Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 19eg Rhagfyr, 2018 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

251.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd T. Beedle fuddiant personol yn eitem 11 o'r Agenda, yr adroddiad o dan y teitl Rhaglen Gyfalaf 2018-19 hyd at 2027-28 fel Cadeirydd Ysgol Gynradd Cwmfelin.

 

Datganodd y Cynghorydd Alex Williams fuddiant personol yn eitem 9 o'r Agenda fel Ysgrifennydd Clwb Gweithwyr, Chwaraeon a Chymdeithasol Heol-y-Cyw.

 

Hefyd datganodd Mark Shephard a Sue Cooper fuddiant sy'n rhagfarnu yn eitem 14 o'r Agenda, a gwnaethant adael y cyfarfod pan oedd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried.

252.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 139 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y of 21/11/2018

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y cyngor, dyddiedig 21 Tachwedd 2018, fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol i Adroddiad yr Arweinydd:-

 

Rhif cofnodion 239, tudalen 8 o'r papurau, paragraff gwaelod, y llinell olaf ond un, newid y gair 'pensiynau' i "cyflog".

253.

I dderbyn cyhoeddiadau gan y canlynol:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Maer

 

Gwnaeth y Maer atgoffa'r aelodau am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Blynyddol Dinasyddiaeth y Maer. Mae'r gwobrau'n agored i bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â grwpiau a busnesau lleol. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gellir lawrlwytho ffurflen enwebiadau oddi yno.  Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw dydd Gwener 25 Ionawr, a bydd yr enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad ym mis Mawrth.

 

Rydym wedi cael cyfnod Nadolig prysur ers cyfarfod diwethaf y cyngor; gyda'r Maer a'i Gydweddog yn cymryd rhan mewn 29 digwyddiad swyddogol, a oedd yn amrywiol a gwahanol ac yn bleserus iawn.

 

Roedd bendithio ysgol gynradd newydd Pencoed gan Esgob June yn ddigwyddiad arbennig iawn ar gyfer pawb a fynychodd ac roedd yn agoriad hyfryd ar gyfer yr adeilad newydd.

 

Cawsant fore gwych yn y gemau Olympage a gafodd eu cynnal yng Nghanolfan Bywyd Eglwys Bethlehem. Mae'r gemau’n rhoi cyfle i bobl h?n gystadlu a bod yn egnïol mewn lleoliad sy'n hwyl gan wneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd cymdeithasol.

 

Fel rhan o'i ymweliadau gwobrau busnes sy'n parhau cafodd y Maer/ei Gydweddog groeso gan Fords a chawsant eu tywys o amgylch y llinell injan draig newydd. Roedd hi'n hyfryd cyfarfod â staff rheoli a llinell gynhyrchu sy'n adeiladu dyfodol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Fords wedi bod yn masnachu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn agos at 40 mlynedd bellach.

 

Roeddent wedi mynychu nifer o gyngherddau ysgol ac wedi gweld peth talent ragorol a gwaith caled gan y disgyblion a'r staff ar draws y fwrdeistref sirol. Diolchodd i bawb a fu'n cymryd rhan yn y rhain.

 

Gan edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd, roedd llawer o ddigwyddiadau eisoes yn ei galendr.

 

Gorffennodd drwy ddymuno  Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd heddychlon i bawb a oedd yn bresennol.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Efallai y bydd yr aelodau yn dymuno atgoffa eu hetholwyr y bydd preswylwyr yn gallu rhoi un bag gwastraff ychwanegol allan y Nadolig hwn, ac y bydd y bag 'du' traddodiadol yn addas at y diben hwn.

 

Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y cyfyngiad gwastraff cyfredol o ddau fag i breswylwyr, ac mae'n berthnasol ar gyfer y casgliad sbwriel cyntaf ar ôl y Nadolig. 

 

Bydd casgliadau ar Noswyl Nadolig ond ni fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Nadolig na G?yl San Steffan. Bydd popeth yn cael ei gasglu ddau ddiwrnod yn hwyrach na'r arfer am weddill yr wythnos honno.

 

Bydd casgliadau yn cael eu gwneud yn ôl yr arfer ar Nos Galan, ond ni fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Calan ac felly bydd popeth yn cael ei gasglu un diwrnod yn hwyrach hyd at ddydd Sadwrn 5 Ionawr. Bydd casgliadau yn dychwelyd i’r drefn arferol o ddydd Llun 7 Ionawr 2019 ymlaen.

