.

651.

Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored a Datblygiadau Tai Newydd pdf eicon PDF 449 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, er mwyn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu CCA5 - Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored a Datblygiadau Tai Newydd fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Pen-y-bont ar Ogwr.

 

I roi rhywfaint o'r cefndir, dywedodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol fod ardaloedd hamdden yn hollbwysig i'n hiechyd, ein llesiant ac i amwynder, a'u bod yn cyfannu at seilwaith gwyrdd ardaloedd. Maent yn cynnig lle i chwarae, i gymryd rhan mewn chwaraeon, i wneud gweithgareddau corfforol iach ac i ymlacio, a hynny'n aml yng nghanol byd natur.

 

O ganlyniad i ddatblygiad tai newydd yn y Fwrdeistref Sirol, a'r cynnydd yn y boblogaeth yn sgil hynny, dywedodd fod galw i wella cyfleusterau hamdden presennol, ac i ddarparu cyfleusterau newydd.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol y bydd CCA5 yn arf allweddol i ateb y galw hwnnw, drwy roi cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr ynghylch sut y gellir bodloni'r safonau sy'n ofynnol ym mholisi'r Cynllun Datblygu Lleol. 

 

I grynhoi, mae’r CCA yn nodi:

 

·         Y cyd-destun Polisi Cynllunio lleol a chenedlaethol ar gyfer darpariaeth hamdden awyr agored;

·         Polisi ac arferion y Cyngor yn gysylltiedig â gofodau hamdden;

·         Nodiadau canllaw i esbonio'r amgylchiadau, y mecanweithiau, y mathau a maint y gofod hamdden a geisir ar ddatblygiadau preswyl;

·         Eglurhad o'r amgylchiadau lle gellir ceisio cyfraniadau ariannol tuag at gyfleusterau hamdden;

·         Anogaeth i ddatblygwyr a darpar ymgeiswyr gynnwys yr Adran Gynllunio mewn trafodaethau cyn ymgeisio; a

·         Chanllawiau ar y dull o weinyddu'r polisi.

 

Ar 16 Ionawr 2020 cymeradwyodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu fersiwn drafft o’r CCA fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus; awdurdododd swyddogion i wneud trefniadau priodol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus; a chytunodd i ddisgwyl am adroddiad pellach ar ganlyniad y broses ymgynghori.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos o hyd rhwng 21 Chwefror a 3 Ebrill 2020. Hysbysebwyd yr ymgynghoriad yn unol â darpariaethau paragraff 4.2 yr adroddiad.

 

Erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori, roedd naw sylw wedi dod i law ar ddrafft y CCA. Ceir crynodeb o'r sylwadau hyn yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Ar 3 Mawrth 2022, ystyriodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu yr holl sylwadau a chytuno ar newidiadau i'r ddogfen yn sgil y sylwadau a ddaeth i law. Cafodd y rhain eu cynnwys ar ffurf diwygiadau i'r CCA a geir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol y byddai'r Aelodau'n sylwi o'r pwyntiau bwled ym mharagraff 4.4 yr adroddiad, fod y diwygiadau arfaethedig wedi'u cyfyngu i bwyntiau eglurhaol cymharol syml, ac ychwanegodd fod hyn yn adlewyrchu swmp y gwaith a wnaed i gwblhau drafft y CCA yn y lle cyntaf. Cydnabu fewnbwn y Maer i hyn, a oedd wedi galw am gyflwyno CCA ers sawl blwyddyn, a bu ei gyfraniad personol a phroffesiynol yn amhrisiadwy ac yn fodd i sicrhau bod gan holl Aelodau'r Fwrdeistref Sirol lais yn y broses.

 

Daeth y Swyddog â’i gyflwyniad i ben drwy ychwanegu bod y CCA yn ymhelaethu ar y fframwaith polisi cynllunio defnydd tir presennol sydd wedi’i gynnwys yn y CDLl, gan roi sicrwydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 651.

