Agenda, decisions and minutes

Cyngor - Dydd Mercher, 18fed Ionawr, 2023 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

77.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Gwnaed y Datganiadau canlynol o Fuddiant:

 

Y Cynghorydd JP Blundell – Buddiant sy'n rhagfarnu yn eitem 7 ar yr Agenda fel Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gyfun Bryntirion a grybwyllir yn yr adroddiad.

 

Y Cynghorydd S Bletsoe – Buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda gan fod aelod o'r teulu yn derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor.

 

Y Cynghorydd F Bletsoe – Buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda gan fod aelod o'r teulu yn derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor.

 

Y Cynghorydd JC Spanswich – Buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 8 ar yr Agenda gan fod aelod agos o'r teulu yn derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor.

 

Y Cynghorydd M Kearn – Buddiant sy'n rhagfarnu yn eitem 7 ar yr Agenda fel aelod o Gyngor Cymuned y Pîl sy'n ymwneud â rheoli prosiect y cyfeirir ato yn Atodiad B (tudalen 36) yr adroddiad.

 

Y Cynghorydd P Jenkins – Buddiant personol yn eitem 9 ar yr Agenda fel perchennog t? sy'n ffinio â'r tir dan sylw y cyfeirir ato yn y Cytundeb Benthyciad. 

 

Y Cynghorydd P Davies – Buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 8 ar yr Agenda gan fod aelod o'r teulu yn derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor.

 

Y Cynghorydd RM James – Buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 8 ar yr Agenda gan fod aelod o'r teulu yn derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor.

 

Y Cynghorydd T Wood – Buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 8 ar yr Agenda gan ei fod yn derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor.

 

Y Cynghorydd Amanda Williams – Buddiant personol yn eitem 7 ar yr Agenda fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Coety.

 

Y Cynghorydd E Winstanley – Buddiant personol yn eitem 7 ar yr Agenda gan fod ei chyflogwr yn derbyn rheolaeth ar arian ar gyfer prosiectau sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Y Cynghorydd R Penhale-Thomas – Buddiant personol yn eitem 6 ar yr Agenda fel gweithiwr i sefydliad y mae V2c yn aelod ohono.

 

Gadawodd yr holl aelodau hynny a ddatganodd fuddiant sy'n rhagfarnu yn yr eitemau uchod y cyfeiriwyd atynt, y cyfarfod tra roedd yr eitemau hyn yn cael eu hystyried.

78.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 559 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14/12/2022

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                    Bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

79.

Cyflwyniad i’r Cyngor gan Gynrychiolwyr Cymoedd i’r Arfordir pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn cyflwyno cynrychiolwyr o Cymoedd i’r Arfordir, h.y. Jo Oak, Prif Weithredwr a Darrin Davies, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Datblygu a Thwf, a roddodd gyflwyniad ar waith diweddaraf y sefydliad.

 

Amlinellodd y cyflwyniad agenda V2C i ddechrau, sef

 

  • Eu sefyllfa bresennol
  • Eu blaenoriaethau cyntaf
  • Eu heffaith a'u huchelgais
  • Eglurhad ynghylch cartrefi gwag
  • Cyfleoedd ar gyfer cwestiynau

 

O ran y sefyllfa bresennol, eglurodd y Swyddogion fod V2C wedi derbyn y lefel uchaf o gydymffurfiaeth o ran eu llywodraethu a'u hyfywedd ariannol yn dilyn adolygiad rheoleiddio diweddar.

 

Roedd lefelau rhent wedi'u gosod ar gynnydd o 6.5% ar gyfartaledd (yn unol â chymdeithasau tai eraill yng Nghymru ac ar gyfartaledd £20 yn is na'r cap rhent), gyda rhent wedi'i rewi a chymorth ychwanegol i'r rhai mwyaf agored i niwed.