 

Y brif eitem Nadolig na ellir ei hailgylchu yw papur lapio, plastig du, papur seloffen a pholystyren. Mae bron i bopeth arall yn gallu cael ei ailgylchu, gan gynnwys gwastraff bwyd. Gall cardiau Nadolig fynd allan gyda'ch  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 253.

254.

I dderbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Gwnaeth yr Arweinydd adrodd mai heddiw oedd cyfarfod cyngor olaf Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac roedd yn si?r y byddai'r holl gydweithwyr eisiau dymuno'n dda i Mr Darren Mepham yn ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Coleg Barnet a Southgate yng ngogledd Llundain.

 

Ochr yn ochr ag aelodau, roedd Darren wedi darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer yr awdurdod am fwy na chwe blynedd ers iddo gael ei gyflogi gyntaf gan y cyngor yn 2012.

 

Mae'r cyfnod hwn wedi'i ddiffinio i raddau helaeth fel un o'r hinsoddau ariannol caletaf rydym wedi'i brofi erioed, ond gydag uwch-dîm rheoli cadarn a phrofiadol y tu cefn iddo, profodd Darren ei fod yn fwy na pharod i wynebu'r her yn uniongyrchol.

 

Boed drwy drefniadau cydweithredol gyda chynghorau cyfagos, neu yrru newid sefydliadol yn ei flaen ar raddfa fawr, roedd Darren wrth gwrs wedi goruchwylio amrediad eang o ddatblygiadau yn ystod ei gyfnod yma.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn ddiolchgar i Darren am y cymorth a'r cyngor doeth yr oedd wedi'i roi nid yn unig iddo ef, ond i'r holl aelodau, ac roedd yn gwybod y byddai'r un mor llwyddiannus yn ei rôl newydd.

 

Rydym hefyd wedi gweld yr Aelod Cynulliad dros yr Etholaeth ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn ildio’r awenau fel y Prif Weinidog ac roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch yn gyhoeddus iddo. Fel Arweinydd yr wrthblaid, dywedodd yr Aelod Cynulliad dros y Ceidwadwyr, Paul Davies, yn ei deyrnged fod Carwyn wedi cyflawni ei ddyletswyddau gydag “ymroddiad a brwdfrydedd.”

 

Roedd yn sicr y byddai'r aelodau yn ymuno ag ef i ddymuno pob llwyddiant i'r Prif Weinidog newydd, Mark Drakeford. Croesawodd hefyd benodiad Gweinidog newydd dros Lywodraeth Leol, Julie James AC ac roedd yn edrych ymlaen at ailosod y berthynas rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.

 

Wrth i un drws gau, mae un arall yn agor, ac mae hynny'n bendant yn wir o ran rhaglen moderneiddio ysgolion barhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Wrth i'r flwyddyn dynnu tua'i therfyn, rydym hefyd yn ffarwelio ag Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw ac yn croesawu'r ysgol newydd sbon Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd.

 

Bydd yr ysgol yn cau ei drysau ar ei safle ym Mhontycymer am y tro olaf yr wythnos hon, a bydd yn dechrau 2019 ar ei safle newydd sbon gerllaw Ysgol Gynradd Betws.

 

Bydd unrhyw aelod sydd wedi cael y fraint o weld yr ysgol newydd eisoes yn gwybod beth y gall y disgyblion ei ddisgwyl. Cafodd ei adeiladu fel drych-ddelwedd o'i gymydog newydd, a agorodd ychydig fisoedd yn unig yn ôl.

 

Gwnaeth yr hen ysgol wasanaethu ei chymuned yn dda am nifer o flynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys fel Ysgol Ramadeg ac Ysgol Gyfun, ond roedd wedi cyrraedd diwedd ei hoes hir iawn.

 

Mae'r adeilad newydd sbon trawiadol wedi cael ei adeiladu fel rhan o'n Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Band A, ac mae'n cynnig cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

 

Roedd yr Arweinydd yn edrych ymlaen at agoriad swyddogol yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 254.

255.

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan:

1.            Cwestiwn gan y Cynghorydd Tim Thomas i'r Arweinydd

 

A yw'r Arweinydd yn fodlon â'r adnoddau sydd ar gael i aelodau Cydbwyllgor Craffu y Fargen Dinesig?

