Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Democratic Services Manager

Eitemau
Rhif Eitem

298.

Y Cyn Gynghorydd LC Morgan

Cofnodion:

Gyda thristwch, cyhoeddodd y Maer farwolaeth y cyn Gynghorydd ac Aelod Cabinet LC Morgan, cododd pawb ar eu traed mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

Talodd yr Arweinydd deyrnged i’r cyn Gynghorydd Morgan a ystyriodd yn gyfaill yn ogystal â chydweithiwr. Talodd deyrnged hefyd i’w wasanaeth hir i gymuned Ynysawdre yr oedd wedi’i chynrychioli ers 30 mlynedd, gan eistedd ar hen Gyngor Sir Morgannwg Ganol. Datganodd mai ei etifeddiaeth barhaol oedd y rhan a chwaraeodd yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen, pwll nofio Ynysawdre, Ysgol Gynradd newydd Brynmenyn ac ar ôl hynny gwireddu T? Ynysawdre. Roedd Cymunedau’r Cabinet yn drist o glywed am farwolaeth y cyn Gyng. Morgan a wasanaethodd yr awdurdod hwn fel un o’i Aelodau sefydlu a’r Cyngor Sir a’i rhagflaenodd yn rhagorol, ac roedd yn ei ystyried yn gyfaill mynwesol.

 

Talodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio deyrnged i’r cyn Gynghorydd Morgan a roddodd groeso iddo fel Aelod Cabinet ac y rhannodd y ddau ohonynt gariad at wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a theithio yn Sbaen.  Wrth dalu teyrnged i’r cyn Gynghorydd Morgan, datganodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar iddo ddysgu cryn dipyn oddi wrtho ac roedd y ddau ohonynt wedi gweithio yn y diwydiant mwyngloddio. Gweithiodd y cyn Gynghorydd Morgan mewn achub ac iechyd a diogelwch yn y pyllau. Datganodd y byddai’n ei golli’n arw ac roedd yn meddwl am ei deulu.

 

Wrth dalu teyrnged i’r Cynghorydd Morgan, datganodd y Cynghorydd Watts, er gwaetha’u gwahaniaethau gwleidyddol, eu bod nhw wedi dod yn ffrindiau a byddai’n cael ei golli’n arw. Talodd y Cynghorydd T Thomas deyrnged i’r cyn Gynghorydd Morgan a ystyriwyd yn gynnes gan gymuned Ynysawdre yr oedd yn ei chynrychioli. Datganodd y Cynghorydd Green ei fod yn drist ofnadwy o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Morgan a dim ond atgofion da oedd ganddo amdano.              

299.

Datgan Cysylltiad

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Gwnaed y Datganiad Cysylltiad canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd DBF White Gysylltiad Anffafriol yn eitem 11 yr Agenda – Diswyddiadau a Chostau Ymddeol yn Gynnar o Dros £100,000 gan mai rheolwr llinell ei wraig oedd y gweithiwr. Gadawodd y Cynghorydd White y cyfarfod wrth i’r eitem hon gael ei hystyried.    

300.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 931 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/03/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 20 Mawrth 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

301.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr Dros Dro

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer wybod i’r Cyngor am yr ymrwymiadau yr oedd ef a’i Gymar wedi’u mynychu yn ystod y mis diwethaf a oedd yn cynnwys y Gwobrau Dinasyddiaeth lle diolchodd y swyddogion am eu hymdrechion i wneud y diwrnod yn llwyddiant. Agorodd y Maer a’i Gymar Ysgol Gynradd newydd Pencoed a mynychodd agoriad Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd ym Metws. Yn  ogystal, mynychodd y Maer a’i Gymar ginio Dathlu Deugain Rockwool, Cinio rhyng-grefyddol Cyngor Moslemaidd Cymru, agoriad Arddangosfa Vernon Hartshorn, Cinio Llywyddol y Clwb Rotari, Cyflwyniad Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Alan Humphreys a Chyngerdd Flynyddol Côr Merched Llynfi. Agorodd hefyd y toiledau a’r ardaloedd newid newydd i’r anabl yn Halo Bridgend, cyflwynodd wobrau yn nhaith Feicio Elusennol Clwb Rotari Pen-y-bont ar Ogwr, dawns elusennol Maer Porthcawl, gwasanaeth Sul y Blodau yn Amlosgfa Margam a phen-blwydd Priodas Mr a Mrs G Evans o Faesteg o 60 o flynyddoedd.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd wybod i’r Aelodau am agoriad diweddar y ddwy ysgol gynradd newydd yn Ysgol Gynradd Pencoed ac Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, Betws, sy’n gwasanaethu cymoedd Garw ac Ogwr, lle mae 3 o’i wyrion yn ddisgyblion. Datganodd fod y Cyngor yn eithriadol o ddiolchgar am y cyllid a dderbyniodd gan Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif, a rhoddodd ganmoliaeth i BAM Construction am eu gwaith yn Ysgol Gynradd Pencoed ac i Andrew Scott Ltd, sef adeiladwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, a gyflwynodd ddwy ysgol hynod drawiadol sy’n galluogi’r disgyblion a’r athrawon i elwa ar amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf a chefnogi disgyblion i ragori a diwallu eu potensial.

