Agenda, decisions and minutes

Cyngor - Dydd Mercher, 20fed Gorffennaf, 2022 15:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd T Wood fuddiant personol yn eitem 11 (3) ar yr Agenda fel masnachwr yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr.

30.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 566 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/06/2022

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor dyddiedig 15 Mehefin 2022 fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar ychwanegu'r paragraffau canlynol at y cofnodion ar Ddatganiadau o Fuddiant, Diweddariad y Rhaglen Gyfalaf:-

 

‘Newid y rheswm dros y datganiad o fuddiant a wnaed gan y Cynghorydd I Williams o’r hyn a gynhwyswyd yn y Cofnodion, i fod fel a ganlyn:-

 

Buddiant personol fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Oldcastle ac Ysgol Gyfun Brynteg.’

 

Mewn perthynas â'r paragraffau yn ymwneud â buddsoddiad yn Ysgolion Cynradd Coety a Phencoed gan Aelod ac ymateb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar yr eitem Diweddariad y Rhaglen Gyfalaf, dylid ychwanegu'r cwestiwn canlynol gan Aelod ac ymateb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i ran hon y cofnodion:-

 

‘Mae cynnydd o £500k wedi’i ymrwymo i brosiect Cosy Corner, Porthcawl, felly a gaf i sicrwydd os gwelwch yn dda mai hwn yw’r cynnydd olaf yng nghostau’r cynllun hwn ac oni fyddai’n ddoethach symud ymlaen yma gyda’r Cynllun Credu blaenorol, gan fod y cynllun wedi gor-redeg beth bynnag.

 

Roedd Credu wedi bwriadu datblygu Canolfan Forwrol yn y lleoliad hwn yn ôl yn 2020, ar gost o £5.8m. Roedd Croeso Cymru wedi ymrwymo cyllid o £3m tuag at hyn. Fodd bynnag, tynnodd Credu yn ôl o’r cynllun wrth iddynt fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, felly gyda’r safle wedi’i hanner ei adeiladu, cymerodd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yr awenau i’w wneud yn ddiogel i ddechrau. Gyda dim ond £1m o £3m o gyllid Croeso Cymru ar gael bryd hynny, penderfynodd y Cabinet symud y safle yn ei flaen fel rhan o Gynllun Cymunedol. Felly, datblygwyd adeilad unllawr yno, yn gydnaws ag adeiladau eraill yn y lleoliad, gyda nifer o ddefnyddiau o fewn hyn. Yna, fel rhan o'i Raglen Gyfalaf, ymrwymodd y Cyngor £1m pellach o arian cyfatebol i gyllid Croeso Cymru. Fodd bynnag, er mwyn symud ymlaen gyda gwaith allanol arall ar y safle fel rhan o ddatblygiad Cosy Corner ac mewn ymgais i ateb pwysau a chostau cynyddol y farchnad a chwyddiant bu'n rhaid ymrwymo £500k pellach i'r cynllun, er mwyn symud ymlaen gyda'r cynllun. Nid oedd y cynllun gwreiddiol erioed wedi gor-redeg.’  

31.

Derbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer ein bod yn aml, fel cyngor, yn rhybuddio pobl i aros yn effro am sgamiau sydd wedi’u cynllunio i ddarbwyllo pobl i roi eu harian neu i ddatgelu manylion bancio preifat.

 

Roedd yn si?r y gallai cydweithwyr ddychmygu ei syndod, ar ôl iddo gael ei hysbysu’n ddiweddar gan breswylydd fod ei enw ei hun a’i swydd fel Maer yn cael eu defnyddio’n dwyllodrus.

 

Daeth i'r amlwg bod y preswylydd dan sylw wedi derbyn e-bost o gyfrif ffug a sefydlwyd i edrych fel petai'n perthyn i Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn yr e-bost, gofynnodd y sgamiwr sy’n defnyddio fy enw i’r preswylydd a allent wneud cymwynas i ‘fi’ drwy brynu gwerth cannoedd o bunnoedd o gardiau rhodd digidol ac addawodd eu had-dalu ar unwaith.

 

Wrth weld y negeseuon gan y sgamiwr, roedd sawl peth yn sefyll allan ar unwaith. Y peth cyntaf i mi sylwi oedd bod yr e-bost yn llawn o gamgymeriadau sillafu a gramadeg gwael ac wedi cael ei roi at ei gilydd yn wael.