652.

Siarter Creu Lleoedd Cymru pdf eicon PDF 291 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ac yn llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru. 

 

Fel gwybodaeth gefndir, dywedodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, mai proses ragweithiol a chydweithredol o greu a rheoli lleoedd yw Creu Lleoedd. Er y gellir ystyried yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel y prif gynigydd, mae’r agenda creu lleoedd i bob pwrpas yn mynd y tu hwnt i swyddogaethau Cynllunio a swyddogaethau cysylltiedig y Cyngor, ac yn cynnwys cysylltiadau trawsddisgyblaethol â meysydd gwasanaeth lluosog ar draws llywodraeth leol a’i phartneriaid cysylltiedig er mwyn cyfrannu at greu a rheoli lleoedd yn effeithiol.

 

Cafodd y Siarter Creu Lleoedd, a lansiwyd ym mis Medi 2020, ei

datblygu gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru mewn

cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Mae hyn yn cynnwys

rhanddeiliaid sy'n cynrychioli ystod eang o fuddiannau a sefydliadau sy'n gweithio oddi mewn yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Bwriedir i'r Siarter adlewyrchu ymrwymiad y sefydliadau hyn, yn unigol ac ar y cyd, i gefnogi datblygu lleoedd o ansawdd uchel ledled Cymru er budd cymunedau.

 

Aeth yn ei flaen i gadarnhau bod llofnodwyr Siarter Creu Lleoedd Cymru yn cytuno i hyrwyddo'r egwyddorion canlynol wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a lleoedd sy'n bodoli eisoes:-

 

  • Pobl a chymuned;
  • Lleoliad;
  • Symudiad;
  • Cymysgedd o ddefnyddiau;
  • Tir y Cyhoedd a;
  • Hunaniaeth

 

Manylwyd ar ddisgrifydd a oedd yn ymhelaethu ar bob un o'r rhain yn adroddiad y Swyddog.

 

Aeth y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yn ei flaen i ddweud y byddai'r Cyngor yn addo, fel llofnodwr y Siarter Creu Lleoedd:

 

·         Cynnwys y gymuned leol wrth ddatblygu cynigion;

 

·         Dewis lleoliadau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd;

 

·         Blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus;

 

·         Creu strydoedd a mannau cyhoeddus cynhwysol, diffiniedig, diogel a chroesawgar;

 

·         Hyrwyddo cymysgedd gynaliadwy o ddefnyddiau i wneud lleoedd yn fywiog;

 

·         Gwerthfawrogi a pharchu rhinweddau a hunaniaeth unigryw lleoedd presennol.

 

Ychwanegodd fod dogfen 'Dyfodol Cymru 2040' Llywodraeth Cymru yn darparu'r Cynllun Datblygu Cenedlaethol ac yn cynnwys polisi penodol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r sector cyhoeddus ddangos arweiniad a chymhwyso egwyddorion creu lleoedd i gefnogi twf ac adfywiad er budd cymunedau. O dan Bolisi 2, mae'n datgan: “Rhaid i’r sector cyhoeddus arwain drwy esiampl a rhoi egwyddorion creu lleoedd ar waith er mwyn creu datblygiadau sy'n dangos esiampl. Yn arbennig, rhaid i'r sector cyhoeddus flaenoriaethu gwaith dylunio o ansawdd, arloesedd a chynaliadwyedd."

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, fod Creu Lleoedd bellach wedi'i gydnabod ymhlith swyddogaethau'r Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yng Nghynllun Busnes y Gyfarwyddiaeth Cymunedau 2021/22. Y Pwyllgor Rheoli Datblygu a'r Gwasanaeth Cynllunio sydd yn y sefyllfa orau i weithredu fel hyrwyddwyr creu lleoedd y Cyngor, er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn cydymffurfio â'r egwyddorion a nodir yn y Siarter. Ceir dyhead i sefydlu 'Uned Creu Lleoedd' o fewn y tîm, gan fanteisio ar arbenigedd sy'n bodoli eisoes, yn ogystal â sicrhau adnoddau ychwanegol a threfnu hyfforddiant addas er mwyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 652.

