Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Andrew Rees Democratic Services Manager
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Datgan Buddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
||
I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/04/19, 01/05/19 a 15/05/19
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD Bod cofnodion cyfarfodydd y Cyngor ar 17 Ebrill a 1 Mai 2019 a chyfarfod blynyddol y Cyngor ar 15 Mai 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
||
Derbyn cyhoeddiadau gan: (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu) (ii) Aelodau’r Cabinet (iii) Prif Weithredwr (iv) Swyddog Monitro
Cofnodion: Y Maer
Derbyniodd y Cyngor hysbysiad gan y Maer yn ymwneud â’r ymgysylltiadau yr oedd wedi'u cynnal ers ei Urddo, gan gynnwys mynychu G?yl Maesteg a mynychu YMCA Porthcawl i nodi pen-blwydd y Sefydliad Cenedlaethol yn 175 oed. Hyd yma, y mae fwyaf balch o gwrdd â disgyblion Ysgol Gyfun yr Archesgob McGrath yn Rowndiau Terfynol Cwmniau Young Enterprise ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd, a dysgu am eu busnes 'Archways', offer adolygu sy’n defnyddio olewau persawrus. Enillodd y disgyblion rownd derfynol Cymru a byddant yn parhau i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol DU Young Enterprise. Dymunodd y Maer bob lwc i’r disgyblion.
Dirprwy Arweinydd
Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor heddiw yn nodi National Refill Day, sef ymgyrch i leihau'r defnydd o blastig untro drwy annog bwytai, caffis, a busnesau i ail-lenwi poteli d?r cwsmeriaid am ddim. Gall busnesau gofrestru ar-lein yn refill.org.uk, tra gall pobl lawrlwytho ap sy'n dangos iddynt lle gallant lenwi eu poteli.
Rhoddodd wybod i'r Aelodau hefyd am adroddiadau'n ymwneud â dau ddyn sy'n ffugio bod yn swyddogion sbwriel 3GS newydd, ac sy’n mynnu taliadau arian parod ar unwaith ar gyfer troseddau taflu sbwriel. Anogodd y cyhoedd i gadw llygad am y sgam a dywedodd fod y swyddogion gorfodaeth bob amser yn gwisgo bathodynnau a chardiau adnabod swyddogol a byth yn gofyn am daliad arian parod. Bydd swyddogion gorfodaeth yn rhoi tocyn sydd arno fanylion y drosedd ac sy’n cynnig dulliau o dalu.
Soniodd y Dirprwy Arweinydd am ddau brosiect Trosglwyddo Asedau hefyd. Yn gyntaf, y parc sglefrfyrddio newydd ym Mhencoed, sy’n denu llawer o ymwelwyr. Mae’r prosiect £59,000 wedi dod yn sgil partneriaeth rhwng yr Awdurdod â Chyngor Tref Pencoed. Yn ail, mae £550,000 wedi’i wario ar Glwb Rygbi Bryncethin er mwyn ei drawsffurfio’n ganolfan gymunedol newydd, dyma ffrwyth llafur caled gan y Clwb a wnaed gyda chefnogaeth y tîm Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Cafodd y ddau brosiect eu cwblhau er budd eu cymunedau lleol.
Aelod Cabinet Gwasanaeth Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wrth yr Aelodau fod y côr gofalwyr, Off Duty, wedi dathlu wythnos gofalyddion drwy ryddhau sengl a fideo elusen am y tro cyntaf. Dywedodd fod y côr wedi'i ffurfio er mwyn rhoi cyfle i ofalwyddion lleol gael amser i'w hunain ac i gymdeithasu. Mae'r côr wedi cael ei sefydlu gyda chefnogaeth y Cyngor, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a Chanolfan Gofalyddion Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd wrth ei fodd yn gweld fod menter newydd o'r enw 'Super-Agers' ar gyfer gwella iechyd meddyliol a chorfforol oedolion h?n am derbyn cyfran o gyllid o £5.4m. Nod y cynllun yw sefydlu rhaglen gweithgarwch corfforol ranbarthol ar gyfer oedolion 50 oed a throsodd i'w helpu i fyw'n iach ac yn egnïol gan leihau'r pwysau ar wasanaethau cymorth. Mae’r cynllun yn un o 17 o brosiectau sy'n elwa o’r Gronfa Iach ac Egnïol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol
Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenhedlaethau’r Dyfodol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 329. |
||
Derbyn adroddiad yr Arweinydd Cofnodion: Cyhoeddodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod Ford yn bwriadu cau ei Ffatri Beiriannau y flwyddyn nesaf. Mae cyfarfod lefel uchel rhwng arweinwyr busnes lleol a chyflogwyr yn cael ei drefnu i drafod cydweithio i helpu'r economi leol i ymateb i’w chau. Mae'r Cyngor hefyd yn ail-lansio dwy fenter ariannu fawr a fydd yn cefnogi cwmnïau'r gadwyn gyflenwi a busnesau a gaiff eu heffeithio gan y cyhoeddiad.