 

Roedd gwaith partneriaeth parhaus yn cael ei ddatblygu i gefnogi eu cwsmeriaid yn well, gan gynnwys y rhaglen Tai, Iechyd ac Arloesi ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

 

Roedd gwaith hefyd wedi'i wneud o ran cefnogi Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr drwy annog cydweithwyr yn ôl i'r swyddfa ac ailgyflwyno derbynfa'r sefydliad.

 

O ran blaenoriaethau mwy uniongyrchol y sefydliad, amlinellwyd y rhain fel a ganlyn:-

 

1.    Mynd i'r afael â lleithder, anwedd a llwydni - gweithio ar y cyd â Chymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru ac ymateb i'r Gweinidog Tai

2.    Atal a mynd i'r afael â digartrefedd - mwy o gymorth i gwsmeriaid drwy’r argyfwng costau byw; gweithio mewn partneriaeth â CBSPAO ac eraill; buddsoddi mewn cartrefi newydd i ateb y galw

3.    Mynd i’r afael â thanfuddsoddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy ein hagenda ‘Darn Coll’, fel y gallwn wneud mwy dros ein cwsmeriaid a’n cymunedau.

 

Dywedodd Prif Weithredwr V2C, o ran effeithiau ac uchelgeisiau'r sefydliad ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, mai'r rhain i rannu gyda'r aelodau oedd bod ei Raglen Trawsnewid wedi cael effaith gadarnhaol ar draws y busnes, ac ar gyfer cwsmeriaid, bod ôl-groniad atgyweiriadau yn gostwng yn ogystal â chwynion hefyd yn gostwng a datrysiadau cadarnhaol yn digwydd yn gyflymach i denantiaid eiddo.

 

Roedd y datrblygiadau uchod i gyd yn cael eu gyrru ymlaen gyda chynlluniau i greu is-gwmni sy'n eiddo llwyr i wella a thyfu eu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw ymhellach.

 

Roedd V2C hefyd wedi lansio ei strategaeth Dyfodol Cynaliadwy Diogel a Hapus i weithio tuag at niwtraliaeth carbon.

 

Ymhellach, roedd £1.2m wedi'i sicrhau i fuddsoddi mewn rhaglen ôl-ffitio optimaidd. Byddai hyn yn dechrau gyda gwell systemau gwresogi i tua 200 o gartrefi; inswleiddio waliau allanol i tua 200 o gartrefi; a goleuadau ynni effeithlon i ardaloedd cymunedol yn ei gynlluniau tai gwarchod.

 

Mewn perthynas ag eglurhad ynghylch Tai Gwag, eglurodd y Swyddogion nad Cymoedd i'r Arfordir yw'r unig LCC ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bod hyn ar adegau wedi arwain at rywfaint o gamddealltwriaeth yn lleol ynghylch maint perchnogaeth rhai cartrefi gwag. 

 

Roedd rhywfaint o gamsyniad hefyd ynghylch nifer y cartrefi yr oedd V2C yn berchen arnynt mewn perthynas ag eiddo a gollwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 79.

80.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Hoffwn ddiolch i berchnogion Caffi’r Betws a aeth y tu hwnt i’r disgwyl ar Noswyl Nadolig, gan ddosbarthu ciniawau Nadolig am ddim i elusennau digartref a phobl sy’n byw ar eu pen eu hunain yn ardal Betws.

 

Yn y cyfnod cyn y Flwyddyn Newydd, mynychodd yr Arweinydd a minnau briodas Ian ac Alison (Mr a Mrs Thomas erbyn hyn) yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr. Diolch i'r pâr priod am ganiatáu i ni fod yno am ran o'u diwrnod arbennig.

 

A gaf i atgoffa aelodau am Elusen y Maer eleni, er mwyn iddynt allu gwneud cyfraniad os ydynt mewn sefyllfa i wneud hynny.

 

Byddaf yn cyfarfod â Swyddogion yr wythnos hon, i ystyried enwebiadau Gwobr y Maer.

 

Ac yn olaf, er gwybodaeth i'r Aelodau, mae dyddiad cyfarfod Cabinet y Gyllideb wedi'i newid o 21 Chwefror 2023 (2.30pm) i 22 Chwefror ar yr un amser cychwyn.  

