Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

265.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb rhagfarnol canlynol, a gadawodd yr Aelodau a enwir isod y cyfarfod pan ystyriwyd yr eitemau hyn:- 

 

Cynghorydd E Venables – Eitem agenda 6. –

Cynghorydd D White – Eitem agenda 8. – Gan fod perthynas agos yn derbyn gostyngiad o’r Dreth Gyngor. 

Cynghorydd JC Spanswick – Eitem agenda 6. – Gan ei fod yn berchen ar eiddo sy’n wag ar hyn o bryd ac ar werth ar y farchnad agored.  Eitem agenda 8. – Gan fod posibl i aelod agos o’r teulu fod yn derbyn y Cynllun.  

Cynghorydd L Walters – Eitem agenda 6. – Gan ei bod ar hyn o bryd yn y broses o werthu eiddo sy’n destun Profiant.

266.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 194 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/12/18

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD              Y dylid cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Cyngor, dyddiedig 19 Rhagfyr 2018, yn amodol ar y diwygiad canlynol, i’w fewnosod fel paragraff yn union cyn y penderfyniad ar yr eitem.

 

‘Yn olaf, mewn perthynas â’r cynnydd cyffredinol yng nghostau’r gyllideb gyfalaf, nododd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, na ystyrir bod y cyllid cyfalaf ychwanegol sydd ei angen ar gyfer rhai cynlluniau a nodir o fewn y rhaglen (sef cyfanswm o £800k), yn afresymol at ei gilydd.’

267.

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr Dros Dro

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Maer

 

Gwnaeth y Maer atgoffa’r Aelodau mai Dydd Gwener yw dyddiad cau’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Blynyddol Dinasyddiaeth y Maer. Mae’r gwobrau’n agored i bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â grwpiau a busnesau lleol. Gellir dod o hyd o fwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gellir lawrlwytho ffurflen enwebiadau oddi yno. Bydd yr enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad ym mis Mawrth. 

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cyngor, mae’r Maer a’i Gydweddog wedi cymryd rhan mewn 9 digwyddiad swyddogol  a oedd yn amrywiol a gwahanol ac yn bleserus iawn. Cyfeiriodd at y canlynol yn arbennig:-

 

Penblwydd Lily Kennett yn 100 oed. Dywedodd Lily wrthynt am ei gwaith fel gwniadwraig, sut y bu’n arddwr brwd a sut y safodd ei harholiadau lefel O pan oedd yn 60 oed. 

 

Cawsant hefyd amser da yng nghwmni preswylwyr cartref gofal Bryn-y-Cae yn eu parti Nadolig.  Cafodd pawb amser gwych gan fwynhau adloniant canwr lleol sy’n dynwared Elvis Presley yn fawr iawn. 

 

Ar nodyn mwy difrifol, cafodd y Maer yr anrhydedd o gynrychioli’r awdurdod a goleuo cannwyll yn seremoni Coffau’r Holocost yn Theatr Sony Pen-y-bont fore yma. Dyma ddigwyddiad ysgytwol sy’n peri i rywun feddwl. Byddai hefyd yn cynrychioli’r awdurdod yn nigwyddiad Coffau’r Holocost yng Nghaerdydd dydd Gwener nesaf.   

 

Roedd yn ddrwg gan y Maer glywed am farwolaeth Terry Hacking, cyn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros gyfnod y Nadolig. Bu Terry yn aelod mawr ei barch o’r Cyngor, ac estynnodd ei gydymdeimlad â’i deulu, ac yn arbennig ei wraig Pat a fu hefyd yn aelod o’r cyngor ar un cyfnod. Gofynnodd i bawb oedd yn bresennol sefyll am funud o dawelwch er cof am Terry. 

 

Wrth gloi, dywedodd y Maer ei fod ef a’i Gydweddog wedi mynychu’r digwyddiadau canlynol hefyd yn ddiweddar: 

 

Cyngerdd Ysgol Porthcawl, Pantomeim (Maer) Sleeping Beauty Porthcawl, Brecwast Clwb Rotari (Siarad), Bore coffi crefft (Sarn), gwobrau’r Arglwydd Raglaw a chodi’r Faner (LGBT) uwch swyddfeydd Sifig. 