Dywedodd fod Ford wedi’u hen ystyried fel cwmni angori yn economi De Cymru, a bydd y Gronfa Adfywio Arbennig yn helpu cwmnïau lleol i arallgyfeirio a buddsoddi er mwyn ffynnu a manteisio ar gyfleoedd busnes newydd. Mae'r Gronfa Kick Start yn ceisio cefnogi busnesau newydd a chreu swyddi ffres o fewn eu tair blynedd gyntaf o fasnachu drwy eu helpu i fuddsoddi mewn offer a chostau cychwyn eraill.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd camau cyflym a brys gyda'r newyddion bod tîm ymateb arbennig yn cael ei gynnull i gefnogi gweithwyr, busnesau a chymunedau lleol. Bydd y Cyngor yn cynnig cymorth diswyddo i weithwyr y ffatri beiriannau, yn ogystal â mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd. Dywedodd fod staff Ford yn weithwyr medrus o'r radd flaenaf, a lle bynnag y bo'n bosibl bydd y Cyngor yn annog busnesau eraill o fewn y fwrdeistref sirol i gynnig gwaith arall iddynt. Mae nifer o fentrau ar waith a allai gefnogi hyn, megis Cronfa ReAct sy'n helpu cyflogwyr newydd i gwrdd â chostau recriwtio a hyfforddi, neu raglen cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr sy'n helpu pobl i addasu, i ailhyfforddi, i ennill sgiliau newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.
Dywedodd, os bydd y cau yn digwydd, y bydd angen buddsoddiad sylweddol ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn gwrthbwyso rhywfaint o'r effaith enfawr a gaiff hyn ar yr economi leol, ar yr ardal, ac ar y gymuned. Cyhoeddodd yr Arweinydd y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mater pryderus hwn.
Cyhoeddodd yr Arweinydd fod mynediad cyhoeddus llawn at Town Beach, Porthcawl ar ei newydd wedd wedi'i adfer yn ddiweddar. Mae cwblhau'r amddiffynfeydd môr newydd gwerth £3m wedi gweddnewid yr ardal, a elwid gynt yn draeth tarmac, yn llwyr. Mae dyluniad y terasau yn golygu eu bod yn dargyfeirio grym y tonnau i'r naill ochr a'r llall, yn hytrach na thua’r lan yn uniongyrchol. Bydd hyn yn sicrhau bod 260 o adeiladau, gan gynnwys y Pafiliwn mawr, ar lan y môr yn cael eu gwarchod rhag llifogydd ac erydu arfordirol. Diolchodd i bawb a fu'n gysylltiedig â chwblhau’r prosiect.
Rhoddodd yr Arweinydd ei longyfarchion i Ysgol yr Archesgob McGrath a gafodd gydnabyddiaeth hyn yng ngwobrau Young Enterprise Waled yn ddiweddar, a hynny wedi i ddisgyblion sefydlu prosiect o'r enw ‘Archways' sy'n hyrwyddo aromatherapi fel cymorth adolygu. Mae'r gwobrau yn helpu i adeiladu sgiliau trosglwyddadwy ac annog dyfeisgarwch, a chan iddynt ddod i’r brif, yr ysgol fydd bellach yn cynrychioli Cymru yng ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 330. |
||
I dderbyn y cwestiynau canlynol gan: Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau Dyfodol A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu’r prif argymhellion ar adroddiad diweddar Arolygiad Prawf EM ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid ym Mae’r Gorllewin?
Cynghorydd R Stirman i’r Aelod – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar A allai’r aelod Cabinet perthnasol roi gwybod beth yw’r gost ychwanegol i BCBC am gyflenwi gofal a chymorth i aelodau’r ystâd ddiogel am fod y grant gan Lywodraeth Cymru wedi’i rannu ar draws y 22 Awdurdod Lleol i gyd yn hytrach na thrwy grant uniongyrchol i’r ALlau hynny a oedd â charchar o fewn eu ffiniau?
Cynghorydd A Hussain i’r Dirprwy Arweinydd All yr Aelod Cabinet mewn gofal o dwristiaeth roi gwybod i'r Cyngor am ei gynlluniau i gefnogi sgiliau yn y sector twristiaeth yn ogystal â rhoi gwybod i ni am y bylchau mewn darpariaeth a data, a hefyd ddangos sut y gallai’r Cyngor wneud ein cyrchfannau glan y môr yn boblogaidd?