 

Dirprwy Arweinydd

 

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, bydd aelodau wedi nodi’r pwysau eithafol sydd wedi bod ar y system iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Yn ddealladwy, mae llawer o ffocws y cyfryngau wedi bod ar y sefyllfa weladwy iawn, ac weithiau dirdynnol, y mae ysbytai wedi’u cael eu hunain ynddi.

 

Gan ein bod hefyd wedi gweld y pwysau eithafol hyn o fewn y gymuned, rwyf am gydnabod a thalu teyrnged i’n gweithlu gofal cymdeithasol oherwydd hyd nes y byddwn yn datrys y mater hwn o gapasiti o fewn ein cymunedau a gwerthfawrogi’r staff sy’n darparu’r gwasanaethau cymunedol hynny, ni fyddwn yn datrys y pwysau o fewn ein hysbytai ac osgoi ambiwlansys yn aros y tu allan i drosglwyddo eu cleifion.

 

Maent wedi bod yn gweithio’n ddiflino nid yn unig i gefnogi pobl sydd wedi’u rhyddhau o ofal ysbyty, ond i roi canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar waith mewn ffordd sy’n cynnal gwerthoedd gofal cymdeithasol ac sy’n rhoi pwyslais ar ddiogelwch a lles parhaus pobl agored i niwed. 

 

Rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac yn parhau i ganolbwyntio nid yn unig ar yr ymateb uniongyrchol, ond hefyd ar weithredu camau strategol a fydd yn galluogi mwy o bobl i gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt mewn ffordd briodol ac amserol.

 

Er mwyn rhoi enghraifft i aelodau o sut yr ydym yn gwneud pethau’n wahanol, hoffwn dynnu sylw’n fyr at ein cyfranogiad mewn cynllun treialu i reoli’r ffordd y mae pobl yn cymryd meddyginiaeth, gan atal eu salwch rhag gwaethygu ac angen ymyriadau meddygol, a mynd i’r afael â’r gost £300m o feddyginiaethau sy'n cael eu gwastraffu ledled y DU oherwydd camreoli. 

 

Yn draddodiadol, mae sicrhau bod pobl yn cymryd eu meddyginiaeth yn rheolaidd wedi cynnwys cymysgedd o ymweliadau cartref dyddiol gan ofalwyr, clociau larwm, siartiau wal, systemau monitro dos, anogwyr teleofal a mwy.

 

Gan fod anfanteision dulliau o'r fath yn amrywio o gostau posibl i anallu i gadarnhau bod meddyginiaeth wedi'i chymryd yn ôl yr angen, mae'r cyngor a Chwm Taf wedi partneru â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddatblygu dull digidol newydd.

 

Enw’r cynllun  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 80.

81.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Er bod y rhybudd tywydd melyn sydd yn ei le ar hyn o bryd ar draws llawer o Dde Cymru wedi arwain at rai cawodydd o eira yn gynnar yn y bore ac amodau rhewllyd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym hyd yma wedi llwyddo i osgoi’r rhan fwyaf o’r aflonyddwch torfol a brofwyd mewn mannau eraill.

 

Fel y gallech ddisgwyl, mae ein timau wedi bod yn gweithio rownd y cloc unwaith eto, ac mae lorïau graeanu wedi bod yn gwneud sawl taith i drin y rhwydwaith ffyrdd a chadw ffyrdd y fwrdeistref sirol yn glir.

 

Mae’r eira gwaethaf wedi effeithio ar ein cymunedau yn y cymoedd a’n hardaloedd tir uwch, ac mae criwiau wedi bod yn defnyddio ein herydr eira i helpu i’w cadw’n glir. 

 

Mae hyn yn cynnwys ffordd fynydd Bwlch, a fu ar gau dros dro am rai oriau, ond y disgwylir iddi agor eto y prynhawn yma.