653.

Trafodion Partïon Cysylltiedig 2021-22 a Datganiad Cyfrifon pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i hysbysu'r Cyngor ynghylch y gofyniad i Aelodau ddatgan yn ffurfiol unrhyw drafodion parti cysylltiedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 drwy lenwi'r datganiad a oedd wedi'i gynnwys yn Atodiad A, hyd yn oed os nad oedd dim i'w ddatgan. Roedd yn rhaid cwblhau'r datganiad o 31 Mawrth ymlaen a'i ddychwelyd erbyn dydd Gwener 8 Ebrill 2022.

 

Esboniodd fod paratoi’r Datganiad Cyfrifon ymhlith gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) a bod ei gynnwys wedi’i ddiffinio yn y 'Cod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Llywodraeth Leol yn Y Deyrnas Unedig' (y Cod) 2021-22 gan y Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).

 

Yn ôl Cod 2021-22 "Bydd yn rhaid i Awdurdodau nodi perthnasoedd a thrafodion partïon cysylltiedig, nodi balansau sy'n weddill rhwng yr awdurdod a'i bartïon cysylltiedig, a nodi'r amgylchiadau lle bydd datgeliadau'n ofynnol". Wedyn bydd yn rhaid datgelu unrhyw drafodion partïon cysylltiedig yn y Datganiad Cyfrifon. 

 

Cyhoeddodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid - nad yw'r gofyniad i ddatgan trafodion partïon cysylltiedig yn ofyniad newydd.

 

Pwrpas yr adroddiad felly oedd hysbysu'r Aelodau ynghylch y gofyniad i gwblhau'r datganiad a oedd wedi'i gynnwys yn Atodiad A gan gyfeirio i'r canllawiau a oedd ynghlwm yn Atodiad B erbyn dydd Gwener 8 Ebrill 2022.  Mae'n hanfodol bod y ffurflen hon yn cael ei llenwi i adlewyrchu'r sefyllfa ar 31 Mawrth 2022, a'i bod yn trafod y flwyddyn ariannol lawn, neu'r cyfnod yr oedd yr unigolyn wedi bod yn Aelod o'r Cyngor. Dylai'r Aelodau nodi y bydd copi o'r datganiad hwn yn cael ei anfon drwy e-bost ar wahân i'w cyfeiriad e-bost Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i'w lenwi a'i ddychwelyd.

 

PENDERFYNWYD:        Bod y Cyngor yn nodi'r gofyniad i'r Aelodau:

 

·         Ddatgan yn ffurfiol unrhyw drafodion parti cysylltiedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22;

·         Cwblhau a dyddio'r ffurflen ar 31 Mawrth ar y cynharaf 2022;

·         Cyflwyno'r ffurflen erbyn dydd Gwener 8 Ebrill 2022

 

654.

Cynllun Deisebau pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a ofynnai i'r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu'r Cynllun Deisebau a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. 

 

Derbyniodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 Gydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021. Mae'r Ddeddf honno'n gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol gan gynnwys, o dan Adran 42, y ddyletswydd i greu Cynllun Deisebau gan gynnwys darparu cyfleuster ar gyfer deisebau electronig (e-ddeisebau). . Daw’r ddarpariaeth hon i rym ym mis Mai 2022. 

 

O dan Ddeddf 2021, eglurodd fod yn rhaid i’r Cyngor gyhoeddi Cynllun i esbonio sut mae’n bwriadu ymdrin â deisebau ac ymateb iddynt.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod deisebu yn un ffordd y gall unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau ei defnyddio i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, drwy dynnu sylw'r Cyngor at faterion sy'n destun pryder i'r cyhoedd a rhoi cyfle i Aelodau Etholedig ystyried yr angen am newid o fewn y Fwrdeistref Sirol. Cydnabyddir y gall deisebau esgor ar ganlyniadau cadarnhaol sy'n arwain at newid neu'n goleuo trafodaethau.