 

Y cliw mawr arall oedd y cyfeiriad e-bost ffug, nad oedd yn diweddu gyda chyfeiriad gov-dot-UK, ac rwyf wedi fy arswydo bod rhywun wedi ceisio defnyddio fy enw a fy swydd fel Maer mewn modd mor droseddol.

 

Yn anffodus, mae'n ymddangos bod hwn yn sgam eithaf cyffredin sydd bron bob amser yn golygu dynwared rhywun ac anfon e-bost at eu ffrindiau, aelodau o'u teulu, pobl y maent wedi'u cefnogi trwy swydd gyhoeddus neu gwsmeriaid y gallent fod wedi gwneud busnes â nhw.

 

Anogodd y Maer bobl i aros yn wyliadwrus ac i roi gwybod am bob sgam a amheuir i wefan Action Fraud, yn ddi-oed.

 

Ar nodyn hapusach, roedd wrth ei fodd yn mynychu llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y cyngor ac arbenigwyr ynni gwyrdd o Japan, Marubeni.

 

Roedd hwn yn gytundeb partneriaeth nad oedd yn rhwymol a oedd yn nodi sut mae'r ddau sefydliad yn bwriadu cydweithio i archwilio a datblygu menter ynni hydrogen newydd ar raddfa fawr.

 

Dewiswyd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn benodol gan Marubeni fel y lleoliad a ffefrir yn y DU ar gyfer prosiect arddangos hydrogen gwyrdd, yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru.

 

Ei nod oedd creu safle a allai gynhyrchu a chydbwyso cyflenwad a storio ynni gwyrdd cost isel a gallai weithredu fel arloeswr trwy gynhyrchu tanwydd glân ar gyfer cerbydau fflyd, yn amrywio o lorïau graeanu cynghorau i lorïau ailgylchu a chasglu sbwriel.

 

Gellid ei ymestyn hefyd i gynnwys cerbydau ymateb brys a ddefnyddir gan wasanaethau golau glas a bydd yn ystyried sut y gellir defnyddio tanwydd hydrogen i wresogi adeiladau a chyfleusterau fel ysgolion, cartrefi preswyl Gofal Ychwanegol, pyllau nofio lleol a mwy.

 

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cefnogi datblygiad y prosiect ac wrth i’r prosiect ddatblygu, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hefyd wedi cytuno mewn egwyddor i ystyried y cyfle i wneud buddsoddiad pellach.

 

Gan ddibynnu ar ba mor llwyddiannus yw'r cynllun, yna gellid ei gyflwyno ledled y DU.

 

Bydd unrhyw un sydd wedi llenwi eu car yn ddiweddar yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 31.

32.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd ei fod yn ymwybodol bod sïon ar led am ddatblygiad siop fwyd Aldi ym Mhorthcawl, gyda rhai’n honni bod y cwmni wedi tynnu’n ôl oherwydd materion yn ymwneud â halogi tir.

 

Roedd yn hapus i gadarnhau nad oedd hyn yn wir o gwbl.

 

Nid oes unrhyw broblemau gyda thir y safle, ac mae'r prosiect yn symud ymlaen i fel y cynlluniwyd ar y cyfan.

 

Yn ddiweddar, cadarnhaodd y cwmni i ni fod y paratoadau cychwynnol ar fin cael eu cwblhau, a bod contractwyr yn cael eu paratoi ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar y safle dwy erw.

 

Fel y gwyddai'r aelodau, bwriad y datblygiad yw darparu porth nodedig i'r dref tra'n creu hyd at 40 o swyddi llawn amser i bobl leol.

 

Mae’r holl arian a gynhyrchir o werthu’r tir yn cael ei ail-fuddsoddi ym Mhorthcawl i gefnogi gwelliannau seilwaith lleol a chamau pellach y cynlluniau adfywio cyffrous.

 

Yn ystod y gwaith o adeiladu’r siop, bydd maes parcio cyhoeddus yn parhau i fod ar gael yn Salt Lake a Hillsboro Place, ac mae cynlluniau ar wahân yn cael eu datblygu ar gyfer creu adeilad aml-lawr cwbl newydd yn Hillsboro Place.

 

Os bydd popeth yn mynd rhagddo fel y cynlluniwyd, gallwn ddisgwyl gweld siop newydd Aldi yn agor ei drysau yn haf 2023.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod yn falch o fynychu digwyddiad yn ddiweddar ynghyd â'r Dirprwy Arweinydd, y Maer a chydweithwyr yn y Cabinet i nodi deng mlynedd ers y bartneriaeth barhaus rhwng y cyngor a Halo Leisure, Menter Gymdeithasol.

 

Pan ffurfiwyd y bartneriaeth yn ôl yn 2012, mae'n bosibl y bydd aelodau'n cofio iddi gael ei beirniadu fel un a fyddai’n siwr o fethu.

 

Diolch byth, mae'r gwrthwyneb wedi profi i fod yn wir, ac yn y deng mlynedd o weithredu, mae ymweliadau cwsmeriaid wedi cynyddu 2.35 miliwn o bobl y flwyddyn.

 

Mae wedi galluogi mwy na £7 miliwn i gael ei fuddsoddi yn ôl mewn mentrau lleol ac wedi arwain at waith adnewyddu mawr a chyflwyno cyfleusterau newydd ar safleoedd Halo ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cwm Garw, Cwm Ogwr, Pencoed, y Pîl, Maesteg ac Ynysawdre.

 

Mae mwy na 32,900 o wersi nofio wedi’u darparu i 2.1 miliwn o blant lleol yn yr amser hwnnw, a phe na bai cyfyngiadau symud y pandemig wedi gorfodi canolfannau i gau eu drysau, rwy’n si?r y byddem hefyd yn edrych ar fwy na miliwn o ddosbarthiadau ymarfer corff gr?p wedi’u darparu ar gyfer bobl leol.

 

Mae’r bartneriaeth hon wedi cyflawni popeth yr oeddem ei eisiau a mwy ac fe’i cydnabuwyd yn 2016 pan ddaeth y gyntaf yng Nghymru i gael sgôr ‘Rhagorol’ gan wasanaeth meincnodi cenedlaethol y diwydiant.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn ystod y deng mlynedd nesaf, a diolchodd i bawb sydd wedi helpu i wneud hwn yn llwyddiant ysgubol.

 

Yn olaf, efallai yr hoffai aelodau hysbysu eu hetholwyr y bydd y rhaglen flynyddol o weithgareddau i blant – yr Haf o Hwyl –  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 32.

33.

Canlyniad y Rhaglen Gyfalaf 2021-22 ac Adroddiad Diweddaru Chwarter 1 2022-23 pdf eicon PDF 642 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad ar yr uchod, a’r pwrpas oedd:-

 

·         cydymffurfio â gofyniad y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ‘Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol’ (argraffiad 2021);

·         darparu manylion yr alldro cyfalaf ar gyfer 2021-22 (Atodiad A i'r adroddiad);

·         darparu diweddariad o'r sefyllfa gyfalaf ar gyfer 2022-23 ar 30 Mehefin 2022 (Atodiad B);

·         ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 i 2031-32 (Atodiad C);

·         nodi'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22 a 2022-23 (Atodiad D)

 

Eglurodd fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 fel y'u diwygiwyd, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a'r hyn sydd i'w drin fel gwariant cyfalaf. Maent yn addasu arferion cyfrifyddu mewn amrywiol ffyrdd i atal effeithiau andwyol ar adnoddau refeniw awdurdodau.

 

Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth, mae’r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau Rheoli’r Trysorlys a Chyfalaf yn unol â’r canllawiau cysylltiedig a ganlyn:-

 

1.    Cod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli’r Trysorlys  yn y Gwasanaethau Cyhoeddus; 

2.    Cod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol; 

3.    Canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru (LlC) ar Fuddsoddiadau Awdurdodau Lleol

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, ar 24 Chwefror 2021, fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb cyfalaf o £62.363 miliwn ar gyfer 2021-22 fel rhan o raglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2021-22 i 2030-31 a bod y Cyngor yn derbyn diweddariadau a diwygiadau a gymeradwywyd yn ystod y flwyddyn. Er i'r Cyngor gymeradwyo cynlluniau newydd ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022-23 ar 22 Mehefin, cafodd y rhaglen ar gyfer 2021-22 ei diweddaru ddiwethaf a'i chymeradwyo gan y Cyngor ar 23 Chwefror 2022. Roedd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