 

2.            Cwestiwn gan y Cynghorydd Sorrel Dendy i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau

 

A yw First Cymru wedi dweud wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu roi hysbysiad o'r penderfyniad i ddileu eu gwasanaeth yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr?

 

3.            Cwestiwn gan y Cynghorydd Tom Giffard Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Dangosodd cais Rhyddid Gwybodaeth a gyflwynais yn ddiweddar fod y Cyngor hwn wedi gwario bron i £200,000 ar wasanaethau cyfieithu Cymraeg allanol dros y 18 mis diwethaf.

 

A wnaiff Aelod y Cabinet esbonio pam nad yw'r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i gyflogi cyfieithwyr mewnol i gadw'r gyllideb gynyddol hon dan reolaeth?

 

4.            Cwestiwngan y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Aelod Cabinet Lles a Chynhedlaethau'r Dyfodol

 

Ermwyn datblygu cymunedau mwy egnïol a chyflawni’ch nod, mewn partneriaeth â Chanolfan Hamdden Halo, o sicrhau cynnydd o 9% yn nifer yr ymweliadau â chanolfannau bywyd yn dilyn eich buddsoddiad sylweddol yn eu cyfleusterau – a all yr Aelod Cabinet ddweud wrthym pa ganolfannau eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar wahân i HALO, y gall pobl dros 60 oed eu defnyddio? A all yr Aelod Cabinet hefyd ddweud wrthym ers pryd y mae’r Cyngor wedi buddsoddi yn y canolfannau bywyd hyn a faint y mae wedi’I fuddsoddi hyd yma er mwyn sicrhau cynnydd o 9% yn nifer yr ymweliadau?

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

1.      

2.     1. Cwestiwn gan y Cynghorydd Tim Thomas i'r Arweinydd

A yw'r Arweinydd yn fodlon ar yr adnoddau sydd ar gael i aelodau Cyd-bwyllgor Craffu’r Fargen Ddinesig?

 

Ymateb

Cynigiodd y cyngor gynnal y cyd-bwyllgor craffu ar ran y deg partner. Mae gan yr awdurdod enw da yn genedlaethol am ein gwaith craffu, felly roedd y partneriaid eraill yn y Fargen Ddinesig yn hyderus y gallem arwain y gwaith hwn.

 

Rydym wedi amcangyfrif yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar yr awdurdod i gefnogi'r cyd-bwyllgor – yn bennaf o ran amser swyddogion cymorth democrataidd, ac mae hyn yn cael ei ariannu gan y Fargen Ddinesig. Gobeithir y gall y cyd-bwyllgor craffu fanteisio ar arbenigedd y corff atebol (Cyngor Sir Caerdydd) sydd eisoes yn darparu cymorth cyfreithiol, ariannol a democrataidd i'r pwyllgor rhanbarthol – rydym yn osgoi dyblu ymdrechion yn fwriadol.

 

Mae'r pwyllgor wedi cwrdd unwaith, a byddwn yn parhau i adolygu'r gofynion adnoddau dros amser.  Fodd bynnag, dylid cydnabod bod gwaith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei oruchwylio hefyd gan y canlynol:

 

Llywodraeth y DU

Llywodraeth Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru

 

Mae gan y sefydliadau hyn fuddiant a rôl mewn uniondeb, llywodraethu a gwerth am arian y bartneriaeth ac yn ei gallu i gyflawni.

 

Yn ogystal, mae cyfres o adolygiadau porth annibynnol hefyd wedi eu sefydlu a gomisiynwyd gan lywodraeth y DU. Bydd y rhain yn asesu'n fanylach pa mor dda y mae'r bartneriaeth yn cyflawni canlyniadau a byddant, yn eu tro, yn pennu derbyniad parhaus taliadau graddol o'r Trysorlys.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Tim Thomas

Gan ystyried fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn faes gwaith mor bwysig, sut ydym yn ei monitro wrth symud ymlaen, a sut y gall aelodau gymryd rhan benodol ynddi.