 

Dirprwy Arweinydd

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd bod y Cyngor a Cadwch Gymru’n Daclus wedi gwneud llawer iawn o waith yn ddiweddar i annog mwy o bobl i weithredu fel arwyr sbwriel.  

 

Roedd yn si?r y byddai Aelodau’n dymuno ymuno ag ef i ddiolch i bawb sydd wedi camu ymlaen i helpu i ofalu am eu cymunedau lleol. 

 

Rhwng Hydref 2015 a Medi 2018, roedd gwirfoddolwyr wedi treulio’r hyn sydd gyfwerth â £63,000 ac 8,780 o oriau yn gweithio ar 126 o brosiectau cynefinoedd a bioamrywiaeth leol.

 

Darparwyd hyfforddiant i 2,200 o wirfoddolwyr, ac ymgysylltwyd gyda 2,100 o bobl. Bu’r gwirfoddolwyr yn gyfrifol am gynnal 450 o sesiynau glanhau, mabwysiadu 99 o fannau gwyrdd, cefnogi 34 o grwpiau cymunedol a chreu 28 o arwyr sbwriel. 

 

Dyma ymdrech wych ac roedd am longyfarch pawb oedd yn rhan o’r gwaith. 

 

Ar nodyn tebyg, efallai y byddai Aelodau yn dymuno clywed am fenter newydd yn ardal Porthcawl sy’n dod â phum ysgol gynradd ynghyd.

 

Dan y teitl ‘Love it – Don’t Trash it’, nod y fenter yw  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 267.

268.

I dderbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Adroddodd yr Arweinydd ei fod yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i fynychu Diwrnod Coffáu’r Holocost, a nodwyd ynghynt eleni gyda digwyddiad i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim a drefnwyd mewn partneriaeth â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.  

 

Y thema eleni yw ‘cipio o gartref’, ac roedd digwyddiad eleni yn annog pobl i fyfyrio ar ganlyniadau posibl cipio o gartref a sut mae hynny’n rhan o’r trawma y mae unrhyw un sy’n profi erlyniaeth a hil-laddiad yn ei wynebu. 

 

Dywedodd na fyddai fyth yn anghofio clywed y siaradwr gwadd, Jean-Paul Samputu, a oroesodd yr hil-laddiad yn erbyn y Tutsi yn Rwanda yn 1994. 

 

Collodd Jean-Paul ei rieni a thri brawd a chwaer yn ystod yr hil-laddiad, ac fel llysgennad diwylliannol i Rwanda, mae wedi ymroddi i bregethu neges o obaith, maddeuant, cymod a chariad. 

 

Mae’n areithiwr ysbrydoledig, ac roedd yr Arweinydd yn ddiolchgar iddo am ddod atom i rannu ei brofiadau.

 

Diolchodd yr Arweinydd i bawb a helpodd i drefnu’r digwyddiad pwysig hwn, gan gynnwys myfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr a lywiodd y seremoni ac a berfformiodd ynddi. 

 

Roedd yn sicr y byddai’r Aelodau wedi gweld adroddiadau newyddion diweddar yn disgrifio sut mae Bridgend Ford, ein cyflogwr sector preifat mwyaf, yn cyfarfod ag undebau llafur i drafod y posibilrwydd o golli swyddi.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd camau i gefnogi’r sefydliad a’i weithwyr, ac mae’r Arweinydd wedi cysylltu ag uwch reolwyr yn y ffatri i gynnig unrhyw help a chymorth posibl.

 

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi Bridgend Ford gan obeithio osgoi colli unrhyw swyddi, ond yn y cyfamser, mae’n gwneud synnwyr i gynllunio ymlaen fel cam rhagofalus.

 

Gyda hyn mewn golwg, mae’r Cyngor hefyd wedi cysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru gyda chynigion ar gyfer creu tîm ymateb arbenigol. Bydd y tîm hwnnw wedyn yn gallu gweithredu pe na fyddai modd osgoi colli nifer o swyddi. 

 

Bydd y Cyngor yn gweithio’n agos iawn gyda sefydliadau partner fel Busnes Cymru, Gyrfa Cymru, Adran Gwaith a Phensiynau a Chanolfan Byd Gwaith. 