 

Diolch byth, ni effeithiwyd ar yr holl gasgliadau ailgylchu a gwastraff ac maent wedi parhau fel arfer. Bu'n rhaid i Ganolfan Ailgylchu Cymunedol Maesteg gau ei gatiau dros dro cyn ailagor yn hwyrach yn y dydd, ond roedd y safleoedd yn Llandudwg a Brynmenyn yn parhau ar agor fel arfer.

 

Yn anffodus, fe wnaeth yr eira orfodi Ysgol Gynradd Caerau, Ysgol Cynwyd Sant, Calon y Cymoedd ac Ysgol Gynradd Nantyffyllon i gau am y diwrnod.

 

Mae yna lawer o resymau pam y gallai hyn fod yn angenrheidiol yn ystod tywydd garw, ac nid oes angen eira trwm bob amser ar gyfer cau – er enghraifft, efallai na fydd ysgol yn gallu agor oherwydd pibellau wedi rhewi a allai fod wedi byrstio, neu oherwydd goruchwyliaeth annigonol gan y staff oherwydd nad oedd rhai o staff yr ysgol yn gallu teithio i mewn o ardaloedd eraill lle bu'r eira'n drymach.

 

O’r herwydd, efallai y bydd aelodau am atgoffa eu hetholwyr bod gwefan y cyngor yn cynnwys adran gynhwysfawr ar sut mae’r cyngor yn ymdrin â chyfnodau o dywydd garw ac yn cynnwys tudalen cau ysgolion bwrpasol y gall penaethiaid ei defnyddio i roi gwybod i rieni a gofalwyr a yw ysgol wedi gorfod cau yn annisgwyl.

 

Bydd ysgolion hefyd yn cyfathrebu'n annibynnol â rhieni a gofalwyr gan ddefnyddio eu systemau eu hunain ac fe'u cynghorir i baratoi trefniadau dysgu cyfunol fel cynllun wrth gefn er mwyn lleihau'r amhariad pe bai'r ysgol yn cau.  

 

Mae canllawiau cenedlaethol hefyd wedi’u cynhyrchu ar gyfer ysgolion a lleoliadau gofal plant neu chwarae, a gallwch ddod o hyd iddynt ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Byddwn yn annog yr aelodau i edrych yn agosach ar hwn ac adnodd gwe’r cyngor ei hun, ac i wneud defnydd llawn ohono os bydd unrhyw dywydd garw pellach. 

 

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’n hymdrechion parhaus i fynd i’r afael â digartrefedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae gennyf newyddion da iawn i’w rannu yn hyn o beth.

 

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi ysgrifennu i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu £10m ychwanegol mewn cyllid refeniw  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 81.

82.

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf - Adroddiad Chwarter 3 2022-23 pdf eicon PDF 742 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a oedd yn rhoi diweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r sefyllfa gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Dywedodd fod Strategaeth Gyfalaf y Cyngor wedi'i chymeradwyo gan y Cyngor ar 23 Chwefror 2022. Cyfanswm y gyllideb gyfalaf gymeradwy a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror oedd £69.979 miliwn.  Roedd y rhaglen gyfalaf wedi'i ddiweddaru a'i chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ym mis Hydref y llynedd.

 

Mae Adran 4 o’r adroddiad yn amlinellu’r sefyllfa bresennol ar raglen gyfalaf y Cyngor eleni. Cyfanswm y rhaglen ddiwygiedig am y flwyddyn oedd £61.7m gyda £28.2m yn cael ei ariannu gan adnoddau CBSPAO a'r gweddill o £33.5m yn cael ei ariannu o ffynonellau allanol. Dangoswyd dadansoddiad o’r rhaglen ar draws gwasanaethau yn Nhabl 1 yn yr adroddiad, gyda mwy o fanylion am ariannu’r rhaglen i’w gweld yn Nhabl 2.

 

Roedd manylion am gynlluniau unigol i'w gweld yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai Aelodau'n gweld mai cyfanswm y llithriant y gofynnwyd amdano yn Chwarter 3 yw £28.5m. Manylwyd ar y rhesymau dros y llithriant ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad. 

 

Yn ogystal ag addasiadau ar gyfer llithriant, roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar rai cynlluniau newydd a diwygiedig i’w cymeradwyo a oedd yn cynnwys cyllid Llywodraeth Cymru a dderbyniwyd i ariannu nifer o gynlluniau gan gynnwys:

 

o          Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi i fynd i’r afael â’r dirywiad yng nghanol trefi a’r gostyngiad yn y galw am fanwerthu ar y Stryd Fawr; 

o          Cyllid tai gyda gofal i gefnogi datblygiad y ganolfan breswyl i blant; 

o          Arian Cronfa Trawsnewid ULEV i gefnogi darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan o fewn meysydd parcio cyhoeddus; a 

o          Grant Cronfa Gwella Mynediad i gefnogi gwaith i wella mynediad i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ac arno.

 

Yn ogystal â grantiau Llywodraeth Cymru, roedd cyllid hefyd wedi'i nodi i ariannu mentrau eraill, gan gynnwys;

 

           Cyfraniadau ychwanegol A106 i gefnogi darparu cynlluniau tai fforddiadwy;

           Cyllid ychwanegol o gronfa trafnidiaeth leol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gefnogi prosiect gorsaf fysiau Porthcawl;

           Cyllid i gefnogi cynllun ysgol egin cyfrwng Cymraeg Porthcawl;

           Cyllid gan Chwaraeon Cymru i wella cyfleusterau allanol yn Ysgol Bryn Castell i'w defnyddio gan yr ysgolion a'r gymuned;

           Gwaith croesi ffyrdd ym Mynydd Cynffig; a

           Arian ychwanegol ar gyfer prynu offer TGCh i ysgolion.

 

Roedd newidiadau hefyd i ddau gynllun y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, gyda’r rhaglen ddiwygiedig lawn i’w gweld yn Atodiad B.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, pan gymeradwyodd y Cyngor y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer eleni, ei bod yn cynnwys dangosyddion darbodus ar gyfer 2022-23 i 2024-25. Roedd Atodiad C i'r adroddiad yn adlewyrchu bod y Cyngor yn gweithredu o fewn y terfynau awdurdod lleol a gymeradwywyd.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet – Adnoddau yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod am rywfaint o eglurhad ynghylch Benthyciad Datblygu Cwm Llynfi, sef bod benthyciad yn awgrymu bod yn rhaid ad-dalu rhywfaint o arian, nad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 82.

83.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2023-24 pdf eicon PDF 251 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a’i ddiben oedd darparu gwybodaeth i’r Cyngor yngl?n â gweithredu cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2023-2024 a nodi’r angen i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor erbyn 31 Ionawr 2023.

 

Fel cefndir, cadarnhaodd fod gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn rhoi cymorth i'r rhai ar incwm isel sy'n agored i dalu’r Dreth Gyngor. 

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun sengl wedi’i ddiffinio’n genedlaethol ar gyfer darparu cymorth y dreth gyngor sy’n darparu ar gyfer nifer fach o elfennau dewisol y gall Cynghorau unigol ddewis eu mabwysiadu.  Fodd bynnag, rhaid i unrhyw gostau cysylltiedig ychwanegol gael eu hariannu'n lleol.

 

Bydd y cynllun presennol a fabwysiadwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023, esboniodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid. 

 

Mae Rheoliadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2023 bellach wedi’u gosod gerbron y Senedd i’w cymeradwyo. Mae’r rheoliadau newydd yn cynnwys newid i’r cynllun presennol i:

 

           Sicrhau y bydd gwladolion Wcráin cymwys yn gymwys i gael eu cynnwys yng nghynllun rhyddhad treth gyngor awdurdod lleol a byddant yn gymwys i gael gostyngiad os ydynt yn bodloni gofynion eraill y cynllun;

           Darparu amddiffyniad i letywyr ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin.  Mae’r rheoliadau’n gwneud darpariaeth fel bod unrhyw wladolyn o’r Wcrain y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, neu sydd â hawl i breswylio, i’w drin fel dibynnydd ar y lletywr sy’n gwneud cais at ddiben cyfrifo hawl i’r disgownt hwn.   Mewn gwirionedd mae hyn yn cadw lefel hawl yr ymgeisydd lletyol; 

           Cael gwared ar yr eithriad ar gyfer dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd bellach yn destun rheolaeth fewnfudo

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid nad yw’r rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau arwyddocaol eraill i’r cynllun presennol a bod uchafswm y cymorth y gall hawlwyr cymwys ei dderbyn yn parhau ar 100%. 

 

O fewn y rheoliadau gofynion rhagnodedig, cyfyngedig yw'r disgresiwn a roddir i'r Cyngor i gyflwyno elfennau sy'n fwy hael na'r cynllun cenedlaethol.  Y rhain oedd:

 

           Y gallu i gynyddu'r cyfnod gostyngiad estynedig safonol o bedair wythnos a roddir i bobl ar ôl iddynt ddychwelyd i'r gwaith lle cawsant CTR yn flaenorol.

           Disgresiwn i gynyddu symiau pensiynau anabledd rhyfel a phensiynau gweddwon rhyfel a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm yr hawlydd.

           Y gallu i ôl-ddyddio'r cais am ryddhad y dreth gyngor mewn perthynas â hawliadau hwyr cyn y cyfnod safonol newydd o dri mis cyn yr hawliad. 

 

Roedd yn ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu cynllun erbyn 31 Ionawr 2023, p'un a yw'n dewis cymhwyso unrhyw rai o'r elfennau dewisol ai peidio. Pe bai'r Awdurdod yn methu â chytuno ar gynllun, yna byddai cynllun diofyn yn berthnasol.

 

Ychwanegodd fod yr elfennau dewisol arfaethedig ar gyfer 2023-2024 wedi'u hamlinellu'n fanylach yn Nhabl 1 ym mharagraff 4.23 o'r adroddiad.  Roedd y disgresiwn a gynigiwyd yn ymwneud â lefelau diystyru mewn perthynas ag incwm a dderbyniwyd mewn perthynas â phensiynau anabledd rhyfel a phensiynau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 83.

84.

Safleoedd Datblygu Llynfi - Hen Safle Golchfa Maesteg Gorllewin pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, a’i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i ymrwymo i Weithred Amrywio rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPAO) sy’n ceisio amrywio Safleoedd Datblygu presennol Llynfi, Cytundeb Benthyciad Cronfa Gyfalaf Ganolog Llywodraeth Cymru dyddiedig 12 Chwefror 2015.

 

Eglurodd fod CBSPAO bellach yn ystyried ailddatblygu Hen Safle Golchfa Maesteg Gorllewin yn unig ar gyfer datblygiad tai a'i fod yn dymuno amrywio'r Cytundeb gwreiddiol i ganiatáu gwneud y gwaith dichonoldeb.

 

Er mwyn cael rhywfaint o wybodaeth gefndir, yn 2013, cynhaliodd DTZ Real Estate Investment Management ddadansoddiad o'r holl safleoedd yng Nghwm Llynfi y gellid eu dwyn ymlaen o bosibl i'w datblygu ond a oedd â phroblemau yr oedd angen eu goresgyn cyn y gellid mynd â nhw i'r farchnad.  Nodwyd tri safle yn wreiddiol yn yr astudiaeth fel Cyfleoedd Strategol Blaenoriaeth 1 ar gyfer datblygiad preswyl (gweler Atodiad A i'r adroddiad):

 

           Hen Safle Golchfa Maesteg Gorllewin

           Hen Safle Golchfa Maesteg Dwyrain

           Hen Safle Ysgol Gyfun Isaf Maesteg

 

Gwnaed cais i Gronfa Cyfalaf Wrth Gefn Ganolog Llywodraeth Cymru a arweiniodd at Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPAO) yn sicrhau benthyciad o £2.5 miliwn heb fod angen arian cyfatebol gan CBSPAO.  