 

Ymateb

Mae ymweliad safle yng Nghasnewydd cyn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Caerdydd, felly mae adnoddau digonol yn cefnogi'r cynllun. Bydd pob aelod hefyd yn derbyn adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd i ddod, yn hytrach na gosod dolen i'r agenda ar wefan y cyngor. Os oedd gan aelodau unrhyw gwestiynau ynghylch y Fargen Ddinesig, gellid rhannu'r rhain naill ai gyda fi, neu Gadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (e.e. Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf). Fel arall, gellid hefyd cysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen at y diben hwn. Ychwanegodd fod Bargen Ddinesig Caerdydd yn agored ac yn dryloyw, yn yr un modd â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Roedd ganddi ei Chyd-bwyllgor ei hun hefyd a oedd yn craffu ar unrhyw waith a phrosiectau wrth fynd ymlaen. Pe bai unrhyw bryderon nad oedd gan y cynllun ddigon o adnoddau wrth iddo ddatblygu, byddai'r awdurdodau cyfranogol yn edrych ar hyn. Roedd adroddiadau monitro chwarterol yn gorfod cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel rhan o'r cynllun hwn. Roedd hefyd angen cyflawni'r targedau a osodwyd yn y cynllun busnes a oedd yn cefnogi'r Fargen Ddinesig. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu Bargen Ddinesig Caerdydd yn ystod y cyfnodau cynnar, a chanfuwyd bod y trefniadau llywodraethu'n effeithiol. Ychwanegodd Is-gadeirydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 255.

256.

Y broses benodi: Prif Weithredwr pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, er mwyn rhoi gwybodaeth i'r cyngor ynghylch recriwtio ar gyfer swydd y Prif Weithredwr.

 

Nododd fod y swydd hon wedi dod yn wag yn dilyn ymddiswyddiad y deiliad swydd cyfredol, a byddai cyflogaeth yr unigolyn hwn yn dod i ben gyda'r awdurdod ar 6 Ionawr 2019.

 

Aeth yr adroddiad ymlaen i nodi bod y swydd hon wedi’i llenwi'n ddiweddar dros dro hyd nes y byddai penodiad parhaol yn cael ei wneud.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai'r cyngor yn cynnig cymorth proffesiynol i wneud gwaith chwilio ac asesu gweithredol ar gyfer y rôl, er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei marchnata'n eang, ac yna byddai proses benodi gadarn yn dilyn.

 

Ychwanegodd y byddai'r swydd yn cael ei hysbysebu'n gynnar yn y flwyddyn newydd, a chynigir y bydd y broses ar ôl derbyn y ceisiadau yn unol â'r hyn a nodwyd ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y cyngor yn cymeradwyo'r broses recriwtio ar gyfer swydd y Prif Weithredwr fel y'i nodwyd ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.   

257.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 dros dro adroddiad ar y cyd. Diben hwn oedd fel a ganlyn:

 

  • diweddaru'r cyngor o ran canlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru o ddull cyllido Band B y Model Buddsoddi Cydfuddiannol a'r cyfraddau ymyrraeth grant cyfalaf diwygiedig
  • cael cymeradwyaeth y cyngor ar yr ymrwymiad ariannol diwygiedig sydd ei angen i gyflawni Band B y rhaglen moderneiddio ysgolion
  • cymeradwyo newid i'r rhaglen gyfalaf er mwyn adlewyrchu'r ymrwymiad diwygiedig

 

Mae paragraff 2 yr adroddiad yn nodi'r egwyddorion, fel y'u cymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2015, a fabwysiadwyd gan swyddogion wrth lunio'r cyngor sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad cyfredol.

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd atgoffa'r aelodau o brif amcanion y rhaglen moderneiddio ysgolion, a hyrwyddwyd gan y cyngor yn 2006, fel y'u dangosir ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.

 

Er mwyn llywio ein dull o foderneiddio ysgolion, mae swyddogion hefyd wedi gweithio â phartneriaid amrywiol i ystyried y canlynol yn ofalus:

 

  • cyflwr yr adeiladau
  • y gwaith cynnal a chadw sydd eto i'w wneud
  • twf y boblogaeth
  • amcanestyniadau poblogaeth disgyblion
  • datblygiadau tai a nodwyd o fewn y Cynllun Datblygu Lleol

 

Bydd aelodau'n ymwybodol fod rhaglen moderneiddio ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma, gyda chwe darpariaeth newydd eisoes yn cael eu hadeiladu o fewn Band A, a'r bwriad i agor Ysgol Calon y Cymoedd ym mis Ionawr 2019.

 

Ym mis Hydref 2017, cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet a oedd yn nodi canlyniad gwaith y ffrwd waith moderneiddio ysgolion a chyflwyniad y rhaglen amlinellol strategol ddiwygiedig.

 

Gwnaeth y Cabinet ystyried y cynlluniau Band B arfaethedig, a phenderfynu cymeradwyo'r canlynol, ar sail y galw cynyddol am leoedd, y gofyniad i hybu'r Gymraeg a chyflwr yr adeilad:

 

·          Gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr (cyflwyno dau ddosbarth (AB)) - grant cyfalaf

·          De-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr (2.5AB) - grant cyfalaf

·   Ysgol Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr (270 o leoedd) – Model Buddsoddi Cydfuddiannol

·      Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr – cyfrwng Cymraeg (2AB) - grant cyfalaf

·     Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr – cyfrwng Saesneg (2AB) - grant cyfalaf

 

Yn ogystal, darparodd Llywodraeth Cymru £30 miliwn mewn grant cyfalaf ledled Cymru er mwyn hybu'r Gymraeg a chefnogi ymrwymiad Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, a gofynnwyd i gynghorau wneud cais yn ei erbyn. Nododd swyddogion yr angen i greu cyfleusterau gofal plant cyfrwng Cymraeg a fyddai'n cyflwyno cyfleoedd iaith Gymraeg i ardaloedd yn y fwrdeistref sirol lle nad oes digon o ddarpariaeth ar hyn o bryd (hynny yw: Bro Ogwr a Chwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl). Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais Pen-y-bont ar Ogwr am £2.6 miliwn mewn egwyddor.

 

Yn ystod ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018, cymeradwyodd y cyngor, mewn egwyddor, yr ymrwymiad ariannol y byddai ei angen ar gyfer Band B y rhaglen moderneiddio ysgolion.

 

Amcangyfrifwyd y byddai'r rhaglen gyffredinol yn costio oddeutu £68.2 miliwn; rhagwelwyd y byddai oddeutu £43.2 miliwn o hwn yn dod o gyllid cyfalaf (oddeutu £23 miliwn wedi ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 257.

258.

Deddf Gamblo 2005 - Datganiad Egwyddorion pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, gyda'r diben o adrodd ar ganlyniad yr adolygiad tair blynedd o'r Datganiad Egwyddorion Gamblo, y fframwaith sy'n rheoli'r ffordd y mae'r awdurdod hwn yn cyflawni ei ddyletswyddau fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer gamblo.  Adroddwyd y mater hwn i'r Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018, ond y cyngor sy'n gyfrifol am gymeradwyo'r Datganiad Egwyddorion ar gyfer y tair blynedd nesaf o 2019 ymlaen.

 

Gwahoddodd y Maer Bennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i gyflwyno'r adroddiad.

 

 Nododd fod Deddf Gamblo 2005 yn darparu system rheoleiddio ar gyfer rheoli pob gweithgaredd gamblo a ddarperir ym Mhrydain Fawr, ar wahân i'r Loteri Genedlaethol a ‘spread betting’. Sefydlwyd y Comisiwn Gamblo o dan Ddeddf Gamblo 2005 i reoleiddio'r gamblo masnachol ym Mhrydain Fawr, mewn partneriaeth ag awdurdodau trwyddedu fel rheoleiddwyr lleol.  Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar y Comisiwn a'r awdurdodau trwyddedu i geisio trwyddedu gamblo, cyn belled ag y credir ei fod yn rhesymol gyson â'r amcanion trwyddedu, a nodwyd y fframwaith rheoleiddio llawn ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

Aeth ymlaen drwy gadarnhau bod angen i'r cyngor gyhoeddi datganiad polisi, a elwir yn Ddatganiad Egwyddorion, bob tair blynedd.  Roedd y ddogfen gyfredol wedi ei hadolygu ac ymgynghoriad drafft wedi ei gynnal.  Roedd copi o'r Datganiad Egwyddorion drafft wedi ei atodi yn Atodiad A yr adroddiad, gyda'r elfennau a adolygwyd wedi eu lliwio'n goch. Tynnodd sylw'r cyngor at dudalen 7 Atodiad A, a oedd yn nodi bod nifer y safleoedd betio ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2018 wedi gostwng o 17 i 16.

 

Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y cyngor i ddatblygu Datganiad Egwyddorion sy'n hyrwyddo'r tri amcan trwyddedu sydd wedi eu cynnwys ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Awgrymodd dadansoddiad o gwynion a gwybodaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor ers y diwygiwyd y Datganiad ddiwethaf nad oedd unrhyw dueddiadau na phryderon newydd wedi codi yn ystod y tair blynedd diwethaf, naill ai gan y sector neu'r lleoliad.  Un o'r pryderon gorfodi a oedd wedi codi oedd lleoli peiriannau mewn siopau tecawê a siopau eraill. Mae hyn yn anghyfreithlon, ac arweiniodd at erlyniad, felly ni ellir ymdrin ag ef fel mater polisi.

 

Nododd nad oedd newidiadau mawr wedi eu gwneud i'r Datganiad Egwyddorion, ond, mae'n dilyn y dull gweithredu a nodwyd yn y bumed argraffiad o'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gamblo i awdurdodau trwyddedu, a chyfeirir at hwn ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

Golygai hyn y bydd yr awdurdod, heb unrhyw ffactor neu risg leol, yn dilyn dull y Comisiwn Gamblo o reoleiddio gamblo, fel y nodir yn y canllawiau. Er bod yn rhaid i'r awdurdod ystyried y canllawiau wrth wneud penderfyniadau, mae'n bwysig cydnabod nad yw'r canllawiau yn ceisio rhwystro'r awdurdod rhag defnyddio ei ddoethineb wrth ymdrin â cheisiadau neu gydymffurfiaeth.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod ymarfer ymgynghori wedi ei roi ar waith fel rhan o'r adolygiad, a oedd yn cynnwys y cyrff a'r rhanddeiliaid hynny a nodir ym mharagraff 4.5  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 258.

259.

Penodi Cynrychiolydd Cofrestredig i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, gan geisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer penodi'r Parchedig Ganon Edward Evans fel Cynrychiolydd Cofrestredig yr Eglwys yng Nghymru dros eitemau Addysg sy'n cael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, am bedair blynedd ar y mwyaf.

 

Rhoddodd yr adroddiad ychydig o wybodaeth gefndirol, a chadarnhawyd bod y Parchedig Ganon Edward Evans wedi cwblhau cyfnod mewn swydd yn y rôl uchod ac ers hynny wedi ei enwebu i gael ei ailbenodi i gwblhau cyfnod pellach ar y Pwyllgor(au).

 

PENDERFYNWYD:            Bod y cyngor yn nodi'r adroddiad a chymeradwyo penodiad yr unigolyn uchod fel y Cynrychiolydd Cofrestredig dros eitemau Addysg sy'n cael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, am gyfnod pellach o bedair blynedd.

260.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Gwnaeth y Maer dderbyn yr eitem ganlynol fel eitem frys, yn unol â darpariaethau paragraff 4 Rheolau Gweithdrefnol y Cyngor, fel y'u cynhwyswyd yn Rhan 4 Cyfansoddiad y Cyngor, oherwydd bod yr adroddiad wedi'i hepgor o'r agenda yn sgil problemau technegol wrth gyhoeddi'r agenda a'r papurau cysylltiedig. Mae angen penderfyniad ar yr adroddiad cyn y cyfarfod nesaf sydd wedi ei drefnu ar gyfer y cyngor ym mis Ionawr 2019.

261.

Rhaglen gyfalaf 2018-19 i 2027-28 pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad gyda’r diben o gael cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer y cyfnod rhwng 2018-19 a 2027-28.

 

Dywedodd fod y cyngor wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf ar 28 Chwefror 2018, a oedd yn ymdrin â'r cyfnod uchod fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Ers hynny, mae cynlluniau ychwanegol wedi eu cymeradwyo gan y cyngor, gan gynnwys y Rhaglen Datblygu Canolfan Fenter, dosbarthiadau newydd yn Ysgol Gynradd Cwmfelin, cynllun adfywio Porthcawl a Depo Tred?r, ynghyd â nifer o gynlluniau a ariannwyd yn allanol.

 

Mae nifer o gynlluniau newydd wedi eu datblygu ers i'r rhaglen gael ei chymeradwyo ddiwethaf, felly mae angen i'r cyngor gymeradwyo'r newidiadau i'r Rhaglen Gyfalaf. Amlinellwyd y rhain rhwng paragraff 4.2 a 4.12 yr adroddiad, a chyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro grynodeb o bob un o'r rhain fel y'u nodir isod, ynghyd ag unrhyw oblygiadau adnoddau ychwanegol oedd angen eu hymrwymo at bob un o'r cynlluniau a restrwyd.

 

Roedd y cynlluniau hyn fel a ganlyn:-

 

  • Rhaglen Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif – Ysgol Gynradd Pencoed
  • Ysgol Gynradd Cwmfelin – Adeiladau
  • Canolfan Diogelu Amlasiantaethol
  • Gweithio Ystwyth
  • Ehangu mynwentydd
  • Fflyd
  • Rhaglen dreigl TGCh
  • Rhaglen Buddsoddi ym Mhorthcawl (PRIF)
  • Cofrestryddion
  • Grant Cyfalaf cyfrwng Cymraeg

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod nifer o gynlluniau wedi eu datblygu ers i'r Rhaglen Gyfalaf gael ei chymeradwyo, ac roedd angen cymeradwyo'r rhain (gan y cyngor).

 

O ran rhaglen Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif, dywedodd wrth yr aelodau, er bod gwaith ymchwilio ar y safle wedi ei wneud cyn gosod contract adeiladu Ysgol Gynradd Pencoed, bod angen cyflawni gweithgareddau torri a llenwi sylweddol ar y safle nas rhagwelwyd yn wreiddiol, gan olygu cynnydd o £200,000 yng nghostau'r prosiect.  Y bwriad oedd y byddai tanwariant arall rhagweledig mewn cynlluniau Band A eraill yn talu am y gost ychwanegol hon.  Hysbysodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y Cabinet fod cyllideb o £165,000 wedi ei chynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer darparu mwy o leoedd yn Ysgol Gynradd Cwmfelin.  Fodd bynnag, ar ôl datblygu'r cynllun, credwyd nad oedd yr amcangyfrif gwreiddiol ar gyfer y prosiect yn ddigonol, ac er bod ymarfer gwerth peirianneg wedi ei gynnal, derbyniwyd cost prosiect ddiwygiedig o £235,000, gan arwain at gyllid ychwanegol o £70,000 yn fwy na'r gyllideb a gymeradwywyd, a chynigiwyd y byddai hwn yn cael ei gymryd o gyllideb cadw'r rhaglen moderneiddio ysgolion.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod buddsoddiad cyfalaf o £205,000 wedi ei gymeradwyo ar gyfer sefydlu Canolfan Diogelu Amlasiantaethol.  Fodd bynnag, roedd y Ganolfan Diogelu Amlasiantaethol wedi symud i Raven's Court, gan olygu bod y costau'n llawer llai nag y rhagwelwyd, a byddai hyn yn rhyddhau £45,116 o gyllid ar gyfer cynlluniau eraill. Adroddodd hefyd fod cyllid cyfalaf o £1.217 miliwn wedi ei gymeradwyo ar gyfer buddsoddi mewn TGCh er mwyn cyflawni Gweithio Ystwyth, a oedd yn dibynnu ar gael tenant ar gyfer Raven's Court.  Yn dilyn penderfyniadau ar ble i roi'r Ganolfan Diogelu Amlasiantaethol, ni fyddent bellach yn mynd ati i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 261.

Motion Vote Type
TeitlMathMotion Vote Type textResult
To defer the report and in turn, refer it to the Corporate Overview and Scrutiny Committee for consideration Motion Rejected
  • View Motion Vote Type for this item
  • 262.

    Gwahardd y Cyhoedd

    Nid oedd y cofnodion ac adroddiad sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

     

    Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. 

     

    Cofnodion:

    PENDERFYNWYD:           O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

     

                                               Yn dilyn gweithrediad prawf lles y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ei bod yn cael ei hystyried yn breifat, a gwaharddwyd y cyhoedd o'r cyfarfod gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth iddynt sydd wedi'i heithrio o'r natur a nodwyd uchod.

    263.

    Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

    I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion wedi’u eithrio cyfarfod y of 21/11/2018

     

     

    264.

    Penodi Prif Weithredwr Dros Dro