 

Megis dechrau y mae’r trafodaethau ar hyn o bryd, ond y gobaith yw y gall Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi Bridgend Ford.

 

Ychwanegodd bod angen i ni gyd gydweithio er mwyn diogelu swyddi a bywoliaeth y staff, ac y byddai’n rhoi gwybodaeth bellach i Aelodau wrth i’r sefyllfa hon ddatblygu.

 

Yn olaf, adroddodd yr Arweinydd bod adroddiad wedi ymddangos yn y Cyfryngau Cymdeithasol bod Sony UK yn symud ei bencadlys yn y DU i osgoi aflonyddwch yn sgil Brexit. Credwn fod y stori’n cyfeirio at bencadlys Sony yn Weybridge, Surrey.

269.

Treth y Cyngor: Gostyngiad Dewisol Treth y Cyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 adroddiad, yn cynnig bod y Cyngor yn addasu lefel gostyngiad Treth y Cyngor sydd ar gael ar eiddo gwag (ac ail gartrefi) a hynny o 1 Ebrill 2019.  

 

Fel y nodir yn y cefndir dan baragraff 3 yr adroddiad, mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 yn rhoi’r hawl i awdurdodau lleol ostwng neu ddileu’r gostyngiad 50% ar Dreth y Cyngor ar eiddo gwag neu eiddo heb ei ddodrefnu, ar ôl i’r cyfnod eithrio llawn o 6 mis ddod i ben. Gelwir eiddo o’r fath yn eiddo Dosbarth C. 

 

Hyd yma, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi caniatáu gostyngiad o 50% ar eiddo o’r fath, ond dim ond tua 10 awdurdod lleol sy’n parhau i wneud hynny. 

 

Ar hyn o bryd, mae tua 1,244 o bobl sy’n talu’r dreth cyngor ledled y Fwrdeistref Sirol yn manteisio ar y gostyngiad hwn. Os gaiff y gostyngiad ei ddileu, bydd yn rhaid i’r bobl hyn wedyn dalu’r gyfradd lawn 100% ar ôl i’r cyfnod chwe mis ddod i ben. 

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p – Cynllunio Ariannol a Rheoli’r Gyllideb, mewn perthynas ag ail gartrefi gwag, ond gyda dodrefn, nad oedd y Cyngor wedi caniatáu unrhyw ostyngiad i’r rhain ers Ebrill 2000, ac nad oedd yn bwriadu gwneud hynny ychwaith.

 

Esboniodd bod y Cyngor ar hyn o bryd yn rhoi gostyngiad 50% i bobl sy’n talu’r dreth cyngor yn achos eiddo sy’n syrthio i’r categorïau a amlinellwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad. 

 

Mae’r cynnig nawr i ddileu’r gostyngiad 50% hwn a chodi 100% o dreth y cyngor o Ebrill 2019. 

 

Mae hyn yn cysylltu gyda Strategaeth Eiddo Gwag y Cyngor, a’r gobaith yw y bydd yn annog pobl sy’n talu treth y cyngor i beidio â gadael eiddo yn wag neu mewn cyflwr gwael.

 

Yn nhermau goblygiadau ariannol yr adroddiad, cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p – Cynllunio Ariannol a Rheoli’r Gyllideb bod paragraff 8.2 yr adroddiad yn nodi’r arian ychwanegol mwyaf y gallai’r Cyngor ei gynhyrchu o’r newid yn y polisi, er y pwysleisiodd bod hyn yn defnyddio tybiaethau cyffredinol ynghylch bandio a chasglu. Mae’r swm yn tybio y llwyddir i gasglu 100% ac nid yw hynny’n realistig, yn enwedig ynghylch eiddo gwag sy’n arbennig o heriol o ran casglu. Wrth gloi, ychwanegodd y gallai hynny waethygu pan  gaiff cosb o garchar am fethu talu treth y cyngor ei ddileu o Ebrill 2019 ymlaen.  

 

Wrth ystyried y darpariaethau a wneir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, lle mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi gostyngiad 50% i eiddo Treth y Cyngor sy’n dal yn wag oherwydd y rhesymau a nodwyd yn rhan hon yr adroddiad, teimlai Aelod y dylid ystyried cadw’r gostyngiad yn achos eiddo sy’n destun profiant, ar ôl cyfnod o 6 mis.