 

Arwyddwyd y Cytundeb Benthyciad (gweler Atodiad B) ym mis Chwefror 2015 rhwng Llywodraeth Cymru a CBSPAO i alluogi’r Cyngor i ymdrin â chyfyngiadau ffisegol ar y safleoedd, er mwyn eu dwyn ymlaen ar gyfer datblygiad preswyl wedi’u hintegreiddio â mannau amwynder agored.

 

Yn dilyn cynnal Astudiaeth Dichonoldeb, cynghorwyd y Cyngor i beidio ag ailddatblygu Hen Safle Golchfa Maesteg Dwyrain, gan ystyried bod gan Hen Safle Ysgol Gyfun Isaf Maesteg y potensial i gael ei ddatblygu drwy ddulliau eraill, Extra Care Housing (ECH). 

 

Felly, cytunodd Bwrdd Prosiect Safleoedd Datblygu Llynfi CBSPAO y byddai'r Cyngor yn symud ymlaen gyda Hen Safle Golchfa Maesteg Gorllewin yn unig.

 

Ym mis Mehefin 2022, anfonwyd y ffioedd ymgynghori a gadarnhawyd a chostau gwaith safle ar gyfer Cyfran 1 (Dichonoldeb) i Lywodraeth Cymru gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr a gwnaed cais i godi Cyfran 1 i £322,589 i adlewyrchu'r cynnydd sylweddol. Roedd y cais hwn hefyd yn cynnig bod Cyfran 1 yn dod yn grant yn hytrach na benthyciad a bydd ymrwymo i Weithred Amrywio (DoV) i'r Cytundeb Benthyciad gwreiddiol yn adlewyrchu hyn. Cafwyd cymeradwyaeth gan banel grantiau Llywodraeth Cymru a chymeradwyaeth weinidogol ddilynol i amrywio’r Cytundeb gwreiddiol i’r perwyl hwn drwy DoV ym mis Gorffennaf 2022. 

 

Ym mis Medi 2022, cyhoeddwyd DoV drafft gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sylwadau CBSPAO. Yn dilyn mewnbwn gan Adrannau Cyfreithiol a Chyllid CBSPAO, mae'r geiriad bellach wedi'i gytuno ac mae'r fersiwn terfynol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn yn aros i'r Cyngor ei gymeradwyo a'i dderbyn (gweler Atodiad C i'r adroddiad).

 

Roedd paragraff 4.6 o'r adroddiad yn cynnwys manylion ar sut yr oedd gwaith safle yn mynd rhagddo a rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau grynodeb cyflym o hyn er budd y Cyngor.

 

I gloi ei chyflwyniad, amlinellodd oblygiadau ariannol yr adroddiad a ddangosir ym mharagraff 8  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 84.

85.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, ar yr Adroddiad Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau fod dau Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn yr ardal ar hyn o bryd a fyddai'n uno i fod yn un i wasanaethu ardal Cwm Taf Bro Morgannwg. Wedi’u nodi yn y Cynllun Llesiant drafft yn Atodiad 1 i’r adroddiad, roedd dau brif amcan sef Cymdogaethau Lleol Iach a Chymdogaethau Lleol Cynaliadwy a Gwydn, gan ganolbwyntio felly ar ymgysylltu i glywed llais y dinesydd a chael cyfranogiad cymunedol er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau cywir, a oedd yn hollbwysig yn ei farn ef. I'r perwyl hwn, gofynnodd y Prif Weithredwr i'r Aelodau annog eu hetholwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar hyn a ddaw i ben fis nesaf.

 

Anogodd Cadeirydd y CO&SC yr Aelodau i fynychu'r sesiwn Datblygu Aelodau ar y pwnc hwn ar 30 Ionawr 2023, er mwyn hyrwyddo a datblygu'r broses graffu ymhellach o fewn yr Awdurdod a chydag unrhyw bartneriaid. 

 

PENDERFYNWYD:                        Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi'r ddogfen a restrir yn yr adroddiad.

86.

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan:

 

 

Cynghorydd Tim Thomas i’r Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet ddatganiad ynghylch a yw’n fodlon bod cartrefi sy’n cael eu rhentu’n gymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol yn ddiogel ac yn rhydd rhag niwed a all achosi canlyniadau iechyd negyddol?

 

Cofnodion:

Cynghorydd Tim Thomas i’r Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet ddatganiad ynghylch a yw’n fodlon bod cartrefi sy’n cael eu rhentu’n gymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol, cyn belled ag y bo modd, yn ddiogel ac yn rhydd rhag niwed a allai achosi canlyniadau iechyd negyddol?

 

Ymateb

 

Ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd at bob landlord cymdeithasol ar 15 Rhagfyr 2022 yn dilyn marwolaeth drasig Awaab Ishak, dwy flwydd oed, a fu farw o gyflwr anadlol a achoswyd gan ddod i gysylltiad â llwydni.  Roedd y llythyr hwn yn amlinellu’r camau gweithredu sy’n ofynnol gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau bod mesurau ar waith i nodi a mynd i’r afael yn benodol â materion yr adroddwyd amdanynt gyda lleithder a llwydni. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad at ymchwiliadau ac archwiliadau, delio ag anwedd a'i achosion, cywiro unrhyw ddiffygion cyn gynted â phosibl a chefnogi tenantiaid gyda chymorth a chyngor.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am wybodaeth a sicrwydd bod landlordiaid yn ymateb i'r materion hyn a darparu hynny iddynt erbyn 20 Ionawr.

 

Fel yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, rwy’n gwbl gefnogol i’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i atgyfnerthu’r cyfrifoldebau sydd ar landlordiaid cymdeithasol. Rwyf innau hefyd wedi ceisio sicrwydd yn ddiweddar gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) lleol eu bod yn cymryd camau i sicrhau bod eu llety’n ddiogel. Byddaf yn parhau i geisio sicrwydd bod hyn yn wir gan ein partneriaid LCC ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bod unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol a amlygwyd yn yr adolygiad yn cael rhoi ar waith. 

 

Mae fframwaith o bolisïau, prosesau a chyfraith sy’n nodi’r safonau a ddisgwylir gan gartrefi, nid yn unig o fewn y sector rhentu cymdeithasol, ond hefyd mewn perthynas â’r sector rhentu preifat yn gyffredinol. 

 

Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar 1 Rhagfyr 2022. Mae hyn yn newid y ffordd y mae landlordiaid yn rhentu eu heiddo ac yn berthnasol i landlordiaid ac asiantaethau gosod/rheoli.  Mae’r Ddeddf yn dod â mwy o hawliau i denantiaid ac elfen allweddol o’r ddeddfwriaeth hon yw bod yn rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel. Roedd y Ddeddf hon yn cyflwyno gofyniad i sicrhau bod cartrefi’n Ffit i Fod yn Gartref (FFHH). Mae hyn yn cynnwys gofyniad am brofion diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid yn cael eu gosod mewn eiddo.  

 

Yn ogystal, mae Rhentu Doeth Cymru, sef system drwyddedu a chofrestru yn cefnogi’r rhai sy’n gosod neu’n rheoli eiddo ac yn rhoi cyngor ar y gofynion a’r rhwymedigaethau i sicrhau bod landlordiaid yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch y sector preifat.  

 

Mae Safonau Ansawdd Tai Cymru (WQHS) ar waith ar gyfer pob datblygiad tai cymdeithasol newydd ac mae’n sicrhau bod eiddo mewn cyflwr da, yn ddiogel, ac wedi’u gwresogi’n ddigonol. Mae WQHS 2023 yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd i godi safonau ar uchelgeisiau datgarboneiddio a chynnwys elfennau arbed ynni i denantiaid.  Mae'n rhaid i ddatblygiadau a ariennir drwy'r Grant Tai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 86.

87.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.