 

           Alldro Rhaglen Gyfalaf 2021-22;

           Monitro Rhaglen Gyfalaf chwarter 1 2022-23;

           Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 i 2031-32;

           Monitro’r Strategaeth Gyfalaf;

           Dangosyddion darbodus a dangosyddion eraill

 

Mae paragraffau 4 o’r adroddiad wedyn yn rhoi naratif manwl ar Sefyllfa Alldro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021-22, gydag Atodiad A yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau o fewn y Rhaglen a’r gyllideb oedd ar gael o gymharu â’r gwariant gwirioneddol. Mae hyn yn cynnwys mewn fformat pwyntiau bwled, rhai diwygiadau i Raglen 2021-22, gan gynnwys gwybodaeth am lithriad rhai o’r cynlluniau hyn.

 

Mae Adran 4.2 o’r adroddiad, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2022-23 ers i’r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor, ac mae hyn yn ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd o’r fath a chymeradwyaeth grantiau.

 

Mae Tabl 1 yn yr adroddiad yn adlewyrchu'r Rhaglen Gyfalaf fesul Cyfarwyddiaeth ar gyfer 2022-23, gyda Thabl 2 (ym mharagraff 4.2.2) yn crynhoi'r tybiaethau ariannu cyfredol ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod uchod.

 

Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid at Atodiad B yr adroddiad, sy’n rhoi manylion y cynlluniau unigol yn y Rhaglen Gyfalaf, gan ddangos y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 33.

34.

Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad pdf eicon PDF 475 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi trosolwg byr i’r Cyngor o’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad (MSR), fel sy’n ofynnol dan Adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Fel gwybodaeth gefndir, dywedodd fod deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoliadau sy’n nodi ffurf y rhain, materion i’w cynnwys, a’r cyfnod rhagnodedig ar gyfer cynnal asesiadau o sefydlogrwydd y farchnad fel y’i nodwyd yn Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021.

 

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, fel bod yn rhaid i’r gwaith o baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad gael ei wneud ar sail rhanbarthol, gydag awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn gweithio gyda’i gilydd drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad bob pum mlynedd, gyda'r adroddiadau cyntaf i'w cyhoeddi erbyn 1 Mehefin 2022. Roedd yr Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022 yn golygu nad oedd yn bosibl cael cymeradwyaeth i'r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad nes bod Cynghorau newydd yn cael eu ffurfio.

 

Ychwanegodd y bydd yr adroddiad yn helpu i lywio a llunio’r cynllun ardal pum mlynedd nesaf, ynghyd ag asesiad anghenion poblogaeth Cwm Taf Morgannwg (CTM) 2022.

 

Wrth baratoi ar gyfer ymgymryd â’r adroddiad hwn, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd Lleol a phartneriaid eraill y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, wedi cynnal asesiad o’r canlynol:

 

·         Digonolrwydd - asesiad o ddigonolrwydd gofal a chymorth i ddiwallu'r anghenion a'r galw am ofal cymdeithasol fel y nodir yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth. a

·         Sefydlogrwydd - asesiad o sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig sy'n darparu gofal a chymorth.

 

Esboniodd fod pandemig COVID19 wedi bod yn her ddigynsail ac wedi newid y math o alw a’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn darparu gofal a chymorth. Cydnabyddir yr effaith ar bobl sydd angen gofal, a’u gofalwyr, ynghyd â’r pwysau parhaus ar y gweithlu ac ansicrwydd yn y farchnad.

 

Ym mis Ionawr 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn yn nodi eu huchelgais i ail-gydbwyso gofal a chymorth gan ddarparu economi gymysg gan sicrhau nad oedd gorddibyniaeth ar y sector preifat. Nod yr uchelgais oedd symleiddio'r trefniadau comisiynu presennol, cryfhau ansawdd a gwerth cymdeithasol a rheoli'r farchnad yn weithredol drwy drefniadau partneriaeth effeithiol.

 

Pwysleisiodd y dylid nodi ymhellach fod y Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’ (tymor Senedd nesaf 2026-2031).

 

Roedd y diagram ym mharagraff 4.5 o'r adroddiad yn dangos y berthynas rhwng pob un o wahanol elfennau'r MSR, sut y byddant yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus cynlluniau rhanbarthol a strategaethau a datganiadau comisiynu.

 

Yna dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 34.

35.

Maint ac Aelodaeth y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 272 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn cynnig newid i faint ac aelodaeth Pwyllgor Safonau'r Cyngor.

 

Cadarnhaodd y byddai aelodaeth y pwyllgor hwnnw, yn unol â'r rheoliadau statudol, yn cynnwys dim llai na phump a dim mwy na naw aelod.

 

Ar hyn o bryd roedd gan Bwyllgor Safonau'r Cyngor saith aelod ac roedd y rhain wedi'u rhestru ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad. Byddai aelodau'n nodi bod y nifer hwn yn cynnwys tri aelod etholedig a phedwar aelod annibynnol.

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro, mai dim ond pan fydd o leiaf tri aelod, gan gynnwys y cadeirydd yn bresennol ac o leiaf hanner yr Aelodau sy'n bresennol ar unrhyw un adeg, yn annibynnol y bydd y Pwyllgor Safonau â chworwm.

 

O ystyried y gofyniad hwn, roedd y pwyllgor ar adegau mewn perygl o beidio â chael y nifer gofynnol o aelodau ar gyfer cworwm mewn rhai cyfarfodydd, oherwydd cydbwysedd yr aelodau etholedig ac annibynnol. Pe na bai aelodau annibynnol ar gael, fel oedd yn wir mewn cyfarfod diweddar pan, yn anffodus, efallai nad oedd cworwm mewn cyfarfod ac o ganlyniad, ni ellid bwrw ymlaen â’r busnes ar yr agenda.

 

Cynigiwyd felly bod aelodaeth y Pwyllgor Safonau yn cynyddu i wyth aelod i gyd, gydag Aelod annibynnol ychwanegol yn cael ei benodi i'r pwyllgor.

 

Yn unol ag adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, telir £105 i aelodau arferol y pwyllgor am hyd at gyfarfod pedair awr ac wedyn £210 am unrhyw gyfarfodydd sy'n fwy na'r amser hwn. Byddai’r costau ychwanegol hyn yn cael eu talu o’r ddarpariaeth a gedwir yn ganolog ar gyfer codiadau cyflog a phrisiau yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23.

 

Cadarnhaodd aelod o'r Pwyllgor Safonau ei fod yn cefnogi argymhellion yr adroddiad. Ychwanegodd fodd bynnag, y dylid rhoi ystyriaeth bellach y flwyddyn nesaf i gynyddu nifer y cynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned ar y Pwyllgor, fel y bu yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Yn amodol ar ystyried pwysau cyllidebol mewn perthynas â'r cynnig hwn, cadarnhaodd y Swyddog Monitro y gellid rhoi ystyriaeth bellach i'r cais hwn maes o law.

 

PENDERFYNWYD:                                 Bod y Cyngor:

 

1.         Yn cymeradwyo aelodaeth a maint diwygiedig y Pwyllgor Safonau;

2.         Yn derbyn adroddiad pellach yn dilyn y broses recriwtio;

3.         Yn nodi y bydd y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r aelodaeth ddiwygiedig.

36.

Canlyniad Arolwg o Amseroedd Cyfarfodydd pdf eicon PDF 497 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar yr arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar, mewn perthynas â'r arolwg amseroedd cyfarfodydd; mae’r adborth ohono i'w weld yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Roedd manylion yr adborth ar bob Pwyllgor a'r amseroedd a ffefrir ar gyfer y rhain yn seiliedig ar ddymuniadau aelodau pob un o'r cyrff hynny, wedi'u nodi yn yr adroddiad o baragraff 4.3 ymlaen.

 

Er bod y wybodaeth yno i'r holl aelodau ei nodi, teimlai'r Swyddog Monitro ei bod yn bwysig nodi canlyniad yr arolwg a gynhaliwyd mewn perthynas â chyfarfodydd llawn y Cyngor. Roedd mwyafrif yr ymatebion a dderbyniwyd yma yn gofyn am amser cychwyn o 4:00pm ac felly, o fis Medi nesaf ymlaen, byddai cyfarfodydd y Cyngor yn cychwyn ar yr adeg hon. Fodd bynnag, gofynnodd i'r aelodau nodi bod adeilad y swyddfeydd Dinesig ar hyn o bryd yn cau am 6:30pm.