 

Roedd y Cynllun a oedd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 (i’r adroddiad), yn dangos hyn drwy nodi y byddai deisebau a fyddai'n cael eu derbyn gan unrhyw un a oedd yn byw, yn gweithio neu'n astudio yn y Fwrdeistref, waeth beth fo nifer y llofnodion, yn derbyn ymateb ar yr amod y cedwir at y canllawiau a nodir yn y Cynllun. Pwrpas y Cynllun hwn yw sefydlu proses glir ar gyfer ymdrin â deisebau a gyflwynir i’r Cyngor yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. 

 

Mae'r Cynllun yn cynnwys darpariaeth i sicrhau, os ceir mwy na 750 o lofnodion ar ddeiseb, y bydd y ddeiseb yn cael ei hystyried mewn cyfarfod o'r Cyngor llawn. Bydd trefnydd y ddeiseb yn cael gwybod mewn ysgrifen pryd y cynhelir y drafodaeth, gan roi digon o rybudd iddo allu bod yn bresennol.

 

Bydd y Cyngor yn cynnal cyfleuster e-ddeiseb ar ei wefan, a ddarperir gan Mod.gov, sef y system rheoli pwyllgorau awdurdodau lleol a ddefnyddir fwyaf. Mae'r Cynllun yn nodi bod yn rhaid i e-ddeisebau ddilyn yr un canllawiau â deisebau papur. Rhaid i drefnydd e-ddeiseb roi ei enw, cyfeiriad, cod post dilys a chyfeiriad e-bost. Ychwanegodd y Swyddog Monitro fod angen i unrhyw un sy'n cefnogi'r ddeiseb gyflwyno'r un wybodaeth.

 

I gloi ei hadroddiad, dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'n rhaid i'r Cyngor adolygu'r Cynllun o dro i dro, yn unol â Deddf 2021, ac os oedd ystyried hynny'n briodol, ei ddiwygio. Os bydd y Cyngor yn diwygio'r Cynllun neu'n cyflwyno Cynllun newydd yn ei le, bydd y Cynllun newydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 145 yr adroddiad a gofynnodd pam bod angen cyfeiriad y deisebydd ar e-ddeisebau yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod rhai agweddau ar gynnwys e-ddeisebau'n ddarostyngedig i ofynion deddfwriaethol, ond y gellid adolygu cynnwys e-ddeisebau yn y dyfodol a'i addasu fel bo'n briodol pe bai'r Aelodau'n teimlo bod angen gwneud hynny.

 

Roedd yr Aelod yn ymwybodol y gallai e-ddeisebau gael eu cyflwyno drwy system a elwir yn Change.Org,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 654.

655.

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022/23 pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a hysbysai'r Cyngor am Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ("y Panel") mewn perthynas â lefel ac ystod y gydnabyddiaeth ariannol y byddai'n rhaid i'r Awdurdod ei darparu i'w aelodau etholedig ar gyfer blwyddyn 2022/23 y Cyngor.

 

I esbonio rhywfaint o'r cefndir, cadarnhaodd fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 yn cynnwys darpariaeth i sefydlu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Dyma oedd pedwerydd adroddiad blynyddol ar ddeg y Panel, a'r unfed adroddiad ar ddeg i gael ei gyhoeddi'n unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad). Roedd y Mesur yn ymestyn cyfrifoldebau'r Panel a'i bwerau o dan Adran 142 i benderfynu (rhagnodi) taliadau i aelodau awdurdodau perthnasol.