 

Wedi trafodaethau pellach ar y mater hwn, 

 

PENDERFYNWYD:                     Y dylid gohirio’r adroddiad hyd gyfarfod arferol nesaf y Cyngor, er mwyn ceisio cyngor technegol ac eglurder pellach ar  ddosbarthiadau Eithriadau a Gostyngiadau Treth y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 269.

270.

Diwygio 2019-20 Sylfaen Treth y Cyngor ar Gyfer Cynghorau Cymuned Cefn Cribwr, Cwm Garw, Llangynwyd Isaf a Llansantffraid pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog S151 adroddiad, er mwyn rhoi ffigurau sylfaen Treth y Cyngor diwygiedig 2019-20 i bedwar Cyngor Cymuned i’r Cyngor ar gyfer eu hail-gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Cynllunio Ariannol a Rheoli’r Gyllideb wrth yr Aelodau bod adroddiad wedi’i ddwyn gerbron y Cyngor ar 21 Tachwedd 2018, i osod a chymeradwyo sylfaen treth y Cyngor 2019-20 i’r Cyngor yn ei gyfanrwydd a Chynghorau Cymunedol unigol. 

 

Ers hynny, daeth i’r amlwg bod sylfaen treth gyffredinol y Cyngor yn gywir ar sail grynswth a sail net, ond o’u cymryd yn unigol, nad oedd sylfeini treth Cynghorau Cymuned unigol gyfwerth â’r cyfanswm oherwydd mecanweithiau talgrynnu. O ganlyniad, mae’r Cyngor wedi gorfod diwygio sylfaen treth y pedwar Cyngor Cymuned a amlinellir yn yr adroddiad. Mae’r newidiadau yn un pwynt degol yr un ac mae’n bwysig nodi nad yw hynny’n effeithio ar faint y praesept y byddant yn ei gasglu.

 

Mae’r tabl o fewn paragraff 4.1 yr adroddiad yn dangos y sylfaen treth wedi’i ddiwygio i’r pedwar Cyngor Cymuned hwn, ac mae Atodiad A i’r adroddiad y darparu’r darlun diwygiedig cyfan i holl Gynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD:                 Bod y Cyngor yn cymeradwyo Atodiad A yr adroddiad, sy’n cynnwys sylfaen treth ddiwygiedig Cynghorau Cymuned Cefn Cribwr, Cwm Garw, Llangynwyd Isaf a Llanstantffraid. 

271.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2019-20 pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad, er mwyn darparu gwybodaeth i’r Cyngor ynghylch gweithredu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (CTR) 2019-29, yr angen i fabwysiadu cynllun CTR erbyn 31 Ionawr 2019 ynghyd â’r goblygiadau cyllido. 

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu gwybodaeth gefndir, ac yna’r cadarnhau bod y Cynllun CTR yng Nghymru yn dilyn rheoliadau a wnaed dan Atodlen 1B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y cafodd ei fewnosod gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012).

 

Nododd y Rheolwr Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol, bod y Cynulliad ar 27 Tachwedd 2013 wedi nodi rheoliadau sy’n gweithredu’r trefniadau i gefnogi’r rheiny a fydd yn talu treth y cyngor.  Mae’r rheoliadau (Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor (Cynllun diofyn) (Cymru) 2013) yn nodi prif nodweddion y cynllun i’w mabwysiadu gan holl gynghorau yng Nghymru. Gwnaed mân addasiadau i’r rheoliadau hyn ym mhob flwyddyn ariannol.

 

Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019 wedi’u nodi erbyn hyn. Mae’r rheoliadau hyn yn uwchraddio’r ffigurau ariannol a ddefnyddir yn y cynlluniau CTR ac yn gwneud addasiadau i:  

 

·      Adlewyrchu newidiadau a wnaed i’r system budd-daliadau mewn perthynas â Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd Rheoliadau 2013 yn parhau i gyfeirio at y Gydran Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith a fydd yn parhau i gael ei thalu i rai ymgeiswyr.  

·      Gwneud newidiadau i adlewyrchu’r trefniadau darparu gwasanaeth newydd yn dilyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

·      Gwneud newidiadau i fynd i’r afael ag anghysondeb o fewn geiriad y darpariaethau diwygiedig yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn (Cymru) (Diwygio) 2017 mewn perthynas â darpariaethau newid mewn amgylchiadau.

·      Gwneud nifer o newidiadau mewn perthynas â thaliadau sy’n cael eu diystyru ar gyfer dibenion cyfrifo ‘incwm’ a/neu ‘gyfalaf’. Mae hyn yn cynnwys y taliad cymorth profedigaeth newydd ymhlith eraill.

 

Nid yw’r rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol i’r cynllun presennol, o safbwynt y sawl sy’n ymgeisio, ac mae lefel uchaf y cymorth y gall ymgeiswyr cymwys ei dderbyn yn parhau i fod yn 100%.

 

Mae Paragraff 4.6 yr adroddiad yn nodi, o fewn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig, bod gan y Cyngor ychydig o ddisgresiwn i ganiatáu elfennau dewisol sy’n fwy hael na rhai’r cynllun cenedlaethol, ac mae adran hon yr adroddiad yn rhoi enghreifftiau o hyn..

 

Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol y rheoliadau perthnasol sydd eu hangen sef bod y Cyngor yn mabwysiadu Cynllun CTR erbyn 31 Ionawr 2019. 

 

Mae Paragraff 4.14 yr adroddiad yn amlinellu rhai Materion Pwysig er ystyriaeth, gan gadarnhau bod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu a ddylai ddileu neu ddiwygio ei gynllun CTR, a bod rheidrwydd arno i gynnal cynllun yn ôl gofynion y Rheoliadau uchod. Mae’r rhwymedigaeth yn ddyletswydd statudol ac yn gymwys hyd yn oed os nad yw’r Cyngor yn dewis defnyddio unrhyw rai o’r camau disgresiwn sydd ar gael iddo.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol mai dull y Cyngor o ymdrin  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 271.

272.

I Dderbyn y Cwestiynau Dilynol wrth:

1.            Cwestiwngan y Cynghorydd MC Voisey I’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio 

 

Yng nghylch diwethaf y gyllideb, dyrannwyd arian ar gyfer G?yl Ddysgu, ac i gymryd lle’r grant Gwisg Ysgol a dynnwyd gan Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur. Rwy’n deall bod yr w?l ddysgu wedi bod yn llwyddiant ac wedi’i hariannu’i hun, a bod y Cynulliad wedi gwneud tro pedol ar y grant gwisg ysgol.

 

Felly, ni ddefnyddiwyd yr arian a gymrwyd oddi ar drethdalwyr ym Mhen-y-bont fel y bwriadwyd. Allwch chi gadarnhau sut ddefnyddiwyd yr arian, neu ble mae’r arian nawr? 

 

2.            Cwestiwngan y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet dros Cymunedau 

 

Gan fod cynnig yn galw am i'r Fwrdeistref Sirol fynd yn 'ddi-blastig' ym mis Gorffennaf 2018, a wnaiff yr Aelod Cabinet egluro pa gynnydd y mae'r awdurdod hwn wedi'i wneud wrth leihau ei ddefnydd plastig na ellir ei ailgylchu 6 mis ymlaen o'r cynnig gwreiddiol?

 

3.         Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Yndraddodiadol, dylai awdurdodau lleol fod â chyllideb i brynu offer cynorthwyol os mae’n cefnogi rhywun i fyw bywyd annibynnol a llawn.  Byddemyn dymuno gweld hyn yn parhau. Mewn nifer o awdurdodau, rydym ni’n clywed am ryw fath o brawf modd anffurfiol lle mae’r person sy’n asesu yn ceisio canfod a allai rhywun dalu am yr offer eu hunain.  Mae hyn yn llawn anawsterau, ac rwy’n gobeithio na fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio gwneud hyn.

 

A all yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r Cyngor sut mae’r Gwasanaeth Telecare yn cael ei ddarparu i breswylwyr yn y Sir a faint fydd yr arbedion tybiedig i’r Cyngor?

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd M C Voisey i’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio  

Yng nghylch diwethaf y gyllideb, dyrannwyd arian ar gyfer G?yl Ddysgu, ac i gymryd lle’r grant Gwisg Ysgol a dynnwyd gan Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur. Rwy’n deall bod yr ?yl ddysgu wedi bod yn llwyddiant ac wedi’i hariannu’i hun, a bod y Cynulliad wedi gwneud tro pedol ar y grant gwisg ysgol. Felly ni ddefnyddiwyd yr arian a gymrwyd oddi ar drethdalwyr ym Mhen-y-bont fel y bwriadwyd. Allwch chi gadarnhau sut ddefnyddiwyd yr arian, neu ble mae’r arian nawr? 

 

Ymateb

Disgwylir i gyfanswm cost G?yl Ddysgu 2018 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod oddeutu £12k. Caiff hwn ei ariannu o’r £65k ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cyngor i ?yl Ddysgu 2018 ar 28 Chwefror 2018 fel cost untro’n unig fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolog y Cyngor 2018-2019 i 2021-2022.

 

Trosglwyddwyd y £53k na chafodd ei wario i’r Gyllideb Gorfforaethol yng Nghyfnod 9. Ar gyfer 2018-2019, defnyddir hwn i sefydlu unrhyw arian wrth gefn sydd ei angen ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer costau untro na’u rhagwelir yn 2019-2020. Ar gyfer 2019-2020, bydd yn cyfrannu at y gyllideb costau corfforaethol i ymdrin ag unrhyw gostau na ellir eu hosgoi yn y flwyddyn honno. 

 

O ran yr arian a ddyrannwyd i gymryd lle Grant Gwisg Ysgol Llywodraeth Cymru, mae hwnnw hefyd wedi’i adfachu’n gorfforaethol a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i sefydlu arian wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn. Ar gyfer    2019-2020, mae’r swm hwn wedi’i gynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolog fel darpar ostyngiad yn y gyllideb.”  

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd M C Voisey (i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau)

A fyddai’r Cabinet yn ystyried defnyddio’r arian na chafodd ei wario fel yr amlinellwyd uchod, i gadw rhai cyfleusterau cyhoeddus o fewn y Fwrdeistref Sirol ar agor, sef rhai sydd naill ai wedi’u cau neu sy’n debygol o gael eu cau.   

 

Ymateb

Nid yw hynny’n bosibl gan fod yr arian hwn bellach wedi cael ei ddyrannu i’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chefnogi Teuluoedd er mwyn negyddu gorwariant o fewn y Gyfarwyddiaeth honno yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Ychwanegodd y Prif Weithredwr Dros Dro bod unrhyw danwariant sy’n digwydd mewn unrhyw Gyfarwyddiaeth mewn blwyddyn ariannol fel rheol yn cael ei roi i gyllideb Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol, yn hytrach na chael ei ail-ddyrannu i’r Gyfarwyddiaeth lle digwyddodd y tanwario yn y lle cyntaf.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau

Gan fod cynnig yn galw am i’r Fwrdeistref Sirol fynd yn ‘ddi-blastig’ ym mis Gorffennaf 2018, a wnaiff yr Aelod Cabinet egluro pa gynnydd y mae’r awdurdod hwn wedi’i wneud wrth leihau ei ddefnydd plastig na ellir ei ailgylchu 6 mis ymlaen o’r cynnig gwreiddiol? 

 

Ymateb

Gwnaed y cynnig di-blastig y cyfeirir ato yn Ebrill 2018, ond ni chafodd ei gymeradwyo ar y pryd; fodd bynnag, cyfeiriwyd y cynnig i gael ei ystyried mewn cyfarfod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 272.

273.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

274.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:      O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru)  2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o’r eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru)  2007.

 

                                       Yn dilyn gweithrediad prawf lles y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ei bod yn cael ei hystyried yn breifat, a gwaharddwyd y cyhoedd o’r cyfarfod gan y byddai’n golygu datgelu gwybodaeth iddynt sydd wedi’i heithrio o’r natur a nodwyd uchod.   

275.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Heithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion wedi’u eithrion y 19/12/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Y dylid cymeradwyo Cofnodion wedi’u Heithrio cyfarfod y Cyngor ar 19 Rhagfyr 2019, fel cofnod gwir a chywir.   

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z