Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 20fed Mawrth, 2019 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

286.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganwyd y buddiannau a ganlyn. Gadawodd yr Aelodau hynny a ddatganodd fuddiant rhagfarnus y cyfarfod tra bo'r eitemau a ddatganwyd ganddynt yn cael eu hystyried: -

 

Cynghorydd D Lewis - Eitem 6 ar yr Agenda. Buddiant personol fel Aelod o Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cynghorydd B Jones - Eitem 10 ar yr Agenda. Buddiant personol gan fod ei frawd yn derbyn Gostyngiad Treth Gyngor ar eiddo gwag.

 

Cynghorydd S Baldwin - Eitem 6 ar yr Agenda. Buddiant personol fel Aelod o'r Bwrdd Asedau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cynghorydd JC Spanswick - Eitem 6 ar yr Agenda. Buddiant personol fel Aelod o Banel Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Eitem 8 ar yr Agenda. Buddiant rhagfarnus gan fod perthnasau'n cael eu cyflogi gan y Cyngor.

 

Cynghorydd DBF White - Eitem 8 ar yr Agenda. Buddiant rhagfarnus gan fod ei wraig yn gweithio i'r Cyngor. Eitem 6 ar yr Agenda. Buddiant personol fel Aelod o'r Bwrdd Iechyd Cymunedol Lleol. Eitem 10 ar yr Agenda. Buddiant personol gan fod perthynas agos iddo yn Swyddog Cofrestru AAA.

 

Cynghorydd JP Blundell - Eitem 6 ar yr Agenda. Buddiant personol fel Aelod o Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cynghorydd R Shaw - Eitem 6 ar yr Agenda. Buddiant personol fel Aelod o Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cynghorydd T Thomas - Eitem 6 ar yr Agenda. Buddiant personol fel Aelod o Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cynghorydd T Beedle - Eitem 6 ar yr Agenda. Buddiant personol fel Aelod o Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cynghorydd RM James - Eitem 8 ar yr Agenda. Buddiant rhagfarnus gan fod perthynas yn gyflogai i CBS Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cynghorydd J Gebbie - Eitem 8 ar yr Agenda. Buddiant rhagfarnus fel Aelod o gorff negodi'r Cydgyngor Cenedlaethol.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth yr aelodau y byddai'r holl Swyddogion a oedd yn bresennol yn gadael y cyfarfod ar gyfer Eitem 8 ar yr Agenda, gan fod ganddynt fuddiant uniongyrchol yn yr eitem honno am ei bod yn trafod Polisi Cyflogau'r Cyngor. Yr unig gyflogeion fyddai'n aros yn Siambr y Cyngor fyddai'r Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Pwyllgorau i gymryd cofnodion, a'r Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadol a fyddai'n cyflwyno'r adroddiad.

287.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 134 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/02/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                       Cymeradwyo bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor dyddiedig 20 Chwefror 2019 yn gywir.

288.

Cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cyngor, cyhoeddodd y Maer y bu hi'n gyfnod gweddol dawel arno ef a'i Gydweddog.  Roeddent wedi cynnal 11 o ymweliadau swyddogol, a oedd yn amrywiol iawn eu natur ac yn bleserus iawn. Yr oedd am gyfeirio'n arbennig at y canlynol:

 

Roeddent yn hynod falch o fod yn bresennol yn ailagoriad Clwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel. Mae'r clwb wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar ac erbyn hyn yn ganolfan gymunedol sy'n darparu cyfleusterau gwych i'r gymuned leol. Yr oedd yn gyfarfod gwych, yn enwedig i'r holl bobl sydd wedi bod yn gweithio mor galed i wireddu'r cyfan.

 

Wythnos diwethaf, buont yn bresennol yn seremoni Gwobrau Ieuenctid Cymunedol yr Uchel Siryf, ac yn arbennig o falch o weld 3 enillydd a ddeuai o Ben-y-bont ar Ogwr. Cafodd yr MPTC gydnabyddiaeth am godi arian yn y gymuned, enillodd Ysgol Pont y Crychydd Wobr Gr?p Dug Caeredin am eu cyflawniadau parhaus, ac fe ganmolwyd y Zone ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ei waith gyda phobl ifanc.

 

Yn gynharach yn y mis, cafodd y Maer a'i gydweddog wahoddiad i gwrdd â 3 chyngor ysgol, Ysgol Gynradd Corneli, Afon y Felin ac Ysgol y Sgêr.  Bu'r plant yn eu holi ynghylch eu rolau, profiad llawn hwyl ond hefyd yn her! Cawsant wybod beth oedd teimladau a phryderon y bobl ifanc, ac roedd hi'n galonogol eu brwdfrydedd i gymryd rhan.

 

Dyma fanylion yr holl ddigwyddiadau y bu'r Maer yn bresennol ynddynt yn ddiweddar:

 

  • Agoriad clwb bechgyn a merched Nant-y-moel;
  • Gwasanaeth G?yl Ddewi Arglwydd Faer Caerdydd;
  • Codi arian er budd Bad Achub Porthcawl;
  • Gemau Mini-Olympaidd Bro Ogwr.
  • Agor ystafelloedd synhwyraidd Cymuned Mulligan;
  • Cawl a Chân Côr Pencoed;
  • Ailagor llyfrgell y Pîl;
  • Gwobrau Ieuenctid Cymunedol yr Uchel Siryf;
  • Cyfarfod 3 Ysgol Gynradd Corneli;
  • Cinio Elusennol Maer Castell-nedd Port Talbot.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Dechreuodd y Dirprwy Arweinydd drwy longyfarch disgyblion Ysgol Gynradd Cwmfelin am greu'r poster a enillodd gystadleuaeth a drefnwyd yn rhan o Ymgyrch Gwastraff Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Hyd yma, mae dros 3,000 o ddisgyblion o 39 o ysgolion cynradd wedi cael eu haddysgu drwy'r fenter hon ynghylch sut y gellir ailgylchu a gwastraff bwyd a'i droi'n drydan.

 

Gofynnwyd i bob disgybl ddylunio a chyflwyno poster i esbonio'r llu o fanteision sy'n gysylltiedig ag ailgylchu gwastraff bwyd, ac o Ysgol Cwmfelin y daeth y syniad buddugol.

 

Bydd y dyluniad hwn yn awr yn cael ei arddangos yn amlwg ar ochr cerbydau ailgylchu ar draws y fwrdeistref sirol, ac bydd disgyblion Cwmfelin yn cael mwynhau taith o amgylch Gweithfeydd Agrivert ym Mharc Stormy, i weld y broses ar waith.

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd ein tîm o'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Ariannol ddigwyddiad agored yng Nghanolfan Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr yng nghanol y dref.

 

Yr oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys BAVO, Canolfan MC, Cymunedau ar Waith, Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr, Hafod, y Zone a mwy.

 

Cafwyd ymateb gwych, a bu'r tîm yn ymgysylltu â mwy na 150 o bobl, yr oedd amryw ohonynt wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 288.

289.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn gobeithio fod yr Aelodau wedi gweld y cyhoeddiad diweddar fod canolfan drafnidiaeth integredig wedi'i chynllunio yn y Pîl yn rhan o fuddsoddiad £50 miliwn gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn prosiectau Metro a Mwy ledled De Ddwyrain Cymru.

 

Nod y rhaglen yw creu 'rhyngnewidfeydd' sy'n ymgorffori'r holl ddulliau teithio a all weithredu fel canolfannau allweddol i ddefnyddio rhwydweithiau metro newydd ac estynedig i gyrraedd gwaith, hyfforddiant, addysg, diwylliant, siopau a chyfleusterau hamdden drwy'r rhanbarth.

 

Gan fod bron 119,000 o deithiau wedi'u cychwyn o orsaf y Pîl yn 2016-17 - cyfanswm o 35 y cant o gynnydd o gymharu â 2012-13 - roedd hyn yn newyddion ardderchog, gan y bydd o fudd mawr i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, gan gynnwys y Pîl, Corneli, Mynydd Cynffig, Porthcawl a Chefn Cribwr.

 

Bwriedir buddsoddi swm sylweddol, gan gynnwys datblygiad parcio a theithio newydd gwerth £3 miliwn, lle i oddeutu 75 o geir, pwyntiau gwefru cerbydau trydan, mannau parcio beiciau, cysylltiadau gwell ag Ystâd Ddiwydiannol Village Farm a llawer mwy.

 

Fel Cadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru, roedd hi'n bleser gan yr Arweinydd gael cyhoeddi'r cynnig, ac roedd yn edrych ymlaen i weld y prosiect yn datblygu ymhellach.

 

Roeddem yn parhau i gefnogi ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac yr oedd wedi ymweld â'r ffatri yn ddiweddar gyda'n haelodau Seneddol, Madeleine Moon a Chris Elmore.

 

Roedd y lefel uchel o ddyfeisgarwch yng ngweithlu'r ffatri sy'n peri mai llinell Dragon yw llinell fwyaf cynhyrchiol Ford drwy'r byd, a'r ffaith bod gan y ffatri hefyd Adran Ymchwil a Datblygu o safon fyd-eang ar y safle, wedi creu cryn argraff arnynt.

 

Bydd dangos gwerth ychwanegol fel hyn yn si?r o gynyddu'r hyder yn nyfodol y ffatri, ac roeddem yn awyddus i gefnogi ac annog enghreifftiau fel hyn o arloesi.

 

O ganlyniad i'r ymweliad, bu modd inni gysylltu Ford â'n prosiect arloesol ein hunain i sbarduno systemau ynni, ac rydym wedi cynnwys rheolwr prosiect o Brifysgol De Cymru sy'n gyfrifol am ddatrysiadau storio ynni clyfar.

 

Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi cysylltu Ford ag Innovate UK, sefydliad cyhoeddus cenedlaethol sydd yn helpu busnesau i sicrhau twf economaidd drwy ymchwil a datblygu, yn ogystal â'r gronfa her ar gyfer datblygiadau newydd drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Mae'r cynigion yn mynd rhagddynt, a bydd Innovate UK yn ymweld â'r ffatri yn fuan. Mae pob un ohonom yn disgwyl y canlyniad, a bydd yn rhoi newyddion pellach i'r Aelodau wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

 

I gloi, dymunai'r Arweinydd roi'r newyddion diweddaraf ynghylch recriwtio Prif Weithredwr parhaol i CBS Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Rydym wedi cydweithio â Solace i baratoi i recriwtio ac i lunio hysbyseb, ac mae'r swydd bellach yn fyw.

 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 8 Ebrill, a bydd darpar ymgeiswyr yn cael gwahoddiad i ddod i ganolfan asesu ar 30 Ebrill.

 

Cynhelir y cyfweliadau terfynol o flaen holl Aelodau'r Cyngor ar 1 Mai, ac yn dilyn hynny bydd ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddewis a'i gyhoeddi.

 

Sicrhaodd yr Arweinydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 289.

290.

Newid Ffiniau'r Byrddau Iechyd - Y Diweddaraf pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor am y sefyllfa gyfredol o ran newid y Ffin Iechyd ym mis Ebrill 2019, er mwyn sicrhau bod yr Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith a gyflawnwyd, ac sy'n parhau i gael ei gyflawni er mwyn paratoi i newid y ffin iechyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

 

Fel gwybodaeth gefndir i hyn, dywedodd fod Llywodraeth Cymru, ar 13 Rhagfyr 2017, wedi cychwyn ymgynghoriad o dan y teitl 'Gweithio'n Effeithiol mewn Partneriaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Newid arfaethedig i ffin y Byrddau Iechyd i gysoni’r modd y gwneir penderfyniadau ar draws Iechyd a Llywodraeth Leol Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 7 Mawrth 2018.

 

Gofynnai'r ymgynghoriad am safbwyntiau ynghylch cynnig y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Cwm Taf), yn hytrach na Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn cysoni'r modd y gwneir penderfyniadau ar draws iechyd a llywodraeth leol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, o 1 Ebrill 2019, y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cael ei alw'n Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac y bydd rhanbarth Bae'r Gorllewin yn cael ei alw'n rhanbarth Gorllewin Morgannwg.  Yn yr un modd, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cael ei alw'n Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg, a rhanbarth Cwm Taf yn cael ei alw'n rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. 

 

O safbwynt awdurdod lleol, ychwanegodd fod newid y ffiniau yn effeithio ar nifer o wasanaethau yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr, er na cheir tarfu i'r un graddau ar wasanaethau cyffredinol â gwasanaethau'r Byrddau Iechyd o bosib. Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn bartner hanfodol yn Rhaglen Ranbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin, a chan hynny, o safbwynt awdurdod lleol, mae gwaith hollbwysig wedi cael ei gyflawni i amddiffyn gwasanaethau Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y cyfnod hwn o aflonyddwch, ac i sicrhau parhad yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg ar ôl 1 Ebrill 2019.  Gan hynny, bu'n hanfodol i CBS Pen-y-bont ar Ogwr fabwysiadu dull strwythuredig o ddatgyfuno gwasanaethau rhanbarthol. Er mwyn gwneud hyn bu'n rhaid cydweithio'n agos ag ystod o bartneriaid er mwyn sicrhau, lle bo cyllid rhanbarthol yn cefnogi gwasanaethau integredig, y rhoddir cyfrif am y gwasanaethau hynny rhwng Bae'r Gorllewin, Bwrdd Iechyd PABM a CBS Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Yna, cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, wrth gynllunio i newid ffiniau rhanbarthol, fod Rhaglen Bontio wedi'i sefydlu sy'n cynnwys, ar amrywiaeth o lefelau, Swyddogion o'r ddau Fwrdd Iechyd, CBS Pen-y-bont ar Ogwr a'r trydydd sector Roedd y strwythur llywodraethu wedi'i yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac yn dangos y Byrddau trosfwaol yn ogystal â'r ffrydiau gwaith sy'n cefnogi'r Rhaglen Bontio.

 

Roedd yr adroddiad wedyn yn cadarnhau bod y rhan fwyaf o'r agweddau sy'n effeithio ar CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u cynnwys yn y Ffrwd Waith Partneriaeth. Hi ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 290.

291.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 adroddiad ar y cyd a roddai'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i newid cyfradd ymyrraeth y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer Band B; gofynnodd i'r Cyngor gefnogi'r ymrwymiad ariannol diwygiedig oedd ei angen er mwyn cyflawni Band B o'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, ac yn olaf, cymeradwyo newid y Rhaglen Gyfalaf i adlewyrchu'r ymrwymiad newydd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 fod y Cabinet, yn 2010, wedi cymeradwyo'r cynlluniau a argymhellwyd a oedd wedi'u cynnwys ym mhob un o bedwar band y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion (A-D) y manylwyd arnynt wedyn yn Rhaglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif Pen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynwyd y RhAS i LlC yn 2011, ac fe gafwyd 'cymeradwyaeth mewn egwyddor' gan y gweinidogion ar ei chyfer, yn amodol ar gwblhau proses achos busnes LlC. 

 

Mewn adolygiad strategol o ddatblygiad a gwaith rhesymoli darpariaeth y cwricwlwm ac ystadau ar gyfer addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16 a gynhaliwyd yn 2016, nodwyd bod blaenoriaethau Band B wedi'u diwygio ers y rhai a nodwyd yn RhAS 2010.

 

Cafodd RhAS, sy'n adlewyrchu'r blaenoriaethau diwygiedig, ei chyflwyno i LlC ym mis Gorffennaf 2017. Yn dilyn hynny, cymeradwyodd y Cabinet i derfynu'r cynlluniau Band B gwreiddiol a nodwyd ym mis Tachwedd 2010 a chymeradwyo'r rhestr ddiwygiedig.

 

Roedd paragraff 3.6 wedyn yn amlinellu'r cynlluniau dan sylw.

 

Ym mis Rhagfyr 2017, cafwyd 'cymeradwyaeth mewn egwyddor' gan LlC ar gyfer yr ail don o fuddsoddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Amcangyfrifir mai cwmpas costau'r rhaglen yw £68.2 miliwn ar hyn o bryd. 

 

Ym mis Ionawr 2018, rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth mewn egwyddor ar gyfer yr ymrwymiad ariannol yr oedd ei angen ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, yn amodol ar ganfod a neilltuo adnoddau digonol er mwyn bodloni'r ymrwymiad o ran arian cyfatebol.

 

Parhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 drwy ddweud bod LlC wedi diwygio'r ymagwedd at gaffael MBC yn 2018. Byddai Partner Cyflawni'r Sector Preifat yn cael ei gaffael i fod yn brif gyfranddaliwr mewn Partneriaeth Addysg Cymru, gydag awdurdodau lleol (ALlau) a sefydliadau addysg bellach yn cymryd rhan gyda'i gilydd; LlC fyddai'n dal gweddill y cyfranddaliadau. Byddai Partneriaeth Addysg Cymru yn gallu cyflawni cynlluniau cyfalaf, ac eithrio prosiectau Band B. Yn sgil adolygiad LlC o'r MBC, ystyrir bellach nad yw'r trefniant ariannu hwnnw yn addas i gyflenwi ysgolion arbennig.

 

Ym mis Tachwedd 2018, ailystyriodd y Cabinet opsiynau ariannu'r rhaglen, gan benderfynu, o gymharu'r gost debygol i'r awdurdod lleol dros gyfnod o 30 mlynedd, mai'r defnydd gorau o adnoddau ariannol y Cyngor fyddai defnyddio cyfuniad o gyfalaf a MBC i gyflawni Band B.

 

Ar ôl penderfyniad y Cabinet ym mis Tachwedd, a chyn cyfarfod y Cyngor, ychwanegodd fod LlC wedi cyhoeddi ei bod wedi adolygu ei chyfradd ymyrraeth ar gyfer grantiau cyfalaf, gan gynyddu'r gyfradd o 50% i 75% ar gyfer cynlluniau ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, ac o 50% i 65% ar gyfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 291.

292.

Datganiad Polisi Tâl 2019/20 pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadol adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2019/20. Roedd hyn mewn ymateb i ofynion deddfwriaethol ac er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn agored ac yn atebol o ran y modd y mae'n gwobrwyo ei staff.

 

Dywedodd fod Datganiad y Polisi Tâl yn creu'r fframwaith ar gyfer penderfyniadau ynghylch tâl, ac yn enwedig, penderfyniadau ynghylch tâl uwch swyddogion.

 

Roedd fersiwn wedi'i diweddaru o'r Datganiad Polisi Tâl wedi'i hatodi i'w hystyried gan yr Aelodau yn Atodiad A yr adroddiad. Roedd y datganiad wedi cael ei lunio yn unol â gofynion Deddf Lleoliaeth 2011, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob awdurdod lleol lunio a chyhoeddi ei bolisi ar bob agwedd ar dâl Prif Swyddogion.

 

Ers cyflwyno'r Polisi ar 1 Ebrill 2012, yr oedd wedi datblygu i fod yn ystyriol o ganllawiau, deddfwriaeth a newidiadau perthnasol i strwythur uwch reoli'r Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf.

 

O hyn allan, teimlai Aelod y dylai adroddiadau o'r natur hwn fod ar gael i Gynghorwyr gyflwyno sylwadau pellach yn eu cylch (pe baent yn teimlo bod angen gwneud hynny) cyn y 3 diwrnod gwaith clir cyn cyflwyno'r Datganiad Polisi Tâl i'w gymeradwyo'n ffurfiol gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:                         Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl 2019/20 a nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

293.

Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd hysbysu'r Cyngor am yr Adroddiad Gwybodaeth i'w nodi a oedd wedi cael ei gyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf a amserlennwyd.

 

Roedd yr Adroddiad Gwybodaeth dan sylw yn cael ei drafod ym mharagraff 4.1 yr adroddiad. Teitl yr adroddiad oedd 'Trafodion Partïon Cysylltiedig 2018-19 a'r Datganiad Cyfrifon.'

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio fod y ffurflenni ar gyfer yr uchod wedi'u cyflwyno i'r Aelodau er mwyn iddynt eu llenwi a'u hanfon yn ôl i'r Adran Gyllid (Nigel Smith) erbyn 12 Ebrill 2019 ar yr hwyraf.  

 

PENDERFYNWYD:                     Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi'r ddogfen/dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad.

294.

Derbyn y Cwestiynau a ganlyn oddi wrth:

1.               Cynghorydd C Webster i’r Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Sut mae'r Aelod Cabinet yn cynnig lleihau nifer y plant sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol?

 

2.               Cynghorydd T Giffard i’r Arweinydd

 

Fel cyfranogwr a buddsoddwr sylweddol ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a allai’r Arweinydd amlinellu’r prosiectau a gadarnhawyd hyd yma a fydd yn elwa pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

 

3.               Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet  Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

A all yr aelod cabinet perthnasol amlinellu beth a wnaed i leihau cyfraddau ysmygu yn y fwrdeistref sirol ar gyfer y rhai hynny sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi?

 

4.               Cynghorydd A Hussain i’r Dirprwy Arweinydd

 

Yn Lloegr, methodd 40% o larymau mwg wedi’u pweru gan fatri a 22% wedi’u pweru gan drydan mewn tai preswyl.  Dengys ystadegau diwydiant bod  mwy nag un o bob pump o berchnogion tai  byth yn profi eu larymau a bod 1:10 heb larwm mwg sy’n gweithio.

 

Yng Nghymru, ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 8,271 o danau mewn tai preswyl rhwng 2017 -18, cynnydd o 25% ac mewn 3:10 o’r rhain nid oedd larwm mwg wedi ei osod.

 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL), sy'n cynrychioli dros 370 o gynghorau ac awdurdodau tân yng Nghymru a Lloegr, yn annog preswylwyr i brynu larymau mwg a gwirio eu bod yn gweithio yn rheolaidd.

 

A ydym ni’n ymwybodol o’r ystadegau ar gyfer larymau mwg diffygiol yma yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a beth yw ein polisi i gadw ein trigolion yn ddiogel?

 

5.            Cynghorydd MC Voisey i’r Aelod Cabinet Cymunedau

 

A wnaiff yr aelod  cabinet hysbysu’r Cyngor ynghylch nifer yr hysbysiadau cosb gorfodol a gyflwynwyd, ynghyd â’u gwerth, yn ystod y 12 mis diwethaf ar gyfer: 

 

Troseddau parcio

Baw C?n

Sbwriel a thipio anghyfreithlon

Diffyg cydymffurfio â rheoliadau casglu gwastraff.

Cofnodion:

Y Cynghorydd C Webster i'r Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Sut mae'r Aelod Cabinet yn cynnig y dylid lleihau nifer y plant â Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig sydd yn cael eu gwahardd o'r ysgol?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

GWAHARDDIADAU A DDERBYNIWYD GAN BLANT Â DATGANIAD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR

 

Blwyddyn academaidd

Nifer y Gwaharddiadau Parhaol

Nifer y Gwaharddiadau Cyfnod Penodol (GCPau)

% y cyfanswm o GCPau ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Nifer y Diwrnodiau a Gollwyd yn Sgil GCPau

% o gyfanswm y diwrnodiau a gollwyd i GCPau mewn perthynas â holl GCPau PYBaO

2014-15

0

80

11.4%

228.5

12.3%

2015-16

1

85

11.1%

234.5

13.1%

2016-17

0

56

7.2%

152.5

7.7%

2017-18

0

96

13.4%

277.5

15.9%

 

Gwelir o'r tabl mai ond un disgybl â datganiad a gafodd ei wahardd yn barhaol rhwng 2014 a 2018.  Er nad oes unrhyw ddata cenedlaethol cymaradwy, credir bod hyn yn rhoi adlewyrchiad cadarnhaol o'r ysgolion a'r awdurdod lleol.

 

Gellir gweld bod nifer a chanran y gwaharddiadau cyfnod penodol wedi codi a gostwng dros yr un cyfnod.  Mae'r Adran Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn cydnabod y bu cynnydd mewn ymddygiad tariff uchel ymhlith plant iau, ac wedi ymateb i hyn drwy datblygu darpariaeth ychwanegol yn y cyfnod sylfaen yn Narpariaeth Amgen y Bont. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymyrryd yn fuan a, lle bo'n briodol, i rwyddhau'r broses o ddychwelyd i'r ysgol.  Yn ogystal â hyn, cydnabuwyd bod nifer fach o blant sydd wedi arddangos ymddygiad eithriadol o heriol a'u hanghenion yn wahanol i'r proffil a dderbynnir fel arfer yn Ysgol Bryn Castell.  Mae adolygiad o'r ddarpariaeth wedi'i gynllunio ar gyfer tymor yr haf 2019.

 

Yn sgil ad-drefnu Cynhwysiant yn ddiweddar, mae rôl statudol y Prif Seicolegydd Addysg wedi'i chryfhau. Ffocws y rôl hon bellach yw bod yn rheolwr llinell i'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg. Nid yw'n cynnwys bod yn rheolwr llinell ar gyfer gwasanaethau eraill o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant.

 

Un o flaenoriaethau strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yw datblygu ffocws trawsgyfarwyddiaethol ar adnabod anghenion yr unigolyn yn fuan er mwyn hyrwyddo gweithdrefnau a chanlyniadau graddedig mwy effeithiol.  Mae Adroddiad Hunanwerthuso'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd 2018-19 yn cyflwyno ystod o dystiolaeth i gefnogi'r gweithgarwch hwn.

 

Yn sgil yr adolygiad o Addysg Heblaw yn yr Ysgol (AHY), ym mis Mawrth 2018, cafodd panel mynediad at addysg ei sefydlu. Bydd hyn yn sicrhau ymdriniaeth brydlon ag anghenion disgyblion. Yn rhan o'r adolygiad hwn, adolygwyd protocolau fel symud ac addysg dan reolaeth. Bydd argymhellion adolygiad AHY yn cael eu gweithredu'n llawn yn ystod 2019-20.

 

I gyd-fynd a'r panel mynediad at addysg, mae model tîm o amgylch yr ysgol wedi cael ei sefydlu ym mron bob un o'r ysgolion uwchradd lle mae'r ymateb graddedig gan ystod o dimau yn cael ei archwilio. Mae'r model hwn yn cael ei gryfhau ymhellach drwy gyflwyno cynllun lle bydd penaethiaid cynradd yn cefnogi pontio disgyblion o ysgolion cynradd, gyda ffocws ar adnabod anghenion yn gynnar.

 

Ar ddiwedd 2017, cynhaliodd yr awdurdod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 294.

295.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.

296.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.   

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                       Y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem a ganlyn, o dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y cafodd ei diwygio gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, gan fod yr eitem honno'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 ac ym Mharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y cafodd ei diwygio gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

 

                                     Ar ôl cymhwyso’r prawf budd cyhoeddus, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, er mwyn trafod yr eitem a ganlyn yn breifat, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir uchod.

297.

Costau Dileu Swyddi ac Ymddeoliad Cynnar sy’n fwy na £100,000