 

Dangoswyd Penderfyniadau'r Panel ar gyfer 2022/23 yn Atodiad 1 yr Adroddiad Blynyddol (tudalen 61 ymlaen). Mae adran 153 o’r Mesur yn rhoi p?er i’r Panel ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol gydymffurfio â’r gofynion a osodir arno gan yr Adroddiad Blynyddol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod Adroddiad Blynyddol y Panel 2022/23 yn cynnig rhai newidiadau i'r gydnabyddiaeth bresennol a ragnodir ar gyfer aelodau etholedig ar lefel Prif Gyngor (Bwrdeistref Sirol) ac ar lefel Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Roedd paragraffau yn yr adroddiad, o 4.2 i 4.17 yn rhoi grynodeb o brif elfennau'r Adroddiad cyffredinol, ac ymhelaethodd y Swyddog Monitro rywfaint ar yr wybodaeth hon, er budd yr Aelodau.

 

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Adroddiad Blynyddol y Panel ddod i rym o 1 Ebrill. Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, mae hyn yn cyd-fynd â threfniadau ariannol a gweinyddol yr holl awdurdodau. Fodd bynnag, pan gaiff cynghorau newydd eu hethol, dylai rhai o benderfyniadau'r Panel fod yn weithredol ar gyfer tymor newydd y Cyngor.  Ar 9 Mai 2022, bydd trefniadau newydd yn dod i rym ar gyfer y Cyngor, yn dilyn etholiadau llywodraeth leol. Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn felly'n cynnwys dau ddyddiad gwahanol pan ddaw'r penderfyniadau i rym, fel y nodir isod:

 

  • Am y cyfnod o 1 Ebrill 2022 hyd 8 Mai 2022, bydd yr holl Benderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021-22 yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â Phrif Gynghorau a Chynghorau Tref a Chymuned;
  • O 9 Mai 2022, (blwyddyn newydd y Cyngor) bydd y Penderfyniadau a nodir yn yr Adroddiad Blynyddol 2022/23 hwn yn yr adrannau ar Brif Gynghorau ac ar Gynghorau Tref a Chymuned yn berthnasol. 

 

Gofynnodd Aelod pryd y byddai cyfle'n codi i drafod pa gyflogau uwch a allai fod yn berthnasol i'r amrywiaeth o swyddi gwleidyddol o fewn yr Awdurdod yn dilyn yr etholiadau Llywodraeth Leol a oedd ar y gorwel.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai'r drafodaeth hon yn digwydd yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD:                                

 

Bod y Cyngor yn nodi Adroddiad Blynyddol 2022/23 ac yn cymeradwyo:

 

1 .        Mabwysiadu Penderfyniadau perthnasol y Panel sydd yn yr Adroddiad Blynyddol (ynghlwm yn Atodiad 1);

 

2 .        Y swyddi hynny (a ddangosir yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 655.

656.

Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol (a Swyddog Monitro), ar yr Adroddiadau Gwybodaeth a oedd wedi cael eu cyhoeddi ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:                    Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi'r dogfennau a nodwyd yn yr adroddiad.

                           

657.

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Altaf Hussain i’r Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet - Cymunedau:

Cynghorydd A Hussain I’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Cymunedau

 

Cynghorau yw'r llinell gymorth gyntaf ar gyfer adeiladu busnesau hunangyflogedig wrth gefn ar ôl y pandemig. I lawer o bobl hunangyflogedig, mae'r pandemig nid yn unig wedi bod yn argyfwng iechyd ond hefyd yn argyfwng incwm. Ni chafodd llawer o weithwyr llawrydd yng Nghymru gymorth ariannol  a chanfuwyd ymchwil y llywodraeth ac IPSE bod un o bob pedwar wedi gwario eu holl gynilon.

 

Sut mae Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn buddsoddi ym musnesau lleiaf ein hardaloedd a pha gymorth sydd ar gael i weithwyr llawrydd?

 

 

Cofnodion:

 

Cwestiwn

 

Cynghorau yw'r gwasanaeth cymorth cyntaf y mae busnesau hunangyflogedig yn troi atynt er mwyn ailadeiladu ar ôl y pandemig. I lawer o bobl hunangyflogedig, mae'r pandemig wedi bod yn argyfwng iechyd yn ogystal ag argyfwng incwm. Ceir llawer o weithwyr llawrydd yng Nghymru na chawsant gymorth ariannol oddi wrth y Llywodraeth, ac mewn ymchwil gan IPSE canfuwyd bod un o bob pedwar wedi gwario eu holl gynilion.

 

Sut mae Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn buddsoddi ym musnesau lleiaf ein hardaloedd, a pha gymorth sydd ar gael i weithwyr llawrydd?

 

Ymateb

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig amrywiaeth o gymorth busnes, ac wedi ymroi i gefnogi twf busnes. Mae gan swyddogion wybodaeth a phrofiad i helpu'r rhai sy'n cynllunio i sefydlu neu ehangu busnes yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys sefydliadau o bob maint fel prosiectau bach sydd newydd ddechrau hyd at gwmnïau mawr amlwladol. Bydd swyddogion yn trosi cynifer o ymholiadau ag sy'n bosibl yn fusnesau llwyddiannus ac yn parhau i helpu'r busnesau i dyfu a datblygu.

 

Gall y tîm Menter roi cyngor a chymorth busnes parhaus, gan gynnwys:

 

           Cymorth yn gysylltiedig ag eiddo newydd

           Cyfleoedd i rwydweithio drwy Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

           Recriwtio

           Sgiliau

           Hyfforddiant

 

Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda phobl gyflogedig a di-waith ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a gall gynnig cymorth rhad ac am ddim yn gysylltiedig â mentora a hyfforddiant. Gan gynnwys pobl mewn swydd sydd am wella'u sefyllfa gyflogaeth, gallant gynnig cymorth i gynyddu oriau gwaith, symud i swydd wahanol, symud ymlaen i swydd well, ac ennill lefel uwch o incwm.  Ar ôl i fusnes fasnachu gall y prosiect roi cymorth yn gysylltiedig â recriwtio, yn ogystal â sgiliau i'r perchennog a'r staff.

 

Mae Ysgolion Busnes Rebel (Ysgol Fusnes Dros Dro) yn cynnwys 5 sesiwn diwrnod llawn sy'n helpu pobl i mewn i hunangyflogaeth a'u haddysgu ynghylch sut i sefydlu busnes yn rhad ac am ddim. Cynhelir y rhain yn flynyddol fel arfer. Mae Ysgolion Busnes Rebel hefyd yn datblygu cwrs 1 diwrnod i'w gynnal sawl gwaith y flwyddyn.  Mae'r dull hwn yn ddeniadol iawn ac yn rhoi hyder i bobl gymryd y camau cyntaf.

 

Mae Cronfa Dyfodol Economaidd y Cyngor yn cefnogi busnesau newydd ac addasiadau i eiddo busnes sy'n helpu i gefnogi'r economi yn ystod pandemig y coronafeirws a thu hwnt.

 

Maent yn cynnwys:

 

Mae cyllid Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu grantiau rhwng £250 a £4,000 i fentrau a busnesau newydd o fewn y 3 blynedd cyntaf o fasnachu. I ddechrau bydd £150,000 ar gael yn 2021/2022.

 

Cronfa Adfer Gwelliannau Awyr Agored Covid-19 sy’n darparu grantiau o hyd at £10,000 i addasu eiddo busnes er mwyn ymateb i gyfyngiadau'n deillio o bandemig y coronafeirws a datblygu cydnerthedd i'r dyfodol. I ddechrau, bydd £350,000 ar gael ar gyfer y Gronfa hon yn 2021/2022.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig cynllun grant hyblyg a ddarperir drwy bartneriaeth rhwng UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 657.

658.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.