Cynghorydd M Voisey i’r Dirprwy Arweinydd A wnaiff y dirprwy arweinydd ddweud wrth y cyngor pa sancsiynau, os oes sancsiynau o gwbl, sydd wedi’u gosod ar Kier, yngl?n â’r contract gwastraff, ers eu penodi?
Cofnodion: Cwestiwn Gan y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol
A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu prif argymhellion yr adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn y Bae Gorllewinol?
Ymateb yr Aelod Cabinet
Gellir gweld argymhellion Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi ar dudalen 7 yr adroddiad arolygu llawn.
Gwnaed 14 o argymhellion mewn perthynas â nifer o bartneriaid ac fe'u nodir isod:
Dylai Bwrdd Rheoli Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin:
1. Adolygu ac egluro ei rôl a'i swyddogaeth, gan gynnwys yr holl bartneriaid statudol, a gweithio mewn ffordd effeithiol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu i safon ddigonol.
2. Sicrhau bod asiantaethau partneriaeth yn darparu cymorth a gwasanaethau priodol.
3. Datblygu goruchwyliaeth effeithiol o waith y gwasanaeth a her effeithiol i bartneriaid.
4. Datblygu cynllun clir i reoli'r gwaith o ddadgyfuno timau troseddau ieuenctid unigol o'r gwasanaeth, a hynny er mwyn cyfyngu ar unrhyw effaith andwyol ar y rhannau sy'n weddill o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin.
5. Darparu'r adnoddau a'r gefnogaeth i'r tîm rheoli allu rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.
6. Adolygu rôl a swyddogaeth y gwasanaeth atal.
Dylai Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin:
7. Sicrhau bod yr holl staff yn cael goruchwyliaeth briodol a goruchwyliaeth gan reolwyr.
8. Adolygu'r strwythur rheoli a'r llinellau atebolrwydd.
Dylai Cyfarwyddwyr y gwasanaethau plant:
9. Monitro ac adolygu'r holl achosion lle ceir problemau diogelwch a lles, gan sicrhau bod atgyfeiriadau priodol yn cael eu gwneud a bod gwaith ar y cyd yn digwydd yn ôl yr angen.
10. Gwella ansawdd (ac ymwybyddiaeth staff) o'r systemau atgyfeirio fel bod plant a phobl ifanc yn derbyn y gwasanaethau y maent eu hangen.
Dylai gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol:
11. Adolygu effeithiolrwydd protocolau rhannu gwybodaeth i sicrhau bod yr holl ysgolion a’r gweithwyr sy'n gysylltiedig gyda’r wybodaeth y maent eu hangen i ddarparu cymorth wedi'i deilwra at anghenion unigol plant a phobl ifanc.
12. Datblygu strategaethau effeithiol i annog plant a phobl ifanc sy ' n siarad Cymraeg i fanteisio ar wasanaethau yn eu hiaith ddewisol, ac i ddefnyddio, datblygu, a chydnabod gwerth yr iaith fel sgìl cyflogaeth
13. Datblygu strategaeth llythrennedd a rhifedd i gynorthwyo plant a phobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau hyn.
Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:
14. Darparu gwasanaethau iechyd corfforol, iechyd rhywiol, iechyd emosiynol, a iechyd meddwl perthnasol ac amserol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc er mwyn lleihau niwed pellach ac er mwyn hybu lles.
Gofynnodd y Cynghorydd Thomas pa gynlluniau sydd gan yr Aelod Cabinet i weithredu argymhellion yr Arolygiaeth Prawf. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol fod cynllun gweithredu ôl-arolygiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ebrill 2019. Caiff y cynllun gweithredu ôl-arolygiad ei fonitro gan bartneriaid, gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn fodlon gyda’r cynnydd da a wnaed hyd yma. Bu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn hysbysu'r Cyngor bod gwaith helaeth yn cael ei wneud gyda staff a phartneriaid, a fod y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 331. |
||
Cofnodion: Bu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn hysbysu'r Cyngor am ganlyniadau arolygiad diweddar Estyn o wasanaethau addysg llywodraeth leol y Cyngor.