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod dros 80 o entrepreneuriaid lleol addawol wedi cael y wybodaeth a’r offer angenrheidiol i ddechrau eu busnes eu hunain ar ôl mynychu cwrs wythnos o hyd gyda’r PopUp Business School. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, a gefnogwyd gan dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y Cyngor, a ariannwyd trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Bydd entrepreneuriaid lleol yn parhau i gael eu cefnogi ac mae manylion ar gael ar wefan y Cyngor.

 

Aelod Cabinet Cymunedau

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y bydd y cyngor yn cymryd rhan yn rhaglen effeithlonrwydd ynni domestig diweddaraf Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chreu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ar draws Cymru. Bydd cannoedd o gartrefi lleol yn gymwys i dderbyn arian newydd yn nes ymlaen eleni i gyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni, sydd wedi’u hanelu at leihau biliau tanwydd. Ymhlith y mesurau arbed ynni y gellir eu hariannu trwy’r rhaglen mae: diogelu rhag drafft, bylbiau golau ynni isel, inswleiddio’r llofft, inswleiddio wal geudod, falfiau rheiddiadur thermostatig, systemau gwres canolog, rheiddiaduron, a thechnolegau adnewyddadwy fel pympiau gwres a phaneli solar. Datganodd y bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag Arbed am Byth a Llywodraeth Cymru i benderfynu ble fydd y rhaglen yn cael ei chynnig yn lleol i wneud y mwyaf o’i heffaith.

 

Yn ogystal, rhoddodd yr Aelod Cabinet Cymunedau wybod i’r Cyngor am lansiad diweddar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 301.

302.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd wybod i’r Cyngor fod y broses recriwtio am Brif Weithredwr parhaol yn parhau, a bod hyn yn cael ei gefnogi gan Solace in Business. Roedd y dyddiad cau am geisiadau ar 8 Ebrill, gyda’r Pwyllgor Penodiadau’n cwrdd yfory i ymgymryd â llunio’r rhestr hir o geisiadau sydd wedi dod i law. Bydd yr ymgeiswyr dethol yn mynychu canolfan asesu ar 30 Ebrill gyda chyfweliad i ddilyn gyda’r Pwyllgor Penodiadau a chyflwyniad i gyfarfod Eithriadol y Cyngor ar 1 Mai. 

 

Adroddodd yr Arweinydd fod y cyntaf o ddau gyfleuster Gofal Ychwanegol newydd sbon wedi agor yr wythnos diwethaf. Datganodd fod T? Ynysawdre’n cyflym droi’n ased cymunedol gwerthfawr, ac yn cynrychioli dull cwbl newydd o ofalu am bobl sy’n h?n ac yn fwy agored i niwed. Ynghyd â’i chwaer ddatblygiad ym Maesteg, bydd T? Ynysawdre’n cynnig manteision enfawr i bobl leol, ac yn ffurfio rhan fawr o’r cynlluniau parhaus i foderneiddio gwasanaethau gofal preswyl. Datganodd fod y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Linc Cymru i ddarparu’r asedau cymunedol hollbwysig hyn a fyddai’n dod yn ddatblygiad tirnod a phoblogaidd a gydnabyddir ar raddfa eang yn y Fwrdeistref Sirol. Diolchodd i bawb a helpodd wireddu’r cyfleuster hwn.

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod i’r Cyngor hefyd fod y paratoadau ar gyfer Brexit yn parhau, ac fel rhan o hyn, bydd cefnogaeth ar gael i helpu gwladolion yr UE heb fod o’r DU sy’n dymuno parhau i fyw a gweithio’n lleol. Yn ddiweddar, lansiodd y Swyddfa Gartref ei Chynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac fel rhan o’r broses hon, mae swyddogion yn ymchwilio a all y Cyngor gynnig gwasanaeth ‘archwilio’ ar gyfer ceisiadau gorffenedig i sicrhau bod yr holl ddogfennau hunaniaeth perthnasol wedi’u cynnwys. Mae’r gwasanaeth yn debygol o fod ar gael naill trwy’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid neu yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr, gyda’r bwriad o gyflymu’r broses ymgeisio a chynnig sicrwydd a thawelwch meddwl i drigolion lleol a allai gael eu heffeithio. Bydd y gwasanaeth am ddim i’w ddefnyddio a bydd Aelodau’n cael manylion pellach am y fenter hon wrth iddi ffurfio ac wrth i ragor o fanylion ddod yn hysbys.

303.

Cynllun Ariannol wedi’i Diweddaru i Ysgolion pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro gael cymeradwyaeth i’r Cynllun Ariannol diwygiedig i Ysgolion, yn enwedig y terfynau ariannol wedi’u diweddar ar gyfer yr archebion sefydlog ar gyfer contractau i ysgolion. 

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod gan ysgolion eu Cynllun Ariannol eu hunain sy’n gosod gofynion ariannol cyrff llywodraethol. Mae adolygiad o’r Cynllun wedi digwydd oherwydd nifer o brosesau a newidiadau gweithdrefnol angenrheidiol, gyda’r prif newidiadau wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Bu’r Cynllun drafft yn destun ymgynghori, heb unrhyw sylwadau na diwygiadau wedi’u cynnig gan gyrff llywodraethol. Datganodd fod y Cynllun diwygiedig yn dod â’r terfynau yn yr archebion sefydlog ar gyfer contractau i ysgolion i’r un lefel â’r rhai a gytunwyd ar gyfer y Cyngor yn ei Reolau Gweithdrefnau Contractau a, lle bo’n briodol, cynghorir yr ysgolion i geisio cefnogaeth yr adran Caffael Corfforaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a fyddai cyrff llywodraethol yn cael hyfforddiant ar y Cynllun diwygiedig, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y byddai’r hyfforddiant hwnnw’n cael ei gynnal.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Ariannol diwygiedig ar gyfer Ysgolion at ddibenion gweithredu’n syth.    

304.

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet – Cymunedau

Mae ein polisi tipio presennol wedi dyddio ac nid yw’n bodloni anghenion ein preswylwyr yn y Fwrdeistref. O edrych o amgylch, mae Awdurdodau cyfagos eraill wedi llwyddo i newid eu polisi tipio ac yn arbed arian i drethdalwyr.

 

Pryd fyddwn ni’n diwygio’r polisi hwn?

 

Cofnodion:

Mae ein polisi tipio presennol wedi dyddio ac nid yw’n bodloni anghenion ein trigolion yn y Fwrdeistref. O edrych o gwmpas, mae Awdurdodau cyfagos eraill wedi newid eu polisi tipio’n llwyddiannus ac yn arbed arian y trethdalwyr. Pryd ydym yn adolygu’r polisi hwn?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Adolygwyd y polisi trwyddedu presennol ar gyfer faniau a threlars mawr cyn gosod y contract gwastraff ym mis Ebrill 2017.

 

Rhaid wrth system rheoli a monitro effeithlon o ran y defnydd o gerbydau masnachol mewn canolfannau ailgylchu er mwyn sicrhau mai dim ond defnyddwyr preswyl gwirioneddol sy’n defnyddio’r safleoedd.  Rhaid sicrhau nad yw’r safleoedd yn destun camdriniaeth gan fusnesau/mentrau masnachol sy’n ceisio gwaredu ar eu gwastraff am ddim ar draul y cyhoedd.

 

Mae’r system gyfredol yn gadael i ddefnyddwyr preswyl gwirioneddol gyda cherbydau o fath masnachol i ddefnyddio’r safleoedd (Heb gynnwys Brynmenyn oherwydd cyfyngiadau gallu ffisegol y safle) trwy system drwyddedu cyhyd â’u bod yn trefnu’r ymweliad safle 24 awr ymlaen llaw.

 

Bodola systemau rheoli ar ffurf trwyddedau tebyg gydag awdurdodau cyfagos fel Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Bro Morgannwg (ffi Bro Morgannwg o £15 y drwydded). Nid yw RhCT yn gweithredu system drwyddedu ond mae ganddo broses rhy heriol lle mae’n rhaid i ddefnyddwyr ddod â bil gwasanaeth, llythyr gan y cwmni cerbydau ar bapur pennawd sy’n datgan bod gan y defnyddiwr yr hawl i ddefnyddio’r cerbyd at ddefnydd personol neu gytundeb llogi, disgrifiad llawn o’r gwastraff a phrawf nad yw’r gwastraff yn fasnachol.

 

Cyn rhoi’r system reolaeth gyfredol ar waith yn 2010, roedd safleoedd amwynder CBSP yn destun camdriniaeth gwastraff masnach sylweddol, mae’r dulliau rheoli sydd ar waith ar hyn o bryd yn hollbwysig ac yn llwyddiannus. Gan fod y rhain wedi’u hadolygu’n ddiweddar a bellach yn rhan o’r trefniant cyfamodol gyda Kier, ni fwriedir ailymweld â nhw hyd nes i’r contract gwastraff nesaf cael ei gaffael.

 

Gofynnodd y Cynghorydd T Giffard gwestiwn ychwanegol o ran ble gallai’r trigolion gael gwybodaeth am y polisi tipio. 

 

Datganodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau y gall trigolion gael gwybodaeth o wefan y Cyngor, ynghyd â manylion yr oriau agor a sut gall trigolion gael trwyddedau ar gyfer trelars a meintiau trelars.    

305.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

306.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiad sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.  

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o’r eitemau busnes canlynol gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad Paragraff 12 Rhan 4 a Pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

Yn dilyn gweithredu prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd cyfeirio at yr uchod yn unol â’r Ddeddf, er mwyn ystyried yr eitemau a grybwyllir isod yn breifat gyda’r cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod oherwydd byddai’n cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y datganwyd uchod.

307.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion wedi’u eithrio cyfarfod y 20/03/19

 

308.

Costau Diswyddo ac Ymddeoliad Cynnar o Dros £100,000

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z