 

Felly, pan fydd y Cyngor yn cychwyn gyda chyfarfodydd hybrid, efallai y bydd angen cadw'r adeilad ar agor yn hwyrach na 6:30pm, pe bai angen hynny.

 

Roedd y rhaglen ddiwygiedig o gyfarfodydd o fis Medi 2022 wedi'i manylu ar gyfer aelodau yn Atodiad 2. Roedd un newid arfaethedig i'r amserlen mewn perthynas â Phwyllgor Craffu Testun 1, a fyddai, oherwydd gwrthdaro ag apwyntiad arall gan y Cyngor ar 12 Medi 2022, yn awr yn dechrau am 2:30pm a chytunwyd ar hynny yn dilyn cymeradwyaeth Cadeirydd y pwyllgor hwn.

 

PENDERFYNWYD:                                     Bod y Cyngor:

 

a)            Yn nodi canlyniad yr arolwg o amseroedd cyfarfodydd fel y manylir arno yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

b)         Yn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfarfodydd arfaethedig o fis Medi 2022 fel y dangosir yn Atodiad 2, sydd wedi’i llunio o’r arolwg a’i datblygu gan ddefnyddio’r rhesymeg a amlinellir yn yr adroddiad hwn.

37.

Adroddiad gwybodaeth i’w nodi pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a'r Swyddog Polisi Corfforaethol (a Monitro), ar yr Adroddiad Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:                    Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi'r ddogfen a restrir yn yr adroddiad.

38.

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

1.    Cyng Martin Williams i'r Arweinydd

A yw'r Arweinydd yn cytuno y dylai'r Cabinet wrthdroi ei bolisi o adennill costau llawn ar gyfer clybiau chwaraeon a digwyddiadau elusennol, gan roi terfyn ar orfodi clybiau a threfi i orfodi cynghorau cymuned i ymgymryd â throsglwyddiadau asedau neu wynebu cynnydd o hyd at 500% mewn ffioedd meysydd chwarae?

 

Ymhellach, ar ôl canslo'r polisi, a yw'n cytuno i barhau i gynnal a chadw cyfleusterau chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal y mannau chwarae i’r safon angenrheidiol ar gyfer cynnal chwaraeon wrth weithio gyda phob tîm ym mhob un o’r chwaraeon, y cyrff llywodraethu a chynghorau tref a chymuned i ddatblygu a gweithredu strategaeth chwaraeon a hamdden gynhwysfawr sy'n gweithio i bawb. Y nod yw sefydlu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod lleol mwyaf blaenllaw ar gyfer cynnal chwaraeon a hamdden yng Nghymru?

 

2.    Cyng Steven Bletsoe  i'r Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Pa feini prawf y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu defnyddio i benderfynu bod person wedi'i ddynodi'n "berson sy’n cysgu ar y stryd" ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? A fyddai’r aelod cabinet yn gallu nodi sut y mae person sy'n cael ei ystyried yn "cysgu ar y stryd" wedi'i gofrestru a'i ddogfennu at ddibenion adrodd swyddogol ac a allai'r aelod cabinet roi rhifau'r rhai a gafodd eu dynodi’n "bobl sy'n cysgu ar y stryd" a’u cofrestru a’u dogfennu ym mis Medi 2021, Ionawr 2022, Ebrill 2022 a'r wybodaeth ddiweddaraf (os yn hwyrach nag Ebrill 2022).

 

3.    Cyng Ross Thomas i'r Aelod Cabinet Adfywio

Beth mae'r awdurdod lleol yn ei wneud i gefnogi’r stryd fawr yng nghanol trefi ar draws y fwrdeistref sirol?

 

4.    Cyng Alex Williams i'r Arweinydd

A fyddai’r Arweinydd yn gallu cadarnhau a yw'n disgwyl y bydd yr holl ymrwymiadau a gafodd eu cynnwys ym maniffesto Plaid Lafur Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Etholiad Llywodraeth Leol 2022 yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlen a'r gyllideb a nodwyd?

 

5.    Cyng Della Hughes i'r Aelod Cabinet Cymunedau

Beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud i sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu hynysu gan ddiffyg darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus?

Cofnodion:

Cynghorydd Martin Williams i’r Arweinydd

 

A yw'r Arweinydd yn cytuno y dylai'r Cabinet wrthdroi ei bolisi o adennill costau llawn ar gyfer clybiau chwaraeon a digwyddiadau elusennol, gan roi terfyn ar orfodi clybiau a threfi i orfodi cynghorau cymuned i ymgymryd â throsglwyddiadau asedau neu wynebu cynnydd o hyd at 500% mewn ffioedd meysydd chwarae?

 

Ymhellach, ar ôl canslo'r polisi, a yw'n cytuno i barhau i gynnal a chadw cyfleusterau chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal y mannau chwarae i’r safon angenrheidiol wrth weithio gyda phob tîm ym mhob un o’r chwaraeon, y cyrff llywodraethu a chyngorau tref a chymuned i ddatblygu a gweithredu strategaeth chwaraeon a hamdden gynhwysfawr sy'n gweithio i bawb. Y nod yw sefydlu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod lleol mwyaf blaenllaw ar gyfer cynnal chwaraeon a hamdden yng Nghymru?

 

Ymateb

 

Ni fydd unrhyw glwb chwaraeon ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn profi adennill costau llawn yn eu ffioedd. Dyna’r sefyllfa ers 2020.

 

Cadarnhaodd y cyngor mewn adroddiad cyhoeddus i'r Cabinet yn 2020 na fyddai'n cyflwyno taliadau adennill costau llawn ar gyfer unrhyw glybiau ar yr amod eu bod yn ymrwymo i ymgymryd â hunanreoli naill ai trwy brydles lawn neu drwydded. Dywedwyd wrth y Cabinet bod y Cyngor yn 2020 wedi derbyn datganiadau o ddiddordeb ar gyfer ei holl feysydd chwarae a phafiliynau parciau naill ai gan Gynghorau Tref a Chymuned a/neu glybiau chwaraeon. Felly, ni fydd unrhyw glwb yn profi adennill costau llawn.

 

Ymhellach, mae’n bleser gennyf gadarnhau bod y Cyngor, am y 2 flynedd ddiwethaf (tymhorau 2020-21 a 2021-22), wedi ildio’r holl daliadau llogi ar gyfer defnyddio Pafiliynau Chwaraeon a Chaeau Chwarae a reolir gan yr Adran Parciau i gynorthwyo clybiau chwaraeon yn ystod cyfnod pandemig covid.  Yn ogystal, creodd y Cyngor Gronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr yn 2019-20, gan ddarparu cyllid o £75,000 i leihau effaith covid gyda grantiau o hyd at £1,000 i glybiau chwaraeon i gynorthwyo gyda chostau gweithredu o ddydd i ddydd.  Darparwyd cyllid tebyg eto yn 2021-22 o dan Gronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr gyda grantiau o hyd at £2,000 (Datblygu Clybiau) neu £3,500 (Datblygu Asedau) i gynorthwyo clybiau chwaraeon i adfer ar ôl y pandemig.

 

Mae asedau fel Pafiliynau Chwaraeon a Chaeau Chwarae ym Mryncethin a Rest Bay, Canolfannau Cymunedol a Mannau Chwarae a drosglwyddwyd o dan y rhaglen CAT wedi gweld gwelliannau sylweddol gyda chyllid cyfalaf o dan Gronfa CAT y Cyngor a buddsoddiad allanol o tua  £1M gan Lywodraeth Cymru, Undeb Rygbi Cymru, y Loteri Genedlaethol a Chronfa Etifeddiaeth Gymunedol Ford. Mae’r Tîm CAT a’n partneriaid Cwmpas (Co-op Cymru gynt) ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ar hyn o bryd yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol ledled Pen-y-bont ar Ogwr fel y gellir cyflawni canlyniadau tebyg mewn mwy o ardaloedd.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd M Williams

 

Wrth ateb y cwestiwn mae'r Arweinydd wedi cadarnhau nad yw'n bwriadu newid y polisi adennill costau llawn ac mae'r gorfodaeth ar glybiau i ymgymryd â threfniadau trosglwyddo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 38.

39.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.