Adroddodd fod yr arolygiad wedi cael ei gynnal gan Estyn ym mis Mawrth 2019, o dan y Fframwaith Arolygu Addysg Llywodraeth Leol newydd. Roedd arolygwyr o Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhan o'r tîm arolygu. Roedd ystod eang o randdeiliaid yn rhan o'r arolygiad hefyd, gan gynnwys Aelodau etholedig, swyddogion, penaethiaid, dysgwyr, ac aelodau o'r cyhoedd.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylw at y cryfderau a'r meysydd i'w datblygu mewn perthynas ag Ardaloedd Arolygu (IA) 1 – Canlyniadau; IA2 – Gwasanaethau Addysg, ac IA3 – Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Tynnodd sylw hefyd at yr argymhellion a wnaed gan Estyn. Dywedodd fod Estyn, er mwyn cydnabod arferion nodedig yr awdurdod, wedi gwneud cais iddynt ddarparu astudiaeth achos ar eu gwaith yn ymwneud â chyfranogiad pobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniadau mewn ysgolion ac o fewn awdurdod lleol, a hynny er mwyn ei ledaenu ar wefan Estyn.
Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r awdurdod yn sicrhau bod yr argymhellion a wnaed gan Estyn yn cael eu gweithredu mewn modd amserol yn y cynllun ôl-arolygiad. Roedd yn falch o weld bod Estyn wedi cydnabod gwaith y Cyngor o ran cynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau, gan gynnal cyfarfodydd misol gyda'r Maer Ieuenctid ac roedd yn gwerthfawrogi mewnbwn y Cyngor Ieuenctid wrth wneud polisi. Diolchodd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, i’r Swyddogion, i holl Aelodau'r Cyngor, ac i’r rhanddeiliaid am wneud gwahaniaeth i bobl ifanc.
Gofynnodd Aelod o'r Cyngor am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gyda'r cynllun ôl-arolygiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrth y Cyngor bod cynllun manwl wedi'i lunio er mwyn edrych ar y blaenoriaethau allweddol ac roedd yn croesawu'r elfen o graffu yn hynny o beth.
Holodd Aelod o'r Cyngor beth oedd yn cael ei wneud i nodi a darparu cymorth i ofalwyr ifanc. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a chymorth i deuluoedd fod gwaith ar y gweill i gefnogi gofalwyr ifanc, ond bod angen i ofalwyr ifanc gynnig eu hunain er mwyn iddynt allu derbyn cymorth.
Holodd Aelod o'r Cyngor am y cymorth a roddir i grwpiau sy’n agored i niwed lle gallai apwyntiadau ysbyty gael effaith andwyol ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd a phartneriaid i gynorthwyo grwpiau agored i niwed. Roedd Tîm Grwpiau Agored i Niwed wedi'i sefydlu i weithio gydag ysgolion a phartneriaid.
Mynegwyd pryder gan Aelod yngl?n â safon llythrennedd mewn ysgolion cynradd, gyda dibyniaeth ar y Consortiwm a ph'un a oedd y Cyngor yn cael gwerth am arian gan y Consortiwm. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod y profion darllen yn unol â'r disgwyliadau. Dywedodd fod 3 ysgol gynradd yn peri pryder a bod gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Consortiwm i fynd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 332. |
||
Adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol - Newidiadau i Aelodaeth Pwyllgorau PDF 66 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor am ganlyniad adolygiad o gydbwysedd gwleidyddol yr Awdurdod, yn sgil newid yn aelodaeth y gr?p Plaid Cymru, a cheisiodd am gymeradwyaeth o’r cydbwysedd gwleidyddol diwygiedig. Dywedodd wrth y Cyngor na fyddai'r Cynghorydd R Stirman yn eistedd fel aelod Annibynnol ar ei ben ei hun bellach am ei fod wedi ymuno â gr?p Plaid Cymru. Nid yw'r newid yn effeithio ar y seddi a neilltuir ar hyn o bryd i'r Cynghorydd Stirman.
PENDERFYNWYD……………….Fod y Cyngor yn:
(a) Nodi’r newid yng nghyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor
Cymeradwyo’r neilltuad o seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r rheolau yngl?n â chydbwysedd gwleidyddol fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
||
Nodi Adroddiad Gwybodaeth PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol ar yr adroddiad gwybodaeth canlynol, a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor:
Penderfyniadau Dirprwyedig Brys
PENDERFYNWYD: Fod y cyngor yn cydnabod cyhoeddiad y ddogfen a restrir yn yr adroddiad. |
||
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
||
Gwahardd y Cyhoedd Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. Cofnodion: PENDERFYNWYD: O dan adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad At Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitemau canlynol o fusnes gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio fel y'i diffinnir ym mharagraff 12 o ran 4 a pharagraff 21 o ran 5 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.
Ar ôl cymhwyso'r prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitemau a oedd wediu tangrybwyll yn breifat, gyda'r cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio fel y nodwyd uchod. |
||
Cadarnhau Cofnodion Eithriedig
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion eithriedig cyfarfodydd y Cyngor ar 17 Ebrill a 1 Mai 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |